Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Cyngherddau y NadoJig yn Aberdar.'
Cyngherddau y NadoJig yn Aberdar. JUDAS MA CGABJE US. ADOLYGIAD BEIRNIADOL GAN ALAW DDU. Parliad o'r llhifyn diweddaf. PASIWYD heibio Rhif. 53, Air-" Father of heaven," er ei fod i lawr ar y program gyf- erbyn ag enw Mr. Lane pahsm hyny, nis gwyddom y mae yn un o'r solos mwyaf tyner a melodus yn y gwaith, a chawsem, pe cenid ef, fantais i glywed a datgan ein opiniwn am y tenor yn y dymuniadol, y tyner, a'r pathetic, fel yn y cryf a'r arwrol. Felly hefyd y Recit. dilynol, ond cawsom y Recit. 55 a'r Air, So shall the lute and harp awake," gan Miss Duval, mewn dullwedd hynod o foddhaol. Y mae ei llais ystwyth a'i ddull cryno a di- wastraff, yn ymddangos yn fwy cyfaddas i osod allan syniadau ysgafn a chwareus, na meddyliau dwfn ac eangfawr. Gogleisiol i'r eithaf oedd y strings yma. 'Doedd dim yn neillduol yn natganiad See, the conquering hero comes" fel trio, o leiaf tharawodd dim ni felly. Yr oedd y caniad yn rhy wasgaredig, a'r effaith ar y cyfan yn rhy wag ond efallai mai ein cydnabyddiaeth ni a'r darn oedd yn achosi hyn. Ond yr ydym yn sicr fod y lleisiau yn dcliffygiol inewn cydymdeimlad, ac yn y cydymdoddiad hwnw sydd yn anheb- gorol i gynyrchu effaith mewn dernyn feX hwn. Disgwyliem fod rhan yr alto, yn y "■ o «/ w v dull cyntaf o gyfleu y drychfeddwl sydd yn groundwork i'r gynghanedd yn fwy llawn a chyfoethog, gan mai contralto gymerai ypart, Yr oedd y llais, er yn fresh, yn rhy fachgen- aidd, teneu, a llym, Or braidd y gallodd scrabin yr A's a'r G's-nodau ddylai fod yn afaelgar gan bob contralto. Ond dyna, pa'm awn i fanylu fel hyn ? Nid fel contralto yr ymddangosai, ac y mae melody a thrill yn llais yr eneth fywiog a gwasanaethgar y siaradwn am dani. Os nad oedd y part yn ei tharo, nid ei bai hi oedd hyny. Melodus a deniadol oedd y movement fel cydgan ddwy- ran, yn gymysg a chrychleisiau y flutes. Ond hynod o darawiadol a mawreddog oedd taraw- iad a gweithiad y full chorus gan y cor, ac yr oedd hwn yn climax gogoneddus i feddyl- ddrych hapus y cyfansoddwr; a phaham rhaid achwyn yn nghanol cynifer o bwyntiau rhagorol Chawsom ni ddim o'n boddhau mewn dim yn fwy na pherfrormiad y March byr ond cyfoethog a cherddorol fel cyfansoddiad, Rhif 59. Rhoddir yn hwn y cywair i'r cydgan dilynol, I-Sino, unto God;" ond eiddil yr ymddangosai y solo alto i ni, a hynod mor ddifater yr ail-adroddwyd y testyn gan y k a»r yn yr wythawd a gallasai y cor fod lawer iawn yn fwy unol yn cymeryd i fyny y cydgan (f). Achoswyd yr eiddilwch drwy ddiffyg yni, yn codi, o bosibl, oddiar ddull- wedd ddifater a siomedig y soloists ond cod- asant yn raddol i hwyl, a chyn i adsain y nod olaf ddiflanu teimlai y gynulleidfa yn frwd- frydig. Y mae y cydgan hwn yn dirwyn i fyny un o'r scenes mwyaf dyddorol yn y gwaith, ac fel yn rhanu y drydedd ran yn y canol. Dylasai gael mwy o sylw. Gadawyd allan Rhif 61 a 62, pa rai oedd i lawr ar y programme ar gyfer Mr. Lane, a chlywyd litis Mr. T. Howells unwaith eto yn Rhif 63, "Peace to my countrymen," ac yr oedd cryn lawer o'r declamatory power yn ei lais yn y recit. hon, a pharotodd ni i dderbyn y peth i ni yn alw yn gan o fawl ac addoliad i Dduw yn ei dy (y Deml yn Jerusalem), canys cadw gwyl genedlaethol o ddiolchgar- wch i Dduw y maent am ei ami waredigaeth- au ac yn enwedig am yr oruchafiaeth olaf hon ar ei gelyn Nicanor. A beth all fod i bob cerddor, a rhithyn o farddoniaeth yn ei ysbryd, yn fwy nwyd-eneidiog na gwaith yr hen fardd-gerddor yn arllwys allan gynwys ei enaid dwfn-gynliyrfiol a theimladol yn y cywair lleiaf eto (G). Y fath fardd Rhodd- wyd allan y testyn "To our great God," yr hwn a wrthddullir, a pha un sydd yn sylfaen- edig ar y seithfed lleiedig, gan y trebles a'r basses yn awdurdodol a gwir barchedig, a dilynwyd yn yr un ysbryd gan y lleisiau canol. Nis gallasai dim fod yn fwy ysblen- ydd na'r dilyniad agos a gwir glodforus a gymerir i fyny yn ban 17eg gan yr altos a'r basses, ac wedi hyny yn yr un ban gan y trebles a'r tenors oddiyno i'r diweddeb a'r F fwyaf ac yn enwedig gwaith y tenorsf yn esgyn i fyny o A i F, G, hyd y gorphwysiad llawn ar B flat; ac onid yw y lliwiad yma yn fendigedig^ Yn wir, dadganiad campus oedd hwn, a dadganiad yn codi oddiar y syniadau a'r teimladau a ddesgrifir yn y cydgan, yr hyn oedd yn profi sylw a gofal i fod yn ffydd- lon yn eu deongliad o feddwl yr awdwr, heb ar un Haw orliwio y testyn, nac ar y Haw arallddangos awydd i foddio y dosbarth a parent yr yinddangosiadol a'r arwynebol. Wedi hyn, o'r braidd y gallasem ddysgwyl bias ar. y .recit. "Again to earth," a'r duet i)' 0 lovely peace ond cawsom ddadganiad pert o'r deuawd (y darn cyntaf), ac nis gall- wn lai na rhoddi canmoliaeth i Hywel Cynon am ei ddadganiad meddylgar o Rejoice, 0 Judah Nodwn ei fynegiant priodol o'r frawddeg "harmonious join," eto "in songs divine," fel prawf o hyn. Er hyny yr oedd ganddo rai gwallau mewn seinio a geirio y gallem nodi, ond rhag i ni fyned yn feichus ni a ymataliwn ar hyn. Digon yw dweyd fod y cor ar ei uchelfanau yn y cydgan diweddaf, pa un a weithiwyd i dalar yn nghanol cyfxro y gynulleidfa. Gall fod yr adolygiad yma i rai- yn ym- ddangos yn o faith, ond i wneuthur dim tebyg i gyfiawnder a'r pedlarmia-d, ac i sylwi ar waith mor luosog, nis gallasem fod lawer yn fyrach. Y mae y sylwadau o angenrheid- rwydd wedi eu gwneyd yn bur frysiog; ond, gan nad beth sydd yn ddiffygiol ynddynt, y maent yn berffaith onest a chydwybodol; ac wedi eu bwriadu, wrth alwsylw at y cyflawniad o'r draethgan aruchel hon, gan ein cyfeillion cerddorol yn Aberdar, i symbylu ein cerdd- orion mewn manau ereill yn y cyfeiriad clodus hwn. Ni a obeithiwn, hefyd, fod ein sylwadau anmherffaith wedi bod yn fanteisiol, ac o beth addysg i'r gweiniaid yn y gelfydd- yd ar hyd a lied ein gwlad; ac na fuont yn hollol ddifudd i'r deallgar a'r cedyrn cerdd- orol. Yr oedd yn dda genyf ganfod y brwdfryd- edd a'r sel gyda pha un y gweithia y cor yn ddiau, llafur o gariad oedd y'cwbl iddynt. Yr ydym yn falch hefyd am y gefnogaeth a rodd- wyd iddynt gyda'r anturiaeth bwysig hon, ac y mae hyn yn galonogol iaWn i gorau a chym- deithasau cerddorol ereill i fyned yn mlaen yn yr un llwybr. Da genym ddeall fod y cyfeillion cerddgar yn Abertawe yn bwriadu rhoddi perfformiad neu ddau o'r Messiah yn ystod y mis presenol. Deallwn hefyd fod cymdeithas obeithiol iawn yn Llanelli, yn parotoi i gyflawni Ac-is (c. Galatea, owaitli yrun meistr, o hyn i fis Ebrill nesaf. Yr ydym yn gwybod hefyd fod ein cyfeillion yn Cwm Rhondda wedi dadganu y Creation, er an- rhvdedd iddynt, a chlywsom eu bod ar fedr cychwyn gyda gwaith arall; ondr os ydyw y si a glywsom yn gywir, tybiwn ei bod hi etc yn rhy gynar, yn Nghymru, i ymgymeryd at oy chwareu opera; ondpan ddaw. yr ad eg hono, hyderwn y gofalant ymgymeryd at chwareU- gari o chwaeth a theilyngdpd uchel, ac nid y truth haner barbaraidda rude sydd wedi bod yn boblogaidd yn Lloegr yn ddiweddar. Yr oedd yn dda genym gyfarfod a chymaint o flaenoriaid cerddorol galluog, wedi dyfod yn un swydd i glywed y perfformiad; yn sicr, y mae hyn yn argoeli yn dda, a bydd yn sier o adael argraff ddaionus ar lu y gan yn y Dywysogaeth.
LLANEDI.
LLANEDI. MORIAH,-Nid oes rhyw lawer o amser. oddiar pan y sefydlwyd eglwys, gan yr An- nibynwyr, yn y lie uchod; ond erbyn hedd- yw, y mae yn allu yn yr ardal: Y mae ei haelodau yn weithgar, ei chyfarfodydd yn llewyrchus, ei Hysgol Sabothol yn flodeuog, a'i rhagolygon yn obeithiol iawn. Dydd Sadwrn, lonawr 8fed, rhoddodd Mr. E. Lloyd, goruchwyliwr Fairwater, yr hwn sydd yn teimlo dyddorde b yn yr aehos w ledd ardderchog o de a bara brith i ddeiliaid yr Ysgol Sul. Cyfranogodd yn ymyl dau cant o honi; a thystiolaeth unfrydol yr oil oedd iddynt gael gwledd deilwng o'r enw. Yn yr hwyr,. cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus, dan lywydd- iaeth Mr. E. Richards, o goleg Aberhonddu, pryd y cafwyd areithio tanllyd, adroddiadau hwylus, a chanu swynol dros ben. Ar y terfyn, rhoddwyd diolchgarwch gvvresocaf y cyfarfod i Mr. a Mrs. Lloyd, am eu darpar- iadau danteithlawn; i'r gwragedd a'r marched ieuainc a weinyddasant wrth y byrddau, am eu gwasanaeth parod; ac i Mr. Rees, Fair- water, boneddwr o'r iawn ryw, yr Iiwn rodd- odd y tir i adeiladu y capel newydd arno, am ei garedigrwydd mawr bob amser i'r achos ieuanc. Ymwasgarpdd pawb wedi eu llwyr foddloni. Prydnawn y Saboth canlynol, talodd Ysgol Sul Moriah ymweliad a'r fam eglwys yn Cross Inn. Aeth trwy ei gwaith yu ganmoladwy iawn, a dangosodd y ferch ei bod yn werth ei harddel, ei chefnogi, a'i chynorthwyo gan y fam, yr hyn yn ddiddadl a wneir. Yr oedd y cyfarfod hwn eto o'r un nodwedd a'r un blaenorol, a than lywydd- iaeth yr un brawd. Llwyddiant mawr i Ysgol Sul Moriah; ei deiliaid fyddo yn cynyddu, ei gweithgarwch yn mwyhau, ei dylanwad yn ymledu, a'i llafur dan femlith y nefoedd i symud eneidiau lawer o djnvylhvclx i oleuni.—Eivyilysiivr da.
NODION 0 ABERTAWE.
NODION 0 ABERTAWE. Mae arnaf awydd danfon gair o helynt y dref i'ch newyddiadur. Mae yma gyflawnder o destynau i ysgrifenu arnynt, ond oherwydd prinder amser nid wyf wedi danfon gair er ys talm. Nid oes rhifyn o'r GWLADGARWK nad yw yn cael ei ddarllen genym gwell genym fod heb giniaw dydd Sadwrn na bod hebddo. Beth ddaeth o loan Meurig a arferai ohebu o Gaerdydd ? A pha le, atolwg, mae y brawd a drigai yn Manceinion I A ydynt-fel yr Hen Domos-wedi priodi ac wedi troi at orchwyKon mwy buddiol ? Mae lluoedd o'ch darllenwyr yn ymweled a'r dref hon yn misoedd yr haf ac efallai y byddai gair am gyfnewidiadau y dref yn dderbymol ganddynt. Mae cwmpeini wedi ei ffurfio, ac y maent wedi cael gweithred seneddol er ys tua dwy flynedd bellach i osod cledrau i lawr yn y prif heolydd drwy y dref, ac-i-fyny hyd Dreforis ond dilewyrch iawn hyd yma yw gweithrediadau y cyfarwyddwyr. Bwriada y Cynghor Trefol gymeryd man- tais o'r Artisans' Dwelling Act, er gwneyd gwelliantau dirfawr yn y dref, ac y mae rhy- buddioii wedi eu gosod i fyny ar luaws o adeiladau yma i derfynu yn Ebrill nesaf. Pwnc mawr arall ag sydd dan sylw yn bre- senol VW lielaethiad y porthladcl amcenir gwneyd dock wrth enau afon Tawe. Y mae deddf wedi ei uliael, ac y mae cwmpeini Reilifyrdd y Great Western a'r Midland wedi addaw cymeryd rhan bwysig yn yr anturiaeth, a'r hyn sydd yn ofynol i ddechreu ar y gwaith yw cael y Cynghor Trefol i foddloni bod yn gyfrifol am gyfran o'r ariail. Y mae tipyn o gynhwrf areithyddol wedi bod yn erbyn hyny am y bydd yn garai a'r trethdalwyr yn ol barn amryw. Y mae tipyn o frwydr gerddorol wedi ei dechreu yma rhwng cerddorion digon galluog i ymladd drostynt eu hunain. Y chydig fis- oedd yn ol cychwynodd Mr. Silas Evans gor newycfd, yr hwn sydd yn rhifo tua 150 o aelodau, i ddysgu y Messiah, ac yr oeddynt wedi ymberffeithio yn y darn nes bod yn barod i roddi dadganiad cyhoeddus, a gwnaeth Mr. Evans ohebu a Mr. James C. Daniel, Bristol, er cael gwasanaeth Madame Lemmens- Sherrington a'i chwmni i ganu y solos yn y cyngherdd. Felly tybiodd Mr. Evans y gallesid rhoddi hysbysiad yn y papyrau y byddai y cwmni uchod yn cymeryd rhan gyda'r Swansea Choral Society. Cynhyrfodd yr hysbysiad un Mr. Alex. Phipps, organydd Eglwys St. Iago, fel yr anfonodd nodyn i'r papyrau i ddangos ei syndod 0 herwydd cyhoeddiad y cyfryw' hysbysiad, a nodyn oddiwrth J. C. Daniel, Ysw., yn gwadu un- rhyw fwriad ar ran Madame Sherrington i gymeryd rhan yn nadganiad y Messiah. Os felly, yr oedd y Swansea Choral Society yn euog o gyhoeddi anwiredd, a thynu cerddor- iaeth i warth, fel y sylwai Mr. Phipps. Bellach yr oedd Mr. Silas .Evans, ,yr hwn sydd wedi gwneyd y fath gyffro a ^svelliant gyda chanu er pan yw yn y dref, dan warth, hyd nes y gallasai roddi eglurhad. Yr oedd hyny yn ddigon hawdd iddo ef, a chyhoedd- odd yr ohebiaeth fu rhyngddo a J. C. Daniel, Ysw., ar ran y Swansea Choral Society. Ym- ddengys fod Mr. Daniel wedi cyflogi Madame Sherrington a'i pharti i ganu Wagner's Lohewjrin drwy brif drefi Lloegr a Chymru. Yr oeddynt i ganu yma Chwefror 3ydd. Anfonodd Mr. S. Evans at Mr. Daniels am gael gwasanaeth y cwmni, wedi iddo gael ar ddeall oddiwrth Chevalier Lemmens eu bod yn Haw Mr. Daniel. Cafodd atebiad wedi ei nodi private, yn cynwys y terms, yr hwn y mae Mr. Evans wedi bod mor foneddigaidd a pheidio ei gyhoeddi; yna y mae gohebiaeth bellach yn nghylch y trefniadau a'r manylion i gario allan y cyngherdd wedi pasio rhyng- ddynt, fel yr ystyriai ef eu bod ill dati yn rhwym o gario allan y cytuiideb ond tybiai Mr. Daniel fel arall. Ymddengys fod Mr. Phipps yn bwriadu perfformio y Messiah tna'r un adeg, ac am gael yr un parti, yr hyn a achosodd y dyryswch. Bwriada y Swansea Choral Society gyflwyno yr elw at sefydliad y Mud a'r Byddar felly y mae hunan-les yn gweithio yn erbyn liaelionusrwydd. Y mae Mr. Evans wedi llwyddo i gael Cymry i gymeryd y solos, sef Madame Edith Wynne, Miss Jenny Lewis, ei gymydog Eos Morlais, a Mr. Lewis Thomas. Y mae y,cyngherdd i gymery.d lleyn y Music Hall, Ionawr 31ain, a hyderwn y bydd yno dJ llawn. Y mae Mr. Silas Evans yn uchel ei glod yma fel arwein- ydd a cherddor, a chan fod personau mor enwog yn cynorthwyo, ni a obeithiwn y bydd ganddynt'swm anrhydeddus yn weddill at y sefydliad ardderchog. — £ >. Evans. [Teg ydyw hysbysu ein darllenwyr, rhag iddynt -.ga,gl eu camarwain, y bwriada Cor Mr. Phipps tgyflwyno yr elw a ddeillia oddiwrth y cyngherdd at Ysbyty Abertawe.]
TAILLWYD, GER CASTELLNEDD.
TAILLWYD, GER CASTELLNEDD. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie uchod nos Fercher, Toiiawr 12fed, 1876. Cymerwyd y gadair gan Mr. David Louglier-, Sciwen. Wedi anerchiad byr gan y cadeirydd, a.ed yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Trefnwyd y rhan gyntaf o'r gwaith i'r plant yn unig, mewn y 1-1 adrodd a chanu, yr hyn a wnaethant yn gampus. Gweinyddwyd yn yr ail ran mewn canu ac adrodd gan Mri. John Price (loan .Awst), J. G. Jones (Ap Gruffydd), Phillip Owen, David Rees, Hopkin Joseph, yn ngliyd ag amryw eraill. Cafwyd cyfarfod da dros ben, pawb wedi eu llwyr foddloni ac yn dy- heu am un eto yn f uan.
[No title]
ENAINT HOLLOWAY.—Yn amI' pan y mae y flwyddyn yn troi, doethineb fyddai ceisio gwella 'unrhyw glefyd a all fod yn y corff, yn enwedig y sawl sydd yn dj oddef. oddiwrth glwyfan a chle- 'fydau cyffelyb, ac os esgeulusir pwy a wyr y can. lyniadau all ildilyn. Bydd yr Enaint bwn yn sicr ;o'u gweUa yn drwyadl. Y mae jrn glanhau y 'clwyfati. ac'yn tynii.y drwg allan o'i wraidd, ac yn adnewyddu iechyd perffaith, Drwy rinwedd di- igymar yr Enaint hwn, iacheir y coesau clwyfug, hyny yn hollol. Yr oedd y fath obaith i'r claf yn annghjaneradwy yn yr amser gynt. Nt CHEDwm HWXNI-.J—Y mae ,y cyhoedd'yn :cael eu rliybuddio yn erbyn ririanau gwnior had-; ;la\vn ac o wneuthuriad gwael, y rhai yn fynych a argymellir ar y prynwyr ohenvydd yr elw mawr a geir, rhagor rhai o Wneuthuriad da, am briie rhes- ymol, y'rhai ni chedwir gatvdtlynt, ac yr ydym yn anog .prynwyr i: fynu gweled Taylor's Patent, ■ a phan tut,'chedwir hwynt, anfoner am y darlunlen at ITAYLOK'S PATENT ■ SEWING MACHINE' COMPANY, igreat Driffield, neu 97, Cheapside London, E. C. 1177 i im<
LLANGENECH. !
LLANGENECH. Tywyll iawn yw awyrgylch masnach, a chymyiau duon sydd yn grogedig uwchben y lie er's llawer o fisoedd bellach ac hyd yn hyn nid oes ond gobaith gwan y tyr y wawr arnom yn fuan. Gresyn fod gwaith mor. dda o ran ei adeiladaeth a'i fanteision a'r hen Waith Alcan yn sefyll yn segur, pan mae cymaint o dclynion ag eisieu gwaith arnynt er enill cynaliaeth i'w teuluoedd Iluosog sydd yn dyoddef, tra hwythau yn gorfod myned o fan i fan i chwilio am waith, a methu ei gael, trwy yr hyn hefyd y dirwesgir y masnachwyr yn duiria\vr. Fel y mae masnach yn farwaidd yma, felly hefyd y mae crefydd. Nid oes neb yn ceisio Seion, ua. neb yn gofyn y ffordd tuag yno. Mae lIe i ofni fod gormod o Anaciaid yn yr eglwysi, fel nas gall yr Hwn sydd yn lanach ei olygon nas gall edrych gyda lioifder a hyfrydwch ar dclrwg, ddimgwenu arymddyg- iadau Pliariseaidd twyllodrus y dyddiau hyn, y rhai a olchant y tu allan i'r ddisgl, ac a wyngalchant y beddau, tra mae'r tu fewn yn llawn bryntni ac aflendid. Er mor ddigalon ydyw masnach, ac er nad oedd yma gymaint o ddanteithion yn amser y Gwyliau ag arfer, penderfynodd yc'hydig o'r dyeithriaid i gael cyfarfod adlonawl yn Bethesda, capel yr Annibynwyr, nos Nadolig, megys darllen, adrodd, canu, ac areithio. Llywyddwyd gan y gweinidog talentog, y Parch. J. S. Jones, a chymerwyd rhan ynddo gan y meistriaid J. John, J. Davies, W. Davies, B. Williams, D. Lloyd, a J. Aubrey. Gwnaeth y dynion dyeithr enw iddynt eu hunain, ac elw nid bychan oddiwrth y cyfar- fod, er fod ambell i greadur lxunanol a didalent am eu gwawdio i ddystawrwydd. Gwrthun o beth yw gweled ambell i ddyn, tra yn pro- ff'esu bod yn ganlynwr i'r Hwn a ddarostyng- odd ei hun hyd angeu er codi dynoliaeth a gwella cymdeithas yn gyfFredinol, yn arfer pob ystryw i daflu rhwystrau ar ffordd rhin- wedd a dyrchafiad cymdeithas mewn moes a duwioldeb. Ofnant y goleuni yn fwy na'r diafol ei hun, am eu bod o'r nos. Cas beth ganddynt yw gwybodaeth, am eu bod yn tybied. eu hunain yn ddoethion. Mil gwell gan fodau o fath y rhai hyn yw edrych ar eu cyd-ddynion yn gwario eu hariaii am yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yr hyn nid yw yn digoni; ydyw, mae eu hymddygiadau yn y goi-phenol yn brawf fod yn well ganddynt eu .gweled yn ymdrochi mewn meddwdod—eu gwrando yn bytheirio cableddau celwyddog, gan dyngu anudon a gwatwar meibion rhin- wedd a chrefydd, ac ymroddi i bob trytliyll- wch, na rhoddi unrhywgynorthwy i'w dyrch- afu o bydewau llygredlgaeth. Caled o beth yw i ddyn ddweyd hyn am ei gyd-ddynion; ond y mae llawer o honynt yn byw mor isel mewn llygredd a phechod, fel nas gallwn byth fod yn rhy onest wrth ddweyd neu ysgrifenu am danynt. Hyn sydd er cywilydd iddynt hwy. Nos Calan cynahwyd cynghétdd yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, pan gymerwyd rhan ynddo gan Mr. Thomas, Llanelli, Eos Tawe, Mr. a Mrs. Magor Evans, a Chor yr Eglwys, &c., y rhai a gyfiawnasant eu rhan yn i ardderchog. Cyflwynwyd yr elw i drysorfa yr ysgol. Da .genym weled y Parch. E. A. Davies, ficer newydd y lie, yn dechreu ei weinidogaeth mor weithgar, a'i fod mor barchus gan ei ddeadell a'r gymydogaeth yn gyffredinol. Yr oedd iddo air da yn ei hen gymydogaeth mor dda, fel y darfu iddynt beidio ei ollwng ymaith nes cyflwyno tysteb werthfawr iddo yn arwydd o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato. Yr oeddwn i yn meddwl fod Mari Llwyd, druan, wedi marw er's blynyddau ond rhaid fy mod wedi gwneyd camsynied dybryd, canys ymwelodd hi, neu ei hysbryd, a'r lie hwn ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Clyw- ais ddweyd mai tua Llwynhendy y mae yn byw. Cafodd dderbyniad brwdfrydig iawn gan y bobl yma; am ei bod yn gweithredu mor gydweddol a'u chwaeth a'u teimladau. Ceisiodd ddrws mewn un ty yma, ond gan nad oedd y boneddwr a drigai yno am arddel perthynas a hi, hi a drodd ymaith yn siom- edig, ac a aeth i dy ei mab i adrodd ei chwyn, yr hwn we'di clywed yr hanes a ddywedodd. wrth ei frodyr, "Thimplwch e' boyth, thirnp- Iwch e' boyth, yr hen Satan. Y canlyniad fu i lVLtri gael derbyniad croesawus yn nhy ei mab, tra yr oodd hithau a'i gosgorddlu yn dawnsio a difyru yn nghanol y rhialtwch mwyaf erioed. Clywais hefyd fod gan Mari ferched yn gystal a meibion os felly, nid yw yn debyg y ceir gwared o honi hi a'i hiliog- aeth am dro o'r byd canys y mae y rhai hyn eisoes, os gwir yr hanes, yn myned o amgylch y wlad yn y nos dan ruo, gwichian, ysgrech- ian, a ffuganu, &c. < s yw hyn yn wir am ferched ardal y Llwynhendy. a Chwmyfelin dylent wrido mewn cywilydd, ac edifarhau mewn llwch a lludw; canys rhaid eu bod. wedi colli y gwyleidd-dra a berthynyn natur- iol i'w rhyw, cyn y buasent yn ymollwng i ymgyfeillachu a gosgorddlu Mari Lwyd. Diwygiwch, ferched, diwygiwch, onide bydd raid rhoddi eich henwau yn y dyfodol ger ,bron y wlad, fel y gwypo'r byd pwy ydych. —-Un o'r dynion dyeithr.
FFOADURIAID CYMREIG.
FFOADURIAID CYMREIG. Nos Fercher, y 7fed cyfisol, ar gyrhaeddiad cerbydres y Great Western i Birkenhead, o Abertawe, yn mhlith y teithwyr gwelid dyn a dynes, mewn 'dillad gwladaidd, ond lied ;barchus yr olvvg arnynt. Fel ereill o Gymru, iCiOesasant yr afon i L'erpwl, a chymerasant ,lety fel gwr a gwraig, yn y Templar's Hotel, >29, Union street. Ynmhen ychydig ddyddiau, !wele ymholiad am bersonau o'r fath, a throdd allan fod y dyn wedi rhedeg oddicartref gan adael gwraig a chwech o blant i drugaredd rhagluniaeth yn y Felinfoel, ger Llanelli. Wedi wythnos o dawelwch i Richard Rees ac Elizabeth Stephens fel gwr a gwraig; torwyd .ar eu heddwch gan ymweliad; dau o awyddog- i ion John Bull, y rhai a gymerasant Richard i ddyogelwch, i aros am ddyfodiad swyddog o Llanelli. Gadawsant Elizabeth i synfyfyrio ar y nblineb o redeg i ffwrdd gyda gwr ei chwaer. Dychwelwyd Richard i'w gartref, yn ngofal ceidwad, a diameu yr ymddygir tuag ato yn ol ei deilyngdod. Braidd nad yw peth fel hyn yn waeth nag aml-wreiciaeth^ pan ystyriom y cysylltiadau. Nid oes neb yn gwybod i ba le yr aeth y fenyw, ond yn ol tystiolaeth y swyddog, tebyg ei bod yn ddigon presaidd i wynebu ar y byd, cyn y gallai ddweyd ei bod yn wraig i ddyn oedd yn briod a'i chwaer. Beth nesaf, tybed 1 Nos Wener, y 14eg cyfisol, yn dilyn, wele rhywbeth tebyg, ond nid yn gwbl mor haer- llug a'r blaenaf. Cymerwyd i'r ddalfa ddyn o'r enw David Wilcox Evans, teiliwr wrth ei alwedigaeth, ond wedi bod yn bregethwr os nad yn weinidog, mae'n debyg. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd gadael gwraig a phlant yn Abertawe er ei fod yn ddyn wedi gadael yr haner cant, yr oedd ganddo wraig ieuanc a phlentyn yn L'erpwl. Er iddo wadu nad oedd yn euog, fe geir gweled pan gludir ef yn ol i'w gartref. Mae yn amlwg fod llygredig- aetli yn yxnledaenu drwy y wlad, ac y mae yn wir ddrwg genyf fod pethau o'r fath yn dygwydd yn mhlith y Cymry. Ceir ond odid bob manylion yn y papyrau Seisnig a gy- hoeddir yn Nghymru.—Yr eiddoch, SYLWEDYDD.
EISTEDDFOD TREFORIS.
EISTEDDFOD TREFORIS. Cynaliwyd yr uchod dydd Sadwrn diwedd- af dan nawdd boneddigion y lie, a llywydd- iaeth H. Bowen, Ysw., Treforis. Beirniad- wyd y canu gan Mr. David Francis, a'r farddoniaeth gan y Parchn. R. Roberts, Capel Sion, a W. E. Jones, Libanus. Enill- wyd ar y gwahanol destynau fel y canlyn :— 1. Deuawd, "Y glowr a'r chwarelwr;" goreu, Eos Dyfed a Lewis Davies. 2. Canu y give, "Come where my love lies dreaming;" goreur cor Wern, Ystalyfera. 3. Canu triawd, "Mor hawddgar yw dy bebyll;" goreu, tri o'r Wern, sef Mri. Llewelyn Williams, Benjamin Philips, a Miss Hughes. 4. Canu unawd gan ferched, "My angel boy;" goreu; Miss Hughes. 5. Canu gan gorau plant, "In the sweet by and bye" (tri chor yn cys-f tadlu); goreu, Plant y Wern, dan arweimad- bacligen ieuanc o'r enw Edwin Nicholas. 6. Araetli ar "Y tir adloniantgoreu, un o'r lie. 7. Canu "The anchor's weighed;" goreu, Eos Dyfed, Ystalyfera. 8. Canu "Nant y mynydd" (dau gôryn cystadlu)," goreu, cor yr Alltwen. 9. Beirniadaeth y giin o glod i H. Bowen, Ysw. (un-ar-bymtheg' yri cystadlu); goreu, Glan Carnant, Ystaly- fera. 10. Canu "Y gwanwyn (tri chôrylt cystadlu); goreu, cor Wern, Ystalyfera, dai% arweiniad Mr. Llewelyn Williams. Cafwyd eisteddfod ddyddorol, a chystadleuaeth frwd iawn. —Msteddfodwr.
IDAMWAIN AT>FYDUS YN BIRMING*…
DAMWAIN AT>FYDUS YN BIRMING* HAM. "• r Dydd Sul diweddaf, fel yr oedd chwech o lanciau yn llithro ar yr ia, ar bwll ger Bir- mingham, yr hwn oedd yn ugain troedfedd o- ddyfnder, totodd yr ia, a boddodd pump o- honynt. Cymerodd damwain arall le yn Canon Hill Park, yn yr un dref, a thaflwyd deg-ar-ugain o bersonau i'r dwfr, ond cafwyd hwy allan yn ddiangol.
DYRCHAFIAD I GYMRO YN AMERICA…
DYRCHAFIAD I GYMRO YN AMERICA Yn y Drych am Ionawr laf, 1876, ym- ddangosodd yr ohebiaeth ganlynol:— "Cafodd fy hen gyfaill, Wm. R. Charles, ei ethol am y drydedd waith yn drysorydd rhanbarthol yn Republic County, Kansas, yn yr etholiad diweddaf. Bydd yn llenwi swyddi pwysig ereill, megys arolygydd yr ysgol ddyddiol, ac arolygydd y ffyrdd cy- .Y hoeddus. Er mai Arnericaniad ydoedd ei wrthymgeisydd, cafodd Mr. Charles fwyafrif anrhydeddus. Byddai yn rhyfedd gan ein 0 hen gyfeillion yn Nghwm Rhondda a Phont- ypridd, Morganwg, weled Gwilym wedi ei drawsffurfio gymaint—yn lie bod yn Gymro o waed coch cyfan, bellach yn Americanwr hyd asgwrn ei gefn yn ei arferion a'i ym- ddangosiad. Nid oes ynddo y tebygolrwydd lleiaf i Die Shon Dafydd, canys bydd bob amser yn siarad Cymraeg yn y teulu, a bob amser yn ymffrostio ei fod yn Gymro.— Llwyddiant iddo, medd yr eiddoch, "J. P. M." Beth, tybed, sydd wedi dyfod o'r teulu a. adawodd ilynyddoedd yn ol yn Mliontypridd ? gan y gwelwn wrth lafar J. P. M. fodganddu deulu arall yn yr Amerig. Os iawn wyf yn cofio, adnabyddid ef gynt wrth yr enw Uen- orol Gwilym Glan Rhondda. Rhyfeddol a chymysglyd ydyw dirgel droion y byd.—Yr eiddoch. GOHEBYDD AitALL.
Advertising
THE HAIR.—For 40 years Mrs, S. A. AIXBNV WOKSD'S HAIR RESTORER has received the com- menda,tion and favour of the public. It has acquired the highest plaae that can be obtained for any moderate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. It will positively renew and restore the original and natural colour of grey, white, and faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falliBgy and induce a healthy and luxuriant growth. No other preparation can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers in large bottles, 6s. Depot, 114 & 116, Southamptoji Ilow. London. 1090 PELENI HOLLOWAY.—YR YSGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym a borer, an a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anbwylderau yn rhanar* treuliol y corff,. y rhai ddylai gael gofal prydluwn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Hollo way am wellli y tiWliad. Maent yti. cael eu cydnabod' yn gai:f trefol a thramor fel y feddyginiaeth gieraf effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cyllai diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb-" edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, sychdery croen, a boi-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiffyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am-, rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tyv/ydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyti. Nid ydynt yn ymjrraeth dim a gwaith na