Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
^erbyniwyd.—Ap Llwchwr, Ap Try fan, D. Williams (Pontypridd), a Iluaws ereill. ASAPH GLAN ELYRCH,—Rhy lym ac ynsyniadol. C. ALLTWENYDD JONES.—Yn y rliifyii hwn. it.' EVANS (Llansadwrn).—Rhy hen.
" AT EIN GOHEBWYB.
AT EIN GOHEBWYB. tyvmnem argraffu ar gof ein gohebwyr ei fod o bwys neillduol i gyfeirio pob peth fviriedir i'w gyhoecldi fel y canlyn:— To the EDITOR, GWLADGARWR Office, Aberdare. Ychydig fydd y drcifferth i'n gohebywr,. a bydd yn gymwynas a ni. Ac yn mhellach, ni ddaliwn ein hunain yn gyfrifol am ddim gyfeirir yn wahanol.
CAMSYNIADAU Y CEIDWAD-I WYR.
CAMSYNIADAU Y CEIDWAD- WYR. Nid oes llawer o amser wedi myned heibio er pan anfonodd y Llywodraeth allan Y Cylchlythyr yn nghyleh caethweision Boedig y rhai a fyddent yn gofyn am fcawdd y faner Brydeinig ar fwrdd un o'n lloiigau rhyfel. Y mae y Toriaid yn enwog er's oesoedd am eu camsyniadau, ond dyma y camsyniad mwyaf dybryd a "^naethant erioed. Yr oeddem yn gobeithio fod cyfnod maith o adfydau a siomedig- aethau politicaidd wedi dysgu rhai gwersi buddiol i'r Ceidwadwyr, ond nid oes dim dysgu i rai. Nid vdynt hwy un amser yn ystyried fod sefyllfa feddyliol corff mawr ein pobl yn hollol wahanol i'r hyn ydoedd ya yr oesau a fu-fod y Wasg, y Rheil- ffordd, a'r Telegraphy wedi gwasgaru 0 goleuci gwybodaeth yn gyffredinol dros yr toll wlad. Yr un yw eu harwyddair hwy o.hyd, sef Tuag yn ol;" tra mai arwydd- aIr y Rhyddfrydwyr yw, "Tuag yn Oilaen." Parha y Toriaid i alw Diwygiad yn Ddadymchweliad, ac i alw Gormes o bob rhyw yn Geidwadaeth. Ond pa beth 7 mae y Geidwadaeth hon yn ei gadw? Dim ond cadw y buddianau yr ychydig ar draul colledu a thylodi y llawer: dim ond pyrsiu ychydig o bendefigion yn *lawn ar draul gwaghau pwrs mawr y Senedl. Edrychant yn ol gyda hiraeth at yr hir-gyfnod dedwydd pan yr oedd dau ^QyTryrr imioTa plwyf yn lly wodraethu y plwyf i gyd, sef yr Yswain a'r Offeiriad; a phan nad oedd neb yn yngan gair byth yn ,erbyn eu hawdurdod unbenaethol. Onid yw yn beth rhyfedd na byddai cyfnewid- iadau amser yn goleuo eu meddyliau ryw ychydig, ac yn eu hargyhoeddi na thai hi ddim iddynt drin pethau a phobl yn awr, yr un modd ag yn yr oesoedd gynt-yn awr, Pan y mae pob plwyf yn llawn o gapeli, a •Uawer Eglwys mor wag ag ogof ond ar 8chlysur angladd. Pe gofia ein darllenwyr am y storm a ddilynodd y Cylehlythyr o barthed y paethwas—storm addychrynodd y Weinydd- 1aeth ac a'i gorfododd i dynu y llythyr yn 01 yn bur ddiseremoni. Cynhyrfwyd y "Wlad oil megys gan ddaeargryn, canys nis gall Prydeiniwr byth mwy oddef y syniad adferu y Fusnach gigyddol sy'n "hela dynion ail eidionau." Llawer o wahanol blei^iau a gwahanol ddosbarthiadau y sydd Yn Lloegr, yr Alban, a Chymru-pob dosparth a phob plaid yn arddel gwahanol egwyddorion a daliadau: ond dygwydda atnbeU amgylchiad yn awr a phryd arall ag f3ydd yn peri i bob gwahaniaeth gael ei ddlfodi, ac yn cyd-asio yr Holl Bobl wrth eu gilydd, galon yn nghalon, a braich yn ^raich. Dyna un amgylchiad o'r fath— Ynaosodiad ar ein Hynys, gan Ffrainc neu I'YW genedl elynol. Dim ond sisial y gair Invasion-dyna filiynau pobl Prydain Fawr yn un gwr. Peth arall a wna ein hunoli a'n llwyr asio a'n gilydd yw ceisio adferyd y Slave Trade. Er hyn i gyd, ac er syndod 1 r holl genedl, y mae y Llywodraeth Ilewydd anfon allan Gylchlythyr arall, yr hwn sydd yn cynwys ynddo ei hun hanfod sylwedd y Cylchlythyr atgas cyntaf. Y ittae caethwas fo wedi llwyddo i neidio ar fwrdd Hong rhyfel Brydeinig, a'i galon yn €l wddf, a'i anadl yn ei ddwrn-y 'mae y truan ddyn anffodus i gael ei roi i fynu i'w feistr ellyllig, medd y Blaid a godwyd i awdurdod trwy waith offeiriaid a thafarn- yn cydymuno a'u gilydd yn yr ethol- ^ad diweddaf! Ynfydrwydd! Cabledd ar gogoneddus ein gwlad! Wrth gwr?, te fydd yn rhaid tynu y Llythyr hwn, fel y Hall, yn ol yn ebrwydd; ond y peth sydd tyfeddaf yw hyd yn nod y "Stupid party" gallu bob mor stupid" a hyn! Siar- ^dodd Mr. Morgan Lloyd, A.S., ychydig ^yddiau yn ol, mewn iaith lidiog am y 8WIrthunbeth hwn: ac nid yw ei Wrth- ystiad ef ond y whisper gyntaf o'r orm a ySgy^wa furiaii ein Senedd-dy yn ychydig ddyddiau eto. Dywedodd anrhydeddus, fod y llythyr yn eydnal-, od caethfasnach, ei fod yn gam tuag'yn ol, yr beth offensive, drrgiomis, ac annheil wng o Brydain. Pan gyferfydd y Parliament," meddai, fe gqiff y Llywodr- aeth ar ddeall eu bod, heh fvvriadu hyny, wedi bo 1 -sn foddion i ailuno y rhengau Rhyddfrvdig o dan eu hen ryfel-floedd- EHYDDID. l' -j j.oI!i
";i r7 YRARSYLLFA.
";i r7 YRARSYLLFA. IONAWR 20FED, 1876. Cawsom lythyr dyddorol er ys rhyw wyth- nos yn ol oddiwrth yr hen lenor galluog a llafurfawr 'r?. "S. R." • Adwaenir ef wrth y ddwy lythyren yna trwy Gymru a'r byd, yn ogystal a'i frawd wrth y ddwy lythyren J. R." Rhai o'r pethau cyntaf a ddarllenasom erioed oeddynt gynyrch ysgrifell S. R., ac ystyriem ef y pryd hwnw (ac nid ydym wedi newid ein meddwl eto) fel un o'r ysgrifenwyr llithricaf yn iaith Gomer. Ei draetha'wd ar Anngliyj&awnder a drwg duedd sefydliadau Eglwysig," a ddarllenasom droion gydg. bias a boddineb, a chredwn fod hwnw a'i draethawd ar yr laith Gyn-iraeg" ac ar "Amaethyddiaeth" yn mysg goreuoll cynyrchionei ysgrifell. Y mae S. R. newydd gyhoeddi helyntion ei fywyd. Hynod mor wahanol yn eu barnau yw dynion mawr ein gwlad ar hwnw. Dyna 01. y Dy-sgedydd yn credu mai tro call oedd iddo gyhoeddi hanes ,y ei fywyd, ond sylwer ar yr hyn a ysgrifena Gol. y Diwygiwr yn y rhifyn am lonawr :— Yr ydym, ar ol darllen y llyfryn uchod, yn credu mai camsyniad o eiddo ei gyfeill- ion" oedd dymuno ar L S. R.' ei ysgrifenu." Dyna ddau ddyn mawr, sef y Proffeswr Thomas o'r Bala, un o olygyddion y Dysged- ycld; a'r Parch. Thos. Davies, Siloa, Gol. y Diivygiwr, at loggerheads yn y pwynt hwn. Y mae yn ddigon posibl fod yn perthyn i S. R., fel i'r rhelyw o deulu Adda, wendidau ond rywsut, rywfddd, yr ydym wedi arfer credu llawer iawn yn ei allu a'i farn. Yn mis Mai, 1874, cawsom y pleser o gyd-deithio a'i frawd Gruffydd Risiart o orsaf Penygroes Arfon hyd Gonwy ar ein taith i L'erpwl, ac yr oeddym wedi llwyr arfaethu galw^i weled y tri brawd wrth ddychwelyd, ond fel y lluddiwyd ni. Y mae un peth yn sicr, sef pan hebryngir y tri wyr hyn i'r fynwent, bydd Cymru yn rhwym o deimlo fel y canodd Emrys :— "Ac felly, pan gollir llenorion uchelddysg, A'r prif arweinyddion mewn dawn ac athronddysg-, Mae'n gadael y gwagle'n amddifad ar ol." .1 Dymunwn o galon iddynt flynyddau meith- ion i wasanaethu Duw a dynion trwy eu hysgrifeniadau. Y mae yn dda genym weled fod awen CEIRIOG yn dal yn fresh a gwyryfol. Darfu iddo ef .gyhoeddi peth anferth o ysbwriel, ond y mae wedi cyfansoddi rhai darnau ag a'i profant yn wir fardd ac yn wir, y bardd telynegol goreu efallai a fedd Cymru ar hyn o bryd. Gellir ei roi ef a Mynyddog yn yr un cwd y maent yn dra agos i'w gilydd yn hyn o beth. Yr oedd yn dda genym weled yn y Faner, wythnos neu ddwy yn ol, ddau benill gan Ceiriog ar godiad yr haul, yn mha rai yr oedd delw yr awen wir. Dyma ddwy linell:— Ma,e'n d'od, mae'n d'od, ar donau'r wawr, Fel llong o'r trag'wyddoldeb mawr." Gwelsom ddyfyniadau o un o bapyrau AMERICA yr wythnos hon ac yn ol y darluniad a roddai hwnw, agwedd lwydaidd a digysur .Y iawn sydd ar fasnach yno. Rhai ag oeddynt wedi cynilo ychydig yn ystod y blynyddau diweddaf, yn awr yn cael eu gwerthu i fyny gan y siryddion. Rhaid fod gwall a diffyg mawr yn marchnad arianol America cyn fod y dyryswch a'r marweidd-dra presenol mor hir yn melldithio y wlad. Teimlodd yr holl genedl Gymreig yn ddwys yn herwydd colli yr hen fardd penigamp, a'r hynafiaethydd digyfryw CYNDDELW yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, ac yr ydym yn ei ystyried yn gam yn yr iawn gyfeiriad fod pwyllgor eisteddfod Wrexham yn cynyg gwobr o ugain gini am draethawd bywgraff- yddol ar yr hen wron. Diau y daw rhai o'n hysgrifenwyr galluocaf i'r maes i ymgiprys am y wobr hon.
DAMWAIN ANGEUOL YN ABiSRTAWE.
DAMWAIN ANGEUOL YN ABiSRTAWE. Dydd Llun diweddaf cynaliwyd trengholiad yn Abertawe, o flaen Mr. Strick, crwner, ar gorff Lucy Morgan, yr hon a darawyd i'r llawr nos Wener gan gab yn Caer Street, yr hon a fu farw bron yn uniongyrchol oddiwrth y niweidiau a dderbyniodd. Wedi gwrando llawer o dystion, dychwelwyd y rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol." I
TAN MAWR YN MANCHESTER.
TAN MAWR YN MANCHESTER. Llosgwyd adeiladau mawrion y ddoe ger y Manchester Exchange, y rhai a berchenogid gan Mri. Dilworth, t masnachwyr mewn edafedd. Claddwyd tri dyn yn yr adfeilion, ond yn ffodus gwaredwyd hwy. Cyfrifir fod y golled yn 60,000p.
Nodiadau .Eisteddfodol. I
Nodiadau Eisteddfodol. (Allan o'r D.rych," Ion. laf, 1876.) G werfyl wedi enill 155 o ddoleri ar wahanol destynau. I umos Jones a Dewi lan Peryddon yn gyd-fuddugol yn Milwaukie, ar Awdl, a phob un yn dewis ei destyn. Tebyg fod r;urnos yn anfon peth o'i hen stock drosodd i'r Amerig. D. Jenkins, Trecastell, yn enill 30 o ddoleri am yr Anthem oreu, tra yr oedd lleg yn cystadlu. Dafydd Jones, Hyde Park, yn enill ar Englyn Beddargraff Howell Powell, yn eis- teddfod New York. Diameu fod Dafydd Jones yn un o englynwyr goreu America. Mae lluaws o fan nodion ereill yn y Drych ag sydd yn werth eu codi i'r 'WLADGARWR. Cawn fod y Drych wedi dechreu ei chwech-ar- ugain oed, yn iach a chryf, a theilwng y gellir ei alw yn brif bapyr y genedl yn yr Amerig. Llwyddiant iddo i daenu egwyddorion teilwng rhinwedd a dyrchafiad ar y cyfandir mawr.— Yr eiddoch, PLENYDD.
Family Notices
[ii:: GENEDIQAETHAU."• ¡ Ionawr 9fed, priod Mr. T.' Harries, llyfiwr, New Dock, Llanelli, ar fab, a gelwir ei enw ef Morgan. Ionawr laf, priod Mr. James Morgans, grocer, Mansel St., Llanelli, ar fab, a gelwir ei enw ef William.-Glaii Ionawr 5ed, 1876, priod Mr. John David, New Street, Llanelli, ar fab, a gelwir ei enw ef Thomas Llewelyn. Hir oes i'r teg flodeuyn A elwir Thomas Llewelyn; Cynyddu wnelo'r mebyn mad ,frh1.:j I barchu Gwlad y Delyn. Anrhydedd pur ac urddas Fo'i nod, a bywyd addas; .-<•» r." Ii" A thyfu wnelo'r bachgen cu Yn addurn i gymdeithas. Cumro. PRIOD ASA U. Ynnghapely Wern, Aberafon, Rhagfyr 14eg, 1875, gan y Parch. Morgan Hopkins, gweinidog, Mr. Thomas John, Pantymoch, a Miss Hannah Thomas, Aberafon.—Cufaill. Dydd Iau, Ion. 13eg, yn Penuel, capel y Trefnyddion Calfinaidd, Pontypridd, Mr. Thos. Thomas, a Miss Mary Williams, Ffynon Dâf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Thos. Rees, gweinidog Tabor, Ffynon Daf. Paradwys y priodi,—yw'r tymhor jj,f hj. I Thomas a Mari; r Frawd a chwaer, hyfryd i clvwi Y b'o hiroes h6b oeri. Da arweiniad I6n union-doed iddynt, A dedwyddwch calon A dylifed olafion, Brwd Saint, o'r briodas hon. Bardd Ffwrnes Bloom. Dilynaist, fy nghyfaill, hen arfer y byd, Ac arfer ddoetli ydyw priodi; Nid oedd dim gorphwysdra. gan gymaint dyfryd, Nes ffurfio'r cam undeb a'th Fari: Na thaened un cwmwl cysgodion erch, du, Dros lwybrau eich hoes unrhyw amser, Ond hafddydd o wenau digymysg i chwi, Fo'ch bywyd, mewn nwyfiant a llonder. Bendithion cyfoethog y ddau-fyd yn nghyd Ddylifo i ch rhan yn ddihysbydd, Defnyddiwch chwi'r fantais o hyny bot pryd, Er harddu ffyrdd rhinwedd a chrefydd Eich meibion a'ch merched a fyddo yn llu 0 amgylch eich bwrdd i'w brydferthu, Tangnefedd deyrnaso ar aelwyd mor gu, Boed cariad yn goron y teulu. Bardd Ty Melyn. MARWOLAETHA U. Ionawr 12fed, 1876, Mrs. Gwenllian Evans, gwraig Mr. T. Evans, Aberclydach (gynt o, Tori-man), Resolven, yn 61 mlwydd oed. Bu' yn aelod ffyddlawn gyda'r Trefnyddion Calfin- aidd am fwy na 40 mlynedd. Gadawodd briod a 12 o blant i alaru ar ei hoi. Gweinyddwyd y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol y dydd Sadwrn canlynol gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. Moses Thomas, gweinidog yr eglwys y perthyhai yr ymadawedig iddi. Gweinyddwyd yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. J. Griffiths, periglor y Ile.J. D. DyddMawrth yr lleg eyfisol, ar ol byr gys- tudd, yn 35 mlwydd oed, Mrs. Margaret Job, Square and Compass, Pontyeats. Gadawodd briod a phump o blant i deimlo eu colled ar ei hoi. Nid i'w y ieuangaf ond wythnos oed. Claddwyd hi dydd Gwener canlynol yn myn- went Nazareth, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. Evans.-Dewi ap Ioan.
[No title]
Dydd Sul diweddaf, cafwyd corff commercial traveller yn y gamlas rhwng Pontypridd a Threfforest. Yn ei logell cafwyd lOOp. yn aur, a lOOp. yn filiau. Y mae y dyn Edwards, a lofruddiodd dri o blant yn Yspyty Norwich, i gael ei gadw yn ddyogel yn Meddygdy Gwallgofiaid Broad- more. Y mae Brodzkni, llaw-weithiwr o Odessa, wedi ei alltudio i Siberia, am anfon arfau i lywodraeth Twrci. Mewn cyfarfod cyhoeddus o drigolion Tor- quay, penderfynwyd codi pysgodlyn a gardd auafol, ar draul o 20,000p.
Advertising
Drill Hall, Newbridge, Mynwy CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, DYDD LLUN, CHWEFROR 21ain, 1876. Y Ddamau Cerddorol. 1. I'r C6r, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano oreu "Hallelujah Chorus," HandeVs Messiah. Gwobr, lOp., a Metronome gwerth 2p. i'r arweinydd. 2. I'r Cor, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano oreu "Let the Hills Resound," gan Brinley Richards. Gwobr, 4p., a buton gwerth lp. i'r arweinydd. Mae y programme, yn cynwys pob manylion pellach, yn awr yn barod, ac i'w gael am ddwy stamp gan yr Ysgrefenydd, MOSES HARRIS, Newbridge, 1219 Near Newport, Mon. Public Hall, Aberafon. A GRAND EISTEDDFOD will be held at the above Hall on SATURDAY, FEBRUARY —1876. To the Choir, not less than 100 voices, that will best sing "Nant y Mynydd." jB15 J. JONES, Eisteddfod Agent, 1236 Briton Ferry. I MUSIC HALL, SWANSEA. Monday Evening, January 31, 1876, At Eight o'clock, In Aid of the Fnhids of the Cambrian Deaf and Dumb Institution. UNDER THE PATRONAGE OF James Livingston, Esq., Mayor of Swansea; Right Hon. Lord Aberdare; Right Revd. Lord Bishop of Llandaff; H. H. Vivian, Esq., M.P.; L. L. Dillwyn, Esq., M.P.; W. G. Vivian, Esq.; James Kempthorne, Esq., Mayor of Neath; J. C. Fowler, Esq. F. A. Yeo, Esq., Ex-Mayor; E. M. Richards, Esq.; James Walter, Esq.; J. T. Jenkin, Esq. Jno. Jones Jenkins, Esq.; Thomas Phillips, Esq.; G. B. Brock, Esq.; T Ford, Esq.; James Rogers, Esq.; C. T. Wilson, Esq.; W. Thomas, Esq.; R. Smith, Esq; Thornton Andrews, Esq.; John Ivor Evans, Esq.; Thos. Elford, Esq.; J. Reillv, Esq.; Jabez Thomas, Esq. Jno. Morgan, Esq.; o. R. Har- vey, Esq.; W. Rees, Esq.; Jno Buse, Esq.; Wm. Richards. Esq. Jno. Bowen, Esq.; Allan Paton, Esq.; Thos. Yorath, Esq. HANDEL'S ORATORIO '1 ( T H-E MES S IA H SOLOISTS — Soprano — MADAME EDITH WYNNS. Coiit,i,(f lto- MISS JENNY LEWIS. Tcnor^-EOS MORLAIS. Basso-MR. LEWIS THOMAS. Trumpet Solo-MR. GEORGE LIVSEY. Onjanist—PROFESSOR FRICKER. SWANSEA CHORAL SOCIETY CHORUS OF 250 VOICES. THE CELEBRATED CYFARTHFA BAND (By the kind permission of R. Crawshay, Esq.), Leader—MR. GEORGE LIVSET. Conductor -MR. SILAS EVANS. Area Reserved Seats (numbered), 5s.; Balcony Reserved Seats (numbered), 4s. Area Unreserved, 3s.; Balcony Unreserved, 2s.; Promenade, Is. 6d.; Gallery, Is. Doors open at 7; Carriages may be ordered for 10.30. Entrance for Area Reserved Seats in De la Beche Street. Tickets to be procured from the Members of the Swansea Choral Society; the Secretary, at 6, Han- over Street; the Conductor, at 15, Henrietta Street; and at Mr. Brader's Music Warehouse, Wind Street. RAILWAY ARRANGEMENTS. The Great Western and Midland Railway Com- panies will run special trains after the Performance. 1240 Eisteddfod Gadeiriol Treherbert. CYNELIR yr Wyl Flynyddol uchod yn y PUBLIC HALL. DYDD GWENER Y GROGLITH, 1876. PRIF DDARNAU. Cerdd()riaeth-l'r cor, heb fod dan 60 o rif, a gallo yn oreu "Y Glowr" (Gwilym Gwent), buddugol yn Eisteddfod Tonypandy, 1874. I'w chael gan y cyhoeddwr, I. Jones, Treherbert. Gwobr, 20p, a medal aur i'r arweinydd. I'r C6r. heb fod dan 50 mewn rhjf, a gano'n oreu Fy Ngwlad" (J. Thomas, Llanwrtyd). Gwobr, lOp. I'r Parti a gano'n oreu "Deweh i'r Gàd" (Gwilym Gwent). Y gerddoriaeth i'w gael gan 1. Jones, Treherbert. Gwobr, 2p. I'r hon a gano'n oreu Gyda'r Wawr" (J. Thomas). Gwobr, 10s. 6c. I'r hwn a gano'n oreu "Y Bachgen Dewr" (J. Parry). Gwobr, 10s. 6c. Barddoniaeth-åm y Bryddest oreu ar Gor- esgyniad Palestina o dan Joshua." GwobrJ 5p. a chadair hardd, Rhyddlaeth — Am y Traethawd goreu ar Glanweithdra personol a theuluaidd." Gwobr. 2p. 2s., rhoddedig gan Dr. Rhys. Am y Traethawd goreu ar Gynydd Masnach Cwm Rhondda." Gwobr, lp., rhoddedig gan i Mr. W. Evans, Dunraven Arms. Am y Casgliad goreu o Ffraethebau Cymreig. Gwobr, 3p., rhoddedig gan Mr. I. Jones.- Bydd y programme yn barod ar y laf o Ionawr, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenyddion.. Am y Ddau Englyn Unodl-union i'r "Gath." Gwobr, 5s. BEIRNIAID. Y Gerddvriaeth-PENCERDD AMERICA ac Eos RHONDDA. Y Fwddoniaeth, <kc.—MYNYDDOG. Cynelir CYNGHERDD mawreddog yn yr hwyr. Yr elw i fyned at Brifysgol Cymru. D. P. LEWIS, Dumfries-street, ) v G. M. REES, Station-street, 5 1169 EISTEDDFOD SION, TREFORIS. CYNELIR yr EISTEDDFOD uchod DYDD C LLUN V SULGWYN, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerddoriaeth, Barddoniaeth, Rhyddiaeth, &c. PRIF DDARNA U. CERDDORIAETH. 1. I'r Cor, heb fod dan 80 o rif, a gano yn oreu "Worthy is the Lamb," o'r Messiah, Gwobr, 25p. 2. 1'r C6r o'r un gynulleidfa, na enillodd dros lOp. o'r blaen, a gano yn oreu, "Clyw, 0 Dduw, fy llefain (gwaith D. Jenkins, Trecastell). Gwobr, lOp. 3. I'r Parti o 16 a gano yn oreu Cydgan y Morwyr (gwaith Joseph Parry (Pencerdd Amer- ica). Gwobr, 2p. 4. I'r C6r o Blant a gano yn oreu Can y Plant,' o'r Gerddorfa, Rhif 29 (gwaith J. Be van, Treforis.) Gwobr, 2p. 5. I'r Cor, heb fod dan 40, a gano yn oreu "Y Blodeuyn Olaf" (gwaith J. A. Lloyd). Gwobr, 5p. BARDDONIAETH. 6. Am y Gan o glod oreu i Mr. Wm. David, Mill House, Morriston. Gwobr, 2p. 10s. RHYDDIAETH. 7. Am y Traethawd goreu ar "Hen Gastell Trewydfa, Treforis." Gwobr, lp. Bydd y programme yn barod yn fuan, yn cynwys enwau y Beirniaid, a'r gweddill o'r testynau, yn nghyd a phob manylion; i'w cael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd-J. FRANCIS, Bath Place, Momston, Swansea. 1145 MONEY: to lend on good leasehold or freehold security. For furthur particulars, apply to Mr. John T. Howells, Solicitor, 7, Canon Street, Aberdare. 1165. DARGANFYDDIAD RHYFEDD. Gwellhad rhag y Dropsy. Mawr yw y dyoddef oddiwrth y Clefyd peryglus hwn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyriau meddygol; ond yn awr, trwy y darganfyddiad hynod hwn, fe ellir cael gwellhad uniongyrchol oddiwrth Bocn yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau, Ghwydd yn yr Ymysgaroedd a'r T.-aed, „• Diffyg Anadl, Gwynt yn y Cylla ar PCijecld, < y Givciulid, Gravel, d-c., (yr hyn sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gymeryd HUGHES'S PATE-NLT rl DROPSY II'} "j(. PILLS, Un blwch a brawf eu rhyfedd effeithioldeb. Gellir eu cael trwy unrhyw1 Fferyllydd yn y Deyrnas am Is lie., 2s. 9c., a 4s. Gc. WHOLESALE—London: Messrs. Herron, Squire, and Francis; Barclay and Sons, Sutton. Bristol: Pearce and Co. These valuable Pills are Registered at Stationers' Hall, London. Any infrin/jemenl will be prosecuted. Un neu ddau, allan 0 lawer, 0 Dystiolaethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn :— [A COPY] Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyg- iniaeth effeithiol, o'r enw PATENT DROPSY PILLS y maent wedi fy llwyr iachau o'r Diffv? Anadl, Poen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio v caiff pawb wybod am danynt, fel y'gallont gael iachad. Llanelli, Tach. 10, 1875. D. DAVIES. [A COPY] Trwy gymeryd eich moddion effeithiol chwi cefais fy iachau o'r Dropsy, Chwydd mawrdros yr holl gorff, Diffyg Dwfr, vvcli a Diffyg mawr ar yr Anadl, a Churiad y Galon. Yr oeddwn yn bur annhebvgpl o wella; er cyrneryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rliagorol chwa at y "Dropsy, y Gwynt, a'r Grafel," cefais ryddhad. Gwne w ch y defnydd a fynoch o hwn.-Yr eiddoch, Llandybie. 11. THOMAS. 1212 Tabernael, Pontardulais. CYNELIR y Bedwaredd EISTEDDFOD FLYN5TDDOL yn y capal uchod DVOD GWENER Y GROGLITH, EBHILL 14, 1876. Beimiad y Can v, -Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), Llanelli. PRIF DDARX. "Mor hawddgar yw dy bebyll" (J. Parrv). Gwobr, 5p., a Metronome gwerth lp. lus. i'r Arweinydd. Y mae y programme yn awr yn barod, pris lc.. trwy y post, lie. HENRY JONES Ysg. Upland House, Pontardulais, R.S.O. 1235 Seion, Abercanaid. flYNELHl EISTEDDFOD yn y cape! uchod C Dydd LLUN, EBRILL 3ydd. 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerdd- oriaeth, Barddoniaeth, Rhyddiaeth, Adrodd, &c. PRIF DDARNAU CERDDOROL. 1. 1'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu Y Blod#uyn Olaf." Gwobr, 8p.. a baton hareM i'r arweinydd. 2. I'r Cdr o Blant, heb fod dan 35 o rif, a "ano yn oreu, Follow your Leader or Onward," No. 118, vol. x., April, 1875. Gwobr, Ip. 10s. Bydd y programme yn barod yn fuan, yn cynwys enwau y Beirniaid a'r gweddill o'r testynau, ac i'w cael am geiniog yr un, drwy y post, dwy «einio« gan yr ysgrifenydd, JAMES EVANS. 35, Chapel-street, Abercanaid, Merthyr Tydfil. 1232, Tysteb Mr. Gibson, Excise Officer, Aberdar. GAN fod Mr. Gibson wedi ei apwyntio i ddos- parth pwysig yn Ngogledd Lloegr, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y George Hotel. Aber- dar, Rhag. Slain, 1875, penderfynwyd cyflwyno iddo ryw arwydd o barch ar ei ymacla wiad fel cydnabyddiaeth am y modd caredig y cyilawnodd ei swydd tra yn Aberdar. Gwneler pob arian yn daladwy i'r TrvsorvrW DAVID DARBY, Lord luaglan In a, Commer' cial Street, Aberdar. • ommei- 1231. H. W. EVANS, YSG.
Free Emigration to Queensland.
Free Emigration to Queensland. FREE PASSAGES are granted by the Govern- ment to FEMALE DOMESTIC SERVANTS of all kinds, who are at liberty to engage with whom they please at the best wages they can get Wages, £ 25 to C50 a year, all found. FREE PASSAGES given to Farm Labourers, whether married or single: Wages £ 30 to .£50 a year, with board and lodgings. ASSISTED PASSAGES to Mechanics and others on payment of J34. Wages as under s. s. Blacksmiths 12 to 14 per day Carpenters 12 to 14 Shoemakers 9 to 10 Shipwrights 10 to 12 Tailors 9 to 10 Miners, colliers, & Quarrymen. 10 toJBl The above need ndt want work a single hour. Apply personally or by letter to the Agent General for Queensland, 32, Charing Cross, Lon- don or to Mr W. J. PUESSWELL and Mr. JOHN JAMBS, Crown Hotel, Aberdar or to Mr. OWEN: MORGAN, Morgan street, Pontypridd. 1209