Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Dolar fel Safon Gwerth.

News
Cite
Share

Dolar fel Safon Gwerth. Nis gall pobl Prydain gael drychfedd w 1 cywir, ac hwn amgyffrediad am wir werth Unrhyw nwydd neu olud, heb ddefnvddio ceiniogatij sylltau a phunoedd yn safon i fesur v cyfryw; ac wedi dyfod i America, rhaid iddynt ddwyn pris pob peth i arian Prydain, cyn y gallant ddeall y gwir swm. Wedi ymarfer dros amser a sentiau a doleri, deuant yn alluog i amgyffred pris- iau a gwerth heb gydmaru y cyfryw ag ar- ian yr Hen Wiad. Mae yr un darnodiad yn gymwysiadol i ddeiliaid pob gwlad, gyda golwg ar eu hamgyffrediad o wir Werth darnau arian. Dolar ydyw y safon yn y wlad hon, ac mae yn amlwg i bawb fod yma ddau fath, sef un aur ac un bapyr. )Iaerit wedi gwahaniaethu yn eu gwerth yn ystod y deng mlynedd diweddaf o $1.10 1 $21.;5. Ar y laf o Orphenaf, 1864, yr Oedd yn ofynol cael$2.85 mewn arian papyr i brynu un dolar aur. Dengys yr Uchod fod aur yn sefydlog mewn gwerth, dan bob amgylchiad, tra yr oedd arian papyr yn ansefydlog, a'i werth yn dibynu 8r atngylchiadau cartrefol a lleol. Rhaid cael$1.13 mewn papyr heddyw i brynu $1 aur. Cyn y gellir iawn ddeall y pwnc, rhaid cofio un ffaith sylfaenol mewn cysylltiad a gweithred Seneddol i benderfynu gwerth Orian, sef nad ydyw gwaith y Gydgyngorfa yn enwi darn o bapyr yn ddolar, yn ei "neyd yn werth cant o sentiau metelaidd 0 bwysau penodedig. Mae profiad wedi sefydhi y ff-jith nas gall dolar bapyr feddu gwerth hanfodol, unffurf a sefydlog; hyny ydyw, nis gall hyd yn nod unrhyw lywodr- fleth sicrhau, neu yswirio dolar bapyr i brynu cyfanswm nellduol o angenrheidiau bywyd, neu lafur, os na fydd aur yn wystl wrth ei chefn. Nid oes gwerth o gwbl blewn arian, ond yn unig ei allu i brynu aWyddau ereill. Nis gellir bwyta, yfed, na gwisgo arian, ac ni chynyrcha log tra ttiewn llogell neu goffr; canys cyfrwng i ^>rynu ymborth, dillad, nwyddau, tai a thiroedd ydyw. Cyfanswm y pethau a cllir brynu a dolar ydyw mesur neu safon gwerth. Camgymeriad ydyw mesur gwerth unrhyw nwydd a'r nifer o ddoleri fcngenrheidiol i brynu y nwydd hwnw.' Ni roddai neb fwsiel o bytatws am lonaid llogell o ddoleri papyr, os nad ellid prynu Qud haner bwsiel a'r doleri hyny. Arferid dweyd y gellid byw yn well cyn y rhyfel ar ioOO y flwyddyn nag ar $1,000 yn ftwr; gan hycy haerir fod pethau gymaint a hyny yn ddrutach yn bresenol. Mae camgymeriad mawr yn y syniad, a'r ffaith ydyw rod y doleri yn llai o werth y blyn- yddoedd hyn ag ooddynt yr amser a nod- Tvyd. Cwynir yn barhaus gan rai, nad ydynt yn deall y pwnc, o herwydd nad ydyw y llywo'draeth yn gwneyd deddf i csod ei greenbacks yn gydwerth ag aur. Barnant y byddai hyny yn ddigon i godi gwerth dolar bapyr, ar ol i'r llywodraeth dderbyn y cyfryw i dalu y doll ar nwyddau tramor. Mae y syniad hwn yn. hollol gyf- eiliornus, ac yn milwrio yn erbyn deddfau anhyblyg galwad a chyflenwad. Mae dolar bapyr yn werth 87c. yn awr; ond pe cy- toeddai y Gydgynghorfa yfory ei bod yn werth 100e., ni wnai hyny ffyrling o C, wahaniaeth yn ei gwir werth hanfodol. Os gall y llywodraeth godi gwerth darn o bapur i 100c., paham nas gall roddi cam yh lIlhellach, a'i godi i 300c., 400c., 500c. neu 1,000? Yr unig ffordd y gall y Llywodr- aeth wneyd dolar, bapyr yn gydwerth a dolar aur, ydyw ei chyfnewid am aur. Nid ydyw dolar bapyr ond addewid y llywodr- aeth i dalu arian bathol; a chan ei bod yn 8-nalluog i wneyd hyny, y mae ei haddewid 'Wedi dibrisio. Nid ydyw stamp unrhyw lywodraeth ar ddarn o bapyr yn eyflwyno rhyw werth hanfodol iddo. Pe buasai troedfeddi mesur y wlad wedi eu gwneyd o ddefnydd fuasai yn byrhau i naw modfedd wrth sychu, ac ,er fod stamp y llywodraeth ar y droedfedd, ai teg fyddai prynu a gwerthu wrth y fath fesur, a'i alw yn droedfedd? Codai prisiau pob peth a werthid wrth y droedfedd, nid 0 herwydd cynydd hanfodol yn y gwerth, ond mewn canlyniad i fyrhad y mesur. Yr **n modd hefyd y mae gyda dibrysiad dolar bapyr> yr hyn hefyd a gynydda brisiau y ^Wyddau. Byddai byrhad troedfedd neu *athen yn amlwg i'r llyg aid a'r teimlad, jcfelly. yQ hawdd ei ddeall; ond am ddi- wisiad dolar bapyr, peth i'w amgyffred ydyw, ac nid i'w weled a'i deimlo C, Enw air ydyw dolar, ac ni wna galw darn o bapyr yn ddolar y cyfryw yn werth tri gronyn o aur coeth. Ymddengys fod rhai yn priodoli rhyw allulawyngyfareddol i'r llywodraeth, ac yn credu y gall drwy ddeddf osod gwerth ar ddarn o bapyr neu ledr, nes y bydd yn gyd- werth ag aur pur. Dyma yr ofergoeledd ^Wyaf cyfeiliornus a phlentynaidd mewn cy8ylltiad a chyllid gwlad. Byddai yr un resymol haeru y gall gwlad dalu ei dy- ^5' drwy wneyd cyfraith i gyhoeddi ei hun y^ddiddyled, heb dalu sent i neb. Dylai P0., dyn deallus wybod nad ydyw arian athol unrhyw wlad yn werth dim mwy na mbm. gwir werth yr aur a gynwysa. Mne ambell i ddarnau aur yn fwy o werth na'r swm ar eu gwyneb yn ol y sicrwydd am eu purdeb, a dyna ydyw holl werth stamp pob llyw- odraeth. Y gwahaniaeth rhwng gwerth telpyn o aur wrth enau y mwn-dwll a'r aur bathedig yn y l ank of England ydyw y gost i fathu yr aur, ac nid ydyw stump y llywodraeth yn ychwanegu y mwmryn llei- af at ei werth. Mae aur bathedig y llyw- odraeth wanaf yn Nghanolbarth America yr un mor werthfawr ag aur y llywodraeth gyfoethocaf ar wyneb y ddaear. Yr hyn y mae holl genedluedd y ddaear yn gyfar- tal, a'u stampiau ar eu harian bathedig yn gydwerth. Y pwnc yn awr ydyw, beth sydd yn rhoddi gwerth i bapyr fel eyfrwng mas- nachol? Os bvdd ar un masnachwr eisiau talu $1,000 i'r llall, rhydd check iddo ar y bane am y swm; a dichon y bydd i'r ail fasaachwr dalu y trydydd, a hwnw y ped- werydd a'r un check. Gwelir drwy hyn fod darn o bapyr sydd hollol ddiwerth ynddo ei him yn pasio o law i law am fil o ddoleri. Dealler nad yn y papyr y mae y gwerth, ond yn y tri phwys o aur' a delir yn y bane i'r hwn ddaw a'r check yno. Os na fydd y bane yn alluog ac yn rhwym i dalu y check, ni fydd yn werth dim, pa mor brydferth bynag fydd y cerfwaith a'r stampiau arno. Nid ydyw yn ddigonol fod y papyr yn cynrychioli hyn a hyn o aur, neu fod y llywodraeth fydd wedi ei roddi allan yn gyfoethog a chyfrifol, os na thelir yr aur i'r hwn fydd yn dal y- papyr. Os bydd amheuaeth gyda golwg ar dalu yr aur a gynrychiolir gan y papyr, dibrisia ei werth yn ol graddau yr amheuaeth; ac os ceir s crwydd na thelir byth yr aur, ni fydd y papyr yn werth dim. Addewid v llyw- odraeth i diilu ydyw y greenbacks; ac mor fuan ag y cyflawna hyny, deuant yn gyd- werth ag aur, safon masnachol yr holl fyd.

Conciliation Board.

Advertising