Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
IJdd yn erbyn y gyfraith. Fe all perthyn- 7^ y meddwyn hawlio dwy ddolar y dydd ot«uwrth y tafarnwr am yr amser a gollwyd aeh°s meddwdod. Cafodd dyn ei ladd yn r^weddar tra yn ei feddwdod, a gorfud i'r ■kfarnwyr a rhoddodd ddiod iddo dalu tair ° ddoleri i'r weddw. Dyna ydyw'r gyf- taith. newydd. Mae yn bur lym ar y tafarn- *yr, ac y mae yn debyg y gwnant ymgais f* diddymu yn yr etholiad ne8af. Ni chan- j*4 gofod i mi fanylu ychwaneg; ond y ^totiwn yw, pwy fu yn offerynol i ddwyn y spraith yna oddiamgylch ? Y Good Tem- tJlars gychwynodd y mudiad, a'r Grand Lodge (Wisconsin, ddarfu dalu y rhan fwyaf o'r ^atd, yr hyn nid oedd fechan. Nid ydys dysgwyl i chwi yn Aberdar wneuthur ?Paudiad o'r fath, ond y mae ar eich dwy- liw chwi yn gyntaf i blanu'r egwyddorion r^westol, a phan y bydd wedi gwreiddio yn tiIo\Vn yn mhob tref yn Nghymru, fe fydd g^ych nerth. Y clefydau a berthynant i 0 ddirwestwyr ydynt, claiarineb a gwa- Jnalwch. Gyfeillion,-Dewch i fod yn effro ae wrthi yn gyson a pharhaus, ac fe fydd 90baith i ni gyflawni rhywbeth. Terfynaf obeithio y bydd i'r sefydliad daionus fyned ar gynydd yn Aberdar, a bod yn ddysglaer yn nhghanol lluaws yn yr wlad. Ydwyf, eich ewyllysiwr da, THOMAS HIRWAIN POWELL. THOMAS HIRWAIN POWELL.
COF-ADAIL Y DIWEDDAR DAVID…
COF-ADAIL Y DIWEDDAR DAVID WALTERS. CrWELSOM ysgrif yn y Weekly Mail, gan *8olus, yn gofyn i Mr. D. T. Sims beth a £ j*eth o arian y gyngherdd hono a gynal- j*yd yn Nghastellnedd tua thair blynedd a ^er yn ol, er codi cof-adail i'r gwxthrych j^od. Cafwyd rhyw £ 20 yn glir wedi talu costau, ac nid oes neb yn gwybod dim yr arian pa le y maent,—hyny yw, neb a wybod Nid oes careg bedd wedi ei ehodi eto uwchben gweddillion yr hen batri- Paham nad yw Mr. Sims fel ysgrif- Jydd rhydd ac agored, yn hysbysu y ghoedd gan bwy y mae y punoedd yn Hechu ? ^ai llawer o bobl wybod am danynt. A modd eu cael ? Beth am y gof-adail ? ?^h am arian y cyhoedd ? A ydyw bonedd- p>n y pwyllgor yn gwybod y gellir dwyn proceedings yn eu herbyn am wneud jWoeth by false pretences ? Os na wyddent, fi yn eu hysbysu yn awr. Beth hefyd Jj* Mr. David Davies, y masiwn ? Onid f efe yn gwybod rhywbeth am elw arianol jLSyngherdd ? Efe ydoedd yr arweinydd. .vWsom fod peth arian wedi cael eu hanfon mynyddau gan gyfeillion yr ymadawedig 'e y mae yr arian hyny ? Ai yn yr un y maent ? Atebed a wyr. Dim yn ^gor o'r llechu yna, foneddigion, a deued ^yddogion y pwyllgor allan fel dynion S. PARRY.
HORACE A DEWI WYN ETO.
HORACE A DEWI WYN ETO. MR. GOLYÇ}YDD,-Yr wyf yn deall oddi- sh eich sylw chwi, i "Un o'r Miloedd" yn I!t nodyn dan y peniad uchod, ysgrifenu j^ttiau a "thuedd ynddynt i niweidio cymer- a phethau ereill "heb ddal cysylltiad r pwnc." Gan nad wyf am wneud dim modd yn y byd a dyniou a adawant y 1 drin person, ac a geisiant bardduo ^Ueriad yn lie goleuo y bobl yn nghylch y fydd dan sylw, ni fydd i mi wneud o Un o'r Miloedd ar ol y nodyn jJ^fynais eiriau Dewi Wyn, He y dywedai "camodliadau yn hollol annyoddefol;" a J^ed Un o'r Miloedd," "Dywed Horace j^Dewi Wyn wedi datgan yn ei adolygiad )T1ryddest Didaskalos fod camodliadau yn annyoddefol mewn pryddest wobrwy- jp/ eithr ni ddywed Dewi y fath beth." soniais i yr un gair am bryddest wobrwy- ;:}." Os do, yn mha le? Osgwnaethym. r* a Dewi Wyn wrth ddyfynu, yr wyf yn am ei faddeuant. Ond cyn gofyn am ^^fr hono, gadewch i ni edrych eto i'r am Gorph. 26ain, colofn 2il, y sylw- ar "Gamodliad." Dywedir yno "nad fod camodliadau i'w cael yn y gweithiau a chan awdwyr uwchraddol, yn un eu bod yn oddefadwy." Dyfyna y hwnw lie mae yr un gair yn odli ddwy- Yn ngwres haul mawr dyngarwch. A llifo mae hi'n bur, (pur) At bawb o blant tylodi ,t Yn elusenau pur." (pur) Qwest Awdl" y gelwir y bai uchod yn y jjj^rau caethion; ond gan fod Dewi wedi ei j^ynyn mlaen i'w gondemnio fel "camodl- 0 nid oes genyf un gwrthwynebiad. Yn y penill, dywed Dewi, "Gwyddom vj^aint a hyn, ei fod yn 'hollol annyoddefoV jv y naill amgylchiad yn gystal a'r llall." wed "Un or Miloedd," "Gwelir mai yr 1 Seiriav, yn odli ddwywaith yw y pethau annyoddefol." Y mae hyny yn an- ^°sibl, ac ni fuasai un rhesymegwr yn w°yd hyny, canys y mae gan Dewi "y naill ^Sylchiad yn gystal a'r llall." Un engraifft camodliad yn y pedair llinell ddyfyn- ac anmhosibl i ddyn ddweyd "y naill ^Sylchiad yn gystal a'r llall" am un bai. «<t ^ai y "naill amgylchiad" yw gosod a "pur" i odli a'u gilydd, y mae yn t,. °uol annyoddefol," meddai Dewi. Ond y 'Hall" eto. Y "llall" yw yr engraifft ^yfynodd lie mae haul, dail, dyn, blin, hun, &c.,yn odli a'u gilydd. Neu os w. y "naill" yw yr engraifft olaf, y "llall" 'bur" a'r "pur," a'r "naill a'r llall yn Ju oi annyoddefol" yn ol Dewi Wyn. Gwelir ^3&*r mai nid "<yr un geiriau yn odli • j*ywaith yw y pethau hollol annyoddefol." "Un o'r Miloedd" yn inhellach, hefyd yn cyfaddef fod ^^Uadau yn y gweithiau goreu, a chari uwchraddol." Gwir; ond dywed hefyd yn yr un frawddeg "nad yw hyny yn un prawf eu bod yn oddefadwy." Am y rheswm nad yw diffygion "y gweithiau goreu" a'r awdwyr uwchraddol" i'w cymer- adwyo, y mae ef yn beio camodliadau pryddest Didaskalos. Dywed eto "fod gwahaniaeth dirfawr rhwng cael ychydig gamodliadau mewn pryddest o 500 o linellau a'u cael mewn pryddest o 200 o linellau, megys eiddo Didaskalos." Ni ddyfynodd Dewi ond wyth o gamodliadau o bryddest Didaskalos dyfynais inau chwech ar nugain o'i "Brydferthwch" ef. Dyna fwy na thri chymaint, a'r rhai hyny mor annyoddefol a'r rhai a gondemnir yn mhryddest Didaskalos. Wrth derfynu, dymunwn hysbysu nad wyf wedi nac yn bwriadu ceisio cyfiawnhau y camodliadau sydd yn mhryddest Didaskalos ond synu oeddwn wrth weled Doctor Cure- all yn gwerthu pelenau at y gout, ac ynteu ei hunan yn methu syflyd gan y clefyd poenus hwnw. HORACE.
Y CYMRO GWYLLT A'R TRETHDALWR.
Y CYMRO GWYLLT A'R TRETHDALWR. Mr. Gol.A fydd i chwi fod mor garedig a chaniatau ymddangosiad y canlynol yn erbyn tadogi llythyr y Trethdalwr i D. R. L. Hyd ymddangosiad y GWLADGARWR yr wyth- nos o'r blaen, yr oedd y bobl hyny sydd yn medru treiddio i mewn i bob dirgelion, yn honi ar awdurdod dda, mai Nathan Wyn oedd y Trethdalwr, ond wedi gweled fod Nathan yn ymosod ar eu twmpathau, maent wedi ymgyng- reirio gyda'r Oymro Gwyllt i osod y baich ar gefn D. R. L. Ond yr oedd D. R. L. druan o dref ar y pryd, oherwydd gwaelder iechyd, ac ni wnaeth ond prin ddychwelyd erbyn gweled y llythyr yn argraffedig. Hefyd, os wyf wedi clywed yn gywir, mae'r Trethdalwr wedi addef awduraeth y llythyr wrth amryw o bersonau, yn nghyd a'i benderfyniad i ddangos i Thomas Pugh trwy gyfrwng y wasg, nad yw efe "oil yn oil" fel y myn i rhai gredu ei fod; ond beth bynag am hyny, Gol. y GWLADGARWR yw y tyst goreu ar fater fel hwn, a diau y bydd iddo roddi i D. R. L. fraint lythyr o ryddid yn y pwnc hwn. Am yr awgrymiadau angharedig eraill, nid ydynt yn perthyn i D. R L., "cynt y newid yr Ethiop ei groen, a'r llewpart ei frychni." Yr unig hawlfraint a hona, yw y ffafr o gael barnu drosto ei hun. Yr eiddoch yn iach eto. D. R. L. [Y mae yn sicr nad oedd gan D. R. L. law yn ysgrifeniad ysgrifau "Trethdalwr." Y mae y cyfaill hwn ami i dro o'r blaen wedi cael ei feio am ysgrifau na wyddai ddim am danynt, ]-GOL.
AT EOS RHONDDA.
AT EOS RHONDDA. Syr,—Yn eich beirniadaeth ar y Solo Bass "A Nina, a'r Dysgyblion," yn Eisteddfod Blaenllechau, (ar ol darostwng y dernyn) dywedasoch fod arnoch chwant atal y wobr, oherwydd nad oedd un o'r'dadganwyr wedi canu yn yr ysbryd priodol. "All well and good." Ond paham na buasech yn rhoddi y brif wobr i'r cor a ganodd oreu yn ysbryd y darn? A oedd un o'r ddau gor y rhoddasoch y wobr iddynt wedi gwneud hyn 1 Darfu i chwi ddweyd.fod gwallau gan "solo singer" un o'r corau buddugol ag oedd yn "un- pardonable" ac eto yn rhoddi haner y wobr i'r cor hwnw. A oeddech yn gyson a chwi eich hun wrth wneuthur hyn ? Eglurhad ar yr uchod a foddlona luaws mawr. OOFNODYDD.
[No title]
PELENI HOLLOW AY—Difffyg Akchwa ETH AT Ymbgrth.—Nid oes dim yn fwy gwerthfawr at yr an- hwyldeb hwn na'r Peieni hyn. Symudant pob bias atgas o'r genau yn nghyd a'r aehos o hono. Y mae Peieni Iloltoway yn adfywio y cylla, yr afu, &c., fel y bydd pob bwydydd a diodydd yn c)el ea treulio yn yn y fath fodd fel ag i fod yn adgyfnerthiad i'r corff. 0 ganlyniad y peleni hyn ydynt y moddion cryfhaot goreu i gyllaoedd gweiniaid ar' anhwylderau a.achosanl ycyfryw.
AT "HORACE" A FFUG-AMDDIFFYN-WYR…
AT "HORACE" A FFUG-AMDDIFFYN- WYR BEIRNIADAETH EISTEDDFOD TREFORIS. Mr. Gol.,—Yr wyf wedi sylwi yn fanwl ar yr holl lythyrau sydd wedi ymddangos parth cystadleuaeth a beirniadaeth yr Eisteddfod ddigyffelyb uchod o'r dechreu hyd yn bresenol, ac y mae eu ton a'u cynwys yn hollol an- nheilwng o'ch colofnau gwerthfawr, oblegyd nid ydyw ond gwastraff ar amser eu hawdwyr i geisio amddiffyn pethau anamddiffynadwy, gan grwydro i eithafion mor bell wrth geisio gwneud hyny. Y mae darllen llithiau di- amcan a di-bwrpas "Horace" a'i frodyr, wedi myned yn beth mor ddiflas i bawb o'ch darllenwyr, a bwyta wy heb halen. Byddai yn hawddach i lygoden symud Cadair Idris i For y Werydd, nag y bydd i "Horace," &c., wrthbrofi gwirionedd a chlasuroldeb yr Ad- olygydd a'r adolygiad. Pe buasai y brodyr uchod wedi dyfod allan i amddiffyn beirniad- aeth yr Eisteddfod uchod, drwy ddangos rhagoriaethau a phrydferthion pryddest "Didaskalos," buasai rhyw bwrpas i'w llith- iau ond nid ydynt wedi dyfynu yr un linell, nac ychwaith wedi ymgynyg at hyny, am y rheswm feallai nad oedd ynddi ddim ag a allasid ei nodi allan fel rhagoriaethau. Gwrth- brofwch yr Adolygydd os gellwch, drwy ddyfyniadau o'r bryddest, dangoswch os gellwch fod yr Adolygydd yn ddall i'w phrydferthion; os na ellwch wneud hyn, nid yw eich holl lithiau yn ateb un pwrpas. Ond gan na allont wneud hyn, gorfodir hwy i gymeryd yr expedient bawaidd o "Drachwantu troi a cheintach Y ceir hwy a phigo crach." heb brofi dim. Y mae fod "Horace" yn parhau i haeru a thaeru fel y mae, yn dwyn i'n cof ynfydwaith y brenin hwnw fu'n lluchio cerig tua'r wybren i geisio dystewi y daran. "Horace" anwyl! oni wyddost ti fod barn a llais naw deg a naw o dy gydfeirdd allenorion yn ymgodi fel llanw y mor yn erbyn dy lithiau diddiolch? gan hyny, gad yr ynfydwaith o guro y gwynt, a thro y tipyn athrylith sydd ynot 1 gvfeiriad arall. "0 hyn y daw i ti ddaioni. Y mae dy frodyr gwrolfrydig wedi encilio c'? frwydr, gan dy adael i orwedd yn dy waed. Yr oedd rhyw bethau yn dy lythyrau cyntaf yn gafaelyd yn weddol gryf, ond y mae yn amlwg wrthynterbyn hyn eu bod ar roddi eu hanadliad olaf. Y maent wedi gwyro i bob man i geisio cadw bywyd, ond marw y maent o wendid yn cael ei genhedlu gan dy nwydau dialgar di. Diau fed hunanoldeb wedi dy fyddaru, a rhagfarn wedi dy ddallu, fel yr wyt yn hollol esgusodol am grwydriad- au dy lithiau dibwynt. Hefyd, yr wyf wedi darllen pob un o lithiau hyfforddiadol, clas- urol, a gorchestol yr Adolygydd, ac y mae wedi cyflawni ei orchwyl yn feistrolgar. Cychwynodd gyda'r bryddest, a gorphenodd ei adolygiad heb wyro i'r dde na'r aswy wrth wneud hyny; a thrwy hyny, fe Iwyddodd i argyhoeddi pob bardd a lleuor goleubwyll, mai tryblith o annibendod a sothach tomen- aidd, llawn o bob ysgarthion gwrthodedig pob bardd a lienor uwchraddol, sydd yn nodweddu pryddest fuddugol "Didaskalos." Y mae beirdd y pedwerydd a phumed ddosbarth y GWLADGARWR a'r Fellten yn annrhaethol uwchlaw awdwr pryddest fudd- ugol Glasbrook fel beirdd. A gwyr "Horace" hyny yn ddigon da, ond gwell ganddo fogi cyhuddiadau cydwybod. Y mae naw o bob deg o'r beirdd sydd wedi darllen yr adolygiad yn y Fellten yn tystio yn unfrydol, mai dyna yr anfadwaith Eisteddfodol mwyaf anghyf- iawn a phreswynebol a fu erioed eto, cyn y gallasent wobrwyo pryddest mor annheilwng a'r annheilyngaf o lawer hefyd. Gwir fod Eisteddfod Talybont yn dynesu yn gyflym ar ei hoi, lie mae yr un haint sectol wedi dilyn un o feirniaid Eisteddfod Treforis B**B**B!! oedd hi yno o hyd. Ond y mae yr Adolygydd dysgedig a'r beirniad clasurol wedi enwogi mwy arno ei hun drwy yr adolygiad na phe buasai wedi enill dwy wobr j610 yn Nhreforis; daliodd at ei adolyg- iad hyd y diwedd, nes cludo y maen i'r wal yn fuddugoliaethus. Ond y mae "Horace" a'i frodyr plentynaidd wedi bod yn rhedeg ar ol bob pila pala, nes y maent wedi colli eu hanadl yn lan, heb ddal dim, heb brofi dim ond diffyg synwyr cyffredin. Wel, frodyr, oni fyddai yn weddeiddiach ynoch i daflu eich harfau i lawr, gan fwrw eich hunain wrth draed y Gamaliel dysgedig fu yn adolygu, gan ystyried mai y fraint lenyddol fwyaf a ellwch chwi ei gael, fydd cael eich cyfarwyddo, eich harwain, a'ch dysgu gan yr Adolygydd, Elian, ac Islwyn, pa rai a ffug-drechwyd yn yr Eisteddfod uchod. "Vox POPULI."
CADAIR EISTEDDFOD TREFORIS.
CADAIR EISTEDDFOD TREFORIS. MR. GOL.Fel y mae yn hysbys i'ch dar- llenwyr, cynaliwyd Eisteddfod fawreddog am ddau ddiwrnod yn mis Mai diweddaf yn Nhreforis. Gelwid hi yn Eisteddfod Gadeir- iol, a hyny, mae'n debyg, am y cynygid cadair gyda'r wobr i'r goreu ar y prif destyn barddonol. Enillwyd y gadair gan un o lanciau sir Feirionydd. Nid oedd y budd- ugwr yn bresenol yn yr Eisteddfod. Mor fuan ag y clywodd am ei lwyddiant, anfonodd, wrth gwrs, at yr ysgrifenydd am ei wobr a'r gadair ond aeth pythefnos heibio heb iddo weled na chlywed dim oddiwrth hwnw. An- fonodd drachefn; ond yn lie prysuro i gyf- lawni ei ddyledswydd o anfon y wobr a'r gadair i'r hwn a'u henillodd, anfonodd yr ysgrifenydd y pwt llythyr canlydol ato:— "SYR,—Deall wyf fod yr Eisteddfodau yn gyfleusderau i chwi ddangos eich galluoedd barddonol, ond nid yw eich haelfrydedd yn dyfod i'r golwg. Ni ddywedasoch yn eich llythyr am gadw un geiniog at draul yr Eistedd- fod. Hefyd, ni ofynasoch a ydoedd wedi clirio, ond gofyn am anfon eich gwobr mewn P. 0. Order, a hyny heb yr oediad lleiaf. Pwy a garech i dalu am yr order a'r llythyr? "Gair am y gadair. Y mae tair milltir o Tre- foris i Victoria Station, Swansea. Os ydych am i mi fod yn frysiog iawn, byddwch gystal ag addaw fy nigolledu am fy nhrafferth, yna collaf ddiwrnod ar fy ngwaith, onite rhaid i chwi fod yn amyneddgar hyd nes celwyf amser cyfaddas at hyny." Go foneddigaidd, onite'l Ie, yn siwr, eithaf teilwng o ysgogyn digywilydd, an- wybodus, ac anghymwynasgar. Anfonwyd llythyr at yr ysgrifenydd y drydedd waith, yn yr hwn y ceisid dangos iddo nad oedd dim a wnelo yr enillwr a "thraul yr Eisteddfod," ac nad oedd dim achos dysgwyl iddo ofyn a ydoedd "wedi clirio" cyn gofyn am ei wobr. Yn wir, yr oedd yn rhaid cael ysgrifenydd Eisteddfod a chryn dipyn o bres o gwmpas ei drwyn i allu son am bethau felly wrth un o'r buddugwyr cyn cyflwyno ei wobr iddo, a hyny ar ol bod yn mwynhau Eisteddfod an- rhydeddus, yn cynwys o bedair i bum' mil o bobl,-Eisteddfod wedi cynyrchu "cyfan- soddiadau da," ac un wedi troi allan yn "llwyddianus iawn mewn ystyr arianol." Pa fodd bynag, fe aeth yn rhywle 0 chwech wythnos i ddau fis heibio cyn i'r ymgeisydd buddugol dderbyn ei wobr nac un math o gadair oddiwrth ysgrifenydd Eisteddfod Tre- foris. Beth feddyliech chwi, Mr. Golygydd, ai ni ddylai gwr boneddig fel hwnw gael gwialen fedw o gylch ei grwper, a'i gloi i fyny yn "nhwll tan staer" i fyw ar ddim ond dau lon'd picyn o lymru yn y dydd hyd nes y dysgo ymddwyn yn fwy teilwng o'i swydd ? Pa hawl oedd ganddp ef i gadw eiddo na pherthynai iddo am gymaint o amser? Yr oedd yn dda iddo anfon y wobr yn yr amser y gwnaeth, onite yr wyf yn sicr y cawsai y gwalch ei alw o flaen ei well i roddi cyfrif am ei esgeulusdod. Cymered y beirdd ieuainc addysg oddiwrth hyn. Os anfonant gyfansoddiad i Eistedd- fod, bydded iddynt ymdrechu myned yno eu hunain. Ond os na fydd hyny yn bosibl iddynt, gofalant am fod y wobr yn disgyn i law cynryohiolydd ag y gallant ymddiried iddo, fel n chaffont ddim trafferth i'w chael oddiwrthi o Ond gadewch i mi ddweyd tipyn bach o hanes y gadair. Yr oedd y rhan olaf o'r nodyn uchod wedi peri i'r buddugwr ac ereiU feddwl fod y gadair yn un ardderchog, Pan soniai yr ysgrifenydd am "golli diwrnod ar ei waith" i fyned a hi am ddim ond tair mill- tir o ffordd, yr oedd yn rhaid ei bod yn un. bwysig ryfeddol. A chadarnheid y dybiaeth yna gan y ffaith gyhoeddedig fod yr Eistedd- fod yn un fawreddog, yn parhau am ddau ddiwrnod, yn rhoddi un wobr o ugain punt, un arall o ddeg punt, ac amryw wobrwyon o bum' punt yr un. Hefyd, un o amodau yr Eisteddfod oedd, "na wobrwyid heb radd helaeth o deilyngdod." Mewn gair, yr oedd Eisteddfod Treforis yn cymeryd arni fod yn un wir anrhydeddus; ac o ganlyniad, peth digon naturiol oedd dysgwyl i'r gadair fod yn un anrhydeddus. Fe ddaethai amryw gadeiriau i sir Feirionydd yn y blynyddoedd diweddaf-rhai o honynt yn werth pum' gini, ac ereill yn werth hyd yn nod ddeg gini; ond yr oedd cadair Eisteddfod Treforis yn rhagori arnynt oil yn ol dysgwyliad yr enillydd. Ond ie, ond. Gair rhyfedd iawn ydyw ond, yn bwrw y dysgwyliad mwyaf ysblen- ydd yn fynych iawn i geubwll siomedigaeth. Pan ddaeth y newydd fod y gadair wedi dyfod i Mawddwy Station, aeth bagad o len- orion ysgafn-galon, a'r enillydd yn eu mysg, i gael golwg arni. Ond mor ddisymwth y melancoleiddiwyd eu gwynebau llawen gan bresenoldeb rhyw dwr o goedach eiddilaidd, a thipyn o glue yn eu dal -wrth eu gilydd, bron ar gyffelybiaeth cadair! "Ai peth fel hyn yw cadair Eisteddfod Treforis?" gofyna. un. "Ow! Ow!" meddai y llall. "Dyma gadair Eisteddfod wedi myn'd yn bricsiwn," ebai'r trydydd. Dywedai un arall,— Ni welwyd cadair can saled Er amser cadair "Urien Rheged." Parhaodd yn ddystawrwydd pruddglwyfus am fynydyn; ond yn fuan esgorodd y prudd- glwyfusrwydd hwnw ar y gwawd a'r fun. mwyaf chwerthiniog, ac aeth "cadair" Tre- foris yn destyn sport drwy y lie. (I'w orphen yn y nesaf.) V
Advertising
HUNTER'S Special Lectures to Young Men, on HS<si, ITS R'TOR. ATION, AND HAPPY MARRI AG»S, -When 0 marry, with advice to those who contemplate morriago, pointing out certain Impediments which render ronri.,d Kiihappy, ar.d directions for their spoady rnmaval. Should be read by ail who value health strength and man .hood, and wish to attain a hø.p.P9 old aga.—Post free on receipt of ,two stamps. — A&Atma, Secretary, Itisiituteio natomy Birmingham 68
CONGL Y GWEITHIWR.
CONGL Y GWEITHIWR. PWLL Y GARTH, MAESTEG, A'R UNDEB. Dygwyd cyhuddiad yn erbyn Jenkin James a William Davies eu bod yn gweithio heading am 2s. y llath o dan bris. Chwyliwyd i'r achos gan Bwyllgor Gweithredol y Dosbarth, a chafwyd allan fod y bechgyn yn cael cam, .Y a'u bod yn rhydd i weithio yn yr heading o hyn allan. Anwyl Gyd-weithwyr, byddwn wyliadwrus ar ein geiriau. Y. S. G. MYNYDD NEWYDD A'R PENTRE, GER ABERTAWE. Baich ein testyn y tro hwn ydyw rhoddi ychydig o'n helynt fel glowyr ac arolygwyr Mynydd Newydd a'r Pentre. Yr ydym ni fel dwy ddolen bwysig mewn masnach yn myned yn y blaen yn drefnus, cysurus, dis- taw, ac heddychol, ac yr ydym fel gweithwyn wedi cael dau godiad yn ein cyflogau ond aK ddechreu Awst, cawsom ar ddeall ein bod yn gweithio o dan rate y gymydogaeth. Wedf ymgynghori ar y pwnc, pec derfynasom wneud ein gofyniadau yn hysbys i'n meistr, E. Dan- iels, Ysw., yn yr hwn y mae genym bob ym- ddiried. Ar y 14eg o'r un mis, darfu iddo o'i hynawsedd alw am dri o honom i gyn- rychioli y gweithwyr, pa rai a ufyddasant i'w alwad, ac a dderbyniwyd mewn ysbryd boneddigaidd. Cynygiwyd canolwyr i farnu rhyngom, yr hyn a wrthodasom am fod genym fwy o ymddiried yn ein meistr nag mewn neb arall, am ein bod wedi ei brofi bellach os tua pum' mlynedd ar hugain. Yna, ar y 19eg, atebwyd ni yn llawn yn ein gofyniadau, yc hyn a dderbyniwyd genym oil yn foddhaol. Yr ydym yn ddiolchgar i'n meistr am ei ym- ddygiadau boneddigaidd a Christionogol tuag atom. Yn awr, ein barn ddirodres, fel llawec o'r gweithwyr, ydyw y dylem bellach wneud rhyw gydnabyddiaeth iddo yn deilwng o honom ein hunain ac o hono ef, yr hyn fydd yn drysor i'w deulu caredig ar ei ol, yr hwn sydd yn troi mewn cylch pwysig yn y gym- ydogaeth. Anwyl gyd-weithwyr, derbyniwch yr hint. DAFYDD JEFFREYS. CODIAD PRIS YN Y GELLY COL- LIERY, CWMRHONDDA. Y mae yn ddigon hysbys bellach fod gweithwyr yr House Coal wedi gwneud apel- iad at eu meistri am ddwy geiniog y dynell o godiad eto. Felly y gwnaethom ni yn y gwaith uchod, pryd y gofynwyd i ni gyd- gyfarfod rhyw noson fel y gallent hwy ddyfod i'n mysg i wneud eu bwriad yn hysbys. Nos Wener, Awst 30, cyfarfyddasom, ac yn fuan, dyma Mri. Thomas a Griffiths yn ein canol, ac yn cynyg y ddwy geiniog ofynedig ar y 23ain o'r mis hwn. Felly, cawsom addewid o godiad un dydd cyn cael ein talu ar y codiad diweddaf. Deallwn mai hwy yw y *hai cyntaf i roi y codiad, ac y mae Uwyn- celyn (gwaith arall Mr. Thomas) yn ei gael wythnos o'n blaen. Yr ydym, fel gweithwyr, yn cynhesu atynt am y eynygiad, ac am el gael yn y fath ysbryd nit. Gwelspm yn ddiweddar ganmoliaeth i feistri Penjgraig am ryw weithred dda. Trueni na chaweent ganmoliaeth am ddefnyddio y sliding scale yn eu gwaith-am adael eu gweithwyr i lifio