Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y TEULU GORTHRYMEDIG.

News
Cite
Share

Y TEULU GORTHRYMEDIG. PENOD L. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Yn n:hen wythnos wedi cyrhaeddiad y ? ewydd act Ilongddrylliad angeuol, ciliodd Marl o'i lloch&sfa, ac oddeutu haner nos wele hi yn euro am agoriad wrth ddrws yr Ynys, a Rachel y forwyn (yr hon a wyddai am el dyfodlad) yn eyfodi a rhedeg iw chroesawu; yna, cododd el mam, wedi iddi glywed llals Marl el march, a rhedod d i'w chyfarfod a breichiau adored, a syrthiodd ar ei gwddf gan el chusanu yn anwyl. "Diolch i'r nefoedd," merklsi. y fam, all gruddi&u yn orchuddiedig a dagrau godoledd- us, "fod fy merch anwyl i wedi drchwelyd adref yn ddyogel; Marl anwyl, ni ddywedaf byth mwy air yn dy erbyu yn achos Llewelyn o'r Hafod, maddeu Mari am i mi wneud dim erloed yc dy erbyn." Mari yn maddeu iddi, ac yn dymuno dechreu byd o'r newydd heb goffa'r hen bethau. Bu holi mawr ar Mari am helynt America, ac am ei mordeithiau peryglus, ond ymatallai Mari rhag ateb nemawr, gyda'r esgus bod ei theimladau yn rhy ddrylliedig. Yn trihen rhai divrnodau wedi i Marl weled fed ei m;iru yn edifeiriol am yr hyn a wnaeth yu ei hfrbyn, a'l bod mewn cywair priodol i allu cadw cyfrinach ei merch, datguddiodd Mari iddi yr lioll ddirgelwch cyswllt a'l ffoed- lgaeth o'r Ynys, a'i dychweliad adref. Nid ymddangosai Mari unrhyw foddineb yn ngwyneb y lloagddrylilad a boddiad mab y Pietfllgwyn, ond cadwai yn ddystaw a difrifol yr olwg, heb gymaint a choffa yr am- gylchiad, rhag rhoddi tramgwydd na thestyu siarad i'r cymydogion. Gwrthodal teulu'r Hafod wneud unrhyw sylwadau ar helyutioa anffo ius mab y Pistyll- gwyn a Mari o'r Yays, rhag tramgwyddo William Morris a'i deulu, hen gyfeilllon mynwpsól teulu'r Hafod? yr oedd gorchymyn Llewelyn yn gaeth ar na byddai 1 neb o'i deulu ef lefaru gair anffafriol am John na Mari o'r Ynys. Daeth William Morris, o'r Pistyllgwyn, (tad John) ar gals at Llewelyn, y cais cyntaf erioed, sef gofyn am ostwng rhet-t, am ei fod yn uchel, a'r amser yn troi yn ei erbyn; Llewelyn, gyda gwen tosturi yn cydsynio'n llawen, ac yn gostwng y pedwar ugain i lawr i haner can' punt. With iddynt ysgwyd dwylaw i ymadael, gwasgodd Llewelyn bump penadur yn llaw y gwr o'r Plstyllgwyn gyda dymuniadau gwresog am ei lwyddiaut. Yr oedd yn awr chwaiter blwyddyn er adeg y Ilongddrylliad, ac nid oedd gair wedi pasio rhwng Mari a Llewelyn yn y cyfwog hwnw, ond pob un yn cadw am y mwyaf dystaw a dyeithrol. Erbyn hyn, tynai notice y Tymawr at y tarfyn, ac ymddangosai fod rhai o fechgyn Richard yn debyg o fod yn ganlynwyr ffydd- lawn i'w tad mewn drygioni, yr hya a gyn- hyrfodd Mr. Johnny Wilson o'r newydd, ac i fod yn fwy ffyrnlg nag erioed yn erbyn y teulu; ac er fod Llewelyn yn ymbil ag ef am beidio gwasgu arnynt i ymadael a'r Tymawr ar derfynlad y rhybudd, nid oedd efe ddim Kcll, mynodd Wilson eu bwrw ymaith ar x y tymor. Yn awr, gan fod y Tymawr yn ddiddeilad, a bod fferm yr Hafod mor fechan, darfu i Llew- elyn, ar anogaeth ei feistr gymeryd hate ar y lie iddo ei hun, ac ail adeiladu y ty cyntefig, gan ei wneud yn balasdy bychan. Yr oedd y si ar led erbyn hyn fod Llewelyn yn ymbarotoi am wralg, ac mat Marl o'r Ynys oedd y fenyw; ac yn hytr&ch na chael at heb gael y ffair, gan ei fod ef mewn amgyich- iadau i'w chael, a'i fod wedi peoodi ami er's blynyddau melthion, gyrodd air at Mari o'r Ynys, i ofra os y byddai yn gyfleus a bodd- lawn ganddl iddo gael talu ymweliad rhyw nawn gwaith yn faan. Derbyniodd Llewelyn ateblad flEafriol I'w gals, Deallodd Miss Penrose am fwriadai Llew- elyn, a gwnaeth ymadael a gwasanaeth y Plascoch, a symud i Loegr at deulu boneddigol arall, gan nas gallasai hi aros yno i weled Llewelyn yn myned gydag aralL Daeth y prydnawn penodedig 1 Llewelyn i gychwyn tuaTr Ynys, a chan iddo hysbysu ei fwriadau i'r Yswain Wilson, cafodd brif gerbyd y palas, cerbyd a phedwar ceffyl, a gweision lifrai at ei wasanaeth. Yn mhen haner awr, yr oedd cerbyd ys- blenydd y Plascoch yn galw wrth yr Ynys, a Llewelyn yn disgyn ac yn galw yn y ty am i Marl ddyfod gydag ef am daith. Croesawyd .prif agent y Plascoch megys brenin bychan, yr oedd Mari wedi ei gorchfygu gan orfoledd, a bron yn rhy yswil i allu sefyll yn ngwydd- fod goruchwyliwr boneddlgaidd yr Yswain Wilson; yr oedd mam Mari a'r morwynion yn ymgrymu iddo hyd lawr, gan ei gyfarch ar yn ail gyda 'Mr.' a 'Syr,' yn y modd mwyaf defosiynol. YÐa aeth Llewelyn a Mari fraich yn mraich allan ac i'r cerbyd, yn cael eu cynorthwyo gan y cerbydwr boneddigol yn ei lifrai ardderchog. Hawddach dychymygu na desgrifio pa mor anwyl a brwdfrydig y cofleldient eu gilydd ar el eyd, gyfarfyddiad presenol, ar ol blynydd- oedd o ymadawiad. Maddeuwyd pob camwedd yn fuan, a chyf- anwyd pob rhwyg, a daethant yn garwyr mwy anwyl a brwdfrydig nac y buont erioed. Aeth y cwmni caredigol am wibdaith oddi- amgylch y Tymawr, i gael golwg ar ardderch- awgrwydd y lie, a gweled faint o waith oedd gan y crefftwyr cyn gorphen yr adelladau newyddion. Cyn gorphen y wibdaith, gwnawd cytundeb am briodi yn fuan; a chyn i'r cwmni adael bargodion tyddyn y Tymawr, penderfynasant mai yno yr oeddynt I ymgaitrefi am weddill ounces. Boreu Alban Hefin 1816, yr oedd adeg euraidd y briodas, pryd y gwnawd gwledd anrhydeddus i holl ddeillaid y Plascoch o fewn neuadd fawr y palas, a Wilson a Llew- elyn cyd-rhycgddynt yn talu'r draul. Am naw o'r gloch y boreu, yr oedd cerbyd ardderchocaf y Plascoch gyda'r gweision lifrai yn eu gwisgoedd goreu yn cychwyn allan o rodfa'r palas a'r ptlodfab ynddo, a chanoedd o'r deillaid a'r ardalwyr yn taenu blodeu ol flaen. Yn mhen yr haner awr, yr oedd y cerbyd yn aros wrth yr Ynys, 1 gymeryd y briodas ferch i mewn, yr hon oedd wedi gwisgo yn ysblenydd, yn deilwng o'r amgylchiad. Yn mhen yr haner awr arall, yr oedd y cerbyd yn aros o flaen Eglwys y Llan, yn nghanol bloeddiadau cymeradwyol torf luosop, a swn taranllyd y magnelau oddlar y bryniau eyfagos; ac aeth y cwmni priodasoll mewn, gan ymostwng o flaen allor Hymen, a chyn pen yr haner awr arall, yr oedd Llewelyn a Mari yn wr a gwraig! Dychwelodd y par newydd briodedig, ao aethantt'r Plascoch yn ol y gwahoddlad, ac yno y treuiiaeaLt weddill y dydd mewn llawenydd gorfoleddns, mewn gwledd a dawns, a boll ddeiliaid yr ystad yn cyduno a hwynt yn v rhialtwch. adlonol. Rhai diwrnodau cyn dyfodiad yr Alban Elfed canlynol, yr oedd Llewelyn a Marl wedi ymsefydlu yn y Tymawr, ac yn dechreii byw bywyd hir o fwyniant a dedwyddweh prlodasol. JOHN J. DAVIES, (Ieuan Ddu.) Alltwen, Alban Hefin, 1872.

Advertising

IMAE NHW YN DWEYD.

[No title]

EISTEDDFOD BLAENLLECHAU.

Advertising

CLEFYD Y TRAED A'R GENAU GER…

LLYTHYR AR Y GOOD TEMPLARS,…