Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

-, FICER WAKEFIELD.

News
Cite
Share

FICER WAKEFIELD. GAN OLIVER GOLDSMITH. [Gyfieithlad neHlduol Zr GWLAIMSARWK.] PENOD XXYII. Parhad o'r un mater. Y BOHEU nesaf hysbysais fy ngwraig a'm plant o'r gwahanol gvnlluniau oedd genyf i ddiwygio y caraharorion, y rhai a dder byniasant gydag annghymeradwyaeth gy- ffredinol, gan ddadleu yr anmhosiblrwvdd a'r anmh'riodoldeb o hono; ac ychwanegent na wnai fy ymdrechion mpwn un modd i weinyddu i'w gwella, ond buasai Y1 4ebygol o ddwyn aufri ar fy ngalwedigaeth. Esgusodwch fi," meMwn i, y mae y bobl hyn, gan nad pa mor ddyfned y syrth- iasant, eto yn ddynion. ac y mae hyny yn tleitl da iawn i'm serchiadau. Cyngor da wedi ei wrthod a ddychwel i gyfoethogi mynwes y rhoddwr; ac er y diehon na wna yr addysg a roddaf eu gwella hwy, eto y mae yn sicr o'm gwella i. Pe buasai y trueiniaid hyn, fy mhlant, yn dywysogion, buasai miloedd yn barod i gynvg eu gweio- idogaeth; ond, yn fy opinion i, y mae y Salon sydd wedi ei chladdu mewn cell mor werthfawr a hono sydd yn eistedd ar yr arsedd. Gwnaf, fy anwyliaid, os gallaf eu gwella, mi a wnaf; efallai na fydd iddynt oil fy niystyru-efallai y gallaf gipio un o'r trobwll-a bydd hyny yn enilt mawr eanys a oes ar y ddaear eiddo mor werth- fawr ag enaid dyn ? "Wedi hyn gadewais hwynt, a disgynais i'r carchar cy if re din, lie y cefais y carchar- «rion yn llawen iawn yn dysgwyl fy nyfodiad, a phob un ohonynt yn barod a rhyw garchar-dric i chwareu ar y Doctor. Pel hyn, pan yr oeddwn yn myned i j ddechreu, trodd un ohonynt fy mherwig ar gam, fel trwy ddamwain, ac yna gofynodd fy mhardwn. Yr ail, yr hwn a safai dipyn o bellder, oedd ganddo yr yetranc o boeri trwy ei ddanedd, yr hwn a ddisgynai yn gawodydd ar fy llyfr. Y trydydd a floeddiai Amen" yn y fath don ddifrifol nes y rhoddai ddifyrwch mawr i'r lleill. Y pedwerydd yn 8ly a bigodd fy llogell o'm spectacles. ')nd yr oedd un trie yr hwn a roddai fwy o bleser iddynt na'r lleill i gyd; canys wedi sylwi fir y dull y gosodais y llyfrau ar y bwrdd o'm blaen, darfu iddo ef yn gyflym iawn dynu un ohonynt ymaith, 11 gosod llyfr llygredig a chellweirus o'i ,eiddo ei hun yn ei Ie. Fodd bynag, ni chymerais sylw o'r hyn a fedrai y twr tychan drygionus hyn ei wneyd, ond aeth- -nm yn mlaen yn hollol ystyriol y byd lai i'r hyn oedd yn ddirmygus yn fy ymgais gyffroi digrifwch dim ond y tro cyntaf neu yr ail, tra y byddai yr hyn ag oedd ddi- irifol i fod yn barhaus. Llwyddodd fy amcan, a chyn pen chwe' niwrnod yr oedd rhai yn edifeiriol a'r lleill yn talu sylw. Yr oeddwn yn awr yn canmol fy nyfal- barhad a'm hanerchiad fel wedi rhoddi ystyriaeth i drueiniaid a amddifadesid o bob teimlad moesol, a dechreuais yn awr feddwl am roi gwasanaeth tymhorol iddynt hefyd, trwy wneyd eu sefyllfa ychydig yn fwy cysurus. Yr oedd eu hamser yn flaenorol wedi cael ei ranu rhwng newyn a gormodedd—terfysgoedd ystwrllyd a gofid- ian chwerwon. Eu hunig waith oedd cweryla yn mhlith eu gilydd, chwareu, a gwneud prenau i wasgu myglys i'r pibau. Oddiwrth y dull olaf hwn o waith diog, eymerais yr awgrym o osod y cyfryw a ddewisent i dori pegs i werthwyr myglys a vhryddion-y coed priodol yn cael ei brynu trwy danysgrifiad cyffredinol; a phan Avneid ef, cai ei werthu trwy fy apwyntiad i, fel yr oedd pob uu yn enill rhywbeth yn ddyddiol; ychydig, mae'n wir, ond digon i'w gynal. Nid arosais yma, ond sefydlais ddirwyon er cosbi anfoesol ieb, a gwobrwyon am ddi- -wydrwydd neillduol. Fel yma, yn mhen Ilai na phvth<>fY;os, yr oeddwn wedi eu ffurfio i rywheth yn degyg i gymdeithasol a dynol; a chefais y pleser o ystyried fy tun fel eu deddfwr, yr hwn oedd wedi troi dynion o'u ffyrnigrwydd brodorol i gvfeillgarwch ac ufudd-dod. A byddai yn beth dymunol iawn pe byddai awdnrdod ddeddfwrol fel yma yn eyfeirio y gyfraith yn hytrach at ddiwyg- iad nac at erwinder-y byddai yn ym- ddangos yn argyhoeddig nad yw y gwaith o ddileu troseddau trwy eu gwreyd yn gynefin ond yn erchyll. Yna, yn lie ein carchariu presenol, y rhai a gant neu a wnant ddynion yn euog,-y rhai a gloant drueirjiaid am gyflawni un trosedd, a dychwelant hwy (os dychwelant yn fyw) wedi eu haddasu i gyflawniad miloedd, caem weled, fel mewn parthau ereill o Ewrop, leoedd o edifeirwch ac unigedd, lie y gallai y cyhuddedig gael gweini iddyat gan y cyfryw a fedrai roddi iddynt edifeir- weh, os yn euog, neu gymhellion newydd i rinwedd, os yn ddieuog. A hyn, ac nid -cosbau cynyddol, yw y ff>rdd i wella ewla. i; ac nis gallaf yagoi cwestivno dilys- xwydd yr hawl ag y mae cyfundebau cym- 1deithasol wedi arddelwi o gosbi a marwol- aeth droseddau o natur ysgafn.^ Mewn achosion o lofruddiaeth, y mae eu hawl yn eglur. gan ei bod yn ddyledswydd arnom oil, oddiwrth gyfraith hunati-ddiffyniad, i dori ymaith y dyn a ddangosodd ddiystyr- wch tuag at fywyd arall. Yn erbyn y cyfryw oil y mae natur yn codi i fyny mewn arfau, ond nid yw felly yn erbyn yr hwn a ladrato eiddo nid yw deddf natur yn rhoddi i mi un hawl i gymeryd ymaith ei fywyd, canys trwy hyny y nne y eeffyl a ladrato yn gymaint o ftddicnt iddo ef ag i minaxi. Nid oedd gan ein hynafiaid Saxonaidd, ffyrnig fel ag yr oeddynt mewn rhyfel, ond ychydig ddienyddiadau yn amserau o hedd- n wch; ac mewn pob llywodraeth fvddo yn dechreu, ag sydd ag argraff yn gryf arnyot, C3 braidd yr ystyrid un trosedd yn haeddu angeu. Yn mysg dinaswyr cymdeitbas goethedig, f mae cyfreithiau penydiol, y rhai ydynt yn nwylaw y cyfoethog, yn cael eu gosod ar y tlawd. Y mae Hywodraeth fel y daw yn hynach yn d'od i ymddaugos fel yn meddu mwy o sarugrwydd oes, ac fel pe byddai ein heiddo wedi d'od yn fwy anwyl mewn cyfartaledd i'w gynydd; fel, po fwyaf aruthrol ein eyfoeth, mwyaf helaeth eiD hofnau Y mae ein holl feddianau wedi eu cau i fyny a chyfreithiau newydd- ion bob dydd, a'u hongian o amgylch a chrogbrenau i darfu pob goresgynydd. Nis gallaf ddweyd pa un ai oddiwrth nifer ein deddfau penydiol, neu benrhyddid ein pobl, y mae y wlad hon yn dangos mwy o droseddwyr mewn blwyddyn na j haner teyrnasoedd Ewrop yn nghyd. Efallai ei fod yn ddyledus i'r ddau, canys y maent yn cydgynyrehu eu gilydd. Pan drwy gyfreithiau penydiol anwahanedigol y bydd cenedl yn gweled yr un gosb yn cael ei chysylltu a graddau annhebygol o euog rwydd, yn herwydd na chanfyddant un gwahaniaeth yn y penyd, y mae y bobl yn cael eu harwain i golli pob ystvriaeth o wahaniaeth y trosedd, a'r gwahaniaeth hwn yw noddfa pob moesoldeb fel hyn y mae lluosogrwydd o gyfreitaiau yn cynyrchu drygau newyddion, a drygau newyddion yn galw am atalfeydd newyddion. Byddai yn beth dymunol ynte fod awdurdod, yn lie cynllunio deddfau new- yddion i gosbi drygau-yn lie tynu yn galed linynau cymdeithas hyd nes y daw dirdyniad i'w dryllio—yn lie tori ymaith y trueiniaid fel rhai annefnyddiol cyn y profom eu defnyddioldeb-yn lie troi cerydd i ddialedd—byddai yn ddymunol ein bod yn rhoi prawf ar foddion ataliol llywodr- aeth, gan'wneyd cyfraith yn noddydd, ac nid yn ormesydd y bobl. Cawsem allan wed'yn nad oedd y creaduriaid, eneidiau y rhai a gyfrifir fel sorod, ag arnynt angen dim ond y purwr; cawsem allan yn ol hyny am drueiniaid, y rhai yn awr a dros- glwyddir i boenydiau hir, rhag i olud deimlo pang am foment, y gallent, pe trinid hwy yn briodol, weini i gadarnhau y deyrnas mewn amser o berygl; a chan fod eu gwynebau fel yr eiddom ni, fod eu ealonau felly hefyd,-mai ychydig feddyl- iau sydd mor isel fel nas gall dyfalbarhad eu gwella; y gall dyn weled ei drosedd olaf heb farw o'i herwydd, ac mai ychydig iawn o waed wasanaetha i sicrhau ein dyoeelwch. rw barhau.

[No title]

Llosgiad Plentyn i farwolaeth…

[No title]

Y Gynadledd Fawr ar y Cwestiwn…

Brawd-laddiad yn Ngogledd…

YR ARSYLLFA. !

ALLTWEN.

[No title]