Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

gwych a gewch o'r Wladfa am beth amser z, beth bynag ond aid yw ein gobaitli yn an- sicr am fywoliactli eto/yn y dyfodol, a chredwn y bydd hyn yn fywyd newydd i'r seryciliaa Cymrei" yn yr America Ddeheuol, drwy chwythu i ffwrdd gymylau o anhawsderau o'r ffordd, a'n dwyn i barotoi ar gyfer affi- crylchiadau cyffelyb all ddygwydd eto mewn blynyddau dyfodol, drwy wneyd defnydd o gelfyddyd er dyfrhau' y tir, os na wel yr Ar- glwydd yn dda wlawio arro 1L" yn mhlith y rhai a ddaeth vma ddiweddaf lawer or ardal yna, ac yn eu plith Thomas Daniel a'i deulu, Josuah Williams a Thomas Williams, William Williams a Lodwig ei frawd, a dy- eithriaid ereill i mi o Ystrad, Aberdar Cwm- aman, Heolyfelin, Merthyr, Dowlais, alleoedd ereill o'r Deheudir, fel y maent yn cael eu galw yma Mintai'r South. Pe byddit yma nis gnllaset lai na chwertliin a synu wrth wrando ar ami i chwedl ddoniol sydd rhwng y gwragedd newydd yma, ac ami i awr sydd yn cael ei threulio ganddynt i felldithio D. S. Davies ac Edwyn Roberts, am fod ei Parad- wys ddychymygol hwynt wedi troi allan yn anialwch gwyllt, a'u dblydd gwyrddion dy- chymygol hwy yn llwyd eu gwedd, ac yn brefu am wlaw, ac a rhai o honynt mor eithafol a dweyd na fyddai anifail byw naw diwrnod yn y dyffryn, tra mae y gwartheg a'r ychain yn ymbrancio wrth yr ugeiniau a'r canoedd o fewn 23 milldir, lie y mae yr hen Wladfawyr wedi ymsefydlu. Dylasai pawb, wrth gych- wyn am y Wladfa, gadw mewn cof mai cych- wyn am wlad newydd yr oeddynt, ac ymbriodi a'r amgylchiadau cyn cychwyn, er gwell ac er gwaeth, gan fod yn berffaith sicr na allasai llawer o wychder a pharotoadau fod ar eu cyfer ond bydd addurn eu cartref i bawb yn ol ei diwydrwvdd eu hun. Nid yw dyfod yma nos Sadwrn yn rhoddi digon o amser i ddyn i ffurfio barn aeddfed am wlad cyn bore dydd Sul, a melldithio pob peth mewn llai na deuddeg awr o amser. Dichon y daw llawer i lythyr achwyngar adref fel yna, wedi ei gyfansoddi yn fyrbwyll, ac heb bronad nac amser i bwvso a, mesm: pethau yn briodol. Er fod y flwyddyn hon yn anttalrioi, o ner- wydd y sychder, a'r bobl mwynadau cymaint ag arfer, eto, bydd yn sicr o fod yn llawn cystal a Chymru yn y diwedd. Byddwn byw wrth lawer llai o waith, gan na bydd raid llafurio am rent na threth o un math, dim ond bwyd a dillad, dyna'r cwbl. Gan fod cymaint wedi dyfod yma eleni heb ond ychydig o ddarparu ar ei cyfer, nid doeth, yn ol fy marn i, fyddai i lawer ddyfod hyd ddechreu y flwyddyn 1877 eto, a hyny er mwyn eu cysur eu hunain erbyn hyny, bydd y bobl sydd yma yn awr wedi adeiladu tai iddynt eu 'hunain, a bydd eu lie presenol yn wag i ereill. Byddwn erbyn hyny, gyda llwyddiant, a digonedd o ddefnydd bara yn y wlad. Ond wrth daflu eu hunain i'r amgylchiadau a chy- aneryd y canlyniadau, nid oes anhawsdra yn y presenol, ond ychydig fydd y cysuron. Hyn a ddywedaf mewn gwirionedd, a thyn dithau y casgliadau a fynot, fod yma well lie i fyw ar ol darostwng ychydig anhawsderau ac annghysuron. Byddai yn iechyd i bobl y pyllau glo yn Ngwent a Morganwg i ddyfod" i'r Wladfa i fyw, o fwg a llwch anach-y gweithfeydd, a mwynhau bendithion y 11 or- xichaf yn holl ddeddfau anian ie, mwynhau rhyddid ac annibyniaeth ar ei hyd. Ni bydd yma na chytundeb dyddiol (coTitvctct ntlcs) na rhybudd i ymadael a'r gwaith, dim stop lamp uac aros yn y pwll hyd amser penodedig beth "bynag fyddo'r galw. Y mae yma hefyd ryddid llafar a lien i bawb, dyna un o brif reolau Cyfansoddiadol y Wladfa. Gall pawb siarad heb ofni sut y mae yn d'od yn ol llaw am 'hyny, canys bydd 300 erw o dir Dyffryn y Gamwy yn abl i gynal pwy bynag a'i defn- yddio yn briodol, a gall y neb a wnelo hyny droi llawer o arian heibio, fel y gwnaeth ein cymydog John .I;riffiths yma y llynedd, dan anfanteision mawr. Sicrhaodd ef fil o bunau yn ariandy Beunos Ayres y llynedd o lafur ei ddwylaw ei hun, agos oil; calodd ychydig am waith a llety, ond ei lafur ei hun oedd y rhan fwyaf o lawer. Nid yw hyna ond blaenbrawf o'r hyn a ellir wneyd yn y Wladfa. Pwy bynag a ddaw yma o Morganwg, Mynwy, a manau ereill o'r wlad, y peth mawr iddynt ar y dechre iydd ymfoddloni ac ymgymodi a'r gwahaniaeth sydd rhwng dull y Wladfa yn ei phob peth i'r Hen Wlad-newid gwaith, newid bwyd, newid awyr, newid defnydd tan -bydd pob peth yn chwythig ar y dechreu, ond bydd ffurf ei gartref yn ymddibynu yn gwbl ar ddyn yn bersonol. Gadawaf ar hyn- yna y tro hwn, gan gredu y bydd genyf fwy o brofiad o'r wlad y tro nesaf. Byddaf yn myned i ddewis fy nhyddyn dydd Llun nesaf, yna ni bydd genyf amser segur ar ol hyny nes .ei gael mewn ffordd i hau arno y flwyddyn nesaf. Y pwnc mawr fydd cael nos er tynu dwfr o'r afon, yna byddaf yn sicr am wenith. Bydd wych, ti a'th deulu, a chofia fi at bawb yna heb eu henwi bob yn un, a bydd yn dda genyf gael clywed oddiyna ambell dro eto; a chofia beidio rhoddi coel ar bob peth a glywi di yna yn llythyrau y bobl newydd yma, tyn linell ganol agos ar bob peth, yna byddi yn agos yn dy le-nid rhy dda na rhy ddrwg chwaith. Bydd wych hyd nes caf amser i ysgrifenu atat eto.-Dy hen gyfaill, W. H. HOWELL, Colony Galansa, Rio Chupat.

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

.ABERDAR.

Y DIWEDDAR MR. T. D. HOWELLS…

Ymgyrch Herw-helyddol ger…

Advertising

LLINELL Y "NATIONAL" I NEW…

Advertising

ILLINELL Y "WHITE STAR" 0

Advertising