Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
IBETnT LEWIS.
IBETnT LEWIS. SYLFAENEDIG AR FFEITRAU. GAN TOM WEDROS EVANS, AJTFDWR "GOMER JONES." PEN. VI. Fire fire fire I" dyna y waedd dor- calorus a adseii.iai o flaen y ty. Yn fuan yr oedd y tafarnwr yn ein liysbysu fod un o'r stores mawrion oedd gerliaw wedi eymeryd tan. Aeth Tom, a Billy, a minau allan. Arosodd y rhelyw o'r cwmpeir.i yn y parlwr, a darfu iddynt ymddwyn yn ddoeth iawn yn eu cenedlatth. Buasai yn well i Tom a Billy hefyd aros yno, canys yr ofddynt yn rhy feidw, ysywaeth, i ymsymud rhyw lawer oddiamgylch Yr oedd yr hyn a ddvwedoijld y tafarnwr yn wirionedd. Yr oedd y store fawr oedd gerllaw yn fflamio yn gjflm. Ym- ddyrchai y fflam^u cochion drwy hen yr adeilad enfawr, ac \mwth:eiit yn un strings ilydain o dan drwy y ffenestri, gan ch\\ mthÍn eu crechwen fuddugohaethus ar y dyrfu fawr oedd wedi ymgynull i weled y galanastra ofnadwy Yr oedd y fire brigade yn cael cryn waith cyn gwneyd i ddwfi eu peiriariau lwyddo i wneyd un- rhyw effaith fondhaol er diffbdd y tan. Gwelwyd yn fuan fod y tan wedi llwyddoi gael yr afael drechaf, a'r gwaith nesaf oedd rhwystro ei ledaeniad. Yr oedd adeilad enfawr arall-y Queen's Hotel-o fewn ychydig gamrau oddiyno, ac yn fuan yr oedd holl ddrysau y lie yn cael eu taflu yn agored, a'r gwirodydd yn cael eu rowlio allan gyda chylfymdra mawr. Yn nghanol y cynhwrf darfu i mi' gael fy rigwahanu oddiwrth fy nghynsdeithion, a phan aeth- nm i chwilio am danynt nid oedd yr un ohonynt i'w canfod; ond ni fum yn hir cyn clywed llais Tom Jones yn dywedyd, "Billy, tyr'd yma i roddi benthyg dy drwyn i mi; gwcaiff y tro yn gampus i spoutio y dw'r, drwy fod yn water-pipe i ben y building Yr oedd y dorf -erbyn hyn wedi cynyddu yn aruthrol, ac er fod y fflamau yn ymledu ar eu gyrfa ddifaol, ac yn clecian o gwmpas bargodion y Queen's, ilwyddwyd i dori y cysylltiad cyn iddynt gael yr afael drechaf ar yr adeilad hwnw Yn fuan gorfu i Mr. Tan ildio i ymdrechion dewr y dynion, a rhoddi i fyny bob gobaith am dymhor eil- waith i gyflawni ychwaneg o ddinystr. Yn nghanol y miri gwahanwyd fi oddi- wrth fy nghymdeithion, a phan ddechreu- odd y dyrfa ymwasgaru dechreuais ar y gwaith o gael gafael ynddynt. Ond er chwilio yn ddyfal, methiant hollol fu fy holl vmdrechion. Dechreuais erbyn hyn hwylio fy ngham- Tau yn nghyfeiriad fy lodging house, ond Ow! ar ol hir chwilio, methais yn deg a'i weled, ac ni fum yn hir cyn sylweddoli fy mod wedi ftarwelio a'm llwybr priodol. Pan yr oeddwn yn myfyrio vn bruddaidd ar fy sefyUfa, gwelwn y "gwr a'r got las" yn dyfod i lawr yr heol; a chan fy mod yn ofni y byddai iddo fy anrhegu a Boson o lety yn y lock- up am rodiana o gwmpas yr heolydd yr adeg hono o'r nos, eyflymais yn mlaen, ac yn fuan troais o'r brif-ffordd i ystryd arall, ac yncf gwelais adeilad newydd ar haner ei orphen. I mewn yr aetham gan benderfynu treulio y noson yno, nes y byddai i gawr y dydd oleuo dinas Melbourne. Rhoddais fy hun i orwedd ar y llawr, ond ni fum yn hir yno cyn i dyrfa o tintoelcomed visitors dalu ymweliad a mi. Clywn rhyw drwst rhyfedd, ac er fy nir- fawr syndod deallais fod eymanfa o lygod rfrengig yn ymsymud yn yr ystafell! (Y mae Melbourne yn enwog am ei llygod). Ow yr arswyd ddarfu fy meddianu erbyn hyn! Yr oedd pob aelod i mi yn drigle daeargrynfaau," ac ofwn y byddai i'r filein iaid wneyd ymosodiad arnaf a'm bwyta yn fyw Pan oedd un chwaer lygodyddol yn ymsymud o gwmpas fy mhenelin, a'r Hall fel pe am dalu ymweliad a llogell fy nghob, codais ar fy nhraed, ac ar garlam wyllt cafais fy hun yn myned allan drwy y ffenestr a'm calon ar lesmeirio yn ei thrist- wch! Yn mlaen yr aethum yn yr un cyfeiriad ag y deuais i ystafell y llygod, ac ar ol symud 'nol a gwrthol am ysbaid, cefais fy hun yn ddisymwth yn nrws fy llety. Daeth Tom i agor y drws, ac yn fuan yr oeddwn o ran fy meddwl in the heavenly land of d, eams. Rywbryd cyn ciniaw gadawodd Tom a minau ein gorphwysfa, ac aethom allan i fwynhau ein hunain yn y dref. Yn mlaen yr aethom; galwyd heibio llety Billy Davies a Walter Lloyd, ac yn fuan cawsom ein hunain uwch ben mejeh yr hops yn y Ship Inn. Dywedai Tom ei fod ef o ran ei ddaliadau a'i farn yn credu mewn brandi er gwneyd i ffwrdd ag effeithiau y ddiod y noson cynt. Yn fuan syrthiwyd ar bwnc y cloddfeydd, a daethpwyd i'r penderfyn- iad o gychwyn tuag yno dranoeth. Pan yn nghanol y mwynhad cymerodd amgylch- jad digrifol le. Yn ddisymwth aeth Billy a Walter i gweryla. Haerai Billy fod Walter wedi ymddwyn mor Annghristion- ogol a lladrata ei fyglys. Cynhyrfodd hyn Walter yn enbyd kwn, *c yn fuan cy- merodd y cweryl wedd fygythiol. Tyr'd a'm dybaco yn ol," ebai Billy. Dim at all," ebai Walter; "ni ddarfu i mi ei gymeryd dal dy dafod." Yn fuan profodd Billy ei fod yn feddianol ar ddyrnau, drwy ddwyn un ohonynt i gyffyrddiad chwyrn a gwasgod Walter. Clear the way," ebai Walter, ac ar ol ymaflyd mewn cragen fechan a addurnai y mantel-piece, chwyrndaflodd hi i gyfeiriad penglog ei gydymaith; ond gan i'r diweddaf blygu ei ben ni orphwysodd y gragen nes cael ei hun yn gwersyllu yn dawel ar yr heol. "Wei be' andros sydd arnoch?" ebai Tom Dyna chwi wedi tori quarrel y ffenestr; ryw idiots yn creu mwstwr yn yr adeilad. Eistedd i lawr, Billy, neu fe ym- aflaf yn dy drwyn; a rho dithau, Walter, dy gorff baglog i eistedd fan yna, neu, look' out for squalls." fcrbyn hyn, yr oedd y tafarnwr yn y parlwr ac yn dywedyd, Wei, foneddigion, haner coron yw pris y gwydr, a bydded i'r person a'i drylliodd ef dalu yn union." Na wnaf fi," ebai Walter, bai Billy ydoedd fy nghynhyrfu." Taw a'th bwtyn tafod, a bydd i mi benderfynu," ebai Tom. "Wel, y mae yn ddigon plaen mai Billy sydd i dalu yr haner coron," ebai Tom. Rhodd wcb farn deg," ebai Billy. "Wel, fy marn gorphorola chydwybodol i yw hyn," ebai Tom. "Ti, Billy, y creadur asynaidd, ddechreuodd y row felldigedig hon; y mae yn ddigon plaen nad oedd Walter o gwbl yn bwriadu dryllio y ffenestr-ei fwriad ef oedd taraw yr "hoel sy'n dal het" Billy; ie, meddaf, dyna oedd bwriad Walter Lloyd, ac yn gymaint mai dyna oedd ei fwriad, bai Billy oedd 8ymud ei ben; pe buasai heb wneyd hyny ni fussai y ddamwain hon wedi dygwydd o gwbl, felly ac oblegid, Billy Davies sydd i dalu yr haner coron Heb lawer o siarad ofer, blinwyd Billy i'r fath raddau fel y barnodd yn ddoeth dalu y swm penodol. Yn bur fuan, o dan oruchwyliaeth y ddiod, syrthiodd Billy a Walter i mewn" mor gynted ag y darfu iddynt gwympo allan." Ar ol i'r helynt ryfedd yna basio cafwyd ychwanegiad at y cwmpeini drwy i Wilcox ddyfod i mewn. "Sut wyt ti heddyw, Wilcox?" ebai Tom. "Yr wyf yn lew," ebai Wilcox ar ei wen. 0 wel," meddai Tom, os wyt yn lew, gwell i ni fyned allan mewn winciad chwanen; creadur ffyrnig yw llew Taw a son, Tom," ebai Wilcox, "bydded i ni fwynhau ein hunain." Cyn ymadael oddiyma penderfynwyd ein bod i gychwyn yn fofeu dranoeth tuag Anderson's Creek Dranoeth a ddaeth Yn fuan cawsom ein hunain y tu allan i'r dref yn prysuro yn mlaen ar ein taith. Yr oedd gwedd ddoniol arnom-pob un a'i sypyn dillad ar ei gefn. Yn mhen ychydig oriau cyrhaeddwyd Undergrove. Tra yr oeddvm yn nesu at y ty clywem ryw fiwsig melodedd yn treiddio atom o ganol y coed, ac ar ol dyfal-wrandaw deallais yn fuan mai Angelina ydoedd yno yn seinio yr hen alaw fendigedig, Home, sweet home." 0! y dylif o fwynhad ddarfu orlifo fy nghalon, ac yr oedd yn hawdd gweled fod fy nghymdeithion hefyd yn cael eu swyno ganddo. Dyna ganu soniarus, a chwareu nobs yn beauty," ebai Tom. Gogoneddus yn wir!" ebai Elias. Ac 0 os ydoedd yn ogoneddus i Elias, pa faint mwy i mi! Yr oeddwn ar ddotio wrth glywed y nodau per; gogleisid holl linynau fy nghalon gyda mwynhad annes- grifiadwy tra y seiniai,- "Home, Home, Sweet, sweet home, There is no like place home, There is no place like home." 0, laia nefolaidd fel seiniau telyn angel! 0, swyn-gyfaredd fendigedig! Yn fuan ymadawodd fy anwylyd a'r coed, ac ar ol gweled y gwrandawyr, ffwrdd yr aeth gan wrido tua'r ty. Ar ol i ni fyned i mewn, ac i Tom introducio ein cyfeillion i'r teulu, ac i min- au gael y fraint o ysgwyd dwylaw ag Angelina, a gweled ei llygaid gleision yn boddi mewn serch, tra y lispiai yn fendi- gedig, How do you do ? dechreuwyd ar y gwaith o wneyd ein hunain yn gartrefol a hapus. Yn fuan yr oedd y bwrdd ysgwar wedi ei hulio a. danteithion a minau yn gwneyd hafoc o'r trugareddau with a vengeance. Ond waeth heb fanylu, treuliwyd y noson yno, a derbyniwyd bob croesaw a charedigrwydd. Ni ddarfu i Ben gysgu rhyw lawer; llwyddodd ef i gadw Mr. Cwsg draw drwy gadw rhywun arall yn agos! Daeth y boreu, ac ar ol cauu yn iach i'r teulu caredig dechreuasom ein taith i Anderson's Creek, Cyrhaeddwyd y Creek yn ddyogel. Ar ol gwersyllu am y noson yn y Mia Mia dechreuwyd dranoeth chwilio am yr aur. Prynwyd taclau cloddio priodol gan yr hogyn doniol o Sais oedd yno wedi cyfodi pabell i'w gwerthu dros gwmni anturiaeth- us o Melbourne. Yna dechreuwyd mesur claim. Fel yr hysbyswyd yn flaenorol, wrth y gair claim lr ydym i ddeall darn o dir deugain troedfedd ysgwar. Ar ol sicrhau pedwar polyn yn y ddaear i nodi allan ei derfynau, y mae y llecyn hwn yn vael ei ystyried yn eiddo personol i'r cwmni a'i ffurfia. Os bydd i'r cwmni esgeuluso eu gwaith, hyny yw, os byddant am dri diwrnod yn olynol heb ymwneyd a'u gorchwylion, collir yr hawl i'r tir, a gall unrhyw un gymeryd meddiant o hono yn 01 deddfau y cloddfeydd "Wel, gyfei'lion," ebai Tom y boreu hwnw, "dymani wedi cyrhaedd Anderson's Creek, ac yn baroe i ddechreu ar y gwaith o ddyfod yn foneddigion. Bu Ben Lewis a minau yma yn flaenorol, ac ar ol cloddio, a chwysu, a gweithio fel niggers, methwydyn deg oleu a chael yr un llwchyn,.o'r llwch melyn. Ond yr wyf yn cofio hen air sydd mor llawn o ddoethineb a phe buasai wedi dy fod o dan het Solomon-yr hen air Try again." Gadewch i ninau actio hyna yn ein buchedd; ac er methu, edrych a llygad ffydd pan fo llygad cnawdol" yn methu gweled dim auro gwbl, yr ydym yn siwr o lwyddo yn ein hymdrechion ond dal ati; felly, Try again-, stem on, and never say die Wel, 'does gydani," ebai Elias, ddim i wneyd ond gweithio ein goreu, a gobeithio ein goreu." Siwr iawn, Elias," ebai Billy, 'rwy'n siwr fod digon o aur yn y claim yma; wel- wch chwi fel y mae diggers y claim nesaf ato yn golchi eu haur." Taw a son Billy," ebai Tom, nid yw fod aur yn y claim nesaf yn un prawf fod aur yu hwn." Ydyw, wrth gwrs, Tom Jones," ebai Billy. Taw a'th lol, Billy. Dy ben di yw y nesaf at fy mhen i o ran geographical posi- tion. Mae llon'd fy mhen i o synwyr, felly y mae yn canlyn fod y stuff hyny yn dy ben dithau; ond gwyr pawb yn wahanol; felly dyna wrthbrofi dy syniadau drwy logic" "Dyna, dyna, gadewch i geography a phenau o'r neilldu yn awr," ebai Elias, 11 a gadewch i ni duechreu cloddio. Nid oes yr un ohonoch yn deall mwy am geography a phenau nag a wyr twrch daear am yrhaul." Ie Ni wyddoch chwithau, hefyd," ebai Tom, ddim mwy am geogra/phy a bardd- oniaeth nag a wyr buwch Betty Drefach am swlit drwg! Ond 'e wn i am fardd- oniaeth, fel y profais yn y Ship Inn, Melbourne; ac am geography, yr wyf yn ei ddeall yn drwyadl; bum yn ei ddysgu— t,u do, yn tynu mapiau o wledydd y byd hwn -yn ysgol Llwyndafydd mor glyfar a chywir ag y gallasent fod. Tynais lap o'r Iwerddon unwaith mor gywir fel y gallas- ech weled dynion yn eerdded ar 'strydoedd Dublin Dyna brofi i chwi drwy logic." "Wel, Tom Junes," ebai Elias, gan chwerthin, yr ydwyf yn ildio; ond gad- ewch y cyfan o'r neilldu yn bresenol, fel y byddo i ni ddechreu cloddio." (l'w barhau).
Advertising
BREAKFAST — EPPS'S COCOA. — GRATEFUL AND COMFORTING.—" By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of diges- tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a deli- cately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills.Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Each packet is labelled—" James Epps and Co., Homceopathie Chemists, London." L332 THE HAIB.— For 40 years Mrs. S. A. ALLEN' WORLD'S HAIR RESTOBBB has received the com- mendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any modeaate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. It will positively renew and restore the original and natural colour of grey, white. and faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxuriant growth. No other preparation can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers in large bottles, 6s. Depdt, 114 & 116, Southampton Bow. London. 1090 PELENI HOLLOWAY.-YR YSGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym a bore; au a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway am wella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrtnwyaeb- edd, pob math o ryadni, clefyd ygwaed, sychdery croen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiffyn y cyfansoddiad rhajj y niweidiau am- rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn ymyraeth dim a gwaith na phleser ENAINT HOLLOWAY.—Yn awr pan y mae y flwyddyn yn troi, doethineb fyddai ceisio gwella unrhyw glefyd a all fod yn y corff, yn enwedig y sawl sydd yn dj oddef oddiwrth glwyfau a chle- fydau cyffelyb, ac os esgeulusir pwy a wyr y ean- lyniadau all ddilyn. Bydd vr Enaint hwn yn sicr o'u gwella yn drwyadL Y mae yn glanhau y clwyfau, ac yn tynu y drwg allan o'i wraidd, ac yn adnewyddu lechyd perffaith. Drwy rinwedd ai- gymar yr Enaint hwn, iacheir y coesau clwyfus, hyny yn hollol. Yr oedd y fath obaith i'r claf yn annghymeradwy yn yr amser gynt.
,Y G^eithiau Glo—Cyfarfod…
Y G^eithiau Glo—Cyfarfod yn Hirwain. Nbs Iau wythnos i'r diweddaf, cynaliwyd uyfarfod o'r glowyt yn y Patriot Inn, Hir- wain, pan yr anerchwyd hwy gao oruch- wyliwr y dosbarth, sef Mr. Samuel Davies. Daeth cynulliad gweddol yn nghydac ystyried y tywydd. Llywyddid gan Mr. Richard Rowlands, yr hwn a alwodd ar Mr. Davies, a darllenodd yntau yr adraniadau a ffurfiant y Sliding Scale. Hysbysotd y byddai y dyfarniad ag oedd i reoli eu cyflog- au am y pum' mis dyfodol i gael ei roddi y Sadwrn canlynol. Dangosodd Mr. Davies yn gryf yr angenrheidrwydd am undeb yn mysg y gweithwyr, a phasiwyd penderfyn- iad fod pawb ag oedd yn breset,ol i ymuno a'r Undeb Cenedlaethol y Sadwrn canlynol.
Yr Unol Dalaethau.
Yr Unol Dalaethau. Y mae lly wodraeth yr Unol Dalaethau wedi rhoddi esiampl ganmoladwy i lywodr- aeth Prydain Fawr, trwy ostwng amcan- gyfrif adran y rhyfel o 2,000,000 o ddoleri i 315,000 o ddoleri. Y mae ysgrif hefyd wedi ei dwyn i fewn i'r.Gynghorfa i ostwng cyflogau y Cadfridogion. Dysged Prydain wers oddiwrth hyn, a'r swyddogion hyny ydynt byth a hefyd yn clochdar am ragor o arian at y fyddin a'r llynges. Gorchwyl rhwydd fyddai i'r teyrnasoedd ymuno a'u gilydd i leihau nifer eu byddinoedd. Byddai yn ysgafnhad mawr iddynt ac yn arbediad o filiynau o bunau.
Y Cadfridog Sherman.,
Y Cadfridog Sherman. Ymddengys fod bwriad yn mysg rhyw ddosbarth yn yr Unol Daleithau i gynyg y Cadfridog uchod i Arlywyddiaeth yr Unol Daleithau, ond ysgrifenwyd llythyr gauddo ef ei hun yr wythnos ddiweddaf yn hysDysu na fydd iddo ganiatau i'w enw gael ei ddwyn yn mlaen fel ymgeisydd am y sedd lywyddol, a noda y llywodraethwr Hayes o Ohio, yn yn mysg ereill fel ymgeisydd cymhwys.
Llosgiad Melin Gotwm.
Llosgiad Melin Gotwm. Dydd Gwener diweddaf llosgwyd Melm Gotwm Mr.#John Foy Bolton. Cyfrinr fod y golled yn 30,000p. Taflwyd cant a haner o ddynion o waith trwy y trychineb hwn.
Damwain gyda gwn.
Damwain gyda gwn. Dydd Gwener cyfarfyddodd Mr. John Cook, perchenog glofa ger Brighton, Shef- field, a damwain ddifrifol. Yr oedd allau gyda rhai o'i gyfeillion yn saethu mewn" caeau ger Shireoaks, pan yr yrnddrylliorid y faril yn ei law. Cymerodd hyn le gyda nerth mawr, a chwythodd ymaith ddau o fysedd ei law aswy, yu nghyd a darn o gledr ei law.
Esgyniad i Mont Blanc yn y…
Esgyniad i Mont Blanc yn y gauaf. Gwnaed esgyniad llwyddianus i ben Mont Blanc ar yr 20fei o'r mis diweddaf gan Ffraocwr o'r enw Mr. Gabriel Lappe, a Mr. James, yr hwn a elwir yn ddaearegydd Seisnig. Mewn uchder o 13,000 o droed- feddi cawsant nad ydoedd moroer ag mewn manau lawer yn is i lawr, yr hyn sydd yn ffaith dra hynod.
Angeu rhyfedd Boneddiges o…
Angeu rhyfedd Boneddiges o Bryste. Cafwyd corff Atiss Luke, boneddiges ieu- anc25 mlwydd oed, dydd Gwener, mewn pwll yn Redland, Bristol. Yr oedd yn ferch i weinidog annibynol o Clifton, yr. hwn sydd wedi marw. Yr oedd yn dra ad- nabyddus fel un oedd yn dadleu dros ac yn pleidio iawnderau merched, a bu yn areithio lawer gwaith yn N gorllewinbarth Lloegr a Deheudir Cymru. Yr oedd rhyw hyuod- rwydd yn ei hvmddygiad yn ddiweddar, yr hyn a barai anesmwythder i'w chyfeillion.
Y Permissive Bill.
Y Permissive Bill. Mewn cynadledd Ddirwestot, nos-'Wener, siaradodd Esgob Caerlovw yn gymeradwyol o'r Permissive Bill, ac addawodd, os bvth y deuau y Bill i Dy yr Arglwyddi tra byddai ganddo ef sedd yno y gwnai bleidleisio drosto.
Advertising
Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneyd na Starches ereill, (Mid pan y deuir dros yr anhawsdara, dywedir fel Golchwraig y Frenhines, mai y Starch goreu a ddefnyddiwyd erioed ydyw. L92 NI CHBDWIB HWYNI.—Y mae y cyhoedd ya cael eu rhybuddio yn erbjrn peirianau gwnior had- lawn ac o wneuthuriad gwael, y rhai yn fynych a argymellir ar y prynwyr oherwydd yr elw mawr a geir, rhagor rhai o wneuthuriad da, am bris rhes- ymol, y rhai ni chedwir- ganddynt, ac yr ydym ya anog prynwyr i fynu gweled Taylor's Patent, a phan na chedwvr hwynt, anfoner am y darlunlen at TAYLOB'S PATENT SEWING MACHINE COMPANY, Great Driffield, neu 97, Cheapside London, E.C. 1177. RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymiint o liwiau glas gwael yn cael eu gweyd yn fodiau, peleni, a phow- dwr;ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthhr oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau L RECKITT A'I FEIB- ION yn nghyda'r arwyddnod mamachoL 1177.
Y Rhyfel Tyrcaidd.
Y Rhyfel Tyrcaidd. Brys newyddion o Vienna, dyddiedig: dydd Iau, a ddywedant fod ymladd wedi cymeryd lie y dydd blaenorol rhwng y Atro(tau Tyrcaidd a'r gwrthryfelwyr ar dueddau Croatia, Bosnia. Diangodd y gwrthryfelwyr i diriogaeth Awstria, a'r Tyrciaid yn canlyn i fyny ea bud iugoliaeth a groesasant y cyffiniau gan ymosod ar ben- tref Topola. Yr oedd yr ymladd yn parhau ya mlaen, a'r gwrthryfelwyr yn cael y gwaethaf.
Gweithio Haiarn yn India.
Gweithio Haiarn yn India. Y mae llywodraeth Prydain wedi cyflogi boneddwr i fyned allan i ganolbarth India., er gwneyd haiarn, ac ymddengys fod gobaith y llwydda yn ei anturiaeth.
Hirhoedledd.
Hirhoedledd. Yn ddiweddar b u farw Mrs Mary Thomas,, yn Penrhiwfoses, ger gorstf Vnvscedwyn,. wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 106 oed. V r oedd yn enedigol o Landybie, Sir Gaer- fyrddin. Dywedir iddi gadw meddiant ilawn o'i synwyrau hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w marwolaeth, ac yr oedd yn y capel y Saboth cyn ei hangau, a cherddodd yr^'holl ffordd yno ac yn ol, tua milldir, heb gynorthwy.
Drylliad y Deutschland.
Drylliad y Deutschland. Cyhoeddwyd adroddiad B w rdd Masnach ar yr ymchwiliad i golliad y Deutschland dydd Gwener Mynega aralygwr y Llyw- odraeth, yn ol ei furn ef, fod y ddamwain wedi cymeryd lie trwy fod y llong wedi myned yn mhellach yn mlaen na'i chyfrinad, vn herwydd fod y Cadben wedi esgeuluso talu sylw digonol i nerth a chyfeiriad v llanw.
Atal y Gostegion.
Atal y Gostegion. Fel yr oedd gostegion prioias yn cael eu darllen yn eglwys blwyfol Lbvig un Saboth yn ddiweddar, cododd merch ieuane i fyny i •ddweyd fod ganddi wrthwynebiad iddynt. Ymddengys fod y gwr ieuanc wedi addaw ei phriodi hi, ac mai dyna reswm ei gwrth- wynebiad iddynt.
Y GORPHWYSIADAU.
Y GORPHWYSIADAU. Amcan y gorphwysiadau ydyw rhoddi cyflte i'r darllenydd i gael ei anadl. Clywsom ambell ddarllenwr ieuanc yn myned yn mlaen nes colli ei wynt, ac wedi cymeryd ei anadl yn myned yn mlaen eilwaith nes ei golli, ac felly o hyd. Y mae darllen felly yn boenus iawn i'r darllen- j" viviLaao aaiguju. n gmaiiu»W)'aU. Rhaid cael gorphwysiadau wrth ddarllen, a'r ffordd oraf yw eu cymeryd yn eu lleoedd priod- ol. Y mae y gelfyddyd o ddarllen, ond ei harfer yn naturiol, yn caniatau digon o amser i'r darllenydd i gael ei anadl. Y mae darllen eywir mor ddiboen ag y siarada dau gyfaill ar y ffordd. Fydd neb byth yn blino wrth siarad felly, nac.mewn perygl o golli ei wynt. Dylid darllen yn yr un modd yn gywir. Dylid def- nyddio y gorphwysfaau yr un modd wrth ddarllen ac wrth ymadroddi mewn ymddiddan- ion. Ni wiw i'r darllenydd ddywedyd mai methu defnyddio y gorphwysiadau y mae wrth ymddiddan; yr un peirianau sydd yn gwneyd y ddau waith. Un gwaith a ddylasai ddweyd,-— yr un peth yn union mewn egwyddor yw dar- llen ag yw ymddiddan, mor bell ag y mae perthynas rhwng y ffaith a'r peirianau llafar. Y gwahaniaeth yn unig yw bod y llygad hefyd: ar waith wrth ddarllen. Nis gallwn roddi gwell cyngor ar bwnc y gorphwysfaau nag anog y darllenydd i gymeryd ei ddull o ymddiddan yn rheol. Dichon y gofynir yma, i ba beth y mae atalnodau yn dda, os nad i gyfarwyddo y dar- llenydd? Ie, i gyfarwyddo, y darllenydd i ddeall yr hyn a fyddo yn ei ddarllen, rhag iddo gymysgu y brawddegau. Y mae yn hawdd profi na waeth heb yr atalnodau na'u bod, 01 bydd y darllenydd yn deall ei bwnc, canys nid yw yr ymddiddan wedi ei atalnodi, ac eto fe fydd plant, mor fuan ag y dysgant barablu, yn defnyddio y gorphwysiadau yn gywir. Sylwer ar yr ymddiddan canlynol rhwng y Tad a'i fab William, Y Tad.-Pa bryd y daethost gartref neithiwr William.-Deg o'r gloch Y Tad.-LIe buost ti mor hwyr William.-Yn helpu Huw Parri a Jack Edwards i.gario Dafydd Jones Tyllwyd gartra Y Tad.-Beth oedd arno fo Wi,lliam.-Y,ceffyla redodd a chafodd i dafltt i lawr a chiciwyd o yn i goes gan y ceffyl blaen Y Tad.—Ddaru o dori rhyw asgwrn tybeb,a ddoeth y doctor yno William.—Wn i ddim ond roedd i goes owedi chwyddo yn. arw Y Tad.-Rhaid i mi fund i welad o dr caredig ydi Dafydd. Dyna ymddiddan heb yr un atalnod ynddo, ae er hyny fe gadwyd y gorphwysfaau yn 1 modd cywiraf, ac er fod yno wallau meØ llythyreniaeth a chystrawiaeth, nid oes yna yr un gwall yn y gorphwysfaau. Yn awr pa rwystr sydd i unrhyw dad a mab ddarllen Yr ymddiddan uchod yr un modd, os byddant y*J ei ddeall? Os na fyddant yn ei ddeall, bydded iddynt ofyn i ryw gymydog mwy deallus rod< £ yr atalnodau i lawr, canys y mae yna le i un o hoajat,—Lyfr i Bawb ar Bob-Petit.