Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
1*1111,.—Ni ddanfonasoch eich cyfeiriad yn gyflawn. KELT.—Ymddangosodd sylwedd eich nodyn yr wythnos ddiweddaf. S. REES (Cwmgelly).—Yn ein nesaf. GLOWYR Y BROADOAK.—Rhaid i ni gael yr oil o'r ysgrif i law cyn y gallwn gyhoeddi dim ar y mater. Dymuna H. Lloyd, Postman, Caerffili, ddweyd nad oes a fyno efe a llythyrau y Twr Cam" sydd wedi ymddangos yn ein colofnau. Tystiwn ninau hefyd yr un modd. Sylwedydd, Jenkin Davies, Un am wvbod, M. D. Jones, Eryr y Graig. TN EIN NESAF.—D. Buallt Jones, Hanesydd, Cenydd, a Llew Llwyd.
Y FRENINES A'R SENEDD.
Y FRENINES A'R SENEDD. Nis gall deiliaid teyrngarol y wlad hon lai na llawenhau wrth yr hysbysiad fod ei Mawrhydi yn bwriadu agor y Senedd yn bersonol, ar yr Sfed o'r mis nesaf. Y mae poblogeiddrwydd y gyfundrefn freniniaeth- ol yn ymddibynu yn beuaf ar ddau beth:- yn gyntaf, ar gyfiawnder yn lluniad a gweinj ddiad y deddfau; ac, yn nesaf, ar feresenoldeb y pen coronog yn mysg y deiliaid. Y mae Prydeiniaid yn parchu ac yn caru eu tevrn, ond y maent am ei weled "Weithiau; a dim ond iddynt gael ei weled, daw eu teyrngarwch i'r amlwg ar unwaith toewn banllefau croesawol nad oes modd eu camsynied. Cofus gan bawb o hooom am "ddyfodiad y Dywysoges Alexandra i'n gwlad, ar derbyniad angerddol frwdfrydig a roddwyd iddi ar ei glaniad ac yn ei mynediad trwy Lundain: credwn i'r am- gylchiad dedwydd hwnw wneyd mwy i gylymau serchiadau y deiliaid wrth y .goron a'r teulu breninol, nag un amgylch- iad arall er dechreu y canrif. Yr un Bffeithiau boddhaus a dymunol a ddilynent bob ymddangosiad cyhoeddus o eiddo y frengines Victoria yn ngwydd ei phobl, pan elai i mewn ac allan yn ein plith yn nyddiau dedwydd Albert Dda. Y mae ihyw swyn rhyfeddol yn mhresenoldeb pen Coronog da a phoblogitidd: cyrhaedda ei ddylanwad hyd yn nod i'r Unol Daleithiau: a phe ymwelai ei Mawrhydi a'r wlad fawr hono, eai ei derbyn yno gyda brwdfrydedd na allasai, neb ddysgwyl am ei gyffelyb oddigerth Washington fawr ei hun, tad ti wlad." Buasai ymweliad o'i heiddp hi ag America, fe allai, yn fbdipon i ddileu y aq yn gwneyd mwy tuag at unoli y ddwy genedl nag eliid, ei •wneyd trwy unrhyw gydymgynghoriad »hwng llys-genadon ac uchwladweinwyr. Y mae pethau bychain iawn ynddynt eu hunain yn ami yn cynyrchu y canlyniadau mwyaf bendithiol, yr hyn a brofwyd ar ymwaliad ei Mawrhydi ag Iwerddon. Meddai un Wyddelea syml yn y dorf, wrth ar y plant breninol, meddai "Frenines anwyl! galwch un o honynt yn Patrie," ac felly fu. Gwyddel arall a ddywedai yn symledd ei galon, wrth edrych ar y frenines, "Mae Kitty ni gyn laned denyw a hithau," am yr hyn y cafodd y sylw brenhinol, a rhodd hefyd yn wobrwy iddo am ei feddwl uchel o'i Kitty dlawd. Y mae rhywbeth fo yn cyffwrdd a'r galon ddynol yn peri i filiwn o bobl, o bob gradd, oedran, a sefyllfa, i deimlo eu bod oil yn un, fel eu gilydd:—" One touch of nature tnakes the whole world kin.h Gwnaeth y ^yfeiriadau syml at "Patric" a "Kitty," Wo, fwy i gwmodi y galon Wyddelig, nag a all holl areithiau liidiog y Ffeniaid ei ^neyd i'w dieithrio. Pwy all ddesgrifioy brwdfrydedd iachus a gynyrehid yn mysg y Cymry pe deuai Tywysog Cymru i Eisteddfod Genedlaethol Gl-wrecsam! Gwnai felly fil mwy dros achos teyrngarwch yn cin plith ni, nag y mae yn ei wneyd dros yr un achos yn India drwy ei waith yn Picellu moch (pig sticking) a hela gwyHt- 1ilod fyth a hei'/d. Hyderwn y bydd ein frenines dirion yn alluog i agor y Senedd yn ei pherson ei hun, ac yr arbedir ei ieinioes werthfawr i agor ami i Senedd eto.
TRAMOR. •
TRAMOR. • Nid oes dim braidd yn ehedeg dros y gwifrau pellebrol y dyddiau hyn ond newyddion trychinebus am erwindeb gau- afol yr liin yn ngwahanol wledydd y Cyfandir. Y mae y prif-ffyrdd yn 'Neheu- barth Ffrainc wedi eu hollol gau i fynu gan yr eira, ac y mae Madrid o dan drwch troedfedd o eira, ac Alphonso a Don Carlos yn rhoi y rhyfel-faes i fynu am yr aelwyd gynhes. Dywedir fod brad-gynllun wedi ddarganfod yn Nghaer Cystenyn drwy hwn y bwriadai y Mahometaniaid lof- ruddio yr holl Gristionogion yn y ddinas ar 110s benodol. A ydyw y Tyreiaid yn i afael gwallgofrwydd, yn gystal ag afaelion dyled anferthol! Eu camdrin- ^eth o'u deiliaid Cristionogol ydyw y achos o'u gofldiau presenol, a'r prif o'r gwrthryfel sydd yn eu mysg, ac y maent yn myned yn fwyfwy cibddall ac ynfydyn y cyfeiriad hwn o ddydd i ddydd. Dywedir fod mwy na thri chunt o filvvyr Twrci, oblegyd gerwinder yr hin a dibrisdod yr awdurdodau, wedi rhewi i farwolaeth yn Herzegovina, a bod canoedd rhagor yn gorwedd yn y clafdai dan effeith- iau yr ewinrew. A ydyw yr elfenau eu hunain yn ymladd a'r Dyn Claf?"
YR ARSYLLPA.
YR ARSYLLPA. IONAWR 27AIN, 1876. Y mae yr hen gawr politicaidd, JOHN BRIGHT, un o'r seneddwyr blaenaf yn y byd, newydd fod yn anerch ei etholwyr yn Birmingham. Baich mawr ei araeth alluog oedd gwneyd sylwadau ar araeth Arglwydd Derby dro yn ol yn Edinburgh. Tynodd hono yn ddarnau, a chwalodd ei osodiadau yn ganddryll. Mynai Arglwydd Derby i'w wrandawyr gredu mai y Toriaid ydynt wedi dwyn yr holl fendithion ddeddfwriaethol i'r wlad hon, ond profai John Bright yn wahanol, a dangosai, trwy ffeithian ac ystadesjau didroi yn ol, mai y Rhyddfrydwyr fuont brif fendithwyr y wlad hon, ac mai hwynthwy ysgubodd ymaith y tollau ar gymaint a deuddeg cant o nwyddau a ddefnyddir gan y wladwriaeth. Gwelir, wrth hyn, fod syniadau ei arglwydd- iaeth yn gyfeiliornus. Condemiodd Bright yn ddirfawr ddeddf y primogeniture, neu gyntafenedigaeth, sydd mewn grym yn y wlad a nododd engraifft, sef, beth pe byddai dyn yn rhoddi addysg dda i'w blant oil ond un, ac yn gadaelyrunhwnwmewn anwybod- aeth. Pa fodd y gallesid amddiftyn ym- ddygiad o'r fath yma 1 Wel, ar yr un egwyddor yn hollol y mae y ddeddf a enwyd, sef rhoddi y cyfan i'r mab hynaf. Bu y ddeddf hon mewn grym mewn llawer o wledydd Ewrop, ond y mae wedi ei dileu yno er's talwm, ac y mae yn llawn bryd hefyd ei symud oddiar tyfrau Prydain, gan ei bod yn hollol annynol ac annghyfiawn yn ei darbod- ion. Y mae yn llawenydd genym cfdeall nad oes seiliau i'r newydd a'n cyrhaeddodd yr wythnos ddiweddaf o barthed i rybydd y dywedid ei fod ei osod allan i ostwng y cyflog- .9 au yn NGOGLEDD LLOEGR. Hysbysid fod y gostyngiad i fod yn 20 y cant, yr hyn oedd yn dra difrifol; ac os oedd gwir ynddo, nid rhyfedd ei fod wedi cynyrchu y fath bryder ac anesmwythdra yn mysg y glowyr ag y dywedid ei fod. Ond da iawn genym ddeall fod y newydd- ion a'n cyrhaeddasant wedi hyny yn cadarn- liau fod y cyntaf yn ddisail. (jrwelsom erthygl mewn cyfoesolyn yn ddiweddar yn cynwys dyfyniad o araeth a draddododd MR. GLADSTONE gerbron ei etholwyr yn Greenwich, yn mha un y traethai ei syniadau gyda golwg ar wahanol bynciau cysylltiedig a'r dosbarth gweithiol. Dywedai Mr. Gladstone fod mwy o awydd yn y crefftwyr yn gyffredinol i ymddyrchafu i uwch sefyllfaoedd, ac i ddosbeirth uwch mewn cymdeithas, yn hytrach na gwella a rhagori yn eu gwahan- ol grefftau. Ewyllysiai ef weled y saer maen yn dyfod yn sculptor, a phob crefftwr yn dringo i ris uwch. mewn cysylltiad a'i gelfyddyd, yn lie eu bod yn ymestyn am eu gadael a myned i gylch arall. Y mae llawer o reSWln yn hyn, ac y mae hefyd wrthddadleuon cryfion yn ei erbyn mewn llawer ystyr. Y mae gofal a gwasgfeuon teuluaidd ydynt yn pwyso ar gorff mawr ein crefftwyr yn rwystrau anorfod ar ei ffordd i ymberffeithio, a myned yn mlaen i gyfeir- iadau uwch yn eu galwedigaeth. Er hyny, y mae araeth Mr. Gladstone yn cynwys llawer o awgrymiadau gwerthfawr i'n gweith- wyr, ac y mae yn ymddygiad canmoladwy fod un o'i safle a'i alluoedd uchel ef yn talu sylw i ddyrchafiad cyffredinol y gweithwyr. Yr ydym yn deall fod PERFFORMIAD Y "MESSIAH" yn y Music Hall, Abertawe, gan y cor a'r canwyr enwog dan arweiniad ein cyfaill galluog, Mr. Silas Evans, ddiwedd y mis hwn, yn tynu sylw cyffredinol, a bod rhag- olygon dibetrus am lwyddiant annghyffredin, canys y mae tocynau y blaenseddau a thocyn- au ereill yn gwerthu gyda chyflymder mawr. Er fod y Music Hall yn adeilad eang a chyfleus, ofnwn y bydd yn rhy fychan y noson hono i gynwys y dyrfa aruthrol fydd yno. Tebyg y bydd Cwmtawe yno o'r blaen i'r gwaelod, heblaw miloedd o'r east a'r west, a chyfeiriadau ereill. Yr ydym yn dymuno pob llwydd i'n cyfaill Cynon a'i gymdeithas gerddorol yn y cyfeiriad canmoladwy a gymerant mewn cerddoriaeth. Gadawodd marwolaeth MR. ROSSER BEYNON (Asaph Glan Taf) fwlch pwysig yn mysg ein Ilenorion. Bu efe yn ddyn gweithgar a galluog gyda cherdd- oriaeth; ac untro, yroeddynunyr edrychid i fyny ato gan ein cerddorion. Newidiodd ansawdd pethau yn y byd cerddorol, ac yr oedd Asaph, bellach, er ys blynyddau, megys wedi ymneillduo o faes y gan i roi lie i rai ieuengach. Bydd ei enw mewn per goffadwr- iaeth yn Merthyr a Morganwg oil am flynydd- au lawer,
Araeth Mr. John Bright yn…
Araeth Mr. John Bright yn Birmingham. Nos Sadwrn diweddaf darfu i'r aelodau dros Birmingham, Mri. John Bright, Dixon, P. H. Muntz, anerch cyfarfod mawr o'u hetholwyr yn y Town Hall. Cymerwyd y gadair gan y Maer am chwech o'r gloch. Mr. Bright, yr hwn a dderbyniwyd gyda tharanau cymeradwyol, a ddyweclodd Mr. Maer a boneddigion, — Y mae cyfnod o ddeuddeng mis wedi pasio ymaith oddiar yr achlysur pan ganiatawyd i'm cydaelodau a minau i sefyll wyneb yn wyneb a'n hetholwyr, ac yn ystod y cyfnod hwnw y mae Senedd- dymhor wedi pasio ymaith, yr hon ellir ystyried fel sesiwn o fesurau bychain ac yn ddyspeidiad seneddol, neu y gyfran fwyaf o honi, yn mha un y cawsom lawer o siarad trwy bob parth o'r wlad ar fesurau y sesiwn. Ni fydd i mi aros ar y materion yr ymdrin- iwyd cymaint arnynt—pynciau a feddyliwyf yn gysylltiedig a deddfwriaeth y flwyddyn ddiweddaf. Bydd i mi ofyn i chwi am faddeu i mi os na chyffyrddaf a cholliad y Vanguard, ac os pasiaf heibio gwestiwn y cylchlythyr caethwasiol (na, na) yn ddisylw. Nid yw y cwestiwn hwnw mor hollol rwydd ag y mae llawer o'n cyfeillion yn tybied ond y cwest- iwn ag sydd bob amser yn ymgynyg i mi, pan glywn rywbeth neu feddwl rhywbeth am dano oedd, paham nad allai y Llywodraeth ei adael yn llonydd ? (clywch clywch). Gall y cawn glywed atebiad pan gyferfydd y Senedd; ni fydd yn ddrwg genyf os bydd yn foddhaol i'r genedl; ac ni alwaf eich sylw ychwaith i ymdrafodaeth fawr y Stock Exchange yn mha un y bu y Llywodraeth yn ymwneyd. Yr wyf yn cofio rai blynyddau yn ol am araeth Prif Weinidog presenol Ty y Cyffredin, yn mha un y siaradai gyda gwawdiaeth ddirmygus am bersonau neiilduol, y rhai a brynent ac a werthent gyfranau (shares), a galwai ef yn flaenfynediad; a dichon ei fod ef wedi bod yn ymwneyd a phrynu shares, ac efallai y geilw hyny yn wladweiniaeth (statesman- ship ). Bydd yn dda genyf, os, pan gyferfydd y Senedd, y gellir rhoddi eglurhad o'r ymdra- fodaeth, yr hon fydd yn hollol foddhaol i'r holl genedl. Ond yn awr y mae un ran o'r siarad yn ystod tymhor y toriad i fyny, at ba y caf alw eich sylw yn neiilduol. Tebygol y cofiwch fod aelod enwog iawn o'r Llywodraeth nid llai person na'r Gweinidog Tramor, wedi treulio ychydig ddyddiau yn ddiweddar, yn ninas Edinburgh, lie y traddododd dair araeth—un o honynt i efrydwyr y Brif Ysgol, at ba un nad oes angen i mi gyfeirio yn mhellach-un o honynt i Arglwydd Uchel- faer Edinburgh a'i gyfeillion, pan gyflwyn- wyd iddo ryddfraint y ddinas, araeth feddyl- iwyf oedd yn synwyrol ar y cyfan, ac yn gall. Ond yr araeth at ba un y bydd i mi gyfeirio yn neillduol, sydd un yn mha un yr anerchai Arglwydd Derby gyfarfod mawr, yr hwn y dywedid ei fod yn gynwysedig o 3,000 o bersonau, y rhai a, elwid yn weithwyr Ceid- wadol dinas Edinburgh. Yn awr, pa un a oedd tair mil yn bresenol ai peidio, nid wyf yn gwybod, ond yr wyf yn amheu fod yno dair mil o weithwyr, canys hyn a wn: pan gymer etholiad cyffredinol le yn Edinburgh nid yw y gweithwyr Ceidwadol gartref (chwerthin.) Ychydig o honoch chwi sydd wedi cael y cyfle i wrando Seneddwr Ceid- wadol yn gwneyd araeth i weithwyr Ceidwad- ol. Pe baech, caect allan yn mha fath an- hawsder yr ydoedd. Buasai raid iddo wadu neu annghofio hanesyddiaeth, a buasai ei araeth gan mwyaf, yn lie hyfforddi ei wran- dawyr, yn ymddangos yn gyffredinol wedi ei bwriadu i'w camarwain. (Rhyw gymaint o gyffro yn nghorff y neuadd.) Yr wyf yn ofni eich bod yn rhy dyn yna i fod yn gysurus. Y mae yn fy ngwneyd yn annghysurus hyd yn nod i'ch gweled, ond gofynaf i chwi fod mor amyneddgar a llonydd ag y gellwch, mewn trefn ag i chwi allu clywed yr ychydig eiriau yr ydwyf ar fedr eu traethu i chwi. Yr oeddwn yn dweyd wrthych am araeth Ar- glwydd Derby i weithwyr Ceidwadol Edin- burgh. Os darllenasoch hi, ac yr ydwyf yn gobeithio i chwi wneyd, cewch ei fod yn gwneyd y sylwadau hyn:—Gofynai, "Paham na fyddai y gweithiwr yn Geidwadol?" ac yr wyf yn ateb paham na fyddai? Ond aeth rhag ei flaen i wneyd rhyw sylwadau anarfer- ol. Ar wladweinwyr poblogaidd nid wyf yn gwybod at bwy y mae yn cyfeirio, yr wyf yn tybied nad oedd yn cyfeirio at eu gyd-swydd- wyr. Dywedai nad oedd gwladweinwyr pobl- ogaidd byth yn rhoddi i un dyn well cyllog- au neu well tai i fyw ynddynt. Gallant yn wir broffesu i symud beiau, o'r fath ag y gall y gyfraith ddelio a hwy, ond pa le y mae y camweddau hyny gyda ni ? Wel, oddiwrth y pethau hyn, y mae yn eglur ei fod yn golygu dweyd fod, mor belled ag oedd a fynai a'r dosbarth gweithiol, un blaid mor dda a'r llall, ac y gellwch fod yr un mor ddedwydd a'r un mor foddlongar dan ddeddfwriaeth a gweinyddiaeth Geidwadol, ag un Ryddfryd- ol. Wel, yn awr, aeth yn mlaen i ddweyd nad oedd gan y gweithwyr yn bresenol ddim trethi i'w talu (chwerthin) oddigerth ar de, myglys, a gwirodydd. Ond ni ddywedodd wrthych fod pymtheng mlynedd ar ugain yn ol fwy na 1200 o bethau ar ba rai y codid trethoedd, ac mai dim ond wedi tair blynedd o ddeddfwriaeth benderfynol yr Anti Corn Law League, ydechreuasant symud y trethoedd hyny a bod, pan ddarfu i Syr Robert Peel fabwysiadu y cynllun o ddiwygio y doll-daflen, pob cam a roddodd yn colli iddo gyfran o ymddiriedaeth y blaid fawr o ba un I yr oedd y pryd hwnw yn arweinydd ac yn weinidog a phan ddaeth at y mwyaf o'r holl nwyddau, sef yd a'ch bara beunyddiol, yna, cwerylasant ag ef yn chwerw a ffyrnig, a gyr- asant ef o'i swydd ac nid oedd gwarthnod na dirmyg, yr hyn na phentyrasant ar ei gymeriad a'i wladweiniaeth (clywch, clywch). Aeth Mr. Bright yn mlaen i'r un cyfeiriad, a phrofodd mai y Rhyddfrydwyr oeddynt wedi rhoddi y bendithion penaf i werin fawr Prydain mewn dilead tollau a stampiau, &c., ac eisteddodd, wedi siarad awr a deng mynud, yn nghanol cymeradwyaeth daranllyd. Anerchwyd y dyrfa hefyd gan Mri. Dixon a Muntz, yr aelodau ereill dros y fwrdeisdref. Cynygiwyd penderfyniad gan Mr. J. S. Wright, ac eiliwyd gan Mr. Thomas, yn diolch i'r aelodau am eu gwasanaeth yn y Senedd, ac yn datgan ymddiriedaeth ddilaesu ynddynt. Cododd Mr. Bell i gynyg gwelliant, yn condemnio ymddygiad Mr. Bright a'i gyd- aelodau gyda golwg ar gwestiwn cynrychiol- aeth uniongyrchol llafur, ond er apeliadau taerion y cadeirydd gwrthododd y cyfarfod ei wrando. "Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Osborne yn nghanol cyffro mwy fyth, yr hyn a derfynodd trwy i gorff in awr y dyrfa ganu "Britons never shall be slaves." Cynygiodd Mr. Power hefyd welliant yn gofidio am anweithgarwch yr aelodau dros Birmingham o barthed i gwestiwn Tichborne, ond gorfu iddo yntau dewi, a chariwyd y pen- derfyniad cyntaf gyda bloeddiadau. Atebodd Mr. Bright mewn ychydig eiriau, a therfynodd y cyfarfod wedi diolch i'r cadeirydd.
[No title]
Ciliodd y rhew a'r eira ysbaid cyn y Nadolig, a daeth gwlaw ac ystormydd yn ei lie.
Advertising
Eisteddfod Gadeiriol Treherbert. OYNELIR yr Wyl Flynyddol uchod yn y PUBLIC HALL, DYDD GWEXER Y GROGLITH, 1876. PRIF DDARNAU. Oen.ldoriaeth-I'r cor, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu "Y Glowr" (Gwilym Gwent), buddugol yn Eisteddfod Tonypandy, 1874. I'w chael gan y cyhoeddwr, I. Jones, Treherbert. Gwobr, 20p, a medal aur i'r arweinydd. I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano'n oreu "Fy Ngwlad" (J. Thomas, Llanwrtyd). Gwobr, lOp. I'r Parti a gano'n oreu Dewch i'r Gàcl" (Gwilym Gwent). Y gerddoriaeth i'w gael gan I. Jones, Treherbert. Gwobr, 2p. I'r hon a gano'n oreu Gyda'r Wawr" (J. Thomas). Gwobr, 10s. 6c. I'r hwn a gano'n oreu Y Bachgen Dewr" (J. Parry). Gwobr, 10s. 6c. Barddoniaetlt- AM y Bryddest oreu ar Gor- esgyniad Palestina o dan Joshua." Gwobr, 5p. a chadair hardd, Rhyddiaeth — Am y Traethawd goreu ar Glanweithdra personol a theuluaidd." Gwobr. 2p. 2s., rhoddedig gan Dr. Rhys. Am y Traethawd goreu ar Gynydd Masnach Cwm Rhondda." Gwobr, lp., rhoddedig gan Mr. W. Evans, Dunraven Arms. Am y Casgliad goreu o Ffraethebau Cymreig. Gwobr, 3p. Bydd y programme yn barod ar y laf o Ionawr, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenyddion. Am y Ddau Englyn Unodl-union i'r Gath." Gwobr, 5s. BEIBNTAITX Y Gerddcrriaeth- PENCERDD AMERICA ac Eos RHONDDA. Y Farddcmiaeth, d-c.—MYNYDDOG. Cynelir CYNGHERDD mawreddog yn yr hwyr. Yr tlw ifynedpt Brif ysgol Cymru. D. P. LEWIS, Dumfries-street, ) v G. M. RKES, Station-street, s°n' 1, 1169 At drigolion Cwmtawe a'r Cylch- oedd. DYMTTNA W. GRIFFITHS, Llyfrwerthwr, JL-f Clydach, hysbysu y gwerthir ganddo y Peirianau Gwni'o goreu. Y telerau yn rhwydd, a phob dysg yn rhad. Anfonir Catalogue yn cynwys y prisoedd a'r holl fanylion ond anfon at W. GRIFFITHS, Bookseller, 1200 Clydach, near Swansea. CASTELLNEDD. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod, DYDD LLUN PASG, Ebrill yr 17eg, 1876. Caniadaeth. 1. I'r.c6r, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano oreu "Thanks be to God," o'r EliUih. Gwobr, 625. 2. 1'r c6r, heb fod dm 60 mewn rhif, a gano oreu, "Mendelssohn's Hunting Song." Gwobr, £10. 3. I'r pedwar a ganont oreu Hold the Fort." Gwobr, 4s. 4. I'r sawl a gano oreu "Wyres Fach Ned Puw." Gwobr, 2s. 6ch.. 5. I'r sawl a gano oreu "Y Ferch o'r Seer." Gwobr, 2s. 6ch. 6. I'r sawl a gano oreu "Bedd Llewelyn." Gwobr, 2s. 6ch. 7. I'r sawl a gano oreu "Maid of Cefn Ydfa," mewn gwisg Gymreig. Gwobr. 5s. 6ch. Offerynol. 8. I'r Brass Band, heb fod dan 15 mewn rhif, a chwareuo yn oreu "The Heavens are Telling." Gwobr, £10.. 9. I'r Drum & Fife Band a chwareuo yn oreu "Selections of Welsh Airs." Gwobr, B3. 10. 1'r sawl a chwareuo oreu, ar yr Harmonium, Men of Harlech." Gwobr, 3s. Adroddiadau. 11. I'r sawl a adroddo oreu "Y Dymhesti Olaf." Gwobr, 2s. 6ch. 12. I'r sawl a adroddo oreu "Y Llong ar Dan." Gwobr, 2s. 6ch. Enwau yr holl ymgeiswyr i fod mewn llaw erbyn dydd Llun, Ebrill 3ydd, 1876, yn nghyd a nifer y cantorion yn y Corau a'r chwareuwyr yn y Bands. 1244 J. JONES, Ysgrif eny dd. Drill Hall, Newbridge, Mynwy. OYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, DYDD LLUN, CHWKFROR 21ain, 1876. Y Ddarnau Cerddorol. 1. I'r Cdr, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano oreu "Hallelujah Chorus," Handel's Messiah. Gwobr, lOp., a Metronome gwerth 2p. i'r arweinydd. 2. I'r Cor, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano oreu Let the Hills Resound," gan Brinley Richards. Gwobr, 4p., a bton gwerth lp. i'r arweinydd. Mae y programme, yn cynwys pob manylion pellach, yn awr yn barod, ac i'w gael am ddwy stamp gan yr Ysgrefenydd, MOSES HARRIS, Newbridge, 1219 Near Newport, Mon. DARGANFYDBIAD RHYFEDD. Gwellaad rhag" y Dropsy. Mawr yw y dyoddef oddiwrth y Clefyd peryglus hwn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyriau meddygol; ond yit aWT, trwy y darganfyddiad hynod hwn, fe ellir cael gwellhad uniongyrcliol oddiwrth B-.)en yn y Cefn, t DJifyg Ðwjr" lf;i V Chwydd yn y Cluniaii, Chwydd yn yr Ymysgaroedd a'r Traed, Diffyg Anadl, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Cariad y Gal on, Gwendid, Gravel, (yr hyn sydd arwyddiou o'r Dropsy,) trwy gymeryd HUGHES'S PATENT D R 0 P S Y PILLS. Un blwch a tjpawf eu rhyfedd effeithioldeb. Gellir eu cael t"'wy uurhyw Fferyllycld yn y Deyrnas am Is I Jc., 2s. 9c., a 4s. 6c. WHOLESALE-Lbnelly: JACOB HUGHES, Chemist and Dentist, Apothecaries' Hall. London: Messrs. Herron, Squire, and Francis Barclay and Sons, Sutton. Bristol: Pearce and Co. These valuable Pills arc Registered at Stationers' Hall, London. Any infringement- will be prosecuted. Un neu ddau, allan o lawer, o Dystiolaethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn:— [A COPY] Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyg- iniaeth effeithiol, o'r enw PATENT DROPSY PILLS; y maent wedi fy llwyr iachau o'r DiiTyg Anadl, Poen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn v Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiff pawb wybod am danynt, fel y'gallont gael iachad. Llanelli, Tach. 10, 1875. D. DAVIES. [A COPY] Trwy gymeryd eich moddion effeithiol chwi cefais fy iachau o'r Dropsy, Chwydd mawr dros yr holl gorff, DifTyg Dwfr, I>e:weh a Diffyg mawr ar yr Anadl, a Churiad' y Galon. Yr oeddwn yn bur annhebygol o wel1a; er cymeryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rhagorol chwi at y "Dropsy, y Gwynt, a'r Grafel," cefais ryddhad. Gwnewch y defnydd a fynoch o hwn.—Yr eiddoch, Llandvbie. R, THOMAS. 1212 Tabernael, Pontardulais. CYNELIR y Bedwaredd EISTEDDFOD FLYNYDDOL yn y capel uchod DYDD GWENER Y GUI.HH/ITH, EBECLL 14, 1876 Bcirniad y Calm-Mr. W. T. REES (Alaw Ddu) Llanelli. /9 PRIF DDARN. "Mor hawddgar yw dy bebyll" (J. Parry). Gwobr, 5p., a Metronome gwerih lp. 10s. i'r Arweinydd. Y mae y programme yn awr yn barod, pris Ie., trwy y post, l|c. HENRY JAMES, Ysg. Upland House, Pontardulais, R.S.O. 1235 Seion, Abercanaid. OYNELIR EISTEDDFOD yn y capel uchod \J Dydd LLUN, EBRILL 3ydd. 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerdd- oriaeth. Barddoniaeth, Rhyddiaeth, Adrodd, &c. PRIF DDARNAU CERDDOROL. 1. I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu "Y Blodeuya Olaf." Gwobr, 8p.. a baton hardd i'r arweinydd. 2. I'r C6r o Blant, heb fod dan 35 o rif, a gano .yn oreu, Follow your Leader or Onward," No. 118, vol. x., April, 1875. Gwobr, lp. 10s. Bydd y programme yn barod yn fuan, yn cynwya enwau y Beirniaid a'r gweddill o'r testynau, ac i'w cael am geiniog yr un, drwy y post, dwy geiniog gan yr ysgrifenydd, JAMES EVANS. 35, Chapel-street, Abercanaid, Merthyr Tydfil. 1232 Tysteb Mr. Gibson, Excise Officer, Aberdar. GAN fod Mr. Gibson wedi ei apwyntio i ddos- parth pwysig yn Ngogledd Lloegr, mewn cyfarfod a gynhaliwyfl yn y George Hotel. Aber- dar, Rhag. 31ain, 1875, penderfynwyd cyflwyno iddo ryw arwydd o barch ar ei ymadawiad fel cydnabyddiaeth am y modd caredig y cyflawnodd ei swydd tra yn Aberdar. Gwneler pob arian vn daladwv i'r Trvsn^,ir? Loid Easlan Inn. cial Street, Aberdar. 1231. H. W. EVANS, VaG.
-.'--.-Free Emigration to…
Free Emigration to Queensland. FREE PASSAGES are granted by the Govern- ± ment to FEMALE DOMESTIC SERVANTS of all kinds, who are at liberty to engage with whom they please at the best wages they can get Wages, £ 25 to ..£50 a year, all found. FREE PASSAGES given to Farm Labourers, whether married or single: Wages £ 30 to £ 50 a year, with board and lodgings. ASSISTED PASSAGES to Mechanics and others on payment of £ 4. Wages as under s. s. Blacksmiths 12 to 14 per day. Carpenters. 12 to 14 „ bhoemakers 9 to 10 Shipwrights 10 to 12 Tabors 9 to 10 Miners, colliers, & e Quarrymen. 10 to jei The above need not want work a single hour. Apply personally or by letter to the Agent General for Queensland, 32, Charing Cross, Lon- don or to Mi W. J. PRESSWELL and Mr. JOHN JAMBS, Crown Hotel, Aberdar or to Mr. OWEN MORGAN, Morgan street, Pontypridd. 1209