Hide Articles List

13 articles on this Page

AT AELODA U BWRDD IEGHYD ABERDAR.

News
Cite
Share

AT AELODA U BWRDD IEGHYD ABERDAR. FOXEDDIGION,—Y mae yn ddrwg genyf fod rhyw annghydfod rhwng rhai ohonoch mewn perthynas i'r surveyor newydd, a hyny mi debygwn oherwydd fod un ochr o'r ddwy blaid wedi colli yn ei dewisiad, yn fwy na gwerth y surveyor. Gan fod yr achos wedi ei osod o flaen y Bwrdtl yn rhydd i bleidleisio fel y buasai pob un yn dewis, oni wyddai pob un ar y cychwyniad y buasai yn rhaid i un ochr golli, o ganlyniad, paham y grwgnechir, (ofer dadl wedi barn) Os ydyw y mwyafrif wedi bod yn annoeth yn eu dewisiad, tybed na wnawd yr un amryfusedd erioed o'r blaen yn y Bwrdd oddiar ei gy jhwyniad; nis gallwn wybod eto yn iawn a ydyw y dewisedig yn alluog ai peidio i wasanaethu y Bwrdd, ac os nad ydyw, oni ellir ei newid am well dyn. Yn wir, y mae rffyw annghydfod o'r nodwedd hyn rhwng aelodau y Bwrdd yn peri i mi wrido a chywilyddio fy mod yn drethdalwr yn Aberdar o gwbl. Hyn yw'r rheswm sydd gan rai o'r gwrthwynebwyr, sef o achos fod yn rhaid cael y drainage i weitbrediad yn fuan; y mae yn rhaid cyfaddef fod yr antur- iaeth yn bwysig, gan fod yn mryd y Bwrdd i gael yr arllwysfa tua chymydogaeth Caerdydd, yr hyn a gost yn agos i gan' mil o bunau. Yr oeddwn yn siarad a boneddwr o gymydogaeth Aberdar y dydd o'r blaen, sef un o'r bonedd- igion galluocaf yn yr ardal fel engineer, ac yr oedd yn dweyd ei fod yn benderfynol y gall- esid arbed miloedd yn y contract, trwy gael cyfleusderau i'w weithio i ben y mynydd, yr hwn le nad ydyw yn talu yn bresenol ond y peth nesaf i ddim, ac wrth gael y cynllun hwn i weithrediad y buasai y cynyrch yn deilliaw oddiwrth y tir braidd yn ddigon i dalu treth y Bwrdd lechyd, ac hefyd y buasai yr afiechyd yn cael ei godi yn ddigon uchel i'r awyr, a buasai hyny yn iechyd annhraethol i'r ardal, ond wrth gael yr arllwysfa rhyngom a Chaerdydd, y buasai yr afiechyd yn cael ei wasgaru trwy yr holl gwm, ac ar adegau y gallasai hyn ddwyn plaau trwy'r gymydogaeth. Cymered y Bwrdd hyn at eu hystyriaeth yn lie ffraeo a'u gilydd am y masgal a gadael y cnewllyn fyned gyda'r gwynt, a bydded i'r cadeirydd fod ychydig yn fwy pwyllogacym- gynghori mwy ag ef ei hun yn nghyd a'i frodyr. Os y bydd galwad gwnaf enwi y boneddwr, a gwn y bydd engineers y Bwrdd yn cydweled ag ef.—Yr eiddoch, TRETHDALWR.

Advertising

To America.

Advertising

(JODIDA JVGRJVYDD RHYFEDDOL…

" Y DDAU DYWYSOG."

YR ARSYLLFA.

Bwrdeisdrefi Caerfyrddin.

Yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig.

Masnach Haiarn a GIo. - Cyfarfod…

Family Notices

LLINELL Y "WHITE STAR" 0

Y WLADFA GYMREIG.