Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

G0HEBIA2TH 0 L'EEPWL. 1

News
Cite
Share

G0HEBIA2TH 0 L'EEPWL. 1 AGORIAD Y SENEDD. Gwnaeth presenoldeb y Freniues yn St. Stephan dipyn o adfywiad yn y gwersyll, er nad oedd dim un newydd-deb yn yr araeth y | tro yma mwy na throion blaenorol. Cynhyrf- wyd y dyfroedd gan Dr. Kenealy a nifer o'i edmygwyr. yn cael eu blaenori gan Seindorf 33res a nifer o fanori yn chwifio yn yr awelon, lac arnynt lawer byd o arwyddeiriau, megys Y Senedd dair blwyddol," "Rhyddad Tich- borne," Y Gorfreintlen," ac amryw hynod- ion ereill cysylltiedig a'r athrawiaeth a goleddir gan Kenealy a'i ganlynwyr. Mae llawer o'r egwyddorion a bregethir gan y cynddadleuydd yn dda, a byddai yn fenditlx i'r wlad pe caent eu mabwysiadn. Cynildeb gwleidyddol a llawer o ddiwygiadau gwiadol ereill a ddy- lai gael sylw arbenig ein gwladweinwyrpe cyflawnent eu dyledswyddau fel cynrychiol- "wyr y bobl. Peiriant costfawr ydyw brenin- iaetli Prydain, a sicr ydyw y dylid cwtogi ar gyflogau meibion a merched yr hen wraig, gan ddangos iddynt nad oes btwl- gan hyd yii nod teulu'r goron. i fyw mewn gloddest a gwastraff. Nid wyf yn meddwl y byddai yn Uesad newid ffurf ein llywodraetli i weriniaeth, ond mae lie i wneyd diwygiadau mawrion a dwyn pethau i well trefn, gan fod gallu yn nwylawein Seneddwyr i wrthod y ceisiadciu -nw- mynych a osodir o flaen y Senedd am arian i hwn a'r llall. Nid teyrngarwch ac ymlyniad ydyw o-oddef gwastraff, a phe cwtogid amynt gan ein deddfwneuthurwyr, byddai yn hawdd- ach trin y teulu o lawer; ond fel y saif pethau yn bresenol, maent yn tybio mai nhw sydd ben, ac nad oes hawl gan y wlad i ofyn gan- ddynt am arfer cynildeb. Oferedd a ifolineb mawr ydyw meddwl am ddiddymu yr orsedd, oblegyd fe fyddai hyny yn arwyddocau dinystr y wlad ar unwaith; ond trwy arfer cynildeb ac atal gwastraff arianol, ni byddai hyny yn niweidiol i neb, ond byddai- yn fendith o r mwyaf iddeiliaidgorthrymedig Prydain Fawr. Athrawiaeth ddwl ydyw yr hon a gefnogir yn y Werddon, a syniadaeth llawn mor ynfyd ydyw y cyfryw sydd am rafiu y byd yn gyfar- tal, oblegyd pe dygid y cynliun i weithrediad, nid yw yn debyg y daliai yn dda am chwech mis, am fod yn rhaid wrth wahanol ddosbartli- iadau a graddau mewn cymdeithas er cadw pethau mewn trefn. Mae cymaint o wahanol farnau ar bynciau cyhoeddus, fel y mae yn orchwyl caled i gael unoliaeth. meddwl a gweithred yn y werin bobl er cyrhaedd am- canion teilwng a dyrchafedig. Dyledswydd ein deddfwneuthurwyr ydyw gwneyd pobpeth a<* sydd yn bosibl i sefyll dros hawliau y wercn gan estyn iddynt y breintiau a deilyngant fel deiliaicl o'r cyfansoddiad Prydeinig. Diystyr- wch ffroenuchel ein dynion mawr sydd yn achosi y gwrthuni, y diflasdod, a'r aflwydd mawr yn ein gwlad, pryd y dylai pethau fod yn gwbl wahanol. Pe cyflawnid haner yr addewidion yn amser etholiad wedi yr elont i'r Senedd, caem well trefn ar bobpeth, yn gymdeithasol a masnachol, ond fel arall y mae, a thyna yr achos dechreuol o'r annhrefn. Addewid yn cael ei thori nid yw yn werth dim, a buasai yn well hebddi o lawer, er mwyn peidio codi disgwyliadau i obeithio am rywbeth da i ddilyn, ond er disgwyl, nid oes dim yn dyfod. Mae traha gorniesol ein pen- defigion yn cyrhaedd i bwynt eithafol yn ami, fel na byddai yn syndod mawr pe codai y werin mewn gwrthryfel yn erbyn gormes a thraws-arglwyddiaeth. Mae ei le i bobpeth, a phobpeth i fod yn ei Ie, y naill i gydnabod y llall yn ol ei safle a'i deilyngdod fel dinesydd o'r byd. Mae chwys a llafur y gweithiwr yn ooystal i'r byd masnachol ag ydyw aur ac 11 y arian y gwr mawr. Gwell i mi ymatal, rhag myned yn rhy eithafol, am fy mod braidd yn dueddol i daro yr ordd fawr i lawr ar ben y gorthrymwr. AMRYWION. Nid dyddorol iawn ydyw y newyddion cyffredinol, a braidd nad gwgus ydyw yr awyrgylch yn Lloegr a Chymru. Gwneir parotoadau mawrion yn yr Amerig erbyn dathliad yr Wyl Gan'-mlwyddol, a theimla llawer yn siomedig nad oes gobaith iddynt am weled na chlywed Caradog ag adran o'r Cor Mawr yn diaspedain muriau yr adeilad yn Philadelphia. Nid af i fanylu dim ar y newyddion ereill sydd yn dyfod i law o wahanol barthau y tudraw i linell y cyhyd- edd. Am y tro, gorphwysaf.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

CYNGHERDDAU Y NADOLICI YN…

FFEITHIA U A DEILYNGANT SYL…

Mr. Spurgeon ar bregethwyr…

Advertising