Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
T GAIR OLAF AT BR YTHONFRYN…
T GAIR OLAF AT BR YTHONFRYN ¿i'1 OYFFELYB. yy MK. GOL,—Paham y beia fy nghyfaill ^Brythonfrjn fy mod yn ymo!lwr?g i'r fath strains ? canys rhaid i'r ddesgrifiadaeth :fod fel y desgrifiedig. Hefyd, pwy oedd <ttwdwr y llythvrau lie rhoddwvd i'r Arch- <dderwydd yr enwau complimentary o epa a*gorilla ? &c. Os na ddyred fy nghyfaill Brythonfryn omai ei gerdd anwyl ef oedd 51' oraf," mai yn ddigou fimiwg ei fod yn credu hyny, neu ynte i ba bwrpas yr oedd yn ei chy- Wddi ? a phdham y mae yn darostwng yr Un fuddugol gymairit ? Medd ein cyfaill yn mhellach —" Dy- "Wedaflom wrth ein cyfaill Kssvllt, pan yn ei lwtnrii yn Mhontvpridd, nad oeddem yn tJoleddu yr un anvraddiriedaeth yn ngonest- *wydd beir?tia'iol y prif-tardd Islwyn, ond ifod yn dra thebvg—fel yr oedd beirdd o allu wedi f" hysbysu—fod rhyw blunder Hredi ei wneyd yn nghylch y duchaegerdd ^lywsut neu rywfodd Wel, yn enw pob a'heswm, o ba le y daeth y eyfryw blunder ? Pa un ai oddiar anwvbodaeth neu oddiar ^tmgh^fUwnder vn Islwyn? Paham na -Atebir cwestiynau plaen ? Ond y mae gan ein cyfaill Brythonfryn feirdd o allu," (!) a llythyrau oddiwrth "feirdd na fyddai raid iddynt gywilyddio (y mae rhai yn amddifad o'r teimlad hwnw) tangos eu hwynebau tua Phontypridd, na ■chystadlu a'r beirdd sydd yno, yn traethu "tu bod yn hollol gydolygu a'r hyn a ysgrif- •"enasom." Wel, fe all y" beirdd o allu" iyn -1 gystadlu a gwyr Pontypridd," a phob |>ont arall, megys ag y mae Brythoofryn ei 1]1\1n yu gwneuthur; ond y mae gwahan- iaeth mawr rhwng "cystadlu" a buddug -oliaetbu. Y mae ein cyfaill yn sicr o fod yn siarad yn groes i brofiad ac argyhoedd- iad calon ei hun; ac os yw ei feirdd o -allu vn cvdoiygu ag ef, y maent o angen- Theidrwydd yn annghydweled ag Essyllt ac 3g Islwyn ac y mae iddynt bob groesaw i sganlvn eu opposition leader newydd ac ^nrhydeddus. Ni ddarfu i mi wawlio englyn Tfiliesin o Eifion, fel yr haera fy nghyfaill; ond "dangosais ychydig o'i annghyaonderau; ac tis oedd y rhai hyny vn ludicrous, nid fy Tnai i oedd hyny, canys rhaid i'r ddesgrif- iadaeth fod fel y desgrifiedig. Hen arfer front ac iselwael yw benthycio anwireddau i gynal ein haeriadau a'n hopiniynau ein 3iun, megys ag y gwna Brythonfryn yn ei tmragraff hwn,-u Am yr englyn hwnw dywedodd Kmrys pan yn ei feifniadu, y fouas-ii yn falch o fod yn awdwr iddo" Och fi! s, mae Emrys yn awdwr i englyn- ion y milwaith gwell na hwna, ac i awdlau y milwuith gwell na "pila pala Pwllheli. 'Os oedd englyn Y Lloer mor odidog ag Y dywed Brythonfryn, ac mor fawr yn Hgolwg ei feirniad Emrys, paham, yn enw pob rheswm, yr ataliodd y wobr oddiwrtho ? Yr wythnos hon yn unig y clywais fod yr ■caglyn uchod yn un cystadleuol, ae y clyw- ais hefyd mai Emrys oedd y beirniad, ac iddo ddwevd ei fod yn rhy ffugvrog," ac "4t nad oedd i fyny i'r pwynt." Dyna wir- ionedd yn awr; a phabam y gwyrdroa Brythonfryn (ond dyna yw ei arfer) ffeith- iau er ateb dvbenion gau ac annheilwng ei tun Tybia Gohebvdd Llundain fy mod i, ^fallai, yn un o feirniaid yr englyn. Wel, Hag oeddwn i; ond pe buaswn, buaswn yn hollol gvdolygu ag Emrys yn mherthynas iddo; a phe na buasai ond ei hun yn y -gystadleuaeth, ni fuaswn fyth yn gwobrwyo y fath gruglwyth o ddylni. Y mae gan ein cyfaill, medd ef, ryw lawer « feirdd o safle yn Aberdar a Merthyr ag zydd yn cydolygu ag ef." Wel, er mwyn "ell hanrhydedd eu hunain, yr wyf yn go- beithio nad ydynt; yr wyf yn meddwl yn Siwr y bydd iddynt ffeindio eu hunain yn y wrong yn ol i'r dwymyn gollwobrwyol fyned heibio, ac y bydd iddynt edrych gyda ffieiddiwch ar eu Chartist hader llenyddol hwn. Ond y mae ein cyfaill yn Wriadu ysgrifenu llith neu ddwy eto ar qeitbi y duchangerdd Os gwna, efe a ysgrifena ar beth nad yw yn ei ddeall, ac a "Wna eto exhibition anrhydeddus ohono ei ''hun. Er mwyn pob peth, fy nghyfaill brythonfryn, "trugarha wrthyt ti dy hun." Yr ydym yn gobeithio na fydd i awdwr Llythyr Llundain ddigio wrthym pan ddywedwn wrtho nad yw yn hysbys yn ^lfenau beirniadaeth o gwbl, neu ynte ni Allasai byth gymeradwyo y fath gruglwyth gau-ffugyrog ag yw englyn y Lloer "— englyn yn cynwys dim ond ffugyrau, a'r ffugyrau hyny heb fod wedi eu sylfaenu (gyda chydweddiad) ar unrhyw ffaith neu phenomenon mewn natur, nac ar un arferiad tnewn cymdeithas, gwlad, na chenedl. Os ^th yr hen fugeiles" hon, yn y dull ludic*ou» hwn allan i geisio ei gwr, y mae yn rhaid mai rhyw greadures eccentric iawn ydoedd y mae yn rhaid, fel ag y dywedir, tod colled ami, a "cholled" ar bawb ag a allant gymeradwyo ei hymddygiadau dyeithriol. Nid oes eisieu amlycach ar- ^"yddion o fasder amgyffredion beirniadol 8r neb nag sydd ar y rhai ag a allant gymeradwyo, a galw pethau ludicrous fel yn yn farddoniaeth! Mae yn rhaid i bob ffugyr, cyn yr etyb ei ddyben, fod wedi ei sylfaenu naill ai ar ffaith, rheswm, neu athroniaeth; ond nid yw cynwys yr englyn hwn wedi ei sylfaenu ar un ohonynt. Ei unig dlysni yw ei gynghanedd. DEWI WYN 0 ESSYLLT. MR. GOL.—<^an fod y brodyr o Bontllan- fraith a Phontypridd wedi myned mor an- ffaeledig gyda golwg ar y duchangerdd, a'r cyntaf wedi dweyd y buasai yn atal y wobr oni b'ai fod Twm o'r Nant i fewn, darfu i ninau o gywreingarwch a dyddordeb llenyddol, anfon cerddi "Twm o'r Nant," "Brython," ac "Awdwr oLys Ceridwen," at y ddau brif fardd sydd yn awr yn fyw, sef Hiraethog a Gwalchmai, heb yr enw priodol wrthynt, ac y mae ddau veteran barddol yn unfryd unfarn wedi tystio mai "A wdwr o Lys Ceridwen (sef Brynfab), yw y goreu, ac y mae Hiraethog wedi datgan fod "Brython" yn ail oreu. Dyna farn y ddau fardd Cymreig penaf sydd yn fyw.—Yr eiddoch, ARSYLLYDD. O.Y.—Wedi ysgrifenu yr uchod gwelsom lythyr yn y Fellten, o eiddo Dewi Wyn, yn dal Hiraethog a Gwalchmai i fyny fel dau allan o haner dwsin o brif feirniaid y genedl. Dyna'r ddau gawr-fardd hyny yn ei erbyn. I ba le y try mwyach ? Y mae adeiladwaith Pontypridd yn malurio yn ganddryll man.—A MR. GOL.Gallasem feddwl, ar ol yr holl ysgrifenu sydd wedi bod ar y duchangerdd, ac ar ol cyhoeddiad pedair o'r pethau disylwedd hyny yn eich colofnau, y buasai Brythonfryn a'r Gwyn o Essyllt yn gwylied rhag syrthio i'r bai o ddefnyddio geiriau Seisnigyn gymysg a'r Gymraeg. Wele restr sydd yn ddigon i godi gwrid i wyneb pob un nad yw wedi ei lyncu gan Ddic-Shon-Dafyddiaeth !-rhestr yw yr un ganlynol brofa nad yw "tuchan" yr Haran wedi cael nemawr effaith yn Aberdar a'r Bont, o leiaf Bonfires, strain, viragos, idiots, common sense, honour, blunder, dictator, for granted, nonsense, veterans, grotesque, absurd, North, South, sport, odds, teens, eightyone ton guns, charge, surcharge, document, &c. Bobl anwyl, a ydyw Dewi Wyn a Brython- fryn yn ymborthi ar eiriaduron Seisnig ? geiriadur yn foreufwyd, un arall i ginio, ac un drachefn i swper Ofer, mwyach, i bwyllgorau eisteddfodau gynyg gwobr am gerdd o duchan i hiliogaeth "y gwr a'r pastwn onen," eithr cynygier gwobr i ymgeisydd fedr lyncu y nifer fwyaf o gopiau o eiriadur Webster, yr argraffiad eyflawnaf, wedi ei rwymo yn hardd mewn croen llo os gwneir hyn, gwn am brydydd yn Aberdar abardd o'r Bont fyddant yn sicro ymgeisio.—Yr eiddoch, MANHATTAN. O.Y.-Os ymddengys rhagor ar ffrwgwd y duchangerdd, hwyrach y byddaf yn eich tra- fferthu a rhestr arall o eiriau Seisnig cyn hir. ymgeisio.—Yr eiddoch, MANHATTAN. O.Y.—Os ymddengys rhagor ar ffrwgwd y duchangerdd, hwyrach y byddaf yn eich tra- fferthu a rhestr arall o eiriau Seisnig cyn hir. [Nis gallwn gyhoeddi rhagor ar lielynt y duchan- gerdd.—GOL.]
TYSTEB Y PARCH. W. THOMAS,…
TYSTEB Y PARCH. W. THOMAS, ROOK, CWMAFON. MR. GOL. ,-Mae yr achos teilwng hwn o flaen y cyhoedd er ys rhai misoedd, a chymer- ir ef i fyny gan rai o brif ddynion y sir a chanmolir y symudiad gan y Wasg Seisnig yn ogystal a chan lawer o newyddiaduron Cymreig. Mae enw Mr. Thomas, Rock, yn hynod adnabyddus yn Neheudir Oymiu fel un o brif arwyr ein cyfarfodydd chwarterol, blynyddol, a chymanfaol. Mae ei hyawdl- edd, fel pregethwr, y fath fel y gwna i'w wrandawyr wylo a chwerthin ar yr un foment; felly y teimlem eleni wrth ei wrando yn nghymanfa Cwmbach, Aberdar. Yr oedd yr hen dad William Bevan, Mountain Ash, wedi yfed mor helaeth o'r cwpanaid melus oedd gan Mr. Thomas, fel yr oedd wedi meddwi yn hollol ar win goreu'r Efengyl. .Y Ni allasem, am y byd, lai nag wylo a chwerthin ar yr un pryd wrth weled yr hen frawd yn curo cefn Mr. Thomas ar y stage, a'r hen weinidog anwyl, yn ei hwyliau goreu, yn esgyn ac yn disgyn hyd risiau y raddfa, yn neillduol ei bumpawd swynol o A i E; a'i ymadroddion yn adfachu yn nghalonau y dorf. Braidd nad allem ddweyd am ei ddy- lanwad, Yl1 ami, wrth ei wrando, Gyr galon graig i wylo." Gresyn fod cymeriad mor anwyl, swynol, car- edig, ac athrylithgar, yn myned yn hen. Mae efe, bellach, wedi llafurio'n galed yn ngwinllan ei Arglwydd, yn nghylch y weinid- ogaeth, am fwy na deugain mlynedd. Er mai Annibynwr egwyddorol ydyw-eto, cerir a pherchir ef gan wahanol enwadau o Grist- ionogion fel gwr Duw, ac un sydd ar ei oreu am gael y byd i Grist. Blin iawn genyf fod amgylchiadau Cwmafon a'r cylchoedd yn isel Ily yn bresenol, fel y teimla ambell un ei galon yn gwaedu am na allai gyfranu yn ol dymun- iad ei enaid at dysteb yr hybarch Mr. Thomas. Wel, gwneled pob un ei oreu ac yna, ni fydd achos cywilyddio llawer pan gyflwynir y god a'r cyfoeth i Mr. Thomas. Mae llawer o gynaelodau ei eglwysi, yn nghyd a llawer o ddeiliaid eu Hysgolion Sabothol, a thyrfa fawr o'i gyfeillion, yn wasgaredig yn Morganwg a Mynwy, &c. Nac annghofied y eyfryw eu hen weinidog flyddlon pan y dangosir yr arwydd hon o barch iddo gan dorf o'i gydgenedl dwym-galon. Er mwyn yr achos a'i edmygwyr, na chloed y pwyllgor y coffr cyn diwedd Medi os yw bosibl. Hwyrach y bydd gwawr wan yn ymdori, erbyn y pryd hwnw, ar amgylchiadau rhai sydd yn teimlo'n llwfr a digalon. Boed felly yw dymuniad fy nghalon, a chwydded y drysorfa y tuhwnt i ddysgwyliadau uchaf y wlad. Aberafon. R. AB MORGAN.
IYSBBYDEGWYR—BETH AM DANYNT?
I YSBBYDEGWYR—BETH AM DANYNT? Mn.. GOL. Deallwyf fod y llythyr a ysgrif- enwyd genyf at y Parch. Taliesin T. Jones mewn perthynas i'r bregeth ar Ysbrydegaeth wedi crou tipyn o ddadleu yn y lie hwn, ac fe ymddengys i mi fod rhai dynionach wedi bod yn ceisio darbwyllo Mr. Jones mai yr unig amcan genyf mewn golwg oedd cael Mr. Jones i'r maes i mi gael cyfleusdra i'w 'drin,' a lied debyg mai dyna yr achos na wnelai ateb fy llythyr. Mae yn wir ddrwg genyf fod y fath chwecllau wedi cael eu taenu, canys nid oeddwn i wedi meddwl tramgwyddo neb pwy bynag wrth anfon fy llythyr i'r GWLADGARWR, ac y mae genyf bob parch i Mr. Jones, a gobeithiwyf na fydd iddo fyntumio urirhyw feddyliau gwalianol. Credwyf fod pregethu a darlithio yn bethau cyhoeddus, a thrwy hyny y mae gan y cyhoedd hawl ar y cyfryw, yn enwedig ar destynau o fath yr uchod, oblegyd fod y werin anwybodus mor barod i gredu cyfeiliornad; ond wrth ddweyd hyn, na feddylied Mr. Jones fy mod i yn un o'r cyfryw sydd yn dyfod i wrando yn feirniadol. Cawn lawer o ddynion nad oes gwahaniaeth yn y byd ganddynt pa beth fyddo sylwedd y bregeth neu y ddarlith os cant ddigon o swn a difyrweh, cael pregethwr a fyddo yn gallu canu hen don "Bryniau'r Iwerddon" yn weddol, dyna eu dyn hwy, 'does dim gwahan- iaeth am y sylwedd, (ond na feddylied neb fy mod yn awgrymu at Mr. Jones yn y fan hon.) Anwybodusion ydyw y rhai hyn, ac nid yw yn un anrhydedd i Mr. Jones i dderbyn eu canmoliaeth, nac yn un sarhad arnaf finau i gael vote of censure oddiwrthynt. Nid oedd- wn i wedi meddwl dim yn amgen na chael tipyn o ymgom diniwed ar y pwnc, a gwyntyllu ychydig ar Ysbrydegaeth mewn athrawiaeth iachus. Dywedir wrthym fod y Cymry yn hynod o ofergoelus hyd yn ddiweddar iawn, ac mai goleuni llachar Seren Gomer, o dan olygiaeth yr anfarwol Harries, gynt o Aber- tawe, ddarfu glirio y canwyllau cyrff a'r bw- bachod, &c. allan o'r wlad. Ond gallaf eich sicrhau na fwriwyd ymaith yr uchelfeydd hyd y dydd hwn, ac y mae rhai o'r bobl yn parhau i addoli yn Dan a Bethel. Gelwir yr oes bresenol "yr oes oleu hon," ond yr ydwyf fi bron yn amheu gwirioneddolrwydd y fraw- ddeg uchod, canys y mae tywyllwch dybryd yn llochesu yn mhlith y bobl, ac yn ddiamheu- ol genyf y gwna y GWLADGARWR ei ran i oleuo ein cenedl fel y Seven Gomer gynt, ac i chwil- friwio cestyll o gyfeiliornadau. Y mae hen ddynes yn byw yn y lie hwn yn cymeryd arni ei bod yn alluog i ddweyd tesni, neu hysbysu anrhyw beth a fyddoch yn ymofyn am ychydig o dal, ac y mae yn gallu codi cyrff y meirw; mewn gair, mae yn gallu gwneuthur pob peth ond cael ychydig o bres. Y mae hon yn llawn mor gyfrwys a'r ddewines o Endor pan yn chwareu ei thwyll a Saul, trwy adgyfodi Samuel y proffwyd, a chwi rhyfcddech faint o fechgyn a merched, a rhai hyny yn arddel crefydd sydd yn mynychu ei thy i gael eu fortunes wedi eu dweyd. Un peth sydd sicr, ei bod hi yn gwneuthur fortune lied dda ohonynt hwy. Yr wyf fi wedi rhyfeddu lawer gwaith pa fodd y gall dynion fod mor dywyll, canys nid yw yr hen greadures uchod ond y gwaelaf o bob gwehilion, a phe caniataem ei bod yn derbyn hysbysrwydd oddiwrth y diafol, onid y gwr du ei hun yw celwydd, a phwy, yn ei synwyr cyffredin, sydd yn myned i ymofyn gwir at dad y celwydd ? Ychydig flynyddau yn ol, aeth un Enos Eastwood, o swydd Oneida, talaeth New York, America, ar fordaith i ddal morfilod, ac ni chlywyd un gair oddiwrtho am saith mlynedd; yn eu gofid a'u pryder yn ei gylch aeth eu berthyn- asau at rai o broffeswyr y spirit rapping, i edrych a allent roddi hysbysrwydd yn nghylch y dyn cyfrgolledig, a dywedodd dau ohonynt yr un fath yn hoik 1 am dano, er eu bod yn byw filldiroedd oddiwrth eu gilydd, gan enwi lie, amser, a holl amgylchiadau ei farwolaeth yn fanol. Ond yn ddiweddar, er llawenydd i'r galarwyr ac er siomedigaeth a chywilydd i'r ysbrydegwyr twyllodrus, pwy a ddaeth adref at ei deulu yn fyw ac yn iach ond Enos Eastwood. Nid oes dim ond twyll yn nglyn a'r fusnes hon yn mhob oes o'r byd; nid yw yn un rhyfeddod genym fod dynion yn ceisio cael adnodau o'r Bibl dros eu credoau ofer- goelus,, y mae cyfeiliornwyr bob amser yn' gwneuthur hyny, y mae y diafol ei hun wedi gwneuthur hyny cyn hyn. Camesbonio y maent i ateb eu dybenion eu hunain; felly, ffolineb yw meddwl fod yn rhaid i bawb i roddi fyny i bob math o bregeth a darlith hwesteraidd a glywir hyd yn oed yn yr "oes oleu hon." Rhaid i mi bellach roddi yr ysgrif- ell heibio ar hyn o bryd rhag eich blino a meithder, a dychwelwn at y pwnc rywbryd eto pan gaffom liamdden.—Yr eiddoch, IAGO AP RHYS.
YSBRYDEGAETH YN YSTRADGYNLAIS.
YSBRYDEGAETH YN YSTRAD- GYNLAIS. MR. GOL. ,-A fyddwch chwi mor garedig a rhoddi lie i'r ychydig sylwadau a ganlyn yn eich colofnau, y rhai wyf Y11 ysgrifenu ar gais amryw bersonau cyfrifol yn y lie hwn. Ni wnaf sylwi ar fasnach y lie, eithr ym- driniaf a rhai o'r dosbarth hwnw sydd yn dod dan yr enw crefyddwyr. Gwn nad yw yn weddus i ymdrin a phynciau crefyddol mewn newyddiadur, ond pan welaf grefyddwyr yn cyfeiliorni a chellwair nis gallaf lai nag anerch y cyfryw drwy gyfrwng cyhoeddus, fel y gallo pob un sydd yn caru y gwirionedd farnu yr hyn sydd gywir. Gwaith y dynion yw honi y gallant siarad ag ysbrydion- dynion wedi iddynt ymado a'r fuchedd hon. Nid yw wahaniaeth pa un ai yn y gwynfyd ai ynte yn "y lie poenus" y bydd yr ysbrydion hyn, fe hona yr ysbrydegwyr y gallant ymddyddan ac ymgyfeillachu a hwynt yn rhwydd a di- drafferth. Yr wyf fi, fel Iluaws o'm cyfeillion crefyddol yma, yn synu am ddynion sydd yn dal cysylltiad ac eglwys Duw (a rhai ohonynt yn dal swyddi uchel a chyfrifol yn nglyn a'u henwadau) eu bod yn ymyryd ar, fath gybolfa o ffolineb a lioced. Haerant eu bod yn medru dal cyfrinach a'r ysbryd yri union wedi yr ysgarir y materol a'r ysbrydol gan angeu. Clywais ddweyd eu bod yn siarad ag ysbryd dyn ieuanc o'r^rdal hon, yr hwn a fu farw oddeutu blwyddyn yn ol, a'i fod ef yn yr ail ddosbarth yn y nefoedd. Mae yma un arall wedi marw ychydig wythnosau yn ol, ac y mae y si ar led eu bod yn myned i geisio gwybod pa le y mae ysbryd hwnw yn trrgianu. Onid yw ymddygiadau o'r fath yn rhyfygus i'r pen, ac yn ddirmygar yr hyn a broffesant Gobeithio, cyn yr ysgrifenaf ar y pwnc eto, y bydd i grefyddwyr Ystradgynlais ddiwygio, a byw yn deilwng o honynt eu hunain, yn lie bod yn wawd i wyr y byd.—Yr eiddoch, BRYCHAN TAWE.
DAFYDD MORGAN (DAI O'R NANT),…
DAFYDD MORGAN (DAI O'R NANT), A'R "SLIDING SCALE." IV. MR. GOL.,—Gorchwyl lied annymunol genyf oedd bod yn ddystaw cyhyd ar bwne yn dal cysylltiad mor bwysig ac uniongyrchol ahywioliaeth miloedd gweithwyr gorthrymedig Deheudir Cymru. Cefais fy ngorfodi i wneyd hyn oddiar yr angenrheidrwydd o gael atebion i'r gwahanol gwestiynau y darfu i mi gyfeirio at D. M., er dyogelu fy hun rhag syrthio i amryfusedd o flaen llygaid y cyhoedd, yn nghyda'i ystyfnigrwydd a'i an- foneddigeiddrwydd ef yn gwrthod rhoddi i mi yn ol fy nghais. Ond, fel ag y mae amser yn dyfod & phethau oddiamgylch yn eu tro, folly hwn; cefais yr hyn oedd yn angen- rheidiol arnaf wrth ohebu a Mr. Wm. Abra- ham (Mabon), i ba un yr wyf yn dymuno cyflwyno fy niolchgarwch. Yn awr, ynte, at bwnc y safon. Gellir dweyd, braidd, fod hwn yn bwnc newydd, oblegyd, yn ol yr "hen oruchwyliaeth," nid oedd unman yn gosod terfyn ar y gwahanol ostyngiadau ag oeddem yn eu cael o bryd i bryd. Yr oedd hyn yn esgor ar annghydfod a strikes beunyddiol rhwng meistri a gweith- wyr, am fod yr olaf yn hawlio llais yn ngwerthiad eu llafur, yr hyn, yn ol fy marn fach i, sydd yn deg a chyfiawn. Hyd y flwyddyn '75, yr oedd holl ymdrechiadau y gweithwyr, braidd, yn aflwyddianus, ac yn syrthio yn brin o gyrhaedd yr amcan mewn golwg. Ond, ar ddiwedd strike bythgofiadwy '75, llwyddasom i gael y meistri i wrando ar lais rheswm trwy gydsynio a ni i -sefydlu Bwrdd Cymodol, ac i'r Bwrdd hwnw i ystyr- ied a gosod safon gyfiawn rhwng meistri a gweithwyr, gyda'r amcan o roddi terfyn ar drais a gormes y meistri, a gwneyd ffwrdd a'r holl strikes a'r lock-outs; a thrwy hyny, sefydlu heddwch rhwng y ddwy blaid. Bell- ach, mae y Bwrdd wedi ei sefydlu—amser wedi cael ei wario-arian (canoedd o bunau) wedi eu treulio—a'r Bwrdd wedi esgor ar safon i reoleiddio cyflogau; neu, mewn geir- iau ereill, bywioliaeth uniongyrchol rhywle tua dau can' mil (neu fwy) o drigolion Deheu- dir Cymru ac fel y maeyn ofidus genyf gof- nodiy ffaith, y mae y gweithwyr wedi cael eu hamddifadu o'u cysuron teuluaidd a chymdeithasol, ac o'u hiawnderau cyfreith- lon-y cwbl wedi myned yn aberth ar all or annghyfiawnder trwy esgoriad safon newydd- anedig y sliding scale. Yn awr, ynte, am y prawf. Wedi neu cyn i etholiad aelodau y Bwrdd gymeryd lie, ffurfiwyd pwyllgorau i dvnu i fvnv "safon gynygiedig" i roddi i bump cynrychiolydd y gweithwyr i fyned gyda hwy i Gaerdydd ac wrth hyn, yr wyf yn ystyried i ni amlygu ein golygiadau ni, fel gweithwyr, ar y pwnc bid sicr, canys anfonwyd y "safon gynygiedig" hon i'r gwahanol ddosbarthiadau, er iddynt amlygu eu barn ami a chan i hono gael ei chymer- advvyo genym, yr oeddem yn trosglwyddo y cyfryw i ymddiriedaeth ein cynrychiolwyr, ac wrth y weithred hono yr oeddem, debyg- wn i, yn lied awgrymu iddynt mai hon oedd eu limit hwy, gan ein bod o'r farn fod y "safon grybwylledig" yn un gyfiawn rhwng meistri a gweithwyr, a bod clychau rheswm yn adseinio o'i phlaid. Cymerodd ein cyn- rychiolwyr arnynt y cyfrifoldeb o'n cynrych- ioli (sef ein golygiadau ni wrth gwrs) a chymerasant gyda hwy y gwahanol "proposed basis (glo tai ac ager), pa rai oedd yn cynwys ein golygiadau ni. Cynygiwyd hwynt i'r meistri, ond gwrthodwyd hwy. Yn awr, ynte, mae dau gwestiwn yn tarddu oddiar y gwrthodiad hwn, sef, a oedd ein dynion ni yn analluog i ddwyn yn mlaen resymau digon cadarn i bleidio ein hachos, ac i ddangos y tegwch a'r priodoldeb o gael y safon hono i reoleiddio ein cyflogau ar egwyddor y sliding scale? Neu, ynte, a oedd y meistri, er holl resymau cryfion ein cynrychiolwyr ni, yn gwrthod rhoddi mewn i lais rheswm a chyfiawnder ? Y mae un o'r ddau, a bod yn sicr. Wei, o barth i'r blaenaf, yr wyf yn amheus fod pob un ohonynt yn ddigon gallu- og, er fy mod yn credu fod dau ohonynt, braidd, yn gewri diguro ond a chymeryd i ystyriaeth y naill beth a'r llall, yr wyf yn dyfod i'r penderfyniad mai yr olaf oedd yr achos o'r gwrthodiad. Ac i gadarnhau fy nhybiaeth, dywed D. M., yn un o'i lithiau, nad "oedd dim yn tycio y meistri, fod yn rhaid iddynt hwy (sef y meistri) gael y cwbl neu ddim." Dyna i ti, ddarllenydd, eiriau D. M. ei hun. Ai dyma yr "ysbryd priod- 101" oedd arnoch chwi, D. M., ofn ei golli wrth gynal y cyfarfodydd yn gyhoeddus ? Gwarchod pawb! Wei, yn ngwyneb bod y meistri yn gwrthod dadleu yn deg, beth oedd dyledswydd ein cynrychiolwyr ni yn yr amgylchiad I Taflu y pwnc, meddaf, i ganol- wr. "Na," medd D. M., "nid oedd y meistri yn foddlon." Wel, boddlon ai peidio dywedaf inau, onid oeddynt hwy wedi cael eu rhwymo wrth y cytundeb a lawnodwyd ganddynt yr un peth a ninau? Oeddent; I ond trwy eich llwfrdra chwi a'ch bath, cafodd y meistri ffordd eu hunain yn rhydd, a chy- chwi oedd yn dweyd mai anfoneddigeidd- rwydd ynom ni fuasai en gwrtlvwynebTi. Ffei! onid mwy gweddus ynoch fuasai cyhoeddi mai anfonerddigeiddrwvdd y meistri oedd y rheswm ein bici ni wedi cael y fath delerau gwaradwyddus 2 Hyd yr wythnos nesaf, byddweh wych.-Yr eiddoch, Deri, Gorph. 22ain. JOHN LEWIS.
Y WLADFA GYMREIG.
Y WLADFA GYMREIG. 187, Calle San Martin, Buenos Ayres, Mehefin 7, 1876. At Mr. N. M. Jones, Syr,—Yn ol fy addewid wrth ymadael a chwi yn Lerpwl, yr wyf yn anfon y Jlinellau hyn atoch, wedi treulio 33 o ddyrtdiau ar ein taith rhwng Lerpwl a Buenos Ayres, oherwydd gorfod galw yn Madeira a Rio Janeiro, Monte Video. Felly, tyner allan o'r cyfrif bedwar diwrnod. Gorfu arnom dreulio saith dnvrnod ar fwrdd hen agerlong cyn cael tirio yn Buenos Ayres, oblegyd fod yn rhaid treulio pymtheg diwrnod ar ol Rio cyn tirio, am fod y dwymyn felen mor ddrwg yno— pedwar cant y dydd yn marw oddiwrth.i Wedi tiros pedwar diwrnod yn y dref hon cawsom glud- iad yn y schooner Gwenllian tna'r Gamwy. Wedi cael gwynt croes yr holl daith cyrhaedd- asom yr unfed diwrnod ar bymtheg, ac wedi ymgynghori tiriasom yn y cwch trwy y break- ers oedd rhyngom a genau yr afon. Mae y Gamwy (Chubut, yn Yspanaeg) yn anhawdd i'w gweled o'r mor, nes bod yn eu genau. Aeth y cwch a ni fynu tua milldir, a cherdd- asom rhwng pump a chwech oddi yno i Dre- rawson, dros dir heb borfeyn yn tyfu arno. Yr oeddwn yn meddwl y buas tl yn gwella- erbyn cyrhaedd Trerawson, ond nid felly yr oedd. Cynwysa tua ugain o dai, rhwng dau ystordy, y rhan fwyaf o honynt wedi eu hadeiladu o briddfeini heb eu llosgi, a llaid. Trwy i'r llong fethu dyfod i'r afon gyda'r llanw, gorfu arni aros pythefnos arall, a thrwy hyny methais cael fy eiddo allan o honi. Yn lie aros yn segur, trwy fod fo offer yn y llong cychwynais fyny tua'r wlad. Mi gefais fach- gen i ddod gyda mi yr hwn, fel finau, oedd wedi bod yn Awstralia. Cerddasom am saith diwrnod, gan aros weithiau i dreio y tir. Wrth ddyfod yn ol yr oeddwn yn tori troion yr afon allan, ac felly dychwelais mewn pump diwrnod. Yr un oedd yr olygfa o hyd—dim ond gwlad noethlwm, heb ddim porfa n3. choed. Mae rhyw yphydig y goed (tebygi berth) ar lap yr afon math o helyg ydynt yn tyfu tua saith neu wyth troedfedd o uchder. heb ddwy droedfedd yn gymwys. Dyna goed Patagonia i chwi. Y mae y dyffrynoedd yn dir da yr olwg arno, ond oherwydd fud can lleied o wlaw yma, y mae y wyneb fel snuff, a chwytha y gwynt nes dynoeth. gwreiddiau y llysiau i'r haul, nes y maent yn meirw. Naill ochr i'r dyffrynoedd mae y tir yn codi troedfeddi yn uwch. Dyma y diffiiethwch, ac nid oes arno ond ceryg n1:111 a choed drain- og. Dyma sydd gan y trefedigaethwyr er cyneu tan, heblaw torn gwartheg wedi syehn. Crwydra'r trigolionyn ygauaf. oherwydd nid oes ond ychydig dan i'w cysuro. Mae yr holl bobl ddaethant allan ddiweddaf yn ewyno yn fawr oherwydd nad ydynt wedi cael dim o'r pethau hyny addawyd iddynt. Y mae tua deg ar ug;un o deuluoedd neb gael eu tir eto, a'r mesurydd wedi gadael y w^ad, a. rhai o'r bobl oeddynt wedi adeiladu tai cyn cael eu tir yn awr yn ei golli, trwy eu bod ar dir ereill. Ni chawsant yr un fllwch na cheffyl, ond gorfu ar y rhai oedd a thipyn o arian ganddynt brynu gan yr hen v. lad fa wyr, a'r rhai hyny wedi cytuno a'u gilydd i godi y prisoedd allan o gyrhaedd dynion tlawd- buwch o naw i ddeg punt, a'r ceffylau yr un fath ac y mae gafr dda lawn cystal a'r fuwch. oreu yn y Wladfa. Pob un sydd wedi prynu buwch neu geffyl ni chaiff ddim hwyd oddi- wrth y Llywodraeth, hyd nes y gwertho y cyfryw, ac y byddo heb ddim ar ei enw. Mae ar yr hen wladfawyr ofn gwelcd y newydd- ddyfodiaid yn myned o'u blaenau hwynt. Mae y dosbarth blaenaf wedi bod yma nil-ar ddeg o flynyddau, ac nid oes ond un "gored" yma eto, a gallweh amgyffred pa faint o ddwfrhau sydd yma. Fe gyhuddir y Cymry yn Buenos Ayres o fod yn fobl ddiog ond y ffaith yw y mae di- ffrwythder y wladfa me r druenus fel nad oes anogaeth i neb aros yno. Dynion jTdynt wedi enill enw da am ddiwydrwydd a gwelti-ar- wch yn America ac Awstralia yn cael eu galw yn segurwyr yma Mae yr hen wladfawyr yn canmol y wlad oherwydd eu bod wedi cael deg neu ddeuddeg bwsel ar ugain o wen- ith i'r erw, a dim ond liau deugain pwys i'r erw. Da iawn ond pan byddo yr afon yn digwydd peidio codi, dyna ddeugain pwys arall yn myned am ddim. Hefyd, nid dwy- waith y mae yr afon wedi methu, eithr, nid oes ond dau gynhauaf priodol wedi eu cael drwy yr holl flynyddau. AilWyl syr, chwi allwch ddweyd wrth y rhai sydd yn credu mai Cymraeg yw iaith y wladfa i fod, mai cyfeiliornad yw hyny. Fe ddeallodd y Llywodraeth fod y Cymry yn bwriadu meitlirin yr hen iaith ac fe ddy- wedodd y swyddog ymfudol wrthyt os na. ddysgid Yspaenaeg i blant y wladfa, na chan- iateid iddynt yr un cymorth at ysgol oddi- wrth y Llywodraeth hefyd, y bwrledid anfon dau neu dri chant o Ysbaeniaid ac Italiaid i gyd-sefydlu a'r Cymry. Danfonwyd wyth a. deugam allan o Ffestiniog i Patagonia, ond wedi iddynt gyrhaedd Buenos Ayres ni chawsant fyned i'r lIe y bwriadasant, ond gyrwyd hwynt i fyny i Reconquista, ar afon La Plate (yn nghyhydedd 29 neu 30) y maent yn cael ychydig gan y Llywodraeth er eu cynal, ond y maent ar gyffiniau yr Indiaid, a'r rhai hyny yn lied ryfelgar. Paham na* buasent yn rhoi y cymorth hyny i'r wladfa, a'u gyru hwynt yno ? Oherwydd nid ydynt. am gael gormod o Gymry gyda'u gilydd; ac y mae son yma fod Yscotiaid i ddod allan i afon islaw y Gamwy. Gwell iddynt aroa