Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
, HWllDD Y GOLYGYDD. ( •
HWllDD Y GOLYGYDD. ( • W. DAVID.—Eiddo gohebydd arall wedi ei gysodi.. Dymuna "Cystadleuydd" ar Hywel Cynon gy- hocddi ei feirniadaeth ar y traethodau cystadl- euol yn Nghapel Gwawr, Aberaman. DXDYMUS A GWRANDAWR.—Eiddo arall mewn llaw o flaen eich ysgrifau chwi. YMOFYNYDD PRYDEIWS. -GwelI fyddai i chwi ysgrifenu yn gyfrinacliol at Mr. Bowen. GWILYM GIKDD.—Yr oedd yr hanes wedi ei gysodi pan dderbyniwyd eich ysgrif. Yr ydym yn methu deall eich bwriad yn cyfeirio y gofyniad- au i Crotyn Crito drwy gyfrwng ein colofnau. W. D. MORGAN,—Ni ddaeth yr hanes i'r swyddfa. Bydd hanesion dyddorol bob amser yn dderbyn- iol genym. UN O'R CYSTADLEUWYR.—Yn y rhifyn hwn. Derby niwyd. — Glan Barlwyd, Cynonf ryn, Gwilym Ddu o'r Llan, Un o'r lie, Uystadleu- ydd, Un am Wybod, Arglwyddes Llanofer a'r Eglwys Gymreig yn Nghaerdydd, Gwalch Annos, Idwal, Iiigomar, Hen Lowr.
DYFODOL Y RHYDDFRYDWYR.
DYFODOL Y RHYDDFRYDWYR. Oe ria, wna araeth Mr. Bright adfywio y blaid Ryddfrydig, ac ailuno en rhengau, nis gwyddom ni pa beth a wna hyny1. Y mae ei araeth odidog, os nad ydym yn camgymeryd yn ddirfawr, eisioes wedi deffroi lthyddfrydwýr y deyrnas o'u hir gysgadrwydd, ac wedi dangos iddynt y ffordd i fuddygoliaeth a goruchaifaeth eto. Y mae efe wedi rhoi dwy ryfel-floedd i'r Rhyddfrydwyr, a dim ond iddynt wneyd defnydd da o honynt, a thynu eu rbengau yndyn at eu gilydd heb amrafaelio mwy, bydd Mr. Gladstone mewn awdurdod yn fuan eto, a'r stupid party" allan yn yr eira a'r oerfel. Y "war cry" gyntaf yw y bleidlais'sirol: a'r ail yw y tir-gwestiwn mawr. Y mae pleidlais gan bob rhentwr tf yn y bwrdeisdrefi, ac ynddynt hwy o ganlyniad y mae y Bobl yn yr oruchafiaeth, ond nid oes pleidlais gan neb yn y Siroedd oddigerth ei fod yn talu rhyw un bunt ar bymtheg o rent yn flynyddol. Fe fynai Mr. Bright estyn y Bleidlais Dyol i'r Sir- oedd fel ag i'w gosod ar yruD telerafr a'r bwrdeisdrefi. 0 dan y gyfundrefn bresen- ol y mae agos bob eisteddle sirol yn hollol at ewyllys a than awdurdod y tir-feddian- wyr mawrion. Ymffrostia y Ceidwadwyr yn ddibaid yn yr etholiad diweddaf fel prawf diymod focl-corff mawr yr etholwyr wedi troi at egwyddorion Toriaidd. Ond p&'tTetif yw y gwirionedd? Y gwirionedd yw hyri—ddarfod i'r bwrdeisdrefi ddanfon i'r Senedd dri ugain o fwyafrif dros y blaid Ryddfrydig; mewn geiriau ereill, fe seliodd y bleidlais Dyol egwyddorion gwladlyw- iaeth Mr. Gladstone gan chwyddo ei fwy- afrif i'r nifer" o dri ugain. Ond fe ddan- fonodd y Siroedd gant o fwyafrif o du y blaid Geidwadol, gan ddystewi felly lais y bobl. Pa beth pe buasai y bleidlais Dyol gan etholwyr y Siroedd? Pa le y buasai Disraeli a'i blaid heddyw? Wel;, dyma ryfel-floedd gyntaf y Rhyddfrydwyr-^ y bleidlais D £ ol i'r Siroedd yr un modd ag i'r bwrdeisdrefi. Yr ail ryfel-floedd ydyw, Diwygiad yn y tir-ddeddfau, yn ngyda dilead y ddeddf annghyfiawn sydd yn rhoi yr holl ystad dirol i'r mab hynaf, o genedl- aeth i genedlaeth. Y mae y bedwareid ran o holl dir Scotland yn meddiant un ar ugain o bersonau! Hyny yw, y mae un ar ugain o bersonau yn yr holl diriog aethau eang hyn, yn anfon i'r Senedd bron y sawl a fynont hwy. Gwyddom am §ir Did pell o Forgaawg, yn yr hon y mae brOin yn anmhosibl i Ryddfrydwyr anfon cynrychiolydd i'r Senedd, er fod y blaid hono mewn mwyafrif aruthrol ynddi: y dau hendefig-dim ond dau-a dau iteutu-r- yn dal corff yr etholwyr mewn caethiwed, a thrwy eu dylanwad anwrthwynebol yn llwyddo yn mhob etholiad i ddychwelyd dau Dori i'r Senedd Torer y ddeddf etifeddol oddiar ein deddflyfr, a gwasgarer y tir yn deg a chyfartal rhwng y priod etifeddion, a gwneler gwerthiad a thros- -glwyddiad tir o law i law mor eglur ac mor hawdd a gweithiad rhyw feddiant arall- gwneler hyn, a bydd asgwrn cefn y llygr- edigaeth mawr hwn wedi ei dori. Diameu y tueddai hyn yn union gyrchol at ddwvn oddi amgylch ddilead Ty yr Arglwyddi; ond paham nad allem ni ethol Ty- ITchat fel y gwneir yn yr TJnol Daleithiau ac 1newn gwledydd ereill. Y mae y ddeddf llu-etifeddol nid yn unig yn gam a'r Bobl, ond yn gam hefyd tuag at y teuluoedd pen- defigaidd eu hunain, trwy gyfoethogi un ar draul tylodi y lleill oil. Hyn yma a arweiniodd i'r llygredigaethau mawrion yn y fyddin, y llynges, a'r Eglwys Sefydledig, oblegyd, gan fod yr ystad i gyd yn myned i'r mab hynaf, rhaid oedd cael lleoedd a awyddi enillfawr i'r meibion ereill druain, phrynu iddynt y cyfryw swyddi heb lln ystyriaeth yn y byd yn nghylch talent, cymbwysder, na theilyngdod. "Ymae y ddeddf hon," medd nn awdurdod uchel, Cc yn galluogi meddiant (property) i gyn- J'ddu a chwyddo trwy etifeddiaeth yn gyf- lymach na thrwy lajfur a, diwydrwydd: y mae yn cynyrchu dosbarth o blant ffawd di dda (spoiled), a dosbarth arall cyfochrog o fegeriaia beilchion." Na feddylier am fvnud ein bod am yspeilio ein pe;defigion o'u tiroedd, er, fe drtichon, fod hawl-deitl rhai o honynt yn Iled ameiius. Yr ydym yn foddlawn iddynt gadw yr hyn y maent wedi dyfod iddo; yr hyn yr ydym am iddynt wneyd yw, Rhanu eu tiroedd yn deg rhwng eu plant a'u hetifeddion. Y mae Rhyddid y Bobl yn beth mil mwy pwysig na Rhwysg y Bendefigaeth, ac y mae Khyddid politicaidd y bobl yn ym- ddibynu ar Wasgariad y tir rhiong llaiver- oedd fel ag i roi bythol derfyn ar ddirfawr ddylanwad y meibion hynaf. Pa un a wna araeth ryniius pen areithiwr Ewrop gyflymu y cyfnewidiadau hyn ai peidio, y mae y cyfnewidiadau eu hunain yn rhwyni o ddod, a byny hefyd cyn bo hir iawn.
Juij, YR ARSYLLFA.
Juij, YR ARSYLLFA. CHWEF. 3YDD, 1876. Taenir rhyw hanesion pur annymunol am y WLADFA GYMKEIA ar hyn o bryd. Ymddangosodd llythyr yn y Times gan ryw "J. L." Dywed fod rhyw gyfaill wedi ysgrifenu ato fod y Gwladfawyr ar newymi. Fod yno ryw 1000 neu 1200 wedi ymfudo yno yn ddiweddar, ac-nad oes yno iddynt ddim i'w fwyta. Y chwallega fod yr hen sefydlwyr wedi gwerthu eu grawn, heb gadw ond prin ddigon iddynt eu hunain. Y tynihor hwn, hefyd, dywedir na chododd yr,afon Chupat, ac felly nad yw y tir wedi ei ddyfrhau. Dywed y gohebydd hwn yn mhellach iddo fod i lawr ar yr,afon Chupat yn 1873, a bod yr ymsefydlwyr y pryd hwnw yn rhifo 140, ac yn dechreu dyfod uwchben eu traed yn o lew, a hyny ar ol tymhor hir o brinder a dyoddefaint; y pryd hwnw, yr oeddynt wedi dyfod yn alluog i dyfu digon o cynal, a'r hyn oedd yn weddill ganddynt yn y ddwyflynedd ddyfodol a all- foridi Buenos yres. Dywed fod agwedd. lwyddianus y drefedigaeth wedi tynu llu j mawr yno o Gymrn yn y deuddeg mis diwedd- f af—nifer rhy fawr, fel yr ofnir, i adnoddau presenol y Wladfa. Tybia y bydd i lywodr- aeth Argentine eu cynorthwyo trwy y cyfyng- der presenol, A ydyw manylion y llythyr uchod o'r Times yn wir, ni wyddom ni ond hyn sydd sicr, os ydyw, y bydd blaenoriaid y mudiad Gwladfaol, megys D. S. Davies, M. D. Jones & Co., yn gyfrifol am y blunder. Bydd y wlad yn dysgwyl yn awyddus am lythyrau oddiyno, a gobeithio nad yw llythyr gohebydd y Times yn wirionedd. O'r hyn leiaf, rhaid i niymdrecha-gtMbeiihiohynyltyd nes y clywom yn wahanol. Diau fod llawer o'n darllenwyrwedigweled hysbysiadau yn y gwahanol bapyrau Seisnig amy CO-OPEHATIVE CREDIT BANK, yr hwn a ddygid yn mlaen yn Llundain, dan lywyddiaeth Richard Banner Oakley. Yr oedd y gwr hwn yn addaw i fuddroddwyr 18 y cant o log. Bu hyn yn foddion i dynu allan dyrfa o wyr yr arian, y rhai oeddynt yn awyddus am logau uchel, a dyma yr arian yn dylifo i mewn i Oakley nes iddo gael y swm mawr o 40,000p! Ychydig amser yn ol, beth bynag, dyma rai o'r newyddiaduron yn dechreu ymosod ar y banc newydd hwn a'r canlyniad fu, i un ar ol y Hall o'r llog-osodwyr alw am eu harian yn ol. Cafodd rhai eu harian mae'n debyg, ond y mae llu mawr heb gael un ddimai. Un offeiriad o'r enw Mr. C. H. Robertson, yr oedd efe wedi ymddiried 2,300p. i'r banc newydd hwn mewn gobaith iddo am y corff, canys y mae y bancwr yn ngharchar; a phan aed i edrych a chwilio y banc, ni chaed yno ond y swm anferth o ddeg swllt a chwe' cheiniog allan o ddeugain mil o bunau. Felly, y mae y banc hwn, bellach, yn gyrbibion mwnws man. Dyna ei -gwneyd hi yn odidog. Yr oedd un cenadwr trefol o Scotland wedi rhoddi yno y swm o 30p., sef yr hyn oedd wedi gynilo am dair blynedd ar ddeg. Rhyw hen ferch wedi rhoddi yn y bane 700p.-yn agos yroll a feddai. Ond y mae y fusnes ar ben, a'r bancwr yn ngharchar ar y cyhuddiad o dynu arian ar y cyhoedd trwy dwyll honiadau. Mynych iawn y gwneir gwawd o Taffy gan y Saeson, ond ni fu Taffy erioed mor green a miloedd o'u meibion hwy. Y mae yn hynod dda genym ddeall fod rhyw gynhwrf bach yn y gwersyll masnachol. Cychwynodd rhyw adran o WAITH HAIABN Y GADLYS yr wythnos ddiweddaf, yr hyn sydd yn rag- arwydd, gobeithio, fod amser gwell i wawrio yn fuan. Yr ydym wedi cael si fechan hefyd fod argoelion y cychwyna gweithiau haiarn Abernant, ryw gyfran o honynt, o hyn i ben tair wythnos. Os yw y daroganiad hwn yn wir, bydd yn achos o lawenydd mawr i ardal Aberdar. Ymddengys fod y glowyr yn dra anfoddlon i ymddygiad un o'u cynrychiolwyr oedd ar y Bwrdd Cymodol, am ei waith yn cymeryd rhan i ddiwygio hanes gweithrediadau y Bwrdd. Cynaliwyd cyfarfod o'r glowyr yn Dowlais dydd lau diweddaf, a chynygiwyd ac eiliwyd penderfyniad yn datgan annghymeradwyaeth o ymddygiad y brawd y cyfeiriwyd ato, ond, ar gais Mr. Connick, tynwyd ef yn ol, hyd nes y byddai. i'r mater gael ei ystyried mewn cyfarfod dirprwyol.
Mangofion Hanesyddol.
Mangofion Hanesyddol. Clywed y ddoe, yn efail Evan y gof, fod y Cymro Gwyllt wedi cael ei gwbl enill i'r ffydd Batagonaidd, a'i fod yn haeru wrth bawb a ddaw i gyffyrddiad ag ef mai Glenydd y Chupat ydyw gwlad yr addewid. Fe soniodd rhywun yn y siop fod yr Hen Domos wedi priodi. Ai tybed," meddai Betty, "fod ganddi arian? oblegyd am yr arian yr oedd efe yn ymorol, ac nid am wraig. Y ffrae bigog rhwng crachfeirdd yr Alltwen a phastynfeirdd Pontardawe wedi eitherfynu, ac y maent fel ceiliogod wedi eu rhanu, yn clochdar am yr uchaf am y fuddugoliaeth. Masnachdy enwog wedi agor yn Nhrecynon at greu ffugenwau. Tiberog yn llywyd y sefydliad, Gwilym Medi yn ysgrifenydd, a Darlwyn yn geidwad y drws. Tal am ymun- iad a'r gymdeithas, o haner gini i fyny, yn ol gradd a dosbarth. Clywed fod rhyw ddynsawd o arolygwr ar Hirwain yn ymddwyn yn galed tuag at y gweithwyr, a bod ganddo nifer o gynffonwyr, yn ei ddilyn. Cymered Mab Dagon ofal rhag dyfod o Eryr Craig y Bwllfa am ei ben a gwneyd arddangosfa o hono ar gyhoedd gwlad. Diwygied cyn y gollyngir y saeth oddiar y bwa, rhag iddi fod yn farwol iddo. Nid gwir fod Mabonwyson wedi cael ei dderbyn ir cyleh Cerig gan Myfyr, oblegyd gwelais ef ddoe yn ei faintioli, fel arfer, yn iach yn y ffydd, heb deimlo dim oddiwrth y dolur- andwyol water on the brain. Gresyn fod dyn o safle Myfyr wedi myned mor bell o dan effaith y dolur, fel nad oes un gobaith iddo am adferiad hyd nes y cyrhaeddo wlad Hud a Lledrith. Ofnir mewn rhai cylchoedd y dygir Guilelimus i mewn am ddynladdiad, ac y oeir ef yn euog o ymosod ar Myfyr yn ei wyneb, a'i ladd ar ei dir ei hun. Cymerir y mater mewn llaw gan ddeuddeg o reithwyr cyfrifol, y rhai a ffaenorir gan lenor o nod yn Mhontypridd. Brawd o Hwntw ac sydd yn lienor adna- byddus yn diraddio ei hun mewn ystyr foesol a chymdeithasol yn ardal y Wyddgrug, wrth dalu ymweliadau nosawl a pharth o'r dref a elwir y Felin Blwm. Os na fydd iddo ddi- wygio, fe fydd yn rhaid i fechgyn y gwaith Alcan gymeryd at ei gyflwr. Mae awdwr y llythyr ataf yn fachgen cyfrifol, a gellir di- bynu ar y gwirionedd a ddywed parthed y sylw uchod. Disgwyliwn bethau gwell am fardd o safle y troseddwr, ond tebyg fod y oyneddfau anifeilaidd yn cario y llywodraeth arno.—Yr eiddoch, SOLON.
Bwrdd Cymodol Deheudir Cymru.
Bwrdd Cymodol Deheudir Cymru. Y mae y cyfrifwyr apwyntiedig i weithredu dan y raddfa lithriadol wedi bod yn ddiwyd yn Nghaerdydd yr ychydig ddyddiau diwedd- af er ceisio gorpben eu llafur. Yr oedd pwyllgor y sliding scale, i gyfarfod dydd Mawrth yn y Royal Hotel, er cael adrodd- iad y cyfrifwyr; ond gan nad oedd yn debygol.y gorphenai y boneddigion hyn eu gWMtri cyn prydnawn dydd. gohir- iwyd y cyfarfod hyd ddydd Sadwrn (yfory), pan y bydd holl ffrwyth yr ymchwiliaeth i gael ei osod ger bron ac wrth bob tebyg, gwneir ef yn hysbys dydd Llun. Tebyg y gwna y dyfarniad benderfynu yn ymarferol gyflogau y mwnwyr am y pum' mis dyfodol, pan y gelwir ar y cyfrifwyr eto i fyned i mewn i brisoedd y glo am yr haner cyntaf o'r flwyddyn hon, ac i drefnu swm y cyflog- au trwy gymhwysiad o'r raddfa lithriadol hyd ddiwedd y flwyddyn.
Nodion Cerddorol.
Nodion Cerddorol. Mae Cor Undebol Aberdar wedi penderfynu perfformio Judas Maccabseus" ddwy waith er budd Prifysgol Cymru. Rhoddir un cyngherdd yn Aberdar, a'r llall yn un o brif drefydd y Deheudir. Mae James Sauvage, y canwr Cymreig, yn esgyn i sylw yn gyflym. Mae wedi ei sicrhau i ganu yn y Brighton Festivals y flwyddyn hon. Y lleiswyrfyddant Lemmens-Sherrington, Edith Wynne, Blanche Cole, Liebhart. Rose Hersee, Annie Butterworth, Madam Patey, Antoinette Stirling, Vernon Rigby, Cummings, Sauvage, Gordon Govilo, Lewis Thomas, Wadmore, a Sims Reeves. Yr arweinyddion fyddant Kuhe, Sullivan, Costa, Benedict, a Taylor. Perfformir gweithiau y prif gyfansoddwyr—hen a diweddar- Yr ydym yn llongyfarch Sauvage ar ei ddyrchaf- iad i blith y ser dysglaer hyn. Nos Sadwrn diweddar talwyd ymweliad ag Aberdar gan Madam Sherrington a'i chwmni galluog. Derbyniwyd hwy yn roesawgar gan gynulleidfa intelligent a pharchus. Ar yr esmwythfeinciau eisteddai rhai o ddynion cyfrif- olaf y gymydogaeth. Perfformiwyd detholiadau allan o opera Lohengrin,' gan Wagner. Can- odd y gwahanol artistes yn yr ail ran, hefyd, yn ardderchog, ac encoriwyd hwnyt braidd yn ddi- eithriad. Credwn yr argyhoeddasid y disap- pointed critic o Dref y Maen Chwyf, pe buasai yn bresenol, nad oedd Mr. Lane mor anmhobl- ogaidd ac analluog ag y dymunasai efe i'r cy- hoedd gredu ei fod, canys yr oedd yr encore byddarol roddwyd iddo ar unwaith yn amlygiad o'i boblogrwydd, o leiaf. Yr oedd gwaith y Chevalier Lemmens yn chwareu ar y Mustel organ yn fwy na gwerth y tocyn uchaf. Anwir oedd y stori fod Dewi Arw wedi dadrys ei wallt ar gyfer yr achlysur, a cheisio myned i'r seddau pum swllt gyda thocyn dau swllt, am mai efe ydoedd musical, critie "Crwth Y Berw." An- wiredd i gyd Nos Lun diweddaf perfformiwyd y Messiah" yn y Music Hall, Abertawe, gan Gor Mr. Silas Evans, yn cael ei gynorthwyo gan Madam Agabeg-Wynne,, Eos Morlais, Lewis Thomas, Band Cyfarthfa, ac ereill. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a rhoddodd y canu foddhad cyffred- inol, ac y mae lIe i obeithio fod swjn sylweddol yn aros i gael ei drosglwyddo i gynorthwyo y sefydliad daionua ar y Graig. Hwyrach y bydd gan gyfaillcynefin a'r gwaitH > sylwadau ar y canu yn ein rhifyn- nesaf. DeaJlWn fod per- fformiad yr un cyfansoddiad yr wythnos o'r blaen gan gor Mr. rnipps yn letniam; nonox mewn ystyr arianol, ac yn nemawr gwell mewn ystyr gerddorol. Bydd Cynon a'i gor yn dech- reu ar Jiyias" yr wythnos hon a chor Mr. Phipps ar yr "Elijah." CHERUBINI.
Temperance Hall, Tredegar.
Temperance Hall, Tredegar. A GRAND EISTEDDFOD will be held in the above hall, on MONDAY, May 1st, 1876, when prizes will be awarded to successful choirs and bands. To the Choir, of not less than 100 in number, that will best render We never will bow down" [Judas Maccabccus), prize £30, and a silver cup (value £ 2) to the conductor. To the Choir of not less than 60, who have not won £ 15, that will best render And the glory of the Lord" (Messiah), prize £ 10, and a silver cup (value Sl) to the conductor. To the Brass Band, of not less than 15 in num- ber, that will best perform Hallelujah to the Father" (Mount of Olives), prizes £ 20. Solos, 21 each. Adjudicator,—PROFESSOR PARRY (Pencerdd America). Railway arrangements are being entered into, particulars of which will shortly appear. Programmes may be had of the Secretary, ME. J. DAVIES, Tailor & Draper, 1251 9, Fourth Row, Georgetown, Tredegar.
Advertising
Music Hall, Abertawe. CYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL Fawreddoij yn y lie uchod dydd LLUN SULGWYN, Mehefin 5fed, 1876. Ceir manylion pellach yr wythnos nesaf.-Dros y pwyllgor, THOMAS ROBERTS, 1248 Board Schotl, Brynhyfryd, Swansea. Cerddoriaeth Newydd gan Alaw Ddu. "Rhwydd, urddasol, a chlasurol."—Fy Meirniaid. ANTHEM "RHAID I'R RHAI A'l HADDOLANT EF." (They that Worship Him). TREFNEDIG i gorau bychain (fel Soli Quartett JL & Chorus. S.A.T.B.) gydag onjan neu piano- forte acromp. Y lfeiriau o St. loan iv. 21-24. Yn Gymraeg a Saesneg. Pris 4c. CLEDD FY NHAD." (My Father's Sword.) CAN i lais Baritone. Cwmpas o B naturiol dan yr erwydd i F llinell uchaf treble clef. Gyda pianoforte accoinp. Y geiriau yn Gymraeg a Saes- neg. Pris (ic. "CAN Y CARDOTYN." (The Beggar's Song.) I leisiau Mezzo Soprano neu Tenor. Pris 6c. Cyhoeddedig ac i'w cael gan W. Davies, Pub- lisher & Bookseller, 31, Market St., Llanelly. Yr elw arferol i Lyfrwerthwyr a Dosbarthwyr. 1249. Tycoed, Pont-henry. pYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod C DYDD LLUN Y PASG, EBIIILL 17eg, 1876. Prif Dda,man Corawl. 1. I'r C6r, heb fod dan 70 o rif, a gano oreu Y Blodeuyn Olaf," gan J. A. Lloyd; gwobr, 12p. 2. I'r C6r, heb fod dan 50 o rif, a gano oreu "Yr Alarch," gan Stephens (Moehvynfab); gwobr, 5p. 3. I'r Cor, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu unrhyw Glee neu Rangan gwobr, 3p. 4. I'r Cor, heb fod dan 30 o rif, a gano oreu, O taste and see," gan Syr John Goss. Cyhoedd- edig gan Novello, Ewer, and Co., 1, Berners-street, London; gwobr, 2p., rhoddedig gan Lady Thomp- son, Glyn Abbey. Cyfyngedig i Gwm Gwen- draeth. Btirniad—EOS MORLAIS. Bydd pob manylion pellach i'w gweled yn y programme, i'w gael gan yr ys^ifenydd am ddwy geiniog gyda'r post. GEORGE EVANS, Pontyeats, 1253 Kidwelly, Carm. n_' Gellionen, ger Pontardawe. CYNELIR y DRYDEDD EISTEDDFOD FLYN- C YDDOL yn y lie uchod LLUN Y SULGWYN, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y testynau canlynol Am y Traethawd goreu ar "Annyoddefgarwch Crefyddol; gwobr, lp. 10s. Am y Bryddest oreu ar Daniel yn Ffau'r Llewod "-dim dros 200 o linellau; gwobr, lp. 10s. Prif Ddarn Corawl. Gwalia Wen gan D. Jenkins, Trecastell; gwobr, lOp., a thlws i'r arweinydd. Btirniad y Farddoniatth, <Lc.—D. L. MOSES, Cwmaman, R. S. O. Beirniad y Gerddoriacth.—D. JENKINS, Tre- castell. Y gweddill o'r testynau i'w gweled yn y programme, i'w gael am y pris arferol gan yr ysgrifenydd, LEWIS HOPKINS, Cathelid Farm, 1247 Cwmclydach, Swansea.
Tabernacl, Sciwen.
Tabernacl, Sciwen. BYDD ED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn y Capel uchod am ddau o'r gloch prydnawn dydd SADWRN, y 25ain o FAWRTH, 1876, pryd y gwo.brwyir y rhai llwyddianus ar y darnafa can- lynol :— 1. I'r C6r, heb fod o dan 30 o rif, a gano yn oreu "NantyMynydd" (J. Thomas); gwobr, 5p., a chromatic pitchfork i'r arweinydd. 2. I'r Cor, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu Carmel" (Stephens a Jones); gwobr, 2p. 10s. 3. I'r Cor o Blant a gano yn oreu "Y n y man;" caniateir chwech mewn oed gwobr, lp. 4. I'r Wyth a gano yn oreu "Cydgan y Mor- wyr," gan Joseph Parry gwobr, 10s. 5. I'r Wyth a gano oreu Ffawydden Werdd," o'r Cerddor Cymreig; gwobr, 8s. 6. I'r hwn a gano oreu Y Ddraig Goch;" gwobr, 4s. 7. I'r hon a gano yn oreu Myfi sy'n magu'r baban gwobr, 3s. Adroddiadau. 8. I'r sawl a adroddo yn oreu Y Llong ar dan;" gwobr, 4s. 9. I'r 'sawl a adroddo oreu Prydlondeb," o Oorlan y Beirdd; gwobr, 3s. 10. Am yr Araeth oreu, heb fod dros bedwar mynud, ar Ddyrchafiad Joseph gan Pharaoh gwobr, 3s. 11. Am y Traethawd goreu ar "Ufudd-dod;" gwobr, 3s. 12. Am y ddau Englyn goreu i'r Dyn dau- ddyblig ei feddwl; gwobr, 3s. Beirniad y Canu-D. FRANCIS, Treforis. .Beirniad y Farddoniaeth a'r Adroddiadau, &c. A. THOMAS (Crumlun), Llansamlet. Enwau y cystadleuwyr a'r cyfansoddiadau i fod yn. Haw yr Ysgrifen'ydd ar neu cyn yr 21ain o Fawrtli.LEWIS JONES, Francis-street, Sciwen. 1254
,George Hodges's Prize Drawing.
George Hodges's Prize Drawing. THIS Drawing took place on MONDAY, JANUARY 24th, 1876, the Winning Numbers being as follows :—270, 267, 236, 453.—Applica- tions to be made for the above at the Harp Inn, Mountain Ash, within the next month.
Advertising
I toeion, ADercanaid. CYNELIR EISTEDDFOD yn y capel uchod Dydd LLUN, EBRILL 3ydd. 1876, pryd y i gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerdd- [ oriaeth, Barddoniaeth. Rhyddiaeth, Adrodd, &c. PRIF DDARNAU CERDDOROL. 1. I'r Cdr o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu "Y Blodeuyn Olaf." Gwobr, 8p.. a baton hardd i'r arweinydd. 2. I'r Cor o Blant, heb fod dan 35 o rif, a gano yn oreu, Follow your Leader or Onward," No. 118, vol. x., April, 1875. Gwobr, Ip. 10s. Bydd y p'rogramme yn barod yn fuan, yn cynwys enwau y Beirniaid a'r gweddill o'r testynau, ac i'w cael am geiniog yr un, drwy y post, dwy geiniog, gan yr ysgrifenydd, JAMES EVANS. 35, Chapel-street, Abercanaid, Merthyr Tydfil. 1232 Yn eisieu, GWR a GWRAIG, i gymeryd gofal Fferm.— Ymofyner a Howell Davies, Hendre Baily. Aberdar. 1250 Prize Drawing W Thomas, 52 Pem- broke-street, Aberdare. DYMtTNIR ar bawb sydd wedi cael Tocyn- D lyfrau y Drawing uchod ddyfod a'r llyfrau a phob arian i mewn ar neu cyn Mawrth 1, 1876. D. BRYTHONFKYN GRIFFITHS, Hon. Sec. 10, Whitcombe-st Aberdare. 1252 LLINELL Y "NATIONAL" I NEW YORK. YMae y Cwmni hwn yn cymeryd arnynt eu hunain y cyfrifoldeb o insurio pob un o'r llestri i'r swm o £ 100,009, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwvr am eu dyogelwch; ac y maent hefyd bob amser wedi mabwysiadu y llwybr deheuol er mwj-n osgoi y rhew a phen- oedd. YR AGERLONGAU MWYAF 0 Liverpool i New York bob dydd Mercher, a phob yn ail ddydd Gwener i Boston a New York. EGYPT.t. Mercher, Ion. 19 HLLVL1IA Mercher. Ion. 26 THE QUEEN Mercher, Chwef. 2 Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn ERIN MerchCr, Ion. 19 CANADA Mercher, Ion. 26 GREECE Mercher, Chwef. 2 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn yn dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eaug an- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol cyf- Uusderauy state-room. Patch yn cael yr un hawl yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw .£5. Return Tickets-24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, yn anghydmarol, ac y mae digonedd o ymborth fresh yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Cwmpeini; ac ni cheir cludiad rhatrach gydag unrhyw linell Gall ymfudwyr bookio drwodd i bob parth o Ganada a'r lalaethau Unedig am brisoedd isel. Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 23, ater-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDIUS, Co., Agents, 33, Grace- church-strt-. r. London. Neu at JOHN THOJ. \.S, 1, Prospect Place, George Town, Tredega GEORGE OWEN High-street, Rhymny; HENRY A.' LEWIS, Ne^own, Ebbw Vale; D. THOMAS Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REES' Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT. 4, Whitcombe-street, Aberdare. L,369 5a TNMAN ROYAL MAIL J- STEAMERS, LIVERPOOL to NEW YORK. Dvddiau Mawrth a Iau. SALOON, 12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage am bri: a S llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleus. Trosglydir Teithwyr y Steerage i Boston a Philadelphia heb dtil ychwanegoL Bookir teith- wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada am brisiau neillduoL Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gan WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, nea rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 UNITED STATES MAIL STEAMERS. 3SS§ijg3~ O Liverjxwl i ac o New York RHYBUDD.-Cymer Agerlongan ?/ Llinell hon y Lane Routes wrth fyned a dychwelyd, y rhai a gymeradwyir gan yr Is-gadben Maun/. Dydd Iau, Ion. 20 CELTIC Dydd Iau, Ion. 27 t^^T^-TIC Dydd Iau, Chwef. 3 BALTIC Dydd Iau, Chwef. 10 REPUBLIC Dydd Iau Chwef! 17 0 NEW YORK. Dydd Sadwrn, Ion. 8 ADRIATIC Dydd Sadwrn, Ion. 15 Gan alw 3m Queenstown, i dderbyn teithwyr, ar ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongan hyn gyneusderau neillduol i gaban-deii hwyr; y mae y saloon, state-room, ystafell smocio yn midsJdps. Y mae meddyg a goruchwylwyr ar bob llong. SALOON,—io gini a 18 gini. Return tickets am 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofvner a -p, T T ISMAV, IMRIE,&CO, East India-avenue, Iiondon, a 10, Water-street, Liverpool. L.369 AT YM^UDWYR- TO EMI G R ANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Steamers. NM. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenger Broker, 34, Union-street, Liverpool, Gor- wyliwr i'r Llinellau canlynol :-Inman Lae, CunardLine, Guion Line, Allan Line, NationjJ Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa- hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a", Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadaugofynol drwy anfon llythyr i'r I cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofal ) iddo y sylw manylaf. Cvnorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil Y mae genym dy private eang a chyfleus e cyfarfod ag angenrheidiau y fasnach. Cofier y Cyfeiriad,— s N. M. JONES (CYMBO GWYLLT), ■- 34, Union-street, Liverpool, i, D.S.—Gellir ymholi yn Aberdar a John James t Crown Hotel.