Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

,GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. FY YMOSODWYR. Yn y lie cyntaf y mae genyf air bach atoch Mr. Gol., ac at ohebwyr a darllenwyr y GWLADGARWR. Fel y gwyddoch, yr wyf yn ohebydd cyson i'ch newyddiadur er's blyn- yddoedd lawer bellach, ac y mae fy ffugenw yn adnabyddus i luaws tu allan i gylch y GWLADGARWR, a braidd yn fwy felly na fy enw priodol. Hoffwn i chwi, fel golygydd, i ddal y glorian yn deg, drwy wrthod ymosod- iadau o dan ffugenwau anadnabyddus. Gwir mai arwyddair y GWLADGARWR yw, "Rhyddid pob gradd, heb na lladd na Hid;" ond eto mae perygl camarfer y cyfryw ryddid. Cofied Cymro Arall a Charwr Cysondeb mai peth hollol anfoesgar ac anfoneddigaidd ydyw ym- osod ar ohebydd cyson, a pherson adnabydd- us o dan gochl ffugenw. Nid doeth gwneyd sylw o ymosodiadau gohebwyr llechwraidd, nad oes ganddynt ddigon o wroldeb i ysgrifenu ac amddiffyn y pethau a gredant sydd uniawn o dan enwau adnabyddus. Gyda llaw, gallaf hysbysu Cymro Arall a Carwr Cysondeb fy mod wedi darllen llawer o'r hyn a ysgrifenir tros ac yn erbyn (pro and con) pynciau y Dadgysylltiad a'r Dadwaddoliad, Yr wyf -hefyd wedi clywed rhai o brif siaradwyr y ddwy blaid yn areithio, ac yr wyf yn gwylio, ^agogiadau y gwahanol bleidiau gyda dyddor- deb neillduol. Yn y GWLADGARWR, tua pythefnos yn ol, datgenais fy marn ar y pynciau yma yn onest a chwbl ddidderbyn- wyneb. Cefais fy nghyhuddo gan y ddau ohebydd uchod o haeriadau, camosodiadau, &c. Gallaf inau waeddi yn ol, "y meddyg iacha dy hun," am nad oes yr un o honynt yn gwrth-brofi yr hyn a ddywedais, trwy ddwyn profion a ffeithiau i'r gwrthwyneb. Hen gan yw dweyd fod yr eglwys yn ddeorfa i ddefodaeth ac yn nythle i'r Babaeth, &c. Chwedlau hen wrachod ymhonawl ydyw pethau o'r fath, heb safon na sylwedd. Er mai Ymneillduwr a Rhyddfrydwr ydwyf, yr wyf yn berchen ar ddigon o synwyr cyffredin, heb son am ddim arall, i fiieiddio rhyw sweep- ing charges o'r fath yma a ddygir yn barhaus yn erbyn yr "hen fam." Pwy ag sydd gan- ddo ysbryd Cymro a Christion, a all lai nag anrhydeddu eglwys, yr hon a fagodd y fath ddysgawdwyr enwog a Hooker, Jewell, Jack- son, Barrow, Farrindon, Hammond, Walton, Pearson, Stillingfleet, Bull, a Waterland, a lluaws ereill ellid enwi, megys Meander, Glan Geirionydd, Ab Ithel, Blackwell, < £ A llawer ellid enwi Fu'n glod a nerth i'n gwlad ni." Gwn yn eithaf fod yn yr Eglwys Sefydledig anhiherffeithderau a gwendidau lawer; ond yn mha le y gwelwyd cyfundrefn berffaith yn mhob ystyr ? Tra phriodol y sylwai yr enwog John Elias o Fon, "fod gan bob plaid ddigon o waith diwygio o fewn ei therfynau ei hun." Os oes dadgysylltiad a dadwaddoliad i gymer- yd lie, gadawer i lais y wlad benderfynu yr amser, a pheidied cenadon hedd, o bawb, a chynhyrfu y bobl yn gynt na phryd. Ni bydd i mi o hyn allan wneyd sylw o ddim a ymcldengys o dan enwau anadnabyddus. Os bydd gaii rywun wirionedd i'w draethu, deued allan fel dyn, ac nid fel llwfrgi ffalst a thaeog. Nid oes ynwyf yr awydd lleiaf am ryfel a neb pwy bynag yn y -tWLADGARWR, am fod genyf swyddogaeth arall i'w chyflawni; ond meddaf yr hawl, fel gohebydd, i gyhoeddi fy sylwadau ar wahanol bethau a gymer le yn y byd, ond nid wyf am arwain neb i gredu un dim a fyddo yn groes i reswm a gwirionedd. Gyda golwg ar fy sylwadau parthed tarddle rhyfel, credwyf fy mod wedi profi y gosodiad fod rhyfel yn deilliaw o'r drwg, a gall y neb a fyno droi i'r GWLADGARWK a gweled y sylw- adau ar y "rhyfel o Dduw neu o ddynion." Pwnied a fyno, ni waeth genyf, os bydd hyny yn foddlonrwydd meddyliol i'r cyfryw a hoff- ant saethu trwy y gwrych, tra yn ymguddio yn ffos y clawdd fel nad allo neb eu gweled. Nid oes achos i neb fod dan orfodaeth i gredu dim a ysgrifenir genyf y naill wythnos ar ol y Hall, ond mae yn bleser genyf feddwl fod miloedd yn gorfod cydnabod fy mod wedi cyhoeddi gwirioneddau didroi yn ol ar lawer o adegau. Ystyriwyf fod pobpeth a wneir yn gyhoeddus, yn agored i farn y cyhoedd, ac ystyriwyf hefyd fod rheidrwydd ar y sawl fyddo yn adolygu eiddo cyhoeddus, i wneyd hyny yn wynebagored ac nid dan gochl, gan gofio yr hen ddiareb "nad gwaeth gwir o'i chwilio." Gadawaf y pwnc am y tro presenol, ac os gorfodir fi i ddyfod allan eto, dymunaf hysbysu y darllenydd fod genyf ddigon o ffeithiau wrth law i ategu fy ngosod- iadau mewn dull gonest a gwynebagored. ETHOLIAD MANCEINION. Bu yn ymdrech frwd cydrhwng Mr. Jacob Bright a Mr. F. S. Powell (Ceidwadwr)-y naill fel y llall wedi addunedu i bleidio Mr." Butt ar bwnc y Llywodraeth Gartr.efol yn yr Iwerddon. Gan fod y Pabyddion, gan mwyaf ohonynt, yn Rhyddfrydwyr, fe ddygwyd dylanwad y Babaeth i redeg o blaid Mr. Bright, fel y cafodd 22,770 i'w bleidio, pan na chafodd Powell ddim ond 20,985 fel hyny, yn rhoddi mwyafrif i Bright o 1,785. Cyn y gall un ymgeisydd, ni waeth i ba blaid y perthyna, enill pleidlais yr adran Babyddol Gwyddelod, rhaid iddo addunedu pleidio pob mudiad a fyddo yn cael ei gefnogi gan offeiriaid Eglwys Rhufain, a'r penaf o'r cwbl ydyw yr Home Rule-un o'r pethau mwyaf ynfyd a ddaeth i ymenydd dyn erioed mewn gwlad lie mae y genedl Wyddelig yn cael cymaint o chwareu teg. Fe gofia y darllen- ydd fod Mr. Bright yn cael ei ystyried gan y Saeson The Champion of Women's Rights, a digon tebyg, wedi y caffo ei sedd yn Sant Stephan, y bydd iddo wyntyllu y pwnc o Hawliau Merched unwaith yn rhagor, a diamheu genyf ybydd miloedd o ferched a gwragedd yn Mhrydain yn ymfalchio fod Mr. Bright wedi ei ddychwelyd i'r Senedd, ac y bydd iddo eto gofio y rhyw deg, a dyfod yn ol i'w enwogrwydd cyntefig, gan wneyd i'r byd deimlo ei fodolaeth. Yn ol y manylion sydd o fy mlaen, mae yn ymddangos nad oedd y Ceidwadwyr wedi bod yn ddoeth yn y dewisiad o gynrychiolydd, am nad yw Mr. Powell yn ddyn adnabyddus i drigolion y ddinaS; a'i gysylltiadau masnachol yn beth hollol ddyeithr i'r bobi, fefnad lallasai deimlo un dyddordeb neillduol yn llwyddiant a chynydd trafnidiaeth y ddinas a'r wlad oddi- amgylch. Mae Mr. Bright yn adnabyddus i'r trefwyr, yn gyfarwydd ag amgylchiadau y ddinas a'r wlad, fel mai y peth nesaf i an- mhosibl oedd iddo beidio a chael ei ddy- chwelyd i Sant Stephan ar garlam. Dyma sut y trodd yr ymdrechfa olaf yn Manceinion yr wythnos ag sydd newydd ein gadael. PATAGONIA. Dydd Gwener, y 18fed cyfisol, hwyliodd Griffith Lloyd a'i deulu, yn rhifo gwraig a dau o blant, ar fwrdd yr agerddlong Coper- nicus, yn rhwym i borthladd Buenos Ayres, ac yn mlaen i'r Wladfa. Treuliodd y teulu hwn ddeuddeng mlynedd yn Australia, a chredwyf fod Mr. Lloyd yn ddyn ag sydd yn feddianol ar anhebgorion sefydlwr mewn gwlad newydd. Ceisiodd hela cymaint o wybodaeth ag a allasai am y Wladfa tra ar ymweliad a Chymru, ac er ymholi o hono ag un o'r doethion, ni chafodd ond atebiad i dri o ofyniadau allan o ddeuddeg. Prawf hyn fod dynion yn cymeryd arnynt i wneyd gwaith na wyddant ddim am dano, ac y byddai yn llawer gwell iddynt ddilyn y gwaith a ddeall- ant. Dibyna Mr. Lloyd ar dystiolaeth Captain Musters, yr hwn a gyhoeddodd lyfryn fel cynyrch ei ymchwiliad drwy y wlad o gylch glanau yr afonydd a godreu mynydd- oedd yr Andes. Gan iddo dreulio wythnos gyda mi cyn cychwyn i'w daith, deallais ei fod yn credu yn narluniad Musters o ansawdd y pridd a natur y creigiau fod aur a metel- oedd gwerthfawr ereill yn mynwes y ddaear. Os ceir yno aur ac arian, mwy na thebyg y bydd Patagonia yn gyrchfan pobloedd lawer, a chenedloedd o bob parth o'r byd heblaw Cymru. Hyderaf y llwydda Mr. Lloyd a'i deulu bychan i gyrhaedd pen y daith, fel y caffom farn gwr cyfarwydd ar y wlad. Ir TT Derbyniais lythyr oddiwrth Mr. xlenry Jones a'i deulu o Buenos Ayres, ar ol taith o chwech ar hugain o ddyddiau. Nid wyf am gyhoeddi cynwysiad y llythyr am y presenol, dim mwy na'u bod yn benderfynol o fyned 1 lawr i'r Wladfa, doed a ddelo, gan fod y llyw- odraeth yn eu cludo am ddim i'r Chupat. Addawant ysgrifenu eto wedi y cyrhaeddont ben y daith. Nid wyf am ddweyd dim yn feirniadol ar y llythyr na'r mudiad, am y tybiwyf fod doethineb yn galw arnaf i fod yn ddystaw am y tro, a gallaf ddweyd yn hyf na ddywedais ddim erioed ond fy marn gydwyb- odol, a hyny yn berffaith wyneb-agored. CYFRIF YMFUDIAETH. Mae cyfrif blynyddol bwrdd Masnach yn cyhoeddi fod 105,046 wedi gadael y glanau Prydeinig yn 1875, am y Talaethau Unedig. 0 Lerpwl, hwyliodd 'y rhifedi o 72,350; o Glasgow a Greenock, 8,492; Llundain, 2,692; .Cork, 16,611; Londonderry, 3,090, ae ychydig o borthladdoedd ereill. O'r rhifedi uchod cyf- rifid fod 43,867 yn Saeson; 5,893 yn Ysgot- iaid; 31,433 yn Wyddelod; a 23,028 yn Dra- moriaid. Fe gofia y darllenydd fod y Cymry yn cael eti cyfrif gyda'r Saeson yn yr un cyfanswm. I'r Tiriogaethau Prydeinig, y rhai a elwir yn British North America, rhifedi y rhai ymadawodd o L'erpwl oedd 17,378; o Glasgow, 14,069; Greenock, 1,864; Llun- dain, 126; Cork, 60; Londonderry, 1,022; o'r cyfrif uchod, Saeson, 9,044; Ysgotiaid, 1,871; Gwyddelod, 1,391; Tramoriaid, 5,016. I'r Trefedigaethau Awstralaidd, o L'erpwl, 932; Glasgow a Greenock, 4,534; Llundain, 20,464; Plymouth, 7,413; Cork, 703. Y gwahanol genedloedd yn y cyfrif uchod, Saes- on, 20,749; Ysgotiaid, 5,750; Gwyddelod, 8,251; Tramoriaid, 767. Rhif ymfudwyr i wahanol barthau ereill 15,860, yn rhifo 10,880 yn Saeson; 1,172 yn Ysgotiaid; 374 yn Wy- ddelod; a 2,536 yn Dramoriaid, gydag 898 nad oedd eu cenedlaetholdeb yn hysbys. O'r cyfrif yn 1875, ceir 37,865 yn gaban deith- wyr, a 135,944 yn y trydydd dosbarth. Nid yw y cyfrifiad yn nodi y gwahaniaethau rhwng teithwyr cyffredin a sefydlwyr arosol. ..all yr uchod fod yn ddyddorol gan y sawl sydd yn hoffi helyntion symudol plant y byd, ac yn y fan yma y terfynaf. DIWBDDGLO.—<'an nad oes dim pwysig yn werth cofnodiad, gyda'r eithriad o'r cyngherdd mawreddog sydd i'w gynal yn Neuadd Sant Sior, y noson olaf o'r mis hwn, pryd y bydd Madam Edith, as Eos Morlais yn gwasan- aethu, a'r elw yn gyfangwbl i Mr. William Parry, arweinydd y Cambrian. Can nad wyf yn aelod na llywydd y Die Shon Dafyddion, chwi oddefwch i mi derfynu fy sylwadau yn y fan yma.Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

[No title]

Masnach yr Haiarn a'r Glo.…

! Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

Advertising

Y WLADFA GYMBEIG.