Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Eisteddfod Treherbert, Nadolig,…

News
Cite
Share

Eisteddfod Treherbert, Nadolig, 1875 BEIBHIADAETH Y TRAETHODAU. Y Wenithen, o'r eginyn i'r dorth. Pump o draethodau a dderbyniwyd ar y testyn hwn, sef eiddo D.O.H., Eginyn gwan ei gyneddf, Ultimus, Multum in parvo, a Medelwr llawchwith. D. D-H. Traethawd ysgafn ac arwynebol yw hwn, yn arddangos diffyg mewn iaith, a threiddgarwch meddwl. Yn lie cadw golwg ar "y wenithen o'r eginyn i'r dorth," crwydr- odd yr awdwr yma ac acw i ddysgrifio pethau nad ydynt yn dwyn dim mwy o berthynas a'r wenithen na rhyw rawn arall, ac oherwydd 'hyny y mae ei draethawd yn wasgarog a di- bwynt. Eginyn gwan ei gyneddf. Dosrana yr awdwr hwn ei draethawd i dri phenawd, sef y wenithen yn eginyn, y wenithen yn dy- wysen, a'r wenithyn yn dorth. Trinia ei faterion yn ddoniol, ond ysgubir ef weithiau oddiwrth ei destyn gan rym llifeiriant ei ddawn barddonol. Tybiwn fod yr awdwr hwn mewn mwy o berygl i gael ei demtio ganyr ysbryd barddonol na chan yr unathionyddol. Pe gallai ddwyn y ddau ysbryd i dalu gwar- ogaeth i lywodraeth barn addfed, byddai yn debyg o wneyd traethodwr gwych. Ultimus.-Rhanodd Ultimus ei draethawd yn chwech o benodau:—1. Y Tir; 2. Yr Hau; 3. Y Medi; 4. YDyrnu; 5. YMalu; 6. Y Pobi Bara. Ysgrifenodd ei draethawd yn llithrig a goleu, ond collodd ormod o'i amser i ddarlunio gwahanol gelfi amaethyddol; ac fel ei gydymgeisydd blaenorol, ymdroes ormod gyda phethau nad oes mwy o gysylltiad rhyngddynt a'r wenithen nag sydd rhyngddynt a'rheidden a'r geirchen. Y mae ei draethawd yn ddifyr i'w ddarllen, a thuedda i ddwyn ei ddarllenwyr i ogoneddu Duwam ei ddaioni Thagluniaethol. Multum in parvo.—Traethawd cryf yw hwn, ao arddengys lawer o lafur a gallu meddwl. Treiddia ei awdwr yn ddyfnach i'w destyn na'i gydymgeiswyr blaenorol, ac y mae ei holl sylwadau yn dda, ond gallasai eij. rhoddi wrth e]t gilydd yn fwy rheolaidd a, thaclus. Ychydig o sylw a dalodd i'w gynllun, ac o' hprwydd hyny y mae ei draethawd yn ddiffygiol mewn urddunedd gorphenol. }'fedelw}'llawchwith.-Y traethawd. hwn,yw y goreu.' Dilyna yr awdwr hwn ei destyn yn ffyddlawn o'r dechreu i'r diwedd. Trinia ei holl ranau gyda deheurwydd a gallu mawr. Edrycha ar dyfiad y gronyn gwenith yn mhob cysylltiad. Craffa airno a llygaid atlirpnydd o'i eginiad i'w addfediad, ac o'i addfediad hyd ei ffurfiad yn fara ar y ford. Y mae cynllun ac ieithwedd y traethawd hwn oil yn glasurol, ac yn arddangos meddwl dyfngraff. Medelwr llawchwith sydd yn teilyngu y wobr. Dylan-wad y naill ddargai\fyddiad ar y llall, a dylanwad y naill a'r llall ar wareiddiad, d-c. Derbyniwyd pedwar traethawd ar y testyn llwn, sef eiddo Matrimium Alicujus Yenerse, Plenydd, Mens, a Glyn. Matrimium, &c.—Ffugenw symlach o hyn allan os gwelwch yn dda. Traethawd bychan, arwynebol, a thra diffygiol mewn sillebiaetli ac orgraff yw hwn. Gallwn feddwl na. feddyl- iodd yr awdwr hylithrlawn erioed am enill y ol wobr oblegid y mae ei ddull ysgafn yn ym- drin a'i destyn yn arddangos hyny. Plenydd.-Traethawd yn arddangos llawer o ymci.wiliad yw hwn. Dengys ei awdwr g gydnabyddiaeth helaeth a'r gwahanol gelfydd- ydau, a dilyna hanes y naill ddarganfyddiad ¡. a'r llall gyda llawer o fedrusrwydd; ond treulia ormod o'i amser gyda y celfyddydau, a bychan o'i amser gyda eu dylanwad ar war-. eiddiad, ac o herwydd hyny y mae ei draeth- awd yn dra diffygiol mewn trefn a dosbarth. Heblaw hyn, y mae yr holl gyfansoddiad yn orlawn o wallau orgraffyddol; ac o herwydd y pethau hyn, syrthia yn dra isel yn y gys- tadleuaeth. Rhestra y traethawd hwn yn llawer uwch yn y gystadleuaeth na y ddau draethawd blaenorol. Rhagora amynt yn ei gynllun, ei iaith, a'i ddull o drin ei destyn. Dengys y traethawd hwn lawer o allu a gwybodaeth hanesyddol, ac arddengys fod gan yr awdwr allu mawr fel cyfansoddwr. Ond prif ddiffyg y traethawd hwn yw aros gormod gyda y celf- yddydau, a bychan gyda y diwylliad. Treulia yr awdwr ei nerth i'r fath raddeu gyda y rhan gyntaf, fel nad oes ganddo ddigon o nerth i ymdrin yn ddyladwy aV rhan olaf o'i destyn, ae o herwydd hyny mae ei draethawd yn syrthio yn fyr o gyrhaedd y nod. Glyn.-Dyma draethawd godidog. Cymer- odd yr awdwr hwn olwg eang ar ei destyn, a thriniodd ei holl ranau yn fanwl. Desgrifia y darganfyddiadau celfyddydol yn fanwl,; ac arddengys yn deg pa fodd y dylanwadaj y naill ar y llall. Nid yw yr awdwr hwn yn treulio gormod o'i nerth gydag tm peth a. bychan gyda y llall; ond rheola ei nerth 'i'r fath raddeu, fel y mae ganddo ddigon o allu i drin pob pwnc yn drwyadl. Rhagora y traethawd hwn ar bob un yn y gystadleuaeth yn ei gynllun, ei iaith, a'i ddysgeidiaeth, ac o herwydd hyny, i awdwr y traethawd hwn y y dyfarnwn y wobr ar air a chydwybod. Rhagfyr 18, 1875. HWFA MON.

LLANTRISANT.

LLANELLI.

OWMLLYNFELL,.

,TREFORIS.

'LLANELLI.. f

MYNYDDYGARE¥. 111/1,

DULL Y BYD YN MYNED RHAGDDO.

[No title]

TAITH ODDICARTREF.

[No title]