Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
YR AWDL FUDDUGOL AR CALEDFRYN.
YR AWDL FUDDUGOL AR CALEDFRYN. [Parhad.] WELE yn canlyn ran o ddesgrifiad yr awdwr o hono yn pregethu, (gwel tud. 15) :— "A thra byddai mewn iaith rhybuddion, Hoffai'r fawr alwad ddeffro'i farwolion; Yna'i ddoniol dreiddiol ymadroddion, Ledai oruchel aelwyd' o wreichion, Droi'n draethiad ar radd yr Ion,-a deimlid Drwy wenau welid ar annawiolion." Dyma "ymadroddion" rhyfeddol." Edrycher ar y pethau canlynol:—1. Mae'r "ymadroddion" yn lledu aelwyd! 2. Mae yr aelwyd yn "or- uchel' aelwyd o f wreicliion 3. Mae'r gwr- eichion yn troi yn draetliiad!" 4. Mae'r "traethiad" yn cael ei "weled" ar annuwiolion! Mae yn anhawdd dyfalu pa fodd y gallodd y prif-fardd Grwalchmai ddyfeisio y fath ryfedd- odau gwrth-naturiol. Beth a ellir meddwl o'r englyn a ganlyn, (tud. 16):— Dyn i'w oes, yn dan ysol,-el ddyddgwaith, Hawdd oedd gwel'd mor teiilol, Can awydd egniol-weithio'n ddiwyd, A gado y byd yn gydwybodol." Clywn swn y gynghanedd, ond nis cyffyrddir ni a meddwl. "Gado y byd yn gydwybodol" sydd syniad dyeithrol a ffol. Ond beth ydyw marw "yn gydwybodol?" Gwyddis beth i'w olygu wrth farnu yn gydwybodol, byw yn gyd- wybodol, &c.; ond atolwg, pa fath farwolaeth ydyw marwolaeth gydwybodol? Yn nhudalen 18fed, cawn y canlyn:— Yr hell ystorm a'r holl 'atwr Fu chwanog efo cfiynwrf Er sgor dig irigau'r don I dd eigiau cynddeitiogion." Pa fodd y gall storm "agor brig y don?" Dy- wedodd Caledfryn yn ei awdl anfarwol i'r Rothsay:- "Weithiau i frig dig y don-y dringal Drwy angawl ymdrechicn." Mor dryloyw ydyw'r meddwl! Gellir dirnad beth yw "dringo" i frig y don; ond pwy a glywodd am, neu pwy a welodd storm yn "agor" brigau'r don ? Yn yr un tudalen:- "Bin bardd gyhoeddwydyn ben-trwy alwad Yn mebtrJllloeth awe a Å ur -dai,Uywiai'r llsw wea Wylia y Deyrcwialen." Beth a olygir wrth fod y bardd wedi ei gyhoeddi yn ben trwy alwad ? Ai rhyw benarglwydd- iaeth o eiddo'r beirniad ydyw yr hyn y cyfeirir ato ? Onid o herwydd teilyngdod y cyhoedd- wyd ef yn ben ? Ein bardd a urddai llywiai'r llaw wen." Gwyddis beth yw urddo bardd, ond beth ydyw llywio'r bardd ? Yn nhudalen 21, cawn yr englyn a ganlyn:— "Agored gred, gwr digryn-y profsyd Y prif-fardd Caledfryn, Ac yn ei hawl ef gan hyn Oedd ddieiijdd i'w ddilyn Beth a olygir wrth fod yn "ddieilydd" yn e "hawl ? Eto yn yr un tudalen:— "Gairei dafod gymodai Allan o'u rhwyg/r, ddigllon rai; Pob rhagfarn gadara godai Wron dewr, o'i wrando a'i Yn llyn dwr, ddryll at'n dirion I hynawa fryd cynes iron." Beth sydd eisiau yr ymadrodd "allan o'u rhwysg?" Wele "ragfarn" yn troi "yn llyn dwr!" Sonia y Beibl am droi y "graig" yn llyn dwfr," ond nid ydyw hyny yn cyfreithloni gwaith prif-fardd i wneuthur "llyn dwr" o "rag- farn." Ond wedi ei droi yn "llyn dwr," mae yn cael ei "ddryllio!" Dryllio llyn dwr! "I hynaws fryd cynes fron" sydd linell yn dywedyd dim. Dywedodd arwr yr awdl hon unwaith:- Dwl a dyrys dlawd efriau-ag arnynt Glogyrnawg gymalan Dyna geir i gyd yn gwau Yn marddoniaeth myrddiynau." 0 ran cynghanedd, y mae awdl Sion Cent mor gywir ag odid i gyfansoddiad cyffelyb a wobr- wywyd erioed. Mae hefyd yn llawn digon maith i haeddu yr ugain gini. Ceir yma a thraw linell gref, ddesgrifiadol, brydferth, ac ambell benill godidog; ond y mae ynddi gan- oedd o eiriau na wasanaethant i gyfleu unrhyw feddwl. Mae tywyllwch yn gorchuddio ei phen- illion, a'r fagddu ei meddyliau, ac ni wyddom ar hyn o bryd am awdl mor gaddugol wedi ei gwobrwyo fel hon. Mae meddwl am Caledfryn, yr hwn na ysgrifenai air heb fod ei feddwl yn glir, yr hwn y mae ei gynghaneddion mor dry- loywon a dysglaer, yr hwn a ddigiai yn anghy- modlawn wrth gydmariaethau annaturiol, ac a ddynoethai eu hannaturiolder, gan eu taflu ymaith o flaen rhuthr ei wawdiaith fely chwyrn- deflir y bont-bren bydredig o flaen y llifeiriant gorlifol; yr hwn yr oedd ei gariad at natur mor ngherddol na allai oddef i fardd yn anad neb wneuthur cam a hi heb deimlo digter pur yn llenwi ei ysbryd. Mae meddwl am y gwron hwn, meddaf, yn creu anfoddlonrwydd ynwyf pan welaf yr awdl goffadwriaethol wobrwyedig ar ei ol mor llawn o eiriau heb unmeddwliddynt, ac o gydmariaethau anmherthynasol, annatur- ioldeb, a thywyllon; ac y mae yn syn genym os na chynygir eto wobr anrhydeddus am awdl ar Caledfryn. Yr ydym yn ystyried fod y dyfyn- iadau a ymddangosasant yn y pedwar llythyr a ysgrifenwyd yn hen ddigon i brofi ein gosodiad ar y cyntaf, sef fod llawer o dywyllwch ac an- naturioldeb yn yr awdl wobrwyedig. Cyflwynwn y sylwadau hyn i sylw y rhai a fedrant farnu, a sychwn ein pin dur gyda diolch i chwi, Mr. Gol., am le yn eich papyr poblogaidd i draethu ein Hen. LL YR LLEDIAITH.
EISTEDDFOD ALBAN ELFED ABERDAR.
EISTEDDFOD ALBAN ELFED ABERDAR. Wele yr Eisteddfod uchod yn awr wrth y drws. Mawr y parotoi sydd gan rhyw ddeg neu ddeuddeg o gorau mawrion ar gyfer yr ymdrech. Nid oes dim ond swn "Bendig- edig" i'w glywed o Mountain Ash i Aberaman ac Aberdar, ac hefyd o Ferthyr i Dowlais. Clywais am y corau galluog canlynol, pa rai sydd ar eu goreu yn awchu eu cleddyfau at y frwydr:-Bethania, a Hermon, Dowlais; Caegarw; Bethlehem, a Rhos, Mountain Ash; Saron, Aberaman; Treherbert; Cwm- giedd; Abernant; Bethel, Aberdar; Taber- nacl, Merthyr, &c. Deuwch bawb i'r wlead hon, cewch lawer mwy na gwerth Bwllt i glywed cystadleuaeth rhwng y fath gorau galluog fel y rhai a enwais. RHYDYBYCHAIN.
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD BLAENLLECHAU,…
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD BLAENLLECHAU, AWST 19EG, 1872. "Crynhoad byr a chynwysfawr o brif an- hawsderau ysgrifeniad y Gymraeg," &c.— Derbyniwyd dau draethawd, gan G. ap Cynan ac Edeyrn Dafod Arian. Mater dyrus iawn ydyw hwn, ac un anhawdd iawn i'w ddwyn i undrefn a foddlona bawb. Ofnwn fod un- ffurfiaeth yn anmhosibl bellach, oblegyd ni chydnabyddir un person na phwyllgor fel awdurdod safonol a therfynol. Pe pender- fynai pwyllgor ar undrefn unffurf, fe wrth- ryfelai ugeiniau yn erbyn eu hawdurdod, a byddai ugeiniau ereill yn rhy ddiog neu yn rhy brysur i feistroli y ffurf awdurdodig. Prawf y traethodau hyn fod eu hawdwyr yn gynefin iawn a theithi y Gymraeg. Cynwys- ant hyfforddiadau syml a helaeth, y rhai nis gallant lai na bod yn llesiant mawr i efryd- wyr ieuainc. Er nad dymunol genyf ranu gwobrau, nis gellir cyfiawnder y tro hwn heb hyny. "Y Gwefrhysbysydd." Un traethawd, gan Peirianydd. Y mae ei frys mawr yn ei arwain weithiau i arddull esgeulus ac an- orphenedig. Defnyddia gerllaw am yn agos neu yn mron. Fodd bynag, cynwysa y traethawd lawer o hysbysrwydd gwerthfawr, a bernir ef yn deilwng o'r wobr. "Chwech Cynghor i'r Dyn Anfoddog." Caxton. —Anghoeth a dibwynt. Isel ydyw galw crefydd yn uchel gwnstabl. Ni ddys- gwyliem glywed am lewpard, angenfil, Hima- laya, Georgium Sidus, &c., mewn chwech cynghor syml. Job.—Syml, ond dim newydd-deb. Paulinus.-Rhy wasgarog, a rhy faith o lawer. Enaid cynghor da ydyw byrdra. Nid oedd angen darlunio y dyn anfoddog-y pwnc yw ei gynyhori. Saer wyf fi o Sir Fon.—Dinygiol mewn cystrawen. Pwy glywodd erioed am orsedd o ddrain! Cynghorwr.—Byr, ffraeth, ac i'r pwynt. Un boddlawn i'w dynged. — Cynghorion call, orgraff wallus. Nid anfoddog.—Ffraeth. Matches sydd air gwael. Glan Rhondda.-Pur dda. Y goreu ydyw Cynghorwr. Cytieithiad o "Affections of Home" (Dick- ens.) Aneurin Jones. Lied dda, ond nid yw hoffderau yn hapus am affections. Cynfelyn.—Lied dda eto, ond nid yw dif- rffol yn cyfateb i feddwl solemn yma. Young Beginner.-Rhy lythyrenol. Boy.—Ymgais canmoladwy. Daer ddwy- waith am daear. Tichborne.-Pur rydd ac ymollyngar. Nid da parchus am solemn, a bai dybryd yw rhoi ffugio am forged. Nid forgo llaw a feddylir, ond forgo cadweni cydrwymol. Gwangalon.—Ymgais da. Medelwr.-Ffugio eto am forged! "Fel buddygoliaethau ac awdurdod ei enedigaeth" sydd hollol gamsyniol fel cyfieithiad o "as trophies of his birth and power." Tudur Aled.—Rhydd a medrus, ond syrthia ynteu dan hud y "ffug." Lladmerydd.-Diffygiol. Gesyd ffuglunio am forged! W. Salsbury.—"Y rhai hyny pa rai" sydd anghelfydd ac anramadegoL Nid yw bachu yn cyfateb o gwbl i'r syniad a gynwysir yn link yn y dernyn hwn. Pwysig sydd air an- hapus am solemn. Brochwel Y sgythrog.-Dyma gyfieithiad synwyrol ac anibynol o'r diwedd. Nid yw yn rhwymo ei hun wrth eiriau nac arddull y gwreiddiol—dim ond codi y drychfeddyliau o'r dernyn, a'u gosod allan mewn ffordd rydd, lithrig, a Chymreigaidd. Bonllechau.—Rhy gaeth wrth y gwreidd- iol. Nid yw graslawnyn cyfateb i graceful yma, nac edmyg i solemn. Nid yw yn am- gyffred "despite of toil and scanty meals." Brysiog.—Ffugio eto! Nid W. delwau am duwiau. Mikros.-Anmherffaith. Optinius. -Da, ond nid hapus y gair "gras- lawn." Alltud. Ffugio eto! "Er dirmyg llafur" sydd gyfieithiad camsyniol o "despite of toil." Un o'r Deg a Thriugain.-O ba les ydynt ffugenwau meithion o fath hwn ? Ffugio eto. Anghofiasoch fod noethion (bare) yn perthyn yn gymaint i'r walls ag i'r floors. Un oddicartref. — "Lloriau noethion a muriau "—yr un bai eto. Grym y syniad yw fod y muriau a anwylir yn llymion yn ogystal a'r lloriau. Gottler.-Orgraff andwyol. Cyfieithir hut yn cytyn-ai cut a feddylir! Cyfieithir tene- ment yn dy ardrethol-go lythyrenol yn wir. Epaphroditus.—Ffugio eto! Y mae tor gramadeg yn y frawddeg gyntaf. Johnson. Ffugio fyth a hefyd! Cydfachu am link, disgynfa am descent! Caxton.-Nid ydym yn hoffi ymgeiswyr fyddo yn poeni beirniaid a nodiadau eglur- haol ac apologies. Nid yw y rheswm a rodd- wch dros anystwythder eich cyfieithiad yn gywir. Ni chlysom o'r blaen fod yr enwog Dickens yn anystwyth yn ei arddull. Y chwi lynodd yn rhy gaeth at y geiriau gwreiddiol. Nid da difrifddwys am solemn. D. 0. P.—Y mae Uyfelu gynddrwg a ffugio. Carwriaeth teulu sy ryfedd am household loves. Gafaeliad am attachment! Y mae y frawddeg ddiweddaf yn hollol gamsyniol. Brochwel Ysgythrog yw y goreu. (I'w barhau.)
[No title]
Boreu dydd Sadwrn diweddaf cymerodd melin cotwm fawr dan yn Bolton. Perthynai i Mri. George Knowles a'i feibion. Yr oedd y golled yn £ 35,000, ac y mae 200 o weith- wyr heb waith o'r herwydd. Y mae glofaes newydd wedi ei darganfod yn cwydd Kilkenny.
CADAIR EISTEDDFOD TREFORIS.
CADAIR EISTEDDFOD TREFORIS. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Ar y pryd, daeth Tom Dyrnwr i'r station, a. galwodd un o'r cwmni arno,—"Tom, tyr'd i fewn yma i wel'd cadair Treforis." Prysurodd Tom i'r lie, a gofynai yn frysiog,- "Lie mae hi? hon ydi hi? peidiwch a deud! Wel, Die y brain a'ch helpo chi, John bach, os hon ydi'r gader 'nillasoch chi. Oes, myn cecsen lwyd, mae gen hen wraig y Foty Fach, yn nghanol lludw a hiddig 'r hen gornel hwnw, ymgienach cader o'r haner na hon, yn eistedd arni bob dydd i bilio'r brwyn a gweu sane. 'Choeliai byth i hon fod ar ben 'run stage yrioed, rhag cwilidd. 'Does neb, tybed, mor ryfygus a galw 'un cwarfod yn 'Steddfod Gadeiriol o ran rhyw erthyl o gader fel hon. 'Tase un o aelode'r cymiti yn tynu ei esgid oddiam ei droed, ac yn ei gosod a'i gwadan i fyny ar flaen polyn ar ben y 'sgynlawr, mi fyse yn llawn mor anrhydedd- us galw y 'steddfod yn 'Steddfod Esgidiol Treforis ag ydodd ei galw yn 'Steddfod Gadeiriol, os na fedreu nhw ffeindio cader ymgienach na ryw racsen fel yma-byse wir. Peidiwch a deud mod i'n siarad yn ddires- wm." Yr oedd Tom yn ddigrif dros ben, ddigon, bron, i yru cwn i chwerthin. Gofynodd perchenog y gadair iddo,- "Faint roddi di am dani hi, Tom-mi gwerthaf hi i ti, neu ryw un arall, am bum swllt." "Na roi wir," atebai Tom, "'run pum swllt byth i chi am hona-roi chi dri-a- chwech, os leiciwch chi." Dywedodd yntau fod yr Ysgrifenydd wedi mynu tri-a-chwech am ryw drafferth a gymer- odd gyda hi. Beth oedd y drafferth gym'rodd hwnw efo hyn o gader?" gofynai Tom yn lied ddi- ystyrllyd. "Y drafferth o'i chadw rhag chwalu wrth ei chario ar ei fraich i'r station? Dyna'r drafferth fwya' gadd o, dwi'n coelio. Mi wrantaf fi y myn y boy hwnw ei fara chaws heb chwysu llawer i'w enill. Ryfedd- wn i 'run blewyn os ffeindiodd o ryw hogyn bychan i'w chario i'r station am gnegwerth o "india roc," os nad am lai. 'Drychwch chi, 'dyw hi fawr i gyd o bwyse," a tharaw- odd hi ar y glorian oedd yn ymyl; "pedwar- pwys-ar-ddeg a thipyn bach. Naw dwbwl wfft i gader Morganwg hefyd! Ei gwerth wedi cael ei wario am y drafferth o'i chario y tair milltir cynta', heb son dim am y gost o'i chario wedy'n ugeinie lawer o filldiroedd! Be' tase rhywun o'r America yn dygwydd enill hon, ac yn gorfod talu am ei chario dros y mor yn ol ceiniog y pwys am bob milltir Ffaldi-ral-di-ro. Cierwch a'r gader enwog adre, John, a gosodwch hi yn nghorlan y mynydd i ddaly "cwpane nod," gewch dipyn bach o fudd, a hylldod o sport efo hi amser marcio'r defed a'r wyn." Ond hwyrach na waeth hyna na chwaneg o ddigrifwch Tom. Byddai yn hawdd llenwi colofn neu ddwy o'r GWLADGARWR a'r cyffel- yb o'i ddywediadau gwawdlym. Dichon y by4d rhai yn beio fod chwaeth Tom braidd yn isel. Chwareu teg iddo, gentlemen. Os profwch chwi ei fod ef yn siarad iselder chwaeth, gall yntau yn hawdd iawn brofi fod rhai ereill, a dybiant eu hun- ain yn llawer iawn mwy anrhydeddus nag ef, wedi gweithredu iselder chwaeth, os nad rhywbeth dipyn yn waeth na hyny hefyd. Ond i derfynu hanes y peth a eflw rhai yn gadair eisteddfod. Y mae genyf y newydd mwyaf tarawiadol o'r cwbl i'w ddweyd yn awr. Fe anfonwyd Cadair Eisteddfod, Tref- oris, neu o leiaf, y ddrychiolaeth ddirmygus a dderbyniwyd yn enw cadair yr Eisteddfod -do, anfonwyd y truenusbeth hwnw yn ol yr un ffordd ag y daethr-yn anrheg i Ysgrifen- ydd yr Eisteddfod. Dyna i chwi, Mr. Gol- ygydd, beth ydyw haelfrydedd yn dod i'r golwg mewn modd tra anghyffredin, onide! Cadair eisteddfod yn cael ei hanfon yn ol! Ond y gwirionedd am dani ydyw, yr oedd ar yr enillydd gywilydd ei gweled. Buasai yn well o lawer ganddo wneud aberth llosg o honi ar unwaith na chadw y fath fwgan anolygus i fod yn ddolur llygaid iddo. Dinas Mawddwy. J. JONES.
[No title]
OINTMENT A PILLS HOLLOW AY.—Mwr gwerth fawr nag Aur.-Y mae diarrhsea, rhyddni, cholera, trwy wres yr haf, yn gymaint o ddinystr i'r ienainc, ag ydyw oerfel y ganaf i'r hen. Yn y rhan fwyaf o amgylch- ladn, y mae y moddion tumewnol a gymerir yn ddiwerth, ond bron yn mhob amgylchiad y mae y rhyddhad buanaf yn cael ei deimlo trwy ddefnyddio Ointment Solloviay o'r tu allan] Dylat gael ei rwbio arno yn ami a chynym, yr hyn a leddfa y poenau gwaethaf. Y mae cyfogiadan yn d>a bnan yn rhoddi ffordd iddo; a phan bydd yr afiechyd wedi cael ei achosi trwy fwyta gormod o ffrwythaa, nis gellir yn well na chymeryd dogn o'r piUø y rhai a garthant allan o'r colyddion bob anhwyldeb.
HORACE A DEWI WYN. '
HORACE A DEWI WYN. Y MAE llith Horace am Awat 31, wedi gwneud mwy o niwed i'w gymeriad llenyddol nac ymddangosiad mil o lythyrau gan Dewi Wyn ac ereill, yn beirniadu ei gynyrchion. Y mae yr hen ddywediad, Gelynion gwaethaf dyn ydynt tylwyth ei dy ei hun," mor wir heddyw ag y bu erioed. Llythyrau Horace sydd wedi ei ddarostwng fel critic yn ngolwg y wlad-nid llythyrau Dewi Wyn ac ereill. Yn rhagarweiniad ei lith, y mae yn cyfaddef ei fod unwaith yn haner addoli Dewi." Nid wyf yn meddwl y buasai un dyn yn berchen moderate judgment yn dweyd y fath beth, chwaethach ei ysgrifenu. Meddai yn y frawddeg nesaf, Ond y mae'r cen wedi syrthio oddiar fy llygaid, a gwelaf ef fel y mae." Oamsynied o'r mwyaf, Horace; ni welsoch Dewi "fel y mae," ac nis gwelwch ef chwaith; ond ei weled fel ag yr ydych chwi yn gweled, yr wyf yn cydnabod y gell- wch wneud hyny. Ond y mae y pwnc yn sefyll fel hyn, Sut yr ydych chwi yn gweled? A ydych chwi yn meddwl fod llygaid eich meddwl yn ddigon clir i edrych i mewn i ys- tafelloedd meddwl Dewi Wyn? A oes digon o pure intellectual power ynoch i fesur maint intellect Dewi Wyn? Edrychwn i mewn i'w lythyr diweddaf fel enghraifft o pwre reflective power. Yn ei lythyr, y mae yr assertions canIynol Yr oedd y diweddar Golyddan yn gefnfor o wreiddioldeb, tra nad yw Dewl ond dyferyn." Os yw y ddwy frawddeg uchod yn ddangoseg o intellectual calibre Horace, y mae yn foel a bas iawn. Nis gellir cael gafael mewn unrhyw feirniadaeth Gymreig, o Llywarch Hen hyd heddyw, yn fwy amddifad o fam a chwaeth na'r haeriad uchod. Yn yr haeriad hwn, y mae Horace wedi gwneud darganfyddiad, sef fod Gol- yddan yn gefnfor o wreiddioldeb. Yr oedd yn wybyddus o'r blaen fod Golyddan yn hynod mewn darfelydd (depth of irnaginatwn), ond am ei creative genius (gwreiddioldeb,) p oedd yn weledig yn ei amddifadrwydd o hono. Pe buasai yr haeriad hwn o eiddo Horace yn wir, Golyddan fuasai y bardd mwyaf sydd wedi ymddangos ar y ddaeat yma. Y mae gweithiau Shakespere ya cynwys mwy o creative genius nac eiddo un bardd arall. Nid oedd Homer, Virgil, Dante, Milton, na Byron yn dal un gydniair- iaeth mewn creative genius i Shakespere yr oedd yn uwch o'i ysgwydd na hwynt oil ond gormodiaith fyddai dweyd ei fod "yD gefnfor o wreiddioldeb." Bu Golyddan farW yn rhy ieuane i fod yn meddianu creative genius i raddau helaeth. Nid ydwyf yn meddwl y byddwn yn camsynied pe dywed- wn nad oedd creative genius Golyddan ond bychan mewn cydmariaeth i'r eiddo Dewi Wyn, o herwydd ni chafodd Golyddan fr experience sydd yn hanfodol i weithio allao creative genius fel y mae Dewi wedi gael. Nid oedd Shakespere na Twm o'r Nant 1n feddianol ar lawer o creative genius pan oedd- ynt yn ugain oed, ond yr oedd yn cryfhatt ac ymnerthu fel yr oeddynt yn ymwnefid byd. Ond nid wyf yn barnu, er efallai fy mod yn camsynied, y buasai Golyddan pe buasai yn byw, yn dyfad yn feddianol ar j helaethrwydd o creative genius, o herwydd J buasai ei ddarfelydd (braidd na ddywedwn et ddarfelyddanghydmarol—gallaf wneud hyny heb y petrusder lleiaf, a'i gydmaru a holl feirdd Cymru,) ei fiery genius, yn rhwystr creative genius. Buasai yn rhaid iddo daflu ei hun allan o'i ddarfelydd er mwyn gwrteithio gwreiddioldeb. Nid allasai wneud hyny Y-0 fwy na Milton, Byron, a Llywarch Hen. Y* oedd ei lestr yn rhy lawn o'r Celtic depth of imagination i wneud hyn. Eto, nad oedd yn feddianol ar literary taste Dewi Wyn. Yr oedd yn ngrym ei ddarfelydd ar brydiau ynclwyfo chwaeth. Mewn chwaetfa lenyddol y mae Dewi ar y blaen, ac efallai yn uwch mewn taste nac un bardd Cymreig yn y dyddiau presenol Nid wyf yn diraddio Golyddan yn y mesur lleiaf wrth ddweyd fel hyn, o herwydd nis gellir codi Golyddan wrth ddarostwng beirdd mawr ereill. Nid oes neb yn Nghymru yn fwy o edmygwr i Golyddan na myfi, pe tae hyny rhywbeih i'w goffadwriaeth. Ah! poor Golyddao- Er dy fod yn ngwaelodion y dyffryn, y jnac dy enw mor fyw ag erioed, ac y mae dt gynyrchion yn anfarwol Y maent yn it llyfrgell yn cusanu cynyrchion Milton Byron. Nis gallaf lai na gollwng deigiyn Øt coffadwriaeth am dano. Gwell genyf dori if mraich ddeheu na dweyd yn fach am angel mawr fel Golyddan. tC Quia desiderio ait pudor aut modus tam cari capitis." Y mae llythyr Horace yn enghraiflft deir grach-feirniadaeth y dyddiau presenoL mae yr eisteddfodau, fel y maent yn cael eu dwtC yn bresenol, yn warth i ni fel cenedL yr eisteddfodau yn myned yn owtol YU Be is genedlaethoL Dylai yr eisteddfod fod yn fath o Olympia Gymreig, yn De bod In Olympia sectyddoL Hefyd, y mae rbyw haint rhyfeddol ar lenyddiaeth Gymreig 1 dyddiau presenoL Mae pob peth ynar" dderchog neu yn werth dim. Mae ysgrifeB' wyr Cymreig yn wastad yn yagrifenu movo extremes anghyffredin. Gwnaiff dim y tro ond extremes. Da chwi, lenorion Cymreig, dylech gofio fo4 gan y Saeaon y degrees canlynol:- ExceU- very good, good, very fair, fair, moderate, iWjr perfect, failure or worthless. Y diffygp mawr sydd mewn llenyddiaeth Gymreig yw di common sense. Pe buasai Horace yn defe* yddio ei common sense, ni fuasai yn yogrif- enu ar antur fel y mae. Da chwi, Horace ystyriwch beth yr ydych yn ei ysgrifenu C hynallan: yr ydych yn feddianol ar allu- pedd ond bydded iddynt, Horace anwYl, fod dan lywodraeth barn. Nid ydwyf yn eich adnabod chwi na Dewi Wyn. Da clnvÎ; peidiwch diraddio Dewi Wyn, o herwydd diraddio eich hun a wnewch wrth ymgaisst hyny. Y mae Dewi yn anrhydedd i'n cenedl ni. Mi warantaf, pe tae chwi yn gweled Sais yn ei ddiraddio, mai chwi fyddai f, cyntaf i'w amddiffyn. NID UN MAWR FEL HORACE.
Y WLADFA GYMREIG.
Y WLADFA GYMREIG. FONEDDIGION,—Yr ydym unwaith eto yo cyhoeddi ein gwrthdystiad yn erbyn y rhai sydd yn cyhoeddi newyddion drwg am f Wladfa Gymreig ar y Ohupat. Nid oedd yno neb yn dyoddef ddiwedd Mai diweddaf ac nid yw y Llywodraeth Brydeinig wedi cael newyddion diwed> -rach. Gyda goi^S ar fynediad ymfudwyr' yno, yr ydym wedi dweyd wrth bawb, yn ddieithriad, mai pryntl eu bara mae y gwladfawyr & chynyrch en gwartheg. Nid oedd cynyrch y cynhauaf yø ddigon i'w cynal, ond yr oedd cynyrch f gwartheg yn llawer mwy na digon i wneU y diffyg i fyny. Os tybied mae y Llywodr- aeth Brydeinig fod rhyw ganoedd o deuln: oedd tylodion ar fin mentro yno, y jnae.^ rhybudd yn eithaf care dig, ond yn