Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
beh lewis. 1
beh lewis. 1 SYLFAENEDIG AR FFEITJSAJJ. CAN TOM WEDROS EVANS, AWDWR "GOMER JONES." YN mlaen yr aethorc, a gwelwyd yn fuan fod tybiaeth Tom yn gywir. • "Ealo, hoys," ebai Walter, well done, yn wir; da genyf eich g.weled-da ofnadwy genyf eich gweled. Give me your hands; aut yr ydych ? iach, gobeithio. B'le mae'r diggings ? Myn'd yfory. Billy Davies yn joinio hefyd. Anderson's Creek cyn pen tri diwrcod: true to the inch." Da ofnadwy genyf dy glywed, Walter, yn siarad mor ogoneddus," ebai Tom ond tyr'd i mewn i'r tafarn bychan hwn i ni gael llyniaid o rywbeth i oeri ein cyrn siarad. Y mae angen rhywbeth arnaf; y mae hyn, Walter, yn true to the inch." I mewn yr awd i'r Ship Inn, gwesty bychan cyfleus, ac ni fuom yn hir cyn cael ein hunain yn agor drws y parlwr ar ein taith i'r lie hwnw. Yr oedd yno yr adeg hon ddau yn eistedd yn hamddenol, a phob un a'i wydryn ei flaen. Yn ddisymwth, clywem rywun yn gwaeddi, "Gibraltar anwyl, dyma Tom Jones a Ben Lewis Ar ol syllu (yr ydoedd erbyn hyn yn bur dywyll, ac Did oedd goleuni wedi ei gyneu yn yr ystafell eta) gwelsom, er ein dirfawr syndod, wyneb llydan a golygns ein heh gyfaill Wilcox. 1 11 HOll) do you do," ebai Tom yn ddon- iol; sut yr wyt yn teimlo. Wilcox anwyl ? Ond d'wed wrthyf ar fyr eiriau sut y llwyddaist i gael dy dabernacl pridd ar hen gyfandir mawr Australia." "Wel eisteddwch, gyfeillion," ebai 'Wilcox, rC ac yns gwnaf roddi ychydig o hanes i chwi. Yn awr dechreuaf gyda lanes y noson y darfu i chwi ymadael a'r Melodia Y Doson hono paii y daeth meistr yn ol yr oedd ef yn bur feddw ond ar ol lddo ddeall eich bod chwi eich dau wedi dianc, dywedodd wrthyf am fyned dranoeth gyda thoriad y dydd i roddi eich achos yn nwylaw bobbies Melbourne, a dywedodd wrthyf am ddyfod yn ol dranoeth gyda throad y post" (troad y tide wyf yn feddwl). Aethum inau i'r lan; ond yn lIe gwneyd fel y gorchymynodd, Gibraltar anwyl, 'e ffoais i'r lan. Yr oedd areithiau y noson cynt wedi effeithio ar fy 'menydd, a chan nad oedd yr un ddimeu o arian ar y cadben yn ddyledus i mi (yr oeddwn wedi en codi cyn cychwyn o Gaerdydd), 'e wel- ais na fyddwn ar fy ngholled pe byddai i mi eich canlyn chwi, a pheidio colli yr unig eiawns a gefais erioed i ddyfod yn wr bon- eddig. Ond a dweyd y gwir, logs bach, yr oeddwn wedi penderfynu dianc cyn cychwyn o Gaerdydd. Yr wyf wedi bod yn Blackwell's Creek-y lie gwaelaf y buais vnddo; ac yn awr wele fi yma wedi dychwelyd. Wel wirionedd i, Wilcox, y mae yn dda genyf dy glywed, ac 'e fydd i ni yn merry good fellows starto i'r diggings gyda'n gilydd" Ond," ebai Wilcox, esgusodwch fi, Elias," gan gyfeirio at y gwr ieuanc tal a eisteddai gyferbyn, yr wyf yn dymuno eich introducio bob un i Mr. John Elias." Yr oedd Elias yn nghyleb deg ar hugain oed, ac yr oedd yn hawdd dealt ei fod yn ddyn deallus; ond eto yr oedd yna ryw- beth yn nhroad ei lygad ac yn ei holl agwedd yn dangos cryn dipyn o hunanoldeb a balchder. „ Ar ol i'r seremoni o mtrodueio ddyfod i derfyniad, gofynodd Tom i Elias, « Ydych chwi, Mr. Elias, yn bwriadu aayned i'r diggings ?" ii Ydwyf siwr," ebai yntau yn ham- ddenol, "neu, o'r hyn lleiaf, dyna beth vyf yn fwriadu 'nawr." r Felly yn wir, 'e fydd i chwi ddyfod gyda ni ynte?" "Hwyrach y deuaf," oedd yr atebiad. Erbyn hyn yr oedd y ddiod yn dylito o'r leer pots i'r gyddfau ar ei ffordd i'r cc mewnol ddyn," chwedl Tom. Yma y buwyd am oriau yn baldorddi ac yfed nes i'r ddiod ddwyn oddiamgylch effeitbiau pur annymunol. Yr oedd y cwmpeini yn fuan yn haner meddw. ir oeddwn i yn eithriad i'r rheol hon, gan fod ifrwyth y brag yn un o'r pethau atgasaf genyf ar wyneb daear. Ni fu erioed genyf hoffder at unrhyw wlybwr o'r natur yma. • Pan yn nghanol y grechwen hon clywem rywun yn curo wrth y drws, ac yna gwaedd- odd Tom, Walk in." Agorwyd y drws, a gwelwyd yn fuan mai y bod urddasol, Billy Davies, ydoedd y mewyddian. « Wel, wel," ebai Tom, "Billy Davies, yc wir! Sut y mae Billy ? 'Bwyf fi yn yn dda iawn," ebai Billy. Ie We1, wel," ebai Wilcox, "creadur ihyfedd yw Billy; y mae yr un dillad am dano a phan y gwelais ef gyntaf erioed." Oes, a'r un trwyn ar ei wyneb hefyd," ebai Tom ond, Billy Davies, sit down." Eisteddodd Billy, ac yna cododd Elias ar ei draed ac agcrodd ei enau mewn mawr- jhydri," gan ddywodyd, 41 Wel, gyfeillion, y mae yn hyfrydweh genyf fod yn bresenol yn eich ewmni dyddan; ac yn awr, i gael-tee^lio yr amser yn ddifyr ac addysgiadol, yr wyfyn cynyg ein bod i gael ryw ymgom ddifyr cyn ym- adael. v Nid wyf yn hidio pa destyn- morwriaeth, athroniaeth, duwinyddiaeth, neu unrhyw aeth arall." y Boddlon," ebai Tom, ond pa destyn, Elias ? "W e1, gyfeillion, gadewch i ni gymeryd barddoniaeth yn destyn," ebai Elias. "Ydych chwi yn fardd Elias?" ebai Tom. "Cefais fy urddo," ebai'r gwr hwnw mewn atebiad, yn Eisteddfod Merthyr—- fy urddo yn ol braint a defod Ynys Bryd- ain." "Beth yw urddo yn ol braint a defaid ? gofynodd Tom." "Braint a defod," ebai Elias eilwaith gan wenu. "Eithaf right," ebai Wilcox, "yrwyf fi yn hoff o farddoniaeth—:hoff iawn o honi." Campus; first class plan" ebai Billy. "Wel, y mae barddoniaeth," ebai Elias, yn art uchel a dyrchafedig. Y mae yn effeithio. yn hyfryd ar daste dye—yn ei choethi a'i dwyn i weled prydferthwch natur, ac i fod yn fyw i holl deimladau y, galon ddynol." Ydyw> y mae barddoniaeth yn art ardderchog a dihafal," ebai Tom. 'E gyfansoddodd Deio'r Cobler gan neu farw- nad i gath oedd gan mam-gu, fel y darfu iddi wneyd i mi wylo'r dw'r yn hidl wrth ei darllen. Dyma y penill cyntaf:— Y gath y gath ath Ni fn erioedirlo'i ba.th; r Ow ditw afu farw, ''it' -r' 1 Mae hya yn biti garw 1 >i!; Och I Och Och Hi laddodd -hi o lygod, '• ,l;F; Ugeiniau o wningod, l,ul1^ Ond aeth o fyd y trailed—, Y gath rinweddol hynod • Och Och Och "Can ragoTpl," ebai Wilcox; "hynod o felus." • "Campus," ebai Billy; "first class, ly jingoP r oedd Billy yn dechreu myn'd' o dan ddylanwad Syr John. "'Does dim mwy o farddoniaeth yn hona nag sydd mewn coes caib," ebai Elias. Dim insults yma heno, ebai Tom;" y mae hona yn llawn o farddoniaeth, a pheid- iwch dangos eich hun, Elias, mor anllythr- enog. Y mae yn llawn o ideas. ■ ■« • u Most splendidP ebai Billy. Yn mlaen a chwi, Tom," ebai Wilcox. le, yn mlaen, Tom," meddwn inau. "Wel, boys bach," ebai Tom, "yn gy- maint a'ch bod mor hoff o farddoniaeth, 'e ddeuaf eto ag ychydig o'm gwaith fy hun ar y mesurau sound, neu y mesurau caeth, fel y mae rhai yn eu galw." Campus, Tom," meddai Billy. Wel i ddechreu, anwyl gynulleidfa," ebai Tom, "'e ddeuaf ag englyn i'r ( Compass,' ar yr hwn yr enillais yn Eis- teddfod Gadeiriol Nantyternis a dyma fe gwrandewch ac ystyriwch :— Y cwmpawd, pe bae'n cw'mpo,—-rw'i'n sicr Y buasai iddo syrthio; A'r mate, fel ci, &i ma's o'i go', Heb weled le i wylio." "Well done, Tom," meddai Wilcox, yn nghanol ystorm o gymeradwyaeth. "Wel, mhobol i," ebai Tom eilwaith, "gan eich bod hoff o farddoniaeth, 'e ddeuaf ag un englyn eto. I Ysgadenyn yw'r teistyn buddugol yn Llwyndafydd :— Pe cynyg gawn ar ginio—bwdin, Neu hwyaden wedi'i rhostio; Cawl lla'th,' neu gig llo, 'Scadenyn ddewiswn o getyn gyda thato." Ardderchog," ebai Billy, gan agor ei geg yn rhyfeddol; campus, Tom Jones." "Dyna'r englyn goreu," ebai Tom, gyfansoddais erioed, yw yr un i'r I Ys- gaden.' Rhaid dweyd fod hwnw yn dda, ac yn cynwys llawer o ideas gwreiddiol." Cyfrifal pawb oedd yno (oddigerth Elias) fod Tom yn fardd rhagorol. Yr oedd merch yr nops" yn gwneyd ei gwaith yn dda dros ben. "Y mae yn rhaid," ebai Elias, eich bod wedi colli eich synwyr pan y darfu i chwi gyfansoddi yr ysgarthion llenyddol yna." 'Nawr Elias," ebai Tom, "os dywed- wch hyna eto fe'ch tarawaf nes y byddwch fel pellen round mewn dro'r 'sgwar' (chwerthin mawr). Ar ol i ddystawrwydd gael ei adferu dy- wedodd Elias eilwaith, "Yr wyf yn sicr nad oeddych yn eich synwyr-yr oeddych wedi ei golli-wrth gyfansoddi y rhai yna "Wel, 'è gollais beth," ebai Tom, na fnoch chwi erioed yn ei feddianu, oa felly yr oeddwn; a peidiwch a'm hinsulto fel bardd o hyn allan." Peidiwch galw yr C englynion' yna yn farddoniaeth, ebai Elias; nid ydynt ond ernvyn sur Uipryneiddiwch, heb ddim athrylith o gwbl." "Nid ydych chwi yn deiall beth ydyw athrylith. Enwyn 8M yn wir, y delf enwyn sur wyt ti yn alw ar lefrith pur o gader buweh wen athrylith!" ,v th At ol i Tom ddweyd y sylwadau godidog \= yna, gwelodd Elias mai d^ethach fuasai iddo dejsd, a pheidio cellwair ag ef. II.Begian eich pardwn, Tom," ebai Elias, am yr insults." Granted, ebai Tom; "byddweh yn fachgen da o hyn allan." "'E ganafft gan," ebai Billy ac yn fuan canodd A life en the ocean wave" nes creu taranau o gymeradwyaeth. Wel, gyfeillion," ebai Tom, gadawn farddoniaeth o'r neilldu, a deuwn at bwnc y cloddfeydd." Yr wyf yn cynyg fod Tom i draddodi darlith or y testyn yna," ebai Elias. Wel, gyfeillion a mhobol i," ebai Tom, 'e fydd i ni fyned i'r diggings bob copa walltog. Gwnawn ei cherdded bob cam; ond beth wnawn i Billy. Nis gall ef ein canlyn, o h«irwydd bydd yn ormod o waith iddo gario ei ddillad a'i drwyn am ddegau o fiUdiroedd, felly rhaid iddo gael benthyg anifail. 'E fyddwn yn gwmni llawen, ac yna 'e weithiwn. gyda'n gilydd, os ydych yn foddlawn, a byddwn yn fuan, yn fonedd- igion. Wel, anwyl gynulleidfa, y mae genym enghreifttiau o ddynion o sir Benfro a ddaeth yn feddianol ar ddigom o aur. Yr oedd yna hen ws yn byw yn ymyl fy nghartref i a choes bren ganddo, a thrwyn gymaint a thrwyn Billy-—offeryn anadlu rhagorol—tetyg i gorn unicorn o ran size; yr ydoedd yn gorfod cael powdwr cyn ei cl^wythu (chwerthin anferthol); ond gyfeillion, i foa yn addysgiadol and keep to the poÙw," e aeth i Australia, bu yn y ■diggings flwyddyn, a daeth yn ol yn wr boneddig; y mae hyn yn true to the inch! Felly, gyfeillion, os llwyddodd dyn gyda choes bren i gasglu arian i'r fath raddau, pa faint mwy y "ni," y rhai a gynysg- aeddwyd ae a fendithiwyd a choesau natur- iol. Ac er i Ben Lewis a minau gyfarfod â, thywydd garw (gadewch i mi siarad am danom ni ein daii yn awr), garw iawn, yn Australia cyn hyn—mor arw yn wir fel yr wyf yn siwr pe buasai ein rhieni yn gwybod am eu- plant iln gofidiau, 'yr wyf yn siwr, meddaf eto, y byddai iddynt wylo costrel- aid o ddyfroedd Marah. Byddai i'r hybarch gath sydd genym yn sir Benfro hefyd golli dw'r, a byddai i hen "Boxer" Dolwen blwmpo ami i ddeigryn, pe yn gwybod am helynt ei ben gyfaill Ben. Ond pan y byddaf fi yn myned gartref i sir Benfro, 'e fydd hen wraig fy mam yn methu fy adna- bod, ae yn gwneyd y courtesies rhyfeddaf welodd dyn erioed; bydd yr hen gath yn chwyrnu, a hen wr fy nhad heb yr un het am ei ben am ddiwrnod cyfan (nes y bydd yn berygl iddo gael anwyd) gan fel y bydd yn ei chwyfio yn yr entryrch wrth fowio i'w fab dihafal (uchel gymeradwyaeth)! "Un doniol ofnadwy ydyw Tom," ebai Wilcox. "Pa bryd y daethoch mor ddon- iol, fachgen ? Wel, yr adeg y bum yn y Briton' yn fate ddiweddaf," ebai Tom. Ydoedd hi yn llong fawr ? n ebai Billy, gan wenu, ac arwyddion amlwg ei fod yn myn'd yn rhyfedd o dan effeithiau Sir John. "Llong ydoedd y 'Briton, ebai Tom, "yn cario cockles o Asia Leiaf i Brydain! Yr oedd yn llong fawr iawn; gwelais hi unwaith a'i stern yn Enlli, a'i bow yn Psgubo defaid ar fane Penlan, Aberayron! Yr oeddym yn cymeryd plant rhwng 12eg a 15eg oed yn brentistiaid iddi, ac yna yn eu hanfon i "ben y mast;" yr oeddynt yn d'od i lawr i'r deck yn HEN bobl, a'u gwallt wedi gwynu!" "Dyna fast llong fawr!" ebai Billy mewn syndod. Hynod," ebai Tom. Un noson aeth y mast yn sound yn y lleuad Syndod ebai Billy. # Syndod ofnadwy!" ebai Walter yn ddifrifol. « Yr oedd dyn y lleuad yn cysgu ar yr adeg," ebai Tom, "acferoddodd ysgrech, a derbyniodd y fath niweidiau fel y rhed- odd llawer o'i waed. Dyna yr adeg yr aethum i mor ddoniol." "Druan a dyn y lleuad," ebai Wicox yn sobr. Ie, druan ag ef," ebai Tom, "trueni ei niweidio; cefnder i mam-gu ydyw." Wel, wel, y mae hyn yn ormod o gelwydd," ebai Elias. Gwir," ebai Tom, bob gair." Yr ydwyf fi yn coelio Tom," ebai Wilcox yn ddifrifol. Yr oedd y ddiod wedi gwneyd ei gwaith arno yntau, gan ddior- seddu ei reswm i raddau helaeth. Yr oedd yn sior o fod yn tramwyo i wledydd pell iawn," ebai Billy, gan edrych yn ddoeth. Ydoedd," ebai Tom, "buom unwaith mor bell fel y bu raid i mi roddi fy Haw yn erbyn "pared y byd", cyn ei chael oddi- yno!" Pan yn nghanol y baldordd hwn, clywem waedd 0" Fire, fire, fire
[No title]
Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defny-ddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un tprawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneyd na Starches ereill, ond pan y deuir dros yr anhawtdtra. dywedir fel GolcWraiff y Frenhines, mM y Starch goreu a ddefnyddiwyd erioed ydyw. L92
IHstefldfod y Wern, ,t'Ystaljrfera,…
IHstefldfod y Wern, t' Ystaljrfera, Dydgb Calan, ;^76. BEIBNIA.DA.ETB! Y C yFANSODDlADA-TJ, GAN D. BUALLT .TOlfES. Traethawd" Y buddioldeb o gael Darllenfa Gyhoeddus a Llyfrfa yn YstalyfeiaP Derhyniwyd pedwar-6 draethodau, sef eiddo Carwr Diwylliant,. Gwyddon, Plato, a Meurig. Carwr Diwylliant.—Traethawd gwallus, eyffredin, ac anmherffaith. Gwyddon.—Llawer o frawddegau na ddal- iant eu gwyntyllu, ac o syniadau na ddaliant dremiad rhesymeg a chwaeth dda. Y mae yma ormod ar wybodaeth yn gyffredinol, a rhy fach ar y Buddioldeb o gael Llyfrfa i Ystalyfera." Meurig.-Nid yw y traethawd hwn yn gwbl ddiwall, ond y mae yn cynwys Uawer o sylwadau pur synwyrol, ac wedi ei ysgrif- enu gydag eglurder. Plato.- Cyfansoddiad da. Y mae hwn yn helaethach ha'r rhai blaenorol, ac yn traethu yn dra phwrpasol ar y pwnc; ac yn tra rhagori yn. ygystadleuaeth o ran syniadau a "throad allan." Caffed Plato y wobr, Triugain llinell ar Athrylith. Daeth i law r eiddo Anacreon, Shakes- peare, a Dr. Talmage. Anacreon.-Rhai Ilinellau pur dda, rhai ereill yn cynwys syniadau ,pur gymysglyd. Nid yw Anacreon yn cadw yn fanwl a phriod'ol at y testyn bob amser. Cymerer y llinelláu, canlynolyn enghraiffto hyny:— Hydrydwch hon yw meithrin moes carengar, A,chynal lieddwcli rhwng tylwytha.u'r ddaear, A'u dwyn i werthfawrogi y Daionus Oddiwrth y Drwg," See. Pe dywedasid, '4 DyUdswydd non," &c., ni fuasai lie i feio ond gwyddys nad yw athrylith bob amser, ysywaeth, yn ym- hyfrydu yn y rhinweddau uehod. Shakespeare.-Pe buasai triugain llinell yr ymgeisydd yma yBf: fwy gwastad a choeth drwyddynt, baasai yn bur anhawdd eu curo; ond fel yr ydynt, nis gellir on.d eu cyfrif yn ail oreu. Nid yw y btawddeg- au a italeiddir genym yn y Ilinellau can- lynol yn dda:— Athrylith welir fyth mewn amryw ffyrdd Yn ddiamheuol ddangos pa beth yw Nid mewn un oes, nac unrhyw oes na gwlad, Y dengys hi ei hun, nac mewn un llioyth, Nac iaith, na gradd," <fcc. Y mae yn Iled debyg y golygid i'r uchod. amlygu syniadau hollol y gwrthwyneb i'r hyn a wneir ganddynt. <" Dr. Talmage. — Ni chymerwyd gofal digonol i ysgrifenu y llinellau hyn yn gywir a choeth drwyddynt;, ond rhaid dweyd fod yma lawer o gyffyrddiadau nodedig o wreiddiol a thlws, megys y Ilinellau canlynol Y rhywbeth hwnw, trwy y Haw neu'r cfn, Wna ysbrydoli'r ddelw neu y llun, Sy'n taflu bydoedd o feddyliau byw Yn newydd 'madael fel o wyddfod Duw. # # Sy'n peri cynhwrf, sy'n ergydio. bywyd Trwy galon fawr dynoliaeth y cyfanfyd, Yn oesi mewn effeithiau yn dragwyddol," &c. Y mae Dr. Talmage yn tra theilyngu y wobr. j. Chive' Phenill i Darren WyddonP Tri chyfansoddiad dderbyniwyd, sef eiddo Erasmus, Bachgen deunaw oed, a Yeric ieuano. m Bachgen deunaw oed.—Talcen slipaidd i'r pen. Yeric ieuanc.—Diamcan annghyffredin eto. Y mae gan y ddau gyfaill yma lawer i'w ddysgu eto cyn y geljid eu cyfrif yn feirdcl. Erasmus.—Llinellau da iawn-y goreu o ddigon. Hir a thoddaid i'r "Pridd." Daeth i law eiddo Abarim, Petty, Llwch y llawr, a Garddwr. Garddwr. Amryw wallau mewn cy- ngha,nedd a geiriau ae nid rhyw lawer o feddwl sydd yma hefyd. Abarim.-Toddaid pur ddiwall, gydag un eithriad ond nid oes dim neillduol yn y meddyliau. Petty.-Penill gweddbl; end nid yw yn ddiwall. Rhai llinellau pur dda. Llwch y llawr -Toddaid wyth llinell, yr hyn sydd ganiataol mewn un penill. Y mae yn bur gywir a phriodol; yn oreu yn y gystadleuaeth, ac yr deilwng o'r wobr. Rhagfyr 3lain, 1875.
Y gwrthryfel yn Nhwrci.
Y gwrthryfel yn Nhwrci. Haneston a dderbyniwyd o ffynonellau Sclavonaidd a'n hysbysant fod ymladd wedi cymeryd lie ar y 25ain o'r mis diweddaf ger Dtuzi, rhwng by'ddin p 3,500 o amddi- ffa Trebinje, y rhai a ymosodasant ar fyddin o'r gwrthryfelwyr yn rMfo 3,000. Wedi ymladd byr, gadawyd eu safieoedd gan y gwrthryfelwyr, a gosodasant Doboviole, ger Trebinje, ar dan. Cyrhaeddodd yr arwein- ydd gwrthryfielgar, Socich, gyda mil o wyr, v ac, ataljodd ddychweliad.,y fyddin Dyrcaidd i Trebinje, gan ei gorfodi i syrthio yn ol i Drina. Anesmwyth iawn ydyw amgylch- iadau yn para o hyd, ac nid oes dim ar- wyddion ar kyn > biyd. y rboddk terfyn buan ar y gwrthryfel.
Rhagolygon ,y Flwyddyn 1876.-'
Rhagolygon ,y Flwyddyn 1876. Ni fyddai ond gwaith ofer i ni gynyg prophwydo, canys ni feiddiwn honi perth- ynas na chyfathrach a'r gweledyddion gynt; y rhai a fedrent trwy ddrychau ysbrydoliaeth, dremio yn mlaen i'r dyfodot pell. Ond yr ydym yn honi ein hawl a'n xhyddid i ddweyd gair bach am y flwyddyn. hon heb ofni na cherydd na chyngor. Yn gyntaf oil, y mae y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un o'r rhai mwyaf anffodus yn Uechres y blwyddau. Bu y strike fawr ant bum' mis, yn nghyd a'r marweidd-dra mewn masnach am y misoedd olynol yn foddion i beri i'r flwyddyn 1875 fod ya. un o'r rhai anffodusaf yn hanes y byd. Yr ydym wedi bod yn siarad yn ddiweddar a rhai bechgyn galluog a phofiadol mewn masnach, a'u tystiolaeth hwy ydyw, eiL bod yn credu fod adgyfodiad i fod y flwyddyn hon yn nghylchoedd masnachol f deyrnas. Mae yr haiarn-jweithiau wedi myned yn isel iawn, ond mae arwyddion myned yn isel iawn, ond mae arwyddion o'r Cyfandir ac o'r America fod rhyw raid I o gyffroad yn y fasnach hono. Bydd yn. dda genym ddeall fod y Cyrary yn gwneyd defnydd o'u hamser a'u harian yn y flwyddyn ganlynol yn y fath fod ag a fydd yn adlewyrchu clod ac anrhydedd iddynt. Disgwyliwn lawer iawn o fanylion yn y flwyddyn ddytodol. Yr ydym yd go- beithio cael gair trwy ryw gyfrwng neu gilydd oddiwrth Cadben Nares a'i lu dewrfrydig, y rhai ydynt wedi myned i fyny tua'r North Pole, i chwilio am y North West Passage. Pan 'yn eistedd i lawr y nos i fwynhau mygyn cyn myned i orphwys, nis gallwn lai na medliwl am Cadben Nares'a'i gwmni; ac yr ydym yn gobeithio o galon y deuant yn ol wedi darganfod y North Pole. Gyda llaw, goddefer i ni draethu yr hyn a glywsoot am y North Pole gyda ein hen gyfaill y Parch. K. Thomas (Ap Yychan), Bala. Dywedai ef nas gallai dyn wneyd dimul1 math o fachinery o un pwys heb fod yno friction yn cymeryd lie; ond am ein DuW ni y mae efe yn peri i'r ddaear chwyrnellu yn ei chylchdroadau dyddiol a blynyddol heb un perygl i'r North Pole fyned ar dan. Yr ydym yn gobeithio y daw Cadben [Nares yn ol o ororau y Gogledd gyda- | thoraeth ardderchog o wybodaeth ddaear- yddol. Gyda golwg ar ragolygon y flwyddyn' hon mewn ystyr wleidyddol, y mae yn j debyg fod yn rhaid i'r Toriaid gael bod mewn swyddi eleni eto. Y- mae eu tenantiaeth hwy yn hwy y tro hwn naq arferol. Pan aeth Disraeli i swydd fel Prifweinidog gyntaf, rhyw ddeng mis a fO efe, ond ymddengya ei fod yn berderfynol o fod wrth y llyw y fro. hwn am gryO dymhor. Y mae y bai am hyn yn gorwedd yn hollol ar y Rhyddfrydwyr. Pe byddai Gladstone yn gall yn ei genedlaeth, efe fyddai y prifweinidog hyd y dydd heddyW- Ond efe a ddarfu yn ddirmygus ddiystyr^ yr Annghydfurfwyr, a hwythau a'i gadavr- sant out in'the cold. Yr ydym yn gobeithio yr esgyr 1 flwyddyn hon ar diwygiadau enfawr mevro masnach a gwleidyddiaeth o bob gradd 9. dosbarth, ac y byddwn cyn diwedd yr h& £ mor llonwedd a meillion mwynion Mai.
Tywysog Oymru yn India.
Tywysog Oymru yn India. Yr oeddid yn meddwl y buasai ymwelia^ Tywyaog Oymru, ac etifed coi-on PrydaiDr a gwlad fawr boblog-baganaidd India y& cynyrchu dylanwad iachusol ar y miliynfl^ sydd yno yn gorwedd yn mro a chysgo^ angeu. Brenin dyfodol gwlad Gristionogol Prydain Fawr yn myned i India! Wel; disgwyliad naturiol pawb oedd y buasai ei hynawsedd a'i larieiddiwch Cristionogol yø rhoddi siampl werthfawr i'r tywysogio11 brodorol sydd yno; ond beth ydynt j ffeithiau ? Dim ond hyn-fod y Tywysog. yn uno yn mhob rhialtweh gyda y penaetb' iaid brodorol; allan gyda'r dawns-ferche* yn sylwi ar y rhai hvny yn cyflawni ell triciau bryd arall yn yfed champagne dO dr wynau y delwau; dro arall a alliin gyda* brodorion i bicellu moch gwylltion mevvo gair, y mae yn uno yn mhob arddangoslØ a rhwysg brodorol. Dyna esiampl enwoqr onide, i lwythau melynddu India! Gellit gofyn fel y gofynwyd rywbryd o'r blaeJ), I ba beth y bu y golled hon ?" Ie, i beth y gwariwyd y miloedd i gario y TV wysog hwD. i India, i ddangos nid faint0 barch, ond faint o anmharch sydd ganddo 1 Gristionogaeth? Y mae Scotland a Lloef yn cynhyrfu wrth feddwl am y peth, 801 mae rhai gwyr enwog yn siarad eu meddy iau yn dra difloosgni. Pa dir fydd gan J cenadwr Cristionogol i sefyli arno mwyac.^ wrth geisio dangos golud efengyl i'r iynau yn India ? Byddant yn cyfeirio, nid heb achos, gyda dirmyg dyiadwy a ymweliad Tywysog Cymru, ac yn d^5. hyny yn mlaen fel rheswm cadarn dfo wrthod yr efengyl. — I
Y TEITL 0 REVEREND.
Y TEITL 0 REVEREND. Penderfynwyd 3m y Privy Council, dain, yr wythnoa ddiweddaf, y gall vJXtv-J weinidog ddefnyddio y teitl uchod. J