Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BTDUBD i'n cyfefllion y Beirdd, 6 hyn allan gy- *8|rio eu holl G-ynyrchion Bardoloaol yn y modd ae cyfeiriad canlynol: REV. W. THOMAS (ISLWTJT), Glyn, Pontllanfraith, ( Qvtladgarwr.) Newport, Mon.
[No title]
Awdl Salis ar Ddystavrrwydd.—Awenyddol. Ymddengys. Gobeithio.—Dechreu "Fe gollwyd nef." Y mae gwallan yn yr orgraff a'r cyfansoddiad. iwch eto, ar ol efrydu Gramadeg Tegai a'r Gomerydd. Y dull y dylem fyw.—Mae newydd-deb yn y gân. Ymddengys. y; r ¡.
.ENGLYNION I ASAPH GLAN DYFI.
.ENGLYNION I ASAPH GLAN DYFI. Ychydig Englynion a anfonwyd i'w dy ar ei ddydd pen blwydd, sef 51, pa rai a wnaed yn fyrfyfyr iddo y boreu hwnw. lIoff hen saph, hynawbedd,-ej ben blwydd Idd ei bwn blew llwydwedd Yro adwawl anrhydecld, Ac i'w oes boed yn fainc hedd.. Weithian mae 'i wallt yn britho,-a'i hir farf Ddwed 'Rwyf fi 'n heneiddio;" Ond ei dafod hynod o-saif mewn hwyl, Hawyr! weis anwyl, fel pery i swyno. Hen gerub y gan yw 'n gvr ron—Asaph, Tywysog chwedleuon 'E ddyfera 'i ddifyrion—i'n bywhau, Huda ei ddoniau fyd o ddynion. '{JamnWydd doed iddo 'n rhwydd o'rlon, I'n hen gawr, gan wynu 'i goron. Ystalyfera. GLAN GARNANT. O l Asaph, mae amom eisieu—i'r haul Droi yn ol ryw raddeu Aeth heddyw ran o'th ddyddiau—hwnt heibio, A ninau 'n wylo 'n weinion o'u holau. God hyny fu, dyna, fe aeth,-i-n; Bu yn hael wasanaeth Yr hyn sy' fod boed odiaeth, Hefyd gwall, ond na foed gwaeth. Dywysog, nid oes dyeisieu-yno, Yn anedd nef leisiau, Ond yma 'n awr nid amau-un dynyn, Wedi ei derfyn na rydid arfau. Ystalyfera. GLAN CLBDDAXT.
CAN AR Y DULL Y DYLEM FYW.
CAN AR Y DULL Y DYLEM FYW. Dyn! ardderchog yw ei dremiad, Dengys fawredd llachar Duw, Dolen euraidd a gysyllta Nef a daear yn un yw; Croga myrdd o ddyledswyddau Wrth ei hardd fodolaeth ef, A chyfrifolam bob gweith,red Yw i Farnwr byd a nef. Saif ei fywyd yn drag'wyddol Ar ei ymdrech yn y byd, Ali weithrodoecld ar y ddaear A'i canlynant ef o hyd; Draw i oror yr ysbrydol, x A O>«"- „ At orseddfainc wen cyfiawnder, Heibio myrdd o engyl pur. Felly, mae ei holl ddedwyddwcli r." Am drag'wyddol hirfaith oea, <;) Wrth ei ddull o fyw yn hongian, -7 Er ei fod yn myd y soes; ti Deddfau moesol a naturiol, A Yn qj rwymo beunydd sydd, 'tto yu ei safid dynol, Mewn cyfrifiad mae yn rhydd. Dengys natur a datguddiad Iddo lwybrau prydferth rhin, 5*61 a'u bysedd y cyfeiriant I ororau mwyniant cun; Heibio ffosydd dyfnion llygredd, Heibio pob drygioni cas, Trwy ddyffrynoedd heirdd union deb, Ar hyd llwybrau nefol ras. Dylai'r meddwl, pan yn ieuanc, Yfed gwybodaethau pur, A chydblethu ei serchiadau Am wrthddrychan claer y gwir; Dylai dynu cynllun bywyd, M Wrth linynau ifliin a moes, A chyaegru ei aatudiaeth I fuddioldeb trwy ei oes.. Dylem efelychu natur Yn ei darpariadau llawn, Dilyn llwybrau y wenynen, A'r morgrugyn bychan iawn, Sugno maeth ac ymborth iachus,, Mewn ieuenctyd hoenus Ilon,- Erbyn henaint a chaledi, Erbyn gwae a blinder bron. Dylai'r enaid ymddifyru Yn mrydferthion nefol wlad, Ac ymborthi ar her ffrwythau, Geir o fewn y Beibl mad; Dylai rhinwedd ber flodeuo Yn ein cymeriadau oil, Dylem fyw i wasanaethu Ein Creawdydd yn ddigoll. Byw yn onest ac yn ffyddlon, Mewn diwydrwydd eurog fri, Pur addfwynder, gostyngeiddrwydd, Ddylent fod ein nodau cu; Ie, byw fel ser ysblenydd, Yn nghaddugawl noa y byd, A'n gweithredoedd fel rhosynau, Yn arogli hedd o byd. Dylem wrthwynebu celwydd, Trais a. gormes, twyll a brid, A mynwesu y gwirionedd, A chofleidio rbyddid llâd; Chwilio natur a'i hamrywiaeth, Am fwynhad i'r enaid mawr, Darllen enw y Jehofah, Yn y cread gwyrdd ei wawr.. Rhoi addoliad i'r Creawdydd, Yn y ddalen fyg a'r rh6s Yn y bryn ac yn y dyffryn, Yn y dydd ac yn y noa; 1 Rhodio'n agoa at y dwyfol, f A DYNA'r y dylem fyw, A chysegru ein holl ddyddiau I roi moliant pur i Dduw. • ■ Efelychu y Gwaredwr, Dyna ddylem drwy ein hoe* •Di^ru ol ei gamrau llachar, Gau waagaru rhin a nioes j Gwisgo ei gyfiawnder dwyfol, Am yr enaid ar bob pryd, Gorphwys! gorphwya! yn drag'wyddol, Ar ei aberth dwyfol drud. Mewn uniondeb ac amynedd, Yn ngoleuui dysglaer Ffydd, Trwy hen <1 dyffryn Edifeirwch, Dyna'r ffordd i wlad y Dydd; Os am etifeddu'r nefoedd, Rhaid ymdrechu gyda Duw, A chydblethu ein serchiadau Am ei wirioneddau byw. HEN GBISTIONV
LLYTHYR DESGRIFIADOL.
LLYTHYR DESGRIFIADOL. Tailh o Portmadoc i Ffestiniog (ar hyd Bheil- ffordd Ffestiniog). Anwyl Gyfaill,-Daeth eicli llythyr i'm Haw, dyddiedig '76, a gofynweh ynddo am ddesgrifiad o'r daith o'r Port i fyny yma. Wel, gyfaill, y mae yn bur anhawdd gwybod pa beth ydyw un o anhebgorion bras-ddesgrif- iad, gan fod eymaint o wahanol farnau am hyn fel pob peth arall yn y byd llenyddol. Ond i geisio eich boddloni chwi, bydd i mi raddi yr hyn a dynodd fy sylw yn fwyaf arbenigol ar y pryd. Ond i ddechreu, daethum i Portmadoc o Gaernarfon yn hwyr brydnawn, fel na chefais amser i sylwi fawr ar y lie, gan fod y "train bach" (fel y gelwir ef) yn cychwyn i fyny oddiyno oddeutu pump y prydnawn, sef y diweddaf. Cafodd y lie hwn ei enw oddiwrth W. A. Madocks, Ysw., yr hwn a gododd, trwyei haelioni, forglawdd nes ieuo gwlad "Meirion ac Arfon yn un." Y mae llawer yn fyw etc sydd yn cofio y lie heb ddim ond dau neu dri o dai; ond erbyn hyn, y mae yn dref fywiog, ac ynddi "borthladd dymunol. Bywyd y fasnach ydyw dadlwytho a llWytho y llechi sydd yn cael eu cludo i lawr o Ffestiniog. O'r station, yr ydym yn cael golwg ar glawdd y rhaid i ni groesi, ac fel y dywedodd y diweddar Emrys,- 0 Arfon i Feirion ceir rhodio'n ddifyrus. Er gweled yr eigion yn lleidio gerllaw, Heb ofni cudd berygl y draethle dwyllodrus Fu'n angeu i ganoedd-i filoedd yn fraw; Y gwreng a'r boneddwrgyd-deithiant hebddychryn, Yr ychain a'r defaid a rodiant dan rif Ar reilffordd sy'n cludo glas wythi y Moelwyn, Lie gwelid y llongau yn marchog y llif. Dywedir i ami fywyd gael ei golli wrth groesi y traethle hwn cyn gwneyd y morglawdd, yr hwn sydd wedi gadael y dyfroedd, a dwyn canoedd o erwau o dir, lie codir cynyrchion at gadw dyn ac anifail; ac yn y morfa- an- nywylledig gwelir ugeiniau o anifeiliaid yn ymborthi yn mhlith yr eithin; pan yn croesi hwn, yr ydym yn gadael swydd Gaernarfon, ac yn Meirion yn ddiarwybod i ni ein hunain. Y peth cyntaf a dynodd ein sylw ynddi oedd y foundry, yr hon sydd yn eiddo perchenog- ion y rheilffordd. Yr ydym yn caeltrem wrth fyned yn mlaen ar gyrau. Eifionydd. Gwelir yno lanau o elltydd deiliog, ac O! mor brydferth y tpaey wylliediar vn edrvch—v mae yn adigon a pheri rr sylweayau muawi naar dfes dim ond tangnefedd yn y tir; ar y fron acw, gwelwn Penymorfa. Yn adeg ein teidiau, yr oedd tonau yn myned i fyny hyd yno megys law yn llaw ac yn y plwyf acw y claddwyd yr hen Syr John Owen, Clenenau, yr hwn a fu yn filwr dewr dros ein gwlad yn amser brenin Siarl 1. a Cromwell. Wedi dyfod o honom i orsaf Minffordd, yr ydym yn cael golwg ar gei llechi, pa rai sydd yn cael eu tynu o wageni llinell Ffestiniog, a'u llwytho drachefn i rai Cambrian Railway; hon yw yr orsaf brydferthaf a mwyaf gorphenedig fedd y llinell hon. Yr ydym wedi gadael Plas y Penrhyn ar y deheu, ond yn y fan, dyma adeilad diaddurn yn dyfod i'r golwg ac erbyn holi, eawsom mai hwn ydyw Tloty Undeb Ffestiniog. Wrth fyned, yr ydym yn troi ein gol/gon yn ol i gyfeiriad y deheu, yr ydym yn cael dim'ond bron olwg ar dyrau Castelldeudraeth, yn yr hwn y mae teulu y diweddar D. Williams, A. S. dros y sir hon o flaen Mr. Holland. Y mae ef yn llechu mewn cesail yn ochr trwyn y Penrhyn, ac yn ffrontio at hen gastell henafol Harlech. Ac fel yr ydym yn cael ein cario yn mlaen, dyma y Penrhyn i'w weled yn ei ogoniant. Yr wyf yn cofio y lie hwn yn edrych yn dlawd, a'i breswylwyr yn anaml; a'r hen ddywediad hwnw am dano, "Ffordd bynag chwyth y gwynt i'r Penrhyn aiff yr us." Ond da genyf allu dwyn tystiolaeth wahanol oddi- wrth y pethau a welir ynddo yn awr, y mae yma drefian hardd a glanwaith yr olwg. Gwelir yma gapeli heirdd, eglwys orwych, ac yr wyf, o'r braidd, yn tybio fod yno farchnadfa yn rhan p'r pentref. Yr eglwys wedi'ei hadeiladu trwy haelioni Mrs. Oakley, Tanybwlc'h. Dywedir i'm mai trwy haelioni y diweddar D. Witliams, A. S. dros y sir hwn, i fu yn foddion i ddyrchafu y. lie hwn y peth ydyw y dyddiau hyn-yn lie hen gorsydd llidiog, y mae caeau meillionog—ynlle mawn, ceir tatws, &c. Gors f salw a diaddurn ydyw hon, o'r bron na ddywedem y dylid cosbi y neb a'i galwai ar yr ehw-nid yw yn dyfod i fyny a'r gair yn agos; ac wrth ei gadael, cawn drem dda ar Hen Gastell Harlech (neu, fel y mae rhai yn hoffi ei alw, Castell Bron- wen), yr hwn sydd i'w weled yn gadarn, er iddo sefyll cynddaredd estroniaid ac amser. Yn fwy i'r dwyrain, gwelir Talysarnau yn nghanol coedydd talgryf ac iraidd. Y mae yn demtasiwn i'm fyned i edrych am hen breswylfod awdwr y k £ Y Bardd Cwsg" (Elis Wyn), ond hid oes amser, gan ein bod dan awdurdod gwr arall. Gwelwny graig ddrwg, a'i chyiFelyb chwiorydd, yn rhedeg braich yn mraich at Trawsfynydd. Yn nes atom, y mae Maentwrog yn dechreu yniwthio i'n sylw. Yr ydym yn awr uwch ben pl&s Oakley, Ysw., sef Tanybwlch. Clywais ddywedyd fod yno lyfrgell ardderchog wedi bod—yn un o'r rhai rhagoraf feddai y sir hon, ond yr Hen Gwrt, ond y mae yntau wedi cael newid ei gynllun fel llawer hen adeilad. Y mae yn seiyll ar allt serth uwch ben dyffryn prydferth a fel y dywedodd Meurig Ellin am dano pan yn cyd-deithio ryw ddydd, Maen tirion yw Maentwrog,—a'i wdydd A'i gadarn fur enwog; .Onid ydyw yn odidog I daenu yr yd o dan yr og. Gellir dweyd fod natur wedi ymgyfarfod yn NyfFryn Maentwrog yn amrywiaeth ei golyg- feydd, a'r amrywiaeth hwnw heb fod yn milwrio yn erbyn yr unffurfiaeth meddwl sydd ynddi. Cawn yma ddolydd gwastad a llydain, a'r afon yn rhedeg trwy ei ganol yn cyflwyno i ni y prydferthwch mewn ysgogiad yma, ar un llaw, cawn y clogwyni yn codi yn fryniau uchel; ar y llaw arall, y mae y coedycld talgryf ac iraidd fel gwylwyr, yn amddiffynfa i'r lie a thrwy yr oil, y mae yr olygfa yn cyfranogi a'r addurnol a'r mawreddog, a thrwy hyny yn ei wneyd yn un o'r lleoedd. pryd- ferthaf fedd Sir Feirionydd. Yn y gongl nesaf atom na glwys henafol y plwyf, cawn olwg ar Glan Williams, lie y bu Mr. Holland, A.S., yn byw; yn uwch na'r dollborth, gwelwn yn nghanol y wig adeilad newydd, syml, a plirydferfh-wecli ei wthio i'r neilldu, a mynegwyd i mi mai capel newydd ychwaneg- ol y Methodistiaid Calfinaidd ydoedd; ych- ydig uwch law iddo, dacw dyddyn du lie bu Edmwnd Prys, arcbddeacon Meirionydd, yn byw; ac yn uwch i'r dwyrain mae hen drigfan Hugh Llwyd o Cynfal, bardd enwog yn ei ddydd; ac fel y dywedodd yr Archddeacon Prys am dano, Ni chleddir ac ni chladdwyd Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd. Yn y ceunant islaw, mae darn o graig a ad- nabyddir wrth yr enw Pwlpud Huw Llwyd. Ond dyma orsaf Tanybwlch, pryd y mae y cerbydau a'r agerbeiriant yn ein pasio i fyned i lawr; wrth ymyl hon y gosodwyd y gareg sylfaen y linell hon. Nid oes yma ddim ond gelltydd serth. Yr ydym yn myned trwy dynel bychan o ran hyd. Dyma ni wrth ben y Dduallt (hen balasdy yn ei ddydd. Adeiladwyd ef yn amser y Frenines Elizabeth) a Dol y Moch, neu yn ol yr hen enw, Dol y Rhydyfan. Dyma orsaf newydd yn dwyn yr enw Coprhos y Llyn. Nid oes yna ond un ty; eto, y mae yn fan cyfleus at fyned i bentref Ffestiniog. Cawn oddiyna drem ar y Manod, a rhan o'r Blaenau yn dechreu ymwthio i'n sylw; ac yn wir, oddiyma ceir yr olygfa ar bentref Ffestiniog' a'i phalasau hardd, megys Frondirion, Plas Meini, &c.; ond pan yn nghanol yr olygfa, dyma dywyllwch yn y fan yn ein goddiweddu. Dywedir fod y tynel hwn dros haner milltir o hyd cyn gwneyd hwn, yr oedd dwy allt i gymeryd y gwageni tros y mynydd hwn, ac y mae olion ohonynt i'w gweled eto. Yn sydyn, dyma oleuni dydd arnom unwaith eto, ac yr ydym'yn caelein hunain wrth droed y Moel- wyn ac am a wn i, na ddaethum trwy un o'i fysedd pan yn dyfod trwy y tynel.- Tanygris- iau y gelwir y lie hwn, yr hwn le sydd wedi caeleienwoddiwrth hen cisiau mawr oedd ar y ffordd wrth fyned i Cwoaorthin. Y mae ,aAlnra .¡ UAun:ultL->l. wyn, ar hyd pa rai y codir ac y gollyngir gwageni. Ni cheir dim yn y Moelwyn i dynu sylw y sylwedydd os na bydd yr allt hir sydd yn myned i waith y Wrysgafn. Ceir oddiyma ychydig ar ran o waith Cwmorthin. Yr ydym yn cael golwg ar ddwfr ddisgyniad ardderchog ac yn fan, dyma y foundry ar y llaw aswy cyn gyned a'r orsaf, yr hon sydd yn edrych yn salw a diaddurn; ac fel y dywedodd Ipnoron Glan Dwyryd, ( Tynu gwres mae Tanygriaiau' • I fron ei llechweddau. Yma, mae tai hardd a phrydferth-yr oil i'w gweled yn newydd o'r bron; ysgol newydd, a dau gapel-un i'r Annibynwyr, a'r llall i'r Methodistiaid Calfinaidd. Dacw Ty'n y Ddol, hen breswylfa Salmon Llwyd, yr hwn oedd yn ei ddydd yn enwog am adrodd chwedlau. Nid oes yma ddim tir llafur. Ychydig o gaeau gwair, a gerddi bach o flaen y tai â. gofal dyladwy yn cael ei rhoddi iddyntgallwn dybio; a'r un sydd wedi rhoddi iddynt yn hyn o beth ydyw J. W. Graves, Yaw., Plas Weunudd. Yr ydym yn cael ein cario trwy le serth ac fel y dywedodd Dewi Wyn, Uwch y gwaelodion iach a goludawg, Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg, Echrys, ac uthrol; ochrau ysgythrawg, A manau crebach uwch meini cribawg. Ae hefyd yn myned dan a thros bontydd. Y mae afon Barlwyd i'w gweled yn ymlithro yn mlaen yn gyflym am afon Dwyryd, a chawn hi'yn gwneyd un gwasanaeth heblaw rhoddi ei hun i gario ymaith aflendid y lie, sef troi olwyn y fact ry; ac uwchlaw hon, cawn y Demi i'r duw Bacchus gyntaf yn y lie hwn geyilaw, y mae capel bychan gan y Bedydd- wyr, olynwyr y Parch. J. R. Jones, Rhamwth. Gyda'r ffordd, gwelir anedd-dai glanwaith hyd nes dyfod at aneddau y Publican; y mae gwedd diymgeledd arnynt. Yn y fan, dyma y groesffordd, llinell yn fforchi at y Rhiw, a'r llall ar hyd pa un yr ydym yn myned i orsaf Duffwys. Cawn oddiyma drem ar domenau y gweithfeydd ac yn wir, y mae Gallt Nith y Gigfran yn serth—ie, dacw yr hen lwybr oedd er's talm yn bur adnabyddus wrth yr enw Llwybr Llwynbg, lie byddai llawer o weithwyr o waith Mr: Holland yn ffoi a(4-ef cyn y gloch; ar y deheu, y mae capel bychan gan yr hen Fedyddwyr wedi ei weithio o goed, a'r bryniau ceimion o'r tu ol iddo; ar y Haw aswy, gwelwn orsaf Dinas, gallt Holland, Pont y Rhiw, a'r tai melinau; ac yn nes atom, gwelwn aneddau heirdd, capel prydferth y Rhiw, yr ysbytty, Baltic Hotel, ac Ysgoed Llwyn y Gell. Wedi gadael cors glan y pwll, dyma y farchnad, a'r Assembly Room uwch ei phen; ac Eglwys Sant Dewi, yr hon fynwent sydd anwyl genyf. Wedi ei gadael, cawn eto dai heirdd, a phalas- dy prydferth Isallt, preswylfa Dr. Roberts, yr hwn sydd yn disgyn, o ran ei achau, o, deulu hen Ddoctoriaid Isallt yn Eifionydd$ ac ar ol gadael gorsaf llinell B. and Ffestiniog Railway, dyma ni yn ngorsaf Duffwys, a: llu o rai ya dysgw^l am eu eydnobod Y mae megys uwch pen hon graig ysgythrog, yr hon a elwir yn Gareg Ddu, yr hon sydd yn gysgod da i'r tai sydd islaw. Wedi i ni fyned allan o'r orsaf, y mae y tai yn edrych yn hardd odiaeth y prif adeilad syddgerllaw hon ydyw Queen's Hotel, ond gadawn ein hysgrif yn y fan hon ar hyn o bryd, gan ddysgwyl y bydd tro trwy yr ardal boblog- aidd hon yn dderbyniol genych chwi.- Ydwyf, yr eiddoch, Rhiw Ffestiniog. GLAN BARLWYD.
LLANSAMLET A'R NEUADD GYHOEDDUS.
LLANSAMLET A'R NEUADD GY- HOEDDUS. Nos Sadwrn, y 15ed o Ionawr, cynaliwyd cyfarfod yn Carmel, Pentredw'r, gan bwyll- gor yr eisteddfod ddiweddaf a gynaliwyd yn Abertawe. Dyben y cyfarfod hwn oedd ystyried yr angenrheidrwydd o gael Neuadd Gyhoeddus at wasanaeth plwyf Llansamlet. Siaradodd rhai o honynt yn rymus iawn dros gael y peth i weithrediad. Yr wyf yn sicr y byddai yn gaffaeliad mawr i'r lie yn gyffred- inol. Bum yn siarad & llawer o ddynion y lie hwn ar y mater, ac ymddangosent oil yn barod i roddi pob cynorthwy er cael y neuadd i fyny mor fuan ag y byddo modd. Hwyrach y bydd i bwyllgor gael ei sefydlu cyn nemawr o amser. Hyderaf gan hyny y bydd pawb yn barod A'u rhoddion pan ddelo y dynion heibio iddynt i ofyn am eu hewyllys da. hwynt.—Garmelydd.
Free Emigration to Queensland.
Free Emigration to Queensland. T7TREE PASSAGES are granted by the Govern- i ment to FEMALE DOMESTIC SEBVANTS of all kinds, who are at liberty to engage with whom they please at the best wages they can get: Wages, £ 25 to C50 a year, aU fownd. FREE PASSAGES given to Farm Labourers, whether married or single: Wages JJ80 to J!50 a year, with board and, lodgings. ASSISTED PASSAGES to Mechanics and others on payment of k4. Wages as under a. a. Blacksmiths 12 to 14 per day. Carpenters 12 to 14 M Shoemakers 9 to 10 „ Shipwrights 10 to 12 „ Tailors 9 to 10 M Miners, oolliers, & Quarrymen 10 to Bl The above need not want work a single hour. Apply personally or by letter the Ajjent General for Queensland, 32, Charing Cross, Lon- don or to Mi W. J. PBESSWELL and Mr. JOHN JAMES, Crows. Hotel, Aherdar or to Mr. OWEN MORGAN, Morgan street, Pontypridd. 1209
PO WELL'S COUGH LINCTUS.
PO WELL'S COUGH LINCTUS. Meddyginiaeth effeithiol i bawb yn dyoddef oddiwrth BESWGE, ANWYD, DIFFYG ANADL, INFLUENZA, BRONCHITIS, ASTHMA, GBUGNL Mae y cyffeir hwn wedi ei brofi yn feddygin- laeui en&rnKJTTtia^-y Ooglaia yn y Owddf, yr hyn aydd yn amddifadu y dyoddefydd o gwsg, drwy achoai pesweh blin a pharhaus. Tystiolaeth. Maesteg, Chwef. 1874. Anwyl svr,—Oddeutu deuddeg mis yn ol yr oeddwn yn dyoddef oddiwrth anwyd trwm, a m gwraia oddhvrth ddiffyg anadl a phesweh. Cyng- horwyd ni i wneyd prawf o'ch Cough Linctus, a da genyf allu tystio i r anhwylderau ymadael a ni ar ol defnyddio un costrelaid. Yr wyf yn cadw costrelaid 0 hono yn awr wrth law, a rhoddaf ef i'r plant fel byddo angen, ac y mae yn feddyginiaeth sicr. Yr wyf yn falch i allu tystio yn gyhoeddus am rinweddau eich Linctus mewn achosion o Anwyd a Phesweh.—Yr eiddoch, JOSEPH HUTCHINSON. Parotoedig gan W. PoweU, Fferyllydd, dec., Caroline Street, Bridgend. I'w gael gan yr holl Fferyllwyr, mewn Cos- trelau, pris Is 1 tc. a 28 9c. yr un. 1238
LLYFRAU CYH8EDDE01G GAN W.…
LLYFRAU CYH8EDDE01G GAN W. HUSHES, DOLGELLAU. ABERTH MOLIANT: Cuglfad o au, Tonau, a Salra-odlan, addaa i addoliad op hoetfitns a neillduoL Tr Emynan dan olygiaeth y Pcrcbn. W. Reea, D.D., a'r diweddar William Ambrose; y Toriati a'r Salm-odtan dan olygiaeth y diweddar Mr. J. Ambrose Lloytl, a Mr. B. Bees. Y rnae'r Oasgliad ri) cysiWyB 728 o Bmyn 88 o Salm-odla.li, a 344 0 Ddriau priodol i'r geiriaa. Qellir oael yr limyoaa a'r baiin-oalan heb y Tonan. Y PRI8IAU. Tr Emvnau a'r Tonau (Ben JBTediantJi ••a Olotta Boards, Bdges 4 • Cloth Boards, Bevilled, Red Bdyes .10 Levant Grained Lican, Gilt Edges 4 0 Yr Bmynau a'r Sol-f*: Cloth Boards, R id Bdges I < Levant Grained iinan, Gilt Rdges I < r Sol-Ia yn untg. Cloth Boards, Sprinkled Bdges » < Tr jBmynau alrsaim-adlam yn unigs Argrafllad Brae, yn y gwahanol Rwym- iadau, am Is. 60., 2s.. a S 0 A.rgr;ifflad Rhad, am la., Is. 6c.,2».,2s. go. a 8 0 GBIRIADUR YSGRYTHYROL. A DUWINYDDOL: gan y diweddar Barch. D. Hcaais, B A., Tredegar. Dan Olygiaeth y Parea* J. Pbtbb, Bala. Mae yn oyawyi Bglurhad m Biriaa ao Ymadroddion y Beibl, a Hanes Teyrnasoedd, Dinag. oedd, Mynyddoedd, Dy BTrytioedd, Oreaduriaid, Afon* ydd, Coedydd, a Meini gwerthfawr cj7bwyJedig yn yr YgcrytbyrskU. Hefyd. sylwadan ar Wyliaa, Aberthaa, •; a Seremonlau yr Iuddewon, a Chanedloedd eraill; yn ngbydaar Esboniad ar brif Byncian a Dyledswyddau y GrO-ydd Gi istionogol, ao Adnodan cyfeiriol ar bob pwnc. -Hafv<i, Darluniad o Egwyddorion prif Bnwadan y Byd Crefyddol, gyda hanes Bywyd Ysgrifenwyr Dawmyddol enwocaf Cymru, a gwledydd eraill. Yn Rhanau 3 If lit, GYDA MAPIAU A DARLUNIAU. BSBONIAD CYFLAWN AR Y TESTAMENT NEWYDD: gan y Parch. (P, ROBBSTS, Llanrwst. Ya RHIFYUAU' Co. -CyfroA gyntaf am 7s.. 8s., neu 9s., yn ol y rhwymiad. Oynwysi ivlwadau ar bob vdnod, cyfeiriadan llawn, ao y mae y gwaith hefyd wedi ei addorno ag amryw Faptan ysplenydd. COFIANT A GWEITHIAU y di- weddar Barch. W. Ambrose, Port- madogr: Dan Olygiaath y Parch. W. Bw, O.D^ LoTpwl. Vn rliifyiiau «wllt yr un. Rkenrftiffy* iwyiiftd i dri dosbarth. GTS A BABLUN-STREL EN(;RAVINO-L-WX 11 i I.. GWATSODRYGH.
Advertising
I DYDDIADURON! Mae cyflenwad o Ddydaiadurori Cymraeg a Seisneg, 0 bob maintioli, am y prisoedd rhataf, Yn SWYDDFA'R GWLADGARTY.R.' DIARIES! Purchasers can select from a Splendid Stock of Welsh and English Diaries of all sizes, at the Gwladgarwr Office.
ROWE'S
ROWE'S Great American Remedies FOR THE PlLilS 1ND GHAYEL, AND THEIR STilPTONS, VIZ. Pain in the Back and Loins; Flatulence; Con- stipation Pain in the Kidneys, Bowels, and Stomach Retention and Suppression of Urine. rrHESE medicines have been used for years in JL the American Hospitals, and recommended by the greatest Physicians both in America and this country. The thousands of Testimonials received from patients who have been cured by their use, after all other means had failed, is sufficient guarantee of their efficacy. Sufferers are earnestlv solicited to give them a trial, especially those who have derived no benefit from other medicines. They are put up in the follsvdns manner (care should be taken to get the one suitable to your complaint):— Jtoive's American Powder for the Piles. Howe's American Remedy for Bed Gravel. R..wa's American. Bwnedy for White Gravel. Sold in Bottles at Is. ljd. Can be*had througk all Chemists or of the Appointed Agents :—Mr. Watkin J. Thomas, A ber dare; Mr. James, ouabain A;h Mr. Thomas, Hi-h-street, Merthyr; Mr. Hill, Neath; Mr. Jenkins, Tre- herbert; or by post for 15 stampB. 'ROWE'S American Gout and Rheumatic Pills. THE GREATEST BEHEDT FOB Gout, Rheumatism, Rheumatic Gout, Sciatica,, Lumbago, T10 Doloreux (Face Ache), and all the Pains of the Limbs and Muscles. Since the discovery of this medicine a few years ago, it has attained such an extraordinary sale, unequalled by any other medicine. The first dose will relieve the pain in less than an hour. A fact which no other remedy can boast of. However bad the disease, by a little perseverance it will certainly yield to the influence of this medicine. Thousands can bear testimony to its efficacy. Sold in Boxes at 1ljd. by the Appointed Ageots, and can be h: i through anv chemist, or bypost for 14 aia.ml; from the Chief English LF 9, PEIXCB OF WALES ROAD, 1189 LOKDOIT, N.W.
Advertising
DAN EDD!! DANEDD!! DANEDJ>»! Y male Mr. Holland, Daneddwr, 11, Nelson Street, Abertawe, yn gwneud Daaedd Goaod o'r defnyddian goreu sydd j'w óa.Gl,. ao pt gyiarwydd yn mhob rhan o'r gelfyddyd. ir BMKt hefyd yn gwarantu y rhydd efe foddJpft- rwydd oyffredtnolmewxa brisian. Y mae J. 5. H. yn riorhau perffe thrwydd mewn aao, eumwythder, boddh nrwydd, a chrof-wder yfr. adroddiad. Damedd seogl, o 6e., cyflawn sefis, « £ 4. Bydd yn bresenol bob ail a phedwerydd dydd Ian yn mbob mis, yn moddygfa Mr. A AHon, Meddyg Llyaieuol, 2, Market Street, iberdare. 1^4
FFEITHIAXJ PWYSIGf
FFEITHIAXJ PWYSIGf ADFEETD IECHYD. 4C ATAL YMOBOD- IADAU CLEFYD. IMPROVED PILL OF HEALTH WHITE (OAERFYDDIN) At y Oroen a'r Gwaed wedi eu gwneyd yn ddi- it- trwy ddull newydd. BIAB y peJent hyn yn cael eu oydnabod yn l.v.. gyffrecHnol fel moddivn ardderchog at wellhan y Bile, Diffyg Treuliad, Gwynt, Bol- rwymedd, y Bendro, Poen yn y Pen, y Cefn, y Fynwes, neu'r Arenan, Clefyd yr Afu, Curiad y Galon, Gwaeyw, Pimples, Diffyg Chwaetb at Fwyd, &e. Anmhritiadwy at y Oroen a'r Gwaed. Ar werth gan hon gyffeirwyr mevn blycban 7Jc. a Is. 2c. yr un; drwy y post, ar dderbyn. iad naw neu bymtheg llythymod eeiniog, oddi- wrth y Perchenogion, WHITB BRÜTHBRS, FIIJr yllwyr, 7, Guildhall-square, Caerfyrodin. Gellir gweled tystiolaethan aneirif yn medd- iant y Perchenogion. Erarbedlle, dymunant roddiy dyfyniadau caalynol o lythyran:— Bioh P!ll of Health yw j path gorou wyf wedi gael at 7 Bile a'r Ingloes." Oymerais etch Peleal, yn o y cyfeiriad, a chefela e mnryUlAd -hyfedd." (AAochyd: Diffyi treuliad a Chiefyi yr Afu ) T&zt Felenl White yn llesiol fawn mewn adiortn 0 Boenan yn y Pen a'r Bendro; ae yn rhyddhaa Bolo rwyHwdd." Mas y jelenl roddas-eh 1 ml wedi 11 wyr wal han ft mynwes &0 wedi symud y posnan oedd yn fy yi^wyddan. Yr wyf wedi oael eioh pelenl yn anmlirisla £ wj« Mae nn dogs yn gwella y BQe a Gwyit n y Jynwes. T ma* yn well genyf el«h p«l»ni ohwl nag onsfeww Mi erelll at y Bile, a Phoea Pen. Mae ty agwraig baqrd yn eudewis eitiii pob >hai exeSl" "Mae yn dda genyf 1 ehwl 1r anog 1 gymwwa 7 Pelenl hyn; naeat yn ate* y Irktn yn dda; a« fb fwy eyfaddas I'm eyfansoMlad nag urhyw Setoni OHB mH d>et«. Maent 0 natter fwyn a«an