Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLITH 0 GWHRHONDDA.

News
Cite
Share

LLITH 0 GWHRHONDDA. DYMUNAF ateb ymholiad "Trigianydd" yn y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR, dan y pen- awd uchod. Cyfeiria at y Gymdeithas Lenyddol a Cherddorol a sefydlwyd yn Hopkin's Town er ys ychydig amser yn ol, dyben pa un oedd dyr- chafu sefyllfa foesol a llenyddol ieuenctyd y lie. Pel hyn y saif pethau yn bresenol:—Wedi ffurfio pwyllgor, gwneuthur rheolau, &c., rhaid oedd, wrth gwrs, ymholi am adeilad eymhwys i gynal series of entertainments yn ystod y gauaf dyfodol. Apeliwyd i'r man priodol, sef am yr Ysgoldy Cenedlaethol. Cafwyd atebiad ar unwaith yn canmol y mudiad, gan addaw hefyd y buasai yn dda gan y gwr parchedig wneud pobpeth oedd yn ei allu tuag at hyrwyddo yr amcan clodwiw. Dywedai hefyd ei fod am gael gweled "further steps taken in the matter" cyn y gallasai gyd- synio a'n cais trwy rhoddi yr ysgoldy at ein gwasanaeth. Bid a fyno, awd yn mlaen gyda pharotoi yn brysur gyferbyn a'r cyfarfodydd a fwriedid eu cynal; ond yn mhen yehydig ddydd-' iau, dyma/r newydd yn ein cyrhaedd nad oedd yr ysgoldy i'w gael o gwbl, ac nad oedd rheolau yr Ysgol Genedlaethol yn caniatau i gyfarfod- ydd o unrhyw natur gael eu cynal ynddynt o gwbl. Wedi clywed hyny, rhoVldwyd pob gobaith i fyny, gan nad oedd yr un He arall addas a phriodol yn y gymydogaeth i gynal cyfarfodydd o'r fath. Gwel "Trigianydd" ar unwaith yn mha le y gorphwys yr achlysur o'r "distaw- rwydd" yn nghylch y gymdeithas. Fe wyr pawb hefyd fod cyfarfodydd o bob math wedi eu cynal yn ysgoldy y Gyfeillion, yn ddarlith- oeda, cyngherddau, panoramas; a mesmerism gan Box Brown, &c.; eto, "nid oedd yn unol a rheolau yr ysgolion" i lenorion a cherddorion Hopkin's Town gydgyfarfod rhwng eu muriau er llesoli eu cyd-ieuenctyd a dyrchafu standard moesoldeb y gymydogaeth. Ar yr un pryd, cawn fod y parchedig fonedclwr (?) yn ei nodyn at yr ysgrifenydd yn addaw gwneud yr hyn a allai in aid Of such a praiseiuorthy movement." Gadawn ein cymydogion i farnu cysondeb yr uchod,-y fair promises a'r cyflawniad teg o honynt! Gan fod "Trigianydd" yn teimlo y fath ddyddordeb yn y mudiad, a fydd ef eystal a dwyn rhyw suggestions gerbron, fel y gellir gwneud rhywbeth eto gyferbyn a'r gauaf; nid yw hi yn rhy ddiweddar. Pa le mae y brwd- fi-ydig Ceinionydd ? Sicrheid llwyddiant un- rhyw beth braidd ond cael help llaw y eyfaill hwn. Deued allan fel dyn,—nid trwy y wasg, ond trwy ffurfio pwyllgor ar unwaith, er ystyr- ied pa steps fydd oreu i'w cymeryd. Caiff bob cynorthwy gan gyn-aelodau y gymdeithas;— nid ydynt yn cysgu, ac y maent mor barod i weithio ag erioed. Mae y Uifeiriant meddwol yn parhau i gynyddu gyda chyflymdra dy- chrynllyd; rhaid roddi sprag yn y wheel, onite bydd y canlyniadau yn resynus. Gwelsom amser tua'r Gyfeillion pan oedd prif ddynion ein eymydogaeth yn cymeryd dyddordeb neill- duol yn llwyddiant y gweithwyr. Cyfeiriwn at yr amser pan oedd y mudiad dirwestol yn blaguro ac yn cyfranu cysur a dedwyddwch ar bob Haw. Mae llawer un yn diolch am hyny hyd v dydd hwn, ac y mae gwir angen am adfywiad foto. Gwawried y dydd yn fuan pan y gwelir dirwest yn uchel ei phen yn y lie. ADDYSG.-Pa beth mae ein Bwrdd Ysgol yn ei wneuthur ? A ydy w mown bodolaeth 1 Y mae newyn addysg yn anrhaetho y lie. jSyderwn y gwneir brys bellach i adeiiadu yr ysgolion newyddion,—y mae gwir angen am danynt. Nid yw yr ysgol sydd yma yn bresenol ond liedrith. Telir arian mawr am yr hyn nid yw yn fara gwyr pawb nad yw hyny yn beth dymunol. hyd yn nod ar yr adeg lewyrchus hon. Mae pobpeth mewn llawn hwyl tua gwaelod y cwm, a rhaid cael lie priodol i addysgu y do sydd yn codi, ac oni chymerir llwvbr uniongyrcliol i barotoi y cyfryw Ie, bydd anwybodaeth yn uchel ei ben, o herwydd fod y boblogaeth yn cynyddu mor gyfiym. Gyda dymuno pob llwydd i'r Bwrdd Ysgol, a llenyddiaeth a cherddoriaeth y cwm, yterfyn W. R. M.

Advertising

---.---.."-... LLANFABON A'R…

Advertising

[No title]

Advertising

AT GLEIFION ABEROAK, MERTHYR,…