Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

ELWIN WYN:

News
Cite
Share

ELWIN WYN: NEU HELBULON AR LWYBR. GONESTRWYDD. PEN. III. Ymunodd Elwin Wyn A'r brodyr parchus y Methodistlald pan newydd adael ei un flwfdd ar ddeg, ac yr oedd gan yr yagol Sabothol yn y lie gryn olwg arno fel bacagea ymroddgar 1 ddarllan ac esbonio nid oadd y pryd hwn wedi gweled yr un esboniad, ond yr oedd wedi ymgynefino cymaint a'r B-sibl, fel yr oedd el atebion parod, gwreiddlol, a naturiol yn rhoddl "boddlonrwydd nid byehan i'w athraw. Yn mhen tua dwy flynedd wedl hyn, cyf- lo¿wyd ef i ofalu am ffarm boneddwr oedd yn y gymydogaeth. Er ei fod yn ieuaac, yr oedd ei oneatrwydd a'l grafyddoldeb yn rhcddi iddo safle bWJslg yn raeddyllau y cymydogion. Delliaid yn gweithio wrth y dydd oedd gan y boneddt :■ hwn; nid oedd neb ag cedd yn gweithio ar y fferm yn cael bwyd na llety yn y palas o id ein harwr. Yr oedd mor ofalus am ei dd) ledswyddau nes enill sarch ei feistr a'i feistres tuag ato. Bu yma am tua dwy flynedd, yn cael y parch mwyaf. Tua therfyn y tymor, aeth si ar led fod ein harwr wedi cyflawnl gweithred ag oedd yn anweddaidd 1 ddyn fel aelod o gymdeithas, chwaethach un aelod crefyddol ei chyflawni. Credal pawb yn ddieithriad braldd ei fod yn euog, a bu dan arholiad caled gan ei dad a'i feistr. Dadleuai el ddieuogrwydd, ond nid oedd wedi argy- hoeddi el dad ei hun o hyny. Ni wnawn osod ger bron y darllenydd beth oedd y welthred y cafodd ein harwr ei gyhuddo o'i chyflawni, am ein bod yn hollol o dan yr argyhoeddiad na ddylld cyhoeddi unrhyw weithred yagder rhag lledu dylanwad y drwg. Gwir fod llawer o weithredoedd anfad wedi eu gosod yn y BalbI; ond er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt. Ciedwn fod cyhoeddi lladradau, tor-prlodasau, a llofruddlaethau yn gadael argraff ddofn ar gymdeithas, ac yn ddigou posibl yn agor drys- au i'r anlan ddrwg sydd yn llechu yn nghalon llawer adyn I efelychu y oyfryw weithredoedd ysgeler. Beth bynag, ni a adawn gynwysiad y cyhuddiad yn erbyn ein harwr dan gel. cawn weled eto al gwir al anwir yw. Pan ddaeth y tymor i ben, gomeddodd Elwin Wyn aros rhagor yn ngwasanaeth el feistr, a phenderfynodd adael y gymydogaeth; canys yr oedd pawb yn credu am dano ei fod yn euog, ao edrychid yn ddu arno, yr hyn a barodd lawer lawn o ofid i'n harwr Daeth gartnref 1 dy ei dad wedl iddo orphen ei dymor gyda y boneddwr, ac un nos Fercher yn mis Tachwedd, o gylch deg o'r gloch, cawn ef yn gadael cartref am dref hoxtafol Caerfyrddin, gyda chymydog oedd yn myned I'r dref hono ar fusnes. Gofynodd ei fam iddo cyn ffarwelio ag ef, "Elwin," ebe hi, "mae'r bobol yn dyweyd a chredu dyfod yn euog, mae'n well gen'l i ti gyfaddef na gwadn." Edrychodd ein harwr gyda gwen swynol ar el wyneb yn llygaid el fam, y rhai oedd wedi eu llanw a dagrau. "Mam," ebe fe, "gwydd- och nad wyf ond pedair-ar.ddeg oed, ac ni fnaswn wedl meddwl am y peth, sef y gallasai un mor ieuanc gyflawni gwelthred o'r fath, a gwyddoch nad yw yn boalbl, heb fod rhai erelll a Haw yn y fusnes. Daw amser a phethau i'r golwg yn detoyg iawn." "Na ddaw byth," ebal ei fam, "os na chyf- addefi di neu rywun arall, ac nid yw yn debyg y gwna neb gyfaddef ei felau ei hun." "Mae y diniwald 1 gael ei ryddhau, mam," ebai ynte, "os y goruchaf sydd yn llywodr. aethu yn amgylchiadau dynlon: ffarwel." "Ffarwel," ebai ei fam, "Elwin, cofia fod yn fachgen da." Oyrhaeddodd dref Oaerfyrddln cyn torlad y wawr. Gadawodd ei gymydog gan gyfeirlo ei gamrau tua gorsaf y rheilffordd. Pan yn myned i lawr drwy Church street, daeth hedd- geidwad i'w gyfarfod gan waeddu arno, "Holo, pwy sydd yna." Dychrynodd ein harwr yn fawr, a chredodd fod ei feistr wedi anfon ar el ol i'w ddal. Meddianodd el hun a dywedodd, "Bachgen bach ar ei daith sydd yma:" "0 ble I chi dod 1" "0 sir Abeiteifl, syr." "'Ble t'ych yn myn'd?" "I Sir Forganwg, Syr." .'Ho, felly: Wel a ddarfu i chwi drafaelio drwy y nos?" "Do syr." "Wel,ymaearnoch eisiau cael rhywbeth 1 yfed cyn myned gyda'r train, dewch i fewn yma, talwch am gwart." Credal ei fod yn y ddalfa etc. er nad oedd yr heddgeidwad wedl hysbysu hyny. I fewn yr aeth yn ddlddyg, talodd am chwart, a gwnaeth yr heddgeidwad iddo dalu am chwart ifeall cyn iddo gael myned i gyfarfod y train. Nid oedd dim yn eisiau ar y gwr a'r got las ond cael ychydig o'r ddiod feddwol i dorl ei wane, sef dau chwart. Mae gormod o'r dos- barth isel yma yn cael swyddi segur yn y wlad hon; ond yr oedd yn dda gan ein haryr gael ar ddeall ei fod yn rhydd oi afaelion, serch gwario el arian. Aeth gyda y gerbydres am y waith gyntaf yn el fywyd, annghoflal el ofid gan amrywiaeth y golygfeydd oedd o newydd yn dyfod o flaen ei lygaid, a chyrhaeddodd ben ei daith erbyn naw o'r gloch yr un boreu.

Advertising

EISTEDDFOD YR ALLTWEN.

CHWARELWYR BETHESDA, ARFON.

[No title]

SWYDDFA GOMER PUW.

Y FELIN WEN.'

PONTYEATS A'R GYMYDOGAETH.

UNDEB YR ALOANWYR, OASLWOHWR