Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Llythyr o America.

News
Cite
Share

Llythyr o America. GANT LLYENWY. MR. GOL. ,—Credwyf y bydd yn dda genych chwi, yn ogystal a miloedd o fy hen gyfeill- 'Y ion, gael gair o wlad fawr yr America. Buaswn wedi ysgrifenu atoch yn gynt, ond yr oecldwn am gael deall ychydig ar drefniadau y wlad cyn anfon atoch. Wel, y mae y wlad mor anferthol o fawr, a phob talaeth a swydd o wahanol gyfreithiau, fel nas gwn yn iawn beth i'w anfon atoch. I ddechreu, credwyf fod y wlad hon yn well gwlad o lawer i godi teulu na'r wlad yna. Y mae y bwydydd lawer yn rhatach nag yna. Gellir prynu cig eidion da yma yn y misoedd diweddaf o'r flwyddyn am tua thair ceiniog y pwys o'r arian yma (6 cent). Y mae y cyflawllder sydd yma o ffrwythau yn cael eu casglu yn yr haf yn ddigonol i gadw y teuluoecld trwy y gauaf yn y cyfryw. Y mae caws ac ymenyn, pyta- tws a'r bara yn rhatach yma. Gwir fod yma lawer o ddynion yn gweithio am un doler y dydd, ond y mae y mwnwyr, neu'r glowyr fel y gelwch hwy yna, yn enill tua dau ddoler y dydd. Gall y bachgen neu y ferch gael eu dysgu mown unrhyw gelfyddyd, nid yn unig am ddim, ond y maent yn cael eu talu hefyd. Lie rhyfedd yw hwn am briodi yn ieuanc; o'r braidd y gwelwch chwi ferch ugain oed na fydd yn briod. Ni welir par ieuanc byth yma yn caru ar hyd conglau yr heolydd; pe felly, ystyrid hwy yn annheilwng o gymdeithas anrhydeddus. Y mae tua 10,000 o Gymry glan gloyw yn Hyde Park a Scranton, y lie yr wyf yn aros. Ystyrir y genedl Gymreig gan bob cenedl, ond y Gwyddelod, yn genedl 0 safle uchcl, fel mae pawb yn teimlo boddhad i broffesu ei hun yn perthyn i'r hen genedl Omeraidd. Yn bresenol, yr ydym yn nghanol ffwdan yr etholiad, a da genyf hysbysu fod amryw Gymry wedi eu hethol gyda mwyafrif mawr i swyddi anrhydeddus. Y mae Robert. James, o'r lie hwn, gynt o Ferthyr, y canwr enwog, wedi ei ethol i fod yn glerk y Llys, yn swydd Luzerne; caiff dair mil a phum' cant o ddoleri y flwyddyn am bum' mlynedd. Cafodd Cymro arall, o'r enw William Jones, y swydd 0 Inspector of Mines, yn ddiweddar. Y mae yma Gymro arall, o'r enw D. M. Jones, wedi ei ethol yn aelod o'r Assembly. Ym- geisiodd brodor o Llanilltyd Fawr, o'r enw Edward Jones, ewythr i Elianwyson, am y Congress, ond colludd. Y mae y Gwyddelod yn uchel iawn eu penau yma, a phawb yn eu iiofni. Y mae pob cenedl yma yn edrych arnynt fpl cenedl diymddiried a thwyllodrus. Ond er fod yma filoedd o'r cyfryw, ychydig sydd wedi esgyn yn uwch na labrwyr; gwas- anaethwyr ydynt, luaws ohonynt, i'r Cymry. Y mae hyd yn nod y Negro yn edrych i lawr arnynt. Gellir tybied fod dullwedcl America yn bob peth o chwith i Lloegr. Pan gwrdda dau ferbyd ar yr heol, troent yn wahanol i yn jloegr; dau ddyn yr un peth. Y trains yn rhedeg yn wahanol eu hochrau i fel maent yna. W yddoch chwi, byddai yn dreat i'r wlad yna fabwysiadu cynllun y wlad hon yn y trains. Ni welsoch le mor rhagorol erioed i deithio-lle i fwyta, cysgu, a pheth a fynoch, a phawb yn gyfartal yn yr un man. Cofiwch hyn a ddywedaf wrthych, a dyma fe, cadwch gartref bob pregethwr tlawd. Yn wir, y mae yn drueni gweled ambell un wedi dyfod dros- odd o dan yr hen dyb y gwna rhywfath o bregethwr yn America. Y mae yma un o'r cyfryw yn awr yn wrthrych tosturi, er mai ychydig a ga, a dylai gweinidogion fod yn ofalus iawn rhag arwyddo cymeriad i asglod dienaid i ddyfod drosodd yma i bregethu. Y mae eglwysi yma wedi gwrthod iddynt bre- gethu yr ail waith. Dylai pawb sydd yn bwriadu dyfod drosodd allu darllen a pharablu yn dda, yn nghyd a gallu meddyliol cryfion. Credwyf fod yma leoedd da i bregethwyr da. Y mae gweinidog yr Annibynwyr yn Hyde Park yn derbyn 1,400 o ddoleri y flwyddyn. fr wyf wedi cyfarfod ag ugeiniau o hen Iderbynwyr y GWLADGARWR, a phob un yn -hoddi compliment i'r Hen Backman. Cefais y nwyn oddiwrth fy nghelfyddyd tua dau fis rn ol i swyddfa y Faner. Felly, gwelwch trwyth fy mhenglog yn hono bob wythnos. Fr wyf wedi dysgu llawer ar iaith a threfn- adau y Yankees erbyn hyn, onite gwran- Lewch "Shaw!" "I guess," "Right away," 'Anyhow." Yr wyf yn aros gyda fy hen yfaill "Twmi Bach y Cantwr" oedd yn laesteg er's un flynedd ar ugain yn ol. Y lae Twmi a'i deulu yn respectable a pharchus, c yn cofio at ei hen gyfeillion i gyd. Nid es genvf ychwaneg ar hyn o bryd, ond cewch lywed"Vn fuan eto. Cofion fil at bawb o aelod Bro Morganwg i ben pellaf Mynyddau ymru. "Fy magawl wlad, er pel] oddiwrthyt ti, Tra dol a bryn, tra phant a bryn Wyt anwyl iawn gen' i." -Yr eiddoch, LLYFNWY.

Ficeriaeth Aberdar.

[No title]

Etholiad Bwrdd Ysgol Abertawe.

Ymosodiad Anweddaidd yn Merthyr.

Amgylchiacl erchyll yn Llanelli.

Araeth fawr Mr. John Bright.I

Ymosodiad llofruddiog yn Nghwm…

Eisteddfod Undebol Mountain…

Tan Dinystriol ger Llandilo.

TONYPANDY.

ABERDAR.

[No title]

Advertising