Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
Ceir nodiad yn y Dywysogaeth, papyr Eglwysig, yr wvthnos aeth heibio, fod Ell- deyrn wedi derbyn y saith gini am y farwnad gystadleuol ar ol y Parch. John James, B.A. Dyna brawf nad oedd y pwyllgor yn gul a o-wrachaidd, fel y tyuia rhai, er fod yr enill- ydd wedi colli pob hawl gyfreithlon i'r wobr yn ol y rbeolau argraffedig. Gwelir fod rhywun yn Nghwm, Rhondda vwedi cymeryd iddo ei hun. y ffugenw Cymro Brith, "tra mae un arall yn adnabyddus wrth ■y llen-enw hwnw er's deugain mlynedd yn amgvlchoodd Aberdar a Merthyr, ond yn awr yn ustus heddwch yn Pittston, Pennsyl- vania. Pa bryd y derfydd yr arferiad o chwenych eiddo arall yn mhlith llenorion Cymreig. Coegyn arall yn gosod y ffugenw Brynfab wrth gyfansoddiad cystadleuol, trayngwybod fod brawd galluog arall yn adnabyddus wrth yr enw barddonoi Brynfab. Fe ddylai gael y gosb,- 0 chwipio y gwalch balch wrth host, Gwag-oferfardd geg fawrfost." Clywed y sibrwd yn mhlith y beirdd mai un a newynwyd ydyw y tebycaf o gipio y wobr ar "Bori Glaswellt" yn Eisteddfod Flynyddol Treherbert. I-hi lwc i'r bugail i gael y cM a'r pres yn nghanol gwres y gwyl- iau. Twrw mawr yn Nghaernarfon am fod y Maer etholedig, ac yntau yn Feudist, wedi myned yn ol yr arferiad hynafol i eglwys y plwyf y Sul cyntaf o'i faeroliaeth; ond nid oes cymaint a gair wedi ei ddweyd am ethol- iad Pabydd yn Faer Wrexham. Tra yn son am gysondeb, yn mha le y ceir cysondeb Ym- neillduol yn mhlith Ymneilluwyr yn etholiad gelyn gwaeth na'r Eglwys Sefydledig i achos Ymneillduaeth yn Nghymru. Cael ar ddeall heddyw fod perchenogion y glofeydd yn ardal y Cwmbach am grafangu iddynt eu hunain y tai lie y preswylia y glo- wyr ynddynt, fel y gallont orthrymu yn unol 4'r hen gyfundrefn Pharoaidd a fugynt mewn bodolaeth yn yr Aifft. r Priodol gofyn yn y fan yma, Mr. Gol., am yr Eryr hwnw a fu yn trin cyflyrau y pech- aduriaid gynt yn ardal y Bwllfa. Mae angen am ei wasanaeth o amgylch ogylch y Owrn- loach. NID Y GAlèW, COFIER.
Ymddyddanion Cyffredin.
Ymddyddanion Cyffredin. Dafydd £ /MW.—Boreu da, gyfeillion, mae yn amser rhyfedd, onid ydyw, mewn byd ac eglwys ? Beth a ddaw, tybed, o r neiynt ar y°Oyfandir ? A oes gobaith am heddwch ] Clywais ddyn lied hirben yn Llanelli yn dweyd y buasai rhyfel yn iechyd i'r wlad, ae yn adfywiad cvffredinol drwy gylchoedd masnachol y byd.. William Robert.-Fe all fod llawer o wir- ionedd yn y sylwadau, ond gresyn o beth ydyw lladd y miloedd ar faes y rhyfel i foddio mympwy uchelgais dynion nad ydynt yn gosod un gwerth neillduol ar fywydau yr iselradd. Evan William.— Mas lie i ofni fod y pleid- iau gwleidyddol yn gwneyd gormod o drwst gyda phethau er cynhyrfu y werin. Dyna helynt mawr y creulonderau yn Bulgaria, a r cynhwrf a wneir yn eu eylch yn myned braidd yn eithafol; a sicr ydyw fod llawer gormod yn cael ei wneyd ohonynt yn y wlad hon. Mae sefyllfa foesol a chymdeithasol ein gwlad yn galw yn uchel am ddiwygiadau cartrefol, -0 ganlyniad, ai nid gwell dechreu gartef ar y pwnc o'wella y byd, cyn myned ohonom i wledydd tramor i geisio gwella trigolion y gwledydd, pan y mae genym ddigon o waith yn Nghymru. Rolant Wmffra— Os gwir pob hanes a ddarllenwn, mae yn llawn bryd i John Bull ddadebruacedrych ar ol ei fusnes gartref, o-an wneyd i'r gwahanol bleidiau i sefyll ar •Su sodlau, gan ofalu am y teulu dipyn gwell, oblegyd mae yr hwn a esgeuluso gartref yn euog o farn, a hono yn farn condemned. Meingoes iawn ydyw y pleidiau gwleidyddol, yn Geidwadwyr a Rhyddfrydwyr rhywbeth yn debyg i Pat a'r mochyn—llawer o dwrw a dim gwlan. Bwyta ac yfed a myned 1r theatres ydyw hobby y rhan fwyaf ohonynt, fel nas gallaf jyn fy myw roddi llawer o vmddiried yn neb ohonynt; ond rhaid i mi, fel ereill, foddloni i'r drefn, a byw yn deilwng fel dinesydd o Brydain Fawr. Hopcyn Dafydd.—NL&e un ffaith bwysig yn ddigon amlwg i bawb, sef nad yw ein pen- aethiaid tirol a chyfoethogion y wlad lie yr ydym yn byw yn werth sachaid o bytatws, fel dvnion ag sydd yn caru llwyddiant y wlad W gymdeithasol a masnachol. Dyna Ardal- ydd Bute--yn ei berthynas a'r dociau, er cymaint ei gyfoeth, ni fyn efe wneyd nemawr i ddim tuag at ymhelaetliu cyfleusderau nasnachol yn Nghaerdydd. Rhaid ini wrth y diwygiadau angenrheidiol er cynyddu y cyfleusderau allforawl yn mhorthladdoedd €yj)i Sh-ov,.—Mae llawer wedi ei wneyd ,.er cael diwygiad mewn amryw bethau, ond hyd yma mae y cyfan yn fethiant am y pre- aenol. Dyma y Wladfa Gymreig wedi syrthio yn fyr o gyrhaedd yr amcan o gael gwlad i'r -Cymry i ymsefydlu a mwjTihau y cyfleusderau o annibyniaeth a llywodraeth gartref ol. Gall- •esid osgoi y methiant hwnw pe buasai y blaenorfaid yn meddwl, ac ail feddwl, cyn -cychwyn y fintai gyntaf yn y Mimosa; ond nid felly y bu, ac ar ol pedair blynedd ar ddeg .o brawf, mae yn amlwg i'r byd nad yw glanau y Chupat yn lie i'r Cymry i wneyd cartref a llwyddo mewn ystyr dymhorol. Hwyrach y buasai yn well erbyn heddyw pe buasent wedi -dewis rhyw ranbarth o'r Amerig, dywedwn y Tiriocaethau; y tebygolrwydd yw y buasent yn llwyddo, gan fod,ereill wedi gwneyd o dan lawer o anhawsderau. Rhaid adgyweirio yr Undeb, a defnyddio y cyfraniadau at ddy- benion daionus—nid i ymladd a'r meistn ond i waghau y farchnad, fel yr unig gynllun i ddwyn y meistri glo a haiarn i adnabod eu 318 yn y byd. %na yr unig drefn i godi y I llafurwr i safle o anrhydedd yn y byd, ac i gael ei gydnabod yn deilwng fel aelod defn- 11 yddiol o'r fintai fawr sydd yn cadw. olwynion y peiriant mawr Prydeinig i droi mewn cyf- lymder ar ei echelau. Morgan y Grydd.—Dyweder a fyner, nid wyf yn meddwl fod un wlad dan haul y nef- oedd yn debyg i'r Amerig. Er na fum yno ond ychydig wythnosau, gwelais ddigon i ailli dwyn tystiolaeth fod y wlad mewn ystyr amaethyddol yn tra rhagori ar wledydd y byd. Mi hotfwn weled rhyw gynllun, fel y dywed Dafydd Shon, er codi y gweithivSr o bwll y domen. Pe gall wn areithio mi wnawn, hyd nes byddai y ddaear yn crynu, er cyffroi teimladau y gorthrymedig i ymestyn at ddi- wygiad, ac er codi y gormesedig i anrhydedd; ond gan nad wyf yn siaradwr, rhaid i chwi foddloni ar hyn. Gryffudd Joncs.-Mae bysedd yr awrlais yn dynesu at unardddeg, o ganlyniad rhaid i ni derfynu, rhag dygwydd i swyddogion heddwch feddwl ein bod yn cadw cwrw bach; felly, nos dawch, hyd nes y eyfarfyddwn eto. Y I' eiddoch, fel cofnodydd, SHAMS DAFYDD.
Helyntion y Cwmbach.
Helyntion y Cwmbach. Fe dybiodd y byd gweithfaol yn ardal Aberdar fod y Ti-,itek System wedi ei bwrw i'r bedd, a byth mwyach i ymddangos ar wyneb y byd; ond nid felly, ddarllenydd, oblegyd ymddengys fod y teyrn gormesol am ddad- blygu ei orthrymder, gan orfodi y werin weithiol i ymostwng i'w draha eithafol a gorthrymedig. Nid digon gan gyfoethogion y gweithfeydd glo ydyw dal awenau llywodr- aeth y bara chaws, ond rhaid iddynt ymestyn cortynau eu gorthrymder, a chymeryd gafael yn yr anedd dai trwy y gymydogaeth, fel y gallont orthrymu yn galetach. Gwaseiddiwch perchenogion tai ydyw gadael y cyngreirwyr gorthrymawl i gael y fath lywodraeth i'w dwylaw. Gwir nad yw pawb a berchenogant anedd-dai yn y Owmbach wedi ymostwng i'r ystryw felldigedig, am y tybiant nad yw y cyfryw weithred yn ddim amgen na chefnog- aeth drylwyr i'r sawl a fynant ormesu ar y tlawd. Mae yr ymgais ynddi ei hun yn sylfaenedig ar egwyddorion cythreulig, a phrawf y gweithredoedd nad yw y sawl a gydweithredant a'r cynghrair gormesol yn ddim amgen na deiliaid i r hen foneddwr hwnw a elwir ynBenaeth y Fagddu. Byddwn yn ymfalchio ein bod yn byw mewn gwlad rydd; ond yn y Cwmbach, fe fyn rhywrai gyfyngu ar ein rhyddid, gan ein gorfodi i fyw yn y lie a ddewisir ganddynt hwy. Beth yw hyn ? ai nid olion caethwasiaeth wedi gosod ei throed i lawr yn Morganwg, yn nghanol dyffryn cyfoethog y Cynon, lie a ddylasai fod yn nythle rhyddid a chyfiawnder? Nid wyf yn gwybod ond am ddau, a'r rhai hyny, for- sooth, yn ddau dafarnwr, ag sydd wedi gwrthod ymostwng o flaen y ddelw orthrymedig. DYllla destyn eisteddfodol, sef can, Gorthrymder yn y Cwmbach." Cyfyd llais uchel trais trwy ein trigfanau, Gortlirwm blin gelyn dyn ddaeth i'n gororau Gweithwyr llwm yn y Cwm deimlant y ffrewyll; Nerthed Duw ddynoiryw er ei gwthsefyll. Pan y byddo y gormeswr am ychwanegu gor- mes, bydd yn sier o wylisd y cyfleusdra a dal ar adeg neillduol, pan y byddo amgylchiadau masnach yn gymylog a thywvll. Nid digon gan y gethern ydyw ymgyfoethogi ar chwys a gwaed y gweithiwr, ond rhaid i'r truan fyw yn v lIe a ddewisont hwy; ac o'r braidd y goddefir iddo yr hawl o fyned i'r farchnad ar nos Sadwrn heb ofyn caniatad yr tvould be Belphegor, yr hwn sydd yn perchenogi y lofa, neu yr oracl fydd yn ei wasanaeth fel arolygwr. Fe wrida cyfiawnder wrth edrych ar y teyrn- iaid dieflig, ac am rinwedd ni chydnebydd fod y gronyn lleiaf o hono oddifewn eu trig- fanau.° Gan nad yw yllith presenol yn ddim amgen na rhagymadrodd i gyfres o lythyrau ar y testyn, nid af yn fanwl i'r pwnc; ond cyn wired a bod y Gamlas yn myned heibio Craig y Dyffryn, mi ddyrnaf ar y testyn hyd nes y bydd ymddygiadau perchenogion tai yn y Cwmbach yn cywilyddio gan gywilydd oesol. Trosglwyddaf adgof o'u gweithredoedd i'r oes a ddel, fel y gwypo plant yr ugeinfed ganrif fod caethwasiaeth wedi bodoli yn Cwmbach, a hyny mor ddiweddar a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mi ddyrnaf, gwnaf, y gethern gerth Tra ynwyf ronyn bach o nerth; Mae'r llawr yn glir, a'r gwaith yn braf, I ddyrnu'r gauaf fel yr haf: Dilynaf ar y pwnc o hyd, rwwaagardrosbedryfajibyd. Cyfiawnder a gwirionedd sydd Yn pleidio'r gweithiwr nos a dydd Ond am yr hyll orthrymwr câs, Perthynant i'r andwyol dras Sy'n byw islaw dynoliaeth bur, Lie nad oes dim ond greddfol gur, A phob rhyw liagrwch, hyllyg, drwg, 0 gylch gorseddfainc gwlad y mwg. —Yr eiddoch, fel cynt, 'RHEN DDYRNWR.
Advertising
PELENI AC ENAINT HOLLOWAT—Poen yn y Col- uddion a'r Dolur Rhydd.-Pan gymerir neb yn glaf o un o'r anhwylderau hyn dylid yn ddioedi wneyd defnydd o'r Enaint, yr hwn ddylid rwbio yn y bol ddwy neu dair gwaith yn y dydd, ac yna bydd i'r poen tufewnol raddol leddfu. Daros- tyngir yr enyniad a symudir y rhyddni. Bydd y driniaeth hon, yn cael ei gynorthwyo gyda dognau o Belenau Holloway yn dl4.a mewn pob acliosion o ddolur rhydd a chlefyd y gwaed, pan fyddo gwaeyw, gwynt, ac arwyddion poenus a pheryglus ereill yn cyd fyned. Ar ol rwbio yr enaint dylid gwisgo rhwymyn gwlanen, a byw ar fwyd blawdog am ychydig ddiwrnodau hyd nes byddo y driniaeth uchod wedi symud ymaith y dolur o'r eyfansodd- iad. 33o. Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach oi wneyd na Starches ereul, ond pan y deuir dros yr anhawsdra. dywedir fel Golchwraig y Frenhines, mai y Starch goreu a ddefnydaiwyd erieed ydyw. 2
fAgwedd y Cwestiwn Dwyreiniol.
f Agwedd y Cwestiwn Dwyreiniol. Derbyniwyd gohebiaeth bwysig oddiwrth Arglwydd Salisbury ddechreu yrwythnos hon, feddylir, a newidia i raddau y cwrs a ddilynir gan y wlad hon yn y gynadledd. Adolyga oi Arglwyddiaeth y gwahanol opiniynau a'r dat- ganiadau a glywodd yn ystod ei daith ddiwedd- ar dros y Cyfandir. Dywed fod llysoedd Berlin, Vienna, a Rhufain wedi eu henill drosodd gan Rwsia i gredu yn ei thueddiad i beidio myned ddim yn mhellach na meddian- iad Bulgaria, a'u bod, ar y cyfan, yn foddlawn caniatau, neu gymeradwyo, i hyny gymeryd lie. Ymddengys fod Rwsia, trwy ryw foddion neu gilydd, wedi llwyddo i enill Awstria oddi wrth Loegr, hyny yw, o ran syniad a theimlad. Hysbysid yn gyhoeddus, rai wythnosau yn ol, fod Germani wedi addaw i Rwsia y byddai iddi gadw at anmhleidiaeth cyfeillgar, ac y mae Itali fel yn barod i ategu golygiad Rwsia. Symia Arglwydd Salisbury i fyny trwy ddat- gan ei grediniaeth y safai Lloegr wrthi ei hun mewn ymyriad arfog ar ran Twrci, os byddai y Porte i wrthod yr hyn a ddynodir fel yn warantiadau effeithiol. Gwelir felly fod cyd- ymdeimlad holl alluoedd Ewrop a Rwsia, ac ni fyddai ond gorphwylledd i Brydain fyned i ryfel er dal y Dyn Claf ar ei draed yn ngwyneb holl deyrnasoedd y Cyfandir. Gwelir, wrth hyn, fod yn rhaid i Disraeli newid cryn Ilawer ar ei policy, yr hwn a gy- hoeddodd yn ddiweddar. Bryslythyr o Belgrade a'n hysbysa, os bydd i Twrci hawlio iawn am wasanaeth a wnaed gan Rwsia i Servia, y bydd i'r Tywysog Milan ofyn am iawn oddiwrth Loegr, am yr honid mai y Cad. Kemball a dynodd allan gynllun y rhyfel i Twrci. Bryslythyr dirgelaidd o St. Petersburgh a ddywed fod Rwsia yn anmharod i ryfel, gan nad yw chwarter y dynion wedi eu harfogi, ac nas gallant fod cyn tua chanol Chwefror. Dydd Gwener diweddaf, rhoddodd y Tywysog Bismarck giniaw seneddol i aelodau a swyddogion Parliament Germani. Yn ystod ei sylwadau dywedodd y Tywysog ei fod ef yn ei ystyried yn angenrheidiol, os torai rhyfel allan, y dylai gael ei leoli, ac y dylid felly ddylanwadu ar Loegr i beidio ysgaru ei hun oddiwrth y Galluoedd ereill, a myned i gweryl a Rwsia. Ystyriai ef na ddylem anobeithio am gadwraeth heddwch, ond os arweiniai y dyryswch hwn i ryfel, fel yn sicr yr ymddangosai yn debygol, byddai Rwsia a Twrci yn mhen amser wedi blino ymladd, ac yna byddai Germani yn alluog i gyfryngu gyda gwell rhagolygon am lwydd- iant nag sydd yn bresenol. Sylw Bismarck o barthed i Brydain Fawr oedd ei fod yn gobeithio na fyddai Prydain, beth bynag, i gyhoeddi rhyfel yn erbyn Rwsia yn Servia. Gyda golwg ar Awstria, siaradai Bismarck yn gyfeillgar iawn. Os tynid Awstria i'r rhyfel, ac unrhyw berygl fygwth ei bodolaeth fel ymerodraeth, byddai yn ddyledswydd ar Germani ddyfod i'r maes i'w hamddiffyn ac er dyogelu dosbarthiad presenol y tiriogaeth- au. Yr oedd Awstria yn meddu ar fywyd mawr—mwy nag oedd llawer yn feddwl. Dywedodd ef hyn wrth Arglwydd Salisbury, a phrofir hyn os gorfodir Francis Joseph i apelio at y bobl. Nid oedd ef wedi dweyd gair am feddianiad Bulgaria wrth Arglwydd Salisbury yn yr ystyr a briodolasid iddo. Hysbysir fod y Pwyliaid wedi anfon anerch- iad at y Czar yn datgan eu parodrwydd i wneyd unrhyw aberth er rhyddhad y Crist- ionogion Sclavonaidd, ac yr oedd yr anerch- iad wedi ei eirio mewn dull teyrngarol ac ymostyngol iawn. Wrth hyn, fe welir fod y Cwestiwn Dwy- reiniol, fel ei gelwir, yn aros yn y niwl, a rhaid iddo fod felly hyd nes terfynir gweith- rediadau y Gynadledd ddyfodol. Yn ol barn y prif wladweinwyr, ac yn eu mysg Bismarck, y mae rhyfel yn debygol a phosibl, ac eto nid yw yn anmhosibl ei ysgoi. Mewn llawer o gynghorwyr y mae doethineb, a gobeithio y bydd doethineb a phwyll yn nodweddu Cy- nadledd Caercystenyn, fel y dygont farn i fuddugoliaeth.
GAIR O'R AMERIG.
GAIR O'R AMERIG. MR. GOL. ,-Carwn fod yn foddion trwy gyfrwng eich newyddiadur clodwiw i yru eiddigedd ar fy ngliydgenedl i wneyd pender- fyniad i ymfudo i Texas, er cael sefydliad Cymreig yno. Gresyn meddwl eich bod y naill yn ffordd y llall, pan y mae digon o le i nesu bant. Y mae yn ymddangos i mi fod mwy o ymdrech yn mhob cenedl arall na fy nghenedl fy hun tuag at wella eu sefyllfaoedd. Edrychwch ar y manteision o'ch blaen yn bresenol, ac ymestynwch i'w cyrhaedd. Rhoddir cant a thriugain o erwau o dir i ddyn yn perchen teulu am ddim ond talu am ei fesur a phedwar ugain erw i ddyn ieuanc. Yn awr, gan fod fy amssr yn brin ar hyn o adeg, gall y sawl sydd am weled a chlywed ychwaneg ar y mater ymofyn a David Harries, Ysguborwen, cyn ei gychwyniad i America. Y mae degau wedi ymadael a'r gymydogaeth hon am Texas, a'u tystiolaeth yw na ddeuant yn ol ar un cyfrif. Os bydd i rywun deimlo yn amheus o'r uchod, deued ataf fi, a gwerthaf fy nhir iddo, sef 280 o erwau, yn hynod rad, ac af yno fy hun. Yn awr, daliwch sylw, yr wyf er lies fy nghenedl wedi ymgymeryd a'r swydd o oruchwyliwr dros y cwmpeini. Am bob manylion danfonwch atafii, ELIEZER POWELL. Fredericktown, Madison Co., Missouri.
EISTEDDFOD FFAIRFACH.
EISTEDDFOD FFAIRFACH. At Cystadleuynd. ANWYL SYR.—Mewn atebiad i'ch llythyr caredig yn y GWLADGARWR diweddaf, dy- munaf eich hysbysu fy mod wedi trosglwyddo fy meirniadaeth er ys llawer o wythnosau bellach i ddwylaw yr ysgrifenydd, Mr. Morgan Thomas (Ifor), yr hwn a. fwriada gyhoeddi cyfrol cyn hir yn cynwys y cyfansoddiadau buddugol a'r holl feirniadaethau. Oni buasai ei bod mewn bwriad i gyhoeddi y fath gyfrol, buaswn er ys misoedd wedi cyhoeddi fy meirniadaeth yn v newyddiaduron, yn ol fy addewid ar fanlawr yr eisteddfod. Dyna fy esboniad i, a gobeithio ei fod yn foddhaol.- Ydwyf, anwyl syr, yr eiddoch yn ddiffuant, J. 0 -IAN DAVIES.
"E. G."
"E. G." MR. GOL.Braint fawr a phwysig ydyw cael bod yn rhai bach-yn blant, fel y dywed E. C.,—yn ymyl yr would-be men yna sydd yn honi eu hunain yn bawb a phobpeth ond yr hyn ydynt; ie. a braint gymaint i'w cael meddu digon o ufudd-dod i dderbyn cynghor oddiwrth rai yn meddu ffordd i gynghori, ac nid honi eu hunain yn ddigon mawr i alln rhoi cynghor i ereill, ac heb erioed allu bod yn ddigon hunanymwadol i allu byw yn y cynghor eu hunain. Eisieu ychydig o wersi tadol sydd ar Hirwaunfab, yn ol a ddywed y tad E. C. Pwy sydd i roi gwers ? Nid yr E. C. yna, sydd heb erioed ddysgu ei wers ei hunan, ai e 1 Nid rliai d i blant wrth athraw- iaeth gan y tad. Teg i blant wrth hynbrdd- iant eu tad, ond rhaid fod y gwersi hyny yn wirionedd syml ac eglnr. Pwy fedr roddi dust o wrandawiad i'r tad a'r athraw cynghor- awl E. C., pan y mae wedi ceiso yn mhob modd i bardduo cymeriad un o'r ser disgleir- iaf yn ein hardaloedd, a hyny ar anwiredd noeth, a hyny ar draul dyrchafu ei hun trwy ddarostwng ereill ? Clywch ef yn cyhuddo rhywun yn un o rifynau diweddaf o'r GWLAD- GARWR o fod a llaw yn newidiad darn cystadl- euol Merthyr. A dyma'r gwr ag sydd yn honi ei hun yn gyfarwydd a'r amgylchiadau, yn gorfod bod yn y gwarth mai anwiredd oedd yr oil. Cant parch i ysgrifenydd Pwyllgor Eisteddfod Merthyr am y gwirion- edd. Cofus genyf i mi ddarllen am y Parch. Jno. Brown yn marchogaeth ar ei geffyl un diwrnod, pryd y gofynwyd iddo gan laslanc drygionus, Beth sydd yn gwneyd i gynffon eich ceffyl siglo I" "0," meddai yr hen bererin, yr un peth ag sydd yn gwneyd i'th dafod tithau siglo—gwendid Derbynied E. C. y cymhwysiad. Dywedir yn fynych am gawl sir Aberteifi ei fod yn gymysgedd o bob peth. Gellir yn rhwydd dweyd yr un peth am y goleuni rydd E. C. ar yr Ystorm." Pwy erioed glywodd son am drebles o dan yr enw tenor, heb son am ddim arall ? Gwn na fydd E. C. yn foddlawn i blant roddi goleuni iddo, am y byddai yn sarhad o'r nvwvaf iddo. Gan mai i ddynion y darfu yr awdwr galluog ei chyf- ansoddi, rhaid fod v rhyw deg allan, yn ol gwirionedd E. C. Yn wir, fe ddaeth y gath o'r cwd. Gobeithio fod E. C. yn iach wedi y fath waredigaeth, ac y bydd yn fwy gofalus dros gael gwirionedd yn sylfaen cyn anturio yn erbyn neb o hyn allan.—Ydwyf, wrth oleuni dydd, ac nid tan len,- HIRWAUNFAB. [Os ysrifenir rhagor ar y testyn hwn, j-haid i'n gohebwyr lynu at y pwnc. Y mae tuedd i ym- gecru yn cael ei arddangos mewn rhanau o lythyrau diweddaf ein gohebwyr hyn eithr credwn mai doethineb fyddai gadael y pwnc yn y fan hon.—GOL.]
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. MAE Undeb Corawl Cymreig L'erpwl wedi ymgymeryd a chynal cyngherdd blynyddol, gan gyflwyno yr elw i gynorthwyo y Brifysgol yn Aberystwyth. Nos Fercher, Tachwedd 29ain, gwelid ugeiniau yn ymgasglu tuag at Neuadd Sant Sior, a gellid yn hawdd canfod fod rhywbeth o bwys yn myned yn mlaen yno. Dyma yr ail gyngherdd at yr achos da hwn ond gobeithiwn nad yw ond megys dechreu, gan fod teilyngdod y Brifysgol yn hawlio sylw pob Cymro Cymreig yn y wlad. Y cantorion cyflogedig oeddynt y rhai canlynol:—Madam Edith Wynne, Miss Jennie Holliday, Eos Morlais, Lewis Thomas, a T. J. Hughes; a chwareuid y berdoneg gan Mr. J. Skeaf a Miss Evans (Megan Mon). Gan nad wyf am ddilyn y rhaglen, af dros y cyfan yn fyr gydag yehydig nodiadau. Can- wyd amryw o'r cydganau yn rhagorol gan y cor, o dan arweiniad Mr. William Parry, a methwyd mewn darnau ereill a dyfod i fyny a dysgwyliadau y dorf. Gall fod hyn i'w briodoli yn .fwyaf arbenig i ddiffyg meistrol- aeth yr arweinydd, oblegyd ystyriwyf fod Ilawer o'r difaterwch yn gorphwys yn gyfan- gwbl ar esgeulusdod, pan yr ystyriom fod Mr Parry yn hen arweinydd, ac y dylai fod gan- ddo fwy o ddylanwad ar y cantorion i'w dysgyblu yn drwyadl cyn dyfod o flaen y cyhoedd. Yr oedd dwy neu dair o'r merched am fod yn rhy amlwg, pryd y dylent gofio fod hyny yn fwy o niwed i'r cor nag o les. Nid wyf yn dweyd hyn oddiar fympwy, oblegyd y mae yn ffaith fod cerddorion galluog .Y yn teimlo yr un fath pan genid rhai o'r cyd- ganau. Hwyrach y diwygiant yn hyn, os gwna yr arweinydd fagu digon o wroldeb i ddweyd wrthynt am y camsyniadau. Yr oedd Lewis Thomas ac Eos Morlais yn eu llawn hwyliau yn canu y deuawd "Go, baffled coward," a chawsant fanllefau o gymeradwy- aeth y dorf. Camsynied yn Miss Holliday oedd cynyg datganu From mighty kings" mewn cyngherdd lie yr oedd Madam Wynn yn bresenol; a gwaeth fyth oedd iddi fethu a gwneyd cyfiawnder a'r dernyn aruchel. Tebyg ydyw fod dyfodol llwyddianus o flaen y ferch ieuanc gyda thipyn o bwyll a gofal, wedi y caffo addysg briodol. Addysgir hi yn bresenol gan Mrs. Skeaf, priod Mr. J. Skeaf, y perdonydd enwog. Vanodd T. J. Hughes y draethgan a'r alaw "Duw hefyd a ddywed- odd," o'r Creation, gan Haydn, a chafodd guriadau cymeradwyol. "How vain is man," o waith Handel, gan Eos Morlais, fel efe ei hun; a'r farn gyffredin oedd fod yr Eos yn gwella bob tro yn ei ymweliadau a L'erpwl- Nazareth (Gounod), gan Lewis Thomas, yn deilwng o'i safle yn y byd ceridoroL Digon yw dweyd fod yr oil ohonynt mown cywair gwych. Cafwyd Y Gadlef, o waith Emlyn, gan Eos Morlais gyda brwdfrydedd- milwrol. Mae barddoniaeth Llew Llwyfo, y gerddoriaeth gan Emlyn, a'r caniad gan Eos Morlais, y cydymuniad mwyaf dymunol a Chymreig a ddim a genir yn ein cyngherddau. Chwareuodd Megan Mon "Ymdaith GwYr Harlech," o drefniant Skeaf, yn feistrolgar, a phrofodd fod ynddi alluoedd digymhar i ymdrin ag offeryn perseiniol. Mae yr eneth ieuane yn debyg o ddyfodyn addurn i Gymry L'erpwl fel chwareuyddes, a phentyru clodydd arbenig ar ei hathraw goleubwyll, Mr. Skeaf. Cymaint a hynyna am y cyngherdd, a thyb- iwyf nad wyf wedi annghofio neb o'r cantor- ion, fel i'w jadael yn ddisylw, heb wneyd crybwylliad am danynt. Nid wyf hyd eto wedi cael gwybodaeth swm yr arian gweddili wedi dwyn y treuliau ond pan ddelo allatt cewch wybod yn ddiatreg. Byddai yn. ddymunol gweled y cyngherdd blynyddol- hwn yn llwyddo i godi digon o arian i gael ysgoloriaeth barhaol yn y Brifysgol, er mwyn y sawl nad allant gael y fantais o fyned i Aberystwyth heb gynorthwy. TANCHWA AR FWRDD AGERLONG. Tra yr oedd nifer o weithwyr yn parotoi yr agerlong Prussian, perthynol i'r Allan Line—Uinell o agerlongau a fordwyant rhwng L'erpwl a'r Tiriogaethan Prydeinig, sef Canada.—aeth 'un o'r dynion i waelod y Hong a llusern yn ei law ac nid cynt y dis- gynodd na ddaeth i gyffyrddiad a'r nwy, a. thaniodd gyda nerth aruthrol, gan daflu nifer o'r dynion i bob cyfeiriad, a llosgodd amryw yn ddychrynllyd. Bu yr agerlong yn segur am ysbaid o amser, ac yn y cyfamser ym- gasglodd y nwy oddiwrth y glo yn y celloedd, a'r dynion mewn anwybodaeth o'r perygl, a digon tebyg yn gwbl annghyfarwydd a'r nwyon dinystriol. Yn ffodus, ni chollwyd yr un bywyd, ac nid oes wybod hyd eto fod neb o'r clwyfedigion mewn perygl. Bydd yn syndod i lawer, ond odid, i ddarllen am danchwa mewn agerlong drwy gasgliad nwy yn nghelloedd y glo. Prawf hyn fod perygl- on y glowr yn fawr, pan yn gorfod ymladd am ei damaid yr1 eigion y ddaear, yn nghanol nwyon peryglus, heb wybod pa fynud awr o'r dydd y clyw darandrwst yr hufel tanllyd YJ1 cau dorau pob gobaith am ddiangfa. Glo, glo, raid gael o hyd I borthi holl beirianau byd Bywydau glowyr lawer llu A gollir yn y dyfnder du Ac er y mawr ymdrechion hyn, Nid yw y till ond gwael a phrin." Haedda y glowyr y cydymdeimlad mwyai trylwyr am y gwasanaeth a gyflawnant; one c er y cyfan prin iawn ydyw, a phrinach fytl ydyw y cyflog a dderbyniant yn atdaliad an eu llafur. Mae pob tebygolrwydd fod yr anturiaeth » wneyd y twnel o dan afon y Mersey, e: cysylltu Rheilffordd Caer a Chaergybi a thre boblog Llynlleifiad, yn debyg o ddyfod ys ffaith. Maent wedi cychwyn ar y gorchwj o wneyd offerynau i'r mwnwyr, a theby ydyw y dechreuir ar y gorchwyl tua dechre y flwyddyn. Clywed pen gair fod Nixon a'i Gyf. y debyg o gael y cytundeb ogyflenwi y Llyng( Brydeinig gyda glo ager. Os gwir hyn, ma gobaith am adfywiad a gwaith mwy cyson y y glofeydd yn ardal Mountainash. Gobeith: nad breuddwyd hyn, sut bynag. —Yr eiddoc] CYMRO GWYLLT.
DYFAIS NEWYDD.
DYFAIS NEWYDD. Ymddengys fod yr hyn a elwir fog sijrn er rhoi arwydd rlongau yn y mwl, wedi godi ar deifyn gogledd-orllewinol Heligolan yr hwn sydd 165 troedfedd uwchlaw y m( Yr hyn a ddefnyddir yno i'r perwyl hwn i gun cotton, a hwnw yn tanio bob chwari awr, er rhybuddio llongau rhag dynesu a; creigiau. Defnyddir hwn, gan ei bod yn mhosibl gweled y goleuni o'r goleudai, I fyddo niwl tew yn gorchuddio y mor. ydym yn cofio tynged anftodus y Schiller I gollwyd cynifer o ganoedd o fywydau.
TERFYSGOEDD YN AMERICA.
TERFYSGOEDD YN AMERICA. Y mae etholiad yr Arlywydd wedi ] terfysgoedd dirfawr yn yr Unol Dalaeth Dim ond un dalaeth, sef Louisiana oedd aros y pryd hwnw heb ei chyfrif. W pleidlais oedd yr oll ag oedd angenrheidic ethol Mr. Hayes. u r pleidleisiau a rt wyd yn Louisiana, yr oedd mwyafrif m gan Tilden, ond cafwyd hwy drwy fygyt: annghyfreithlon, brawychion, camdrinia ac erchyUderau, ac hyd yn nod llofrndili rhai Negroaid. Felly, pleidleisiau llawt plwyfydd fu yn euogo hyn i gael eu taftl bleidlais ethclyddol i gael ei rhoi i Ray,