Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

JBEIST LEWIS.

News
Cite
Share

JBEIST LEWIS. SYLFAENEDIG AR FFEITHA U. GAN TOM* WEDROS EVANS, A WDWR "GOMER JONES." PEN. YIII. Y MAE dwy flynedd wedi pasio. Treuliwyd y tymhor hwn yn Anderson's Creek. Un boreu gwelem Billy a Walter (yr oedd Elias a Wilcox wedi symud i ryw gloddfa arall er's misoedd) yn pacio eu hofferynau cloddio a'u pabell, gan ein hysbysu fod rush yn cael ei gwneyd i fyny i'r wlad am ddeng milldir-fod cloddfu newydd hynod o gyfoetbog wedi ei darganfoi. Yn faan gwelem ugeiniau o'n cyd-gloddwyr yn parotoi i'r daith, ac yn dechreu symud tua chyfeiriad y goedwig fawr a ymgodai yn y cwr gogleddol i'r dyffryn. Wel." ebai Tom Jones, 'nawr, Ben, er fod Anderson's Creek yn talu yn go lew i Di: y mae genlm ychydig ugeiniau yn weddill, fel y gwyddoch; ond os yw report Walter a Billy yn wirionedd, ffolineb i ni dreulio gormod o'n hamser yma gwell myned, felly. Gadewch i ni bacio-gweithio fel idiots—stem on, a byddwn mor wisgi a Moses." Yn fnan yr oedd yr holl barotoadau angenrheidiol wedi eu gwneyd, ac yn mlaen y symudwyd-pob un yn llwythog —ac ni fuom yn hir cyn cael ein hunain yn y crowd, ac yn ymsymud drwy y coed. Yma y buwyd am oriau, a rhyfedd y fath helynt! Yr oedd y coedydd yn ami mor dew, fel nas gallasai llygoden, chwaethach dyn, hwylio ei ffordd drwyddynt. Yr oeddwn i yn brudd iawn, ac ar lewygu yn y gwres annyoddefol, tra yr oedd Tom mor ddoniol ag erioed, ac yn un o brif leaders y gang. Ow y fath boen gafwyc? i weithio ein llwybr yn mlaen, a rhyfedd y fath fytheirio, ocheneidio, baldorddi, chwysu, tuchan, a llewygu Llwyddwyd i ffarwelio a'r anialweh rhyfedd hwn cyn nos, ac yna dechreuwyd cymeryd seibiant a mwynhad ar ol llafur maith y dydd." "Now, my dear fellow mortals," ebai Tom, ar ol i ni lwyddo i gael ein hunain ar y lleeyn gwyrddlas y tu allan i'r coedydd, 4' let us rest. The devil failed to get the best of us this time again. He is a very impudent fellow, the rascal. Let us serve him no more, my brethren." Ar ol hir ymdrech cyrhaeddwyd y fan. Yr ydoedd y gloddfa" newyddynnghylcb deg acer o dir ysgwar, flat ground, yn sefyll mewn man hynod o brydferth a rhamantus yn nghanol y coed. Yr oedd yno ugeiniau o gloddwyr wedi dyfod o gloddfeydd ereill, ac yn gweithio with a vengeance. Yr oedd yno store fawr iawn wedi ei chodi gan Wyddel anturiaethus i werthu angenrheidiau bywyd. Yr oedd genym bellder mawr i gyrchu dwfr, a chafwyd cryn waith yn y eyfeiriad hwn. Yr oedd Tom am gloddio winch yn mhenglog Billy, ac yna," meddai, cawn ddigon o ddw'r i,tupplyo y gloddfa Buom yma am wythnos gron ond, un rhyfedd yw'r ond," methwyd cael yr un llwchyn o aur. Paham, tybed? NrD OEDD Y CYFAN OND HOAX Ymgais fileinig o eiddo y siopwr ydoedd y cyfan i sicrbau arian. Efe ddarfu daenu y report, a choel- iwyd y creadur celwyddog. Pan y deallwyd hyn, gwnawd yr hen store yn grybibion man, ac nid heb ym- drech mawr y hwyddodd y siopwr i ddiane yn fyw! Yn fuan gadawyd y tir melldithiol, ac yn mlaen yr awd i gloddfa arall tua thair milldir oddiyno, o'r enw Sandy's Creek. Cloddfa fawr ydoedd hon, a rhes uchel o fynyddoedd yn ymgodi o'r tu gorllewinol iddi, a ffurfiai hithau ran o'r dyffryndir eang a orweddai wrth ei godreu. Y Quartz Mining ydoedd y dull o gloddio yma. Ymunodd Tom a minau a. chwmpeini arall, ac yr oeddym oil yn ddeg o gloddwyr mewn rhifedi. Buom yma am chwe' mis, a. llwyddasom yn rhagorol yn ein hymdrech- ion. Un diwrnod daeth ddu ymwelwr dyeithr yno—Elias a Wilcox. "Gibralter anwyl," ebai Wilcox, "sut yr ydych ? Buom ni, boys bacb, ddegau o filldiroedd oddiyma, yn Dunolly, yn gweithio ond, er ein gofid, methwyd yn deg a chael yr aur, fechgyn, ac yn awr y mae Elias a minau wedi dychwelyd yma i dreio ein siawns." W eI, wel," ebai Tom, "rhoddaf gynghor i ti: paid ti, Wilcox, a dilyn Elias eto; nid yw yn deall mwy am gloddio nag a wyr am farddoniaeth. OndJ gyfeill ion, never mind, cewch ymuno gyda ni, a byddwch yn foneddigion yn fuan eto." Yr oedd ein ewmni yn awr yn ddeuddeg rmewn ,nifer-pedwar Cymro, chwech Sais, a dau Ysgotyn. Treuliwyd y chwe' mis cyntaf yma yn ddifyr a doniol. Yr oedd un o'r Saeson yn feddianol ar delyn, ac yn hynod hoff o'i chwareu, a chwareuwr campus ydoedd hefyd. Gan fy mod i yn bur hoff o gerddoriaeth offrtrynol (dylaswn gofnodi yn gynt fy mod yn ystyried fy hun jrn dipyn o ganwr ") llwyddais gael gan Brierly, y Sais, Fm dysgu inau i chwareu tanau y delyn yn go lew. Ni wnawn gofoodi hyn oni b'&i am ryw reswm penodol, yr hwn a eglurir eto yn helaethach). Ond, ddarllenydd anwyl, er ein bod yn llwyddo yn rhagorol yn y gloddfa newydd, teipalwn i yn hynod ddigalon. Ow! digalon iawn yr oedd Ben yn teimlo er yr adeg y bu farw Angelina. Yr oedd pangfeydd hiraeth bron a'm llethu o hyd. 0, fy anwylyd ni phasiodd dydd nac awr hub i mi feddwl am dani, Yr oedd fy meddwl yn symud, byw, a bod," yn nghymydog- aeth y fynwent fechan gerllaw Melbourne. 0, ysmotyn cysegredig! 0, anwyl fan! gwylied yr eDgyl ef. Er fod dwy flynedd a baner wedi pasio er adeg y claddu, meth- odd y tymhor yna ddileu adgoflon; na, na, ni ddilewyd yr un ohonynt. Yn fuan ar ol y gladdedigaeth nawseidd- iwyd fy meddwl i raddau nelaeth, a gyrodd colli Angelina fi YN NES AT FY, Nuw ac yr wyf erbyn hyn yn credu fod y cyfan o dan ei reolaeth Ef i ddwyn Ben i fan briodol—i'r starting point o farwolaeth i fywyd." Drwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel lor Yn dwyn ei waith i ben," &c. Yr oedd genym fanteision crefyddol yn y gloddfa hon. Yr oedd yno genadwr wedi ymsefydlu yn y lie, ac yn gwneyd daioni mawr. « 4' Un prydnawn hyfryd, wedi i'r oil o'n cydweithwyr ffarwelio a'r claim, ond Tom a, a minau, yr oeddwn i yn brysur roddi powdr mewn dam o'r Quartz, wedi cloddio y twll yn y graig, ac yn'rammio y cynwys- iad i mewn iddo. Ond cyn rhoddi y fuse clywn Tom yn gwaeddi, Lan, Ben, ac adref, be quick, my boy." OND OND!! OND PEN. IX. Ond Ond Ond taniodd y powdr ac Ow sut y bu wed'yn ? 0, ddarllenydd anwyl, nis gallaf dy hysbysu; a'r coffa cyntaf sydd genyf am danaf fy hun wed'yn oedd cael fy hun yn y babell yn ocheneidio yn ofnadwy, ac nis gallwn weled dim Yr oedd fy wyneb wedi llwyr dduo. 0, sefyllfa ofnadwy! Y poenau arteithiol! Yn fuan yr oedd fy wyneb wedi chwyddo i'r fath raddau, fel nas gallasai neb, ond ychydig o'm cymdeithion, fy adnabod! Yr oedd y ffrwydriad ofnadwy wedi esgor ar yr effeithiau mwyaf torcalonus. Yr oedd fy llygaid yn nghau, fy wyneb wedi ei lwyr orchuddio a gwaed, a'r cyfan y darlun mwyaf ofnadwy a chalon-rwygol! Nis gallaf ddesgrifio fy sefyllfa; nis gallwn weled, felly cedwid firhag sylweddoli yr holldrueni; ac lis gall iaith ddarlunio y boen arteithiol! Yr oedd fy wyneb a'm 'hymenydd fel pe ar dan fy llygaid fel pe yn ffrydio allan o'u sockets, fir gwaed yn ffrydio gan yataenio fy nillad a holl lawr y babell! Cyrchwyd y meddyg yno yri fuan, ac hysbysodd hwynt fod yn rhaid fy symild yn fuan i'r meddygdy yn Melbourne. Llogwyd trol yn foreu dranoeth, a rhoddwyd Ben ynddi; ac yna dechreuwyd y daith i'r hospital. Yr oedd genym 40 milldir i fyned yno. 0, bellder ofnadwy i ddyn claf! Y fath ddyfnderoedd o drueni yr oeddwn ynddo wrth gael fy nghludo yn y drol drwy y ffyrdd anhygyrch — pob symudiad o'i heiddo yn fy ngwallgofi! Ond rhaid rhoddi heibio yr ymgais i ddar- lunio nid yw o fewn gallu yr ysgrifbin i gsfleu syniad priodol o'r ingoedd ofnadwy Cyrhaeddwyd Melbourne. Daeth Tom yno gyda mi. Yn fuan gorfu i mi fyned o dan gynifer o operations meddygol, a chil- iodd y chwydd o fy wyneb cyn pen wyth- nos. « 4? Y mae chweoh wythnos wedi pasio; y mae Ben yn y meddygdy, a'r arteithiau ofnadwy wedi cilio; ond 0, ddarllenydd anwyl, y mae y dagrau yn llifo y fyiiud hon wrth gofio ymweliad diweddaf y meddyg a mi. Gofynais iddo a fyddai i mi lwyddo i gael adferiad i'm golygon. Ateb'- odd yn brudd, MOST UNFORTUNATELY, YOU WILL NEVER SEE AGAIN 0, Y PAROXYSM o dristwcb Llewygais; a phan y llwydd- wyd i'm dadebru, wylais; do, wylais ddagrau mor heilltion ag y gall gwaddod cwpan chwerwaf wermod ei gynyrchu. Ow! yr oeddwn yn methu realiso fy sefyllfa. Never see again (Byth i weled mwy!) Beth! ai ni chaf weled eto? "Never 8ee again! 0, fy Nuw, a yw y llygaid hyn wedi gorphen gweinyddu y cysur olaf i mi am byth? "Never see again!" 0, eiriau ofnadwy! Yr oedd pob gair a ddisgynai ar fy nghlyw yn cludo cnul anobaith i mi, a phobpeth yn fy adgoffa o'r geiriau brawychus, "Never see again 0, sefyllfa resynus! Dyn ieuane un ar hugain oed wedi colli ei olygon-ei holl gynlluniau am y dyfodol wedi colli eu nod am byth—holl bictiwrs ei obeithion dysglaer wedi eu blotio gan y ffrwydriad yn Sandy Creek, ac heb ddim ond bywyd o alar, gruddfan, a gwae, o'i flaen hyd ei fedd Nid oedd mwyach i weled goleuni dydd—wedi cael yr olwg olaf ar Australia, ac Ow! nid oedd i weled gwynebau ei gyf- eillion, na byth mwy i weled ei anwyl dad a'i fam, yn nghyd a hen sir anwyl Aber- teifi Ond Yn gymaint a bod hanes fy mywyd wedi ei ddwyn i ganol y fath dristwch, gwell tynu y Hen dros y cyfan, a hwylio yn mlaen tua'r Diwedd." Arosais yn yr hospital am wyth wythnos, ac yna eymer- wyd fi yn ol gan Tom i Sandy Creek. Yr oedd cael fy hun yn nghanol fy hen gyfeill- ion yn dwyn graddau o lawenydd i fy mynwes; oad ni theimlais yn ddedwydd yno un diwrnod wedi colli fy ngolygon. (Tw harhau).

Eisteddfod Flynyddol Seion,…

Damwain Adfydus mewn Glofa…

Yr Eglwys Wyddelig.

Caradog yn Feistr Glofa..

Gwaith Cyfarthfa.I

Advertising

Prawf Rhyfedd.

Lynchio Llofrudd.

[No title]

Advertising