Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
! BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. ( UTHB, PENI>RAGOX.— Cydolygwn a llawer o gy- nwysiad eich llythyr, ond gwell gadael y mater yn ddisylw bellach. J. TALIEHlN. Gwych genym ddeall fod pobl dda Rhosmaen yn ymdrechu o Maid darlleniac1 a lledaeniad y Gair. Nid oes dim yn eich ysgrif yn galw am gyhoeddusrwydd. Z.-Ilhodder prawf teg i egwyddorion y Bwrdd Cymodol cyn ei condemnier. Hwyrach y try pethau allan yn fwy dymunol maes o law. T. G.—Arall wedi blaenu arnocli y tro hwn. Diolcli, er hyny, am eich gofal. D. WILLIAMS (Sciwen). Ydym beunydd yn barod i gywiro ysgrifau gwallus, ond nis gallwn fforddio amser i'w hail-ysgrifenu. Y mae eich llythyr yn hollol annealladwy. Ceisiwch gan gyfaill i osod eich cwynion ar bapyr. Aelod rAKALL.— Ni ddeillai un lies o gyhoeddi eich llythyr. Dylid ceisio ymheddychu, yn hytrach na gwneyd y drwg yn waeth drwy lusgo y mater i golofnau newyddiadur. lINsEW AS (neu rywbeth tebyg)—Mae y gohebydd wedi cyfeirio llythyr atom dan y penawd « Cymeriadau." Teimlem yn dra diolchgar i'r awdwr am alw heibie'r swyddfa i'w ddar- lIen; yr ydym ni wedi methu. lOAN BACH. — Danfonasom eich penillion i ol- ygydd y farddoniaeth, yn nghyd a chais am sylwbuan. i., fiymunaEos Honddu wybod pa sawl solo sydd ynrhyddi wrywod i'w canu yn eisteddfod Castellnedd, Llun y Pasg.
Y LLANW YN TROI.
Y LLANW YN TROI. Y mae llawer o arw^ddion yn y dyddiau hyn fod y llanw Toriaidd wedi cyrhaeddyd ei bwynt uchaf, a'i fod yn troi yn ol gyda chyflymdra annghamsyniol. Y mae cam- Syniadau rhyfedd y Weinyddiaeth. wedi agorllygaid y.bobl, yn arbenig eu hym- ddygiad tuag at Fesur y Llongau Masnach- ol, eu Cylchlythyr partbed y Caethwas ffoedig, a'r program diyni a thlodaidd a ddodwyd gerbron y wlad yn yr Araeth Freninol. Dichon hefyd fod achos y Ceid- Wadwyr wedi dyoddef oherwydd yr ym- drafodaeth yn nghylch y Suez Canal. Nid fod y bobl yn collfarnu nac yn annghymer- adwyo pryniad y Gamlas, ond fod y dull y gwnaed y peth yn annghyfansoddiadol, ac yn hollol groes i'n golygiadau ni fel Pryd- einwyr am iawn lywodraeth-sef llywodr- aeth ag sydd yn rhoddi boll arian y cyllid yn llaw ac at ewyllys ein cynrychiolwyr etholedig, yn Nhy y Cyffredin. Hynyma sydd wedi peri yr boll ragoriaeth sydd ar Brydain Fawr ar deyrnasoedd ereill Ewrop -fod arian y deyrnas yn hollol yn llaw cynrychiolwyr y bobl. Oni buasai yr ordeiniad doeth hwn, buasai ein breninoedd a'n penaethiad ni, fel yr eiddo Ffrainc, yn gorsuddo y wlad i ddygn dlodi a gwarth, o bryd i bryd, drwy ynfydrwyd rhyfeloedd a chenedloedd ereill. Ond fe brynwyd share8 y Khedive gan y Weinyddiaeth heb gymaint a rhoi gair nac awgrym i'r Senedd. Nid yw pedair miliwn o bunau i'w cael am eu castio i fynu; ae, o drustee ar swm mor fewr, gwell fyddai genym ni gael Rhydd- frydwr na Thori. Os oedd eisieu brys, fe allesid galw y Parliament yn ngyd unpryd, a buasai hyny yn symud ymaith bob tram- gwydd i'r wlad, a phob perygl i Mr Disraeli yn wyneb fod ei gefn yn cael ei gynheau gan "Fwyafrif" mor "Fawr. Ond nid oedd eisieu brys o gwbl: y mae mwy o arian yn Mhrydain nag sydd yn holl wledydd ereill Ewrop gyda'u gilydd; ac os byddwn ni am brynu, ofer i neb arall ddod i'r ffair. Gallasem out-lidio boll Ewrop, ac y mae Llywydd yr Aipht yn rhy dlawd a rhy reidus i wrthod y cynyg uehaf a'r fargen oreu. A digon tebyg fod y gweddill o'r Cwmni felly hefyd. Y mae Prydeinwyr yn eiddigeddus dros iawnderau eu Ty Cyffredin, ac y mae hwn yn prece- dent sydd yn rhwym o leihau poblogeidd- rwydd ei awdwyr. Prawf arall o ol-droad y llanw ydyw gweled Syr Hardinge Giffard yn sefyll ar y lan, heb un cc sêt" ar ei gyfer, a'r tide "Wedi ffoi filltiroedd oddiwrtho! Swydd anrhydeddus ac enillfawr yw y swydd o Cryfreithiwr Cyffredinol, ond nis gall Syr Hardin ge wneyd dim. o gwbl a hi heb M.P." ar ol ei enw. Rhaid i ni addef ein bod yn tosturio wrth Syr Hardinge: y mae yr eira yn oerach o'r haner pan fydd- och yn edrych trwy ffenestr ar ystafell gynhes a than dysglaer a bwrdd huliedig, OUKI dim posibl myned i mewn heb i arall ddod a'r allwedd o rywle. Tebyg ydyw i efrydydd wedi cael "living" fras gan hen ewythr cyfoethog, ond pob Esgob yn gwrthod ei ordeinio. Ond y prawf cryfaf oil o ol-lifiad y llanw yw etholiad Leo- minster yr wythnos ddiweddaf. Llogell- FWrdeisdref (Pocket-Borough) o'r math 1nwyaf Ceidwadol ydyw hon wedi bod trwy oesoedd: edrychid ami fel Sebastopol Toriaeth—fel caerfa anmhosibl i'r gelyn ei ehymeryd. Arferai fod yn hollol at «*ylly8 dau deulu urddasol, sef teulu -Aampton Court, a theulu Shobdon Court. Ni etholwyd un Rhyddfrydwr dros y fwr- deisdref hon ery flwyddyn 1852, a'r pryd .hyny ni chafodd ond 16 o fwyrif. Yn etholiad 1868 ni chafodd yr ymgeisydd Rhyddfrydol (Dr. Spinks Q.C.,) ond 174 o bleidleisiau, tra y cafodd Mr. Arkwright 432. Ddwy flynedd yn ol, er y Reform Bills a'r Balot hefyd, teimlai y Khvdd- frydwyr mor ddigalon fel na wnaethant unrhyw ymgais i enill yr eisteddle. Ychydig amser yn ol rhoddodd Mr. Ark- wright ei sedd i fynu, a bwriadai y Wein- yddiaeth roi Syr Hardinge Giffard i mewn o'r eira; ond bwrw eira mai hi o hyd ar Syr Hardinge, oblegyd yr oedd gan Lord Bateman ryw gwyn mae'n debyg ar y Llywodraeth, ac efe a apwyntioid ei frawd i'r eisteddle. Wrth gwrs 'doedd dim gan y "Solicitor General" i'w wneyd wed'yn ond aros dan ei "umbrella." Cofiodd y Rhyddfrydwyr, fodd bynag, am gysgod mawr y Balot, ac am fuddygoliaeth eu brodyr y llynedd yn Sir Frycheiniog, a llwyddasant gan Mr. Blake, o Ross, i sefyll ar eu tu — Rhyddfrydwr trwyadl, ac Annghydffurfi wr Wesleyaidd. Gogoneddus a fu y eanlyniad :-dr08 Blake 434; dros Lennox (Oeidwadwr) 349: mwyafrif 85! Ni a adawn i'r ffigyrau hyn siarad dros- tynt eu hunain. Digon tebyg y bydd eisieu mwy o umbrellas ar Ymgeiswyr Toriaidd yn y misoedd dyfodol.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. CHWEF. 24AIN, 1876. Llawen iawn genym ddeall fod mudiad ar droed er cyflwyno tysteb i Mr. J. Griffith (neu fel yr adwaenir ef yn fwyaf cyffredinol; GOHEBYDD Y FANER), ar ei ddychweliad o'r cyfandir, lie y mae yn awr er ys rhai misoedd er budd ei iechyd. Clywsom fod y masnachwr tywysogaidd Mr. S. Morley wedi rhoddi yn helaeth iddo o gynwys ei bwrs er ei gynorthwyo i fyned i hinsawdd dymherus y cyfandir yn ystod y gauaf. Yr ydym yn bersonol gydnabyddus a'r "Gohebydd" yn awr er ys blynyddau, ac wedi mwynhau llawer awr ddyddan yn ei gyfeillach ac nid oes genym ond un farn am dano, sef ei fod yn real friend, ac yn ohebydd nodedig o alluog. Pan yn ei gwmni, yr ydym yn teimlo y gallwn ymddiried cyfrinach iddo; a pho fwyaf y byddis yn ymwneyd ag ef, mwyaf i gyd y deuir i'w anwylu. Y mae, rywsut rywfodd, wedi monopoliso yr enw "Gohebydd," ac yn ddiau efe ydyw arch- ohebydd y papyrau Oymreig. Medr efe daflu dyddordeb arbpnig i'w faterion, yr hyn sydd yn gryn orcliest. Yr ydym yn cofio flynyddau yn ol, pan ddygwyddodd y ddam- wain alaethus hono yn Hartley (yn Ngogledd Lloegr), trwy yr hon y collodd ugeiniau eu bywydau. Darllenasom adroddiadau special correspondents y Daily Telegraph a phapyrau ereill. Aeth y "Gohebydd" yntau yno, ac anfonodd adroddiad rhagorol o holl fanylion y ddamwain i'r Faner, a'n syniad ar y pryd oedd ddarfod iddo guro y papyrau Seisnig o ddigon. Mawr obeithiwn y bydd ei ymwel- iad a'r eyfandir yn llesiol i'w iechyd, ac yn adgyfnerthiad i'w ysbrydoedd, fel y byddo yn alluog i wasanaethu ei genedl eto am flynydd- au lawer. Ni roddwn fyny i un dyn byw bedyddiol yn ein lysdmygiaeth o farddoniaeth bur, a medrwn werthfawrogi ehediadau awenyddol, byddent hwy yn y Saesoneg yn ogystal a'r Gymraeg. Yr ydym yn hollol gredu fod yr esgeulusdod o drosglwyddo darnau goreu ein beirdd Cymreig i'r Saesonaeg wedi peri i lawer o'n eymydogion Hengistiaidd goleddu syniadau bychanus am ein hawenyddiaeth. Cyfansoddwyd darnau gan amryw o'n prif- feirdd, a llawer o'n beirdd ieuaine a oddefant eu cydmana yn ffafriol 4 gweithiau goreu- gwyr y Saeson. Ond y golled fawr ydyw nad ydym wedi cael rhydd gyfieithiad galluog a hapus o'r cyfryw, fel y gall y Saes- on weled teleidion ein barddas. Nid gwiw gwadu y ffaith, y mae hi yn amser trychinebus ar Y FASNACH LO A'R HAIARN, ac y mae gweithrediadau y Bwrdd Cymodol wedi penderfynn tynu lawr y prisoedd, fel y gwelwyd yn ein rhifyn diweddaf. Byddai yn dda genym allu croniclo amgenach newyddion, ond nid oes mor help am dani, rhaid derbyn y gwael gyda'r gwych. Gwel- som hanes fod nifer o ddirprwywyr wedi bod yn galw gyda Mr. Crawshay y dydd o'r blaen, er ei anog i ail gychwyn ei weithiau. Nid oedd ei ateb yn hollol anobeithiol, ac y mae genym ryw hyder y gwna efe gych- wyn rhai o'i weithiau, a hyny cyn pen amser hir.
[No title]
Darfu i Syr Hardinge Giffard, y cyfreithiwr cyffredin ol, anerch cyfarfod o etholwyr Horsham, prydnawn dydd Sadwrn, pan y dywedodd ei fod yn drwyadl wrthwynebol i'r Permissive Bill. Cymeradwyai bwrcasiad y cyfrauau yn Nghamlas Suez.
j PENTRE YSTRAD.
PENTRE YSTRAD. DR. LIVINGSTONE,-Nos Iau, Chwefror I7eg, traddodwyd darlith'gan y Parch. E. Herber Evans, Caernarfon, ar y testyn hwn, yn Siloh, capel yr Annibynwyr. Yr elw i fyned i gynorthwyo yr Annibynwyr Seisnig yn y Ton. Yn absenoldeb E. Thomas, Ysw., Llwyncelyn, cymerwyd y gadairgan y Parch. W. Jones (T.C.), yr hwn a'i llanwodd yn an- rhydeddus. Yr oedd y darlithydd yn ei lawn hwyliau, a chawsom ddarluniad bywiog a nerthol o'r teithiwr enwog o'i febyd i'w fedd. Fel yr elai yn ei flaen cyflwynai wersi pwysig a gwerthfawr i'r gynulleidfa oddiwrth ddiwydrwydd dihafal Dr. Livingstone pan yn fachgen ieuanc i gyrhaedd gwybodaeth ac anrhydedd, a'i wroldeb fel teithiwr — ei lwyddiant fel cenadwr ac fel caeth-ryddhawr —a'i ymddiried gogoneddus yn Nuw, bendith yr hwn a'i dilynai bob amser. Hefyd, cawsom sicrwydd gan Mr. Evans o barth i H. M. Stanley. Dywedai iddo gerdded tua chwe' milldir er cael gweled mam Stanley, a chaf- odd ddigon o brofiol). mai mam Stanley yw yr hen wraig. Profodd Mr. Evans hyny mewn tair ffordd yn gyntaf, gwelodd ddar- luniau o hono gan ei fam, pa rai a dynwyd yn awr ag eilwaith yn ystod ei fywyd. Yn ail, darllenodd amryw o lythyrau oddiwrth Mr. Stanley at ei fam o wahanol barthau o'r byd. Yn drydydd, dangosodd yr hen wraig oriawr aur brydferth i Mr. Evans, yr hon a dderbyniodd fel anrlieg gan ei mab John, fel y dywedai, o'i law ef ei hun yn Paris. Treul- iodd Mr. Evans tua dwy awr gyda'r hen wraig i ymddyddan ar y pwnc, a chafodd ei lwyr argyhoeddi mai Cymro o waed coch cyfan, o gledd Cymru, ydyw H. M. Stanley. Felly mae hyn yn llawn digon i brofi mai Cymro ydyw y dyn a ddarganfyddodd y dar- ganfyddwr mawr Livingstone. Hefyd, dywedai yr hen wraig, pe buasai ei mab wedi cael chwareu teg i ddweyd beth oedd-pa un ai Cymro ai Sais-y buasai wedi hysbysu hyny yn eglur cyn hyn ac os cawsai lonydd y bydd yn sicr a ddweyd eto. Er gerwined yr hin noson y ddarlith, daeth cynulleidfa fawr yn nghyd. Colled fawr ydoedd i'r rhai oedd yn absenol, ond cafodd pawb oedd yn bresenol wledd a hir gofir genym oil, a diau i y deillia llawer o les oddiwrthi. Talwyd y [ diolchiadau arferol, ac ymadawodd pawb yn f llawen. Myned y Cymry oil glywed y ddar- lith hon.—Givilym Gynlais.
ICWMNANTLLWYD, CILYBEBYLL.
I CWMNANTLLWYD, CILYBEBYLL. Chwefror yr 16eg, ymgasglodd holl weith- wyr Cwmpeini y Primrose a lluaws ereill i'r lie hwn, i'r dyben o anrhegu eu meistr ieu- anc, sef John Morgan, Ysw., o'r Gelligron, ar ei briodas a Miss M. J. Williams, Pontar- dawe. Llywyddwyd yn alluog gan Mr. John Gibbs, Alltwen, ac areithiwyd gan Lewis Morgan, Ysw., Mri. Watkin Thomas, J. Morgan, ac ereill, a chanwyd gan Mri Daniel Thomas a John M. Howell, ac amryw ereill. I Yr oedd y rhoddion yn gynwysedig mewn I' amryfath o lestri arianaidd ac euraidd at wasanaeth yr uwchraddol. Wrth eu cyflwyno darllenwyd anerchiad godidog, wedi ei ar- graffu a'i ystaenio yn hardd, i'w gadw er c6f o'r caredigrwydd. Hefyd caed yno ddigon o fwyd a diod, a threuliwyd yno brydnawn a noson hapus a dedwydd, a phawb yn ewyll- I ysio hir oes a llwyddiant i'r yswain ieuanc a'i foneddiges hawddgar. Adroddwyd penillion ar yr achlysur gan Mr. John, Ynysmeudwy, a chafwyd yr englynion a'r penillion canlynol gan Ap Llewelyn, Alltwen :— Canesid yn y cynoesau,—gerddi Ag urddas i'w hodlau, I foli gwyr dihafal gau, 0 ereill gampient orau. A felly yr arfolid,-y filain Rhyfelawg diymlid; Am ymladd a. lladd mewn llid Gwyr enwog, ei coronid. Ond a rhoddion drwy heddyw,-amlygir Mawl agos digyfryw, I Mr. John a'i Fanon fyw, Am eu rhinwedd mawr anwyw. At hyn o welliant, iawn houol-i weithwyr, Aethant yn unfrydol; A thyna wych, daeth 'n ei ol Anrheg arian rhagorol. Ad-daliadau dyledion,- rywfaint, Gyfrifir y rhoddion, I arweiniol wr union, A llaw gras o'r Gelligron. Nid digen ganddo wneird tegweh-a gwyr Y gwaith, mewn hyfrydwch; Mwy e gais, o drais yn drwch, Da gvrylia'u dyogelwch. Yn feunyddiol fwyJl. noddydd,—ei cafwyd, Ac 0 fel y wawrddydd I'n gwlad, o serch ei glod sydd, Tan wawl can taenol cynydd. Oes hir iawn, un lawn o les,-caed i'w lwydd Gyda'i lan gydmares, I'w dwyn hwy o hyd yn nes, I fawr hyaod fri hanes. I Meistr John, o'r Gelligron, Gyda'i dirion fenyw fad, Rhoddwn glod teilyngol, Heddyw yn unfrydwl, Nes dadseinio bryniau'n gwlad; Gwaith hynaws wron siriol yw efe, Yn gwasgar rhinwedd gylch ac yn y lie, Fel un arfaethodd rhagfwriadau'r Ne, I fod yma er lleshad. Boed nefsl wen rhagluniaeth hen, Ar hyd gyrfa'r ddedwydd ddau Llawn o bob eysuron, Byddont dan fendithion Y byd hwn, i'w hir mwynhau; A thra bo parch a mawredd yn eu rhan, Na aed dros gof ystyriaeth moei o'r gwan, 'Nol crefydd bur boed iddynt fyn'd i'r lan, Hyd i wynfyd wna barhau.
I j
DAMWEINIAU. FFESTINIOG. Cyfarfyddodd E. Roberts a damwain yn Chwarel y Cwmni Cymreig er ys tua phythefnos yn ol, a chludwyd ef i'r Ysbytty, ond bore dydd Gwener, y 18fed cyf., ehedodd ei enaid at Dduw. Yr oedd yn ael- od rheolaidd gyda'r Bedyddwyr. Gadanodd ehedodd ei enaid at Dduw. Yr oedd yn ael- 1 od rheolaidd gyda'r Bedyddwyr. Gadanodd wraig a thri phlentyn.-Bore dydd Gwener, y 18fed, cyfarfyddodd nifer o weithwyr ar linell y L. & N. W. R., yr hon sydd yn cael ei gwneyd yn bresenol, a damwain, drwy i dwll danio arnynt. Cludwyd rhai o honynt i'r Ysbytty, a boreu dydd Sadwrn bu un o honynt farw. Brodor ydoedd o'r Ton. MARWOLAETH DDISYMWTH.—Nos y 18fed, taflwyd ardal y Rhiw i fraw, drwy glywed fod Mrs. Mary Roberts, gwraig Mr. E. Roberts, Llwynygell, wedi marw yn hynod ddisymwth. MASNACH. — Da genyf allu hysbysu fod bywyd da yn masnach y llechau y dyddiau hyn, gofyn parhaus am danynt, ac er cymaint o wneyd sydd arnynt, moes, moes ydyw y gan o hyd. Hir y parhao felly yw dymuniad GLAN BARLWYD.
Y gweithwyr a'r Bwrdd Cymodol.
Y gweithwyr a'r Bwrdd Cymodol. Boreu dydd Mawrth cynaliwyd cyfarfod o lowyr Ý1\ Coed-duon, i gymeryd i ystyriaeth ddyfarniad y Bwrdd Cymodol. Yr oeddtuedd- iadau y rhai ymgynulledig i raddau mawr, i 11 y el rwgnach yn erbyn y cytundeb y deuwyd iddo yn Nghaerdydd. Nos Lun cynaliwyd cyfarfod o lowyr yn Mountain Ash, i gymeryd i ystyriaeth ddy- farniad y Bwrdd Cymodol, ac i basio barn ar y cyfryw. Y cadeirydd oedd Mr. W. Mainwaring. Pasiwyd penderfyniad fod y cyfarfod yn derbyn y dyfarniad; a phenod- wyd Mri. W. Mainwaring a D. Morgan i gynrychioli glowyr Mountain Ash yn nghyfar- fod y dirprwywyr yn Merthyr, dydd Mercher.
Helynt Garwriaethol yn Mountain…
Helynt Garwriaethol yn Mountain Ash, a'r Canlyniad. Yn llys yr ynadon Taunton, Gwlad yr Haf, gwysiwyd Thomas L. Wills, mil-feddyg yn Nglofeydd Navigation, Mountain Ash, i ddangos paham na orfodid ef i dalu tuag at gynaliaeth plentyn annghyfreithlon Miss Elizabeth Nash, gwniedyddes, Mountain';Ash, tad yr hwn a honid oedd efe. Ganwyd y bychan ar yr 22ain o Ionawr yn Taunton, yn nhy cyfeillion Miss Nash. Ymddengys oddiwrth dystiolaeth yr achwyn. yddes ei bod wedi cyfarfod a Wills yri Merthyr yn gynar yn 1874, tra yr oedd hi yn gwasan- aethu mewn siop yno, ac yntau yn dilyn ei alwedigaeth fel veterinary surgeon. 0 dipyn i beth aeth y cyfeillgarwch a fodolai rhyngddynt yn gariad gwresog, Ymadawodd Miss Nash a Merthyr yn IonaWr, 1875, ac aeth i siop ei chwaer, yr hon oedd yn briod a dyn o'r enw Davies, yn Mountain Ash. Tua'r adeg hon penodwyd Wills yn feddyg yn Nglofeydd Navigation. Aeth i letya i'r ty lie gwasanaethai Miss Nash, ac yno ymddengys iddo ei denu oddiar lwybr rhinwedd, dan addaw ei phriodi ac ar gefn yr addewid hon yr oedd y ferch wedi dechreu dodrefnu ty. Yr oedd Wills weq ysgrifenu llawer o lythyrau cynhes at Miss Nash; ond ymddengys iddo rywfodd ddyfod i ail feddiant o ddan ohonynt oedd yn cynwys rhyw addewidion, ac o'r adeg hono oerodd ei serch, a dechreuodd ddibrisio yr eneth. Tystiodd David R. Pavies, brawd-yn-nghyf- raith yr achwynyddes, ei bod hi a Wills yn lletya yr un amser yn ei dy ef. Tybiai ef eu bod un adeg ar fin priodi. Talai Wills sylw ar- benig i Miss Nash tra yn lletya gydag ef. Gwyddai eu bod weithiau yn myned i ystafell wely naill y llall. Credai fod Wills yn derbyn rhwng 30s. a 40s. o gyflog yn wythnosol. Gosododd Miss Nash gerbron yr ynadon sypyn o lythyrau dderbyniodd oddiwrth y di- aypyn o lythyrau dderbyniodd oddiwrth y di- ffynydd, ond ni ddarllenwyd ondfun o honynt, yn yr hwn y galwai Wills Miss Nash yn anwyl Bessie.' Tystiodd y diffynydd ar ei lw nad oedd un cysylltiad anweddus:wedibod rhyngddo a Miss Nash. Penderfynodd yr ynadon fod yr achwyniad wedi ei brofi, a gorchymynasant i Wills i dalu 5s. yr wythnos a 4p. 3s. o dreuliau. Yr oedd Miss Nash yn adnabyddus a pharchus yn Mountain A sh, lie y mae iddi luaws o gyfeill- ion. Dywedir y bydd iddi ddwyn achos o dor amod priodas yn erbyn Wills yn fuan.
Family Notices
PRIODASAU. Chwefror 17eg, yn swyddfa y cofrestrydd yn Merthyr, Mr. John Edwards, a Miss Elizabeth Thomas, y ddau o Aberdar. Chwefror 15fed, yn Eglwys Cilybebyll, yn ngwydd y periglor, Mr. Lewis L. Lewis, Glais ger Clydach, a Mrs. Margaret Richards, Ehos, Cilybebyll.-A. H. MARWOLAETH. Boreu dydd Sadwrn, Chwefror 12fed, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Amy Jones, anwyl briod Mr. John Jones, horse dealer, Croespenmain. Dydd I au canlynol, daeth tyrfa luosog o berthynasau a chyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'r ymadawedig, ac wedi i'r Parch. John Lewis, Blaenau, ddarllen a gweddio, cychwynodd yr angladd tua Beulah, Bontnewydd. Wedi cyrhaedd yno, darllenodd a gweddiodd y Parch. Mr. Evans, gynt o Beulah; wedi hyny pregeth- odd y Parch. J. G. Davies, gweinidog Beulah. Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parch. Mr. Evans. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Beulah, er's llawer o tlynyddau.-Tomas.
[No title]
Nos Iau, Chwefror 17eg, traddodwyd dar- lith gan y Parch. T. Owens, Mount Pleasant, Abertawe, »yn Ebenezer, Aberafon, ar "Ei daith i Rhufain."
Advertising
AT YMFUDWYR. 4^ TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australiar. Sailing Ships and Steamers. M. JONES (CYMRO GIYTLLT), Passengei Broker, 28, Union-street. Liverpool, Gor- wyliwr i'r Llinellau canlynol ;-Inman Line, Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlonsau uchod yn hwylio i wa- hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a't Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol drwy anion llythyr iir cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofaj iddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Cymro allu hysbysu y Cyhoedd fod ganddo y TY CYMREIG eangaf a mwyaf cyflcnn i Dcithicyr ac Ymfudwyr yn L'crpwl, err agosaf ir Landing. Stage. Cofier y Cyfeiriad,- N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool, D.S.—Gellir ymholi yn Aberdar a John Jawes Crown HoteL
LLINELL Y "NATIO K/.L' I NEW…
LLINELL Y "NATIO K/.L' I NEW YORK. YMae y Cwmni hwn yn cyiueryd" arnynt eu JL hunain y cyfrifoldeb o insurio pob un o'r llestri i'r swm o J3100,009, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwyr am eu dyogelwch ac y maent hefyd bob amser wedi mabwysiadu y llwybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a pheiv oedd. YR AGERL0NGAU MWYAF 0 Liverpool i New York bob dydd Meicher, h phob yn ail ddydd Gwener i Boston a New Yark. SP 4IN Mercher, Chwef. 16 EGYPT Mercher, Chwef. "28 ITALY Mercher, Mawrth 1 Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn DENMARK Mercher, Chwef. 23 HOLLAND Mercher, Mawrth 1 FRANCE Mercher. Mawrth 8 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn ya dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eang an- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol cyf- leusderau y state-room. Pawb yn cael yr un havtl yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw £ 5. Return Tickets—24 Guineas. Y mae eangder, golenni, ac awyr y steerage, yn angkydmarol, ac y mae digonedd o ymborth fresh yn cael ei barotoi ga,n ewardiaid y Cwmpeini; ac ni cheir cludiad rhatr. gydag unrhyw linell Gall ymfudwyr bo'■> drwodd i bob parth e Ganada a'r Talaethau uedig am brisoedd iseL Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 23, Water-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDIUS, & Ca., Agents, 33, Grace- church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect Place, George Town, Tredegar; GEORGE OWEN, Upper High-street, Rhymny; HENRY A. LEWIS, Newtown, Ebbw Vale; D. THOMAS Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REBS, Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT. 4, Whitcombe-street, Aberelare. L.369
Advertising
1A TNM AN ROYAL MAIL -LSTEAMERS. LIVERPOOL to NEW YORK. Dvddiau Mawrth a Iau. SALOON, 12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage am briJ a llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym- berth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleus, Trosglydir TeithwjT j Steerage i Boston a Phfladelphia heb dil ychwanegoL Bookir teith- wyr i mnrhyw ram o'r Taleithiau o Canada an: briaiau nwllduoL Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gan WILLIAM IITMAN, 22, Water-street. Liverpool, neo rywrai o oruchwylwyr yr Inman Liae. L.153
LLINELL Y "WHITE STAR" 0
LLINELL Y "WHITE STAR" 0 '-k-v UNITED STATES MAIL STEAMERS. O Liverpool i ac o New York RHYBU2D.—Cymer Agerlongau y Llinell hon y Lane Routes wrth fyned a dpckwclf/d, y rhai a gymeradroy-ir gctn yr Is-gadben Mauri/. REPUBLIC Dydd Iau, Chwef. 17 GERMANIC Dy*11 Iau, Chwef. 24 Dydl Iau, Mawrth 2 ADRIATIC Dyd 1 Iau, Mawrth 91 BALTIC *.Dyd(. Iau, Mawrth 16 o NEW YOLK. GERMANIC.Dydd S.dwm, Chref. 5- CELTIC Dydd Sadwrn, Chwef. it Gan alw yn Queenstown, i dd. rby* teithwyr a? ddydd Gwe*er. Y mae yn yr agerlongau hyn gyneusderau neillduol i gaban-d-'itkwyr; y mae y saloon, state-room, ystafell smocio yn midships, v mae meddyg a goruchwylwyr ar bob Hong. ocSAL°ON,—1.5 gini a 18 gini Return Pickets am do gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyner a u ,T, T !SMAY, IMRIE, 4 Co, East India-avenue, London, a 10, Water-street LiverpooL L.369
Advertising
For Sale. TEN per cent per Annum. A NEW SUB- 1 STANTIALLY-BUILT SEVEN-ROOMED DWELLING HOUSE, replete with every convenience situate in one of the healthiest parts of Treherbert, and with an annual rental re- turning the above percentage on selling price— three-fourths of which can remain upon Mortgage if required. 99 Years Lease. ^Apply to G^M. Rees, Public Accountant, Treherbert. 1262 Arian! Arian!! Arian j j { OS ydych am Arian, o Ddeg Punt i fyny, ar unrhyw fath o security, ymofynwch a f Mr. GBØ. M. REES, Public Accountant, Treherbert. D.S.—Pob llythyr gynwys dau stamp ceiniog an atebiad. 1261