Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Guilelimus a'i Suddas-glychau…
Guilelimus a'i Suddas-glychau (Bubbles). Parhad o'r Ithifyn dhveddaf. Yn profi ein gosodiad yn mhellach mai Hu i Hes Barddas y Meini oedd Hes a Hesus y Lladinwyr, a Hies a Hiesous y Groegiaid, wrth yr. hwn deitl y dynodent weithiau eu Duw-ddyn Iachawdurol Bacchus, cawn fod Virgil, yn ei Georgicks, yn canu i'r duw Bacchus fel y canlyn:- llLight of the World, thou brightest orb on high, who leads the sliding year around the sky;" gwelwn yn ddigon eglur mai Hu, neu yr Haul ydoedd. Hefyd, ceir fod yr enw Hies yn cael.ei roddi ganddynt i'r duw Apollo, yr hwn dduw a ddy wedent ei ddyfod atynt oddi- wrth yr Hyperboreaid, lie yr oedd ganddo deml gylchog yn yr ynys dan gydser yr Arth; am yr hwn nid oes ddadl nad Hu neu yr Haul '\Vedi ei ddwyfoli oedd efe, oherwydd gelwid e* Phoebus, a Sol, gan y Rhufeiniaid. Ac yn mhellach, dywed yr Asiatic Research,es bod yr enw Bacchus arno yn darddedig o'r enw "haga-Iswara yn y Sanscrit ar y duw Yishnu vHu Eilir ein Barddas ni), am yr hwn dduw %wed Y sgrythyrau y Brahmiaid ei fod fyth yj1 ei ansawdd wreiddiol yn yr Ynys Wen.— iii., p. 552; a vol. xi., p. 92. Yn gadarnhad pellach eto mai Hu Iachaw- ■uUrol yrYnys Wen oedd Hiesous y Groeg- iaid (fel mai efe oedd Crishna India), yw, efe oedd yn cael ei ddeall yn gyntefig yr enw Hiesous yn y Testament Groeg ^efyd. Yn nodweddion Hu bob iod y gwisg- Hiesous y Testament Newydd. Fel yr ^edd Hu yn gymeriad deu-blyg fel ag oedd Hu'r Goieuni ac yn Hu yn Nglinawd, ac ^ycyfryw yn meddu dwy fam,, y Forwyn a Morgwen, felly cawn fod Hiesous neu ~aachus y Groegiaid, a'r un modd Hiesous y ^stionogaeth Iuddewig; un yn fam eu duw- °dne\iHu triphlyg y Goieuni— /f\ I-A-0 ^edi ei ddwyfoli, a'r Hall yn f am ei ddyndod. • i** yu unig enw Hu, sef Hiesous, roddwyd iachawdwr y Testament Newydd, ond enw ^atn yr Hu yn Ngnawd roddwyd i'w fam, <lydd genedigaeth yr Haul roddwyd yn genedigaeth iddo, a dydd yr Haul alwyd gan ei addolwyr. yn ddydd vj* iHai'glwydd Hiesous Christous, ac fel Hu y fiaen-gylchoedd rhoddwyd ef i drengu, ar y rawst, yn gorphwys yn ei arch ar ^dydd Sadwrn, ac i godi ar foreu y trydydd i gymeryd Uywodraeth nefoedd a daear, c 1 wisgo arno ei hun yr. Enw goruwch pob ^IttVss/jX It i Yn awr, wedi dangos ychydig fel hyn, o ■w^er mwy ellir ei ddangos, mai o'r Ynys i .en yr aeth y meddylddrychau am yr Hu ^"phlygj am ei ymgnawcloliad yn fab y For- ac am dano fel Iachawdwr y byd, fel J* Arweiniol, ac fel y deon mawr, rhoddydd ■y gwin, &c., a'r daen trwy yr holl v^ydd i'r JDwyrain—-i l^r Aipht? i ^Axaerijbaj^-JRereia, Chaldea, India, &c., a Yny yn mhell cyn pob hanesiaeth, ac. hefyd mai meddylddrychau berthynent yn i Farddas y Meini oeddent y meddyl- v^ychau uchod, inae yn saith gwaith r^y naturiol meddwl mai fel yr aeth enw Hu neu lies yn Hiesous gyda'r .^egiaid, yr enw Tydain yn Thoth Aiphtiaid, y Prif-fardd yn Mahabat syda'r Persiaid, a'r teitl Menw yr enw o'r un ac arwyddocad at yr Ariaid, a'r Brah- j ^dj'mai o'r un lie yn gyntefig aeth yr enw achawdwr ar Hu i fod yn Hoshea (nid Osia, J~ y S1lleba Guilelimus yr enw), ac yn Joshua, £ j^ysg yr Iuddewon, fel aeth ein enwau j^H^asol Morgwen yn Miriam; Ad-on yn j °nh a'r Enw Cyfrin I-A-0 ==/|\ i fod yn l^ganddynt. Ie, pan gyfaddefa hynaf- Brahmiaid India yn eu Hysgrythyrau ai 0'r Ynvs Wen y derbyniasant hwy, yn "K2jtefiS eu holl feddylddrychau crefyddol, a V i Vl yn oed ymgnawdoliaethau y duw (Persou cano1 y Trimurti), deg mewn dyfod atynt o'r un lie, mawr ^bycach yw, mai oddiyno hefyd, yn gyntefig, ■^eth y meddylddrych am Iachawdwr neu e.a> a Joshua, at yr Iuddewon, nac i'r dderbyn yr enw tUesousarno oddi- eu Hoshea hwvnt. "Ig Iosodd Guilelimus anwybodaeth ddy- M • ^vr^1 haeru mai o'r enw Osia (fel y cam e^e yr enw yn yr Hebraeg I y Groeg yr enw Hiesous; a phrofodd i 'ea». 110 ei hun na chafodd adnabyddiaetli [ A ^erioed o'r gyfrinddysg (mythology) y i Wha^u°gi i flUrfio barn gywir ar y fath ac nad oedd efe yn deall dim am y ^da th mawr oedd yn arwyddocad y %V emv hYn yn y Groeg a'r Hebraeg. 0(ld efe am fod eu seiniau yn debyg y a hyny mewn llwybr o geisio ategu v ^^ndrefn sigledig—anturio dywedyd mai l^°egiaid fuont yn benthyca oddiwrth yr fel cawn foci 7 Cristionogion yn fTwneyd; Na, ni ddirwynodd y Groeg- ^tthei^0e<^ yr enw Hies, neu Hiesous oddi- emv Hoshea, na Joshua chwaith, J i ^ydd mae yr enwau yn hollol wahanol yn I arwyddocad yn y ddwy iaith. Yr enw | Hes yn ei ffurf Roegaidd yw Hiesous, | enw Iachawdwr arno yn ei ffurf Hebre- t Hoshea, a'r enw Iachawdwr Iao=/|\ ^°shua. Pe buasai y Groegiaid yn -^°a yr enw Iachawdwr i'w roi ar eu X ^acG^usj ac Apollo, oddiwrth Hoshea Ve ewon> Sotera fuasai yr enw yn y ac nid Hiesous. MTVYR MOBGAKWG.. Tw barhau. .L ar
[No title]
j&lAcryii gyfiro yn y Vatican yn ddiweddar, -Pah gael math o fit, ond daeth gryn l We^ erbyn boreu dranoeth. v?e(^r y milwriad Roden yn bwriadu ymgeisydd Rhyddfrydig dros St6lce yri jrr etholiad nesaf.
:.-CADAIR SCIWEN. - '" I.
CADAIR SCIWEN. I. eARN ELIAN A'R CORN OLEW. MR. Got.,—Nid oes dim yn fwy o foddhad i ddyngarwr na gweled ei gyd-ddyn yndringo grisiau euraidd llwyddiant ac anrhydedd. Y mae eiddigedd yn greulon am sathru a mathru teilyngdod cynhenid, ac ymaflyd yn ei odreu i'w ddal yn ol y mae Wel, llawenydd mawr i mi ac oreill yn yr ardal hon oedd gvfteled Carn Elian yn dyfod o'r Olympia Eisteddiddol y Nadolig a choron llwyddiant ar ei "ben, ,te yn eistedd yn nghadair budduogoliaeth. Y mae y gwyr' frel o Gaerffili yn cydlawenhau yn yr or- uWchafiaeth. Bydd yn syn gan lawer ddeall fod tair awdl wedi eu danfon i'r Sciwen o'r plwyf hwn, a bod y tair yn glod i'w hawd- wyr, ac yn anrhydedd i blwyf, Eglwyselian. Daeth cyfaill heibio sydd yn fardd ieuanc a gobeithiol; ac yn ei hwyl, wele, mewn eiliad braidd, ddau englyn ar yr achlysur uchod Am gadair—wel, Cam LIlian-a drecha Drichant yn deg allan Cura'n awr y mawr a'r man Awenawg wyr eu hanian. Llenwir 'stafellau 'i anedd,-—yn ebrwydd, anrhydedd I'w blant cun a'i hun, er liedd, Cadairiau caed i orwedd. Eistedd gant yno'n wastad Yn hoen ter awen eu tad .—Cyfaill. Gwedi clywed y brawd hwn yn canu mor bert, methais a ffrwyno yr awen yn wir, ac aeth ar gyfeiliorn, a daeth yn ei hoi A'r englynion canlynol i mi, os gwelwch yn dda eu gosod i fewn yn y fan yma heb yn wybod i'r gwr parchus o'r Glyn:— Carn anwyl, mae corn hynod—yr awen Rywiog yn cydnabod Y cu fardd—yn ben cei fod Yn hybwyll dr'wy'th "Gydwybod. Rhedaist yn llawn anrhydedd—am y gamp, Dyma- geir yn- sylwedd,— Byw leda'n a^yr blodion hedd Yn goronog eu rhinwedd. I bedair cadair codwyd-Carn Elian,- _Coron olaf gipiwyd Ganddo; iddo rhoddwyd—yn y Sciwen, Yn.rhodau addien fe'i anrliydeddwyd. Hwre'n wir a geii'yna.wr-yna.cen Sy'n eeo drwy'n gorawr; I Carn mwy, clrwy y Corn Mawr, "Dalied ei lwydd hyd elawr." Hoewi boed grym ei awen,—a gwledda Mewn gloewddysg fo'i elf en Yn liyfach bvth, i'r Nef uwchben Eheded ar ddwyfol aden. CENYDm
AT "DARLLENWR."'
AT "DARLLENWR." MR. GoL. —Caniatewch i mi hysbysu Dar- llenwr ei fod wedi cyfeirio ei lith at beth nag sydd mewn bod. Nid oes yn awr, hyd y gwn i, yr un pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol yn bodoli yn Tonypandy. Gan fod "Dar- llenwr" mor hyddysg yn "rheolau y pwyll- gor," dylasai fod yn gwybod hyny. Digon gwir fod y personau hyny a gyfarfuasant yn ddiweddar i benderfynu pa beth i wneyd a'r aiian. yn honimai Ixwy yw y pwyUgor, ond y mae yn ddigonJiawcid profii r gwrthwyneb, ac nad oes gauddynt fwy o hawl i'r enw nag sydd gan "Darllenwr" ei hun. Y mae yn wir hefyd i'r personau hyny fethu cydweled, ond nid gwir i un o honynt aivyrymu, chwaethach ajnyg, rhanu yr elw rhyngddynt; na, er mai "ieuenctyd dibrofiad" oeddynt, nid ydynt cynddrwg ag y myn "Darllenwr" i'r byd gredu eu bod. Pan ddaeth tymor gweinidogaeth pwyllgor Eisteddfod Tony- pandy yn '74 i ben, fe neillduwyd pump o honynt hwy eu hunain i gymeryd mater y Public Hall i fyny, ac i weithredu yn ol y cynllun a farnont yn oreu, a'r arian i'w roddi yn yr ariandy, ac i fod at eu gwasanaeth. Y mae tri chynyg wedi eu gwneyd i gael Public Hall cyn yr un presenol, ac y mae y person- au rhag-ddywededig wedi bod a'r llaw flaenaf yn mhob un o honynt, ac y mae pedwar o'r pump ar y blaen gyda hwn eto. Pe buasai "Darllenwr" wedi dar lien mwy, buasai yn gwybod fod rhai heblaw y Llwynpiaid am. gael Public Hall hyd yn oed yn Llwynpia, a phe buasai wedi deall amcan gwreiddiol yr elw, buasai yn gweled yn uniongyrchol fod cwrs naturiol yr arian yn myned at y Public Hall, beth bynag fyddai enllib a chabledd y bodau dinod a honant mai hwy ydynt y pwyllgor, gan iddynt drosglwyddo yr hawl a fa ganddynt i ddwylaw pump o bersonau, pa rai sydd yn dal y transfer deed yn eu meddiant hyd yr awr hon.—Yr eiddoch, TWMI'R GOF.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD IFORAIDD…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD IFOR- AIDD TREHERBERT, DYDD GWYL DEWI, 1876. FONEDDIGION,-Dymunaf alw eich sylw at gystadleuaeth gorawl "Y Glowr" yn eich Eisteddfod ddyfodol. Yr ydych yn addaw Songs of Wales wedi ei rwymo yn hardd i bob arweihydd afiwyddianus ar y darn uchod, tra nad ydych yn addaw rhoddi unrhyw an- rheg bersonol i arweinydd y cor a ddichon fod yn fuddugol. Tybiaf fod hyn yn dipyn bach o amryfusedd yn nglyn a'ch cystadleu- aeth. Yr ydwyf yn dymuno galw eich sylw yn garedig at hyn, gan hyderu y byddwch mor hynaws a darparu rhyw anrheg hardd i arweinydd y cor a fydd yn fuddugol. Tybiaf y rhoddwch foddlonrwydd eyffredinol yn well felly.—Yr eiddoch yn garedig, ARWEINYDD GOBEITHIOL.
[No title]
THE HAIR.—For 40 years Mrs. S. A. ALLEN'S WORLD'S HATR RESTORER has received the com- mendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any modeaate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. It will positively- qenetp and restore. the original and natural colour of grey, white, and faded Hair.\ It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxuriant growth. Np other preparation can produce the samebenenciaJ result. Sold by all Chemists and Perfumers in lcjrge bottles, 6s. Dep6t, IXi & 1X6, Southampton Rpw, Loijdoi^
AMDDIFFYNIAD GLOWYR 0 BROAD,OAK,…
AMDDIFFYNIAD GLOWYR 0 BROAD- OAK, CASLWCHWR. Mr. GOL.,—Oddiwrth y penawcl fe welir ar unwaith fod cyhuddiadau wedi eu dwyn i'n herbyn fel corff o weithwyr, cyn fod angeu i ni geisio amddiffyn ein hunain ac er na wnaeth ein cyhuddwyr hyny trwy golofnau unrhyw newyddiadur, eto mae eu meddyliau wedi bod yn weithfa cynlluniau bradwrus, a'u geneuau wedi arllwys ffrwd o anwireddau ar gymeria.daueu brodyr yn y Broadoak. Am y rheswm hyny ydym yn deisyf am ychydig o'ch gofod i'r amddiffyniad hwn. Nid wyf yn ymgymeryd a'r gorcliwyl heb deimlo peth pryder, dherwydd dichon fod chwedleuon ein ymosodwyr wedi dylanwadu mor ddwfn ar ein brodyr cylchynol fel na fydd y llith hwn yn ddim amgen nag ysglyf- aeth fechan i borthi rhaib a gwanc eu dylan- wad, a thrwy hyny y bydd iddo brofi yn an- effeithiol i gyrhaedd yr amcan sydd mewn golwg. Ond o'r ochr arall, pe byddai iddo gyrhaedd yr amcan a'i brofi yn effeithiol, ni charwn er dim iddo effeithio yn mhellach nag y mae a fyno y gwirionedd ag ef. Carem ar, i'r darllenydd daflu o'r neilldu effeithiau rhagfarnllyd, a chyferbynu ein hamddiffyniad a gosodiadau ein cyhuddwyr, ac wedi hyny ffurfio barn gywir a gonest cydrhyngom. Credwyf, wedi casglu yr holl gyhuddiadau at eu gilydd fod eu swm yn gynwysedig yn y casgliadau canlynol :—Ein bod ni yn anffodd- Ion i'r gorucliwyliwr i gyflogi gwyr Sir Gaer ac fod yn rhaid i ni gael dewis ein goruch- wyliwr ein hunain, neu ynte, yn ol ein harfer (chwedl hwythau) ein bod, yn sefyll allan hyd nes ei gael. Mae fod syniad cyffelybag ydyw yr un cyntaf a nodasom yn cael ei goleddu yn sicr o fod yn arwydd o ryw ddiffyg yn eu cyneddfa,u synwyrol, neu ynte eu bod wedi eu llwgr- wobrwyo i'r perwyl hyny, a'u bod yn ei choleddu yn 'ffugiol am dymhor i'r dyben o fod yn gerbyd i ddynesu toriad gwawr at amcanion bradwrus un neu ragor o bersonau neillduol, a thrwy hyny Iwyddo.i gael gwrth- ddrychau eu ffyrnigrwydd yn ddestyn gor- foledd i'w calonau Pandemonaidd, Ond gadawn y syniad yn yr ystyr yna heb ei gyffwrdd yn mhellach, a sylwn- ar y difrod y mae, o bosibl, wedi ei wneyd, neu a ddichon ei wneyd ar gyfeillgarwch, brawdgarweh, a'r berthynas ag oedd yn' ffynu rhwng glowyr Caslwchwr, a'u brodyr yn Llwynhendy, Cwm- felin, a manau ereill. Mae syniad o'r natur yna yn gyfrwng mor elyniaethus i lwyddiant cymdeithas, gan fod ei duedd yn cloddio dan bob rhith o gyfeill- garwch, a'i gyfeiriad yn milwriomor ofnadwy yn erbyn ymddiriedaeth y naill blaid yn y llall, fel y dylid ei olrhrain hydy gwraidd, er cael y gwirionedd, cyIi rhoddi coel iddo. Pan fyddom yn ystyried y berthynas agos sydd yn bodoli rhwng glowyr Caslwchwr a Sir Gaer (yr wyf yn nodi Sir Gaer am mai yno y mae yr hadau gwenwynig wedi eu hau, a thrwy hyny a hwynt y mae a fyno fy llith yn fwyaf neillduol, er X dichon na fydd ein sylwadau 'yii llai pwysig i'n brodyr cylcliynal) yr ydym yn cael ein tueddu gredu fod y fath., syniad yn ymylu ar wallgofrwydd, am y rheswm fod henafgwyr y Broadoak wedi gweithio yn ystod boreu eu hoes yn Techpn, Caernarfon, &c., ac wedi derbyn oddiar law eu cydweithwyr yno bob caredigrwydd yn ,ystod yr amser hwnw, ac oherwydd hyny maent yn teimlo rhyw serch atylleytreul- iasani eu boreu-fywyd, ae ai tybed ein bod ni, eu plant, yn myned i dori y oysylltiad hwn, neu a oes rheswm eu bod hwy eu hun- ain yn amcanu gwneyd hyny ? Na, a phell yw y meddylddrych oddiwrth ein calonau. Ac yn annibynol ar y rhesymeg yna, ai tybed fod glowyr Casllwchwr mor fltol a thynu gwg eu brodyr, pan na wyddant na'r dydd na'r awr y bydd raid iddynt droi eu gwynebau i'w hardal mewn vmchwil am ervnaliaeth. Fel prawf eto o foddlonrwydd glowyr y Broadoak i gyflogi dyeithriaid, nid oes eisieu ond cyfeirio at y strike fawr ddiweddaf yn Aberdar a'r cylchoedd, pryd yr oedd y glowyr druain yn dylifo i lawr yma, ac y rhoddwyd y lofa yn rhydd iddynt, os llwyddent i gael gweithio yn un o dri. Fe wel y darllenydd eu bod wedi eu ta-nu yn hollol ar drugaredd y gweithwyr, pa rai a ymddygasant ynhynod o dostnriol, drwy foddloni gweithio bob yn dri yn mhob talcen, er nad oeddynt yn cael ond tair dram y dydd rhyngddynt. Felly fe, welir nad gwrthwynebiad i ddyeithriaid yw yr achos o'r cynhwrf presenol fel yr haera ein hymosodwyr yn anwireddus; ond am y credwn nad ydyw ond amcan llwynogaidd i gario allan ran o gynllun mabwysiedig gan y goruchwyl- iwr. Y ffaith fod ein hymddygiad yn cael ei gamesbonio a'n cymhellodd i wneyd yr am- ddiflyniad presenol. Er mwyn rhoddi prawf pellach o'n diniweidrwydd yn ngwyneb y cyhuddiad a ddygir yn ein herbyn, ceisiwn roddi darluniad o weithrediadau a bwriadau ein goruchwyliwr, gan ddymuno ar y darllen- ydd osod ei hunan yn ein lie. Daeth yma er ys yehydig,amser yn ol gyda'r unig amcan o symud brodorion Caslwchwr o'r BrOadoak, a chyflogi dyeithriaid yn ein lie. 'Cofiter, nid chwedl wedi ein cyrhaedd ar ffyn baglau ydyw hon, ond daeth o enau y goruchwyliwr ei hùri pan oedd cwmwl o dystion yn ei wrandaw. Gall y darllenydd ddychymygu ein teimla-dau wrth glywed yr uchod, yn enwedig yr hen bobl, pa rai sydd wedi ymsefyldu yn y lie, ac wedi meddwl treulio eu hoes yma. Terfynaf y rhan hon o'r pwiic yn awr, gan obeithio y bydd yr uchod yn fantais i'r darllenydd gael allan wir sefyllfa yr a-Ghos.—Yr eiddoch, J LLAVCHWRIANT. [Rhoddir y gweddill o'r llythyr uchod yri ein | nesaf.—GOL.] ■' 1
[No title]
Nos Wener diweddaf anerchwyd cyfarfod cyhoeddus lluosog iawn yn L'erpwl gan Mr. Plimsoll, A.S., ar arfesuriaeth orfodol liongau a.nnosbai'thedig. Qafwyd ganddo lawer o fariylion pwysig, ai amdditfynai ei hun yn ngwyneb ymosodiadau ei elynion.. ;i
"ODYDDIAETII MAESTEG."
"ODYDDIAETII MAESTEG." Mr. GOL.—Ymddangosodd llith yn eich rhifyn am lonawr y 14eg, dan y penawd uchod, gan un a gyfenwa ei hun "Cochfarf." Er mai ychydig sylwadau a ysgrifenodd, y mae'r ychydig hyny yn llawn o'r gwallau mwyaf gwrthun. Yn y lie cyntaf, dywed mai Pwyllgor Blynyddol y Dosbarth oedd yr hwn a gynelid yn y Gam Inn, Maesteg, pan, mewn gwirionedd, mai Pwyllgor Haner-blynyddol gynaliwyd yno; ond, y gwall mwyaf gwrthun ac annymunol y syrthiodd iddo oedd, nodi i'r diweddar frawd C. Anderson, o'r "Prosperity of Garth Lodge, esgeuluso talu ei dal misol, nes drwy hyny golli ei hawl i fudd y blwch. Ar y 14eg o Ragfyr, 1875, yr agorwyd y gyf- rinfa y perthynai. y brawd iddi, a bu farw ar y 3ydd o Ionawr, 1876; felly, gwelir nad oedd y brawd yn fis oed, fel Odydd, pan yr ymad- awodd a'r byd. Talodd y brawd ei gyfran- dal y noson cyn iddo farw, ac oherwydd ei ffyddlondeb, penderfynodd y gyfrinfa dalu i'w weddw drallodus y swm o 3p., ac hefyd i wneyd cais at y Dosbarth am gymhorth, yn yr hyn y buom yn lhvyddianus, ac y mae y Dosbarth yn benderfynol o wneyd i fyny y lOp. yn llawn i'w weddw. Cymered Coch- farf" ofal i gyhpeddi y gwirionedd, ac nid taflu ei synjiadau cyfeiliornus i bapyrau er chwyddo ei hun fel awdwr ar gyhoedd gwlad. Troedrhiwgarth. THOMAS.
EISTEDDFOD CWMGELLY.
EISTEDDFOD CWMGELLY. FONEDDIGION,—Gobeithio y caniatewch i mi ofod i wneyd un sylw p&rth i'r eisteddfod uchod. Yr ydym wedi derbyn amryw lythyr- au cyfrinachol yri cwyno am yr anhawsderau maent yn gael i ddyfod o hy4 i ddwy o'r can- euon sydd i'w cyfieithu i'r Saesoneg; i gyfar- fod ag anghenion y cyfryw, dodwn y ddwy gan yma CYMRAES YDYWH GGG (Grin' Glwysfryn). 1 Cymraes ydyw'r sicr i chwi, r Cymraeg o hyd mae'n ei ganu; Cymraeg oeddhi'n ganu ddeng mlynedd yn ol. A dyna mae'n ganu eleni; Hi ganai'r pryd hyny ar onen y llan, yn Yn jrmyl fy nghartref yn Nghymru, A dywedai'r hen bobl o amgyleh y fan Mae gloew Gymraeg oedd hi'n ganu. 2 Er hyny bu'n ciwydro trwy goedydd y byd, 0 gangen i gangen dan ganu; Cwcw" yw ei chanig o hyd ac o hyd, ■A gwyddoch—Cymraeg ydyw hyny; Eleni mi cwrddais hi'n mhell o fy ngwlad, Yn canu ei chaniad i Saeson; I Eleni mae 'chanig-'Does -,n dyn a vAd- Yn berffaith Gymreig ei hacemin.. 3 Ni welir:mo honi'n annghofio'r hen iaith, Nac ai-ti byth lediaith y Seisnig; Lie bynag yr elo—ffordd bynag ei tliaitb, Mae'n cadw'r hen iaith yn ei chanig; Cymraes ydyw'r gog yn sicr i chwi,1 Gymtkog o hyd mae'n ei grant* i, Cyniraeg oedd hi'n ganu ddeng mlynedd yn ol, A dyna mae'n ganu eleni. BYTHYNOD CYMRU (Gan Ieuan Gwynedd). 0 dlysion fythod Cymru! sy'n mygu yn y glyn, Ac ar y gwyrddion lethrau, a'u muriau olllyn wyn; Mae'r gwenyn wrth y talcen, neu gysgod clawdd yr ardd, A'r rhosyn coch a'r lili o'u deutu yno dardd. 0 dawelfythod Cymru! mor ddedwydd ydych chv. i, Er bod heb fawredc1 breiniol, riafC un daearol fri; 'O'ch mewn y triga'n wastad y cariad cu a'r liedd Nad ydynt yn berthynol i'r ymherodrol sedd. 0 hawddgar fythod Cymru! sy'n gwenu ger y nant, A'u gerddi'n llawn o flodau, a hwythau'n llawn o blant; • Mor glaer a'r dtf-r tryloyw.yw llygaid y rhai bach, A'u gruddiau fel y rhosyn, yn brydferth gochwyn iach. 0 ddystaw fythod Cymru! sy'n mhell o swn y dref, Ni flinir chwi gan derfysg nac un anfoesol lef; Ni thyr ar eich dysta-wrwydd ond chwarddiad lion y plant, A sibrwd dail y goedwig uwch murmur mwyn y nant. 0 Iwydion fythod Cymru! sy'n llechu is y Uwyn, Er bod heb furiau mynor, a'u to yn wellt neu frwyn, O'u mewn mae llawer angel yn. lioffi troi ei be*, 1 sylwi mewn gorfoledd ar etifeddion nen. 0 dirion fythod Cýmru! o'u mewn ar donad gwawl, Ac yn ycoed o'u hamgylch, y plethir odlau mawl; Y feinir gan yn gynar, a'r adar gyda hi, Eu diolch gerdd foreuol, am rad eu nefol RI. 0 anwyl fythod Cymru! ni fedd un wlad eu hail; Na lygrer eu haelwydydd, na sigler byth eu sail. Byth, byth, mor her a'r blodau, sy'n gwisgo swynol wen, Ar fryn a dol o'u deutu, bo bythod Cymru hen. S. REES, Y sgrifenydd. ..#<
Y BARDD FEIRNIAD T. E.
Y BARDD FEIRNIAD T. E. Well done, T. E., yr ydych wedi dyfod allan yn y diwedd fel cawr o resymwr, a phob brawddeg wedi ei gosod wrth ei gilydd fel nad oes modd ei chwalu, ei dadansoddi, na'i deall, ac wedi bod fel yna yn ceisio preswadio eich hun eich bod yn ysgrifenwr rhesymegol diail, yr wyf fel pe yn clywed yr oernad ofnadwy a dfjaeth o ch g6nau, sef scorf, campus T. E. Nid oeddwn yn meddwl mai chwareu yr oeddwn a chwi, ond dyna, nid oes dim a ddaw allan o'r cwd ond yr hyn a fydd ynddo Dywedais yn fy llith diweddaf nad oeddwn wedi dweyd mai fy mhenillion i Ioedd y goreu; ond a ddywedais nad fy rhai i oedd y goreu? Dywedais eich bod wedi hiarcio fy mhenillioii, yn nghyd ag ysgrifenu "jdim synwyr" ar ymyl y daalen, yr hyn oedd yn hollol groes i'ch beirniadaeth ar y GWLAD- GARWR, ac yn eich llythyr olaf yr ydych. chwithau yn cadarnhau. Pe buasai rhyw- beth arall a fuaswn am gael, diamheu y cawswn, ond gan fy mod wedi cael y cyfan & geisiais, cewch lonydd o hyn allan. LLWYD ARALL.
LLYTHYR O'R WLADFA.
LLYTHYR O'R WLADFA. MR. GOL.Gan fod llawer fel fy hunan. yn caru cael clywed rhywbeth o'r Wladfa, wele lythyr a dderbyniais oddiwrth fy mrawd- yn-nghyfraith (sef Hopkin Howells, gynt o Aberdar) yn hysbysu ychydig o'r hyn y mae ef wedi weled yno. Ystrad. JENKIN DAVIES. Trerowsy, Patagonia, Tacli. 24, 1875. Anwyl Berthynasau,—Dyma ni yn awr yn byw yn Patagonia, wedi cael ty a phob peth at eu gilydd yn lied dda, wedi bod ar ein taith am ddau fis. Yr ydym yn aros mewn ystordy wedi ei wneyd o goed, perthynol i Mr. Mathews, gynt o Llwydcoed, Aberdar. Derbyniasom yr hyn a ddanfonasoch ar ein. holau yn ddyogel, ac yn wir ddiolchgar i chwi am danynt. Mae Patagonia yn wlad ryfedd iawn, y mae yn syndodpafoddy mae yr anifeil- iaid yn byw yma, gan fod y tir mor sych a sandog! er hyny, y mae yr eidionau yn I edrych yn dda iawn; ond am y ceffylau, y maent yn rhyfedd o wael eu golwg! Mae yn rhaid i'r lloi gael sugno y gwartheg bob amser cyn y gellir cael dim llaeth oddiwrthynt; felly, y inae Ila-,ver o'r llaeth yn myned i'r rhai hyny cyn y cawn ni ddim ohono. Yr ydym wedi prynu dwy fuwch a lloi, a cheffyl. Mae y ceftyl yn ddefnyddiol iawn yn y gambo; y mae yn cael peth gwaith, ond nid ydym yn. dysgwyl y caiff lawer o lonydd, oherwydd nad ywyr afon wedi codi i ddyfrhau y tir gwenith. Dull y dyfrhau yw tori cwter o'r tir i'r afon. Mae yr afon yn uwch na'r tir; felly, mae y gwter yn ddofn with yr afon, ac yn rhedeg i'r dim allan i'r tir, yna mae y dwfr I11 gwasgaru ar hyd yr holl wastadedd ond os na ddaw Ilif i'r afon, ni ddaw dwfr i'r gwter; ond etor os na bydd llif yn yr afon, y mae yn bosibl ei chroni trwy osod gwrthglawdd ar ei thraws, a throi y dwfr i'r cwterau ond nid oes dim wedi cael ei wneyd eto, er ei fod yn eithaf tebyg y gwneir rhywbeth heb fod yn hir. Y mae yn rhy ddiweddar yn y flwyddyn hon i wneyd dim felly, ni bydd fawr llewyrch ar y Wladfa y tymhor hwn. Yr oedd poblog- aeth y Wladfa yn dri chant cyn i'r minteioedd hyn ddyfod yma, a'r rhai hyn eto tua'r un nifer: fellv. ni a fvddwn tua chwe chant diwedd y flwyddyn hon; ac y mae yn an- mhosibl iddi fod yn dda iawn, trwy fod y cynhauaf wedi methu i raddau helaeth. Y mae yr ymenyn yn costio i ni swllt a chwe cheiniog y pwys. Nid ydym wedi gweled ond-, y peth nesaf i ddim o gaws yn y wlad, ac nid oes ond ambell un yn treio ei wneyd y mae yn well ganddynt fyw ar ymenyu ac nid oes yma ddigon o ymenyn ychwaith yn bresenal, oherwydd fod cymaint o bobl wedi dyfod i'r wlad ar unwaith. Nid oes yma ddim cig ond pan fyddo rhywun yn lladd buwch, ac y mae hyny yn anaml iawn, gan fod pawb yn newid a'r Indiaid eidion am. geffyl pan gafYont gyfleusdra. Y mae yr hwyaid gwylltion, yr estrysod, a'r gwahanol greaduriaid yn myned yn anaml, oherwydd fod cymaint o saethu a erlyd arnynt; a thrwy hyny, yn myned yn brinach ac yn mhellach o'n cyrhaedd o ganlyniad, mae ein cig yn myned yn brinach. Nid oes yma ond ychydig o datws nid am ei fod yn anhawdd eu codi, ond oherwydd fod y tir mor sych. Byddai digon o waith i ddyn am'amser maith i gario dwfr i ardd fechan heb wneyd dim arall. Byddai pwmp wrth rod wynt; neu ryw self- actina arall. vn dda iawn mewn gardd mae un felly gan T. Davies, o Llwydcoed, yn gweithio yn awr. Yr ydym yn bwriadu codi ty ar lan mewn tref sydd yn cael ei sefydlu rhyw ugain milltir o'r fan hon. Nid ydym yn gwybod eto yn mha le y bydd ein ffarm mae yn ddigon tebyg y bydd yn uwch na hyny. Jenkin, byddwch cystal a myned i Bontypridd at yr ironmonger yn nghylch yr ogeel-ni ddaeth yr un oged, ond yr aradr yIj. unig. Yr oeddem wedi talu am oged ac aradr hefyd, mae yr aradr yn rhy drwm, am fod y ceffylau yn ysgafn ac yn wan, a'r tir yn galed yn y manau y mae galw am dani. Nid oes angen am aradr bob amser, ond y inae yn rhaid cael oged at bob math o dir. Fe all fod yma le da i deilwriaid, ond ni chant ddim arian am eu gwaith. Y tal fydd ceffyl, buwch, neu wenitn-—neu rywbeth a fyddo wrth law i'w spario. Os byddwch yn. dyfod allan, cofiwch mai te a llaeth, a bara ac ymenyn fydd eich bwyd; siwgr brown, chwe' cheiniog y pwys, ac ambell damaid o gig eidion'; ac ambell hwyad wyllt (os gell- wch ei dal), a hono ddim ond tamaid bach i un. Nid wyf wedi gweled ond ychydig bach o gig moch yn mbell i dy, ond nid 'oes dim ohono ar werth. Y mae yn y stores ddigon o pickle onions, jams, raisins, a carrots, &c.; ond y maent yn ddrud iawn-y rice yn bum' ceiniog y pwys, neu ddeuddeg swllt ar ugain. y fynog hyny yw, 225 pwys. Defnydd y tai yw llaid o lan yr afon, a hesg irion ar hyny; llaid ar hyny eilwaith, ac felly yn y blaen, nes byddo y wal yn ddigon uchel; ac yna, coed o lan yr afon, hesg ar hyny, a llaid ar y top: mae golwg fudr a gwael arno. Dull arall yw gwneyd bricks*, ond y top o'r un defnydd a'r cyntaf. Mae gwydr (glass) yn cael ei werthu yn y stores at ffenestri y tai. Maent yn dai da am lwch a chwain-y mae yn rhaid eu dyfrhau yn ami. Defnydd y tan- yw coed a drain, a phob peth y gallwn ddyfod. o hyd iddo; mae tail da, wedi sychu, yn. llosgi yn dda iawn. Ychydig o hanes y tai cyrddau a'r moddion crefyddol. Mae y capel yn mhell o ffordd oddiwrthym, a'r bobl yn. llesg yn y cyffredin. Ty cwrddrhyfedd iawn -yn,llawn Uwch fel y tai; yn fechan o ran maint, a digon i gyawys o ddeugain i haaaer