Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Cyngherddau y Nadolig yn Aberdar.
Cyngherddau y Nadolig yn Aberdar. ATEBION I CYMRO CERDDOROL, VIOLINCELLOIST AND CO. MR. GOL.-—Gwelaf wrth y GWLADGARWR diweddaf fod dau lythyr wedi eu cyfeirio ataf 'fi; acfel atebiad i "Cymro Cerddorol," yr hwn sydd am i mi gyfieithu a chyhoecldi fy sylw- adau beirniadol ar berfformiad Judas Mac- cabseus" yn Aberdar yn y Liverpool Mercury ■a'r Cardiff Times. Dymunaf ei hysbysu y byddai yn dda genyf gydsynio a'i gais parchus a charedig, pe bai genyf amser, ond yn wir, -dyna un o'r pethau prinaf genyf yn bresenol; ac fel y gall feddwl, y mae tipyn o'm hamser Wedi myned at y pwnc eisoes, ac fel wedi Uadrata amser yr vlf oddiwrth bethau ereill. Efallai y gallwn wneyd hyny yn mhen ychydig, fisoedd, ond wed'yn collid y dyddordeb. Oni ally" Cymro Cerddorol" hwn, neu unrhyw gyfaill arall sydd ag amser ganddo wrth law, wneyd hyny? Byddai yn dda genyf gynorth- wyo. Neu, o bosibl, pe anfonid cais at Mr. T. M. Williams, School Board Inspector, Llundain, gynt o Aberdar, y gwnai ef hyny, gan iddo awgrymu peth felly i mi. Yn y llythyr arall, yr hwn sydd wedi ei ^rwyddo gan "Violincelloist," cyfeirir dau ofyniad i mi mewn cysylltiad a pherfformiad yr Overture o "Judas Maccabseus" nos Lun, :y 27ain o Ragfyr. Y mae arnaf bran "ofn myned at hwn, oblegyd dywed, os na fydd iy atebion yn foddhaol iddynt hwy fel chwar- euwyr (?), pa un bynag a fyddant yn gywir a gonest, yn ol fy ffordd i o edrych ar bethau ''3.\ peidio, y gallaf ddisgwyl thrashing, neu .yn ngeiriau eu cynrychiolydd, "y caf glywed rhagor." Y fath fygythiad meistrolaidd, Olid cowardaidd, a'r fath dal ysblenydd! Beth bynag, gwnaf fy ngoreu i'w boddhau. (I) "A oedd y cellos a'r basses yn wan drwy.yr Overturn i gyd, neu ynte dim ond y nodau a «nwch, sef yr F a'r 0 sharp f' Ateb Dy- niunaf yn wylaidd eich hysbysu fy mod yn teinilo ar y pryd, fod y basses hytrach yn wari -drwy yr Overture; a'r impression adawyd ar iy irieddwl oedd, fod arnynt braidd ofn yr F 'a r 0 sharp, gan na ddarfu iddynt eu cyffwrdd; ° leiaf, ni ddarfu i mi na'r cyfaill ymarferol'a -eisteddai yn fy ochr, ddim eu clywed, ac yr oOeddyrn ar ein goreu yn elustfeinio. Ni ddy- Wedais fod y cellos a'r basses yn wan wrth yr a'r 0 sharp; dywedais eu bod "heb.eu cyffwrdd;' gwel fy llith cyntaf. Mae hyn yn profi nad ydych wedi talu digon 6 sylw i'r ysgrif,-fel ag i ffurfio gofyniad tag, yii codi •^ttaia.1 yi tryn a'di-aethais1 yn frysiog. Ni ddywedais ychwaith eu bod yn annghywiy, canys yr oeddynt heb eu taro; yr hyn a bra wf. Had ydych yn logician, nac ychwaith yn meddu ar graffder cyffredin ein cerddorion Cymreig. l>ar fodd bynag, yr oedd amryw o nodau gwaLlus gan y cellos a'r basses yn nghorff yr Overture, pa rai, mewn ysgrif ,o fath fy a<Jolygiad, nis gallwn fyned yn fanwl ar eu hol; and bydd i ni wneyd hyny eto os bydd galw. (2) "Pa beth a feddyliwch wrth fod y basses a'r cellos yn sigledig ar y syncopated ■notes V Ateb ?Yr hyn oeddwn yn feddwl, gwrs; wrth ddweyd fod y syncopated notes yn Slgledig, oedd yr hyn. draethais, ''a'r hyn a eglurais fwy nag unwaith yn nghwrs fy ysgrif, oeddech yn ddigon sefydlog a chadarn ae mae eich profiad fel chwareuwyr wedi .Qysgu i chwi, ond odid, fod yn bosibl i nodau ^ylymedig, oddieithr iddynt gael eu dal allan Yn sefydlog a didor, fod yn sigledig, a chy- nyrchu effaith siomedig, ac hyd yn nod andtvyo Phrase ddigon effeithiol o'i chanu neu ei cWareu yn feistrolaidd. I focldhau cywrein- tVrydd, efallai y dontgyda fi "am fynud dros fan neu ddau. Dyna'r G, rhan ol;t,f o'r mesur cyntaf, pa nodyn a gydir gyda'r dotted quaver, ^nriad 'cyntaf o'r ail fesur oni Pddylai hon. gael ei dal allan ? os na, syrthia yr E flat, A, Ú, rhanau uchaf, 6, 4, 2 ar G, ar bob clusfc, -^yfarwydd gydag effaith eiddil a. siomedig. ^yna'r cordiau sylfaenedig ar y nod arweiniol 1 C. leiaf, B roaturiol; a oes posibl i'r glust ■§ael ;ei boddhau gyda'r cord (5, 5, heb i'r ^°Uncellos, E uasses 'ddalaYn 'sefydlog ar y nod Sydiadol ? Yn ystod yr amser'y bydd y sain glYnredig yn c,tel ei gollwng, iV/'hail gydio ar rtrydydd curiad o'r mesur,^collir effaith yr ^■nnghydsainjiwe, Fnatnriol (violins), achollir. efyd bryclferthwch y suspensions toddedig nghanol y siomiant. Yn nes yn mlaen, J^di hyny, yn yr allegro, teimlais braidd yn igQfus am dro, na. buasai y cyfeillion yn legato a sustained i mi gael mwyrihau ^nughydgordiad B C, E naturiol, 2 eto,. gwel 116, 117 a dyma engraifft ''Vti^opaiion k suspension yn yr un man., dichon, yn y ddau fan arall a enwyd, y j Uasai y geiriau suspension chords, neu Iwldi'tig yn fwy eglur; ond nis gallwn ddweyd y 1 ttxewn cyn Ueied o amser a lie.' yr Kyn a ysgrifenais dan yr enw ttlilabycldir fi gan y mwyafrif yn Nghymru, t lC?on pe cyfeirid y gofyniadau_ hyn i mi dan enw adnabyddus, y cymeraswn gwrs gwahanol i'w hateb; ac os na fydd hyn o eglurhad yn foddhaol i'r cwmni a gynrychiolir gan "Violincelloist," bydded hysbys iddynt na fydd i mi wneyd sylw o ddim a ddywedwch, oddieithr iddynt gydsynio a'r pethau canlynol: (1) Rhaid iddynt fod yri foneddigaidd; (2) Rhaid i'r peth a ddywedant fod ar y pwnc (3) Rhaid i mi gael enw neu enwau priodol y Violincelloist" & Co. Os felly, dyma eich ufudd a'ch gostyngedig wasanaethwr at eich gwasanaeth.-Ydwyf, yr eiddoch yn rhwymau cariad a chan. W. T. REES. (Alaw Ddu). •
Guilelimus a'i Suddas-glychau…
Guilelimus a'i Suddas-glychau (Bubbles). rhad o'r Iihifyn diweddaf, Yn wyneb yr hyn a ddangoswyd yn ein erthyglau diweddaf, sef mai o'r Ynys Wen (a hyny mewn cysylltiad a thaeniadyrtemlau ambawr a'u Barddas gyfrin mewn rhyw gyf- nod boreuol iawn) yr aeth y meddylddrych" am ein Hu triphlyg, am y Dduwies driphlyg, ac am enecflgaeth a threngiad Hu'r Goleuni ar y trawst yn lachawdwr y byd, &c., yn gystal a'r meddylddrych hwnw hefyd am Hu yn ymgnawdoli yn mherson y Gwyddon i fod yn Hu yn Nghnawd a mab y For-wen &c.— ïe, mai o'r Ynys Wen, gwlad gyntefig y teml- au cylchog, yr aeth y meddylddrychau hyn ar y cyntaf i'r Dwyrain, ac i Hu, neu Hes, wedi hyny dan ei wahanol deitlau ar wahanol bynciau y Sidydd (Zodiac) gael ei ddwyfoli yno, a'r Dduwies Morgwen yn yr un modd, nes myned eu henwau yn ganoedd yn y gwahanol ieithoedd, a chan y gwahanol ddos- barthion: 0 ddynolryw, trwy yr holl wledydd oddiyma draw i'r Phillipine Islands, China, a Japan, a hyny rhyw oesoedd diwybod, fel y mae yn awr yn brofedig, cyn yr amser dywedir i Abram, chweithach Moses, a Joshua, fodoli yn hyn o fyd—ie, medclai, yn wyneb y drych aruthrol hwn o hynafiaeth, mae haeriad Guilelimus "Mai o'r enw 'Osia' gyda'r Iuddewon daetll yr enw Hiesous gyda'r Groegiaid" yn ymddangos yn llipa iawn, gan brofi bod ei wybodaeth mewn hynafiaethau a chyfrinddysg, yn gystal a'i wybodaeth ieith- yddol, yn. llawer rhy fychan i'w alluogi i roddiallan farn o unrhyw werth ap-yfath bwnc, fel y cawn ddangos. yn jeglurach wrth fyned yn: mlaen. s Yn mhellach, fel y golygai Barddas y Meini Hu a Morgwen yn riaint cyntefig dynolryw, felly wedi dwyfoli Hu yn ei wahanol gymer- iadauatheitlau yn amryw dduwiau, aeth y thai hyny i gael eu liystyried yn dadau dwyfol gan y gwahanol.ddosbarthion o ddyn- olryw a'u haddolent, a Morgwen, hithau, dan ei gwahanol deitlau, yn fam ddwyfol i'r cyfryw. Ond mewn amser diweddarach, darfu i ffug-haneswyr, oherwydd. tybie o lidnyntmai dynion o'r dechreuad, wedi eu dwyfoli, ynsicr ddigon, oeddyduwiau uchod, eu troi yn ol i fod yn ddynion, a'u rhoii fod yn dadau dynol i'r cyfryw ddosbarthion; a dyna roes ddechreuad i'r hyn a dybir yn batriarchiaid y cynfyd, a chyndeidiau braidd pob dosbarth o ddynolryw, neu genedl, fel eu gehvil": A gailwn feiddio dywedyd mai dyma y fath gymeriadau a pha rai y gwnawd i fyny arglwydd-dadau y cynfyd gyda'r Ar- iaid a'r Phoeniciaid, a chyda'r Iuddewon yn llyfr Genesis, ac hyd yn nod y cyndadau gawri yn y lOfed benod, ac yn mlaen wedi hyny. Mewn gair ceir gweled yn y llyfr newydd sydd yn awr ar gael ei gyhoeddi, nid yn unig y gwirionedd o hyn, ond hefyd bod yr holl chwedl am Ardd Eden ac Adda a'i dri mab, a'r holl chwedl am y dylif, a Noah a'i dri mab, wedi eu dirwyn o Farddas y Meini, pan oedd hono wedi'ei mawr lygru yn y Dwyrain; lie ceir gweled hefyd wrth hyny bod hen Farddas y Meini dan wraidd, ac yn bodoli oesoedd diwybod o'r tu ol i'r Farddas Iuddewig, a phob Barddas Ddwyreiniol arall. Yna, wedi dynoli y ditwiau, fel y gwnawd gan ffug-haneswyr, tdaeth eu henwau i gael eu rhoddi yn gyffredin iawn ar ddynion, fel y cawn mai rhai o'r enwau perthynol i Hu a'r dduwies Anian—ond yn fynych wedi eu llygru—yw llawer iawn o'r enwau sydd wedi bod mewn arfer ar wrywaid a benywaid, er cyn pob gwir hanes, trwy yr holl wledydd oddiyma i'r India. 90 Yr oedd yr enwau Said-wrn, Haul, Ad-on, I-A-0 = /| a Hu Adeiniog, ag oedd yn Marddas ar Hu, gan yr Iuddewon ar eu Duw sef, Shad, El, Adon, • Iahoh, a Chemosh. Ond ni chawn fod yr enw Hu arno ganddynt hwy ond yn gyfansawdd yn enwau dynion megys yn Jesse, Jesiah, Isaiah, Esay, Isaac, Israel, "&c., a chawn yr enwau ereill ar Hu, megys El, Adon,'Ialioh, &c,, yn gwn'eyd i fyny ran o enwau dynion" yn ami ganddynt; ond mai rhai o'r duwiau wedi eu dynoli i'w rhoi mewn nug-hanes yn gyndadau iddynt eu hunain ac er.eill, y 'cawn fod y rhai hyny yn fynych, yn eu barddas hwy. Arferodd yr awdwyr Iuddewig lawer o'r ystranc (knack) o 'ddefnyddio enwau rhyw gymeriadau dwyfol a barddonol a, fyddent yn anrhydeddua yn nghyfrinddysgy Dwyrain, i'w personoli yn ddynion a'u rhodcli i fod yn liynafiaid o'u c'enedl eu hunairi, gan droi y chwedl am danynt i ddull hanes lytliyrenol, a dinystrio, wrth hyny, yn llwyr athroniaeth wreiddiol pob cyfrinddysg y rhoddent eu dwylaw arni. Fel hyay y gwnaethant a'r cymeriad Ohalde- aidd Ab-Ram, fel y. cawn ddangos, efallai, os cawn fynod yn njlaen ar y GWLADG^RWE.. O'r un fath, ddefnyddiau y gwuaethailt atleu-, ddeg mab Jacob, Moses, ac Aaron, a Joshua; ac hflfyd eu hadroddiadau am y tri llanc, ac am Jonah, &c. Nid oedd Shadrach, Mesh- <tch. ac Abednego, fel profa eu henwau a'r- chwedl am clanynt, ond Plennydd, Al'awn, a Gwron, Barddas y Meini, ag oeddent wedi eu dwyfoli yn dri duw gyda'r Babiloniaid, am ba rai y dysgid eu bod yn disgyn bob diwedd blwy^yn i'w rhostio yn mhair A- fagddu, ac yn ldyfod allan ar foreu cyntaf y flwyddyn newydd heb yr efnyn lleiaf o'u llewyrch neu eu gwallt wedi ei ddeifio. Ar- wyddai Shad-rach dduw y Saicf, sef Plennydd o Hefin, y Cenhedlydd neu'r Creydd, ac Ar- glwydd bywiolion. Meshach oedd Alawn, neu Hu Dad o arwydd yr Hwrdd, yn Eilir. Daw yr enw o Mesha, h.y., hwrdd, yn y Persaeg a'r Sanscrit. Rhoddid i'r duw hwn ben hwrdd. Abednego, nid oedd hwn ond Gwron; set Hu neu weinidog y goleuni, gan- edig yn ArAan. Y tri phaladr hyn yn nghyd a wnaent ddull y pedwarydd arwyddlun, sef yr hwn elwid hefyd Mab Duw. Hefyd, nid oedd Jonah, fel y profa ei enw, a'r holl chwedl am danp, ond Colomen Euraidd a dwyfol y Babiloniaid a'r Assyriaid. A beth oedd y Golomen ddwyfol hyny ond Hu'r Goleuni, sef /f\ yn cael ei arlunio yn eu temlau ac ar eu banerau trwy dynu llun yr Haul, a rhoddi iddo adenydd colomen, ac am yr hwn Hu'r Goleuni y dysgai Barddas (a'r un modd y Babyloniaid am y Golomen) ei fod yn disgyn bob blwyddyn i groth y Forwyn Ddu o for Anwn, i'w adeni oddiyno ar foreu v trydydd dydd, neu y cyntaf o'r flwyddyn newydd, yn Air Duw at drigolion y byd. MYVYR MORGANWG.
SHON CARDI A CHWM RHONDDA.
SHON CARDI A CHWM RHONDDA. MR. GOL.Yn ol eich hynawsedd arferol, y mae genyf ychydig nodiadau i'w gwneyd ar lythyr Shon Cardi, yr hwn a ymddangosodd yn y GWLADGARWR am y 7fed cyfisol. Nid yw Shon ya. cydweled a lluaws o eglwysi, gweinidogion, diaconiaid ac aelodau y gwa- hanol enwau yn Nghwm Rhondda, am nemawr i ddim daioni y mae y corff lluosog hwn yn ei wneyd, orid y mae ei lythyr yn orlawn o gyhuddiadau ac achwyniadau. Dylai yr ys- grifenydd hwn gofio fod rhai dynion yn gweled yn gam, ac ereill a golwg fer gan- ddynt, ac felly yn eu hannghymwyso i roddi barn gywir ar wahanol achosion y dylid bod yn ofalus cyn rhoddi barn arnynt. Cymera Shôn, yn ganiataol, dybiwn, bethau ddylai fod iddo yn ffeithiau profadwy. Wele i ddechreu, ddarllenydd, rhai o'i eiriau drwg- dybus yn erbyn yr egIwysi ;Ni ddylid tynu i lawr adioldai gweddua a chostfawr er mwyn adeiladu rhyw gestyll mawreddog a xhwysgfawr er boddio opiniynau uchelgeisiol hogiau. dibrofiad sydd yn chwenych eu gogon- iant eu hunain yn fwy na lleshady cyhoedd." A ydyw yn debygol, fod eglwysi wedi gweithredu mor- fyrbwyll, plenty naiddac an- nheilwng yn y mynedo11 ac a yw yn debygol y gweithreda ereill felly yn y dyfodol? er boddio bechgynach dibrofiad a beilchion. Ily Na, tybiwn yn ddibetrus fod y fath gyhudd- iad yn hollol amddifad o seiliau cynaliol, yn gystal a bod yn--holloLgroea i gommon sense. Yr.ydym mewn cysylltiad ag eglwys yn Nghwm Rhondda sydd newydd ddyfod drwy y gwaith o helaethu ei chapel ar raddfa eang iawn. Gwyddom fod. y pryder a fu mewn cysylltiad a'r fath' Ahtufiaeth bwysig wedi bod:-yn achos i'r gYreinidog, y diaconiaid, ac ami un o'r aelodau wybod yn brofiaclol beth oedd colli mwynianau cwsg am lawer noson, ganfynwes bryderus athromlwythog o ofalon. Diau fod eglwysi y saint a ymgymerant a'r fath orchwyl, yn dra chyffredin yn gwybod hefyd am y gofalon trymion a phryderussydd yn ngiyn a'r cyfryw. Felly, tybiwn ni ar dir rheswm a chyfiawnder, nad oes dim llai nac ymwybodolrwydd o ddyledswydd yn ngwyneb cynyd4 y gynulleidfa ac anfantcision yr hen adeilad, yn peri i unrhyw eglwys i ymgymeryd a'r fath gyfrifoldeb gorbwysig. Eto, cyhudda "lawer o weinidogion y gwa- hanol enwadau o fod mor brin eu cefnogaeth i'r gymdeithasragorolhon," sef Temlyddiaeth Dda. A yw Shon Cardi mor arwynebol ei wybodaeth o'r weinidogaeth, fel y myn fod gan y gweinidogion ddigon o amser i'w heb- gor i gefnogi a rhedeg ar ol pob symudiad dynol fyddo yn y Dywysogaeth. Meiddiwn ddweyd fod gan bob. gweinidog da i lesu Grist lon'd ei ifreichiau o waith yn ymgodi yn uniongyrchol o'i swyddbgaeth, heb ymyr- aeth rhyw lawer a dim arall. Dywedwn air bach yn mhellach wrth Shon ac ereill, pe byddent ychydig yn llai eu stwr gyda phethan dynol, ac ymdrechiY yn fwy aiddgar dros y Beibl a. gwasgariad ei egwyddorion, yr hwn yn unig yw safon moesoldeb a chrefydd, nid hir y buasai ein cymoedd a"n dyffrynoedd cyn "blodeuo fel y rhosyn ac fel gardd yr Ar- 1 glwyld mewn moesoldeb. Y cyhuddiad nesaf sydd yn erbyn crefydd- wyr y Cwm yn gyffredinol, ac yn jueillduol y teuluoedd crefyddol ag y bu ef. yn lletya yn- ddynt yn ystod ei arosiad yn y lie, Bu yn llfitva mewn amrvw fanau yn y Cwm, ond bob amser yn mhlith teuluoedd crefyddol, acetö i gyd ni fu y ddyledswydd deuluaidd yn'cael erharfer yn un o'r teuluoedd crefyddol hyny gymaint ag un tro, ar unrhyw adeg. 's yw hyn yn wir am y cyfryw deuluoedd, ac hefyd, i raddau mawr, am grefyddwyr y Cwm yn gyffredinol, y i;nae yn rhaid fod diffyg dybryd yn bodoli. Dylai crefyddwyr y Cwm yn, gyffredinol, a'r teuluoedd y cyfeirir atynt yn neillduol, gymeryd yr awgrym a diwygio." Ond, paham y bu y cyfaill hwn mor gywil- yddus 6 esgeulua 111 nghyflawniadei ddyled- swydd ei hun tuagat y cyfryw deuluoedd, ac eraill, yn ystod ei arosiad yn y lie? Yn sicr, a dweyd y goreu am dano, rhaid ei fod wedi bod yn was anfnddiol i'r eithaf, oblegyd nid y'ni yn cael ar ddeall ei fod ef wedi gwneyd un ymgais i effeithiu diwygiid mewn janrhyw fan, nac yn unrhyw f odd. '1 Eto, cyhudda ysgolheigion yr Ysgol-Sul o fod yn dduwinyddion ysgeifn a diffygiol. 'Sail y cyhuddiad hwn yn benaf, yn rigwyneb ei lythyr dybiwn, yw, nad yw duwi'nyddiaeth yr llyfforddwr, &c., yn cael ei dysgu a'i derbyn wior gyffredinol. ag y dymunai e;, ynl Y Cwm. Nid wyf am ddweyd dim yn erbyn yr Hyfforddwr, mwy na rhyw lyfr diffygiol arall, ond fod ol bysedd duon sectyddiaeth arno, fel ein llyfrau duwinyddol yn gyffredin. Paham na fuasai yr ysgrifenydd hwn yn hytrach yn ein cynghori i efrydu prif gorff a phrif lyfr duwinyddol yr oesau, sydcl yn cynwys duwin- yddiaeth iachus ar holl bynciau athrawiaethol ygrefyddabrofFeswn, sef y Beibl? Y cyhuddiad olaf y sylwn arno yw "Nad oes yn y dyffryn yr un cenadwr cartrefol o gwbl." Syndod byd Dyffryn sydd a'i addol- I dai yn ddwsinau, a'i weinidogion yn llu mawr. Pob cyfleusdra i bob enaid glywed Gair y Gwirionedd a byw; yn hytrach, cymheller paganiaid gwlad Efengyl i ddyfod i foddion .Y gras, sydd yn cael eu cynal yn ymyl eu tai. Y GANMOLIAETH. Gair neu ddau ar yr hyn sydd ffafriol. Yn ol Shon Cardi, prin iawn ydyw rhinweddau crefyddwyr Cwm Rhondda, ac y mae yr an- nghrefyddwyr yn gyfranog o'r ganmoliaeth yn .Y ogystal a chrefyddwyr. Ceir yma gantorion medrus a doniol, &c.; ysgolion dyddiol llewyrchus dros ben; yn nghyd a chyflawndero gyfarfodydd cystad- leuol ac eisteddfodau." Gan nad oes dim neillduol yn galw am sylw yn y brawddegau hyn, awn heibio, gan fod ein hysgrif yn myned yn faith. Ein gweinidbgion, eto:— Yr ydym wedi cael o bulpudau Cwm Rhon- dda rai o'r pregethau goreu a glybuodd dyn erioed. Bravo, onite I Canmoliaeth uchel i'r eyfryw weinidogion o ran gallu meddyliol a thalent i gyfansoddi, ond eithriadol yw; am hyny, nid oes fawr pris arni; gan fod y fath weinidogaeth uchelryw yn amgylchynedig a, diffygion ar bob tu. Un diffyg o du y gwein- idogion yw, jiad ydynt yn ymdrechu o blaid Temlyddiaeth Dda, ac felly, y mae meddwdod yn atal dylanwad y weinidogaeth. A ydyw y meddwon yn dyfod yn yr agwedd hono i glywed yr Efengyl? Os nad ydynt, nid ots synwyr mewn ysgrifenu brawddeg felly. Diffyg arall, am fod cyhoeddad yr Efengyl yn gymysg â. llawer o swn. Pa swn tybed ? Buom yn meddwl am swn y babanod ddygid ar fynwes eu mamau, ond fe allai at yr hen hwyl Gymreig" y cyfeiria, a'r "hen Amen" fcwynol sydd wedi nodweddi y weinidogaeth yn Nghymru, er bod wedi cilio ormod o raddau yn bresenol, mewn rhai manau. Os fellyj yr ydym yn cael lie cyfreithlawn i amheu cywirdeb y Shon Cardi hwn; oblegyd y mae Cardies cywir yn hoff iawn o'r hen hwyl Gymreig. Dichon nad yw yr ysgrifen- ydd hwn, wedi y cwbl, ond un o epil luosog yr hen Ddic Shon Dafydd gynt. Wel, ddar- llenydd, onid ydym yn cael lie i synu at yr ysgrifenydd hwn, wedi treulio tair blynedd yn y lie, i lygadu a beirniadu ar grefyddwyr Cwm Rhondda, ac eto i gyd heb wneyd yr un ymdrech i'w diwygio; orid, wrth ymadael, yn casglu yr holl ddiffygion, a'u troi yn gyhudd- iadau o'r fath fwyaf gwrthun, a'u cyhoeddi geT bron y Dywysogaeth. For shame, a dweyd y lleiaf. Wrth detfynu, meiddiwn ddweyd fod yn mysg gweinidogion, diaconiaid, ac aelodau Cwm Rhondda y cymeriadau godid- ocaf, y talentau dysgleiriaf, a duwioldeb holl6l ddiamheuol.—Hyn, yn ngwyneb haul a-Uygadgoleuni. DINESYM) O'R DiNAS.
NEUADDGYHOEDDUS I LANSAMLET.
NEUADDGYHOEDDUS I LANSAMLET. FONEDBIGION HYNAWS.—Nid oes yr un adeilad eang a chyfieus yn ein plwyf heblaw y^capeli a'r yagÖldai sydd yn gysylltiedig at cyfryw. Onid ydym yn llwm iawn am nad oes genym adeilad i'r perwyl o gynal cyng- herddau ac eisteddfodau heblaw y lleoedd a nodwyd ? Y mae y capeli yn rhy gysegredig y Ily i gynal y cyfryw ynddynt, ac y mae yr ysgoldai yn eiddo enwadol ac yn rhy fychain ac an- nghyfleus i gynal rhai a dalai y draul. Nis gellir eu cael bob amser chwaith, gan y gwn am un gyfrinfa wedi gorfod myned i dafarndy o eisiau cael un at ei gwasanaeth. Yr ydys wedi gorfod myned i Abertawe i gynal eis- teddfod hefyd am nad oedd yr un lie yn y plwyf. Byddai yn welliant mawr pe yr adeiledid Neuadd Gyhoeddus ac anenwadol mewn rhyw fan canolog, lie y gellid cynal Cyfrinfaoedd ac Undebau yn lie tafarndai. Gellid cael un deilwng ac anrhydeddus gydag ychydig o ymroddiad. Telir haner cant punt neu ychwaneg yn fiynyddol am gynal cyfrin- faoedd yn ein plwyf. Beth pe byddai y gwahanol gyfrinfaoedd yn cyduno i dalu rhent am ychydig o ilynyddau yn mlaen tuag at gael adeilad o'r fath, a gofyn ewyllys da ereill tuag ato. Yr wyf yn gwybod fod ugeiniau yn barod i gyfranu ac yn dyheu am gael gwneyd. Hyderaf y bydd i'r cyfrinfaoedd a blaenowaid y bobl yn y gwahanol gapelau gymeryd y mater dan eu hystyriaeth, a phenderfynu ar bwyllgor i ddwyn y peth i weitlirediad ar unwaith. Carwn glywed barn y gwahanol eglwysi ar hyn.—Yr eiddoch, 1. B.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD GADEIRIOL,…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD GADEIR- IOL, TONYPANDY. ,FONEDDIGION.Mae y si ar led eich bod yn methu dyfod i gyd-ddealldwriaetn a'ch gilydd yn nghylch arian yr eisteddfod uchod, a bod rhai o honoch am ranu yr arian rhyngoch fel pwyllgor. Onid oedd rheolau y pwyllgor uchod yn dangos, os elw a wneyd o'r eisteddfod, eich bod yn myned i adeiladu Public Hall yn y gymydogaeth ond hyd yn hyn, nid ydym wedi clywed un gair o son am danoch. Gwy^ddom fod y Llwynypiaid yii gweithio yn egniol iawn i gael Public Hall, a gwyddom fod genych chwithau 120p. yn y Banc, o elw yr eisteddfod hono, am' hyny paham na ddeuwell allan fel un gwr i gynorth- wyo eich brodyr, yn hytrach na galw cyfar- fodydd yma ac acw i ddwrdio y naill y llall. Mae: y byd yn gwybod fod rhai o honoch yn" ddynion atrirylithgar a Ilaturils, ac yn dclynion cymhwys i weithredu gyda mudiadau o'r fath; ond gresyii o beth y<Iy w eich gweled yn gwar- grymu dan enllibau ieuenctyd dibrofiad sydd' yn eich mysg. Ymddengys fod rli^i o honynt wedi. pyuieryd eu shares yn ol, ac .ereill wedi eu gadael yn nwylaw, y pwyllgor, yn rhanol os nad yn gyfangwbi; yn awr, dymunaf ofyn f i chwi a oes vote gan y rhai a dynasant yn ol ? Os nad oes cynghorwn chwi i alw cyfarfod o'r pwyllgor diweddaf mor gynted ag y galloch, agobeithio y cawn eich penderfyniad yn fuan. —Yr eiddoch, DARLLENWR.
YR HYN NA WNAWN PE BAWN YN…
YR HYN NA WNAWN PE BAWN YN FEIRNIAD. MR. GOL.-Pe bawn yn feirniad, wnawn i ddim "llunio bai lie na bydd." Y mae yn ddigon i'r ymgeisydd ei bechod ei hun, heb gael eiddo neb arall ar ei gefn. Wnawn i ddim condemnio y bastarddair "treialon" heb betruso, am fod Eben Fardd wedi ei ddefnyddio: "Ar awr y treial fel arwyr Troia." Wnawn i ddim sicrhau fod y llinell ganlynol yn cynwys "rhy debyg": Troai 'i fywycl at natur fywiol." am nad yw yr "y" yn bywyd yn gyfsain ag "y" yn bywiol. Wnawn i ddim dweyd fod y ddwy linell ganlynol yn wallus mewn cynghanedd: Yn nhrymder gerwinder ei rIm." Mae 'n iach i waith-inae yn ei choL" Wnawn i ddim sylw o'r ddwy "n" yn nechreu y llinell hon Yn nefol irder ei thirfiol ardeb," am fod y ddwy yn toddi yn eu gilydd, a thrwy hyny nid oes "n wreiddiroll" yn y llinell. Wnawn i ddim gosod "tyn ateb d," na ",d yn ateb t," ar gyfer un o'r llinellau can- lynol: Ond difianodd d^vyfol wenau." "Ond da gred yn ng\Vaed y Groes." "Ond dedwydd yw'r credadyn." "O gariad I>uw ar asgre der." "Yn ei Jig rhodd hwn." t am mai dim oud deddf goddejiad sydd yn cyfreithloni yr arferiad o osod dwy d i ateb t, fel y goddefir i ddwy g ateb c, a dwy b i ateb p, &c. Felly, fy rheol i yw hyn,-Os bydd t yn nechreu llinell, yr wyf yn dweyd ei fod yn oddefol i osod dwy d i'w hateb yn niwedd y llinell; yr un modd os bydd dwy t yn niwedd y llinell, yr wyf yn dweyd ei fod yn oddefof i osod dwy d i'w hateb yn nechreu y llinelL Ond os bydd dwy d yn nesaf at eu gilydd yn nechreu neu yn niwedd llinell, nid wyf yn credu fod yn ofynol cael t i'w hateb. Y mae. yr "Y sgol Farddol yn gadarn wrth fy nghefn ar y pen hwn. Mewn gwirionedd, nid oes neb o'n prif feirdd yn caethiwo eu hunain i osod t i ateb dwy d, &c.; ac nis gwn ond am ddau feirniad sydd yn gofyn am hyn, sef Robin Ddu a Rhydderch ab Morgan. Wnawn i ddim condemnio y gair pleser- au fel llygriad o pleasures, heb gondemnio "cwerylon" fel llygriad o quarrels, a. themtasiynau" fel llygriad o temptaiiwus, yn enwedig os byddai y geiriau hyn yn yr un feirniadaeth. Heblaw hyn, y mae yn beth sicr ei bod yn rhy ddiweddar i alltudio y gair melus pleser oddiar dafod y Cymro. Wnawn ni ddim breuddwydio fod coll d'* yn y llinell hon :— u r. :.■> A gwyd o dybio marw'r gydwybod," am fy mod yn sicr ei fod yn cynwys cynghan- edd sain gywir. Wnawn i ddim dweyd fod "collr" yn y llinell a ganlyn chwaith :— O'r fan mae yn cywrain fyned," am fy mod yn gweled cynghanedd lusg ynddi heb gymhorth 'spectol. Wnawn i ddim meddwl am ddweyd fod rhy debyg yn y ddwy linell ganlynol: I ganu'n liafan y Ganaan nefoL" Yn wefrol yn fy nwyfron," Y maent yn rhy "annhebyg" i linellau gwallus. Wnawn i ddim o fy llw fod rhy debyg yn hon hefyd Yn fyw o waeau gwna'r gwin adfywiol." Ond os ydyw yn "rhy debyg," y mae cynghan- edd lusg ynddi wed'yn. Wiiawn i ddim haeru fod llawforwyn 7'0rw Hoenus Duw yn mynwes dyn; Dyma fydd annedwydd nôd," yn "lleddf a thalgron," am fod ein prif athrawon barddol yn methu cydweled ar y pen hwn mewn cysylltiad a'r geiriau yn yr fenghraifft uchod. When doctors disagree, Disciples then are free." Wnawn i ddim ddweyd fod cyfansoddiacl yn ddiwall o ran cynghanedd pan fyddai llinellau fel hyn ynddo: I Ag ael lion i siglo llaw," "I'w Arglu ydd mewn peryglon." Wnawn i ddim credu am eiliad fod y llinell hon yn wallus mewn cynghanedd Ar dro i siarad a'r seren," a minau yn gweled ei bod yn cynwys yr un gynghanedd a'r llinell a ganlyn "Draw P.'r erydr yr arant," sef enfhraiffc Dafydd Morganwg o "groes o ddwbl gyswllt." Wnawn i ddim condemnio llinell o eiddo neb, os byddai mor gywir a'r un a fyddwn i wedi ei gosod fel esiampl. Wnawn i ddim bod mor felldigedig o fanwl a rhai o feirniaid yr oes oleu hon." ';¡ DYSGYBL.
EISTEDDFOD TREFORIS.
EISTEDDFOD TREFORIS. MR. GOL. Yn' y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR, y mae rhywun yn ceisio cof- nodi hanes, yr eisteddfod uchod, ac yn gadael allan un rhan o dair o waith y dydd heb son am dano, am ba achos nis gwyddom. Dichon mai byrdra ei amser, neu rywbeth arall; efe sydd yn gwybod oreu. Dylasai grybwyll fod Mrs. Hughes, Ynystawe, yn beirniadu y 1-1 gelfyddydicaith; fod yma gystadleuaeth ar- y cWd goreu i osod y brif wobr ynddo; fod chwech. o i? pethau tlysion hyn wedi dyfod i law, ac iddi hi ddyfarnu y wobr i Miss Morgan, Clydach, a rhoddi haner-coron yr un i Mrs. Roberts, Woodfield-street, Tre-