Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. DIGWYDDIADAU YR WYTHNOS. Nid oes nemawr i ddiwrnod, wythnos, na mis yn myned heibio nad ydym yn clywed am ryw anffodion neu gilydd, ddydd ar ol dydd. Trychineb ar drychineb fel yn dilyn, Bywyd*u'n dianc fel ar bob mynudyn; I'r mor diddarfod, heb un trai na llanw, Yn ngwlad tywyllwch dudew-gwh.d y meirw. Prydnawn dydd Gwener, ar reilffordd y Great Northern, yn herwydd ystorm fawr o eira, fe ataliwyd gweithrediadau y gwahanol arwydd- ion ar hyd y llinell sydd yn rheoleiddio y gosgorddlu agerddawl sydd yn cludo nwyddau a theithwyr o'r naill fan i'r llall. Rhyw chwech milldir o Huntingdon y saif gorsaf Abbots Ripton, lie yr oedd peiriant a nifer luosog o gerbydau llwythog o 16 wedi derbyn gorchymyn i droi o'r ffordd, er rhoi lie i ger- bydres yn cludo teithwyr i fyned yn mlaen am y brif-ddinas. Cyn iddynt gael amser i glirio y llinell, dyma y brys gerbydres, o Edinburgh, yn dyfod i lawr gyda chyflymder aruthrol, gan redeg i mewn i'r gerbydres 16, ag i wneyd y peth yn waeth fyth, dyma ger- bydres gyfiym arall yn dyfod o Lundain gan redeg i'r chwalfa, fel y mae yn hawddachi dychymygu na darlunio y trychineb. Daliodd un o'r peirianwyr ei afael, er gwneyd cais i atal rhwysg y peiriant, a thorwyd ei law ym- aith yn ddiseremoni. Dywedir fod 13 wedi eu lladd, a' nifer mawr wedi eu clwyfo. Digwyddodd fod rhai o gyfarwyddwyr y Uin- ellau yn deithwyr, ac iddynt ddianc gyda'r eithriad ddarfod i un o honynt dori ei fraich. Nid oes dim yn y manylion yn priodoli es- geulusdod ar ran nob, ni i: Jio'lach na bod y cyutr wvauiauau Leo fod yn ddigon prydlon, a'r arafwch yn cael ei briodoli i ddigter yr ystorm. Daeth cynorthwy buan i fangre y gyilafan, a dywed un hanesydd fod yr olygfa yn arswydol a brawychm. Diangodd Ar- glw-ydd Colville a'r Trafnoddwr Rwsiaidd heb gael un niwed, gan iddynt ddigwydd bod yn un o'r cerbydau olaf; ond, er hyny, cawsant ysgydwad nad annghofiant yn fuan. Dywed un o'r peirianwyr fod yr eira yn disgyn mor drwm fel nad oedd yn bosibl iddynt ganfod y mynegbyst a'r arwydd-freichiau ar hyd yr holl ffordd o ganlyniad, nid yw yn rhyfedd fod y fath wrthdarawiad wedi cymeryd lie, a gallasai, yn ol pob tebyg, fod yn llawer gwaeth, a mwy o fywydau wedi eu colli yn y cythrwfl dychrynllyd. ATALFA AJJ Y PELLEBYR. Ataliwyd y cenadau pellebrol yn hollol xhv/ng L'erpwl a Llundain, fel nad oedd dim gan lochgyn y swyddfeydd i'w wneyd, trwy gydol dydd Sadwrn, ond eistedd mewn tawel- wch a myfyrio ar alluoedd dinystriol y cor- wynt a dylanwad aruthrol yr ystorm. Bernir fod y cyfnewidiad buan wedi effeithio yn ddinystriol ar y gwefrau, a'r cysylltiad wedi y 11 ei gwbl dori mewn amrywiol fanau. Daw y newyddion fod pethuu yn cael eu had-drefnu, A bydd y cwbl oil wedi 011 hadfer yn fuan fel cynt. Gwelir wrth hyn fod dig-on o allu mewn eira a gwynt i roddi taw ar dafuJ y negesydd buan-drwy osod bys anweledig i gyffwrdd a'r gwefr y gall ddweyd "hyd yina, a dim yn mhellach, Mr. Trydan, er cymaint eich buan- dra cyflym." Bu raid gosod o'r neillduy fas- nach o brynu a gwerthu ar y Gyfnewidfa, am nad oedd y cenadau gwefrol yn dwyn i mewn brisoedd y farchnad mewn trefydd a dinas- oedd ereill ag sydd yn dal cysylltiad masnachol &'r porthladd hwn. Bu raid i lawer tordyn ymchwyddol foddloni ar fod yn dawel dydd Sadwrn diweddaf, er cymaint ei awyddfryd a'i raib am farchnata; ac, am wn i, nad priodol dangos iddynt ambell dro fod un mwy na dyn yn llywio yr elfenau, ag yn medru marchog y eorwynt. Gwers arall i feidrolion hunan- ymchwyddol a dyrchafedig i beidio bod yn rhy fawr, a meddwl nad all y byd wneyd hebddynt. Yn y goleuni yna yr edrychaf ar fa.wredd dymchweliadol yr ystorm, a'r cyffro yn mro yr elfenau, y dyddiau ag sydd wedi myned heibio. Y mae mawredd dychymygol ac hiuian- greadigol ambell ddyn yn ei hynodi gymaint fel y gellir yn hawdd ei weled ar bared cym- deithas yn ymfflamychu ac yn arllwys ei lava fel rhyw losgfynydd aruthrol; ond, wrth fyned yn agos ato, ceir nad yw gwres ei ffwrnes ddim b fewn i ddeugain gradd cyn boethed a phobty Betty Gryffudd. Rhaid iddo redeg ei gwrs, a bydd iddo yntau fel ereill gyrhaedd ei ganolbwynt, yn hwyr neu hwyrach. Byddaf i, yn bersonol, yn edrych ar y cyfryw ddigwyddiadau fel yn ddim amgen na chynyrfiadau cyffredin y natur ddynol, pan yn dyoddef o dan ddylanwad siomedigaeth, gan fyned i raddau yn or- phwyllog, ac yn ymollwng i adrodd pethau nas gall byth eu hategu ar gyhoedd gwlad pan yn ei iawn bwyll. NEWYDDION AMERICANAIDI). Yn y nodiadau hanesyddol diweddaf o'r Corllewin ymddengys fod Jonathan am lei- "hau treuliau y Weriniaeth trwy ostwng cyf- i Hogau swyddogion y Uywodraeth mewn gwahanol wledydd. Dygir ysgrif i _mewn o Saeri Ty y Cynrychiolwyr i leihau y treuliau i'r swm taclus o dri chan' mil o ddoleri yn llai na'r flwyddyn ddiweddaf. Y mae y cyflogau i gyd i gael eu gostwng, fel y bydd i'r trafnoddwyr i Brydain, Ffrainc, Germany, a Rwsia, i fod yn bedair mil ar ddeg o ddoleri, gyda'r eithriad fod y Cadfridog Schenck i dderbyn dwy fil a phum' cant o ddoleri yn ychwanegol at dreulia-u penodol sydd yn disgyn arno fel y prif drafnoddwr. Y cen- adon i Spain, Austria, Brazil, Mexico, Japan, a China, i dderbyn cyflog o ddeng mil yn y flwyddyn. Y gweinidogion arosol yn Port- ugal, Belgium, Switzerland, Netherlands, Denmarc, Sweden, Norway, a Thwrci, i gael chwe' mila phum' cant yn y flwyddyn, a'r cenadwr yn Liberia .i dderbyn pedair mil yn flynyddol. Y mae treuliau yr is-genadon yn y llysoedd tramor i gael eu gostwng o ddeu- gain i ugain mil yn y flwyddyn. Ysgrifen- yddion yr amrywiol genadau yn Llundain) Paris, Berlin, a St. Petersburgh, i gael cyflog o ddwy fil, chwe' chant, a phump ar hugain o ddoleri yn flynyddol. Yn China a Japan, tair mil y flwyddyn Austria, Brazil, Itali, a Spain, i dderbyn mil ac wyth cant y flwydd- yn. Is-ysgrifenyddion Llundain, Paris, a Berlin, i dderbyn dwy fil y nwyddyn bob un. Y cenadau o'r America Ddeheuol i gael eu cydgrynhoi er mwyn gwneyd lleihad yn y nifer a thynir i lawr o gyflogau y prif gen- adon yn ol y cyfrif o ddeg y cant. Gwneir i ffwrdd yn hollol a deg ar hugain o drafnodd- wyr, gan osod yn eulle weinidogion arosol, a symudir y Pencadlys Trafnoddawl o Llun- dain i L'erpwl, a phenodir y Trafnoddwr yn L'erpwl yn Benciwdawd ar y .cyfan. Y gweinidpg i Itali i gael gostyngiad i wyth mil yn y flwyddyn, a'r swydd o weinidog i Groeg i gael ei diddymu, gan sefydlu yno is- ,9 drafnoddwr ar gyflog o ddwy fil yn y flwyddyn. Os cymer y mawr gyfnewjidiadau hyn le trwy dderbyn cadarnhad y llywodr- aeth, deuant i weithrediad ar y cyntaf o Orphenaf nesaf. Fe wel y darllenydd gyda hyn fod y cyfnewidiad yn fawr, a gall y bydd yn wers i Brydain er dysgu cynildeb. Cofier mai doleri a olygir drwy y cyfrif uchod, ac mai pob mil o ddoleri yn werth 175p. o arian Lloegr, yn ol cwrs y farchnad hqddyw. Gan fod y fath gyfnewidiadau i gymeryd lie yn nghyflogau swyddogion tramor y weriniaeth, mae lie cryf i gasglu y dygir yr unrhyw wein- idogaeth mewn grym gartref, yr hyn a fydd yn sicr o greu adfywiad yn y wlad mewn ystyr fasnachol. Bid a fyno, ni a obeithiwn hyny er mwyn y dyfodol, er cael y pleser o weled y miloedd yn myned a dyfod fel c/nt. Mae y cyfleusderau teithio ar y mor yn awr yn fwy dymunol a chysurus, ac yn llawer cyflym- ach, a phris y cludiad yn weddol o resymol, pan ystyrjipm y pellder a threuliau y daith. Mae gobeithion y dyfodol yn well nag y gwelwyd hwynt er's amser yn ol, a gwledydd newydd yn ymagor i dderbyn y ffrwd ymfudol. EGLWYSIG. Mae yr Eglwys Gymreig wedi bod am dymhor heb un bugail ar ol marwolaeth yr hen Gymro dysgedig, Mr. James. Y mae nifer wedi bod yn cynyg am y lie gwag o hyny hyd yn awr, a daeth y gynulleidfa i'r penderfyniad o wahodd y Parch. Evan T. Davies, Bettws, Llangynwyd a bellach y mae efe wedi sefydlu fel bugail ar Eglwys Dewi Sant yn L'erpwl. Ymddengys i mi yn Gymro Cymreig o'r iawn argrafliad; a go- beithio y bydd llwyddiant i'w ddilyn yn ei le newydd, ac y bydd iddo wneyd lies yn mhlith Cymry L'erpwl. Deallwyf ei fod yn lienor o safle, yn llawn bywyd dros Gymry, Cymro, a Chymraeg. ANNIBYNOL. Mwy na thebyg fod y gynulleidfa Annibynol yn Grove-street, hen gapel Hiraetho^, wedi rhoddi galwad i John Davies (Ossian Dyfed), a'i fod wedi ateb yn y cadarnhaol. Bydd genyf sylw pellach yn y dyfodol, wedi y deall- wyf yn mhellach fod y peth yn sicr a chadarn- haol. Hyn am y tro.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

Y Ffoaduriaid Oymreig yn Lerpwl.

Gwrthdarawiad Dychrynllyd…

Dowlais. ' ' : owalSo,','

CynrychiolaethSirGaerfyrddin

Y 'Daily Telegraph'.

Ymosodiad ar yr Heddgeidwad…

Family Notices

[No title]

Advertising

LLINELL Y "NATIONAL" I NEW…

. TNMAN ROYAL MAPK JL STEAMERS,…

Advertising

EISTEDDFOD TREFORIS.