Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Y SAESON A CHEFFYLAU.

News
Cite
Share

Y SAESON A CHEFFYLAU. Y MAE pentref yn Lloegr o'r enw Wrough- ton, ac y mae ceffyl yn Lloegr o'r enw George Frederick. Yn mhentref Wrough- ton y bu George yn yr ysgol, ac fel ffrwyth y ddysgeidiaeth glasurol a gafodd yno, efe a a enillodd y Derby ddiweddaf. Y mae un 0 bapyrau dyddiol Llundain yn darlunio rhwysg George ar ei waith yn dychwelyd adref o'r fuddugoliaeth. Ymddengys fod gorfoIeddl1 mawr yn Swindon a phentref Wroughton nos Iau, canys y nos hono yr oedd y concwerwr yn dod yn ol i'r ystabl. Ar ddyfodiad George Frederick i'r orsaf, fe'i cyfarfyddwyd gan dorf fawr o bobl, ac i goroni ei roesawiad cydchwythai seindorf bres o eigion eu hysgyfaint. Dewiswyd music Handel i wneud anrhydedd i'r con- cwerwr, sef yr un gerddoriaeth a arferir wrth fawrhau cadfridogion a brenhinoedd. Ffurfiwyd gosgorddlu ardderchog, George wrth gwrs yn "arwain," a'r Saeson addol- gar yn "canlyn," acyn y drefn odidog hon yr aeth George a'i gynffon trwy Swindon. Ond nid oedd hyn oil ond megys dim, canys pan gyrhaeddodd George W roughton, dyma orchestra Wroughton yn troi allan i'r ystrydoedd, dyma y trigolion yn cydlawen- hau, a dyma glychau yr Eglwys yn canu ar eu goreu glas, ac fe yfwyd ac fe ganwyd hyd yn nyfnder y nos. Cofia, Ddarllenydd, mai am geffyl yr ysgrifenwyd y ffwlbri uchod. Ie, i roesawu anifail direswm y trodd y seindorf bres allan, ac yr ymffurfiodd y Saeson yn orgorddlu, ac y gorchymynodd- y 'ffeirad i glychau'r Llan orfoleddu. Ai dyma'r genedl a fynai edrych i lawr ar wyliau Ilenyddol a cherddorol y Cymry? Ai dyma y newyddiaduron a ddirmygant ein Heisteddfodau a'n defodau cenedlaeth- ol? Ddarllenydd, QS clywi Sais eto yn dirmygu ein sefydliadau Cymreig, adgofia iddo am y ceffyl Geroge Frederick a'i grand entrance i Swindon a Wroughton.

LLEW LLWFFO A'I GWMNI.

TYSTEB CELYDDON.

DALIER SYLW.

CASTELLNEDD-MASs MEETING.…