Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

iModiadau Cyifredinol.

News
Cite
Share

iModiadau Cyifredinol. Bydd f yn cael y mwynhad o weled y Dryeh Americanaidd ar ambell dro, ac am wn i, nad efe ydyw papyr y genedl Gymreig yn y wlad hono. Rhyddid barn a llafar ydyw avwyddair y Drwh, er y myn rhywvai ei alw yn oracl Anffyddol, ond erys hyny heb ei broil hyd yma. Yn un o'r rhifynau di- weddaf gwelaf fod fy hen gyfaill y crydd, gynt o' Waencaegurwen, adnabyddus yn America wrth yr enw barddol Dafydd y Gareg Wen, ei fod wedi troi i addoli y mesurdiodl, neu fel y dywedai y uiweddar a'r anfarwol Cynddelw am dano-y rhigwm pen bawd. Gresyn fod meibion Cymru, er myned ohonynt i bellder- au y gorllewin, yn ymollwng i gefnogi estron- iaeth o fath y mesur diodl. Bydded i ni, fel Cymry, He bynag y byddom, dual ein gafael yn yr lioi oell a'r glee, ir liyn sydd yn gwneyd ein barddoniaeth yn bur a dihalog. Pcrthyna y pethau estronol, ys dywed Goronwy, i Young Wales, ac nid i Gymry Cymreig gwlad y cenin. Gall fy mod i yn feius yn y peth hwn, ond yn fy myw nis gallaf weled yn wahanol. Y cywydd, yr englyn, a'r gan odbadol ydynt y pethau a bertliyn i'n cenedl ni, a phob mesurau ereill nid ydynt yn am- gen na thrauioriaid yn y wlad hon, a gellir ystyried y saw] a'u mabwysiadant yn ddim llai na bod yn ddilynwyr Die Siion Dafydd, o ba rai y ceir nifer mawr yn Nghymru heddyw. Nid oes dim a berthyn i ddsfodau ac arferion y genedl yn gwarafun neb i ddysgu ieithoedd ereill, ond dylai fod cymaint a hyny o genedlgarwch yn nghalon pob Cymro a wna iddo gadw y Gymraeg yn ystafell fewn- 01 y galon i fod yno fel brenhines y lie. Saif cymeriad moesol a chymdeithasol y Cymry yn ogyfuwch a'r un genedl ar wyneb y byd, 11 y o ganlyniad, paham y rhaid i neb wrido a chywilyddio ei fod yon Gymro Cymreig:— Pe meddwn ar dafodau fyrdd I siarad ieithoedd gwledydd byd, A'u trosi mewn amryfal ffyrdd, Yn mlaeimf bydd Cymraeg o hyd, Hen iaith hynaiol mam a nhad, # A iaith goreugwyr dewr fy ngwlad. Cydnabyddwyf gyda dyledus barch fod y Saesonaeg yn iaith. fasnachol y byd, a chyf- rwng bara cliaws i filoecld, eto mae yn ddyledswydd neillduol ar bob dyn i gadw mewn urddas iaith y wlad y perthyna iddi er profi nad Qes arno gywilydd o'r genedl a'r wlad a'i magodd. Mae balchder a choegni yn arwain llawer i feddwl fod siarad Saeson- aeg yn rhywbeth mwy urddasol na siarad Cymraeg qnd fe ellir priodoli y diffyg hwn i wendid yr ymenvdd, a phrinder gallu ilyw- odraetlm y cyneddfau deallol, a thrwy hyny wneyd eu hunain yn wawd cenedloedd y byd. Gadawer i bob Sais-addohvr i gael ei ffordd, a bydded i bob Cymro Cymreig edrych ar v cyfryw gyda dirmyg liaeddianol. v Bum agos annghofio fy addewid o wneyd sylw ar y lleng hysbysiadau a ymddengys y naill wythnos ar ol y Hall. Maent yn am- rywio yn eu teilyngdod yn ol gradd a dos- barth. Daw y money lenders yn mlaen ar ben y rhestr, a gellid eu cyfrif yr hymbyg- iaeth penaf a ymddangosodd o dan dywyniad haul y nefoedd. Yn ail, daw y crachfeddyg i sylw fel un pwysig ar esgynlawr bodolaeth, a braidd na fyn haeru ei fod yn agos a bod yn anffaeledig, a'r cyffeiriau a gynygir ganddo yn gynwysedig o rinweddau i wella pawb, bydded y dolur beth bynag y byddo ni fydd t hyny o un gwahviiaetli, am na fydd byth yn methu, os ydym i gredu brol gwacyddol y crach-ymhonwyr hunan-ganmoledig a gyf- arfyddwn mewn nair a marchnad. Anaml y cyfarfyddwn ag un Cymro yn dilyn Cwac- yddiaeth, er fod yn ein plith ambell un tebyg i hwnw y bu Telynog a'r Cymro Gwyllt yn ymgipris ag ef flynyddoedd yn ol yn March- nad Aberdar. Taera cyfaill wrthyf nad Cymro oedd hwnw chwaeth, ond ei fod yn hawlio ei fod yn Gymro o ryw fath neu gil- ydd. Gan nas gallaf wneyd iawnder a'r testyn ar hyn o bryd, rhaid ei adael, gan addaw i mi fy hun amser ar chyfle i wneyd sylw helaethach o'r testyn eangfawr. Ceisiaf godi hwyl i wneyd rhigwm odlog ar y testyn, gan gymeryd golwg gyffredin ar bob math— o stop y dillad parod hyd i fasnachdy y coffiniwr rhad, ac i lawr i hysbysiad darllaw- ydd y cwrw grot. Rhyfeddol ydyw cynydd a llwyddiant canu cora.wl yn Aberdar er pan oedd Twmi Hywel Morgan yn dechreu canu yn Ebenezer, ar Heolyfelin Abraham James a William Mor- gan y Bardd yn Carmel, ar y Comin y nhw oedd yr athrawon y dyddiau hyny, ond heddyw fe allwn rifo eiii canwyr wrth y cant a'r gelfyddyd wedi gloewi llawer ond nid wyf yn meddwl fod gwell dylanwad yn dilyn yn awr nag oedd yr amser hwnw. Cantor- esau pwysig y dyddiau hyny yn Ty Cwrdd Pen yr Hewl oedd mam Gwilym Cynon, Sian Gruffydd, a gwraig William y Bardd yn nghyd a nifer ereill nad wyf yn cofio eu henwau ar hyn o bryd. Melus adgof y gorphenol, Melus c6f y dyddiau gynt. Ond rhaid gadael y cyfan, a symud yn mlaen gyda'r oes. Mintai bwysig o gerddorion yn ^Aberdar ydyw y Cor Undebol dan arweiniad y cyfaill Rhys Ifans, y dilledydd ac ysgrif- enydd difai, yn ddiau, ydyw eich Trefnydd I yn y Swyddfa yna. Pe cawsai y Gogleddwyr yma glywed y cor am ychydig o droion gallai fod yn wers iddynt er ymgyrhaedd at ragor o berffeithrwydd cerddorol. Rhag trethu gormod ar eich colofn :,u caiff hyn fod yn ddiweddglo am yr wythnos hon. NAI 'RHEN DDYRNWR.

[No title]

Manion Hanesyddol.

CYNGHERDD GYMREli YN L'ERPWL.

IBRYCHEINIOG.

LLANEGWAD.

GIANT'S GRAVE.

YSTALYFERA.

CWMTWRCH.

ABERDAR.

Cyfarfod Llenyddol Gwawr,…

MANION O'R MAN HYN.

[No title]

[No title]

., AT Y BEIRDD.

TELYNEGION Y GWYLIAU j

Y TWYLLWYR.

I'RANNUW.