Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y OAUAD ALLAN YN MHLITH Y…
Y OAUAD ALLAN YN MHLITH Y TEILWRIAID. MR. GOL.-Gan fod y pwnc uchod yn cael el godi i'r gwynt ar dudalenau y GWLAD- GARWR, a welwch chwi fod yn dda I ml gael gwegryn un gograld o hono. Y peth cyntaf wyf am ofyn ydyw, Pa le y mae dydd Llun yn cael ei dreulio gan y rhan amlaf o welthwyr y tellwrlald ? Ie yn wlr, a rhan helaeth o ddydd Mawrth yn fynych. Yr wyf yn ateb mai nid wrth eu gwaith, pan fydd gwir angen am danynt hefyd. Pa le y mae cael y deuddeg a'r deunaw awr y dydd y cyfeiria "Mynyw" atynt yn eich rhifyn am Hydref 31aiu 1 Gall y darllenydd benderfynu fod y teilwriaid yn gweithio can Ueled o orlau • a neb, a pha gyflog fawr a ddlsgwyliant ar ddiwedd yr wythnos ar ol colli.a gwario eu Tmrtari ar ei dechreu. <c Sawl na weithio na fwytaed chwaith." Pa le mae yr elw I fyned os cymer y gos- tynglad le? Nid i'r cwsmeriald, meddai "Mynyw." Gobeithio mai nid dewin ydyw y "Mynyw" hwn, yn gwybod pobpeth ac ychydig yn rhagor. Nid ydym yn meddwl fod darllenwyr y GWLADGABWR mor barod I gredu y cyfan a glywant gan rai sydd yn dweyd eu bod yn cael gostyngiad o bump ar hugain y cant, &a. Yr wyf yn dweyd, a hyny ar sail wirloneddol, fod y tellwrlald yn cael deg ar hugain y cant yn rhagor yn awr nag oaddynt yn gael er ys deng mlynedd yn ol, ac yr oedd llawer trymach gwaith ar ddillad pawb y pryd hwnw nag sydd yn awr. A pha gaethion sydd gan y melstri yn y wlad hon? Na, ddarllenydd, nid oes dlgon o raffau yn mhlwyf Aberdar a Merthyr I gaethiwo llawer ar y tellwrlald. Y gwirlonedd yw hyn, y gwelthwyr sydd wedi bod ynfeistri y blynyddoedd diweddaf yma,— gwnaent y gwaith fel y gwelent yn dda, gad- awent ef ar el haner pryd y mynent, ac allan a llawer o honynt ar ganol dydd goleu pan fyddai dillad heb eu gorphen erbyn angladdau so. amgylchladau ereill. Son am orthrymu a chaethlwo Y meistrl sydd wedi dyoddef hyny, fel y gwyr lluaws o'ch darllenwyr drwy fethu cael eu dillad yn barod erbyn yr amser addawedlg. Nid yw y gostyngiad ond deg y cant, a gallant enill cyflog dda.-PROFIA.DOL.
LLAWRDYRNU SAMSON.
LLAWRDYRNU SAMSON. LLITH LXVI.. Mr. GOL Peidied John o'r Felin Wen a chymeryd yn ganiataolfodMabonwyson a mIn- au yn myned i Mountain Ash nag un steddfod arall y NadoUg nesaf. Pwy flas sy ar Nadolig mewn steddfod 7 Dim rhecsyn. Mwy na thebyg y bydd Mabon a minau yn cymeryd ein ffon a'n ysgrepan at ryw gyfaill neu fon- eddwr neu gUydd, I gyd.wledda ar wydd neu dwlel, a rags and bones ereill y bwrdd gyda hwy, a mygyn o'r cetyn ewta ar ol hyny. Bydd hyny y fwy pleserus na ffardeliaeth elsteddfodol, ar Nadolig beth bynag. Gwelaom y bardd a'r cexddor Garmonydd yr wythnos ddlweddaf-ymddangosal yn el hwyliau goreu. Dyben ei ymweliad a'r De- heudir yw pleldio achos chwarelwyr Lord Penrhyn, y rhai ydynt allan ar strike er ys rhyw dair wythnos ar ddeg! Drualn o honynt! Y maent yn filoedd mewn nifer, a thystlal Garmonydd fod yr olwg arnynt a'u rhai bych- aln yn druenus. Dyma gyfle braf i welthwyr eefnog a chalonog i gydymdelmlo yn sylweddol a hwy. Da chwl, anwyl gydwelthwyr, peld- iwch gadael ein cydfrodyr gwelthiol yn y Gogledd yn y caledi heb rol rhyw help Iddynt. Y maent mewn adfyd blin, ac nid ydynt yn gwneyd dim ond ymladd dros yr hyn a ga gwelthwyr mewn chwareli ereill, a'r hyn sydd yn rhesymol a theg Iddynt gael. Os na wydd- och ble I anfon, gyrwoh eich sylltau a'ch coronau, eich chweigeiniau I Mr. Lloyd, y GWLADGARWR,—diau yr enfyn ef hwynt I'r lawn fan. Helpodd y Gogledd yr Hwntws yn dda I gynorthwyo y 06r mawr, ac y maent wedi ein helpu mewn strikes. Gan hyny, anwyl Ddeheuwyr, allan a'r pres, a bendith aznoch. Wel, yn enw Llandlngad, o ble daeth ar unwalth y baidd ymfflachyddawl hwna loan Eerenau, fel comed I'r awyrgylch farddol? Mae el linell flaenaf yn orchestol:— If wrth myfyrlo map y bydoedd yr hwn sy yn cynwys y teyrnasoedd." Waeth mae Rhufain, deallwch chi, mewn mwy nag un byd. Dyma linell wedi'n "medd haneslon sef historian" Wei done loan, cloddiwch yn chwarel yr awen, fachgen, fe ddaw y jewels. Trowch ben eich ewch i for, athrylith, fe laniwch ar ynys y Modau a'r pomgranadau cyn bo hir. Y mae yn gredid i'r oeBae i'r GWLADGARWR fod dynion fel chwi yn ymddangos ar blat- form belrdd eln gwlad. Yr eiddoch hyd filiwn o ser. SAMSON.
It SOOPES.".
It SOOPES." MIL GOL.—Yn y GWLADGARWR diweddaf y mae rhywun a gyfenwa ei hun Scopes," dan y penawd "Trefforest," yn fy nal yn gyfrifol o gymeryd rhan helaeth o draethawd Tyfodwg ar Gweithredoedd ac nid gelriau," ar y testyn Y llwybr tebycaf 1 lwyddo yr Ysgol Saboth- ol." Bydded hysbys 1" Scopes" fod y nodau gofynol genyf i arwyddo mai gwaith awdwr arall ydyw. Oni wyr efe fod hawl gan neb pwy bynag i ddyfynu gwaith unrhyw awdwr, dim ohd gosod y nodau gofynol witho. Dywed Scopes "ya ei lith, "Rhaid i mi gyfaddef nasgallaf gyaoni hyn ond ar y tlr fod Ceiniony dd wedi ncwid ei ffageaw yn ystod y deng mlyned diweddaf, mai Tyfodwg '64 ydyw Celnlonydd ,'74. 0! greadur haerllug oni wyr efe fod Tyfodwg wedi ei gladdu' er ys blynyddau bellach ? Dywed mai "parch i wreiddiolder a gonsstrwydd" oedd yn ei gymhell i ysgrlfenu. Yr ydym ni yn meddwl mai oywrelnrwydd ac anwybodaeth oedd y rheswm. Yr oeddym wedi dweyd cyn myned i Drefforest wrth rai o'n cyfeillioa aial sael o gychau awdwyr ereill oedd yr ysgdf Gofaled" Scopes am beidlo gwneyd cam a gwr yn ei fater byth mwy. Tach. 3ydd, 1874. CBINIONYDD.
AT Y GWALCH.
AT Y GWALCH. Syr,—Ymddangosodd llythyr o'r eiddoch yn y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR am orchestwaith a gyflawnwyd yn mhwll Blaen- llechau. Buoch yn dra gofalus i osod eich enw llenawl adnabyddus, yn ddilys i bwrpas neill- duol; ond gyfynaf, paham y ilusgasoch enw y diweddar lywydd, Mr. David Reea, i mewn? Os tybiasoch nad yw Mr. Rees yn y wlad hon yn awr i amddiffyn el hun, dylasech chwi beth bynag gofio fod iddo ganoedd o'i hen welthwyr yn yr hen wlad yn barod i'w amddiffyn, a phan y daw y sawl y cyfeifiasoch atynt, pa rai a olchasocha'chsebon meddal,mor adnabyddus fel Uywydd galluog a David Rees o'r Moun- tain Ash, cewoh y pryd hyny daflu sarhad ar gymerlad Mr. 3ees, os gellwch.—Yr eiddoch, Tach. 3ydd. GLOWR No. 3.
UNDEB Y GLOWER, DOSBARTH CASTELLNEDD.
UNDEB Y GLOWER, DOSBARTH CASTELLNEDD. Mr. GOL.—Yr ychydig amser yn ol yr oedd y dosbarth uchod yn myned yn y blaen yn weddol dawel a chysurus; ond rywsut neu gilydd, fe agorodd rhywun lygaid y dosbarth yn nghyleh y ffordd annheg oeid gan y swydd- ogion i gario pethau yn mlaen, a cheisiwyd ganddynt ddiwygio. Ond am na fuasid yn dyfod i'r lie priodol i ddadleu y path, ni wnasthant sylw o'r mater. Yr oedd deuddeg punt y flwyddyn yn cael eu talu o'r blaen am gyflawni un swydd, ac yr oedd llawer yn grwgnach fod hyny yn ormod; ond y mae penderfynia.d wedi ei baslo yn ddiweddai fod y person ag oedd yn derbyn deuddeg punt o'r o'r blaen i dderbyn cant a haner o bunoedd y flwyddyn o hyn allan, Yn awr, pa reswm sydd dros garlamu yn mlaen fel yna, a hyny yn hollol groes i deimladau naw o bob de trwy yr holl ddosbarth. Yn wir nid rhyfedd i luaws dynu yn ol a pheidio talu eu levies. Nid oes llawer o amser er pan roddodd y Grand Lodge ganmoliaeth uchel i'r dosbarth o ran trefn a gweithgarwch, ac os oedd y dos- barth yn cael ei gario yn mlaen yn y fath fodd nes oedd yn tellyngu cael y fath ganmoliaeth uchel, a hyny heb agent, pwy eisleu y fath swyddog sydd ? Yn awr, toneddigion, godd- efwch air o gynghor, ystyrlwch y mater unwaith eto, a gosodwch ef o flaen holl gyfrin- faoedd y dosbarth yn ddigon cyhoeddus; a rhodder ef 1 bleidlals gyffredinol, ac os bydd i'r blald sydd dros yr agent gario y dydd mewn ffordd deg yr wyf yn sicr y bydd i'r blaid wrthwynebol ymfoddloni a thalu eu levies fel o'r blaen. Ond os na wnewch yr uchod, neu ryw gynllun teg arall, yr wyf yn dra sicr, er mawr ofid i mi, yr a y dosbarth i annrhefn cyn pen nemawr o amser.—Yr eiddoch, LLYGADGRAFF.
AT "UN YN GWYBOD."
AT "UN YN GWYBOD." MR. GOL.,—Oarwn gael ar ddeall ganddo ar ba sail y mae yn gallu dyweyd mor bender- fynol mai "Carw Ooch,' (" Carw Cynon," medd y Fellten,) yw awdwr yr englyn i u Flodeuyn y Glaswelltyn," am yr hon y caf- odd el wobrwyo yn Gilfach Goch yn 1873. Yr wyf yn dweyd yn eofu mai L. ab Nedd yw yr awdwr, ac iddo fod yn fuddugol arno yn Nghyfarfod Llenyddol Oarmel, Treherbert, yn y flwyddyn 1868, dan feirniadaeth Glan Yatwyth, gweinidog y Wesleyaid yn Nhre- herbeit yr adeg hono. Fe gyhoeddodd yr awdwr yr englyn yn y GWLADGARWR yn mhen ychydig fisoedd wedi hyny. Ni chaf- odd ei ysgrifenu yn gywir yn y Fellten na'r GWLADGARWR. Dyma fel yr oedd yn y ddau newyddiadur 0 law Duw, tlws flodeuyn-yr hon geir Ar fron gu'r glaswelltyn Deuddeg awr y dydd gwyn, Bery oes y byw rosyn. Dyma fel y mae yn gywir; ac ond edrych yn fanwl, celr gweled y gwahaniaeth yn y gair cyrch, a'r drydedd linell. 0 law Duw, tlws flodeuyn-yw'r hwn geir Ar fron gu'r glaswelltyn Deuddeg awr, oed y dydd gwyn. Bery oes y byw rosyn. Y mae yn eithaf eglur mai nld Carw Cynon yw yr awdwr, neu pa fodd yr wyf fi, un o bwyllgor y cyfarfod rhag-grybwylledig yn 1868, yn medru dweyd pa fodd y mae yr englyn yn wrelddlol. Mae amryw yn Treorcl a Threherbert yn gwybod y pedair llluell er's blynyddau. UN YN GWYBOD YN WELL.
SIAMPL DDOETH.
SIAMPL DDOETH. MR. GOL.-Gelwflo ein sylw gan y gwr doeth at greaduriaid bychain doeth fawn. Nt wnawn sylwl ond ar un o'r rhywogaethau ar hyn o bryd, sef y morgrug. Dywedir nad ydynt yn rhal nerthol; ond eto yn ddoeth fawn, trwy ddarparu eu Iluniaeth yr haf. Er fod dyn wedi ei gynyagaeddu & synwyr so & rheswm, eto y mae ei ymddygiadau y fath, fel mae eisleu ei alw i ddysgu gwersi oddi- wrth greaduriaid bychain sydd yn gweith- redu yn ol greddf. Fel y mae l'r morgrugyn el haf llythyrenol, felly y mae i ddyn ei haf ffigyrol. Pan fydd dyn yn nghyflawnder el nerth a'i hoewder, gelwir yr amser hwnw yn haf hefyd; ac fel y mae morgrugyn yn darparu yn yr haf erbyn y gau&f, felly y dylal dyn ddarparu yn haf bywyd erbyn gauaf henaint a methiant— darparu mewn adeg o lwyddlant erbyn adeg o aflwyddiant. Rhal a ddywedant nad ydynt hwy yn myned I gasglu arian i ereill gael eu mwynhau, 900 ereill a gredant y dylal y gwelthlwr osod ei hun allan yn gystal a neb pwy bynag, trwy fyw mawn gwychder a moethau. Nid ydym yn erbyn i weithiwr gael ei angenrheldiau a'i gysuron, nac yn credu fod neb yn fwy teilwpg nag ef i'w cael; ond ar yr un pryd, credwn y byddai yn fanteisiol iddo i osod o'r neilldu, mewn adeg o Iwyddiant, yr hyn a allat hebgor er- byn adeg o aflwyddiant. Ni ddylai y dyn nad yw yn enill ond ychydig ddegau o bun- oedd yn y flwyddyn, geisio byw yn ogyfuwch a'r dyn fyddai yn enill ei ganoedd yn y flwyddyn so os byddai iddo syrthio i dlodi warth geislo gwneyd felly, nl fyddal yn am- gen nag anfri iddo. Siaredir llawer am bjrinhau marchnad liafur trwy ymfudo, a chredwn fod y oynllun yn dda ac angen- rheidlol; ond pe buasai llawer o'r hen welth- wyr sydd yn gwelthlo wedi iawn ddefnyddio eu hamser, gallasent yn eu henaint dderbyn mwynhad oddiwfth yr hyn a ddarpasant yn haf bywyd, a thrwy hyny roddi eu lie i ereill yn .marchnad liafur. Nid ydym yn amheu nad oes llawer o ddynion ymdreohgar wedi gorfod byw mewn tlodl trwy eu hoes, a hyny o herwydd aflwyddiant; ond beiddiwn ddweyd fod llawer wedi goddef angen yn eu henaint oherwydd bod yn annghymedrol a gwastraffus ar hyd eu hoes. Llawer a ddy- wedir am undebau y gweithwyr, a rhaid cyfaddef mai sefydliadau buddiol ydynt; ond pe buasai rhagor o welthwyr wedi dilyn siampl y morgrugyn, buasai hyny yn rhagori ar undebau meibion liafur. Cwynir mewn rhai ardaloedd fod anedd-dai yn btdn ond pe buasai mwy o gynildeb wedi cael of arfer yn mhlith gwelthwyr, gallasai rhagor o hon- ynt fod yn meddu tai eu hunaln, fel na fuasai neb yn beiddio eu troi allan o honynt. Credwn pe bae l'r hyn a gelslwn anog gael mwy o'i weithredui y byddai llai o anghysur a mwy o gysur yn ffynu.—Yr eiddoch, &o., LLWCH GWAEL.
UNDEB Y GLOWYR.
UNDEB Y GLOWYR. MR. GOL.Orefaf am gael congl fach o'ch newyddiadur yr wythnos hon I draethu ychydig ar y mater yma, gan obeithio y bydd hyny yn fuddlol yn ol llaw gyda golwg ar yr amser dyfodol, er osgol llawer o ddyryswch ac Jjnnrhefn sydd yn ein bygwth yn y dydd- iau yma. Arwydd o wendid, a n6d o ansef- ydlogrwydd, yw y gwrthgiliadau a'r ymran- iadau sydd yn ein plith fel glowyr.y dyddiau presenol. Clywals fod Mr. Halllday wedi bod yr wythnos ddiweddaf tua Threherbert yn cynghorl y glowyr i fod yn gadarn yn y ffydd Undebol erbyn yr amser tywyll sydd yn ein bygwth yn nghynwysiad y contract rules a dynwyd allan ar ein cyfer yn Nghaer- dydd ond credwn mai ychydig ddylanwad a gafodd ei bregeth ar bobl wargaled rhan uehaf Cwm Rhondda beth bynag, onide ni fuasent yn mhen deuddydd deu drt yn ffurfio cangen o undeb newydd yn y lie, a hyny ar gynllun newydd, pa un sydd a'i Iwyddiant yn sicr, meddent hwy; os felly, da fawn hefyd. Ond ofnwyf mai rhwyg yn y gwersyll yw hynyna eto, a bydd hyny yn gyfle i'r gelyn redeg i mewn gan wneuthur gwrhydri arnom. Ond os na, y mae hyn yn awgrymu yn amlwg ein gwamalrwydd a'n hansefydlog- rwydd ni fel gweithwyr wrth ehedeg ar ol pob peth newydd o hyd ar ei ymddangosiad cyntaf. Mwy o bwyll oyn cychwyn, frodyr, so ar ol hyny mwy o ymlynlad diflino. DAFYDD O'R GBLLI.
BEIRNIAID CYFARFOD LLENYDDOL…
BEIRNIAID CYFARFOD LLENYDDOL WAUNARLWYDD. MR. GOL.Dydd Nadolig nesaf, y Mae cyfarfod cystadleuol i. fod yn y lie uchod— y gystadleuaeth yn gyfyngedig i'r gymydog- aeth, a'r gwobrwyon yn cyrhaedd t4 16s, ac y maa pump o feirniald i fod ar y fainc fawr i bwyso y gwahanol dalentau. Yn enw pob rheswm, pa angen sydd am danynt oil ? Yr wyf wedi clywed nad oes un o honynt wedi enill un gair na gwobr mewn un eistedd- fod nac un gystadleuaeth eiloed. Mae eisieu diwygiad yn hyn o beth, neu ynte fe sudda ein heisteddfodau yn fuan i ddinodedd a gwarth.—Yr eiddoch, BRONWYN.
PETH DYEITHR.
PETH DYEITHR. MR. GOL.,—Y mae path tra dyeithr i ml yn cymeryd lie yn Llansawel, sef ail flodeuad pren per. Y mae yr hen bren-pa mor hen nis gwn, dywedir el fod dros haner cant o flwyddi o oedran-wedi blodeuo uawalth o'r blaen y flwyddyn hon, ac wedl" dwyn rhyw gymaint o ffrwyth na addfedasant fel y byddent arferol o wneyd. Nld oes un ddalen, na gwerdd na chrin, arno yn bresenol. Y mae yr hen bren a'i wisg yn ddu, a'i flodau yn berffaith wynion. Dygwyddodd yr un peth o'r blaen tua phedair neu bum' mlynedd yn ol. Bydd ychydig oleuni ar y peth a achosa hyn yn dderbyniol iawn.Yr eiddoch, YMOFYNYDD.
OWMOGWY.
OWMOGWY. Mr. GOL.Gan fy mod i wedi dwyn y cyhuddiad yn erbyn un o swyddoglon yr Undeb ac ereill yn y GWLADGARWR am Hyd- ref 3 lain, a'r eyfryw rai wedi glanhau eu hunain mewn cyfarfod o'r gweithwyr ar ben y pwll, yr wyf yn tdmlo yn ddyledswydd arnaf i gyhoeddi yn eich colofnau mai ar fai y cy- huddwyd hwynt; ac aid oes rhaid iddynt hwythau ofni clywed am dano. HEBOG ORAIG YR ABER.
PETHAU NEWYDD.
PETHAU NEWYDD. Mr. GOL. ,-Mae y diwygwyr olgyddol am greu chwyldroad yn masnaoh y olga fydd yn debyg o effeithio er daloni i'r werin, a bod yn achos I ddwyn ein cigyddion presenol i'w lawn bwyll. Mae hyn yn beth newydd, ao fel yn mlaenaf gyda phsthau newydd, nl welwn Twroh Cynon yn blaenort y fyddln ddiwygiadol. John Jones, y Felin Wen, wedi tynu melinydd Dinas Powys aas GI ben, ac mewn canlyniad, ni allwn ddysgwyl rhyfel pigog a gwawdSfcrd. Mae y naili fel y llall yn ddigoa diraa a myned i ffraeo, er y dylent fyw mewn heddwch teilwng o urddas gwyr y blawd. Daw Goronwy y Mail o dan ddwrn y Gwyn o Essyllt; ond yn wir, credwn el fod wedi casnsynied ei gyw i ymdrin ag ef, oblegyd ymddengys pathau fod Goronwy yn lied hyddysg yn helynt Eistaddfodau y chwarter canrlf sydd wedi myned helbio. Bid rhyngoch, y doctoriaid, ao ymladdwch y frwydr allan. Wedi deall o Arglwydd y Penrhyn fod gwyr y De am gynorthwyo eu brodyr yn y Gogledd, dymafo yn gwaeddi digon, gan alwei ddynion at y gwaith a dangos y drws i'r arolygwr an- foddog a gormesol. Prawf hyn yr hen osod- lad "trechgwIad nagarglwydd." Llongyfarchwn ein cyfeillioa yn y Gogledd ar derfyniad y strike, a chaaiad cloch buddugollaeth. Gormod o beth i'w dyoddef ydyw fod Saesoa yn trawsarglwyddiaethu tua gwaelod y graig. Daw yr eryr o'i guddfan, a bydd yn sicr o wneyd hafog ar y fintaf, ac yn eu plith y sebonwr sydd ganddynt yn yr Herald Oymraeg. Fel mae byw Appollo, fe ddatguddir elch gweithredoedd, a phan ddelo y pentwr anwlr- eddau a'r llythyrau cslwyddog i oleuni haul bydd yn galetach arnoch na'r amser y cafodd y twrci mawr ei ferwl, Rhaid gwyntyllu pob drygioni, a dwyn i'r amlwg welthredoedd y tywyllwch. Gall fod rhywbeth yn natur y tir oddeutu gwaelod y graig ag sydd yn gwneyd dynion yn dwyllodrus a chelwyddog, neu ynte mae y boblach yn ddrwg o egwyddor, a digon tebyg mai yr olaf sydd yn lawn. Gan fod yt Eryr i ddyfod allan yn fuan, look out my man am dy heglau. Dywedir fod yr Hen Domes yn myned I briodi cyn myned allan o hono yn llywydd ar, India'r Gorllewih. Ieuan Ddu wedi tori el galon a rhoddi helbio y drychfeddwl o fyned tua dinas y llyn halen, am fod cyfundrefn yr amlwreigwyr i gael el diddymu, fel na fydd gobaith iddo am ychwan- egiad yn nifer ei wragedd. Yr Hen Bacman wedi trol yn dafarnwr, fel nadoes un gobaith byth yr enillir ef yn Demlwr Da. Dywedir hefyd fod Mynyddog wedi el daflu allan o fod yn arweinydd eisteddfodol y De, er nad yw hyny yn gwbl uniongred. Y Gilfach Goch wedi cael yr enw gan rhyw fardd cadeirlol o fod yn nythle crachienorloa y Deheudir. Cofier nad yw beirdd cadeiriol yn siarad efengyl bob amser. Rhagor ar hyn eto pan yn gyfleus. Oofion at Samson, John Jones, a Mabon. wyson.—Yr eiddoch, I NAI 'RHEN DDYRNWR.
AT SAMLETFAB.
AT SAMLETFAB. SYR,—Yn gymaint a bod fy nghyfaill Ia- lwyn yn Olygydd Barddonlaeth y GWLAD- GARWB, gweddusach ynooh chwl fuasai cyf- eirlo etch oafs ato ef. Pe anfonasech elch oais ataf yn gyfrlnaohol, buaawn yn etch ateb gyda pharodrwydd; ond nld wyf yn ewyllyslo bod mor anfoneddigaidd a sarhau Gol. y farddoniaeth, trwy ateb eich gofynlad yn gyhoedduB. Gwir y tuedda eioh cais I roddi anrhydedd i ml, ond y mae yn fath o insult at Olygydd y farddoniaeth; ao nld yw nemawr llal nag insult i felrnlad y cyfar- fod y bu yr englynion yn gystadleuol ynddo. Pwy bynag ydyoh, dymunaf arnooh fy esguBodl am beidio ymyraeth yn musnea ereill.—Yr eiddoch yn barohus, DAFYDD MORGANWG.
AT E. W. R., OOED-DUON.
AT E. W. R., OOED-DUON. ANWYL GYFAILL, Wedl cryn chwllio mewn hen lyfrau, daethum o hyd i'r penlll- ion y gofynasooh 1 ml am danynt. Y maent i'w cael yn mhryddest fuddugol y diweddar hyglodua fardd Emrys i'r anfarwoiion hyny, sef, y Parchedlgion E. Jones (Ietum Gwyn- edd), Morgan Howells, Dafydd Rhys Stephen, a John Jones (loan Tegid), yr hon a enillodd wobr o ugain gini mewn eistedd- fod a gynaliwyd yn Aberystwyth er's un mlynadd ar hugain yn ol (y Groglith, 1853), dan feirniadaeth yr enwog Caledfryn. Y mae yn wir ardderchog drwyddi. D,ma'. darn yr holwch am dano :— Gofynir imrn syn, Paham yr wyf yn brudd ? Ail-agor clwyfau ydyw hyn A deffro gofid cudd; Derbyniaf rybudd dwys » v O fedd yr anwyl un, J' A mynaf deimlo fod fy mhwys Ar rhywbeth gwell na dyn..
UNDEB YR ALOANWYR, OASLWOHWR
naw a deg ceiniog am dano. Undeb a chyd- welthredlad ydyw yr unig lwybri'r gwelthwyr 1 lwyddo a bod yn alluog i gyrhaedd yr hyn sydd gyfiawn iddynt gael mewn uurhyw gysylltiad. Da lawn undebwyr Yspytty, dyma gam yn yr lawn gyfeirlad, ewch rhagoch mown gwahanol gyfeiriadau cyffelyb eto. Dlolch i chwi am ddwyn system in mysg fel gwelthwyr, nid oes dim sydd gyfiawn na wna gwir undeb a chydwoithrediad ei gyrhaedd os ceisir. Go- belthlo y bydd I ni fel gweithwyr ddilyn yr eslampl, trwy fod yn undebwyr ffyddlawn a thrwyadl, ac astudio yr hyn fyddal yn lies ac yn elw I nl yn ein holl gysylltladau; oherwydd os na fydd i'r gweithwyr eu hunain edrych i mewn i'r hyn fyddai yn Ues ae yn elw iddynt, nid oes neb arall a wna hyny; ac yn wir, wrth bwy y gallwn ddysgwyl am eln llesoli os na fydd i ni gelslo gwneyd hyny eln hunaln. Byddwn unol, gydweithwyr, oherwydd mewn "Undeb y mae nerth." GWEITHIWK CALED.