Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

UNDEB YR ALCANWYR. PEN.'CLAWDD.

News
Cite
Share

UNDEB YR ALCANWYR. PEN- CLAWDD. Nos Sadwrn diweddaf, bu Mr Jenkln Thomas, llywydd yr Undeb, yn ymweled a'r fyfirinfa hon. Mae yn dda genyf allu hys- yflu fod yma rai Undebwyr yn ngwir ystyr y gair, er fod yma ereill wedi troi eu cefnau i raddau ar y gymdelthas. Rhoddodd y llyw- ydd fraslun o'r Undeb yn gyffredinol yn y dyddlau hyn, ac yr oedd yn dda genyf weled cymaint wedi dyfod ynghyd i'w wrando-rhalj nad oeddwn wedi eu gweled yn y gyfrlnfa er's tro. Cawsom ar ddeall fod rhai o'r brodyr sydd wedi ymadael yn penderfynu dychwelyd yn ol l'r undeb eto. Bu amryw o'r brodyr yn slarad, a dygasant dystlolaeth nad oedd eu meistr hwy yn eu herbyn i gadw Undeb, ond Iddynt wneyd hyny ar dir teg a doeth, a'i fod wedi hysbysa iddynt fod ganddo ef gymalnt parch i'r Undebwyr ag I with-Undebwyr ac am i'r gwrth-Undebwyr beldio dysgwyl cael mwy o barch ganddo ef na'r Undebwyr. Mae profion digon amlwg wedi eu cael yn barod mai y dosbarth mwyaf esgeulus o'r Undeb yw y dosbaith mwyaf esgeulus o'u gwaith yn y lie hwn, a slcr fod y meistr yn gweled hyny hefyd; a'r dosbarth sydd fwyaf ffyddlawn a gofalus o'r Undeb yw y dosbatth sydd fwyaf ffyddlawn a gofalus o'u meistr!. Hefyd, gellir profi hyn yn Penclawdd, yr hyn sydd yn gredit i'r Undeb yn ddlau yn y lie. Gwellr wrth y pathau hyn, pe gollyngid yr Undeb i fyned i lawr, coal ar y gweithwyr eu hunain y byddai y bal; ond mae yn dda genyf allu dweyd fod pob gobeithion yr alff yn mlaen yn fwy cadarn nag o'r blaen, oherwydd dangos- odd pob un oedd yn bresenol nos Sadwrn ar- wydd eu bod yn penderfynu myned yn mlaen yn fwy ffyddlawn a chyson o hyn allan nag y maent wedi bod o'r blaen, a gobeithio y gwelir pob un o'r rhal sydd wedi ymadael yn dy- chwelyd yn ol eto, fel dynion yn pleldio egwyddorlon tegwch a chyfiawnder. Dangosodd y llywydd yn amlwg mai y lle- oedd lie mae yr Undeb yn ei pherffeithrwydd, mai y gweithlau hyny yn myned yn mlaen fwyaf hapns. Cyfeiriodd at y gwalth nesaf atom, sef Yspytty. Nid oes yr un heb fod yn Undebwr yno, ac yn Undebwyr gwlrioneddol hefyd; a dyna lie mae y gweithwyr a'u melstrl yn cyd-dynu law yn Ilaw gyda pher- fiaith ddealltwriaeth rhwng y naill a'r llall. Gobeithio y bydd i Penclawdd, a phob Pen arall, gymeryd eslampl oddiwrth Yspytty, a bod yn Undebwyr un ag oil, heb neb yn tynu yn groes. Dywedwa wrth bawb o'n cydweithwyr, Tyred gyda ni, a ni a wnawn ddatoni i ti."

[No title]

Y GWEITHFEYDD HAIARN. — Y…

GOROHEST.GAMP MEWM TORI GLO…

LLYTHYR O'R WLADFA GYMREIG.

EISTEDDFOD ALBAN ELFED, ABER…

PROPHWYD HYNOD.

YMGAIS AT LOFRUDDIO.'

[No title]

Advertising