Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BJTDDBD i'n cyfeillion y Beirad, o hyn allan gy- lewo eu boll Gynyrchion Barddonol yn v mocld ac r cyfeiriad canlynol RBV. W. THOMAS (ISLWYN) Glyn, Pontllaafraith, f GhjoUdtmncr.} Newport, Mon.
[No title]
Marwnad ^"olfy ngwraig.-]Dechreu "Y gofyd penaf gefais." Orgrafl a chyfansoddiad g\vaUus lawn. "Yn fro forganwg. Gwyw am "gwiw"— "Mewn pentref "lan ei olw,#, Oedd drefnus dlws a. gwyw. Efrydwch ramadeg- Sir a, Thocldcikl i'r Goleudy.-Medrus. Ym- ddengys. yn enqlyn ar yfodrwy briodasol.-Medrus iawn. Cymeradwy. Uinellauar gais fy anwyl fmn.-Bai cyffredin beirdd vw meddwl gormod am danynt eu hunain, ond eich bai chwi yw meddwl rhy fach am eich awen. Cymeradwy. Coromandel—Y mae y fath rifedi enfawr o gyfansodd.iadan yn dyfod 1 law fel y ma y gwbl anmhnsibl i ni na neb arall ga w ohonynt yn un ag un. Gwell i chwi anfon eto. Yr.Efenayl y daclquddiad perffeithiafo Dduiv. —Penawd 'rhy hir o lawer. Pemllion gwir farddonol. Cymeradwy. Cristion yn marw.-kwgrymwn y byddai "lliw v gwaed" yn goethach na cochm r gwaed." Penill campus Ymddengys. wyn fyd na ddilynai y beirdd eich cynllun chwi gan ddanfoni ni ddarnan byrion, tlysion, ac Vr pwrpas. Yn lie hyny anfomr pryddeatau iurfeithion y rhai y petrusai y rraethodyda ei hun eu derbyn-nid ydynt dda 1 ddirn ond 1 feichio y postman a'u pwysau, an beichio ninau a'u hysgafndra meddyliol.
*" CWYN ¥ GORTHRYMEDIG.
CWYN ¥ GORTHRYMEDIG. Hen ystormydd geirwon bywyd Sydd yn llethu'r gwan i r llawr, Mewn helbulon a chaledfyd Cawn y gweithiwr ar bob awr; Dwrn haiarnaidd y gormeswr Sydd yn dyrnu ar y tlawd, Yn ein gwlad nid oes foneddwr Edrych arno fel ei frawd. Mae yn uchel yn ei balas Yn mwynhau holl foethau byd, Gan ddirmygu pob cymdeithaa Gwyd i'r Ian yr isol fryd; Trachwant welir yn gerfiedig v r fanerau'r uwchaf ddeg Calon galed y pendefig Hi fyn adwaen chwareu teg. Ofer gofyn cydymdeimlad, Nid oes neb a wrendy gwyn, Nid oes ynwyf ddawn i ddirnad Orthrwm y llafurwr mwyn; Hen gadwyni erch a rhydlyd Gormes aydd yn llethu'r tlawd, Nofio mae ar donau gofid- Byth i gwrdd a gwenau ffawd. Mwvniant fyddai cael chwyldroad Drwy holl gyrau Gwlad y Gân. Poh atgasrwydd a drwg deimlad Wedi lwyr ddifodi'n fen; Masnach. eto i cliwyrnellu Ei olwynion megys cynt, Fel y caffo gweithwyr Cymru Gyd-ymgodi ar eu hynt. Arwyddeiriau gwyr cyfoethog, Uchel-fawr ein dyddiau ni, Yw gorthrymu y newynog, Gwrthod gwrando ar ei gri; Sugno mer a gwaed y gweithiwr Sydd yn rhan o'u cyffes ffydd, Dan ddigllonedd y gorthrymwr Mae'r llafurwr nos a dydd. Ofer gwingo, rhaid dyoddef 0 dan draed gorthrymus lu, Nid oes un a wrendy ddolef. Glowr, o eigion daear ddu; Yn ei chwys a lludded enfawr, Poeni mae mewn llwch a mwg, Megys delw dan y dulawr Yn y nwyon afiach drwg. Ffugiant feddu ar wladgatwch, Haelionusrwydd at y gwan, Gellir canfod eu pybyrwch Arwynebol yn mhob man; Lleisiau fil sydd yn dyrchafu 0 gynteddau'r pyllau glo, Ar eu hoi mae gwaed yn gwaeddu Y daw dial yn eu dro. The Upper Ten of England. LLADMERYDD.
MI G-S.NAF I'R IESU.
MI G-S.NAF I'R IESU. Alaw:—"Llwyn Onn." Peronaeth hoff ydyw holl eiriau y Ceidwad, Er imi eu gwrando a'm dagrau yn 111, Aufeidrol dynerwch sy'n wreiddyn i w gariad, 'Does unpeth all ddiffodd ei serch ataf n; lthy fychan yw amser i ddweyd am ei hanfod, Trag'wyddol diriondeb sy'n nyndod fy Nuw, Mi ganaf i'r lesu, doed cysur, doed trallod, Caiff wybod y cyfan o'm banes yn byw. 0 lesu hawddgarol, dysg i mi dy garu, Anfeidrol ddyddanwch a geir ynot ti, fiach yw yr arwyddiou fy mod yn dy barchu, Gwael yw yr anrhegion a roddaf i m Rhi; Kr hyny, mi garaf dy enw o'm calon, Sancte'iddia'm serchiadau a chwyd hwynt i r A chanaf i'm Harglwydd er maint fy helbulon, Caifl wybod fy helynt, can's gwrendy fy llet. ganaf i'r Iesu, er gwaned yw'm calon, Mae'n hysbys o'n hanes, o'm cysur a'm cri, Os ydyw yr anial yn llawn o beryglon, A'i deithio yn galed, er dagrau diri'; Os ydwyf yn ofni gwynebu'r lorddonen, Fe dd'wedaf i'm Hiesu mewn gweddi a chan, ganaf i'w enw beth bynag fo'm hangen, Mae'n gadarn i'm cadw, a m canu yn liln. Dolgellau. E. Y. WILLIAMS.
YMWELIAD A LLUNDAIN.
YMWELIAD A LLUNDAIN. MR. GOL. ,-Goddefwch i mi wneyd ych- ydig nodiadau o'r hyn welais ae a glywais ar y ffordd o Aberda,r i'r brif ddinas. Cychwyn ^dicartref am haner awr wedi pedwar o r Sjoch, er mwyn caelcyfleusdra i fyned ymaith. Yn dechreu y daith am chwech o'r gloch, ^yned o Hengoed gyda L. & N. W. RaUway, Rhymni mown ychydig fynudau, a myned heibio lln mawr o'r man orsafau hyd nes dyfod i Abergafenni, myned yn y blaen yn bur frysiog hyd nes dyfod i Shrewsbury; newid y cyfeiriad y fan hon, gweled llawer o wair wedi ei dori, ac ychydig wedi ei gario yn nghyd canoedd o gaeau yn barod i ddi- ddosrwydd, pe dynion wrth law, efallai mai dan neu dri o bersonau fyddai yn y cae, a hwnw mewn maent o 15 i 20 erw o dir; yr oeddym yn casglu wrth hyn fod dynion yn brin iawn yn y cymydogaethau dan sylw. Yr oeddym yn myned yn gyflym ofnadwy nes braidd yn peri i ni ddychrynu. Yr oeddym wedi dygwydd bod mewn compaTtment gyda boneddwr oedd yn byw yn ymyl v Palas Grisial, a dywedai na fu allan ar fath boeth- der erioed o'r blaen, gan fod y train yn myned yn y fath gyflymder, ac yn gwneyd cymaint o lwch, nes oeddym braidd mor ddned a'r dynion ag sydd yn enill eu bywioliaeth trwy dori glo; gadael llawer o bethau hynod ar ol oherwydd mai clipdrem oeddym yn gael ar- nynt. Oherwydd cyflymder y peiriant, ac am bump o'r gloch, dyma ni bellach yn LInn- dain, prifddinas y byd, medd y bobl; allan a ni o orsaf Euston, a chodi ticket i orsaf Moor- gate, nes yn y blaen i'r ddinas; ond yn awr, dyma ni dan y ddaear, mewn trains gan en brys nad ydynt yn roddi amser i ddyfod allan ohonynt. Wedi hyny, gofyn am y tram, cars, neu yn hytrach dysgwvl am un o'r 'busies oedd yn myned o'r bnnk; lie hynod yw hwn, prif le arosol y cabmen oil, a gweled llawer iawn o adeiladau gorwych ar y ffordd; cymer- yd y 'bus o'r bank trwy Whitechapel Road, lie sydd wedi ei anfarwoli gan y llofrudd Wainwright, gweled y man lie cyflawnwyd y weithred, a thyma hefyd Whitechapel Meat Market, y lie mwyaf hynod yn Llvmdain nid oes un gwahaniaeth yn y fan hon rhwng y Sul, gwyl, na gwaith. Myned yn y blaen o hyd nes o'r diwedd cyrhaedd i'r man lie bwriadem fyned, sef Limehouse, gerllaw y West neu yr East India Dock, cyfarch gwell i bobl y ty, cael lluniaeth a myned oddiyno i'r Albion, sef lie arferedig i gynal cyngherddau a theatre, ond y diweddaf oedd yno y noson dan sylw; ond beth bynag am hyny, llawn gwerth yr hyn a dalwyd am fyned i mewn, oherwydd nid ydym yn meddwl i ni weled gwell Act yn cael ei pherfformio erioed, sef twyll carwr- iaethol Sais tuag at luddewes, a hwnw yn y diwedd yn gorfod medi y grwn ddarfu hau ei hun. Dyfod gartref, neu lie arosol, gweled llawer iawn o ddynion mewn cyflwr bur isel ei amgylchiadau o ran ymddangosiad, ond pwy rhyfedd, pan nad ydynt ond gwario eu harian o chwech o'r gloch y boreu hyd ddeu- ddeg o'r gloch yn y nos. Wedi cael tipyn o gysgu, codasom am haner awr wedi pump, a chymeryd y 'bus hyd Trafalgar Square, oddiyno i Hyde Park-Ile ardderchog yw hwn fel pob man arall ag ydym wedi weled; nis gallwn roddi oud rhyw fras ddarluniad o'r manau a'r pethau mwyaf hynod a welsom, oherwydd pe roddid yr oil yn llawn byddai eich amynedd wedi treulio allan. Gadael y Park am y Kensington Museum, gweled yma fil a mwy o'r pethau mwyaf hynod a gwerth- fawr a welodd y llygad erioed; oddiyno i'r Indian Museum, y pethau diweddaraf sydd wedi eu casglu, sef yr hyn ddarfu i Dywysog Cymru osod i mewn, ar ei ddychweliad o'r India, yr oedd yno aur a themlau a phob math o drysorau ag sydd a son am danynt; er mwyn gweled y lie yn fwy cyflawn, allan a ni i gael cipdrem ar yr Albert Memorial, son am gerfwaith, dywed y bobl wybodus mai dyma gerfwaith holl gerfweithiau y byd, nis gwn am hyn, ond yn ol fy marn i, fod gweled y monument hwn yn ddigon o dal i ni am yr oil a wariwyd o gartref ac yn ol; yr ochr arall mae yr adeilad dan yr enw Albert Hall, yr adeilad mwyaf eanga phrydferth yn Llundain cawsom y pleser o glywed yr organist yn chwareu rhai darnau, a hyny yn y fath nerth nes peri i ni gredu fod yr adeilad yn dyfod ar ein penau. Gadael yma eto am Madame Tussaud's Bazaar, lie mae miloedd o'r pethau hvnotaf vn v bvd-gweled y peth cyntaf Napoleon yn gorwedd fel pe yn fyw, ond cofier mai ei ddelw yw; Madame ei hun a'r Sleeping Beauty; nes yn mlaen mae bonedd- wr yno ag sydd wedi twyllo llawer un i siarad ag ef, mae fel pe yn fyw oherwydd mae yn chwareu yn ol ac yn y blaen, ac mi glywais i ddyn yn dweyd wrtho "Very hot weather, old gentleman," nid wyf yn meddwl ei fod wedi ei ateb eto, ac nid yn rhwydd iawn y gwna ef hyny ychwaith, felly, mae celfydd- yd wedi dyfod mor agos at berffeithrwydd hyd at roddi bywyd, yr hyn na wnant byth, eto, dyma ni yn cael golwg gyflawn ar y Teulu Breninol, ac yn wir maent yn ardderchog; fan arall mae Dr. Livingstone, y gwas du, a Mr. Stanley, a nes yn mlaen mae darlun o'r dyn talaf a'r dyn byraf a welwyd erioed; mae Tichborne a Kenealy yno hefyd, a chanoedd nad gwiw meddwl am eu henwi; oddiyno aethom yn y blaen i'r room of horrors, mae hon yn ofnadwy i feddwl ei darlunio, gadawn iddi fan hyn gyda dweyd fod y cythraul wedi c el cyflawn afael ar y dynion hyn cyn byth y buasent yn cael ffordd mor gythreulig i waredu neu ynteu lofruddio eu cyd-ddynion yn y fath ffyrdd truenus; dyma lie cawsai pawb yr hyn fuasai yn ofyn am dano, ond mae yn rhaid i chwi gofio fod yn rhaid talu yn liallt, o werth dimai i werth mil o bunau. I DIDYMUS. (Tw orphen yn y nesaf.)
Advertising
Llwynhendy, ger Llanelli, SIR GAERFYRDDIN. Gohiriad yr Eisteddfod. YMAE y Pwyllgor wedi penderfynu gohirio yr Eisteddfod uchod hyd MEDI 16eg, a gwneyd gwobr y prif ddernyn corawl yn 3p. 10s. Y programme, yn cynwys yr holl fanylion, yn nghyd ag enwau'r beirniaid, i'w gael gan yr Ysgrif- enydd am geiniog; drwy y post ceiniog a dimai. W. UNGOED, 13G4 Cefncaeau, Llanelli. EVANS'S PILE A iNt) GRAVEI, PILLS. Rhydd y Pel- ni hyn iachad buan a sicr i bawb a ddyoddefant oddiwrth anhwylderau poenus Y PILE A'R GRAVEL, y rhai a adnabyddir trwy yr arwyddion canlynnl :-PoeIl mawr vn y cefn ac ar draws y lwynau; Diffyg wrth wneuthur Dwfr; Poen yn yr Arenau. y Colud-ion, a'r yatumog: Poenau saethaw] yn y Coe-iau a'r Borddwydydd; Iseider Ysbryd, Tyndra yn yr Ystumog. Chwydd- iant yn y Coesau, a gwendid cyfredinol yn y corff, &c. Nid oes ar y perchenog ond eiriau un prawf er sicrhau cymeradwyaeth unfrydol i'r Pelenau at y ,]oluriau uchocL Y mae pob blwch yn dwyn trwydded y Llywodraeth. ar yr hwn y mae llaw- nodiad y Perchenog, heb yr hyn nid oes dim yn iawn. TTSTIOLABTH DDIWEDDAB. MR. EVAN9, Cwma.man, Aberdar. Syr,—Y mae fy nywraig wedi gwneyd prawf o ddau flvchaid o'ch Pile a Gravel Pills, a rhodd- asant iddi esmwythad uniongvrchol o'r poen oedd yn ei hochrau. ac ar draws ei lwynau, gan dynu i lawr h-fyd y chwyddaint mawr oedd yn ei chorff a'i choesau. Y mae hi yn dymuno eu cymeradwyo i'w cbyfeillion, gan eu bod wedi yrwneyd lles mawr iddi hi. THOMAS EVANS. Y mae y geiriau PILE A GRAVEL PILLS yn Copyright, wedi eu Cofrestru a'u hentro yn Stationer's Hall, Llundain. Yn gymaint a bod y Gwneuthurwr yn gwybod fod lluaws yn dyoddef oddiwrth un neu ddau o'r anhwylderau uchod, y mae wedi darparu v pelenau er cyfarfod y cyfryw achosion, fel y canlyn :— A Peleni Evans at y Pile a'r Gravel. B Peleni Evans at y Piles. C Peleni Evans at y Gravel. Cymerwch ofal eich bod yn cael Peleni Evans at y PILE A'R GRAVEL, ac na chymerwch eich dar- bwyllo i gymeryd un math arall. DABPAREDIG TN UNIG GAN T. W. Evans, Chemist, Aberdar. Ar werth mewn blychau, am ls. 1-jr. a 3s. 9c. trwy y Post ls. 4c. a 3s., a chan bob fferyllydd cyfrifol. WHOLBSALB AGENTS :~Lendon—W. Sutton & Co., Barclay & Sons, Wm. Mather & Co.. Burgoyne & Co. Bristol—Roper & Co., Pearce & Co., and T. Ackerman; Coventry—Wyleys & Co.; Birmingham-Southall Brothers & Barclay. Goruohwylwyr Cymydogaethol,—James Lewis, George Town. Merthyr; M. A Jones, Brynma.wr; W. H. Watkins, Tredegar; W. Sims, & Dyer, Aberaman; D. Williams, Gadly?, Aberdar; Smyth, Merthyr; B. A. George, Pentre; E. T. Evans, Mountain Ash; J. Davies, Swansea; Jacob Hughes, Llanelly; Erankiyn Dixon, Rhymney; Evans, Dowlais; a Isaac Jones, Bookseller, Treherbert. 1370 Gall Miloedd Dystiolaethu fod Yr Europa Infants' Life Preservers WEDI arbed bywydau, ar ol i bob meddyg- iniaeth arall gael ei threio yn ofer. Ni chynwysiant ddim OPIUM, nac unrhyw beth arall sydd niweidiol i'r baban gwanychaf, gan hyny dyma Yr unig feddyginiaeth ddyogel i Fabanod pan yn magu danedd. At achosion o dwymyn goch, y frech goch enyn- iant, pangfeydd, dolur y gwddf, rhwymdra a rhyddni y coluddion, a holl anhwylderau plant, o wythnos i ddeuddeg mlwydd oed, y maent yn an- mhrisiadwy. Yn yr achosion mwyaf arteithiol, os rhoddi dogn pob pedair awr, rhwystrir y clefyd, a symudir ymaith y perygl. Gall mamau, wrth eu defnyddi*, arbed bywydau eu plant, a dianc rhag biliau uychrynllyd y medd- ygon. Mae miloedd o dystiolaethau wedi eu der byn, ac yn cael eu derbyn yn ddyddiol, yn cofnodi rhinweddau rhyfeddol y feddyginiaeth hon. TYSIIOLABTH. East Gate, Cowbridge, Glam., Dec. 21, 1875. Anwyl syr,—Byddwcb cystal a danfon i mi syp- yn o'r anmhrisiadwy 'Dame Europa's Powder.' Yr wyf o'r farn na ddylai y rhai sydd a chanddynt blant byth fod hebddynt, a gallaf eu cefnogi yn gydwybodol, am i mi brofi eu heffeithiolrwydd ar lawer adeg. Mae fy mhlentyn ieuengaf-geneth fechan saith oed-er fod ei hiechyd yn wanllyd, wedi derbynbudd mawr oddiwrthynt y ddwy flyii- edd ddiweddaf, ac anaml y cymera hi un meddyg- iniaeth arall.-Yr eiddoch yn ffyddlon, WM. JONES, Cenadwr Cartrefol Esgobaethol, a diweddar Gurad Treorci. Ysgoldy Brytanaidd. Ystrad, Tach. 27, 1873. Anwyl syr,—Derbyniwcg fy niolchgarwch mwy- af didwyll am y Powders ddt.nfonasocli i mi, canys credwyf yn wirioneddol iddynt arbed bywyd fy Maggie anwyl, pan oedd hi yn dwyn liyll arwydd- ion convulsions, y rhai ddechreuasant gilio cyn pen awr wedi iddi gymeryd y dogn cyntaf. Yr wyf yn eu cyflwyno i sylw mamau fel y feddygin- iaeth oreu i blant y gwn am dani.—Yr eiddoch yn ostyngedig, W. G. HOWELL. Ar werth gan fferyllwyr a gwerthwyr cyffeirau am Is. lie. a 2s. 9c. y sypyn. Cyfan werth—Llun- dain Barclay and Sons Sutton & Co. Baiss Brothers and Co. Bryste J. A Roper and Co. Caerdydd S. P. Kernick a chan y perchenog, B. A. George, Family Chemist, (he., Ptrnvre, Pontypridd. Danfonir sypyn yn rhad drwy y post am 15 a 34 llythyrnod. Caution.—The title Dame Europa's Infant's Life Preservers" is copyright and entered at Stationers' Hall. Agents Ileol-Aberdar Evans, T. W. Riehards, J. Williams, D. Mertkyr Smyth, Daniel, White; Mountain Ash Abel James; I'ontypridd: Baasett, Smyth Dinas Williams Brynmawr Jones Blaenafon Evans Cardiff Keraick Swansea: Davies. Importatnt-Lweral terms offered to agewbs* 1366 Arian. DYMUNA BONEDDWR, a chandd» gyfalaf segur, roddi ei fenthyg ar fyr rybudd i fon- eddwyr, masnachwyr, ac amaethwyr, ac ereill (gwryw neu fenyw), yn preswylio yn unrhyw barth o Gymru neu Loegr, yn symiau o BL9 i £ 590 ar n.tc ef hand. Dim yswiriad bywyd na threuliau cyfreithiol yn angenrheidiol. Daiifonir pMb man ytiwn gyda thread y Post, ar dderbyniad llythyr yn cynwys llythyrnod. ao yn n«di y swm ddymunir fenthyg, wedi ei gyfeirio i MR. A. BR ADBURY (t £ preifat), 161, Walwerth-road, Londei S. E. Ni wrthodir unrhyw gais didwyll. Telerau o 5 y ant. Gellir ad dalu drwv archeb ar y llythyr-dy. 1324 Money. A PRIVATE GENTLEMAN, with surplus capital, is willing to make prompt .advances to Gentlemen, Tradesmen, and Farmers, and others (male or female), residing iu any part of England and Wales, from B10 t* £ ;>00, i) note of hand. No Life Assurance or Law costs. Full particulars by return (If Pestle sending a stamped directed envelope, stating amount, to MR. A. BRADBURY (private house), 161, 'a!worth- road, London, S.E. No genuine application refused. Terms from 5 per ceiat. Repayments received by P. 0.0. 1324 ni VEGETABlE These Fills are strongly recommenced to patients suffering from Rheumatism, Rheumacic Gout, Rheumatic Fever, Lumbago, Sciatica, Pleu/ro- dynia, dec. Important testimonial from the Rev. T. Davies, Independent Minister, Siloah Chapel Mawrth Main, 1876. Mr. J. Wade,—Anwyl syr,-Bu cyfnither i mi yn dy.ddef yn hir oddiwrth rheumatism, a phan glywadd am eich Vegetable Rheumatic Pills chwi penderfynedd eu treio, a chafedd weLhad buan. A gwn am amryw ereill yn fy nghynulleidfa wedi eu gwellhau drwy eu cymeryd felly gadaf gy- meraawye eich pills chwi yn hyderus i unrhvw un yn Jyoidef oddiwrth yr anhwylder uchod, fel y feddyginiaeth oreu y iarfu i mi evioed glywed am dani.—Ydwyf, &c., 16, Bryp-terrac*, Llanelli. TIIeB. DAYIES. Idh. Springs Mines, Clear Creek Ce., Cel.raCIa, U.S.A., lfth January, 1876. Mr. Wade,—Dear Sir,-I have been tormented with Rheumatism for many years. After returning to Wales, I tried your Vegetable Rheumatic Pills and gat immediate relief. Their effect was marvellous I have not felt anything of my old complaint since. The stock of pills I to*k with me I am very careful ef, in case they should be required.—Yours truly, J. It. DAVIES. Late of Paddock street, Llanelly. Seld in Boxes at 13id. amd 2s. 9d. each, or by post for IS or 3i stamps. Sold by all Chemists. Wholesale London Aqents—Messrs. Hodgkinoon, 127, Alder agate- street. 1302 Yn aipr yn barod, y Rhan gyntaf » "GANEUON Y CANOR," SEF Caneuon a Chydganau, gyda Chyfeiliant i'r Berdoneg, yn nodiant y Tonic Sol-fa, yn cynwys "Mi gollais y tr6n," "Y Nhw oedd yn dweyd," "O! wel te wir." Pris 2g. Eta, "Y Nhw oedd yn dweyd," yn y ddau nodiant. Pris 4c. I'w cael gan yr awdwr, T. WILLIAMS (Efell Trefor), 1329 Cross, Morriston, Swansea. MONEY: to lend on good leasehold or freehold security. For furthur particulars, apply to Mr. John T. Howells, Solicitor, Publio Hall Ofiicea, Treherbert. 116-5. W. J. REES, GENERAL PRINTER, BOOKBINDER, t-c., LANBORE, NEAR SWANSEA. Posters, Handbills, Tocynau a Phrogrammes at Eisteddfodau, &c., am y prisoedd iselaf. Pamphlets, Rheolau, Marwnadau, a phob math o Lyfr-waith yn ddestlus a rhad. Pet. nmth o Argraffwaith yn Gymraeg a, Seisneg W. J. REES, ARQRAFFYDD LL YFR-R WYM YDD, &c, 1157 GLANWWB, AtERTAWB. Ystalyfera.—Printing Office. GRIFFITH DAVIES WRTH ddychwelyd ei dcliolchgarweh diffuant VV i'w gyfeillion a'i gwsmeriaid yn ardaloedd Ystalyfera, Ystradgynlais, Cwmtwrch, Cwm. llynfell, Brynaman, Abercrave, Onllwyn, Creu- nant, Pontardawe, Cwmdylais, a'r cylchoeddd, a ddymuna. hysbysu ei fod newydd ychwanegn ARGRAFFWASG at ei fasii-.chdy. rgreffir pob math o hysbys- leni at wasanaeth Cyfarfodydd Crefyddol a Llenyddo', Eisteddfodau, &c., Rheolau a Chard- iau Clybiau, Programmes, Mourning Cards, Circulars, &c., mewn diwyg lanwaith ac am brisiau mor isel fel yr hyderir y derbynia rgrafFwasg Ystalyfera gefnogaetli unfrydol yi ardaloedd uchod. Hefyd, dymuna G. D. adgofio ei gyfeillion y parheir i gadw Stock lied gyflawn o'r amrywiol lyfrau a gyhoeddir gan wahanol gyhoeddwyr Cymru, a chyrchir unrhyw lyfr na ddigwyddo fed felly ar ychydig ddyddiau o rybudd. NEWYDDIADUKON.—Dorberthir holl newydd- iaduroI Cymreig a Seisnig y Dywysogaeth, yn nghyd a Chylchgronau Misol y gw ahanol enwad- au. Derbynir Sypyn yn ddyddiol o Lundain ai ddyfodiad y trains hwyrol, ya. cynwys newydd- iaduru a llyfrau rhydd hyn gyfleusdra i gae) aarliyw periodical ar ddydd ei gyhoeddiad. Mhwymir Llyfrau yn wryf e desthis, ae em brisiau a roddantfoddlonruxydd. Cedwir mtMn Stoek amrywiaeth o Stationery, I Lbjfrau Cyfrifon, a L hffrmu YsgoKon. YsMMtY CAsam T FmBL GYJSSSEH^ STAMP OFFICE, YSTALYFKtA. 1294 Hearses a Mourning Coaches. DYMUNA ISAAC THOMAS, UNDERTAKER rf-c., 21; a 25, Seymour Street, Aberdar, HYSBYSU y cyhoedd ei fod wedi pwrcasuvr i-JL Hearses a'r Mourning Coaches gan Sarvis, ac o ganlyniad yn barod i ymgymeryd 1n hollol ag angln,ddau o bob math. Gall yn awr ddarparu cotiiiiau, amwisgoedd, Hearses a Moima,- in.fl Coaches, yn nghyd ag ymgymeryd ag adei&Sra bsddau priddfeini (brick graves), f-d y gall y perta- ynasau gael hollol eu rliyddhau o bob gofal a thrafferth cynyllti'-di^ a'r claddu. Bvdd yr oil vn rhatacb nag y ceir gan neb yn y gymydogaeu. Yinyymera hefyd ag anfon Hearses, yn nghyd -a Feather Plumes, a Mourning Coaches, i unrhyw ftui o Gymru, v rhai ydvnt y goreuon a fedd dywysogaeth.—Y Cyfeiriad:— 1301a 24 a 25 Seymour St. Aberdar. II. A. WELLSTED, BUILDER, l!0U<E, ESTATE, AND COMMISSION AGENT, BEGS to announce that he ha.^ Two veiy Cam- modi u- VILLAS, in the most respectame part of Aberdare, TO LET or SELL. Also, several COTTAGES will be Sold on XMy advantageous terms to Workmen who wish to become their own Landlords. 1328 DANEDD! DANEDD!! DANEDD!" D Y mae MB. HOLLANB, Daneddwr, 11, Nelson Street, Abertawe, yn gwneyd Danedd Gosod Q'F defnyddiau gortu sydd i'w cael, ac yn gyfarwydd y* mhtb rhan o'r gelfyddyd. T mao hefyd yn gwarantu T rhydd foddlonrwydd cyffredinol meta prisiau. Y mae J. T. H. yn siorhau perffeithrwyd# mewn Ni.ie, esra^Yythder, bedIIlem-wydd, a. chroew- der ymadro«ldiad. Danedd sengl, o 5s.; cyfia^&ft sets, e £ 4. Bydd yn Iw esenol bob ail a phedwery3(J dydd Iau va rnheb mis, yn meddygfa Mr. A. A1K&, Meddyg Llysieaol, 2, Market Street, Aberdare. L223 7 hat is Geld which is worth Gold. WHITE'S PILL OF HEALTH, Patented and rendered Tasteless by a new process. Copy of Analysis from Dr. Hopkins. I have made a careful analysis of "White's Pill of Health and found them to be compound- ed of genuine and pure ingredients. I think them the best Aperient and Antibilious Pula known—a warm stomachic, and admirably adaafc- ed for wind and constipation generally. (Signed, JOHN MORGAN HOPKINS, M.D. 11, Quay-street, Carmarthen. Wblte's wm ofal ealtb Is, without exception, the safest Domestic Medi- cine knewn. Once used, they are universally Sp- proved of. and never fail render satisfactrga. Compounded with the best drugs, they will jbe found to present the best form Family Medi- cine. By their mild and gentle action on the li^r, they restore tone and vigour, producing a heaSSy state of t> e stomach. They remove obatrnctifflpT. and by their timely use the formation of varfSyis complaints, which prove a source of anxiety fifed uahappiaess, are prevented. White's Pill of Health Is INVALUABLE FOR THE SKIN & 151,001). Copy of Testimonial from Messrs. So-uthaU Brothers Barclay, Wholesale Pharmaceutical Chcrrrms,, Birmingham. DEAR SIRS,—Wo have examined your Pills, and have pleasure in stating that they contain nothing injurious, and that they are prepared from the very best Drugs.—We are, dear sirs. yours faith- fully, SorrHALL BROTHERS & BARCLAY. Bilious Complaints, Indigestion, Wind or Flatu- lence, Costiveness, Giddiness, Heartburn, Pain.in the Head, Chest, Back, or Loins, Gravel and Stone, Liver Complaints, Pale or Sallow Com- plexion, Palpitation of the Heart, Colic, Pimpjgs, Piles (both outward and inward). Eruptions, Loss of Appetite, Sickress, &c., &c., rapidly cured by takiag White's MM 08 Health Sold in Boxes Hd. and Is. ltd. each, or free by post for 9 or 15 penny postage stamps from me Proprietors, WHITE BROTHERS, M. P. S. Chemists, Carmarthen. Copy of recent Testimonial. March 21st, 1876. GENTLEMEN,—I have much pleasure in testify- ing as to the efficacy of your Pill of Health*" They can be taken at all times without any incon- venience, and readily afford relief in any obstruc- tions. -One or two doses suffice for Biliousness, Heartburn, or Indigestion. I can also Kpecially recommend them as a traveller.—Yours very faithfully, THOMAS DARGAN, » Inspector R.S.P.C.A. Sold by Chemists everywhere-equalled no- where, in boxes 7jd. and Is. lid. each. Prepared only by WHITE BROTHERS, M.p.s. Chemists, Carmarthen. CHEMISTS.—The Proprietors will be har»y to supply the Pill of Health" direct, or they be obtained from any Wholesale Patent' Mediae Firm in the United Kingdom. Counter Bras, with name and address at foot, may be had in quantity ky giving name of any Wholesale Firm ia London, where they may be sent for enclosure. L.386. Money. MONSY.—Various Silvag t* lana om Leasehold .B-1. Security, Apply to w. B<xM«, BoiM&y. AW4ar«. 1.