Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
[No title]
coed eu cario fel yn y gweithiau ereill, ac am adael y gweithwyr i gario rails a slippers, as yn enwedig am y pay pump wythnos, ac folly yn y blaen.—W. R.
CASTELL LLWCHWR AC UNDEB Y…
CASTELL LLWCHWR AC UNDEB Y GLOWYR. DYDD Mercher, y 12fed o Fai, gwnaeth Mr. Henry Thomas, Aberdar, ei ymddangosiad yn y lie hwn, a chyhoeddwyd fod araeth i'w ihraddodi gauddo ar "Undeb y Glowyr," y aoswaith ganlynol, ao). 7 o'r gloch. Erbyn hyny, daeth y brawd Mr. Lewis Morgan i'r lie, a chawsom areithiau campus gan y ddau yn yr Ysgoldy Cenedlaethol. Wedi terfynu y cyfarfod, gorymdeithiwyd yn orymdaith fawr tua'r Cross Keys, yn yr hwn le y cawsom roesaw nid bychan, ac ymunodd 66 yn aelod- au. Erbyn heddyw, yr ydym wedi cyrhaedd i 119, ac mae pob argeolion y gwneir ychwaneg yn y dyfodol. Da genyf hysbysu fod tua 100 wedi ymuno yn nglofeydd Cefngorwydd, 60 yn Mhengelliddrain, ac 102 yn Mhenclawdd. Da genyf hefyd hysbysu iluoaog ddarllenwyr y GWLADGARWR fod yr hynaws, y cymwynas- gar, a'r diniwed Mr. L. L. Bowen wedipender- fynu aros yn y Gorwydd eto. Odid fawr na feasai yn go led annhraethol i drigolion y lie pe buasai yn ymadael.—LLWYDFRYN.
ICROSS INN, LLANDEBIE.
CROSS INN, LLANDEBIE. Cynaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y gweithiau glo, o Gaecurwen Collieries i lawr i Gwm Gwendraeth, yn y lie uchod,* dydd Sadwrn, Awst y 17eg, er mwyn ystyried pa gwrs i'w gymeryd yn ngwyneb fod perchen- ogion y glofeydd yn codi prisiau y glo gy- maint yn uwch nag y maent yn caniatau y codiad yn nghyflogau y gweithwyr mewn ey-fartaledcl iddo, nes ein bod, i raddau, yn ofni y byddai o niwed i ni yn y dyfodol, pe byddai i olwynion masnach droi yn ol, a'r prisoedd ddechreu gostwng. Wedi eryn siarad ar y mater, penderfynwyd fod cais i gael ei wneud at y meistri am gwblhau y codiad yn 50 y cant er dechreu y flwyddyn bresenol; ac os oedd rhywrai yn gweled y safon yn rhy isel y pryd hwnw, y gallent ofyn ychwaneg er mwyn cael pawb i'r un level, ond ni chaniateid i neb ofyn llai na 10s. y bunt, a rhoddi ar ddeall gyda llaw os bydd- ai i godiad ychwanegol gymeryd lie yn mhris y glo, y dysgwylid codiad yn gyfatebol i'r gweithiwr. Ond nid cynt y rlioddwyd y pen- derfyniadau uchod o flaen y meistri, nag yr oedd cais oddiwrthynt hwy at y gweithwyr, am i ryw nifer penodol o bob glofa ddyfod i'w cyfarfod yn yr un lie ar yr 31ain cynfisol, sef dydd Sadwrn diweddaf, er mwyn cael ystyried y pwnc, a threio dyfod i ryw ben- derfyniad heddychol ar y pwnc. Ar y diwrnod a nodwyd, am 3 o'r gloch, cawsom ein hunain yn y Cross Inn eto, a nifer lied dda o gynrychiolwyr o bob man, yn nghyda amryw o'r meistri, yno yn ein cyfarfod i'n croesaw yn y lie cyntaf, a chiniaw rhagor- ol, er adloniant i'n natur ac yna awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Wedi peth siarad, caniatawyd y cais o 10s. y bunt o godiad, fel ag yr oeddym yn gofyn, a pheth bynag a ofynid dros ben hyny, ei fod i'w roddi i fyny i gyflafareddwyr. Felly, cawsom bob peth yn foddhaol, i'n tyb ni, y pryd hwnw fodd bynag, os nad oes rhyw irad-wriaeth ddirgelaidd yn llechu eto y tu ol i;r gwenau serchus. Amser a ddengys. Bydd cyfarfod nesaf y glowyr i gael ei gynal yn y Cross Inn, am 12 o'r gloch, dydd Sadwrn, Medi yr 21ain, a dysgwylir fod dynion cy- mhwys o bob man yn cael eu hanfon yno fel y gallom yinwneud yn bwyllog a phs. bethau bynag a ddelo dan ein sylw, heb ofni brad na briwio neb. IOAN CYNLAIS.
CWMBWRLA, GER ABERTAWE.
CWMBWRLA, GER ABERTAWE. ER nad yw y gwaith hwn yn cael ei weithio ar raddfa eang iawn, etc y mae yn cael ei gnrio yn mlaen gyda chysondeb a llwyddiant. Ferclienog y gwaith yw J. T. Jenkins, Ysw., yr hwn sydd yn adnabyddus trwy y cymydog- aethau fel dyngarwr, ac fel meistr hynaws a charedig i'w weithwyr. Nid fel ymerhawdwr neu frenin, ond fel un sydd yn ystyried y gweithiwr yn gyfuwch ag ef ei hun, ac fel un sydd yn dymuno yn dda i'w weithwyr oil. Er yr holl gynwrf sydd wedi ac yn bod yn nghylch y sefyll allan am brisoedd yn mhob rhan o'r wlad, braidd yr ydym ni yma, trwy drugaredd, yn gwybod dim am effeithiau y strilx. Nid yw Mr. Jenkins wedi gwrthod un cais o'n heiddo, os byddai ar dir rhesym- 01. Pe byddai meistri y wlad yn cymeryd eaiampi Mr. Jenkins i weithredu, fe ddar- fyddai y sefyll allan yn llwyr. Y peth lleiaf allwn ninau ei wneud, ac yr ydym yn teimlo ein dyledswydd i'w wneud, ydyw datgan ein penderfyniad i lynu wrtho a bod yn ffyddlon iddo. Dymunem iddo bob llwyddiant yri y byd siomedig hwn, a phan rhed ei yrfa allan, bydded iddo feddianu teyrnas a choron an- aiflanedig yn y byd a ddaw. UN O'l WEITHWYR.
ABERAFAN.
ABERAFAN. AT HAMMERMEN A REFINERS CWMBWRLA, CWMFELIN, LANDORE, TREFFOREST, LLAN- SAWEL, AVONDALE, AC ABEltDAlt. Anwyl Gydweithwyr,-Cynaliwyd cyfar- fod nos Sadwrn diweddaf, yn yr Oddfellow's Arms, Aberafan, pryd y daeth yn nghyd gynrychiolwyr, o wahanol fanau, i'r dyben o gael ar ddeall a oedd pawb wedi rhoddi eu rhybuddion fel ag y penderfynwyd, ai nad oeddynt, ar y 19eg o Awst. Wedi ychydig o siarad, cafwyd ar ddeall, er ein siomiant, fod rhai o'r gweithfeydd henaf heb roi eu rhybuddion, sef Margam, Owmafon, a Melin- erythan, a'u bod hefyd wedi settlo ar y eoacher yn aiiif s Yr ydym yn deall hefyd fod y Margamiaid cowardaidd wedi arwyddo eu dwylav eu bod yn foddlon ar yr hyn a nodwyd. Yn awr, na fydded i ni, sef y gweithfeydd a nodwyd uchod, i gymeryd ein blaenori gan y dynion gwellt hyn sydd yn y tri gwaith a enwais ond bydded i ni oil i sefyll yn ddewrion am yr hyn yr ydym wedi penderfynu ei wneud. Yr oedd yn dda gen- ym weled cynrychiolwyr pellenig yn bresenol yn y cyfarfod, yn neillduol Aberdar. Y mae hyn yn dangos eu bod yn ddewr o blaid y mudiad. Y mae yr Aberdariaid yn arferol o fod ar y blaen yn mhob peth braidd, ac y maent yn lied debyg o fod yn mlaenaf gyda'r mudiad hwn. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynal yn nhy Mrs. Rees, sef y Neath & Brecon, Castellnedd, ar y 14eg o Fedi, pan y dysgwylir i gynrychiolwyr o'r gweithfeydd uchod i fod yn bresenol. REFINER.
DERBYNIADAU ARIANOL.
DERBYNIADAU ARIANOL. Y mae genym gydnabod y derbyniadau canlynol yr wythnos hon :-Awst 26ain, oddi- wrth Elias Evans, Llantwit Main, £9 7s 6c; Morgan Mathews, Pwll y Ton, Ystrad, JE17 18s. Awst Slain, Thos. John, Darren Ddu Level, JEl lis. 2c. Medi 2il, R. Edwards, Aberaman, £ 117s.; Daniel Evans, Gweithfeydd y Birchgrove, Llansamlet, £414s. 2c.; Josiah Harris, Glo Gwlad, Is. Anwyl Gydweithwyr, dymunaf gydnabod fy nghamsyniad ar dderbyniadau arian Fern- dale yr wythnos ddiweddaf, yn lie £114s. 9c., derbyniais zC8 14s. 9c., gyda diolchgarwch gwresocaf. G. COLES, Ysg.
TIN WORKS BRITON FERRY.
TIN WORKS BRITON FERRY. MEWN atebiad i ofyniad "Arthur" yn y GWLADGARWRdiweddaf, dymunaf ddweyd fod puddhrs a hammermen y gweithiau uchod wedi rhoddi rybudd oddiar y 17eg o'r mis diweddaf. Am y bailers, maent hwy wedi cael eu gofyniadau gan y meistri. Y mae gweithwyr Avon Vale wedi rhoddi rhybudd ond am y tri gwaith hyn, sef Cwmavon, Mar- gam, a Melincrythan, maent hwy wedi cytuno. Cynelir cyfarfod gan y coachers yn Nghastellnedd, ar y 14eg o'r mis hwn ond nis gwn yn mha le yno; dichon y cewch wybod yn y GWLADOARWR nesaf. Dysgwylir cynrychiolydd o bob gwaith i fod yn bresenol. AB GUTO.
GLOFA RHIF 2, FOCHRIW.
GLOFA RHIF 2, FOCHRIW. Anwyl Gydweithwyr,- Yn ngwyneb yr holl faldordd sydd ar led am sefyllfa afiachus y gwaith, paham na ddanfonwch ddynion o blith eich hunain i archwilio'r hen waith a'r newydd, er mwyn i chwi gael gwybodaeth gywir am ansawdd y gwaith lie yr ydych yn gweithio, a chyhoeddi y gwirionedd drwy gyfrwng y GWLADGARWR. Bydd hyn yn foddhad i'r meistri, yn nghyda lluaws mawr o weithwyr. HEN LOWR.
LLANFABON A'R CODIAD PRIS.
LLANFABON A'R CODIAD PRIS. Da genyf allu hysbysu miloedd ddarllen- wyr y GWLADGARWR, ein bod yn y lie yma, wedi cael 2g. y dynell eto o godiad, ag i ddecbreu arnynt y mis hwn; ac nid yn unig hyny, ond ein bod i gael 2g. arall y mis nesaf. Yr ydym ni fel glowyr yn dymuno, trwy gyfrwng y GWLADGARWR, rhoddi ein diolchgarwch gwresocaf i'n goruchwylwyr am eu parodrwydd yn anfon ein ceisiadau at ein meistri. Ac hefyd, yr ydym yn teimlo rhwymedigaeth arnom i ddiolch i'n meistri am eu parodrwydd yn rhoddi i ni ein ceisiadau.—NELSONFAB.
SEFYLLFA GLOFA NANTMELYN".
[HYSBYSIA.D. ] SEFYLLFA GLOFA NANTMELYN". Ni a'l Hodwn i lawr fel y canlyn :—Y wythien ddwy a naw: Wedi myned trwy yr hen waith, yn gystal a'r 11 a sydd yn cael el weithio yti bresenol, cafwyd hwynt heb ddim nwy, gyda chynwysiad da o awyr. Eto y pedair troedfeda a'r dr'.v^r yn Eastern District: Cerddasom y lIeoedd hyn yn fanwl-yr hen waith, a'r lleoedd sydd yn gweithio yn bresenol, ac ni chafwyd nwy yn un man. Eto, y ddwy a'r naw newydd, y pedair, a'r driver yn y Western District: Cerddasom trwy'r oil o'r hen waith, yn gystal a'r newydd, ac ni chafwydnwy mewn un man, ond cynwysiad rhagorot o awyr yn mhob lie. Dyna sefyllfa Hen Bwll Nantmelyn ar air a chfdwybod. Bydded iti. ddarllenydd, zoflo mai yn anaml y ceir pwll heb ddim nwy, a gwelthio wrth oleu noeth —John Howells, John Price, Ebenezer Thomas, a Tim Davies. PWLL NEWYDD NANTMELYN. Gwythien y chwech a'r lathen: Dechreuasom ein taith yn level y face, a chawsom ychydig o nwy yn imhen blaen mewn twll yn y nan. Aethom rwy'r chwech, o g'oes heading yn yr ochr hwn i'r pwll trwy yr hen waith oil, yn o gystal a'r gwaith newydd, ac ni chawsom ddim nwy yn yr hen waith, ond daethom o hyd i ychydig nwy eto mewn twll yn y nen yn heading croes rhif y cyntaf, ac ychydig yn y nell wrth partin David Timothy. Eto yr ochr arall, sef ochr y back, aethom trwy yr hen waith yr ochr hwn eto yn fanwl, a'r gwaith newydd, a chawsom ychydig nwy mewn twll bach yn mhen blaen croes head- ing rhif y cyntaf, a dyna'r unig fan, ddarllenydd, y gwt 1- som nwy yn Y1 hen waith, ac ar yr oahr hwn i'r pwll, sef pump croes heading, a chynwysiad ihagorol o awyr. Cawsom fod rheoleiddiad yr awyr yn hynod o dda trwy y: oil o'r hen waith, yn o gystal a'r gwaith newydd. Y mae y pwll hwn hefjd yn gweithlo wrth oleu noeth Y mae clod mawr yn ddyledus i staff lywodraethol gweithiau Nantmelyn. Ydym, ar air a chydwybod,—William Grif- fiths, Rees Howells, a John Phillips. 221
GLOFA ABERSOEKI.
[HYSBYSIAD.] GLOFA ABERSOEKI. Gan fod y si wedi myned ar hyd a Red y byd, fod Mor- gan Bees glowr o'r pwll hwn, wedi myned a gwaith glowr arall o'r enw Thomas Morgan bydded hysbys i holl "Un- debwyr" Cymru benbaladr, fod y drwediad uchod 'n hollol anwireddus. Clywais fod rhai yn Mountain Ash yn drwgliwio undebwyr y pwll, 'ond gallwn herlo'r byd nad oes undebwyr mwy trwyadl yn perthpi i'r Undeb. Nid amcan yr Undeb yn ei gychwyniad oedd pleidio dyn. ion i golli eu gwaith am wythnosau trwy borthi eu blys gyda'r diodydd meddwol; a phan wedt cael y sack gan y meistri am en ffol-ymddygiaa, yna bwrw y bai ar yr Un- deb, am na byddai yr unflebwyr yn gorfodi y meistri i bawb gael myned a dyfod fel byddont yn dewis, pan bydd eu Ueoedd *n rhwym o gael eu gweithio yn gyson bob dydd. Bydded I bawb wneud eu goreu I ddeall egwyddorion yr Undeb yn well, ac nid myned i dann ceryg ar draws y diniwed pan byddo yn hollol rydd. Dy- wadodd M. Rees cyn cychwyn, nad oedd ef yn myned I waith seb arall pe byddai yn gorfod ymadael a'r Kwatth. pan yr atebwyd iddo nad oedd T. Mirgan yn cael dyfod Sa ol o gwbl. Yr ydym ni, sydd a'n henwau ir d, yn wyr rhyddhau Morgan Sees,am ei fod Wediymdd^yn yn ddoeth. Dros Bwll Abergorld,-Rees Jenkins, Thomas Griffiths, William Morgan, William Williams, (Aelodau o'r PwyUgor Gweithiol.)
LLOFFION O'R LLAN.
LLOFFION O'R LLAN. awyl Flynyddol Lleurwg.—Cynaliodd y bardd ei wyl flynyddol eleni, y Sabboth a'r nos Lun diweddaf. Dywedai y bardd i'r wyl gyntaf mewn cysylltiad a'i gapel ef, gael ei chynal haner can' mlynedd i yn awr, ond fod y deml wedi myned dan amrywiol gyfnewid- iadau yn y cyfamser, a miloedd o rai melyn wedi eu talu ar y treulion. Y mae bugeiliaid duwiol a da yn gorwedd heddyw yn y rhych, a fuont yn bugeilio ar y rhan hwn o'r mynydd, y bu yn dda genym cyn yma eistedd dan eu gweinidogaeth, ond yn iach iddynt mwyach. Y mae y bardd wedi llaf urio yn helaethach na hwynt oil, ac wedi derbyn seliau i'w weinidogaeth, ac wedi creu eglwys newydd yn ddiweddar o'r harddaf yn y fro. Y cenadon eleni oeddynt y Dr. Jones, Llan- gollen; Dr. Davies, Hwlffordd; a'r llenor enwog Mathetes. Pregethasant yn dda, a chasglwyd yn odidog, er nas gwyddom yn gywir y Pounds, Shillings, and Pence. Bydd y Cymro Gwyllt yn anfoddlon i'r frawddeg Saesneg, mLwnaf iy llw. Galfin ac Alaw Ddu. Y n neehreu Mehefin diweddaf, darfu i mi ysgrifenu hanes taith Alaw a minau i Eisteddfod Llanymddyfri, yn nghwmni y "fun" a'r "decaf o wragedd." Yn mhen wythnos wedi ymddangosiad yr ysgrif, gwnaeth "Rasmws Wledig" sylw o'r ysgrif, a hyny y mae'n ymddangos mewn goleuni amheus o gymeriad Alaw a minau. Ni ddarfu i mi fy hun feddwl rhyw lawer o'i ysgrif ar y pryd, ond ymdden^ys bod cyfeill- ion cynes i Alaw a minau wedi teimlo i'r byw, ac yn parhau anfon llythyrau o Aberd&r mor ddiweddar a'r wythnos hon, i ofyn eglurhad ar ein hymddygiad mewn cysylltiad a'r daith. Wel, boed hysbys i'r byd ac Aberdar, mai wrth "fun," a'r "decaf 0 wragedd" oeddwn i yn feddwl, eingwragedd ni ein dau. Ni fu Alaw' na minau yn nghwmni neb arall y diwrnod hwnw, ac os oes rhywun a all ddweyd i'r gwrthwyneb, traethed ei len. Ni fuaswn byth yn meddwl am dano, nac yn gwneud sylw o hono, oni buasai am y llythyrau y eyfeiriais atynt. Gan obeithio y rhydd hyn berffaith foddlon- rwydd, y gorphwys yr eiddoch, HEN LOFFWR.
GOHEBIAETH 0 Jj'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 Jj'ERPWL. Iarll Derby a llafur.—Mae pawb yn y byd gwleidyddol yn foddlon cydnabod fod y gwr hwn yn deall ei fusnes, ac yn gwybod pa le a pha bryd i siarad. Mewn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf, cafwyd barn glir a phenderfynol ei arglwyddiaeth ar sefyllfa llafur yn ein dyddiau ni, a'r hyn oedd yn yr amser a aeth heibio. Sylwai yn fanol ar y pwnc, a dywedai yn ddifloesgni fod hawl gan y gweithiwr i ofyn cymaint a fedr gael Hin y llafur a gyflawna, ac er fod cyfalaf yn llyw- odraethu i raddau mwy neu lai; eto i gyd, rhaid ydyw cydnabod fod llafur y gweithiwr yn beth anhebgorol er cynyrehu ychwaneg- iad at nerth cyfalaf, a bod masnach y byd yn dibynu ar y naill cystal a'r llall. Awgrymai fod cyfnewidiad yn sicr o orddiwes y wlad, a chynghorai y bobl weithgar i barotoi erbyn yr adfyd sydd i ddyfod, gan gofio am y panic blin yn 1866. Dichon nad yw pawb yn barod i wrando ar athrawiaeth Derby; ond er hyny, ychydig o seneddwyr Prydain all siarad cymaint o synwyr mewn cyn lleied o amser. Dywed un papyr rhyddfrydig fod pethau Derby yn arwynebol, ac yn rhedeg ar y linell hono sydd yn tueddu at foddloni pawb; a chyn terfynu yr erthygl, dywed yr un ysgrifenydd y byddai yn Iles anrhaethol i berchenogion gweithfeydd i wrando ei gynghorion, a chadw ar hyd y linell ochel- iadol er mwyn heddweh y dyfodol. Tybia llawer fod yn anmhosibl i ddyn a fydd yn credu yr athrawiaeth geidwadol i fod o ddim lies yn y byd, ond y mae yn sier y cenfydd pawb pwy bynag fod gwirionedd yn werth ei arddel, deled o'r lie delo; felly, yn yn y mater hwn, credwn yn yr athrawiaeth a ddysgir gan Derby fel y cyfryw un ag sydd yn tueddu at lesiant y werin yn gyffredinol. Pwy bynag a wrendy ar gynghorion y dyn hwn a lwydda, am y rheswm fod cysondeb yn gydfynedol a phob peth a draetha. Traetha ei farn yn glir o flaen y byd, a dilynir yr hyn a ddywedir ganddo mewn amser, trwy fod y pethau yn dyfod yn ffaith. Y Twrw yn Belfast.-Achos y twrw presenol ydywdiddymiad deddf y gorymdeith- io oddeutu naw mis yn ol. Mae yn hysbys t i'r darllenydd fod parthau o'r Iwerddon o dan gyfraith y gwaharddiad, a phan ddile- wyd hi, neidiodd yr Eirianwyr i'r adwy a chyhoeddasant orymdaith, ac aeth pob peth drosodd yn dawel. Yn mhen ychydig, daeth tro y Pabyddion i orymdeithio, a phan yn gwneud hyny, dyma ymosodiad gwallgofus ar yr orymdaith, a'r canlyniad fu rhyfel. Mae y naill a'r llall yn feius, a'r lly woctraeth 0 dan gymaint bai a'r pleidiau, am oddef iddynt orymdeithio a dangos yspryd plaid. Mae y Gwyddelod Protestanaidd a Phabydd- 01 y naill mor wallgof a'r llall, fel nad oes dim i wneud ond i'r llywodraeth ymyraeth mewn nerth ac awdurdod, gan eu darostwng a gwialen haiarn. Gormod o beth da yw fod cenedl fel hyn yn taflu y fath anrhefn trwy y deyrnas, traul, gofid, a cholledion i fasnach, a hyny yn cael ei achosi gan ysbryd dirmyg- us plaid. Gofynai un o genhadon Japan pan aeth i'r Iwerddon, beth oedd y bobl hyn 1 Ai canibaliaid ydynt ? 0 na, meddai y pen- aeth, mae y rhai hyn yn ddynion da, ac yn bobl uwch-raddol yn y wlad hon. Stanley fel Oymro.-Mae cryn awydd ynom fel cenedl i wneud allan mai Cymro yw Mr. Stanley, darganfyddwr Dr. Livingstone; ond yn ol pob tebyg, nid yw efe am arddel ein gwlad a'n cenedl. Mewn gair, ddarllenydd, nid yw yn werth i ni ei arddel os nad oes digon o'r tan Oymreig ynddo i arddel ei fam. wlad a'i gartref yn Nghymru. Gadawer iddo arddel ei genedlaetholdeb o'r fan a fyno. CYMRO GWYLLT.
Advertising
"SIABADWCH YN BLAEN," (CAN A CHYDGAN,) YN y ddau nodiant gan R. W. STEPHENS (Eos GWENDRAETH), ger Kidwelly. I'w chael gan yr Awdwr am 4c. 217 "Mor o gan yw Cymru i gyd." EBENEZER, ABEBAFON. CYNELIR EISTEDDFOD FLYNYDDOL fawreddog y lie uchod, DYDD NADOLIGJ Rhagfyr 25am, 1872. 1'r C6r heb fod dan 80 o nifer, a gano yn oreu "Worthy is the Lamb," a'r "Amen Chorus," Handel's Messiah. 15 0 0 Beirniaid y Canu,—Mr. William Phillips* (Gwilym Cynon;) y Cyfansoddiadau a'r Adrodd- iadau,—Parch. J. Rowlands, (loan Glan Afan,) Cwmavon. Ceir y manylion drwy ddanfon ceiniog a Aimd at yr Ysgrifenydd, JOHN MORRIS, 205 Red Lion, Aberafon.
EISTEDDFOD FLYNYDDOL SOAB,…
EISTEDDFOD FLYNYDDOL SOAB, PONTLOTYN, RHYMNI. NADOLIG, 1872. Gwneuthur lies sydd gysur.—G. C. y Tyle. I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu "Bendig- edig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan J. Thomas, Blaenanerch. 12 0 0 1'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif, ac na enillodd £5 mewn cystadleuaeth o'r blaen, a gano yn oreu "0 Gymru Anwylaf," J. Thomas, Cerddor Cymreig. 3 0 0 I'r C6r o blant, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu "Llais yr Haf," o GOT y Plant. Caniateir i 4 i'w cynorthwyo. 1 0 0 I'r un a chwareuo yn oreu ddwy yn ddilynol ar y pryd, o Gasgliad Lewis Jones, ar yr Harmonium. 0 10 0 (Cyfyngir y testyn hwn i Gwm Rhymni.) Beirniad y Gerddoriaeth,—Mr. Silas Evans, Abertawe. Arweinydd,-Y Parch. J. P. Williams, (Cynog.) Ysgrifenydd Gohebol,—Gwilym Craig y Tyle, Rock Inn, Pontlotyn, Rhymni. Ysgrifenydd Cynorthwyol, — Mr. Samuel Gethin Lewis, Rhymni Office, Rhymni. Bydd y Programme a gweddill o'r testynaO yn barod yn fuan, pris ceiniog, gyda'r Post 1J. Y Cyfarfodydd i ddechreu am 10 a 2. Cyng' herdd yn yr hwyr am 6 gan Mr. Silas Evans a chorau y Cwm. Enwau y Corau a'r cystadleuwyr i fod mewn llaw ar y 23ain o Rhagfyr. Yr elw at gapel Soar, Pontlotyn. 206
EISTEDDFOD CALFARIA, CLYDAGH.
EISTEDDFOD CALFARIA, CLYDAGH. PLYNELIR Y SEITHFED EISTEDDFOD FLYNYDDOL yn y lie uchod DYDD NADOLIG, Rhagfyr 25ain, 1872, pryd y gwobr- wyir yr ymgeiswyr buddugol ar y testynau canlynol:— £ b. d. I'r C6r a gano ynoreu Gorfoleddwn yn dy Iachawdwriaeth di," o'r Cerddor. 13 0 0 I'r C6r a gano yn oreu "Llangristiol- us," o Ychwanegiad Gwyllt. 3 0 0 I'r C6r o blant, heb fod dros 16eg oed, a gano yn oreu, "Nis rhoddwn fyny'r Beibl," o Gov y Plant. 1 10 0 I'r 8 a ganont yn oreu "Sleep gentle Lady," Bishop, gyda'r Piano. I 0 0 I'r 3 a ganont yn oreu gyda'r Piano, "Disdainful of Danger," o Judas. 0 12 0 I'r 2 a ganont yn oreu gyda'r Piano, "Love and Pride," gan Harry Clifton. 0 10 -0 I'r hwn a gano yn oreu gyda'r Piano, "Waft her Angels," Handel. 0 7 6 I'r hwn a gano yn oreu gyda'r Piano, "Honour & Arms," Handel. 0 7 i I'r hon a gano yn oreu gyda'r Piano, "He shall feed his flock," Handel. 0 7 6 I'r 4 a ganont yn oreu gerddoriaeth rhoddedig ar y pryd. 0 4 0 Am y Ganig oreu ar unrhyw fesur. Gwobr rhoddedig gan gyfaill. 1 0 0 Beirniad,-EOS RHONDDA. Y ffugenwau i fod yn Haw yr Ysgrifenydd erbyn Rhag. lOfed. Rhoddir manylion pellacb eto. J. B. JONES, 202 Ysgrifenydd.
ABERTH MOLIANT:
Yn y Wasg, a Chyhoeddir yn ddioed, "1"" cynwys tua 400 o dudalenau, PRIS Jfi., ABERTH MOLIANT: SEF CASGLIAD O EMYNriU A THONAU, Yr Emynau dan olygiaeth y Parchn. W. Rees, D.D., a W. Ambrose; a'r Tonau dan olygiaetit Mri. J. Ambrose Lloyd, ac E. Rees. CYNWYSIR yn y Gyfrol dros 300 o Donau Hen a Newydd, a detholiad helaeth 0 GORG \NAU (chants). Bydd ynddo Ddethot- iad gofalus o oreuon yr Hen ALA WON CYMRAJEG wedi eu cynghaneddu gan rnwyajf gan Mr. LLOYD, yr hwn sydd wedi rhoddi ei sylw neillduol i'r elfen hon yn y Gwaith. Ceir hefyd bigion o alawon goreu Salmyddiaetb Saesoneg, EUmynig, &c., yn nghyd a llawer o gyfansoddiadau newyddion heb fod yn argraff" edig o'r blaen. Ceir ynddo hefyd gasgliad helaeth o Emynau hen a newydd, ac yn eu plith lawer na fuont yn argraffedig hyd yn hyn. Nid oes amser, na Ilafur, na thraul, wedi ei arbed er gwneud y gwaith yn deilwng o dderbyO" iad cyff'edinol. Yr ydym wedi derbyn caniatad i gyhoeddi rhai o gyfansoddiadau y boneddwyr canlynol* yn mhlith ereill, sef y Parchn. Syr F. A. G. OUSLEY, BART.; J. B. DYKES, M.A., Mus. Doc.; Syr W, STERNDALE BENNETT, Mus. Doc.; Syt G. J. ELVEY, Mus. Doc.; Syr JOHN Goss; Meistri ARTHUR H. BROWN; A. R. RmNAGLJ: = HENRY SMART; Dr. GAUNTLETT, a'r dlweddtf S. WESLIKY. Dymunir ar bawb a ewyttysiant sicrhau anfon eu henwau, yn nghyda blaendal yn ddtoe» WILLIAM JONES, 200 45, Grey Street, LIVERPOOL.