Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Llythyr o America

News
Cite
Share

Llythyr o America TACH. 21ain. Mr. GOL.,—Pythefnos i heddyw oedd eth- -oliad llywydd yr Unul Dalaethau, rhwng Hayes, Tilden, a Cooper. Cawsoch fy marn yn y llith diweddaf, cyn yr etholiad. Nid < oedd gan Cooper, druan, fwy o siawns na minau i gael eistedd yn y Ty Gwyn, yn y dref y mae yn byw ynddi. Ni chafodd ond ;ychydig iawn o bleidleisiau. Pan yn ysgrif- -enu fy llythyr blaenorol yr oeddwn yn ofni y ibuasai yn ymdrech galed rhwng Hayes a Tilden. Mae pythefnos wedi myned heibio, ,:ac nid oes un sicrwydd eto pwy sydd wedi enill dyna beth na welwyd yn America figrioed o'r blaen. Y mae wedi bod yn ym- drech galed cyn hyn, ond ni fuwyd mor hir cyn .,gw,ybod pwy aeth a'r llawryf. Llawer o -chwedlau sydd yn cael eu hadrodd y dyddiau hyn-heddyw taenir yr hanes fod Tilden i mewn, ac yfory sicrheir ni mai Hayes sydd yn fuddugoliaethus; a thyna fel yr ydym 'wedi treulio y pythefnos diweddaf hyn. Y mae berw ofnadwy drwy y wlad yn gyffredin- .ol; y mae hyd y nod y plant yn yr ysgolion yn ffraeo yn nghylch Hayes a Tilden. Gwel- ais ar y papyr heddyw eu bod yn galw ar y mihvyr i mewn i Washington dyna arwydd- ien drwg iawn. Os Tilden fydd yn llywydd, ao oa bydd iddo gymeryd plaid y South, fel y mae yn son, ellir dysgwyl dim daioni rhwng y North a'r South. Dywed y South, yn ddi- j Moesgni fod dros gan miliwn o ddoleri yn ddyledus ar y North iddynt am y difrod gyf- lawnwyd yn adeg y rhyfel; a phe gwnai Tilden gynyg i'w talu, y farn gyffredin yw y byddai hyny yn sicr o achosi rhyfel cartrefol -eto. Feallai nad pawb o ddarllenwyr y GWLADGARWR wyddant y gwahaniaeth rhwng DEMOCRAT A GWERINWR. Er mwyn y cyfryw rhoddwn fraslun o'r hyn ydyw: Prif bwnc y Democrat bob amser ydyw cael free trade, hyny yw cael pob nwyddau o wledydd tramor yn ddidreth. Gallwn i feddwl fod yn afresymol i ni gy- 'ioethogi gwledydd ereill pan y mae miloedd lawer yn dyoddef eisieu yn y wlad hon. Y ma-e llawer iawn o lo yn dyfod o Canada bob wythnos, a llawer iawn o haiarn yn dod o :Brydain. Pan y burn yn New York ddi- weddaf gwelais long newydd ddod i'r porth- ladd a dwy fil o dunelli o reiliau ynddi. Pa synwyr sydd mewn peth fel yna ? Pan y mae eyflawrtder o lo a mwn, a phob peth gofynol genym yma a forges yma a thraw yn rhydu, ac yn nythleoedd i golomenod. Policy y Gwerinwyr yw cael duty ar y cyfan sydd yn dyfod o wledydd tramor. Pe cymerai hyny le byddai yn llawer gwell ar weithwyr a thy- lodion ein gwlad. Pe byddai egwyddorion y iGwerinwyr yn cael eu cario allan, diameu y byddai y wlad hon yn un ragorol i weithwyr, end fel mae pethau yma yn bresenol, nid yw yn werth i neb groesi y Werydd, gyda'r am- can o wella eu cyflyrau. Pythefnos i heno gwnaed cynyg beiddgar i LADRATA OORFF LINCOLN. Ychydig amser yn ol, drwy ryw ffordd neu gilydd, deallwyd fod cwmni o ellyllon yn parotoi i ladrata corff Abraham Lincoln, a meddyliwyd mai nos Fawrtli, y 7fed cyfisol, oedd yr amser mwyaf tebyg y buasent yn ceisio cario allan eu bradwriaeth, pan fyddai pawb yn brysur gyda'r etholiad. Penodwyd Eliezer Washburn a Mr. Tyrrel, un o'r detectives goreu yn yr Unol Dalaethau, yn •aghyd ag amryw ereill, i wylied y mult. Bu ont yn gwylied amryw nosweithiau cyn hyny, a'r un modd y prydnawn hwn, mewn ystafell yn agos i'r monument. Tua naw o'r gloch dyma'r dyhirod yn dyfod at eu gwaith ar eu hunion. Agorwyd y vault, ac agorwyd y maen arch, sef yr arch gareg am ei weddill- ion. Neidiodd y detectives yn mlaen, ond yn anffodus aeth yr ergycl allan o'r revolver, a diangodd y lladron, ond daliwyd dau o'r cyfryw yn Chicago neithiwr. Beth yn enw rheswm oedd y iileiniaid yn geisio a chorff y marw, oedd wedi huno yn dawel am un flynedd ar ddeg. Mae yr ARDDANGOSFA yn Philadelphia wedi cau ei drysau, ond nid yw yr adeiladau i gael eu tynu i lawr fel y aneddylid. Mae y Memorial Hall, y Main Building, a'r Machinery Hall i aros fel y anaerit. Gwelais olygydd y Times (London) ly yn ddiweddar yn talu ymweliad a'r Centen- nial. Paham na ddewch chwi, Mr. Llwyd, am dro i'r America 7 Mi a sicrhaf i chwi ,<good welcome, os teimlwch yn galonog i jgychwyn ar y daith. Cewch ddrws agored genym, a sicr y cewch eich boddio wrth syllu ar ryfeddodau America. Cymaint a hyn Jieno, ac i'r gwely. Cewch air yn fuan eto, pryd wyf yn gobeithio y bydd genyf well aienryddion i roddi i chwi. --Yr eiddoch, T. D. GRIFFITHS. St. Clair, Pa.

"IDWAL" A PUBIS Y GIG.

GOHEBYDD Y "GWLADGARWR" YN…

LLITIf YB HEN BYDLER.!

Y VOLUNTARY BYSTEJf YN LLANSAMLET.

PRIS Y SIWGR.

OS GTVIR, G WARTHUS !

Y WLADFA GYMREIG.