Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
I MR. & MRS. J. W. PARSON PRICE For Concerts, Eistecklfodau, &c.-Address, GWLADGARWR Office, Aberdare. 1448 | TEMPERANCE HALL, I Aberdar. DAN NAWDD 11 YTeilwng Anrhydeddus AEDALYDD BUTE, M.Y.; ARGLWYDD ABERDAR; ARGLWYDD TREDEGAR; H. H.tVivian, Ysw., A.S.; H. Richard, Ysw., AS.; R. Fothergill, Ysw., A.S.; T. Cordes, Ysw., A.S.; 1 Gwilym Williams, Ysw., D. Davis, Ysw., J. ) Lewis, Ysw., &c., &c. JOy dd Nadolig, a Mawrth, Rhagfyr SGain, I Rhoddir TBI PERFFOHMIAD cyflawn o'r Oratorio 1 "SAMSO N" Cherddorfa nerthol, pryd gweinyddir gan Miss Mary Davies, 0 Gyngherddau Yr Albert Hall a St. James's Hall, Miss Martha Harries, (Vr Covent Garden Promenade Concerts Mr. James Sauvage, 0 Gyngherddau St. James's a Covent Garden I Mr. T. Brandon, II Y Basso enwog, o gyngherddau Exeter Hall; Mr. Thomas Howetts, Mr. T. 8. TJwmas, a Mr. Wm. Thomas. A Chor Undebol Aberdar. Cyfeilwyr—Mri. D. BOWEN a J. PERKINS ORCHESTRA: « GLOUCESTER STRING BAND, CHELTENHAM PROMENADE BAND, '(Yn cael eu cynorthwyogan offerynwyr o'r lie,) Dan arweiaiad Mr. E. G. WOODWARD. Arweinydd—Mr. Rees Evans. Cynelir Cyngherdd J mry wiog Nos Nadolig. tJYdd Nadolig.—Cyngherdd cyntaf (Samson) am 3, v yr ail gyngherdd (Amrywiog) am' 8. Rhxtg. 2(>.—Cyngherdd cyntaf (Sam- Y son) am 2 yr ail gyngherdd (Samson) am 7. ,i°t-ynaii, 3s., 2s. 6c., 2s., Is. 6c., Is., i'w cael yn S°H westai a maenachdai Aberdar, a chan aelodau y ,i Manylion ar y programmes a'r hysbysleni, drwy ymofyn a'r Ysgrifenydd— 5 ^1458 D. RHYS, Glo'ster-ntreet, Aberdar.
[No title]
dros bob ymyl, oherwydd creulonderau uffernol y Tyrciaid tuag at y Cristionogion diarfog a diniwed. Ond wedi berwi nes siglo'r byd, a siglo rywfaint ar y "stupid party" hefyd-canys anhawdd i'r peth mwyaf "stupid oddef agerdd poeth ar ei gnawd—tawelodd yr ymgynhyrfiad mawr, a dychwelodd pethau yn ein mysg i'w cwrs tawel arferol. Darfyddodd y oyfar- fodydd cyhoeddus ystormus, oblegyd yr oedd y bobl wedi siarad yn ddigon croch i'r holl fyd eu clywed, ac yn dysgwyl ufydd-dod oddiwrth y Llywodraeth. Ond ni fynai y Toriaid fod y teimlad a ddang- osasid yn deimlad gwirioneddol, oherwydd nad oedd yr amlygiad cyhoeddus ohono yn parhau fel o'r blaen. Yr oedd crochan mawr Prydain Fawr yn berwi yn dawel o hyd, a swm ei drymwres yn aruthrol mewn sylweddrwydd, ond nis mynent hwy ei fed yn berwi o gwbl oherwydd nad oedd y gorllif dros yr ymyl a'r clawr yn y cymyl- au. Dim ond rhywbeth ar*y wyneb- meddai y blaid Poriaidd a'r wasg Fahomet anaidd—yn wir, fe ddylai y wasg Brydein- ig edmygu ffwl o broffwyd"—ignoramus Arabaidd-yr hwn y darfa i un o'i olyn- wyr agosaf roi gorchymyn i lwyr losgi llyfrfa orfawr Alexandria yr hon a gyn- wysai drysorau gwybodaethau yn cynfyd oil! Y mae y Koran ei hun yn ddigon— nid ynt y miliynau ysgriflyfrau yna o un- rhyw werth.—llogger y cwbl ebai y barbar- iad brwnt. Nid yw y Twrc y dydd hwn ronyn yn -uwch na'r barbariad hwn o ran gwybodaeth a gwareiddiad, ac y mae yn aurhydedd i ddosbarth galluog o wasg Llundain i gvdymdeimlo a'r Twrc! Yn wir y mae Toriaeth yn gwneyd ei phleid- wyr yn gynefin a chyfeillion od! Dy- wedir fod yn rhaid i ni gadw Twrei yn gyfan er rnwyn. cadw y ffordd i India yn ddyogel, eithr aed India i'r lndiaid, neu i'r sawl yr elo, os na allwn ni "gadw" ein ffordd iddi heb walio y ffordd hono, bob ochr, hyd y nef, a. chyrff llofruddiedig Cristionogion v Dwvrain. Y mae y Gynadledd ddylanwadol a gyn- elir heddyw yn Llundain yn profi fod y wlad hon mor benderfynol ag erioed i fynu chwareuteg i'r taleithiau Cristionogol, bydded y canlyniad i Twrci y peth a fyddo. Amcan y gynadledd bwysig hon ydyw gwrthdystio yn erbyn aflywodraeth y Twrc, ac yn erbyn hawl y SULTAN i dderbyn dim oddiwrth y taleithiau Cristionogol ond yn unig deyrnged ffurfiol. Yr hyn sydd yn rhoi pwysfawredd ar y Gynadledd yw y ffaith ei bod yn gynwysedig o ddynion dysgedig ac enwog o fysg pob plaid yn eio gwlad. Feallai y gall y werin bobl, mewn cyfarfod cyhoeddus trystfawr, gael eu cario ymaith am dro gan deimlad ansylweddol ac arwynebol-teimlad nas gall barhau yn hir, am nad oes iddo sylfaen digonol. Ond y 0 nid yw dynion o fath y rhai sy'n cwrdd heddyw yn debyg o gael eu cipio ymaith gan awel dro, neu o gamgymeryd goleu matsen am oleu haul. Bydd Due WEST- MINSTER yn llywyddu yn un o'r cyfarfod- ydd, un o brif gynrychiolwyr yr urdd bendefigaidd, ac yn wr call, pwyllog, a chymedrol: tra o'r tu arall, y ceir yn y cynulliad wyr fel MR. ARCH a MR. BROAD- HURST, y rhai a feddant ymddiried y dos- barth gweithiol. Y mae CANON LIDDON yno yn ymyl rhai o brif weinidogion yr Annghydffurfwyr. Y mae IARLL RUSSELL yno, mor ffyddlawn i acho3 dynoliaeth yn ei henaint ag a fa yn moreu ei oes ddys- glaer. Ceir yno rai aelodau o DY'r Arglwyddi, a chynifer a deugain o aelodau Ty'r Cyffredin, oil o blaid yr un achos, ac oil yn suddo eu gwahaniaethau nodweddol yn y lleisiant cyffredinol. Bydd yr hanes- ydd hyglod MR. FREEMAN yn bresenol, a llenorion ereill o'r gradd blaenaf. A bydd i chwithau gael eich cynrychioli yno, Oh feirdd y Dar, y Daf, y Rhondda, a'r Gilfach Goch, canys bydd yno y bardd mawr MR. BROWNING o blaid yr awen gyffredinol. Fe fvdd MAWREDD MEDDYLIOL Prydain Fswr yno, yn ei lawn ogoneddus nerth, i wrthdystio yn erbyn y barbariad Tyrcaidd ac i hawlio i'n Brodyr Dwyreiniol y fendith o Hunan-lywodraeth. Bydd yn anmhosibl i Gynadledd fel hon lai na chario dylanwad pwysig ar y Llywodraeth Dori- aidd gartref, ac ar y Gynadledd Ewropaidd sydd yn eistedd yn Nghaercystenyn; oblegyd nis gall neb alw y gwyr hyn, beth bynag yn spouters nac yn dema- gogues."
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. LLUNDAIN, Nos FAWRTH. Er pan ysgrifenasom ddiweddaf, y mae trethdalwyr Llundain wedi datgan eu barn mewn perthynas i policy y Bwrdd Ysgol, a hyny mewn modd tra amlwg ac arbenodol. Y mae y blaid wrthwynebol wedi cael curfa druenus. Yn mhob rhan etholiadol o'r Brif- ddinas, heb un eithriad, dychwelwyd mwy- afrif o blaid y Bwrdd. O'r haner cant seddau, enillodd cefnogwyr y Bwrdd ddeg-ar-hugain; ac felly bydd ganddynt fwyafrif gweithiol o ddeg i gario yn mlaen y gwaith da sydd eisoes wedi ei ddechreu. Er y ffynai y grediniaeth yn lied gyffredinol y buddugoliaethai pleid- wyr y Bwrdd, eto, ychydig a dybiai y buasai eu mwyafrif mor fawr, a'u buddugoliaeth mor llwyr a chyffredinol; oblegyd yr oedd llef y blaid wrthwynebol yn undra ymddangosiadus, ac yn gyfryw ag a dybid fuasai yn cymeryd gan y werin bobl. Dadleuasant fod yr Ysgol- ion Gwirfoddol yn arbed miloedd o bunau yn y flwyddyn i'r trethdalwyr, a bod y Bwrdd, wrth adeiladu ysgoldai mawrion, heb eu heisieu, yn ymyl yr Ysgolion Gwirfoddol, yn ceisio niweidio yr olaf, a hyny yn fwriadol. Ceisiasant wneyd allan fod y Bwrdd yn cyf- ranu addysg ddiangenrhaid yn eu hysgolion, a'u bod yn rhy wastraffus o lawer iawn gyda golwg ar yr ysgoldai, y ddodrefn, y cyflogau, &c.; tra y dadleuai cefnogwyr y Bwrdd Ysgol mai eu hamcan hwy ydoedd sicrhau addysg ansectaraidd drwyadl i bawb o blant y Brif- ddinas, ac i'r perwyl hyny, eu bod yn pen- derfynu cael cyflawnder o ysgoldai cyfleus a chysurus, a phob peth arall angenrheidiol tuag at gario allan y bwriad hyny yn effeithiol. Dyna'r pwnc a roddwyd i'r bobl i'w bender- fynu, ac y maent wedi llefaru yn groew o blaid yr olaf. Y mae pwnc y Bwrdd Ysgol, yn lAundain, felly wedi ei benderfynu, a hyny, ni a obeithiwn, am byth; ac wrth ddweyd Llundain, gallwn ddweyd y deyrnas, oblegyd y mae llais y Brifddinas yn ddangos- iad pur gywir o lais y wlad yn gyffredinol. Y :I zly mae rhai pobl yn ceisio darllen tynged y Weinyddiaeth bresenol yn y ddedfryd a draethwyd yn etholiad y Bwrdd Ysgol dydd Iau diweddaf, ond methwn a gweled fod a fyno gwleidyddiaeth a'r pwnc o gwbl. Ceir lluaws o Ryddfrydwyr yn hollol elyniaethus i'r Bwrdd Ysgol, ac ar y llaw arall ceir llawer iawn o Geidwadwyr yn bleidiol i'r cynllun. Yr oedd y frwydr dydd hu diweddaf, y mae yn wir, i raddau helaeth yn frwydr rhwng Eglwyswyr ac Annghydffurfwyr; ond credwn i gorff mawr y bobl fynedi'r etholiad a phleid- leisio, nid oddiar ystyriaethau crefyddol na gwleidyddol, eithr oddiar argyhoeddiad gwir- ioneddol o effeithioldeb a rhagoroldeb y Bwrdd Ysgol fel cynllun addysg. Gan nad beth am hyny, rhoddodd y bob! yn yr etholiad diwedd- ar brawf arnlwg eu bod yn awyddus am i'w plant gael addysg dda. Dylai y ffaith yma yn unig fod yn fater o lawenydd i bawb a deimlant ddyddordeb yn llesiant y -werin. Yr wythnos hon cynelir eisteddfod genedl- aethol yr anifeiliaid tewion yn y Neuadd Amaethyddol, yn Islington. Agorwyd yr eisteddfod y ddoe, a dyfarnwyd y gwobrwyon yn y gwahanol ddosbeirth. Ymddengys mai Jch o eiddo Mr. J. Stratton, o Marlborough, sydd wedi cipio cadair Smithfield eleni. Y mae yr arddangosfa y flwyddyn hon, y mae yn debyg, o ran rhif a rhyw, yn rhagori yn yn mhell ar bob arddangosfa flaenorol. Nid ydym eto wedi ca.el cyfle i weled yr arddan- gosfa, ond bwriadwn dreulio ychydig oriau yno prydnawn yfory, a hwyrach y cawn draethu tipyn ar ein lien mewn perthynas i'r gystadleuaeth bucolicaidd yn ein llythyr nesaf. Y mae amaethwyr y wlad wedi cymeryd Llundain &y storm, yr wythnos hon. Y maent yma wrth y miloedd o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol. Ewch i ba le y mynoch, cyfarfydd- wch a hwynt. Yn yr heol, yn y 'bus, yn y gwestdai, ac yn y cliwtiretidai gwelir gwyr y bochiau cochion yn ddigon amlwg; ac yn wir, y mae cael golwg ar eu gwynebau iachus a lion, yn nghyd a'u gwisgoedd gwladaidd a chartrefol yn gystal a newid air, neu wythnos yn Llanwr- tyd i ni. Cynaliwyd cyngherdd y neithiwr yn nghapel Cymreig y Borough. Y prif gantorion ar yr achlysur oeddent Misses Mary Davies, a Lizzie Evans, a Meistri T. D. Williams (Eos Dyffryn), a R. C. Jenkins, yr oil o'r Royal Academy of Music. Methasom a mynad yno, er ein bod wedi llwyr fwriadu hyny. Yr oedd yn ^dywen- ydd mawr genym glywed heddyw'r lM"eu fod yno gynulleidfa dda, ac i'r gyngherdd, yn mhob ystyr, droi allan yn llwyddianus. Byddwn yn gwylied helyntion ein cydwladwyr yn y Royal Academy of Music gyda llawer iawn o ddy- ddordeb, ac nid oes nemawr i ddim a rydd fwy o hyfrydwch i ni na chofnodi eu llwyddiant yn eu gyrfa gerddorol. Nid oes ond amser byr iawn oddiar pan y daeth Eos Dyffryn i fyny yma, eto y mae yn bleser mawr genym allu hysbysu ei fod yn gweithio ei ffordd yn mlaen i sylw y cyhoedd yn dda iawn. Nos Iau diweddaf bu yn canu yn yr Arlington Concerts yn Islington, a chafodd dderbyniad brwdfrydig. Nos Sadwrn diweddaf canodd am y waith gyntaf yn y cyng- herddau poblogaidd a gynelir bob nos Sadwrn yn y Myddleton Hall, Islington. Cafodd encore gwresog gan y gynulleidfa, a llongyfarchwyd ef am ei lwyddiant gan y llywydd, a rhoddwyd engagement iddo am y tymhor. iDeallwn y bydd yn canu nos yfory yn nghapel y Presbyteriaid yn Highbury. Rhwydd hynt i'r brawd fyned rhag ei flaen, nes cyrhaedd ohono safle anrhyd- eddus yn myd cerddorol y Brifddinas.
Strike y Glowyr yn Llanelli.
Strike y Glowyr yn Llanelli. Dydd Sadwrn diweddaf, bu y glowyr yn ymweled a Mr. Nevill, er ceisio dyfod i delerau i ail ddechreu gweithio. Y cynyg- iad roddodd y glowyr iddo oedd fod iddynt weithio un diwrnod am ddim, ac yna eu bod i weithio ar yr hen bris. Gwrthododd Mr. Nevill y cynygiad, gan ddweyd na fyddai eu bod yn gweithio un diwrnod am ddim yn fawr enill iddo ef, a chynygiodd ranu y gwahaniaeth, ac eu bod i gael eu talu am eu gwaith y dydd cyntaf hefyd. Ni ddaethpwyd i un penderfyniad y pryd hyny, ond galwyd cyfarfod yn nghyd dydd Llun yn y Bristol J'avern, ac wedi i amryw siarad penderfynwyd GWRTHOD CYNYGIAD MR. NEVILL, ac na chawsai un cynyg mwy ganddynt, amgen na'r hyn a roddasant idde dydd Sadwrn. Felly, y mae yr ychydig wreichion o obaith oedd genym y byddai iddynt ail- ymaflyd yn eu gwaith yr wythnos hon wedi llwyr ddiffodd. Trai a llanw yw hi yn mor tnasnach. Ychydig amser yn ol, dim ond swn y tide yn dylifo i mewn oedd i'w glywed; 2nd erbyn heddyw, y mae y trai diflas yn gwneyd llawer yn drist.-Ap Elli.
IUndeb Cerddorol Cynulleidfaol…
I Undeb Cerddorol Cynulleidfaol Dosbarth Aberdar Fel yr hysbyswyd yn y rhifyn diweddaf fod rehearsal i'w chynal mewn cysylltiad a'r "Undeb uchod, y mae yn hyfrydwch mawr genyf gael y cyfleusdra o gofnodi y cyfryw yn eich papyr gwladgarol. Y n anffortunus, trodd y tywydd yn anffafriol iawn, ond er y cwbl ymgasglodd tyrfa luosog o'r cantorion yn nghyd. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Thomas Rowlands, Aberdar, mewn modd teimladwy ac i bwrpas. Yna etholwyd y Parch. W. James, Bethania, i'r gadair. Wedi ychydig sylwadau gan y llywydd, galwodd ar Mr. Daniel Griffiths at ei waith i arwain y canu, a da genyf ddweyd iddo gyflawni ei swydd yn rhagorol, ac ni ryf yg,,vyf pe dywedwn fod y llwyddiant mawr ag sydd i'w ganfod yn ein cymanfaoedd gyda'r canu cynulleidfaol i'w briodoli yn gyfangwbl i allu a medrusrwydd y cyfaill twymgaion hwn, a gobeithio y bydd yn fodd- ion i'w nesu yn nes at grefydd, ac i roddi ei hunan at wasanaeth yr Iesu mawr. Yna, awd yn mlaen i ganu, a chanwyd yn ystod y cyfarfod y tonau canlynol :DusseldOlf," Psalm laf, "Patmos," "Amsterdam," An- them "Yr Arglwydd yw fy Mugail," "Dol- war," "Bethesda," Wele, y mae'r priodfab yn dyfod," "Palestina," "Llydavv." Cafwyd datganiad rhagorol ar amryw o'r tonau uchod, yr oedd rhyw naws nefolaidd i'w deimlo yn cydwau trvvy'r canu, nes oeddem, ar brydiau, yn annghofio eu hunain. Cafodd rhaiohor.ynt eu canu amryw weithiau gyda. bias a theiml- adau godidog. Wedi gorphen canu, rhodd- wyd amryw hyfForddiadau rhagorol gan yr arweinydd ar amryw o'r darnau, a gobeithio y cymer y cantorion hyny i'w hystyriaeth, a'u gweithio allan yn y dyfodol. Cahvyd anerch- iad gwresog gan y cadeirydd, yn anog pawb i weithgarweh a llafur difefl, er cael y gymanfa nesaf eto yn ail i'r diweddaf, os nad yn rhagori. Darllenwyd gan Mr. W. Morgan, Bethania, yn ei ddull arferol. gyda phwysig- rwydd mawr ac i bwrpas. Diweddwyd trwy weddi gan y cadeirydd. Cynelir y rehearsal nesaf yn Nghwmaman, nos Lun, Ionawr y lofed, 1877, a gobeithio y gwelir y capel yn orlawn.—Cluchjdd.
[No title]
P RIO DAS. Rhagfyr 3ydd, yn Adulam, Merthyr, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, Mr. John Evans, glowr, Pendarren, Merthyr, a Miss Mary Jones, dressmaker, Cefncoedcymer, Merthyr. I Mair a Ieuan boed cysuron filoedd, A boed eu bywyd dan weniadau'r uefoedd, Maent nawr yn un-ac un mewn bwriad fyddont, Hyd nes dan glo y gweryd y noswyliont; A phan ddisgynont dan gysgodau'r glyn, Aed eu hysbrydoedd fry i Seion fryn.
[No title]
Diangodd dau garcharor o garchar Hwl- ffordd yn ddiweddar. Y mae y ddau wedi eu dal. Y mae yr Ysbrydegwyr mewn dwfr poeth eto. Gwysiwyd un Lawrence o flaen Mr. De Rutzen yr wythnos ddiweddaf am dwyllo arian ar ddynion. RHYMNI.—Y mae Cwmni Haiarn Rhymni yn nghylch agor pyllau newyddion, ond suddir hwy yn is i lawr nag y bwriedid ar y cyntaf. Y man dewisedig yn awr sydd rhwng glofa Gilfachfargoed a rterm Gilfachfargoed Fawr. METHIANT PWYSIG YN BIRMINGHAM.— Hysbysir am fethiant Mr. Foster, o firm Foster a'i fab, masnachwyr mewn meteloedd, o'r lie uchod, a chyfrifir fod ei ddyled yn JE95,000, ond y mae eiddo gwerth £ 80,000. Y mae hyn eto yn esboniad fod masnach y deyrnas yn para yn farwaid a digalon iawn.
Advertising
DYMUNA Mr. T. D. Williams (Eos Dyffryn), 'Royal Academy of Music, Llundain. HYSBYSU ei fod yn agored i dderbyn engage- -LJL ments fel Beirniad mewn Eisteddfodau, neu fel Tenor mewn Gyngherddau. Am delerau, dyddiad, &c., cyfeirer— T. D. WILLIAMS, R.A.M., 28, Rheidiol Terrace, Packington Street, 1450 Islington, N. Merthyr Tydfil Union. Contract for Supplies for the Workhouse, Merthyr, and the Aberdare Hospital. THE Guardians desire TENDERS for the Supply of Sides o Beef, and Legs cut close to the rump. Mutton, Bacon. Bread, Flour jiain tie), Oatmeal (Irish). Potatoes. Coal, Coke. Butter, Cheose. if ::1 Out-door Supplk-it Merthyr, Dowlais, Hirwain, Aberdu •?, and Mountain Ash. Beef and Mmum. The Tenders for Bread, Meat, Bacon, Butter, Clieesq, Flour, Oatm"al, Potatoes, Coal, and Coke, to be for Three Months only, viz., from December 24th, 1876, to March 24th, 1877, both inclusive. Sureties to be named in Tender. Samples where practicable. All goods to be delivered at the Workhouse, or Aberdare Hospital, and the Contractors to state in their Tenders whether they are prepared to deliver the goods at either or both places. Payments quarterly, but Bakers, Butchers, and Grocers may draw on account once in the middle of the quarter. Tenders to be sent in on or before SATURDAY, Dec. 16th, 1876, in the Forms to be had on application to the Master at the Workhouse, or at Aberdare Hospital, who will furnish all other particulars. Tenders, unless received on Saturday, Dec. 16th, at Ten a.m., will not be opened. By order, FRANK JAMES, Clerk. High Street, Merthyr, Nov. 25th, 1876. No Goods to be supplied, or work done for the Workhouse or Hospital without a written Order, signed by the Clerk. All accounts for the Dec. quarter to be made up to th-21st Dec., and sent unto the Master by that day. 1456 NEWYDD PWYSIG pAHAM y dyoddefir oddiwrth glefydau c bob math ? Am y rl'.eswm nad yw'i Bobl yn cymeryd y Feddyginis.eth bwrpasol at J Dolunau hyny ag y mae y corff yn dyoddef oddi- wrthynt Felly, daker sylw,—Pawb sydd yn dy- oddef oddiwrth y Drops}7, yr hvn sydd yn arwvddo crynodeb o ddwfr a gwynt yn n.<;w<ihn,n.)]. bibellau y corff dynol, yr hyn sydd yn gwenwyno y gwaed, a thnvyhyny yneffeithio ar yr Yinenydd, yr Afu, yr Y sgyfaint, y Oylla, y Galon, yr Arenau, a'r Nerve", i r fath raddau fel ag i achosi Foen yn y Cefn, yn yr Arenau a'r Perfedd, Diífyg i >vrfr, yr hwn sydd yn dew a cliymysglyd, Gwynt yn y cyua^a r perfedd, cramp, cwsg a phoen yn y chm- lau a r traed, chwydd yn y traed, y cluniau, yr yinysgaroedd, a r cylla, euriad y galon, diifyg anadl, pesweh, syched, corff-rwymedd, poen yu y pen, gloesiadau, penysgafnder, gwendid, diffyg archwaetli, oerfel, traedoer, asthma, nerves egwaPj at yr anhwylderau hyn y mae PATENT Rhag y Gv/ynt, y Dwfr, a'r Grafel, yn anfFaeledig, Ac os cymerir hwynt mewn pryd, fe gynyrch- ant wellhad uniongyrchol. Pan fydd y clefyd 0 hir barhad dilyner arnvnt am beth amser. Oanoedd all ant dystiolaethu i effaith neilldti- 01 y Peleiii rhyfedd hyn. Rhai ohonynt a ddodir yma :— Claf o Maes Iago, Pontardawe, a ddvwed Derbyniais rlydiaid o'ch Pillg hynod, 'Hughes's Patent Dropsy rdis' <lydc1 Livm diweddaf. ac vr wyf yn eu cylaeryd oddiar hyny hyd vn awr (dydd badwrn) ac y maent yn gwneutlrar lies mawr i mi mewn cyn lleied o amser.—Rhoddes haner dwsin i y nhad, ac y mae ar yr ychydig hyuv yn teimlo llawer o les. r oedrtwnyn achwvu oddiwrth boen yn pen ac yn y cefii. gv/ynt yn y cyiia, dim ar- chwaetn, ac yn ami ddifryg dwfr." Mr, Phillips, G-lanmor,* Llanelli, wedi bod rhwne pedair a phiun mljauHldyn methu cerdded obleavd y dropsy, chwydd mawr iawn dros vr holl gorff, dihyg mawr ar y dwfr ac ar yr anadl, y galon yn curo yu enoyd yn awr, wedi cymeryd tua thri blycliaid o Hughes's Patent Dropsy Pills" tuag at y gwynt y dwfr a r gravel, yn gallu myned odd! amgylch y dref -y enwydd yn llawer llai, yr anadl yn llawer gvvell, ac wedi teimlo mwy o les oddiwrth yr ychydig hyn na holl foddion v doctor- laid a gymerais am yr amser maith vr wyf wedi bod yn glaf Yr wyf yn gobeithio y 'caiff y brd wybod am danynt. Gwellhud hynod wyf yn awyddus eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr lachad wrth ervmeryd eich Pills rfiagc.rc.icliwioV enw "Hughes's Patent Dropsy Pills. Yr oeddem er's amser belJach yn cael fy mlmo gan Chwydd yn y Cluniau a'r Ymysgaroedd Diffyg Dwfr, ac ar yr Anadl, Poen yn y Cefn ac yn y Pen, y Galon yn Curo yn onbyd rhai gwexth- lau Duyg xreuhad a'r gwynt yn fy mlino yn ami, ac er mawr syndod y maent liyd yn lira wedi symud ymaith Fits n Heintiau, I i £ svSd wedi fy mlmo ers 1-' :v idan. Yr "oeddym yn eu cael weithiau yn 1, i'ml.- Yn dra diochgar, ydwyf, A. E, JoNES, li:.m St., Llanelli. Registered Trade i;. :r!c—" Dropsy Pills." Y mae'r Pelenau hyn wedi eu Ro/utro ac yn Patentv Gospa- pob dynwarediad. Gofaler cael 6mJr rluGH^ •' 7ar J Llywodraeth. Bhjchau gan holl Chemists y 2^1/' iC7 2n 9C~ a t 6'c- ^!t Is. 2e., A. lie,, a 4s. 9c., gan y Patentce- Jacob Hughes, Apothecaries' Hall, Llanelly. London Agents-Barclay & Sons, Sutton, & Co Sanger, Hovendon Newbury, Herron. Squire, and irancis; Bristol: Pearce & Co., Warren & Co. Liverpool: Evans & Co., Raimes & Co., and John Thompson. 1403 Eisteddfod y Crwys. IONAWR 25AIN, 1877. m Prif Destyn.au. Ir(9-^ heb fod dan 60 mewn nifer, a gano y Rhyxelgan Gwalia," o'r Gerddor 'fa; 8p TLS, a Jone- yn oreu Leoni." o lyfr Stephens Traethawd ar "Hanes y Crwys am y Can' mlynedd diweddaf; lp. J Evans^'lO^ i r diweddar "Mr- Tom Wedros Betrjiiaid:— Y D. FRANCIS, Treforris. Y Farddoniaeth—WATCYNT WYX Programmes i\y cael gan Mr. FREDERICK Crosses, Penclawdd, Swansea. 1442 1442 EISTEDDFOD MI-BTHYR. i^jlNELIR Cylchwyl Flyny idol Cymrodorion Dirwestol Alerthyr, yn y NEUADD DDIR- WESTOL, DYDD NADOLIG, 1876. LLYWYDD Mii. W. L. DANIEL. BEIRNIAD LLEW LLWypo. DATGANwn: HmV PERIS (TRNOEE ROBUSTO), O r JJryn Coch "y ty uchaf ar yr Wyddfa. Y prif dostynau a'r gwobrwj-on 1. Am y Bryddest Golfadwriaethol oreu i'r aiweddar .Mr. josser Beynon (Asaph Clan Taf) 300 USEU ^WIU,T'JP.IAN:13 <1VDT)'LY" DIM 2. I unrhyw Gôr, heb fod dan 80 o rif, a gano John Thomas (acnid g^ob?'25p.' y ySU' ar y ^ww); 3. I'r Cor o'r un Gynulleidfa. heb fod dan 40 o rif, nacl emllasant dros Ddeg Punt o'r blaen a gano yn oreu Mor hawddgar yw dvbebyll," gwel Cnwcch o Anthernall, gan Proffeswr Parry; gwobr, 8p.. 4. I'r Cor o Blant heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu Robyn Gocn," gwel Cantata'r Plant, gan Proffeswr Parry gwobr, 3p. I'r Cor ail oreu gwobr, Ip. Am y gweddill o'r testynau, amodau, &c., jrwel y Programme, I W gael drwy y Post gan yr Ysgrif- enydd. ar dderbyniad tri llythyrnod dimaL Anfoner y PrycldestatJ i Llew Lhvyfo, Carnar- von, North Wales, erbyn Rhagfyr laf, 1876, gyda ffugenwau yn unig wrthynt, a'r enwau priodol dan sel i r Ysgrifenydd, erbyn dydd yr Eisteddfod. Y cyfansodctiarl buddugol i fod yn eiddo'r Pwyllgor. JOSEPH WILLIAMS, Ysgrifenydd, 1435 21 & 22, Glebeland-street, Merthyr.