Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Nodiadau Cyffredinol.

News
Cite
Share

Nodiadau Cyffredinol. Mae y byd carclclorol-Cymreig yn cynyddu- yn gyflym, a'r pethau olaf-ond nid y lleiaf- ydyw dwy ganig ardderchog gan y cyfaill D. Jenkins (Castellydd), o Brif-ysgol Aberys- ttwyth. "Gwalia Wen" ydyw y naill, a'r Awyren ydyw yllall; y geiriau Cymreig ;gan yr hyfwyn Gwilym Elian, a'r Seisnig gan 7 bydglodus Ossian Dyfed, yn y ddau gyfan- soddiad. Ymddengys yr argraffiad yn dlws a phrydferth, a phris y ddwy o fewn eyrhaedd y corau lleol. Mae ymdrechion diflino y brawd hwn yn deilwng o sylw meibion cerddgar Gwlad y Gan; a dylai gael y gefnogaeth a deilynga fel bachgen' o athrylith-sydd yn gweithio ei ffordd ar ei wadnau eu hun, heb gael cymaint a chyngherdd cynorthwyol. Dywed cyfaill i mi, ac sydd yn ysgolor cerdd- orol, fod y canigau yn cynwys cerddoriaeth dyner a bywiog, a bod eu dygiad allan yn ■ ychwanegiad dymunol at restr y canigau Cymreig, ac na raid i'r awdwr ofni beirmad- aeth fwyaf manwl yr athrawon cerddorol yn mhlith y Saeson a'r Cymry. Gan fod eich adolygydd yn debyg o gael ymwynhad o fyned a'r ganig i ystafell y dadansodd, gwell i mi ydyw ymatal gyda galw sylw ein cerddor- ion at y cyfansoddiadau, a'r hawliau sydd gan yr awdwr am gefnogaeth y genedl, fel dyn ieuanc ag sydd yn ymdrechu dringo grisiau enwogrwydd yn y byd cerddorol. Cyd- rhwng y brodyr Emlyn, Jenkins, ac ereill, ni allwn gasglu yn nghyd ystorfa lied dda o ganiadau a chanigau a berthyn i ddosbarth nwchraddol. Gall y bydd ambell i hunanol- ddyn yn codi ei wrych ar hyn o sylwadau; ond ni waeth genyf hyny, am nad oes genyf ond dymuniadauda tuagat y cyfeillion hyny sydd yn haeddu cefnogaeth ar gyfrif eu hym- drechion i gyrliaedd enwogrwydd. Hen arfer c. yn mhlith y Cymry ydyw taro i lawr, ond y mae yn amser gadael yr hen ddull hwnw bellach, a gwneyd rhywbeth dros ein gilydd a fyddo yn deilwng o gofnodiad. Gadawaf hyn, yn awr, gan ddysgwyl gweled rhywun yn ymdrin yn mhellach ar y pwnc, gan gofio -am rinwedd, anrhydedd, ac urddas y genedl y perthynwn iddi. Y FASNACH MEWN CWRW A GWIROD.—Pan y mae cymaint o siarad ac ysgrifenu ar ddryg- ioni y fasnach feddwol, nid wyf wedi gweled neb, hyd yma, yn dweyd dim ar y drygedd o ymledaeniad y lleoedd y gwerthir gwirod yn- xldynt. Beth am y siopau sydd yn gwerthu y gwirod wrth y costrelau, gan roddi mantais i'r merched sydd yn hoffi llymaid i feddwi a. myned yn waradwydd i ddynoliaeth. Dylai Uais y wlad godi Ilef yn erbyn y gyfundrefn o drwyddedu siopau i werthu gwinoedd a gwir- od, pan y cydnabyddant fod gormod o dafamt. dai yn barod. Os ydyw yr yinresymiad yn 1. dda—fod gormod o dafarndai, mae yn sicr fod trwyddedu ychwaneg yn ddrwg mwy, a dylid gosod atalfa ar hyny. Mae yr hwn eydd yn myned i'r dafarn .yn 'gwneyd hyny yn wvneb asrored. tra v bvdd llymeitwyr dirgel- gostrelaid, ac ar yr un pryd yn ffug-ragrithio nad yw yn gwneyd dim a'r diodydd meddwol. Mae blynyddoedd o brofiad wedi dysgu i'r .ysgrifenydd lawer o bethau, a phan welwyf unrhyw ddyn yn tynu gwyneb hir ac yn Uusgo wrth siarad, gosodir ef i lawr yn perthyn i'r dosbarth rhagrithiol. Mae gan y •cyfryw amcaiiion neillduol er dangos eu hun- -ain o flaen cymdeithas, mewn ffurfiau defos- iynol i dynu sylw y:byd, pan nad ydynt yn ddim amgen na thwyllwyr o'r fath waethaf a berthyn i lya Lucifer. "Beichiogi ar fyn- ydd ac esgor ar lygoden" ydyw campwaith y bob! hyn; a lie bynag y byddont, yn y capel neu yn yr eglwys, hawdd iawn eu had- nabod-am nad yw y ptyf a wisgant yn ddim ond benthyg, fel nas gallant ymguddio yn hir o dan gochl twyll, rhodres, a ffugiaeth. Yr ydym oil yn ddeiliaid o'r liyw,odraeth Bry- deinig, a rhaid i ni fyw wrth y deddfau a osodir i lawr; a'r sawl a droseddo, rhaid iddo gymeryd y canlyniadau; a phe cedwid at lythyren y deddf yn well, mae yn sicr y byddai gwell golwg ar y byd. Mae y gyfraith foesol yn ein dysgu i dalu gwarogaeth i urddas ac anrhydedd, a phabethsydd yn fwy urdd- fJtaol na gweled y werin yn byw goruwch y .gyfraith—allan o gyrliaedd cospeddgaeth. Y dyn ei htm sydd yn gyfrifol am y gweithred- oedd a gyflawna a phe yn amddifad o allu i -adnabod y da a'r drwg, ni byddai cyfrifoldeb o gwbl. Wrth eu gweithredoedd y bernir pobloedd yn llysoedd y 11awr, a digon tebyg mai felly y bydd mewnllya uwch ha llysoedd, daear. "Cyfiitwrider wrth lmyn, a barn wrth fesur," ddylai nodweddu pbb Ilys, yn gym- deithasol, cyfreithiol, a moesol.: N id oes liawl foesol gan un dyn i gyfyngu ar farn ei gymydog, am y rheswm fod dyn yn greadur -cyfrifol, a chanddo hawl i feddwl a barnu drosto ei hun. Gan fod Uawer yn awyddus aim feddianu y wialen lywodraethol, mae yn ofynol i'r cyfryw ddechreu cloddio o dan wraidd y drygau mwyaf peryglus, sef y rhai cuddiedig, ac sydd fel yn byw rhwng tywyll- wch a goleuni. rail y cymer ein diwygwyr yr awgrym fod mwy o feddwdod yn ein gwlad -er pan y gwerthir gwin a gwirod mewn lleoedd nad ydynt yn myned o dan yr enw tafarndai. Nid trwy fod yn eithafol y mae gwella'y byd, am fod eithafrwydd yn troi ar y diwedd yn niweidiol i gymdeithas. Gall nad yw y dar- llenydd wedi wedi meddwl fod yn bosibl i ,-ddyn feddwi ar.bethau heblaw cwrw a gwirod, a myned yr ynfytaf o ynfydion y byd. Mae dyn, pan fyddo yn myned yn oreithafol, yn sicr o fod wedi meddwi, er na fydd wedi yfed ■c^rw a gwirod; ond, er hyny, wedi cvvbl golli ~'fX oyneddfau lly wodraethol, a myned yn waeth. na.'r bwystfilod rheibus yn y goedwig. Pell "wyf o gredu fod tm dim a,c sydd yn deilliaw o fiynonell daioni yri achosi gofid a blinder i neb; ond, os cymerir ffeithiau yn safon' -weithredol, ni gawnlawer yn gwallgofi o dan; ^^ylahwad ljiaw$>&o bjef^u y y fasnach feddw^l; e .ganlyniad, mae yn; rhaid nad o ffynonell daioni y sugna y dynion hyn y pethau niweidiol, oblegyd fe ddywed Solomon fod pethau oddi uchod yn gwneyd y gwirion yn ddoeth; ond, yn y cysylltiad hwn, mae yn hollol wahanol, am fod yr ynfyd yn ymgolli mewn ynfydr\vydd. Canol y llwybr am dani, ddarllenydd, gan gvmeryd gair y gwirionedd i fod yn rheol ffydd ac ymar- weddiad, a pheidio rhoddi clust o wrandawiad i bob gau athrawiaeth a gyhoeddir" arhyd a lied y wlad. Mae gan bob dyn ei farn am y byd a'r bobl sydd ynddo; a fy marn gyd- wybodol i yw, pe atelid y coflogau a delir i lawer yspowtiwr y gellid yn fuan iawn ysgrif- enu a ganlyn, feb coffad am dano,—"A'r wlad a gafodd lonydd pan y tawodd Jack." Gair neu ddau yn fy llith nesaf ar hysbys- iadau y papyrau Cymreig a Seisnig, gan ddechreu ar y Quacks, fel prif hymbugolwyr hysbysiadol.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.

Guilelimus a'i Suddas-glychau…

RBYFEDDODAU BEIUNIADAETH HWFA.

Y LLANELLY MECHANICS INSTITUTION…

BEIRNIADAETH AWDLAU SCIWEN.