Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYN…

News
Cite
Share

CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYN OFFEIRIAD. Th llys yr ynadon yn Mhenybont-ar- ogwy, dydd Sadwrn (o flaeri y MIlwriad Morse, y Mri. L. Price ac E. Lewis) dyg- wyd y Parch. Bees Fritchard, ncer Llandy- fodwg, yn mlaen ar y cyhuddiad o ymosod ar diyn o'r enw Richard Hay. Dywedodd yr aehwynydd ei fod ar y 14eg cyfisol, yn hela ysgyfarnogod ar fferm Pwllyfelin. Pan oedd y own ar ddal yr ysgyfarnog, saethodd yr amddiffynydd hi; gorchymynodd Hay i heliwr, o'r enw John Matthews, gymeryd y creadur oddiwrth yr amddiffynydd. Ar hyn, rhoddodd yr amddiffynydd y dryll oedd newydd danio i'w fab, a chymerodd un llwythog oddilwrtho yn ei Ie, gan ei anelu at yr achwynydd, a dweyd y buasai yn ei saethu os na safai yn ol. Cymerodd Mr. Pritchard yr ysgyfarnog ymaith gydag ef. Galwyd ar dri dyn yn mlaen, pa rai a gadarnhasant dystiolaeth Hay. Dywedodd hogyn Q!r enw John Edward Morgans, fod yr amddiffynydd wedi bygwth cyn hyny y buasai yn saethu own yr helwr, a'r ysgyf- arnog, os nad aethent oddi ar y tir lie yr oeddynt. Galwyd mab Mr. Pritohard a dyn o'r enw Edmund Thomas i roddi tystiolaeth o blaid y diSynydd, a throsglwyddwyd yr ;achos i'r frawdlys dri-misol nesaf.

Advertising