Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Nodiadau Cyffredinol.
Nodiadau Cyffredinol. Mae y byd carclclorol-Cymreig yn cynyddu- yn gyflym, a'r pethau olaf-ond nid y lleiaf- ydyw dwy ganig ardderchog gan y cyfaill D. Jenkins (Castellydd), o Brif-ysgol Aberys- ttwyth. "Gwalia Wen" ydyw y naill, a'r Awyren ydyw yllall; y geiriau Cymreig ;gan yr hyfwyn Gwilym Elian, a'r Seisnig gan 7 bydglodus Ossian Dyfed, yn y ddau gyfan- soddiad. Ymddengys yr argraffiad yn dlws a phrydferth, a phris y ddwy o fewn eyrhaedd y corau lleol. Mae ymdrechion diflino y brawd hwn yn deilwng o sylw meibion cerddgar Gwlad y Gan; a dylai gael y gefnogaeth a deilynga fel bachgen' o athrylith-sydd yn gweithio ei ffordd ar ei wadnau eu hun, heb gael cymaint a chyngherdd cynorthwyol. Dywed cyfaill i mi, ac sydd yn ysgolor cerdd- orol, fod y canigau yn cynwys cerddoriaeth dyner a bywiog, a bod eu dygiad allan yn ■ ychwanegiad dymunol at restr y canigau Cymreig, ac na raid i'r awdwr ofni beirmad- aeth fwyaf manwl yr athrawon cerddorol yn mhlith y Saeson a'r Cymry. Gan fod eich adolygydd yn debyg o gael ymwynhad o fyned a'r ganig i ystafell y dadansodd, gwell i mi ydyw ymatal gyda galw sylw ein cerddor- ion at y cyfansoddiadau, a'r hawliau sydd gan yr awdwr am gefnogaeth y genedl, fel dyn ieuanc ag sydd yn ymdrechu dringo grisiau enwogrwydd yn y byd cerddorol. Cyd- rhwng y brodyr Emlyn, Jenkins, ac ereill, ni allwn gasglu yn nghyd ystorfa lied dda o ganiadau a chanigau a berthyn i ddosbarth nwchraddol. Gall y bydd ambell i hunanol- ddyn yn codi ei wrych ar hyn o sylwadau; ond ni waeth genyf hyny, am nad oes genyf ond dymuniadauda tuagat y cyfeillion hyny sydd yn haeddu cefnogaeth ar gyfrif eu hym- drechion i gyrliaedd enwogrwydd. Hen arfer c. yn mhlith y Cymry ydyw taro i lawr, ond y mae yn amser gadael yr hen ddull hwnw bellach, a gwneyd rhywbeth dros ein gilydd a fyddo yn deilwng o gofnodiad. Gadawaf hyn, yn awr, gan ddysgwyl gweled rhywun yn ymdrin yn mhellach ar y pwnc, gan gofio -am rinwedd, anrhydedd, ac urddas y genedl y perthynwn iddi. Y FASNACH MEWN CWRW A GWIROD.—Pan y mae cymaint o siarad ac ysgrifenu ar ddryg- ioni y fasnach feddwol, nid wyf wedi gweled neb, hyd yma, yn dweyd dim ar y drygedd o ymledaeniad y lleoedd y gwerthir gwirod yn- xldynt. Beth am y siopau sydd yn gwerthu y gwirod wrth y costrelau, gan roddi mantais i'r merched sydd yn hoffi llymaid i feddwi a. myned yn waradwydd i ddynoliaeth. Dylai Uais y wlad godi Ilef yn erbyn y gyfundrefn o drwyddedu siopau i werthu gwinoedd a gwir- od, pan y cydnabyddant fod gormod o dafamt. dai yn barod. Os ydyw yr yinresymiad yn 1. dda—fod gormod o dafarndai, mae yn sicr fod trwyddedu ychwaneg yn ddrwg mwy, a dylid gosod atalfa ar hyny. Mae yr hwn eydd yn myned i'r dafarn .yn 'gwneyd hyny yn wvneb asrored. tra v bvdd llymeitwyr dirgel- gostrelaid, ac ar yr un pryd yn ffug-ragrithio nad yw yn gwneyd dim a'r diodydd meddwol. Mae blynyddoedd o brofiad wedi dysgu i'r .ysgrifenydd lawer o bethau, a phan welwyf unrhyw ddyn yn tynu gwyneb hir ac yn Uusgo wrth siarad, gosodir ef i lawr yn perthyn i'r dosbarth rhagrithiol. Mae gan y •cyfryw amcaiiion neillduol er dangos eu hun- -ain o flaen cymdeithas, mewn ffurfiau defos- iynol i dynu sylw y:byd, pan nad ydynt yn ddim amgen na thwyllwyr o'r fath waethaf a berthyn i lya Lucifer. "Beichiogi ar fyn- ydd ac esgor ar lygoden" ydyw campwaith y bob! hyn; a lie bynag y byddont, yn y capel neu yn yr eglwys, hawdd iawn eu had- nabod-am nad yw y ptyf a wisgant yn ddim ond benthyg, fel nas gallant ymguddio yn hir o dan gochl twyll, rhodres, a ffugiaeth. Yr ydym oil yn ddeiliaid o'r liyw,odraeth Bry- deinig, a rhaid i ni fyw wrth y deddfau a osodir i lawr; a'r sawl a droseddo, rhaid iddo gymeryd y canlyniadau; a phe cedwid at lythyren y deddf yn well, mae yn sicr y byddai gwell golwg ar y byd. Mae y gyfraith foesol yn ein dysgu i dalu gwarogaeth i urddas ac anrhydedd, a phabethsydd yn fwy urdd- fJtaol na gweled y werin yn byw goruwch y .gyfraith—allan o gyrliaedd cospeddgaeth. Y dyn ei htm sydd yn gyfrifol am y gweithred- oedd a gyflawna a phe yn amddifad o allu i -adnabod y da a'r drwg, ni byddai cyfrifoldeb o gwbl. Wrth eu gweithredoedd y bernir pobloedd yn llysoedd y 11awr, a digon tebyg mai felly y bydd mewnllya uwch ha llysoedd, daear. "Cyfiitwrider wrth lmyn, a barn wrth fesur," ddylai nodweddu pbb Ilys, yn gym- deithasol, cyfreithiol, a moesol.: N id oes liawl foesol gan un dyn i gyfyngu ar farn ei gymydog, am y rheswm fod dyn yn greadur -cyfrifol, a chanddo hawl i feddwl a barnu drosto ei hun. Gan fod Uawer yn awyddus aim feddianu y wialen lywodraethol, mae yn ofynol i'r cyfryw ddechreu cloddio o dan wraidd y drygau mwyaf peryglus, sef y rhai cuddiedig, ac sydd fel yn byw rhwng tywyll- wch a goleuni. rail y cymer ein diwygwyr yr awgrym fod mwy o feddwdod yn ein gwlad -er pan y gwerthir gwin a gwirod mewn lleoedd nad ydynt yn myned o dan yr enw tafarndai. Nid trwy fod yn eithafol y mae gwella'y byd, am fod eithafrwydd yn troi ar y diwedd yn niweidiol i gymdeithas. Gall nad yw y dar- llenydd wedi wedi meddwl fod yn bosibl i ,-ddyn feddwi ar.bethau heblaw cwrw a gwirod, a myned yr ynfytaf o ynfydion y byd. Mae dyn, pan fyddo yn myned yn oreithafol, yn sicr o fod wedi meddwi, er na fydd wedi yfed ■c^rw a gwirod; ond, er hyny, wedi cvvbl golli ~'fX oyneddfau lly wodraethol, a myned yn waeth. na.'r bwystfilod rheibus yn y goedwig. Pell "wyf o gredu fod tm dim a,c sydd yn deilliaw o fiynonell daioni yri achosi gofid a blinder i neb; ond, os cymerir ffeithiau yn safon' -weithredol, ni gawnlawer yn gwallgofi o dan; ^^ylahwad ljiaw$>&o bjef^u y y fasnach feddw^l; e .ganlyniad, mae yn; rhaid nad o ffynonell daioni y sugna y dynion hyn y pethau niweidiol, oblegyd fe ddywed Solomon fod pethau oddi uchod yn gwneyd y gwirion yn ddoeth; ond, yn y cysylltiad hwn, mae yn hollol wahanol, am fod yr ynfyd yn ymgolli mewn ynfydr\vydd. Canol y llwybr am dani, ddarllenydd, gan gvmeryd gair y gwirionedd i fod yn rheol ffydd ac ymar- weddiad, a pheidio rhoddi clust o wrandawiad i bob gau athrawiaeth a gyhoeddir" arhyd a lied y wlad. Mae gan bob dyn ei farn am y byd a'r bobl sydd ynddo; a fy marn gyd- wybodol i yw, pe atelid y coflogau a delir i lawer yspowtiwr y gellid yn fuan iawn ysgrif- enu a ganlyn, feb coffad am dano,—"A'r wlad a gafodd lonydd pan y tawodd Jack." Gair neu ddau yn fy llith nesaf ar hysbys- iadau y papyrau Cymreig a Seisnig, gan ddechreu ar y Quacks, fel prif hymbugolwyr hysbysiadol.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.
Guilelimus a'i Suddas-glychau…
Guilelimus a'i Suddas-glychau (Bubbles). Bellach, yr ydym yn dyfod at yr amcan pwysig ag oedd genym mewn golwg pan yn manylu cyhyd ar y pen hwn, a hyny i geisio agor llygaid Guilelimus i'w alluogi i ganfod y GWIR mawr yr ydym yn awr yn. myned i'w ddangos gyda phrofion diamheuol iddo, trwy ledu o'i flaen photograph o'r olygfa-maesyll- wydr (telescope) Barddas yn ei ddwyn i'r golwg ar y pwnc dan sylw, gan brofi i mi nid yn unig mai nid oddiwrth yr Hoshea Iuddew- ig daeth yr enw Hiesous i'r Groeg, ond yn profi hefyd mai o'r un man ag y cafodd y Groegiaid eu Hies, a'u Hiesous, cafodd yr Iuddewon eu Hoshea, eu Joshuah, ac nad oedd yntau, o'r dechreuad, ond Hu Iachaw- durol Barddas y Meini wedi ei bersonoli yn ddyn, yn ol arfer y Ifug-haneswyr Iuddewig, i'w roddi i fod yn un o'u hynafiaid hwy. Yn cadarnhau hyny o wirionedd ceir gweled Joshuah yny photolraph yn dwyn arno yn ddigon eglur nodweddionneillduol a phenodol Hu Barddas y Meini, na bu rhai ohonynt yn perthyn yn briodol erioed i neb arall ond iddo ef. 11 v 1. Gwelwn ef yn cael ei alw Hoshea, (Num. xiii 8. ) Iacha wd wr; sef teitl nsk pherthynai i neb yn gynteng ond i Hu fel ag oedd yn Waredydd rhag drygau a, thrychineb gauaf, ac yn Achubydd y marwolion o Annwn, yn ol athrawiaeth Traws-eneidiaeth. 2. Gwelwn ef yn cael ei alw Joshua (Deut. xxxii-44.); h.y^, yn lachawdwr I-Ah-Oh, neu I-Ah-Oh lachawdwriaeth, ac wrth hyny yr unyngywir a Hu neu I-A-,O Iachaw. durol Barddas y Meini, sef oiiw ag sydd yn sicrhau i ni, yn mhellach fyth, nad oedd Joshuah ond Hu Iachawdurol Barddas wedi ei ddynoli mewn ffug-hanes; oherwydd ni cheir gwraidd nac athroniaetli yr Enw Cyfrin I-Ah-Oh (Jehovah) yn unrhyw fan o'r byd oyfan ond yn yr Enw Cyfrin I-A-0 =/| yn Mirddas temlau cylchog yr Ynys Wen, nac unrhyw egwyddor o lythyr- Cymry, tud. 67-73. Peth arall gwerth ein sylw yw, gan fod Joshua yn bodoli flynyddau cyn yr amser ddywedir i Moses dderbyn yr Enw Cyfrin Iahoh fel enw newydd a dadgudd- iedig o'r nef, rhaid bod yr enw Joshua, neu Jahoh-iachawdwriaeth, wedi ei dderbyn o ryw le i fysg yr Hebreaid yn hir cyn hyny; a pha le bynag oedd y He hwnw, gallwn fod yn sicr bod yr enw yn darddedig ar y cyntaf o Farddas y Maen-gylchoedd, fel mai yr enw yn hunan-brawf o wirionedd hyny.. 3.-Gwelwn y gosodir ef allan yn fatho Hu Arweiniol, yn arwain meibion Israel gyda'r Arch o wlad y gelyn trwy'r Iorddonen i Ganaan, fel y dywedir r Moses yntau fod yn eu harwain aUan oddi dan law Pharaoh, a thrwy y Mor Coch (pryd y cawn fod Moses yn caiiu, a Miriam, hithau, yn ei ateb ar ei thympan, yr ochr draw,) ac yn eu harwain wedi hyny trwy anialwch Arabia; a'r ddau yri. eu harweiniadau yn cyfateb i'r chwedl hynafol sydd genym am yr Hu Bacchus, neu Hies, yn arwain ei dyrfa luosog drwy yr unrhyw lwybr, oesoedd cyn hyny; a'r tri adroddiad, fel eu cawn, heb fod yn ddim ond adroddiad, fel eu cawn, heb fodyn ddim ond efelychiad o waith Hu Barddas y Meini yn arwain yr eneidiau allan oddi tan law A-fagddu yn mhwnc olaf y flwyddyn, ar draws Mor Annwn a phwnc BEDYDD, yn Arthan (gwel Goy. Hyn. y Cymry, tud. 83-97,) a hyny gyda'r Arch, i bwnc yr Adenedigaeth yn ne- chreu y flwyddyn newydd (lie dysg Barddas bod Hu yntau yn canu ei beraidd oslef, a Morgwen, hithau, yn ei ateb mewn islais bereiddsain); ac wedi hyny yn eu harwain trwy Gylchau yr Abred i Ynys Brydain, He wedi hyny y darfu i deml gylchog gael ei chodi gan Menw ar lan Llionwy, fel y'n dysgir yn athrawiaeth y Traws-fudiad. Rhywbeth yn .gyffelyb hefyd y dysg y Crist'nogion am y t, waith eu Hiesous Tachawdurol liwythau yn arwain yr eMeidiau oddi tan law y Cythraul, ac allan o ddinas ddistryw, tua'r Ganaan Nefol. 4.—Gosodir Joshua allan fel Hu, y Deon mawr, a rhoddydd y bara a'r gwin," yn ei waith yn peri cynal y Pasc, a hyny yn ei deml gylchog, sefyn Oilgal. Ac yno hefyd—er cof am ddy- oddenada-u eu Duw Sadwrn pan y torwyd ymaith ei Said yn ei fynediad trwy bwnc Arthan-cawn ei fod yri peri enwaedu yr holl bobl. I Ae am mai hen deml Hu, unwaith, oedd iilgal, dy- wedir mai Joshua barodd ei hadeiladu, a rhoddi yr Arch yno; er y cawn ei bod yn demlmor fawreddog a bod y ddinas gerllaw wedi derbyn ei henw oddiwrthi yn hir cyn hyny, Deut, xi 30. Ac hefyd am mai Maen Arch Hu, sef Maen Arch a Bedd yr Haul, oedd maen mawr Beth^Shemeah, fel.y profa ei enw, dywedir mai Joshtia (yr Iachawdwr trengawl I- A.-0= /}\) a osododd hwnw i fyny yno.-J oshua xxiv 36. Cawn',son:'aiiib,edwä'r d leoedd .ereill—puihp rhAyug Beth- El—yn cael eu galvv BetU-Shemesh, yri.'rjilestina, e ,E_gorom a, selio. y prawf m^i Ilu wedii ei MyMhioedd Joshua, gelwirt e^yn'fab Nunj |a'r K&tv* Nun, .idL y Syriaeg, a'r Arabaeg, yn arwyddo Pysgodyn, ac weithiau llong neu Arch. Wrth hyny dyna Joshua dan y nodwedd rhyfedd hwn yn gywir yr un a Hu Barddas y Meini, yr hwn a ystyrid yn Fab y Forwyn Ddu o FOr Annwn, yn Ar- than, i'r lion rhoddai y Dwyreinwyr gynffon pysgodyn, a chrOth yr hon elwir ^weithiau, yn Mardda.s y llong, ac yn Arch—arwyddlun o'r lion oedd y Maen Arch yn- nhemlau ein hynaf- iaid. I MYVYR MORGAIRWA. Ttv barhau.
RBYFEDDODAU BEIUNIADAETH HWFA.
RBYFEDDODAU BEIUNIADAETH HWFA. MR. GOL. ,-Gyda' eh caniatad, y mae arnaf awydd gwneyd sylw neu ddau ar feirniadaeth Hwfa Mon, yr hon a ymddangosodd yn y GWLADGARWR diweddaf. Yr oeddwn yn dygwydd bod yn un o'r cystadleuwyr ar "Yr Efengyl" yn Nhreherbert, a'm fFugenw oedd Credadyn; ac yn ol y feirniadaeth, ym- ddengys fy mod wedi cael fy rhesu yn ail. Dyma ddifyniad o'r feirniadaeth:—"Ceir Uawer o farddoniaetli yn y bryddest hon, ond nid yw ei chynlluniad yn agos i gymesur. Treulia yr awdwr ormod o amser i ddarlunio pethau amgylchiadol i'r testyn—megys Eden Ardd, y Diluw, Dinasoedd y Gwastadedd, yr Aipht, y Mor Coch, Sinah, yr Anialwch, Cwymp Jericho, &c." Rhenais y bryddest i bum' caniad, a'i chynlluniad sydd fel y canlyn:— CANIAD I.—Gogoniant cyntefig Eden- trychineb y ewymp-yr Efengyl yn gosod ei throed i lawr gyntaf yn Eden—caniadau mol- ianus y cydgor angylaidd. CANIAD II.Dadblygiad o'r Efengyl yn ngweinyddiadau barnol y Goruchaf-y diluw —dinystr dinasoedd y gwastadedd—lluddiad y cyntafanedig yn yr Aifft-boddiad Pharaoh a'i lu—Sinai—y seirff tanllyd a'r sarff bres— cwymp Jericho—yr aberthau. CANIAD III.—Teyrnged yr awen i Faban Bethlehem, "yr hwn a ddug fywyd ac an- llygredigaeth i oleuni trwy yr Efengyl" yr Efengyl yn ffrwyth Arfaeth Duw—y cyfamod tragywyddol—yr Efengyl wedi ei threfnu i ddyn ac nid i'r angelion syrthiedig. CANIAD IV.-Boreu genedigaeth Crist—yr Efengyl yn cael ei sefydlu trwy weinidogaeth Crist—Ei holl wyrthiau yn awgrymiadol o'r hyn y mae yn wneyd trwy rås-Ei angeu a'i adgyfodiad yn faen clo yr Efengyl—Calfaria. CANIAD Y.—Yr Efengyl yn un dyn a'r Duwdod-yn fywyd i bechadur—ei heffeith- iau puredigol ar eriaid dyn-ei dylanwad ary byd—tywalltiad yr Ysbryd Glân-llwyddiant cyffredinol yr Efengyl—diweddglo. Dyna fraslun i'r darllenydd o gynllun a chynwysiad y bryddest. Y mae Hwfa wedi nodi rhai Uinellau yn y darn canlynol ag inc coch:- Cyn trefnu'r heuliau ar orielau'r irefoedd, A chyn rhoi'r ser i wenu'n eu gorsingo'edd; Cyn anfon allan deulu y planedau I'w pidell-deithiau ar baimant yr wybrenau, llyn x r comedau—at fadlomaid nefoedd- 0 weithdy Iôr i redeg eu gvrfaoedd f Ie, cyn erioed i hylym edyn angel, Ar negeseuau'r Duwdod, hollti'r awel- Bu arfaeth I6r yn deor ar "feddy liau 0 hedd" am danom ar y dwyfol fryniau A'r Drindod yno fu mewn cydgynghorfa Am godi dyn i aur-neuaddau gwynfa, A ffrwyth y Cynghor ydoedd y cyfamod I'r Mab ryw ddydd i wisgo mantell dyndod. Ni welodd neb o'r sereiff na'r archengyl Lawnodiad hen gyfamod yr Efengyl. Bu hwn yn gorwedd yn aur-gist yr arfaeth Am fyrdd o oesau cyn eu creadigaeth." Yn y llinellau uchod, mae Hwfa wedi nodi "comedau, afradloniaidnefoedd" ag inc coch. Gyda 11awer o briodoldeb, feddyliwn i, y gellir galw y comedau yn afradloniaid, canys ymddengys nad ydynt yn ddarostyirgedig i'r. un ddeddf a'r planedau, ac ymsaethant i bell ororau llywodraeth Duw, gan ymgladdu yn eigionau lleoliaeth filiynau o filldiroedd tu allan i gylch y pellaf o deulu y planedau. Ymddengys hefyd nad ydyw "weithd^ lor" wrth ei fodd, canys y mae wedi. nodi hwnw. Dododd linell goch hefyd dan "deor ar feddyliau." Troais i "Goll Gwynfa" Milton, a chefais y llinelliau canlynol:— With mighty wings outspread Dove-like sat'st brooding on the vast abyss, „ And madest it pregnant. Os ydoedd yn iawn a phriodpl i Milton ddweyd fod yr Ysbryd tragywyddol' yn deor ar fyd- oedd, pa anmhriodoldeb; oedd mewn dweyd ei fod hefyd yn deor ar feddylddrychau ? Mewn perthynas i honiad y beirniad fy mod wedi ymdroi gormod gyda phethau am- gylchiadol i'r testyn, yr oeddwn yn credu, ac yr wyf yn credu eto, nas gellid gwneyd cyf- lawnder a'r testyn heb fyneji yn ol i Eden, a dilyn gweinyddiadau y Goruchaf oddiyno yn mlaen trwy y cysgodau, yn neiliduol yn y gwahanol amgylchiadau pan oedd yr Efengyl yn dyfod i'r golwg arnlycaf. Nid wyf yn amheu nad oedd pryddest Taliesin o Eifion yn rhagdri ar y lleill, ond gweled mymryn o annghysondeb yn y feirniadaeth barodd i mi ysgrifenu y nodiadau uchod. Gwyddom fod Hwfa yn ddyn mawr, ond y mae yn bosibl i ddynion mawrion wneyd rhai camsyniadau weithiau.—Yr eiddoch, &c., w elt Chwef. 4ydd, 1876. BRYTH'ONFRYN.
Y LLANELLY MECHANICS INSTITUTION…
Y LLANELLY MECHANICS INSTITU- TION A'R EISTEDDFOD. MR. GOL.,—Caniatewch i mi ychydig o'ch gofod yr wythnos hon i ddweyd gair ary mater uchod. Sefydlwydy Llanelly Mechan- ic's Institution tua 30 mlynedd yn ol. Yn y blynyddau diweddaf hyn aeth i ddyled o tua 40p. Yn ystyried fod y sefydliad wedi gwneyd lies mawr yn Llanelli, y mae nifer o gyfeillion, tuallan i bwyllgor y sefydliad, wedi penderfynu cynal Eisteddfod ar y 7fed o fis Awst nèsàf, sef dydd Uuft y'^awfc Holiday, yr elw i fyned at dalu y ddylbd •: oaol, Gynaliwyd dau b#y^gpi^w^ddi^n»fe' j iawn nos Fawrth a nos Sadwrn diweddaf, ac y mae guarantee fund gref wedi cael ei ffurfio sydd yn debygol o sicrhau llwyddiant yr anturiaeth. Etholwyd Mr. Daniel Richards (Calfin), yn gadeirydd y pwyllgor; Joshua Hughes, Ysw., Falcon Hood, yn drysorydd yr Eisteddfod, a Mri. Thomas Job, David Harries, a Deheufardd yn ysgrifenyddion. Y mae holl naenoriaid corau Llanelli, ac yn eu plith y byd-enwog Alaw Ddu, wedi yml\no yn y mudiad. Rhoddir gwobrau teilwng mewn caniadaeth, barddoniaeth, a thraeth- odau, a bwriedir gwneyd yr eisteddfod yn deilwng o'r sefydliad fwriedir gynorthwyo, ac o gerddorion, beirdd, a llenorion Llanelli. Ceir manylion pellach yn y GWLADGARWR tua phythefnos i heddyw.—Yr eiddoch yn gywir, Llanelli. D. BOWEN (Deheufardd.)
BEIRNIADAETH AWDLAU SCIWEN.
BEIRNIADAETH AWDLAU SCIWEN. MR. GOL. ,-Goddefer i mi ddweyd, cyn myned yn mlaen, nad oes gysylltiad rhyngof a'r eisteddfod uchod, mewn unrhyw ddull na modd. Ni wyddwn i fod eisteddfod i fod yno, nac wedi bod, nes gweled y feirniadaeth ar dudalenau'r GWLADGARWR. Yr oeddwn yn bwriadu anfon gair i'ch papyr clodwiw cyn gweled llith "Dysgybl," a'r rheswm na aethum hyny oedd, fy mod yn dysgwyl gor- pheniad y feirniadaeth uchod. Ni wnaf i ddim (bydded i Dysgybl gymeryd awgrym oddiwrth y ddau negydd hyn) sylwi ar yr un pethau a gofnodwyd ganddo ef, oddieithr un ar y pwnc o ddwy gydsain i ateb un. Wele eiriau yr hen Richards (mae un hen Ramadeg- wr yn ddigon) ar oddefiadau cynghanedd:— Goddefir i un gydsain ateb i ddwy o'r un rhyw, pan fyddont ynghyd, neu yn dyfod yn unsain, fel hyn: 'Call llon wyt, er colli nerth.' Dywed y beirniad fod d yn ateb t yn- Yn ei dig rhodd enaid hwn. Ond, wele beth ddywed yr awdwr uchod :— Y Hythyren h, ni chyfrifir yn berffaith gyd- sain yn mysg y cynganeddion, ac ni thyr na chynganedd na chymeriad; eithr goddefir ei thoddi, er mwyn synwyr, &c., fel hyn,— Rhodd Aywerth yw rhwydd awen. Yr wyf fi yn ei herio hefyd i swnio dwy n yn hon— Yn nefol irder ei thirfiol ardeb. Dywed hefyd nad da ganddo y llineU hon— 'Nol ei gallu barnu bydd, "am," meddai, "fod cydwybod yn gallu 11awer." Pwy sydd yn dweyd nad yw hi ? Y naicr ddigon nid yw'r llinell. Mae'n dditai mewn synwyr a chynghanedd. Etc; Tonau digofaint enyn. "Unig a lluosog," meddai ef. Tybed 1A golygu mai tonau yn enyn digofaint a feddylir, ai nid oes rheol yn y Gymraeg (megys rhai ieithoedd ereill) yn goddef i ferf unigol i gytuno ag enwau lluosog? Gwastraff fyddai rhoddi engrheifftiau. Ond, yr hyn sydd fwy o bwys na hyna, ai nid hyn yw ystyr y geir- iau Digofaint yn enyn tonau ? Mae'n fwv erramadeerol a rhesvmol ac fellv. nid Boenau dwys ar ben y dyn, "Onid yn ei enaid 1" Yr wyf fi yn dweyd hage, ond ar ei ben; gan nad yw dyn yn boddi cyn daw'r tonau dros ei ben. Cyfaddefa yn nesaf nad yw ddim yn detll-dii-,iv!fib arthes," am y rheswm, mae'n debyg, nad yw yn hyddysg yn y byd anifeilaidd. Gwyr pawb bron mai dull yr arthes o yiriladd yw cylymu ei breichiau am ei gelyn a'i wasgu allan o anadl. Gwelir felly mai geiriau priodol am hugging bear, mewn barddoniaeth, yw "dirwyn arthes. Sylwa ar y ddwy linell hyn :— Ond da f/red yn ngwaed y Groes A enill fythol einioes, "Mai trwy ras yr ydych yn gadwedig." Ond y mae yr un llyfr yn dweyd, "Cred yn yr Arglwydd a chadwedig fyddi." Gresyn fod pynciau duwinyddol, o wahanol farnau, wedi cael sylw beirniadaeth awdl. Gyda golwg ar y llinell ganlynol Ond taran o wae bentyrai, dywed, "Nid ywpentyru yn briodoledd ber- thynasol i daran." Mi fuais i yn llygad dyst o ddynes a chymaint o ofn taranau arni nes yr oedd yn syrthio i'r llawr megys mewn llewy y, ac yn cuddio ei hun odditan y byrddau, &c., a tharan ar ol taran megys yn pentyru ychwaneg o wae uwch ei phen. Mae'r beirn- iad yn cymeradwyo y llinell hon Swydd o bwys ar orsedd barn. Ai nid oes i- heb ei hateb ? Gofynaf eto, Pa beth achosodd iddo Italeiddio'r gair dwynau I yn Goleudy anwyl ar ddirgel dwynau. Ond yr hyn a ostynga y beirniad hwn yn is na'r cwbl ereill yw hyn:—Trueni o'r mwyaf fod R. ab Morgan (pwy bynag ydyw) wedi syrthio i'r amryfusedd o adael i'r ellyll sect- yddol i wisgo ei spectol bren i feirniadu awdl. Yr unig ran a ddifyna, fel canmoliaeth, o awdl "Awdwr Cydwybodol" — i'r hwn y dyfarna'r wobr—yw dernyn sydd yn lluchio baw at hen Eglwys ein tadau a Pliabyddiaeth. Wele bedair llinell o hono:— A thwyll swyddwyr y bybyr Babaeth, Hawl y Degwm ac Anffael cdvjacth, A rhwyd yr Offeiriadaeth,-a th'lodi Eu Padcr leni, a'u pwdr Olynuicth. Tybed nad oedd yn yr awdl uchod ddarnau cyn diysed a hwna, heb sangu ar dir ag y buasai pob dyn o chwaeth bur yn cadw yn mhell oddiwrtho, ac hyd yn nod yn aberthu rhyw gymaint o amser a thrafterth, drwy fyned o amgylch y gors leidiog, er cyrhaedd yr ochr arall, os oedd eisieu myned yr ochr draw o gwbl. Bydded i R. ab Morgan gofio hefyd 9 fod personal yn darllen y GWLADGARWR ac awdlau eu, gwlad, a'u cydwybodau mor dyner a'u barn mor oleu ag ydyw eiddo rhai bei.n- iaid fel arall. Ie, a'r personau hyny hyd yn nod yn Eglwyswyr a Phabyddion cydwybodol. Gobeithio na welaf eto yr Un beirniad yn Htbeirniadti ':er mwynf beirniadu." Terfynaf _JIi;. 1 yn awr yn ngeiriau'r hybarch Archdderwydd Diwygier! na'n gweler mai ein gwelwyd. Yr eiddoch, &c., Arfon. EYROW. AMDDIFFYNIAD GLOWYR YBROAD- OAK, CASLLWCHWR. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) MR. GOL.-Crefaf ar y darllenydd eto am aberthu ychydig o'i, amynedd i ddilyn fy ngosodiadau ar y rhan ddiweddaf o'r am- ddiffyniad, sef, "Y si, fod yn rhaid i wei.th- wyr y Broadoak gael dewis eu goruchwyliwr eu hunain, neu ynte sefyll allan hyd nes ei gael." Pe buasem yn olrhain hanes glofa y Broadoak oddiar ei chychwyniad hyd y waith hon, cawsem ei bod yn cael ei phardduo gan annghydfodau diddarfod rhwng eiddo a llafur; b 9 ac er nad oeddynt yn parhau am ryw ysbaid hirfaith, siaradent yn uchel fod rhyw ddilfyg dealltwriaeth yn bodoli, neu ynte fod yr hen ysbryd gormesol yn meddianu yr awdurdodau llywodraethol; ond, beth bynag, gallwn ben- derfynu fod camwri yn cael ei wneyd gan y naill blaid neu y llall. Ond awn yn mlaen a'r gwaithjo amddiffyn trwy cldadleni pethau, a darlunio'r achosion yn eu hagweddau gwir- ioneddol, canys yr ydym yn ymwybodol ei fod yn angenrheidiol i symud y brycheuyn uchod oddiar ein cymeriadau cyn y bydd i ni gael ein cyflogi mewn gweithfeydd ereill, a chan nad ydyw y cyhuddiad hwn yn sylfaen- edig ar ffeithiau, yr ydym yn teimlo dyled- swydd arnom i osod y gwirionedd o flaen y cyhoedd. Credwn mai rhyw dybiaeth ydyw ei darddell, wedi cael ei bododaeth wrth briodoli lluosogrwydd y goruehwylwyr, a byrdra eu harosiad yn y lie i amlder y siriJxs sydd wedi bod, gan gymeryd yn ganiataol mai y glowyr oeddynt yn achosi y cyfryw; ac wedi hyny, yn penderfynu mai ymyriadau y gweith- wyr yn achosion yr awdurdodau ydyw y gwir achos fod y fath ansefydlogrwydd wedi ac yn nodweddu goruchwyliaeth glofa y Broadoak, heb ystyried nad oes hawl uniongyrchol gan weithwyr i ymyraeth yn niswyddiad y llywodr- aethwyr. Yr unig gyfwng ac sydd yn gwneyd hawliau y gweithwyr i ryw raddau yn am- rywiol ag eiddo'r meistr, mewn cysylltiad a'r goruchwyliwr, ydyw, yn ngwyneb "os na wna. efe i bob dyn fel yr ewyllysiai i bob dyn wneuthur iddo yntau yna, nid oes gan y gweithwyr ddim i'w wneyd ond gomedd gweithio dan yr unrhyw, oherwydd hyny er y dichon, ar rai adegau, y gaU llawer o ddyn- ion gonest a chywir gynyg i'w gweithwyr bethau nad ydynt yn rhesymol iddynt i'w cymeryd; ond os bydd y rhinweddau hyny yn nodweddu y dyn, gwna ar unwaith roddi ffordd i ymresymiadau teg, a chaniata yr hyn fyddo'n gyfiawn. r Yn hytrach na myned yn ol i'r gorphenol, ni gymerwn yn ganiataol fod sefyllfa pethau yn bresenol yn cynrychioli yr hyn a fu, oblegyd mae yr unrhywdeb mwyaf trylwyr 11 y yn nodweddu ymddygiadau y pleidiau yn y gorphenol a'r presenol. Coledda rhai syniad fod glowyr y Broadoak wedi ymgyneflno cymaint & strilces, nes ydyw yn anmhosibi iddynt barhau mewn heddweh am dymhor heb chwilio am ryw achos i gael brwydr; ond y mae y fath syniad mor gyfeiliornus a phe dywedaswn mai goleuni ydyw tywyllwcb, oblegyd pa synwyr ydyw fod dyn yn cefnogi moddion sydd yn gyfrwng i'w suddo i ddygn t, t3 C, dylodi. Hefyd, onid ydyw pob strike yn ychwanegu at ein hymwybodolrwydd o'i hefieithiau dinystriol, yr hyn a bair i ni wylio rhag dygwydd ei chyffelyb wedi hyny ond, pan y byddom yn methu canfod Uwybr i osgoi bi-wydr, pa beth sydd gonym i'w wneyd. Dcuwn yn mlaen yn awr at oruchwyliaeth y goruchwyliwr diweddaf, yr hwn a ddaeth i aflonyddu ar yr heddwch oedd yn ffynu rhwng meistr a gweithiwr y pryd hyny. Wedi hyny ymosododd y meistr arnom trwy ostwng pedair ceiniog y dydd yn nghyflogau y gwsrr hur, gyda'r eithriad o ryw ychydig o lionynt, heb yr un eiliad o rybudd ond os buasai y torwr glo, druan, yn myned allan i weithio diwrnod ar hur, nid oedd i gael ond coron, fel pe buasai islaw safon galluoedd y rhai coron a grot, pan mown gwirionedd yr oedd- ynt yn alluocach .ac yn fwy ymarferol na'r rhai a dderbynient y pris uchaf. Pa ddyn a'n cqndemnia am sefyll yn erbyn y fath gyfundrefn ? oblegid pe derbyniasem y cyn- ygiadau hyny, buasent yn debyg o gael eu cynyg i'r glowyr yn y glofeydd cylchynol yn y taliadau dilynol. Un enghraifft o lawer ydyw yr un yna o eiddo ein meistr, ac yn ngwyneb y fath ymosodiadau nis gallasem ffurfio rhagorach cynlluniau er atal strike nag a wnaethom ond pan yr oedd pob peth yn profi yn fethiant, nid oedd mor help am daro. Wedi sefyll allan am bum' niwrnod galwyd arnom i gyfarfod a'r meistr i ymdrin y mater ac er mwyn trefn neillduwyd nifer i fyned i siarad ag ef, ac un o'r rhai hyny i fod yn flaen af, gan ei fod yn berffaith gyfar- wydd yn yr iaith Saesonaeg. Wedi hir ddadleu daethpwyd i delerau boddhaol o du y gweithwyr, sef declireu gweithio boreu dranoeth ar yr hen amodau. Ond o herwydd amgylchiadau teuluaidd rhwystrwyd y siarai- wr blaenaf i bresenoli ei hunan yn y gwaith y ddau ddiwrnod canlynol i'r cytuno, a phan ddaeth i'r gwaith dydd Llun, ataliwyd ef i weithio am nad oedd yn y gwaith y dyddiau. hyny; ond datguddiwyd y dirgelion trwy i bedwar ereill oeddynt yn absenul y dyddiau crybwylledig gael gweithio yn y blaen. Oherwydd hyny penderfynwyd nad oeddem i weithio y diwrnod canlynol, os nad oedd ein brawd yn cael gweithio hefyd a'r canlyniad fu i ddeunaw o honom gael ein gwysio o flaen yr ynadon am hyny. Ond tynwyd yr achos yn ol, ar yr amod ein bod i ddechreu gweithio boreu dranoeth heb y brawd, a thalu treuliau y gwysebau. Yn ngwyneb hyny barnwyd mai doethach fuasai gweithio hyd nes y buas- em yn alluog i ddyfod allan yn rheolaidd, a thalu y brawd yr unrhyw swm ag a fuasai yn enill pe buasai yn y gwaith. Wedi hyny