Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

"Morien " yn Nghor Gawr a…

News
Cite
Share

"Morien yn Nghor Gawr a Chaer Ambawr NID yw braidd yn ofynol dywedyd wrth un o ddarllenwyr y GWLADGARWR fod ein tadau yn grefyddwyr selog cyn yr oes yr ymddang- osodd y dysgawdwr hynod yn Nazareth. Nid ffyliaid oedd pawb ond Iuddewon Pales- tina yr amser hwnw. Mae y dyn darllengar ag sydd wedi darllen hanes yr Aifft, Assyria, Persia, Groeg, Rhufain, &c., yn gwybod yn eithaf da fod celfyddyd, gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, &c., y pryd hwnw yn y gwledydd hyny mor uchel fel y mae y cenedl- oedd diweddaraf wedi parhau i gael eu haddysgu mewn braidd bobpeth gan ysgrifen- iadan doethion v gwledydd hvnv. Paham v gwerir canoedd o filoedd o bunau yn flynyddol i gynal efrydwyr yn ein colegau ? I ba beth ond i'w galluogi i dreiddio i mewn i ddoeth- ineb Groeg a Rhufain yr oesoedd gynt i'w galluogi i ddysgu areithyddiaeth wrth droed Demosthenes anianyddiaeth wrth draed Plato ac Aristotle, &c. Mae'n amlwg, o gan- lyniad, mai nid ffwlbri oedd daliadau crefyddol y fath bob], er, ar yr olwg gyntaf, heb ein bod yn meddiant o alluoedd y gyfrinach, mae perygl i chwedlau eu beirdd am Jupiter, Jove, Juno, Venus, &c., ein tueddu i osod y cwbl i lawr i wallgofrwydd, a'u bod oil, yn ol yr hen ddywediad, yn ffit i Lansawel." Yr oeddent yn addoli'r Tad tragywyddol, yr hwn a wnaeth y byd a'r hyn oil sydd ynddo y Duw, gweithredoedd dwylaw yr hwn oedd. ent yn eu gweled yn mhob man Yr oedd- ent yn gweled ei ogoniant yn nhoriad y wawr, ei allu yn mhelydrau yr haul, ei lais yn sisial- au yr awelon, ei dadol ofal a'i drugaredd yn mhorthiant ei holl greaduriaid, a'i ddoeth- ineb yn nhrefniadau'r greadigaeth. Dyma'r hyn a feddyliai'n tadau wrth y frawddeg, "Llafar Duw yn llafar Anian." Beth yw II honiad Iuddewon a Christionogion 1 Fod Duw wedi siarad wrthynt yn oruwchnaturiol, a myn y cyntaf na welodd yn dda ddweyd dim wrth neb ond wrthynt hwy Yr oedd yr un haul yn tywynu ar y cenedloedd ac ar yr Iuddewon; yr oedd y fam gyffPedinoI, natur, yn firwythloni i'r Cenedlddyn fel i'r Iuddew ond myn yr Iuddew fod Awdwr mawr pobpeth, er yn naturiol mor garedig i'r Cenedloedd ag iddynt hwy, yn rhoddi ei gyfrinach yn y peth mwyaf, sef yr ysbrydol, iddynt hwy, ond dim gair i neb arall Nid wyf yn gwadu hyn, ond mawr mor anhawdd yw genyf gredu fod hyn yn wir gwell genyf gredu fod Awdwr yr haul yna yn ac wedi edrych ar ei holl hiliogaeth yr un fel. Gyda Christionogaeth, cafodd y cenedloedd ddyfod i'r gyfrinach. Paham ? Syned pawb— am i'r Iuddewon ei gwrthod Taled pregethwyr Cymru dipyn mwy o sylw i bethyu fel hyn, canys dyma'r pethau y mae meddvliau Younci Wales yn eu gofyn y dyddiau hyn. Ni wna darluniau areithyddol y tro mwy, rhaid yw rhesymu o hyn allan yn ghymru; a chofied pawb eiriau'r Apostol I al yn ei ail lythyr at y Corinthiaid, Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd." Wel, yn mhlith cenedloedd hynaf y byd yr oedd Derwyddiaeth yr oedd hi yma yn ei gogoniant pan oresgynwyd ein Hynys gan y Rhufeiniaid ddwy fil o flynyddoedd yn ol. Mae lie i gredu bod yr oil "lanau," lle y gwelir yn bresenol yr eglwysi plwyfol, yn gylchau Derwyddol, ac mai goresgyn yr hen .Y gylchau a wnaed. Ystyr y gair Ilan," feddyliwn, yw cylch; mae'r gair i'w weled heddyw yn y gair gwin-llan, cor-lan, yd-Ian, a dywedir y gellir gweled yn awr, mewn gwledydd, hen feini Derwyddol, yn rhai o'r hen eglwysi. Y fath gipolwg dyddorol a rydd hyn i ni ar yr hen lanerchau Dyma lIe yr ymgynullai ein tadau i addoli Duw y greadigaeth cyn i gareg o ddinas Rhufain gael ei gosod i lawr, a chyn i Joseph fyned i'r Aifffc. Myn hanesyddiaeth, fel ei dysgir yn yr ysgolion, na wyddai y byd fawr am yr Ynysoedd Prydeinig cyn- y goresgyniad Rhufeinig. Os credwn hyn, ar y llanerchau yma y cyfarfyddodd ein tadau mewn unigedd i addoli; ac, yn iaith Mrs. Hemans :— They met-Oh not in kingly hall or bower, But where wild nature girt herself with power They met, whei e s reams nash'd bright from rocky caves, They met. where woods made moan o'er warrior's graves, And where the torrent's rainbow spray was cast, And where datk lakes were heaving to the blast, And midst th'eternal cliffs whose strength defied The crested Roman in his hours of pride And where the Cam■ dd on its lonely hill Bares silent record of the mighty stiif; And where the Druids ancient cromlech frown'd, And the oaks breathed mysterious murmur round: There throng d th'inspired of yore !-on plain or height, In the sun's face and in the eye of light:" And bading into lieaven each noble head, Stood in the circle, where none else might tread. Well might their lays be lofty! soaring thought From Nature's presence tenfold grandeur caught: Well might bold Freedom's soul pervade the strains Which startled eagles from their love domains, And, like a breeze, in chainless triumph, went; Up through the blue resounding firmament! Yr oedd gan ein hynafiaid eu heglwysi I cadeiriol, ond ni fu to ar un ohonynt; ac yr oedd ganddynt hefyd eu Jerusalem, He y cynulliai'r llwythi Cymreig ar y gwyliau arbenig, sef Caer Ambawr, a thebyg mai ryw Samaria oedd Cor Gawr. Gyda dawr neillduol, o ganlyniad, yr oeddwn yn dynesu at Cor Gawr, yr hyn a wnes wedi teithio tuag awr. Ar fy chwith, ar y gwastadedd noeth, yr hwn oedd yn estyn am filldiroedd lawer iawn yn mhob cyfeiriad, yr oedd un ty, a a hwnw yn henafol iawn, a choed gwyrddion yn ysgwyd yn dawel yn yr awel dyner. Wrth fyned yn mlaen, rhaid cyfaddef fy mod yn teimlo rhyw serch mawr at yr hen feddrodau; yr oedd fy nghalon yn sisial, Hen flaenor- iaid dy genedl sydd yn gorwedd yma yma y gorwedd hen gadlywyddion a yrasant y lleng- oedd Rhufeinig ar ffo fwy nag unwaith. Yma y gorwedd tywysogion, a beirdd, a thelvnor- ion." Yr oedd rhyw fagnetism, yn y crugiau i mi, a dringais i gribin fwy nag un ohonynt i siarad Cymraeg wrthyf fy hunan, megys er rhoddi gwybod i'r llwch oedd yno fod Cymru Cymro, a Chymraeg eto yn fyw ? Yr oedd myfyrio ar hanes yr hen genedl ddewr; yr hyn oedd a'r hyn yw heddyw,—dim Bon heddyw am iawnderau arbenigol y genedl; ein llysoedd barn yn Saesonaeg, a phawb yn boddloni ar yr hyn a wel ereill yn dda ei roddi i ni; wedi colli pobpeth ond y delyn. Teimlwn yn awr fel Ceiriog pan ganai y geiriau :— Ni a gadwn ein telynau I glodfori gwlad ein tadau, Ac i ganu hen ganiadau Ond mae bechgyn y School Boards wrth y ddor—addysg a ddihuna y werin Gymreig. Ond dystawa, dyma'r deml; eyndod Cant ond chwech o feini mawrion ar y gwastadedd- au, a rhai ohonynt yn ugain troedfedd o h £ d, ac yn sefyll mor sythion tua'r nen a phan eu gosodwyd yma filoedd o flynyddoedd yn ol. Mae'r deml yn hirgylchog (oval), a dywed Myfyr fod hyn yn arwyddlun o'r Corwgl- g" ydrin, yr hwn, fel y gwyr pawb, oedd un o symbols arbenig y Derwyddon. Mae rhai o'r meini cawraidd wedi syrthio ar draws eu gilydd. Y mae gweddillion dau gylch o fewn y cylch allanol, yr hwn sydd yn gyfansodd- edig o'r meini mawrion. Oddifewn, yn yr ochr orllewinol, mae gweddillion y gromlech careg anferth yn y cefn, a'r ddwy oedd yn cyfansoddi'r ochrau a'r hon oedd ar eu pen wedi syrthio. Mae careg lawr y gromlech yn ei lie, a gelwir hi gan y Saeson The alter stone." Pan yn sefyll ar hon a'n cefn tua'r gorllewin, mae tri maen o'n blaen o fewn llathen i'r gareg allor, a draw o'r tuallan i r cylch allanol mae careg syth, yr hon sydd o faint anferth, ac a elwir The Pointer." Wrth edrych dros ei phen, gwelwn fod ei phen yn union yn gyfartal (level) a'r terfyn- gylch pell. Ar y dydd hwyaf mae'r haul yn codi yn union ar gyfer y maen hwn, a hyn yw'r achos y geilw'r Saeson hi "The Pointer." Y nos cyn y dydd hwyaf, bob blwyddyn, cyrcha canoedd o bobl i weled yr haul yn codi dranoeth. Tua deg llath ar hugain bob ochr, mae dwy o geryg ereill, a'r tri yma yw meini Plenydd, Alawn, a Gwron. Gwir enw y Pointer yw Alawn dros hwn, ar y dydd hwyaf, yr oedd Hu yn cael ei bortre- iadu yn rhoddi ei beraidd oslef dyma'r dydd yr oedd yn ei ogoniant-/|\—y dydd yr oedd y Sechina, sef y pelydr canol, yn myned yn syth i'r arch, sef y gromlech, ar y dydd hwyaf. Safai yr arch-dderwydd yn nrws y gromlech ar y dydd hwyaf :— Yn 01 y Gair (/|\) o'r orsedd hon, Y Gwyddon roes ei lafar Heb ddysgu'r gwir, 'does gobaith 'iwch Gael heddwch ar y ddaear. (Tw barium.) J

PONT YEATS.

[No title]

PONTLOTYN.

EISTEDDFOD PENCOED.

GLYNCORWG.

GOHIRIAD EISTEDDFOD (14EG…

ILLANELLI.

ABERAFON.

EISTEDDFOD PENBRE.

. TREDEGAR.

EISTEDDFOD Y MECHANICS' INSTITUTION,…

YMWELIAD A PHORTHCAWL.