Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Nodiadau Cyffredinol.
Nodiadau Cyffredinol. Dynodir y ganrif bresenol fel cyfnod ar- Ibenig yn nadblygiad celfyddyd, yn mha un y gwneir y darganfyddiadau mwyaf pwysig. Peirianwaith a diwygia-dau celfyddydol wedi emll safle artenig; y pellebr, y rheilffyrdd, a morwriaeth, i gyd yn cymeryd eu dyddiad o fewn cof miloedd ag sydd yn fyw heddyw. Anturiaeth fawreddog camlas y Suez yn profi .nad oes dim yn anmhosibl i'w gyflawni gan beirianwyr y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Tyllwyd y Mont Cenis yn llwydrtianus, a thebyg ydyw y gwneir yr un peth a Mont St. Gothard, yn ol y rhagolygon presenol; mae y gwaith yn myned yn mlaen yn llwydd- ianus. Nodir all^n orchwyl newydd arall, sef gwneyd tramwyfa danforawl o dan y cyfyngfor Prydeinig, er gwneyd y cysylltiad yn agosach rhwng Lloegr a Ffrainc. Byddai tramwyfa o'r fath yn gafFaeliad mawr i deith- wyr, a gallant drwyddo osgoi clefyd y mor, heblaw gwneyd cyfleusderau masnachol rhwng I- y ddwy wlad yn fwy hwylus a clymunoi. Dyna ddau bwynt neillduol, a'r pwnc nesaf ydyw, a ellir gwneyd i'r anturiaeth dalu drwy gael y derbyniadau i gyfateb y treuliau. Pe gellid llwyddo i wneyd amcan-gyfrif o'r arian a dderbynid oddiwrth gludiad teithwyr a nwyddau, fe fyddai yn hawdd wedi hyny weled a fyddai y derbyniadau yn ateb y treul- iau. Yr amcan-gyfrif o'r draul ydyw deg miliwn ar ugain, ond ni wyddis a fydd hyny yn' cymeryd i mewn bob treuliau o gadw pob peth mewn trefn i weithio. Oes y gystadl- euaeth ydyw yr oes bresenol, ac yn ol pob tebyg yn awr, y bydd i'r sawl a fydd byw i weled terfyniad y ganrif, y bydd eto lawer o bethau rhyfedd wedi cael eu cyflawni. Gall y codir gwrthwynebiad i'r cynllun, rhag dygwydd i annghydfod dori allan rhwng y wlad hon a galluoedd y Cyfandir, ae y byddai y llwybr tanforawl yn niweidiol i Brydain o dan y cyfryw amgylchiadau. Pan mae gwell- I:ly iantau o'r fath yn cymeryd lie, nid oes ond gobeithio fod dyddiau rliyfel wedi eu rhifo yn y gorphenol, ac na chlywir mwyach wer- yriad y march nwyfus a tharandrwst y mag- I A nelau ar faesydd y gael. Cylymwyd y Werydd a'r Tawelfor gan ddolen gydiol o reilffyrdd dros gyfandir hir- faith o dair mil o filldiroedd, a dysgwylir y gwneir anturiaethau pellach fiewn ymchwil- iadau dros ororau eangfawr Arizona a chym- ydogaethau ereill yn ac o amgylch glanau y Tawelfor. Y darganfyddiadau dyddiol a wneir gan deithwyr anturiaethus i ganolbarth Affrica, gyda'r hynt i for y tJogledd, a ddug i ni newyddion dyddorol fod y ddaear wedi ei gwneyd er mwyn y dyn, yn un banlawr cyfoethog, fel y byddo yn gysurus a dedwydd tra yn trigfanu yn mhlith bodau isloerawl. Coleddir gobeithion cryfion yn yr Amerig am agoriad buan i aur dyrau y Bryniau Duon, yn mha le yn ol tystiolaeth teithwyr, y mae mwy o aur yn gorwedd yno nag a welwyd erioed yn Awstralia a Chaliffornia. Dadl fawr y dyddiau presenol ydyw, pa un gwell gweithio ar gyflog wrth y dydd neu ynte trwy gytundeb penodol, sef cael pris yn ol mesur neu bwysau y gwaith a gyflawnir. Myn rhai ddadleu nad yw gweithio ar gytun- deb yn rheol deg a chyfiawn rhwng dyn a dyn, am y byddai y drefn hono yn niweidiol i'r cyffredinolion. Arall a fyn ddadleu fod gweithio ar gytundeb yn onest a chyfiawn, am fod y dull hwnw yn dangos rhagoriaeth y naill weithiwr ar y llall, ac na ddylai y dyn annghelfydd dderbyn yr un gyflog a'r celfydd- ydwr medrus a chyfarwydd. Pan fyddo dyn wedi treulio dyddiau a blynyddoedd i ddysgu celfyddyd, a thrwy ddyfalbarhad chwilio allan y dirgelion a berthyn i'r. cyfryw gelfyddyd, nid cynawn gosod y difater a'r annghyfar- wydd ar yr un tir ac i dderbyn yr un faint o gyflog; os gwneir hyny, nid yw bod yn weith- iwr cywrain yn un fantais o gwbl. Mae y dyn diwyd a gonest yn fwy o werth i gym- deithas na'r musgrell a'r diymgais, am nad yw yr olaf yn teimlo y- clyddordeb a ddylai yn y byd yn gymdeithasol a masnachol. Os rhaid i'r mortis, fel y gwr annghelfydd a diwerth, fod yn ddarostyngedig i'r un rheol- au, mwy na thebyg ydyw yr a pob peth yn fasnachol i ddirywiad buan, am fod y cyfryw reol yn annghyfiawn a niweidiol. Y safon decaf ydyw talu pob dyn ol ei deilyngdod, ac wrth fesuriad y gwaith a gyflawna wrth reol cyfiawndev. Mae masnach forawl Prydain yn dyoddef yn erwin oherwydd diffyg dynion da yn gwybod y-gelfyddyd o forio, a phan gyflogir pob math fel morwyr cyfarwydd, wedimyned allan o'r porthladd mae y gwaith yn disgyn ar y cyfarwydd; o ganlyniad, nid teg i'r gwr nad all rhedeg i fyny i'r hwylbren i drefnu .a gosocl yr hwyliau i dderbyn yr un gyflog a'r sawl fyddo yn alluog i wneyd. Daw yr un egwyddor i bwyso yn mhob cysylltiad .wy mewn celfyddyd a gwaith. Mae yr egwyddor o osod pawb yn gydradd yn annghyfiawn a chythreulig, ac nid yw y sawl a gefnogant y cyfryw reolau ac egwyddorion yn ddim am- gen na dynion am ddifetha masnach y wlad, a dinystrio cysuron cymdeithas y cyfryw ag sydd yn alluog i wneyd diwrnod teg o waith am gyflog teilwng fel ad-daliad. Dylai y pwnc hwn gael ei drin yn helaeth er mwyn y werin, yn gymaint a bod dwy ochr i'r ddalen yn y mater hwn fel pob mater-' ion ereill. Carwn weled rhywun cyfarwydd yn ymaflyd yn y pwnc, a benclithio y darllen- wyr Cymreig ag ychydig lythyrau arno, rhag i neb gael ei gamarwain mewn adeg pan mae cymaint o gyffro yn y wlad a dadleu rhwng dynion a'u gilydd ar bwnc cyfalaf a llafur. A gaf fi ofyn i'r Cadlywydd barddol o'r Glyn am roddi i ni erthygl ar y pwnc yn y GWLADGARWR.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.
LLANDDOWROR, SIR GAERFYRDDIN.
LLANDDOWROR, SIR GAERFYRDDIN. CYFARFOD LLENYDDOL.—Nos Iau, yr 20fed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie uchod. Cymerwyd y gadair gan Mr, Jones, ysgolfeistr y Board School, ac ar ol cael araeth fer ganddo, awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod yn y drefn ganlynol:—Canodd y cor f' DaHwch afael" yn bur swynol. Adroddwyd amryw ddarnau buddiol gan y plant, a chanasant amryw donau. Hefyd, cawsom y fraint o glywed prif gerddor y gymydogaeth, sef Mr. Rowlands, Bancyfelin, yn canu, a chanodd Y Pagan" yn bur swynol; hefyd, Siered- wch yn blaen," yn nghyd ag amryw ereill, nes tynu dagrau o lygaid y gynulleidfa. Yn ystod y cyfarfod, cafwyd areithiau gan y Parch. Abel Thomas (M.O.), a Mr. D. Davies, Bwlchnewydd. Terfynwyd y cyfarfod trwy roddi diolchgarwch i'r cadeirydd. Hefyd, ni ni a ddymunem gyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i Mr. a Mrs. D. Evans, Trecoed, am eu haelfrydedd yn rhodd te i'r holl YsgQl Sabothdl yn rhad, a the da gawsom hefyd. Nid dyma y tro cyntaf iddynt wneuthur yr un peth. Hir oes iddynt fwynhau eu bywyd, a thaled yr Arglwydd iddynt.-J. L. T.
DERI.
DERI. Y mae hen bwll y Deri fel pe bai rhyw aflwydd yn ngtyn ag ef er pan y mae y cwm- .peini presenol wedi ei brynu. Nid oes dim glo wedi myned oddiyma er's amryw wyth- nosau, ac o ganlyniad mae y gweithwyr wedi gorfod myned i leoedd ereill i edrych am rywbeth i'w wneyd er cael cynaliaeth ac y mae hyny wedi achosi i'r pyllau ereill gael eu gorlenwi, fel nad ydym yn cael gweithio nemawr i durn llawn. Mawr y siarad sydd yma yn nghylch y sliding scale, ac y mae arnaf ofn ein bod, fel gweithwyr, wedi cael ein harwain i ryw drobwll ag y bydd yn an- hawdd i ni ddyfod allan ohono yn fuan; ond, beth bynag am hyny, gwell i ni fod yn dawel hyd nes y cawn weled beth ddaw o honi. Dichon y try allan yn well nac yr ydym yn dysgwyl. Mae yma Gor Undebol gobeithiol iawn wedi ei sefydlu, o dan arweiniad y cerddor galluog Mr. T. Morris (Clwydwenfab), ac y mae yn debyg o ddyfod yn gor enwog. Mae wedi bod mewn dwy gystadleuaeth eisoes, ac wedi bod yn fuddugol yn yr olaf, sef Eistedd- fod Cwmfelin, pryd yr oedd dau gor enwog yn ei wrthwynebu. Hefyd, maent wedi bod yn y Bargoed yn datganu amryw ddarnau yn dda iawn. Mae'n debyg eu bod yn meddwl am ymdrechfa eto, gan eu bod yn ddiwyd yn ymbarotoi. Llwyddiant iddynt i ddringo grisiau cerddoriaeth, nes dyfod yn enwog iawn. Sefydlwyd Darlleniadau Ceiniog yn y lie hwn, ac y maent yn gwneuthur lies mawr, yn enwedig i'r bobl ieuainc. Cynelir hwynt mewn ystafell a adeiladwyd gan Mr. T. Jenkins, Baily's Arms, at wasanaeth y Cym- deithasau, ac y mae clod mawr yn ddyledus iddo am ei benthyg, gan nad oes yma leoedd cyfleus at gynal cyfarfodydd o'r fath.-Ioan ab lewm.
LLANDILO.
LLANDILO. LLWYNYRONEN.—Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod prydnawn dydd Gwener, y 14eg cyfisol. Cymerwyd y gadair gan y Parch. R. Owen, Llandilo, yr hwn a lanwodd y gyfryw swydd yn ddoniol, yn ddigrifol, ac yn ddeheuig. Pwyswyd, barnwyd, a chlorian- wyd y beirdd, y traethodwyr, a'r adroddwyr gan Rhydderch Farfgoch (Llandybie), a'r chwareuwyr a'r cerddorion gan Mr. G. Jones, Llandilo. Y brif gystadleuaeth gorawl oedd "Molaf di, 0 Arglwydd," yr hon a enillwyd gan gor Annibynwyr Gwynfe, dan arweiniad Mr. D. Griffiths. Enillwyd y "Traethawd ar fuddioldeb addysg foreuol" gan Gwilym Curwen, Cwmaman a'r penillion i gastell Careg Cennen gan Glan Dyfi ac Ab Tybie. Enillwyd y solo ar yr Eneth Ddall gan fachgen- yn o Gwynfe, allan- o ddeuddeg o gystadleu- wyr; a'r solo "Wyres fach Ned Puw" gan Miss M. Williams, Lan, Llwynyronen. Cat- wyd eisteddfod lewyrclrus dros ben. Ym- adawodcl pawb wedi cael eu llwyr foddloni yn y gwahanol feirniadaethau, a'u meddyliau a'u calonau wedi derbyn budd, adeiladaeth, ac addysg. Elwyn. Nos'Fercher, y 19eg cyfisol, ymgasglodd tyrfa.luosog i'r Town Hall, yn y lie uchod, i wrando y Parch. J. C. Gullan, Abertawe, yn darlithio ar "Bwysigrwydd crefydd foreuol, a'r ddyledswydd i'w meddianu." Gwneid y gynulleidfa i fyny gan mwyaf o ieuenctyd yr Ysgolion Sabothol. Cymerwyd rhan yn y, cyfarfod, hefyd, gan y Parch. R. Owen, I gweinidog y Wesleyaid Cymreig yn y dref. Canwyd amryw o donau Moody a Sankey yn ystod y cyfarfod. Yn ddiau, dyn mawr ydyw hwn yn ystyr fanylaf y gair. Gobeithio y bydd ei ymweliad parchus, a'i lafur duwiol, yn Llandilo yn arogl bywyd i fywyd i holl ieuenctyd y gymydogaeth. Elwyn.
-PONTARDAWE.
PONTARDAWE. GELLINEDD.-Dydd Sul, y 23ain cyfisol, cynaliodd ysgol Sabothol y lie uchod ei chyf- arfod chwarterol dan lywyddiaeth Mr. Thos. Thomas, Rhos. Canodd y cor amryw ddarnau yn effeithiol iawn dan arweiniad Alaw Meudwy ac adroddwyd amryw ddarn- au yn wir ddo gan ddeiliaid yr ysgol. Gobeithio y cawn y fraint o'u clywed yn fuan eto.—Teithvwr.
BWRDD YSGOL I BLWYF LLANDILO.
BWRDD YSGOL I BLWYF LLANDILO. Fel y gwyr amryw o ddarllenwyr y GWLAD- GARWR fod order wedi dyfod oddiwrth y Bwrdd Addysg yn Llundain i sefydlu Bwrdd Ysgol yn y lie uchod, a chymerwyd yr ethol- iad le v dvdd diweddaf o'r mis hwn. Rhif yr aelodau sydd i fod ar y Bwrdd ydyw saith. Cynaliodd yr AnnghydfFurfwyr amryw gyfar- fodydd yn ystod y pythefnos diweddaf yma ac acw ar hyd y plwyf (ond yn Llandilo yn fwyaf penodol), er ceisio dyfod i'r penderfyn- iad pa nifer ddylent gael i'w cynrychioli ar y Bwrdd, a phwy fyddai y personau hyny. Penderfynwyd yn unfrydol cynyg y pedwar canlynol i sefyll yr etholiad fel personau cymhwys, ac hefyd y dylai yr Annghydffurf- wyr gael mwyafrif ar y Bwrdd, gan fod eu nifer yn y plwyf yn hawlio hyny:- Mr. John Lewis, Gurrey Manor (Llwyn- fedwen gynt) (A.) Mr. David Bevan, Twynpoli, Cwmaman (A). Mr. David Bowen, Currier, Llandilo (M). Mr. Davies, amaethwr, Cwftiifor (B). Fel yna, gwelir fod croesaw i'r Eglwyswyr ddyfod a thri yn mlaen, a dim rhagor, a hyny er mwyn osgoi etholiad, gan y byddai hyny yn sicr o daflu ychydig ganoedd o bunau o gost ar y plwyf. Ond yn lie cynyg tri fel dynion rhesymol, maent wedi cynyg pump; felly, gwelir nad oes modd osgoi, oddieithr i ryw ddau dynu eu henwau yn ol dydd Llun cyn pedwar o'r gloch, sef chwech diwrnod clir cyn dydd yr etholiad. Efallai fbdyr Eglwyswyr yn meddwl, gan eu bod wedi cael dau Dori i fewn dros y sir, mai buddugol- iaeth ydyw i fod yn ddiwrthwynebiad. Mae llawer o wahaniaeth rhWng etholiadau A.S. ag -ielodau i Fyrddau Ysgol, gan fod pleid- lais i bob un sydd yn cadw tý i ethol person- au i Fwrdd Ysgol, a hyny yn annibynol ar fod yn berchenog. Pwy bynag ydyw perchen y ty, y person sydd yn byw ynddo ydyw perchen y vote, pa un ai fydd yn talu'r dreth ai peidio, os -bydd y casglwr trethi wedi gofalu gosod ei enw i lawr fel person sydd yn byw yn y ty hwnw ar ei lyfr casglu, gan mai hwnw ydyw safon i sefyll wrtho, a hyny yn ddigyfnewid o leiaf fis cyn yr etholiad. Gan fod saith aelod i fod ar y Bwrdd, mae saith vote gan bob un gall ddosbarthu y saith fel y bydd ef yn gweled yn oreu. Mae y pedwar boneddwr uchod yn ddynion o gymeriadau da, yn iachus eu golygiadau, ac yn hen adnabydd- us yn y plwyf. Felly, dangoswn fod ynom ychydig o sel ein hen dadau gynt dros ein hannibyniaeth, ac y rhoddwn ein dynion i fewn yn anrhydeddus. Gwawrio wnelo'r dydd pan ddarfyddo pob ymryson o'r fath yma, ac na threthir mwyach un o ddeiliaid Prydain Fawr i gynal crefydd, ond y caiff pob un setlo y mater hwnw ei hunan. BENDIGO. •
.ALLTWEN.
ALLTWEN. Dymunir hysbysu mai D. Onllwyn Brace, Pantycrwys, ac Eos Wyn, Alltwen, oedd yn gydfuddugol ar Farwnad y diweddar Carn Alun, Alltwen.O. Alltwenydd Jones.
CEFNCOEDYCYMER. j
CEFNCOEDYCYMER. TABOR.—Nos Lun diweddaf, Ionawr yr 17eg, eynaliwyd cyngherdd yn y lie uchod i gynorthwyo y cyfaill D. J. Jones, yr hwn sydd yn glaf er's hir amser, pryd yr aed trwy y rhagdrefn ganlynol:—Glee, "Y Gwanwyn," gwaith Cynonfardd, America, gynt o'r Cwm- bach, gan gor Bethania, Cwmbach, dan ar- weiniad Mr. John Parry; "Milwyr bachy groes," gan gor o blant o'r Cwmbach, y rhai a encoriwyd adrodd Y boreu cyn y diluw," gan Dewi Dyfan, gan y Cwmbach Dramatic Party, yn dda dros ben. Gwasanaethodd hefyd amryw o gerddorion galluog y Cefn, megys Mri. Hammonds, Evans, Lewis, a Jones, ac ereill nad oeddem yn eu hadwaen mawr ddiolch iddynt. Cafwyd gwasanaeth cor Ebenezer, Cefn, ar yr alaw a chydgan, a chafwyd Jing jillg" gan gor Cwmbach. Llywyddwyd gydag awdurdod gari y Parch. R. Griffiths, Tabor.—loan Oynon.
[No title]
Cyfarfyddodd boneddwr Gwyddelig a Sais fel y canlyn A! fy nghyfaill, ai chwi sydd yma l pan y gwelais chwi ar yr ophr arall i'r heol, meddyliais mai eich cefnder oeddych; pan yr oeddych yn agoshau, yr oeddwn yn meddwl mai chwi eich hun oedd- ych ac yn awr, yr wyf yn gweled mai eich brawd yclych."
Advertising
THE RAIR.-For 40 years Mrs. S. A. ALLEN'S WORLD'S HAIR RESXOKEB has received the com- mendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any modeaate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. I It will positively renew and restoi-e the original and natuml colowr of grey, white, and faded. Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxuriant growth. No other preparation can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers in large bottles, 6s. 114 & 116, Southampton New, London. 1090
YR OERNI YN SIBERIA.
YR OERNI YN SIBERIA. Ymddengys fod yr oerfel yn angerddol yn "Y Siberia. Y mae mor oer yno fel y mae'r genau a'r ffroenau yn cael eu parhaus orch- uddio gan ia oddiwrth yr anadl, trwy fod hwnw yn rhewi. Wrth gysgu yn y nos yno daw gorchudd o ia dros yr amrantau, fel y gorfyddir ei symud yn y boreu. Y mae yr oerni hwn wedi teneuo yr awyr i'r fath radd- au fel y mae y mwg yn methu esgyn, ac y z!l mae yn haen gadduglyd uwch y wlad.
BRATHIAD ANGEUOL YN DEAN FFOREST.
BRATHIAD ANGEUOL YN DEAN FFOREST. Agorwyd trengholiad dydd Gwcner ar gorfi Elijah Read, yr hwn a frathwyd dydd Llun yn Ruardean gaii Joseph Bidmead, glowr, ac o'r hyn y bu farw dydd Mercher, o flaen Mr. Carter, crwner. Gohiriwyd er cael tystiol- aeth brawd y trengedig. Yr oedd yr hwn a frathwyd yn angeuol yn ddyn sengI, 20 oed.
TREHERBERT A'R AMGYLCHOEDD.
TREHERBERT A'R AMGYLCHOEDD. FFRWYDRIAD Nwv. — Oddeutu pump o'r gloch prydnawn dydd Mercher, Ionawr 19eg, taflwyd trigolion yr ardal hon i gryn gyffro gan swn ffrwydriad ofnadwy. Yn union canfyddem ugeiniau yn prysuro eu camrau o bob cyfeiriad tua'r lie, a deallwyd ar fyr amser fod y Red Barber wedi tori allan i ddangos ei awdurdod a'i alln o fewn i faelfa esgidiau Mr. B. Witchell, pryd y llosgwyd y perchenog yn nghyd ag un gwas iddo yn wir ddrwg. O'r tu cefn i'r siop y mae parlawr a'i ffenestr yn gwynebu tua'r afon. Yr amser a nodwyd aeth y dyoddefydd i fewn ar ei dro i'r lie hwn, pryd yr aroglodd yno sawyr cryf, a deallodd yn union fod y nwy yn colli yno yn rhywle, pryd y cymerodd fatchen, a than- iodd hi er cael gweled lie yr oedd yr elfen yn colli; ac mewn eiliad amgylchynwyd ef gan fflamau Ion aid y lie. Methodd yr elfen gael digon o le oddifewn, fel y drylliodd ffenestr .ill- y parlawr yn gandryii, a gweiwya y juamau yn dyfod allan gan bersonau a safent gan- oedd o latheni o'r lie. Gwnaeth Mr. Witchell oedd o latheni o'r lie. Gwnaeth Mr. Witchell ei ffordd allan oddiyno trwy y siop i'r heol, a'i ddillad yn llawn fflamau, pryd yr amgylch- ynwyd ef gan bersonau a redasent i'r lie, y rhai a ddiffoddasant y tan. Yn y siop hefyd gwnaeth alanas mawr chwythwyd rhanau o'r ffenestri yn chwilfriw, dosbarth- wyd yr esgidiau i bob cyfeiriad gan yr awelon, a thorwyd i ffwrdd gauad yr ysgrif-fwrdd (desk), ac amryw bethau ereill. Ymddengys fod Mr. Witchell wedi bod yn dyoddef yn drwm oddiwrth effeithiau y tan nid yw y llall cynddrwg. Mae gobaith am eu hadfer- iad. Dylai liyu fod yn wers eto i bawb Sydd yn ymdrafod a'r elfen beryglus hon i'w cadw yn fwy gofalus a gwyliadwrus wrth ymwneyd a-hi. EBENEZER. — Nos Lun diweddaf, y 24ain cyfisol, cynaliwyd cyngherdd leisiol ddyddorol iawn yn y lIe uchod, gan wahanol gyfeillion o'r ardal. Canwyd amryw ganigau, deuawdau, ac unawdau yn dda iawn, a theilynga y can- torion gymeradwyaeth uchel am eu parod- rwydd a'u hymdrech. Yr oedd amryw gan- torion o gapel y Bedyddwyr, Blaencwm, wedi uno a chantorion Ebenezer i'w cynorthwyo i gynal y gyngherdd, yr hyn sydd yn siarad yn uchel am yr undeb a'r teimlad da sydd rhwng cantorion y ddwy eglwys. Er fod y gweithfeydd yn dra marwaidd a'r enillion wedi myned mor lleied, trwy ymdrech rhai eyfeillion i'r claf, gwerthwyd tocynau yn dda iawn, a chafwyd cystal cynulliad i wran- daw ag a allesid ddysgwyl. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo y brawd Thomas dda iawn, a chafwyd cystal cynulliad i wran- daw ag a allesid ddysgwyl. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo y brawd Thomas Morgans (gynt o Benydaren, Merthyr), yr hwn sydd yn glaf er's amryw fisoedd bellach. Hyderwn iddo dderbyn yn dda mae ganddo deulu trwm yn dysgwyl wrtho am eu cynal- iaeth. Y GWEITHFEYDD.—Marwaidd iawn ydyw pob masnach yn yr ardal er's amryw fisoedcl bellach. Nid yw ygweithwyr er's tua thri mis wedi cael agos eu gwaith yn llawn, yr hyn a ellir briodoli i amryw achdsioij, ond yn benaf i'r llawnder dynion sydd yn y lie. Mae yn wir hefyd nad yw y galwad am y glo ddim yn debyg i'r hyn a fu nid oes yr un o'r gweithfeydd er's wythnosau nad ydynt wedf cael teimlo oddiwrth y stop waggons, a hyny durn neu ddau fynychaf bob wytlinos, yr hyn sydd yn cwtogi enill y gweithiwr. Mae yma gymaint oweithwyr hefyd yn dylifo i'r lie yn feunyddiol i edrych am waith,^ nes yw braidd bob twll, drwg a da," wedi eu llenwi gan ryw weithiwr ac yna yr ydym mewn gwirionedd yn gweithio am ryw un ran o dair o'r hyn a fuasem yn enill er's tua blwyddyn neu ddwy yn ol. Braidd y gallesid cael gan neb gydio yn y fath ddarn o waith tlawd y pryd hyny ond yn bresenol rhaid cydio mewn unrhyw beth a gynygtr i ni rhag bod heb ddim, o herwydd os na wnewch chwi ef, mae digon i gael a'i gwna." Llawer ydyw y dysgwyl a'r pryderu sydd am adrodd- iad y cyflafareddwr. Hyderwny goreu, fodd bynag, oblegid os daw cwmpiadau arall eto bydd yn waeth yma nag y bu erioed. Nis gellir cyfrif yr enillion ar gyfartaledd yn bresenol uwchlaw 21<3. i 24s. yr wytlinos, a chael gweithio yn llawn bob dydd trwy y mis. Allan o hyn rhaid talu rhyw bunt neu bum' swllt ar hugain am dy, yn nghyd a saith neu wyth swllt am lo yn ychwanegol. Yr ydym yn credu fod yn llawn bryd i ni fel gweith- wyr i edrych i fewn i hyn o beth, pan yr ystyriomein bodyn talu lp., ie., a lp. 5s., a swllt eto am ddwfr, yn nghyd a phedair ceiniog y cant am lo yn ychwanegol at hyn, a hyny am H dy cwmni," heb ond y peth nesaf i ddim o ardd art ein gwasanaeth. Yr wyf yn oredu fod eisieu gwelliant yn hyn gymaint a dim. Rhaid sychu yr ysgrifell yn bresenol rhag myned yn rhy faith cewch ragor eto, os bydd amser.—ArdMlydd.
[No title]
Darfu i Gwmni y London a'r North Western Railway yn ddiweddar godi cyflogi rhai o'u gweision.
LLANELLI. !
LLANELLI. Y GwEiTfiiAtr.—Hen air yn mhlith y Cymry er ys llawer iawn o flynyddau yw yr hen air "Calenig." Llawer iawn o ddisgwyl f sydd am i'r hen fiwyddyn fyned allan, ac o ymhyfrydu yn nyfodiad y newydd ond nid felly yr oedd y tro hwn yn mhlith gweithwyr copr y Cwmpeini Nevill, Druce, &c. Taen- wyd y son allan ychydig wythnosau cyn j diwedd yr hen flwyddyn fod gostyngiad pris I i fod yn hiriau y gweithwyr, yn enwedig yn nosbarth y toddwyr a'r melinwyr, a bod hyny i gymeryd lie ddechreu y flwyddyn hon. Yn lie llawenhau a gobeithio am flwyddyn newydd fel arferol, achosodd y newydd brudd-der nid bychan yn mhlith y gweithwyr a'u teuluoedd" a thrwy y gymydogaeth yn gyffredinol. Yr zY y oedd yr holl weithwyr, wedi clywed y si uchod, yn pryderus ddisgwyl eu tynged, a nos Wener cyn y Nadolig, cawsant wybodaeth gyflawn gan y manager. Hysbysodd focl ceiniog a dimai y dunell o ostyngiad i fod i'r j toddwyr. Da genym hysbysu nad yw y f melinwyr wedi derbyn dim gostyngiad hyd yn hyn, a gobeithio y bydd iddynt lwyddo i gadw yr hen bris. Mae llawer yn ddiameu yn rhyfeddu beth all fod y rheswm o'r gos- tyngiad uchod, gan nad i'w angenrheidiau bywyd yn dyfod i lawr ddim—yr un pris yw pobpeth i bawb yn ddiwahaniaeth ar farchnad Llanelli. Da genyf hysbysu darllenwyr y GWLADGARWR fod yn y dyffryn hwn weithiau ereill heblaw y gwaith copr, sef gweithiau. haiarn a tin, lie y mae y gweithwyr yn enill cyflogau rhesymol, er nad ydynt yn cael ond prin digon am eu llafur, ac os ydyw felly arnynt hwy) beth am y gweithwyr copr, dru- ain, y rhai sydd yn enill ond prin haner cyflogau y rhai a nodais. Ciywais fod un a gwmpeini y gwaith copr yn ystyried fod punt yr wythnos yn llawn ddigon i weithiwr enill. Weithwyr copr, deffrowch o'ch cysgadrwydd, a hawliwch eich hiawnderau. Nid vw v cwmpeini uchod yn rhoddi unrhyw fanteision i'w gweithwyr mwy nac ereill, gan y codant gymaint o ardreth am eu tai ac ereill, er gorfod gweithio am bris is.—Anfedrus. CAPEL Y DOCK.-Nos Sul, yr 16eg cyfisol, gwobrwywyd nifer o blant yr Ysgol Sabothol yn y lie uchod a chyfrol hardd a dyddorol am eu ifyddlondeb yn casglu tuag at y Gymdeith- as Genadol. Yr oedd y cynllun yn newydd braidd, heb fod mewn gweitln-ediad yma ond unwaith o'r blaen, sef trwy roddi tocynau i'r. plant, a phob un a lwyddai i gasglu 5s. a fyddai a hawl i'r wobr; trodd allan yn hynod lwyddianus. Yr oedd y dull yma yn rhoddi cyfle da i'r plant i weithio yn egniol gyda,- achos mor deilwng, a chyrhaeddodd y casgl- iadau y swm o 12p. Llwyddodd yr oil a gymerasant docynau i ddyfod i fyny a thelerau y wobr, sef casglu 5s. ac uchod, a chafodd un-ar-bymth,eg ar ugain eu gwqbrwyo a hanes haner car).' mlynedd o lyfr cenadol Dr. Moffat, yn_ neheubarth Affrica, yr liwn sydd y?1 ly^'jpjsvrpasol a/ dyddorol iawn, ac y mae ei ddctiilen yn debyg iawn o ychwanegu sel y plant dros y Genadaeth. Y mae yn galondidt gweled deiliaid yr Ysgol Sabothol yn llaftirio gyda phethau da a theilwng ag sydd a thuedd ynddynt i feithrin teimladau cynes a pharcb- us at grefydd lesu Grist, a moddion ei He- daeniad, yn nhywyll leoedd y ddaear, y rhai sydd yn llawn trigfanau trawsder. Gobeithio- cawn weled y plant a'r ieuenctyd yn parhau i ymestyn at wneuthur daioni, ac yn tyfu i fyny yn ddynion defnyddiol mewn gwybod- aeth, rhinwedd, amoesau da.C«,s7>rtr Hauser.
Lli YSTALYFERA. ,,,ê.,1Áq-
Lli YSTALYFERA. ,ê.,1Áq- CO-OPERATIVE STORES.—Y mae balance sheety sefydliad uchod newydd ymddangos, a, cliredrwyf y bydd yr hyn a ganlyn o ddyddor- deb i bleidwyr co-operation trwy y wlad, ac y bydd yn creu chwant ar ganoedd yn ychwaneg i uno a chymdeithas sydd a'i hunig amcan i lesoli dynolryw yn gyffredinol. At yr aelod- Ily au:—Swm y gwerthiadau am y chwarter diweddaf oedd 3044p. Is. 5c.; a'r elw, ar ol talu pob treuliau, yh 308p. 18s. 3t. Telir 2 i'r aelodau ddau swllt a chwech cheiirog y bunt ar yr oil a brynant, a phum' punt y cant o log ar eu shares, a bydd y gweddill i'w gosod at y Reserve Fund, 14p. 8s. Gc.: "Prof wch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda.' Ychydig fieithiau mewn cysylltiad a'r co- opcnttive system. Y mae yn ftaith fod siop yn Ystalyfera a elwir Siop y Cadnaw. Y mae yn ffaith hefyd fod y siop hono yn eadwy nwyddau goreu ellir brynu am arian (cash), ac yn gwerthu y nwyddau hyny i'r aelodau a'r cyhoedd am brisiau rhesymol a theg., Y mae yn llaith bwysig arallfod y siop hono hefyd yn talu i'r aelodau ddau swllt a chwech cheiniog y bunt o dividend ar eu pryniadau, ac yn gwerthu y can goreu sydd yn dyfod i Gwm Tawe am y cost price. Y mae yn ffaith arall fod Siop y Cadnaw wedi talu allan i'r aelodau yn ystod y pedair blynedd diweddaf, bedair mil o bunau (4000p. clear profit); buasent wedi slipio i mewn i bocedau ein masnach wyr parchus pe na fuasai Siop y Cadnaw yn bodoli. Dyna ddigon o fieithiau. oofynaf yn awr yn ddifrifol osnad dyledswydd pob gweithiwr sydd yn enill ei fara drwy chwys ei wyneb, ydyw oefnogi cymdeithasau o'r fath yma sydd yn ymegnio i'w dwyn allan 0 fachau y creaduriaid hyny sydd yn mynu pump a chwe' swllt y bunt o enill ar y nwydd- au a werthant iddo os felly, dyma fantais yn awr i. holl weithwyr Y stalyfera a'r cylchoedd i uno yn un Haw a'r Pantteg Co-operative Stores ar ddechreu y chwarter, pan y caijt 5p. y cant o interest ar eu shares, a 2s. üc. y bunt, mwy neu lai, ar eu pryniadau. Dywed- af eto, wrth derfynu, Pi-ufvvcli bob peth,a deliwch yr hyn sydd dda."—Llygadog.
[No title]
Cyhuddwyd Richard Banner Oaldeyr Manager, y Co-operative Credit Bank, yn. y Mansion House, Llundain, dydd Gwener, oi dynu trwy dwyll-honiadau y swm o J640,000 oddiwrth y cyhoedd. oliiriwyd y prawfy gwrthodwyd meichiau.