Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

IBETnT LEWIS.

News
Cite
Share

IBETnT LEWIS. SYLFAENEDIG AR FFEITRAU. GAN TOM WEDROS EVANS, AJTFDWR "GOMER JONES." PEN. VI. Fire fire fire I" dyna y waedd dor- calorus a adseii.iai o flaen y ty. Yn fuan yr oedd y tafarnwr yn ein liysbysu fod un o'r stores mawrion oedd gerliaw wedi eymeryd tan. Aeth Tom, a Billy, a minau allan. Arosodd y rhelyw o'r cwmpeir.i yn y parlwr, a darfu iddynt ymddwyn yn ddoeth iawn yn eu cenedlatth. Buasai yn well i Tom a Billy hefyd aros yno, canys yr ofddynt yn rhy feidw, ysywaeth, i ymsymud rhyw lawer oddiamgylch Yr oedd yr hyn a ddvwedoijld y tafarnwr yn wirionedd. Yr oedd y store fawr oedd gerllaw yn fflamio yn gjflm. Ym- ddyrchai y fflam^u cochion drwy hen yr adeilad enfawr, ac \mwth:eiit yn un strings ilydain o dan drwy y ffenestri, gan ch\\ mthÍn eu crechwen fuddugohaethus ar y dyrfu fawr oedd wedi ymgynull i weled y galanastra ofnadwy Yr oedd y fire brigade yn cael cryn waith cyn gwneyd i ddwfi eu peiriariau lwyddo i wneyd un- rhyw effaith fondhaol er diffbdd y tan. Gwelwyd yn fuan fod y tan wedi llwyddoi gael yr afael drechaf, a'r gwaith nesaf oedd rhwystro ei ledaeniad. Yr oedd adeilad enfawr arall-y Queen's Hotel-o fewn ychydig gamrau oddiyno, ac yn fuan yr oedd holl ddrysau y lie yn cael eu taflu yn agored, a'r gwirodydd yn cael eu rowlio allan gyda chylfymdra mawr. Yn nghanol y cynhwrf darfu i mi' gael fy rigwahanu oddiwrth fy nghynsdeithion, a phan aeth- nm i chwilio am danynt nid oedd yr un ohonynt i'w canfod; ond ni fum yn hir cyn clywed llais Tom Jones yn dywedyd, "Billy, tyr'd yma i roddi benthyg dy drwyn i mi; gwcaiff y tro yn gampus i spoutio y dw'r, drwy fod yn water-pipe i ben y building Yr oedd y dorf -erbyn hyn wedi cynyddu yn aruthrol, ac er fod y fflamau yn ymledu ar eu gyrfa ddifaol, ac yn clecian o gwmpas bargodion y Queen's, ilwyddwyd i dori y cysylltiad cyn iddynt gael yr afael drechaf ar yr adeilad hwnw Yn fuan gorfu i Mr. Tan ildio i ymdrechion dewr y dynion, a rhoddi i fyny bob gobaith am dymhor eil- waith i gyflawni ychwaneg o ddinystr. Yn nghanol y miri gwahanwyd fi oddi- wrth fy nghymdeithion, a phan ddechreu- odd y dyrfa ymwasgaru dechreuais ar y gwaith o gael gafael ynddynt. Ond er chwilio yn ddyfal, methiant hollol fu fy holl vmdrechion. Dechreuais erbyn hyn hwylio fy ngham- Tau yn nghyfeiriad fy lodging house, ond Ow! ar ol hir chwilio, methais yn deg a'i weled, ac ni fum yn hir cyn sylweddoli fy mod wedi ftarwelio a'm llwybr priodol. Pan yr oeddwn yn myfyrio vn bruddaidd ar fy sefyUfa, gwelwn y "gwr a'r got las" yn dyfod i lawr yr heol; a chan fy mod yn ofni y byddai iddo fy anrhegu a Boson o lety yn y lock- up am rodiana o gwmpas yr heolydd yr adeg hono o'r nos, eyflymais yn mlaen, ac yn fuan troais o'r brif-ffordd i ystryd arall, ac yncf gwelais adeilad newydd ar haner ei orphen. I mewn yr aetham gan benderfynu treulio y noson yno, nes y byddai i gawr y dydd oleuo dinas Melbourne. Rhoddais fy hun i orwedd ar y llawr, ond ni fum yn hir yno cyn i dyrfa o tintoelcomed visitors dalu ymweliad a mi. Clywn rhyw drwst rhyfedd, ac er fy nir- fawr syndod deallais fod eymanfa o lygod rfrengig yn ymsymud yn yr ystafell! (Y mae Melbourne yn enwog am ei llygod). Ow yr arswyd ddarfu fy meddianu erbyn hyn! Yr oedd pob aelod i mi yn drigle daeargrynfaau," ac ofwn y byddai i'r filein iaid wneyd ymosodiad arnaf a'm bwyta yn fyw Pan oedd un chwaer lygodyddol yn ymsymud o gwmpas fy mhenelin, a'r Hall fel pe am dalu ymweliad a llogell fy nghob, codais ar fy nhraed, ac ar garlam wyllt cafais fy hun yn myned allan drwy y ffenestr a'm calon ar lesmeirio yn ei thrist- wch! Yn mlaen yr aethum yn yr un cyfeiriad ag y deuais i ystafell y llygod, ac ar ol symud 'nol a gwrthol am ysbaid, cefais fy hun yn ddisymwth yn nrws fy llety. Daeth Tom i agor y drws, ac yn fuan yr oeddwn o ran fy meddwl in the heavenly land of d, eams. Rywbryd cyn ciniaw gadawodd Tom a minau ein gorphwysfa, ac aethom allan i fwynhau ein hunain yn y dref. Yn mlaen yr aethom; galwyd heibio llety Billy Davies a Walter Lloyd, ac yn fuan cawsom ein hunain uwch ben mejeh yr hops yn y Ship Inn. Dywedai Tom ei fod ef o ran ei ddaliadau a'i farn yn credu mewn brandi er gwneyd i ffwrdd ag effeithiau y ddiod y noson cynt. Yn fuan syrthiwyd ar bwnc y cloddfeydd, a daethpwyd i'r penderfyn- iad o gychwyn tuag yno dranoeth. Pan yn nghanol y mwynhad cymerodd amgylch- jad digrifol le. Yn ddisymwth aeth Billy a Walter i gweryla. Haerai Billy fod Walter wedi ymddwyn mor Annghristion- ogol a lladrata ei fyglys. Cynhyrfodd hyn Walter yn enbyd kwn, *c yn fuan cy- merodd y cweryl wedd fygythiol. Tyr'd a'm dybaco yn ol," ebai Billy. Dim at all," ebai Walter; "ni ddarfu i mi ei gymeryd dal dy dafod." Yn fuan profodd Billy ei fod yn feddianol ar ddyrnau, drwy ddwyn un ohonynt i gyffyrddiad chwyrn a gwasgod Walter. Clear the way," ebai Walter, ac ar ol ymaflyd mewn cragen fechan a addurnai y mantel-piece, chwyrndaflodd hi i gyfeiriad penglog ei gydymaith; ond gan i'r diweddaf blygu ei ben ni orphwysodd y gragen nes cael ei hun yn gwersyllu yn dawel ar yr heol. "Wei be' andros sydd arnoch?" ebai Tom Dyna chwi wedi tori quarrel y ffenestr; ryw idiots yn creu mwstwr yn yr adeilad. Eistedd i lawr, Billy, neu fe ym- aflaf yn dy drwyn; a rho dithau, Walter, dy gorff baglog i eistedd fan yna, neu, look' out for squalls." fcrbyn hyn, yr oedd y tafarnwr yn y parlwr ac yn dywedyd, Wei, foneddigion, haner coron yw pris y gwydr, a bydded i'r person a'i drylliodd ef dalu yn union." Na wnaf fi," ebai Walter, bai Billy ydoedd fy nghynhyrfu." Taw a'th bwtyn tafod, a bydd i mi benderfynu," ebai Tom. "Wel, y mae yn ddigon plaen mai Billy sydd i dalu yr haner coron," ebai Tom. Rhodd wcb farn deg," ebai Billy. "Wel, fy marn gorphorola chydwybodol i yw hyn," ebai Tom. "Ti, Billy, y creadur asynaidd, ddechreuodd y row felldigedig hon; y mae yn ddigon plaen nad oedd Walter o gwbl yn bwriadu dryllio y ffenestr-ei fwriad ef oedd taraw yr "hoel sy'n dal het" Billy; ie, meddaf, dyna oedd bwriad Walter Lloyd, ac yn gymaint mai dyna oedd ei fwriad, bai Billy oedd 8ymud ei ben; pe buasai heb wneyd hyny ni fussai y ddamwain hon wedi dygwydd o gwbl, felly ac oblegid, Billy Davies sydd i dalu yr haner coron Heb lawer o siarad ofer, blinwyd Billy i'r fath raddau fel y barnodd yn ddoeth dalu y swm penodol. Yn bur fuan, o dan oruchwyliaeth y ddiod, syrthiodd Billy a Walter i mewn" mor gynted ag y darfu iddynt gwympo allan." Ar ol i'r helynt ryfedd yna basio cafwyd ychwanegiad at y cwmpeini drwy i Wilcox ddyfod i mewn. "Sut wyt ti heddyw, Wilcox?" ebai Tom. "Yr wyf yn lew," ebai Wilcox ar ei wen. 0 wel," meddai Tom, os wyt yn lew, gwell i ni fyned allan mewn winciad chwanen; creadur ffyrnig yw llew Taw a son, Tom," ebai Wilcox, "bydded i ni fwynhau ein hunain." Cyn ymadael oddiyma penderfynwyd ein bod i gychwyn yn fofeu dranoeth tuag Anderson's Creek Dranoeth a ddaeth Yn fuan cawsom ein hunain y tu allan i'r dref yn prysuro yn mlaen ar ein taith. Yr oedd gwedd ddoniol arnom-pob un a'i sypyn dillad ar ei gefn. Yn mhen ychydig oriau cyrhaeddwyd Undergrove. Tra yr oeddvm yn nesu at y ty clywem ryw fiwsig melodedd yn treiddio atom o ganol y coed, ac ar ol dyfal-wrandaw deallais yn fuan mai Angelina ydoedd yno yn seinio yr hen alaw fendigedig, Home, sweet home." 0! y dylif o fwynhad ddarfu orlifo fy nghalon, ac yr oedd yn hawdd gweled fod fy nghymdeithion hefyd yn cael eu swyno ganddo. Dyna ganu soniarus, a chwareu nobs yn beauty," ebai Tom. Gogoneddus yn wir!" ebai Elias. Ac 0 os ydoedd yn ogoneddus i Elias, pa faint mwy i mi! Yr oeddwn ar ddotio wrth glywed y nodau per; gogleisid holl linynau fy nghalon gyda mwynhad annes- grifiadwy tra y seiniai,- "Home, Home, Sweet, sweet home, There is no like place home, There is no place like home." 0, laia nefolaidd fel seiniau telyn angel! 0, swyn-gyfaredd fendigedig! Yn fuan ymadawodd fy anwylyd a'r coed, ac ar ol gweled y gwrandawyr, ffwrdd yr aeth gan wrido tua'r ty. Ar ol i ni fyned i mewn, ac i Tom introducio ein cyfeillion i'r teulu, ac i min- au gael y fraint o ysgwyd dwylaw ag Angelina, a gweled ei llygaid gleision yn boddi mewn serch, tra y lispiai yn fendi- gedig, How do you do ? dechreuwyd ar y gwaith o wneyd ein hunain yn gartrefol a hapus. Yn fuan yr oedd y bwrdd ysgwar wedi ei hulio a. danteithion a minau yn gwneyd hafoc o'r trugareddau with a vengeance. Ond waeth heb fanylu, treuliwyd y noson yno, a derbyniwyd bob croesaw a charedigrwydd. Ni ddarfu i Ben gysgu rhyw lawer; llwyddodd ef i gadw Mr. Cwsg draw drwy gadw rhywun arall yn agos! Daeth y boreu, ac ar ol cauu yn iach i'r teulu caredig dechreuasom ein taith i Anderson's Creek, Cyrhaeddwyd y Creek yn ddyogel. Ar ol gwersyllu am y noson yn y Mia Mia dechreuwyd dranoeth chwilio am yr aur. Prynwyd taclau cloddio priodol gan yr hogyn doniol o Sais oedd yno wedi cyfodi pabell i'w gwerthu dros gwmni anturiaeth- us o Melbourne. Yna dechreuwyd mesur claim. Fel yr hysbyswyd yn flaenorol, wrth y gair claim lr ydym i ddeall darn o dir deugain troedfedd ysgwar. Ar ol sicrhau pedwar polyn yn y ddaear i nodi allan ei derfynau, y mae y llecyn hwn yn vael ei ystyried yn eiddo personol i'r cwmni a'i ffurfia. Os bydd i'r cwmni esgeuluso eu gwaith, hyny yw, os byddant am dri diwrnod yn olynol heb ymwneyd a'u gorchwylion, collir yr hawl i'r tir, a gall unrhyw un gymeryd meddiant o hono yn 01 deddfau y cloddfeydd "Wel, gyfei'lion," ebai Tom y boreu hwnw, "dymani wedi cyrhaedd Anderson's Creek, ac yn baroe i ddechreu ar y gwaith o ddyfod yn foneddigion. Bu Ben Lewis a minau yma yn flaenorol, ac ar ol cloddio, a chwysu, a gweithio fel niggers, methwydyn deg oleu a chael yr un llwchyn,.o'r llwch melyn. Ond yr wyf yn cofio hen air sydd mor llawn o ddoethineb a phe buasai wedi dy fod o dan het Solomon-yr hen air Try again." Gadewch i ninau actio hyna yn ein buchedd; ac er methu, edrych a llygad ffydd pan fo llygad cnawdol" yn methu gweled dim auro gwbl, yr ydym yn siwr o lwyddo yn ein hymdrechion ond dal ati; felly, Try again-, stem on, and never say die Wel, 'does gydani," ebai Elias, ddim i wneyd ond gweithio ein goreu, a gobeithio ein goreu." Siwr iawn, Elias," ebai Billy, 'rwy'n siwr fod digon o aur yn y claim yma; wel- wch chwi fel y mae diggers y claim nesaf ato yn golchi eu haur." Taw a son Billy," ebai Tom, nid yw fod aur yn y claim nesaf yn un prawf fod aur yu hwn." Ydyw, wrth gwrs, Tom Jones," ebai Billy. Taw a'th lol, Billy. Dy ben di yw y nesaf at fy mhen i o ran geographical posi- tion. Mae llon'd fy mhen i o synwyr, felly y mae yn canlyn fod y stuff hyny yn dy ben dithau; ond gwyr pawb yn wahanol; felly dyna wrthbrofi dy syniadau drwy logic" "Dyna, dyna, gadewch i geography a phenau o'r neilldu yn awr," ebai Elias, 11 a gadewch i ni duechreu cloddio. Nid oes yr un ohonoch yn deall mwy am geography a phenau nag a wyr twrch daear am yrhaul." Ie Ni wyddoch chwithau, hefyd," ebai Tom, ddim mwy am geogra/phy a bardd- oniaeth nag a wyr buwch Betty Drefach am swlit drwg! Ond 'e wn i am fardd- oniaeth, fel y profais yn y Ship Inn, Melbourne; ac am geography, yr wyf yn ei ddeall yn drwyadl; bum yn ei ddysgu— t,u do, yn tynu mapiau o wledydd y byd hwn -yn ysgol Llwyndafydd mor glyfar a chywir ag y gallasent fod. Tynais lap o'r Iwerddon unwaith mor gywir fel y gallas- ech weled dynion yn eerdded ar 'strydoedd Dublin Dyna brofi i chwi drwy logic." "Wel, Tom Junes," ebai Elias, gan chwerthin, yr ydwyf yn ildio; ond gad- ewch y cyfan o'r neilldu yn bresenol, fel y byddo i ni ddechreu cloddio." (l'w barhau).

Advertising

,Y G^eithiau Glo—Cyfarfod…

Yr Unol Dalaethau.

Y Cadfridog Sherman.,

Llosgiad Melin Gotwm.

Damwain gyda gwn.

Esgyniad i Mont Blanc yn y…

Angeu rhyfedd Boneddiges o…

Y Permissive Bill.

Advertising

Y Rhyfel Tyrcaidd.

Gweithio Haiarn yn India.

Hirhoedledd.

Drylliad y Deutschland.

Atal y Gostegion.

Y GORPHWYSIADAU.