Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
LLITH 0 GWHRHONDDA.
LLITH 0 GWHRHONDDA. DYMUNAF ateb ymholiad "Trigianydd" yn y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR, dan y pen- awd uchod. Cyfeiria at y Gymdeithas Lenyddol a Cherddorol a sefydlwyd yn Hopkin's Town er ys ychydig amser yn ol, dyben pa un oedd dyr- chafu sefyllfa foesol a llenyddol ieuenctyd y lie. Pel hyn y saif pethau yn bresenol:—Wedi ffurfio pwyllgor, gwneuthur rheolau, &c., rhaid oedd, wrth gwrs, ymholi am adeilad eymhwys i gynal series of entertainments yn ystod y gauaf dyfodol. Apeliwyd i'r man priodol, sef am yr Ysgoldy Cenedlaethol. Cafwyd atebiad ar unwaith yn canmol y mudiad, gan addaw hefyd y buasai yn dda gan y gwr parchedig wneud pobpeth oedd yn ei allu tuag at hyrwyddo yr amcan clodwiw. Dywedai hefyd ei fod am gael gweled "further steps taken in the matter" cyn y gallasai gyd- synio a'n cais trwy rhoddi yr ysgoldy at ein gwasanaeth. Bid a fyno, awd yn mlaen gyda pharotoi yn brysur gyferbyn a'r cyfarfodydd a fwriedid eu cynal; ond yn mhen yehydig ddydd-' iau, dyma/r newydd yn ein cyrhaedd nad oedd yr ysgoldy i'w gael o gwbl, ac nad oedd rheolau yr Ysgol Genedlaethol yn caniatau i gyfarfod- ydd o unrhyw natur gael eu cynal ynddynt o gwbl. Wedi clywed hyny, rhoVldwyd pob gobaith i fyny, gan nad oedd yr un He arall addas a phriodol yn y gymydogaeth i gynal cyfarfodydd o'r fath. Gwel "Trigianydd" ar unwaith yn mha le y gorphwys yr achlysur o'r "distaw- rwydd" yn nghylch y gymdeithas. Fe wyr pawb hefyd fod cyfarfodydd o bob math wedi eu cynal yn ysgoldy y Gyfeillion, yn ddarlith- oeda, cyngherddau, panoramas; a mesmerism gan Box Brown, &c.; eto, "nid oedd yn unol a rheolau yr ysgolion" i lenorion a cherddorion Hopkin's Town gydgyfarfod rhwng eu muriau er llesoli eu cyd-ieuenctyd a dyrchafu standard moesoldeb y gymydogaeth. Ar yr un pryd, cawn fod y parchedig fonedclwr (?) yn ei nodyn at yr ysgrifenydd yn addaw gwneud yr hyn a allai in aid Of such a praiseiuorthy movement." Gadawn ein cymydogion i farnu cysondeb yr uchod,-y fair promises a'r cyflawniad teg o honynt! Gan fod "Trigianydd" yn teimlo y fath ddyddordeb yn y mudiad, a fydd ef eystal a dwyn rhyw suggestions gerbron, fel y gellir gwneud rhywbeth eto gyferbyn a'r gauaf; nid yw hi yn rhy ddiweddar. Pa le mae y brwd- fi-ydig Ceinionydd ? Sicrheid llwyddiant un- rhyw beth braidd ond cael help llaw y eyfaill hwn. Deued allan fel dyn,—nid trwy y wasg, ond trwy ffurfio pwyllgor ar unwaith, er ystyr- ied pa steps fydd oreu i'w cymeryd. Caiff bob cynorthwy gan gyn-aelodau y gymdeithas;— nid ydynt yn cysgu, ac y maent mor barod i weithio ag erioed. Mae y Uifeiriant meddwol yn parhau i gynyddu gyda chyflymdra dy- chrynllyd; rhaid roddi sprag yn y wheel, onite bydd y canlyniadau yn resynus. Gwelsom amser tua'r Gyfeillion pan oedd prif ddynion ein eymydogaeth yn cymeryd dyddordeb neill- duol yn llwyddiant y gweithwyr. Cyfeiriwn at yr amser pan oedd y mudiad dirwestol yn blaguro ac yn cyfranu cysur a dedwyddwch ar bob Haw. Mae llawer un yn diolch am hyny hyd v dydd hwn, ac y mae gwir angen am adfywiad foto. Gwawried y dydd yn fuan pan y gwelir dirwest yn uchel ei phen yn y lie. ADDYSG.-Pa beth mae ein Bwrdd Ysgol yn ei wneuthur ? A ydy w mown bodolaeth 1 Y mae newyn addysg yn anrhaetho y lie. jSyderwn y gwneir brys bellach i adeiiadu yr ysgolion newyddion,—y mae gwir angen am danynt. Nid yw yr ysgol sydd yma yn bresenol ond liedrith. Telir arian mawr am yr hyn nid yw yn fara gwyr pawb nad yw hyny yn beth dymunol. hyd yn nod ar yr adeg lewyrchus hon. Mae pobpeth mewn llawn hwyl tua gwaelod y cwm, a rhaid cael lie priodol i addysgu y do sydd yn codi, ac oni chymerir llwvbr uniongyrcliol i barotoi y cyfryw Ie, bydd anwybodaeth yn uchel ei ben, o herwydd fod y boblogaeth yn cynyddu mor gyfiym. Gyda dymuno pob llwydd i'r Bwrdd Ysgol, a llenyddiaeth a cherddoriaeth y cwm, yterfyn W. R. M.
Advertising
PRE KFA. T.—EPP'S COCOA —GRATEFUL AND COM .TOKTJNO.—' By a thorough knowledge of the na u al laws wiiich gov in the of digustioa and cniriikuis .fuul by a lawful eppiicatSoa 01 the fine properties of wall- Mlsetei! Mr, Bppsr has p'«)-)rld<t<! our breakfsst taVJtts wi'iii a ..61icl!.t-¡;!y llavouitni Mvethpa which may UAVO mf x-<mj'' .heavy doe tors' bills "—Civil Service rftrndy witb boiling wa -er or milk Eac ■. packet Is labelled—JAMUS EPPS & Co., Homoeopathic Chemists, 'London. Also, makers o! Epps's Cacaoina, a very thin vening baverage.
---.---.."-... LLANFABON A'R…
LLANFABON A'R CODIAD PRIS. Mae yn wybyddus i lawer heblaw y rhai sydd yn yr ardal hon, fod black band wedi bod yn cael ei weithio yn nglofa Llancaiach ond, trwy ryw anffawd neu gilydd, fe atal- Iwyd y gwaith, a bu yn sefyll am hir amser. Yn mhlith pethau ereill, y mae bywiogrwydd masnach y dyddiau presenol wedi achosi ail gychwyniad iddo. Yr hyn a roddid am ei dori pan safodd y gwaith, ydoedd 2s. 3c. y dynell; ond pan gychwynodd y tro hwn, cafwyd 3s. y dynell. Llwyddodd y mwnwyr i gael dau godiad ynddo yn fuan iawn; a dechreu y mis presenol, aethant at y goruch- wyliwr i ofyn am 6c. y dynell o godiad ond o herwydd anghyfleusdra i weled y meistr, yr oeddynt heb gael cyfleusdra i osod y cais gerbron. Erbyn hyn, yr oedd y glowyr wedi cael 4c. y dynell o godiad, fel yr hysbyswyd yr wythnos o'r blaen felly penderfynodd y mwnwyr ofyn am la. o godiad. Gwnawd y cais, a'r atebiad a gawsant oedd, fod yn rhaid iddo ef siarad a'r prynwr, ac i'r gweithwyr fyned yn y blaen a u gwaith os buasai iddo lwyddo i'w gael, y buasent hwythau yn ei gael hefyd. Yn mhen dau ddiwrnod, dyma y boneddwr yn dyfod a'r newydd hapus iddynt fod yr hyn oeddynt yn ei geisio i'w gael, ac yr oeddynt yn wir ddiolchgar i'w meistr a'u goruchwyliwr. NELSONFAB. BETHANTA, ABERDAR.-Prydnawn dydd Mercher, Awst 28ain, anrhegwyd plant per- thynol i Ysgol Sabbothol y capel uchod, yn ughydcer Band of Hope, a gwledd flynyddol. Cafwyd te a theisen rhagorol, ac yr oedd pawb yn mwynhau eu hunain yn ardderchog. Wedi i bawb gael eu digoni, aethpwyd am dro allan i fyny i Graig Rhiwmynach i fwynhau awel [ach y mynydd. Buwyd yno hyd ychydig cyn saith o'r gloch, pryd y dychwelwyd yn ol i'r sapel i gael gwledd i'r meddwl. Cymerwyd mantais o'r Tea Party hwn i gynal y trydydd cyfarfod o Undeb y Bands of Hope, sef Bethan- ia, Carmel, ac Abergwawr. Cymerwyd y gadair gan Mr. Lewis Griffiths, yn absenoldeb Mr. D. Evans, Bute Villa. Wedi anerchiad gan y cadeirydd, galwodd ar Mr. Edward Williams, i arwain y Bands of Hope, a chanas- ant y Frwydr Ysbrydol, Sunday School Volun- teer Song, Pan bwy'n meddwl am y Nefoedd, Men of Harlech, Will you come with me my pretty one, a Mendelssohn, y gynulleidfa yn uno yn yr olaf. Canwyd darnau cerddorol ereill gan J. Jones, a'i barty; Edward Evans, a'ibarti; a thrio gan Meistri. James, Jones, a Griffiths. Hefyd, canwyd yr unodau gan Mrs. Rees, a Miss Hughes. Cafwyd cyfarfod da iawn, yr oedd y plant yn canu yn ardderchog, a phawb yit mwynhau eu hunain yn llawen.—CLTJDYDD. >«NDEB CERDDOROL CYNULLEIDFA- ,OL ABERDAR.—Cynaliwyd cyfarfod blynydd- ol yr Undeb uchod yn nghapel Bethania, ar nos Pawrth, Awst 27ain. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Lewis Jones, Cwmbach. Cymerwyd y gadair gan y Parch William James, Bethania, yr hwn oedd wedi ei benodi yn flaenorol. Wedi anerchiad byr ganddo ar amcan y cyfarfod, dywedodd ei fod yn teimlo yn falch i gael y fraint o alw ar y Parch. D. Saunders, Abercarn, i anerchy cyfarfod. Dywedai Mr. S. fod y ddawn gerddorol ynddo er yn blentyn, yr oedd ei dad yn arweinydd canu yn y capel, ac yr oedd yntau yr agosaf ato. Mae'r ymdrech sydd yn cael ei wneud gyda'r mudiad hwn yn deilwng iawn o gefnogaeth, gan ei bod yn cael ei ystyr- ied yn un o'r celfyddydau cywreiniaf allan. Y mae y gwaith da hwn yn myned yn mlaen trwy bob rhwystrau a all ddyfod yn ei erbyn, heb hidio dim; er ei fod yn araf, eto yn sicr. Mae cerddoriaeth yn dda i gadw dynion rhag drygau, ag yn eu denu i beidio ymwneud a hwynt; ac hefyd, y mae yn dysgu i gadw trefnusrwydd ag awdurdod yn nglyn ag ef. Hefyd, y mae cerddoriaeth yn gwareiddio dyn, ac yn ei ddwyn i deimlo ei gyfrifoldeb. Ond a cherddoriaeth y Cysegr y mae a fynom ni fwyaf yn awr, y mae hon yn un sanctaidd, ac yn un foreu iawn hefyd, ac hefyd y mae yn gydnaws a natur dyn, ac yn gyfrwng i arllwys allan ei deimladau crefyddol, ag y mae cerddor- iaeth yn angherddoli y teimlad crefyddol hwnw nes ei godi uwchlaw holl bethau'r bywyd hwn. Canu "Abertawe." Anerchiad eto gan yr un person, gan roddi amryw awgrymiadau i arweinyddion canu mewn modd tarawiadol iawn, dywedai y dylai pob arweinydd beidio dechreu rhy gynar cyn bod y gynulleidfa yn deall beth a genir, a bod rhai o'r ochr arall yn dechreu yn rhy gyflym. Peth gwrthun iawn yw clywed y nodau yn cael eu bwrw yn gras, bod gwneud hyny yn colli eu swn a'u dylanwad, ac hefyd y dylai pawb o'r gynulleidfa fod a'u clustiau yn agored i wrando ar ereill a'u dilyn. Canu "Dusseldorf." Anerchiad eto gan yr un. Dywedai fod y bass yn gyffredin ar ol y dosbarthiadau ereill, ond yr oedd hyny i'w briodoli i drymder y nodau. Anogai bawb i geisio deall amcan pob cyfansoddwr, a nodwedd y don, ac yn fwy neillduol byth y farddoniaeth a genid, astudio y rhai hyny fyddai yn fendith fawr i'n cynulleidfaoedd; yna, fe fyddai ysbryd Duw yn tywallt ei fendith ar y canu, i naws- eiddio y teimlad angherddol hwnw a gynyrchid wrth ganu. Canu "Emyn Hwyrol," "Ardu- dwy." Anerchiad eto. Canu "Mamre," "Tref- eglwys." Dywedai Mr. Saunders fod y canu yn rhagorol, a'i fod yn teimlo yn falch iawn ei fod wedi dyfod i'r cyfarfod. Cafwyd cyfarfod rhagorol, y canu a'r anerchiadau yn ogoneddus, yn dangos llafur mawr, ac hefyd yr oedd yn deall ei bwnc. Rhoddid yr Emynau allan gan Mr. William Morgan, ac arweinid gan Mr. Daniel Griffiths, gyda deheurwydd mawr. Bendith a ddilyno y cyfarfod hwn, a gobeithio y bydd i'r cynulleidfaoedd gymeryd yr addysg- iadau a daflwyd ger bron i'w cario allan. Bydd yn fendith anrhaethol iddynt. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. D. Saunders.-CLUDYDD. GLYN NEDD.-Dydd lau, Awst 29, cafodd plant yr ysgol Frytanaidd eu treat blynyddol, sef excursion i Briton Ferry Road. Yr oedd yr orymdaith eleni yn rhifo rhwng chwech a saith cant. Cafodd y plant eu te a'u cludo gyda'r train yn rhad eleni, fel arfer, trwy sel ac egni ychydig o bleidwyr a chyfeillion yr ysgol uchod. Y mae traeth Jersey yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus i ymdrochi yn y Bristol Channel, ac yn gyrchfan miloedd lawer o ymwelwyr yn ystod yr haf. Y mae yn deilwng o sylw na welwyd un o'r gorymdeithwyr yn ymddwyn yn an- nheilwng. Dywedai Inspector Mens na ddarfu iddo erioed weled gorymdaith mor lluosog yn ymddwyn mor foneddigaidd.-J OHN ROBERTS. GLYN NEDD.—Mae eglwys annibynol y He hwn wedi rhoi galwad unfrydol i'r Parch. W. Gibbon, Capel Isaac, ger Llandilo, i ddyfod i weinidogaethu i'w plith. Ni welsom erioed eglwys a chynulleidfa mor unfrydol yn eu dewis- iad ac mae cyfeillion yr addoldy hwn; ac nid oes amheuaeth nad yw gwrthrych eu dewisiad yn mhob ystyr yn olynydd teilwng o'r gweinid- ogion galluog sydd wedi bod yma o'i flaen. Bydd Mr. Gibbon yn dechreu ar ei weinidog- aeth ar yr 20fed o Hydref nesaf. Dymunwn o'n calon hir oes iddo fod yn ddefnyddiol yn eu plith. GILFACH GOCH, GER PONTYPRIDD. —Dydd lau, Awst 22ain, cafodd plant ysgol ddyddiol y lie uchod, dros ddau gant mewn rhif, eu hanrhegu a the, teisen, ac amryw ddanteithion eraill. Wedi cyfarfod yn yr ysgoldy, cychwynasant, gan gario banerau i gae ger ty J. Paterson, Ysw., Colliery Manager, lie yr oedd y danteithion yn eu haros. Canodd y plant amryw ddarnau oeddynt wedi eu parotoi dan lywyddiaeth yr athraw, Mr. Thomas, Dymunaf sylwi gyda Haw, lod yr yagol yn yatod y nwyddyn ddi- weddaf wedi cynyddu eymaint arall, ae y addyag y roddir ynddi yn cael corner- i adwyaeth uchel lawn. Yn yr arholiad di- weddaf, gan Arolygwr ei Mawrhydi, pasiwyd 99 o bob 100. Felly, gwelir fod canmoliaeth mawr yn deilwng i Mr. Thomas, yr ysgol- feistr.—ALPHA. PON IARDAWE.—UNDEB LLENYDDOL.— Bwriada llenorion a cherddorion yr ardal hon a'r amgylchoedd sefydlu undeb llenyddol ar raddfa helaeth, ac i ddechreu ar y gweithred- iadau trwy gychwyn Darlleniadau Ceiniog Uudebol yn y Neuadd Odyddol, tebyg i'r rhai a gynaliwyd y llynedd. Os try y mudiad allan yn llwyddiant, bydd i'r elw gael ei drysori ar gyfer eisteddfod fawreddog a fwriedir gynal genym y flwyddyn nesaf. Taer wahoddir yr hen bwyllgor a berthynai i'r Darlleniadau Ceiniog Undebol am y llynedd i gyfarfod yn y Neuadd Odyddol, nos Lun, Medi y 9fed, er tynu y cynlluniau allan ar gyfer cychwyn y darlleniadau yn ddioedi a dymunir ar ereill yn Mhontardawe, Ynysmeudwy, Rhydyfro, Craig Trebanws, a'r Alltwen o bleidwyr llenyddiaeth a chyfarfodydd adloniadoI i roddi eu presenoldeb yn y cyfryw bwyllgor. Gwybydder na fwriedir i'r pwyllgor hwn fod yn sectol nac unochrawg, ond y bydd i bob cangen o lenyddiaeth a cherddoriaeth Gym- reig gael eu mantoli yn gywir. Yn awr, gyf- eillion, gadewch i ni ymysgwyd o'r llwch, ac i gydweithredu a'n gilydd, gan ffurfio undeb ar seiliau cedyrn a boddhaol. Gadawer i ni gael bwrw ymaith bob anghydwelediad, gan ymuno a'n gilydd i ddyrchafu anrhydedd y lie a llenoriaeth Gymreig. Diau fod yn yr ardal fechgyn galluog o feirdd, llenorion, a cherddorion; eiaiau sydd i'w cael at eu gilydd i gydweithredu, ac ni a wnawn ddaioni. Ysgrifenwyd y llinellau hyn ar anogaeth amryw o bleidwyr gwresog y mudiad. Cofier am y noswaith, a gofaled caredigion y dar- lleniadau am fod yno yn brydlawn ar yr ail nos Lun o Fedi.—J. J. DAVIES, (Ieuan Ddu.) ABERCWMBOY.—YMADAWIAD MR. T- MATHEWS, NIGHT OVERMAN.-Pan glywodd y gweithwyr fod y cyfaill uchod yn meddwl ymadael a'r lie, daethant i'r penderfyniad nad oedd yn iawn iddo gael myned ymaith heb iddynt gael dangos eu parch tuag ato. Nos Sadwrn diweddaf, darfu iddynt gyflwyno anrheg iddo mewn arian, er dangos y teimlad da a fodola rhyngddo ef a'r gweithwyr. Go- beithio yr enilla ef gyfelyb deimlad eto yn y dyfodol yn ei le newydd.—SIROM. GLANDWR. -Nos Sul, Awst 24, traddod- wyd pregeth angladdol ar ol Mrs. Margaret Gregory, diweddar briod Mr. Richard Gre- gory, masnachydd coed, o'r lie hwn, oddiar Hosea 13-14, gan y Parch. David Howells, Abertawe, i dyrfa luosog o berthynasau a chyfeillion yr ymadawedig. Yr oedd yn ddynes hynaws, caredig, a gwir Gristionogol. NEW TREDEGAR, MON.-AT BWYLL- GOR EISTEDDFOD YR UCHDIR.—Y mae yn wybyddus i luaws ddarllenwyr eich newydd- iadur fod amryw fan eisteddfodau, neu yn hytrach gyfarfodydd llenyddol, wedi cael eu cynal yn nghapel yr Uchdir ond y mae yn ddrwg genyf orfod dweyd fod yr elw sydd yn deilliaw oddiwrth y cyfrywyn cael ei ddefn- yddio yn hollol ofer. Byddai yn dda genyf weled y pwyllgor uchod yn defnyddio elw y cyfryw gyfarfodydd mewn ffordd a fyddo er lies i'r eglwys ac i'r gymydogaeth yn gyffred- inol, yn lie ei ddefnyddio fel y maent yn bwriadu.—UN o HONOCH. TONYP ANDY.-GOOD TEMPLARISM.- Prydnawn dydd Mercher, Awst 28ain, yr ymddangosodd llu ardderchog o gymdeithas anrhydeddus y Good Templars yn Tonypandy, wedi addurno eu hunain a Regalia tlysion a banerau, yn ymdaith hyd Llwynypia, yn nghyda gobeithlu, yn adseinio'r cwm a'u lleisiau soniarus a pheraidd. Yma yr oedd- ynt yn cyfarfod a'u chwaer gyfrinfa o'r Ystrad. Wedi iddynt uno yn un llu, ym- deithiwyd eto i'r Pandy, yn ngwydd canoedd lawer o edrychwyr. Wedi dyfod i le man- teisiol, cawsom fenthyg cadeiriau, a chynal- iwyd cyfarfod i areithio, a siaradwyd yn eglur, bywiog, a phwrpasol gan Mr. R. Rowlands, Mr. M. Rowlands, a Mr. L. Lewis, Cenadwr. Yr oedd yma dyrfa fawr, a golygfa ddymunol i'r sawl a garant ddaioni. Arol araeth Seisneg gan Lewis, canwydllinell- au er calondid i'r frawdoliaeth, ac er mwyn cymhell ereill i ymuno.—GOOD TEMPLAR. (Eiddo Gohebydd hefyd wedi ei dderbyn.)
Advertising
OINTMENT A PILLS HOLLOWAY.—Mwy gwerth fawr nag Aur.—Y mae diarrhaea. rhyddni, cholera, trwy wres yr haf, yn gymaint o ddinystr i'r ieuainc, ag ydyw oerfel y ganaf i'r hen. Yn y rhan fwyaf o amgylch- ladau, y mae y moddion tumewnol a gymerir yn ddiwerth, ond bron yn mhob amgylchiad y mae y rhyddhad buanaf yn cael ei deimlo trwy ddefnyddio Ointment Holloway o'r tu allan. Dylai gael ei rwbio arno yn ami a chyflym, yr hyn a leddfa y poenau gwaethaf. Y mae cyfogiadan yn da buan yn rhoddi ffordd iddo; a phan bydd yr afiechyd wedi cael ei acliosi trwy fwyta gormod o ffrwythan, nis gellir yn well na chymeryd dogn o'r pills y rhai a garthant allan o'r colyddion bob anhwyldeb.
[No title]
Gyda'r newyddion diweddaraf o'r India, yr ydym yn cael fod y cholera yn lladd yn gyffrous yn agos i Simlo, sef yn Subathoo a Kussowlie. Y mae i raddau hefyd yn Bom- bay a Poona. Yr ydym yn cael fod hen long a elwid Powell Duffryn, wedi cael ei chymeryd i Havre a Southampton, i fod yno fel gorsaf i gyflawni angen yr agerlongau a alwant yn Havre, a glo difwg Deheudir Cymru. Y mae y cynauaf yn yr lwerddon, oddi- gerth y pytatws, yn arwyddo yn rhagorol. Y mae y gweithwyr amaethyddol yn hynod o anaml-y gwrywod yn ami yn enill 5s. 6c. y dydd, ar menywod 3s. Dydd Llun diweddaf, tra yn ymdrochi, boddodd y Parch. Richard Hirwan, offeiriad Gittisham. Gadawodd weddw ae amryw blant. Y MAE pobwyr Llundain wedi enwi yr 21ain o'r mis presenol fel yr adeg o droi allan ar strike. Yr hyn a ofynant -ydyw diwrnod o ddeuddeg awr, sef o 4 y boreu hyd 4 y pryd- nawn. NIFER yr ymfudwyr o Liverpool yn ystod y mis diweddaf oeddynt 18,760, yr hyn oedd yn leihad o 490 ar y nifer yn Awst, 1871. Dydd Gwener diweddaf, syrthiodd Mr. Charles Fox, gorsaf-feistr yn Dewsbury, o dan y gerbydres, a lladdwyd ef yn y man. Y mae y glowyr a weithiant y glo tai yn nghymydogaeth Maesycwmwr wedi ceisio codiad eto yn eu 'cyflogau. Y mae yn cael ei hysbysu hefyd fod y meistri yn foddlon rhoddi dwy geiniog y mis hwn, a dwy geiniog eto y mis nesaf, ar y dealldwriaeth nad yw y gweithwyr i roddi rhybudd. Y mae un Mr. John Sellers wedi cael allan y gellir defnyddio ceryg llechau Gogledd Cymru, a lleoedd ereill, wedi eu malu, yn gymysgedig a defnyddiau ereill, i wneud papyr a defnyddiau ereill. Oddiwrth adroddiad sydd newydd ei gy- hoeddi, yr ydym yn cael fod nifer heddgeid- waid Llundain yn awr yn 9,655, o'r hwn nifer y mae 26 yn arolygwyr, 250 yn isarolygwyr, 960 yn sergeants, ac 8,407 yn heddgeidwaid cyffredin. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf rhedwyd dros ddau blentyn, yn Farrington road, Llundain, gan van perthynol i reilffordd, y rhai a laddwyd yn y man. Y mae llofruddiaeth yn cael ei hysbysu o Swydd Armagh, lwerddon, lie y dywedir fod dyn o'r enw Crampton wedi lladd ei dad-yn- nghyfraith, Bobert O'Brien, mewn anghyd- fod a gymerodd le rhyngddynt. CYSEGR-YSPEILIAETH YN MERTHYR.—Noa Sul diweddaf, torodd yspeilwyr i mewn i Eglwys St. David, Merthyr, gan obeithio, y mae yn debyg, ddyfod o hyd i'r llestrf cymun ac arian y casgliad oedd wedi cael ei wneud yn ystod y Sabboth. Ond cawsant eu siomi-nid yw y llestri yn cael eu cadw un amser yn yr Eglwys, ac yr oedd yr arian a gasglwyd hefyd wedi cael eu cymeryd ym- aith. Wedi methu yn eu hamcan, ac yn hytrach na myned ymaith yn hollol wagllaw, torodd yr yspeilwyr cist trysorfa y lladin, yr hon oedd ar ochr y prif borth i'r Eglwys. Y mae llofruddiaeth greulon wedi ei gyf- lawni ar fynydd Tyrone, ger Castlederg. Menyw a lofruddiwyd, yr hon oedd yn feichiog fawr, ac wedi ei dwyn i'r man an- hysbell hwn, y mae yn debyg, gan y person a'i darostyngodd. Ychydig wythnosau yn ol, bu gwryw a menyw ddyeithr yn y gymyd- ogaeth, y rhai a hysbysent eu bod wedi dyfod o Scotland, a dywedir mai hon ydyw y fenyw. hono. CADWYNO MERCH.-Dydd Sadwrn di- weddaf yn police curt Pontypwl, gwnawd yn amlwg achos o greulondeb neillduol tuag at ferch. Y mae yn ymddangos fod gwneuth- urwr priddfeini o'r enw Payne yn cael ei ofidio gan y meddylddrych nad oedd ei ferch, unarbymtheg oed, cystal o ran ei moesau ag y dylasai fod, gan gredu hefyd pe btiasai yn ei rhoddi mewn cadwynau, ac yn ei gyru fel yr arferid gyru personau alltudiedig gynt, y buasai yn well. Mewn canlyniad, cynllun- iodd i sicrhau cadwen drom wrth goesau y ferch druan, ac oddiyno o amgylch ei gwddf. A'r pwysau hyn o'i hamgylch, gyrid hi gan ei thad tyner i gario dwfr at wneuthur y priddfeini. Pa hyd y bu wrth y gorchwyl o geisio dwyn ei ferch i'w synwyrau trwy y creulondeb hwn o'i eiddo nid yw yn hysbys, ond y mae yn foddhaol deall na fydd efe mewn cyfleusdra i'w arferyd am y chwe mis nesaf. YSPWNG.—Ychydig a ystyriwn pan yn defn- yddio yspwng am berygl y rhai hyny sydd yn ymsuddo i'r mor er ei ddwyn allan. Yr ys- pwng a dyf o amgylch Ynys Sym, yn agos i Rhodes, ydyw unig adnodd y trigolion. Y mae gwrywod, menywod, a phlant, oil yn dysgu ymsuddo i'r dyfnder; ond y mae yn wir mai y dynion sydd yn cyflawni y gwr- hydri mwyaf mewn dyfod o hyd iddo. Y maent yn ymsuddo i'r mor i ddyfnder an" nghredadwy, ac yn ami y maent yn niweidio eu hunain yn fawr wrth gadw eu hanadlau yn rhy hir. Gwelir rhai o honynt ar eu gwaith yn esgyn, yn taflu i fyny gyfanswm mawr o waed; brydiau ereill y maent yn agored i gael eu dyfetha gan greaduriaid ys- glyfaethus y dyfnder, er eu bod bob amser yn cario cyllell gyda hwynt. Y maent bob amser yn myned i lawr a'u llygaid yn agored, a gwelant i bellder mawr trwy y dyfroedd, ac mor gynted ag y gwelant bysgod peryglus, ysgydwant y rhaff yn ddioed, a thynir hwynt i fyny ar unwaith i'r cwch.
Advertising
Y Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar lddynt wneud un prawf o heno, a bod yn ofalns am ganlyn y cyfarwyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneud na tarches ereill, ond pan y deuir dros yr anhawsdra, dy- wedir fel Golchwraig y Frenines, m.i y Starch goreu ddefnyddiwyd erioed ydyw.
AT GLEIFION ABEROAK, MERTHYR,…
AT GLEIFION ABEROAK, MERTHYR, PONTYPRIDD, LLA.NELLI, A'R CYLOHOEDD From W. BADHAM, Canton., Cardiff. I one (lay called with a chemist In the sxekxh* bourhood of Abeydnre far a lnx of (*eorge'« Met and Gravel Pilla and ww atspplied with what I supposed to be the genuine article. I was grerauy BfurpHned howevwr, ow 'ipenlng the parcel, to find that instead of George's Pills. the shemlifc hlW1 cheated me by packing op a spwrvmt box of PiUs. I had thf right, article however at Canton, and am much better rfnee I took them. RHYBUDD.—Ya gymsint a bodiinaws G eugndfft. an twyllodrus o fath yr uuhod yu cael 611 crybwyll wrthyf, teimlaf fwymecllgdeth i ddynaathi y cvi- ryw, ac hefyd i rybuddlo y cyhoedd, fel- ca byddo Iddynt dray anwybodaeth gael ett hud ddaatt t gy* meryd Piut neu Powder* o waeuthartad ereill!, o dan y fiugeegus eu bod yn llawn cystal os nad gwelt no I Gemge's Pile and Gravel Pills." Gellir yn bawdd eu hadnabod a'a gwahaniaethu oddiwrth nwyddau yr efdychwyr diweddar hyn, gan fod e«<a> y darganfyddwr ar Stamp y Llywodraeth, pa un » rwvu ir c amgylch pob blwch Hlrwaun. J. E. GEORGE, M.R.P.S.