Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. AMRYWION. Fy amcaa bob amser wrth ddechreu fy llith o L'erpwl ydyw, ceisio ysgrifenu rhyw- -beth a fyddo yn ddyddordeb i'r darllenydd, a thaflu i fwrdd y GWLADGARWR bethau gwerth-eu hargraffu, nid er mwyn yr ychydig, ond i'.r lluaws ac sydd yn teimlo dyddordeb mewn newyddiaduron Cymreig. Mae yn dygwydd yn fynych fod y newyddion mas- nachol am drafnidiaeth cydrhwng Prydain a gwahanol wledydd yn wael a difywyd, a bydd ambell un yn cwyno am fy mod yn gwneyd defnydd o'r newyddion anffafriol i lanw tudal- enau y GWLADGARWR, ac na byddaf un amser yn adrodd dim a fyddo yn galonogol i'r werin am ddyddiau gwell, ac amser mwy dymimol i'r dosbarth gweithiol. Tra yn cydnabod ddarfod i mi ar adegau adrodd am bethau anffafriol, meddaf yr hawl o ddweyd yn gwfel ddifloes<mi fy mod wedi cadw at y gwinonedd, gan osod pobpeth yn y Uiw a'r llun priodol, heb ofyn ffafr nac ofni gwg neb. Awgrymwyd llawer o bethau iuasai yn lies mawr i filoedd yn Nghymru pe buasent yn gwrando ac yn gweithredu yn ol y cyfarwyddiadau, ond gan na wnaethant hyny, bu raid iddynt ddyoddef y canlyniadau. Rhaid fod rhywrai yn gyfrifol am y dyryswch, ond ni fyn yr enwogion gyd- nabod yr amryfusedd, nac ychwaith gymeryd arnynt fod a fynont a dim ag sydd wedi arwain y bobl i drobwll trueni trwy ddi- faterwch. Dyledswydd arbenig arweinyddion y bobl ydyw cadw golwg ar helyntion y byd yn fas- nachol a chymdeithasol er mwyn bod yn alluog i redeg y cwrs priodol, fel na byddo iddynt daro ar greigiau rhwystr, a than ddy- lanwad camsyniadau fod yn achos i wneyd difrod mewn amser annghyfaddas, a'r muoedd i orfod teimlo a dyoddef yn herwydd y cam- gyfrif. Y Cadfridogion a'r Maeslywyddion Bydd yn cael ei dal yn gyfrifol am fyrbwyll- dra a symudiadau cyfeiliomus ar faes rhyfel, a gellir gyda'r un priodoldeb osod y bai ar ysgwyddau blaenoriailywerin mewn cysyllt- iadau gweithfaol a chymdeithasol; o ganlyn- iad, fe ymddengys awyddogaeth y cyfryw yn un bwy-sig a chyfrifol, ac yn gofyn am bwyll a gofal mawr cyn wynebu ar un .ymgyrch a fyddo yn debyg o droi yn niweidiol wrth ymgais at binacl buddugoliaeth. Mae y blaenor doeth a deallgar bob amser yn cyn- llunio mewn dull cy wrain a medms, :,i i* dyben o gadw pobpeth yn drefnus a boddhaol, ac er mwyn cryfder ac ychwanegu nerth y cymun- deb y perthyna iddo. Diffyg gwyliadwriaeth briodol ydyw yr achos o'r mynych dryehiEebau yn ein byd, a gallwn i dybio y dylai y gwersi a ddysgwyd yn y gorphenol fod yn addysg i'r presenol a'r dyfodol. Gall nad wyf yn barnu yn uniongred, ond credwyf yn nghywirdeb y farn hyd nes y dysgir i wybod a deall pethau amgenach. Mae dygwyddiadau y blynydd- oedd diweddaf yn ddigon o brawf fod rhyvr gamsyniadau wedi bod, ac erys y pwnc i rywun mwy na mi i'w nodi allan, a gall y bydd yn rhaid i'r darllenydd aros yn hir cyn cael y dadleniad. Ofer i neb cyffredin geisio cael gan gyfangorfF y bobl i gredu yr hyn sydd iawn er lies, llwyddiant, a dyrchafiad y teulu dynol. Ni thai gorphwylledd a rhysedd anystyriol ar fater pan fyddo cysur a ded- wyddwch y miloedd yn dibynu arno. Mae difaterweh wedi costio yn rhy ddrud i Gymry cyn yma, fel y dylid bod yn ofalus rhagllaw pa fodd y gweithredir, am fod canlyniadau pwysig yn dilyn penderfyniadau brysiog ac anaddfed. Mae y newyddion diweddaraf a ddaeth i law o gyrau Ffrainc yn adrodd am drychineb mewn glofa yn y wlad hono. Y glowr druan, wedi myned yn aberth ar allor maauachaeth, ac nid oes wybod hyd yma rifedi y bywydau sydd wedi eu colli yn y fi-wydriad Gallesid manylu llawer o bethau ereiU am y naill beth a'r llall, ond rhaid vm- atal, gan fod pethau yn galw fy sylw i gyfeir- IAD araU.-Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

Araeth Syr Wilfrid Lawson,…

Aberdar.

Agoriad y .Senedd.

Family Notices

Advertising

LLINELL Y "NATIONAL" I NEW…

Advertising

LLINELL Y "WHITE STAR" 0

Advertising

BEIRNIADAETH AWDLAU SCIWEN.