Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

MAESTEG.—AGORIAD CAPEL.-Nos Iau, a dydd Gwener, yr 8fed a'r 9fed cyfisol, oedd yr adeg ar ba un yr agorwyd capel newydd y Methodistiaid yn y lie hwn. Digon i ddweyd am dano ydyw, ei fod yn rhagori yn mhell ar unrhyw adeilad arall o'r un natur ag sydd yn y lie yn bresenol. Yr adeiladydd oedd M E. Evans, Maesteg, a'r cynllunydd oedd D. Grey, Ysw., Maesteg Costiodd yr adeilad prydferth tua £ 1,500. Y mae diolchgarwch dau-ddyblyg yn ddyledus i Mr. Grey, am ei holl lafur yn cynllunio ac yn arolygu yr holl waith o'r dechreu i'r diwedd, a rhoddodd ei holl wasanaeth yn rhad. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J. Jones, Caernarfon; T. Levi, Treforis; D. Phillips, Abertawe; ac 0. Thomas, Liver- pool. Cafwyd cyfarfodydd llewyrchus yn mhob ystyr, a chasglwyd a chyfranwyd gan Llwyd- arth Tin Plate Co., Maesteg, £100; yr Eglwys a'r Gwrandawyr, £ 60. Cyfanswm £ 160.—J. TREFORIS.—Daifu i gwmpekd gwaith alcan c vflymgynyddol y Worcester anrhegu eu gweith- wyr, yn nghyd a'u gwragedd, a thocynau i fyned gyda'r excursion i dref henafol Aberhonddu dydd Sadwrn, Awst lOfed. Yr oedd Treforis yi ferw gwyllt drwyddi o ben bwy gilydd boreu ddydd Sadwrn gan symudiadauy bobl yn eu gwisgoedd goreu tua gorsaf y ffordd haiarn, a'r seindorf pres yn diaspedain yr awyr gan eu swn melus- ber. Da genyf allu hysbysu i W. Williams, Ysw., penaeth y cwmpeini, a'r prif oruchwyliwr ymddwyn yn hynod foneddigaidd tuag at y gweithwyr trwy gydol y dydd, ac yn wyliadwr- us dros ben o honynt, a gwnaethpwyd pob peth or gwneud pawb yn gysarus. — CYMBO O'R WLAD. CROSS INN, LLANDYBIE. — Anfynych iawn y gwelir un gair mewn cysylltiad a'r lie hwn yn ngholofnau eich nowyddiadur, er fod yma lawer o bethau gwir deilwng o'u cofnodi. Y peth ag sydd yn tynu mwyaf o sylw yma yn bresenol yw Undeb y Glowyr. Lion genym allu hysbysu milcedd darllenwyr y GWLAD- 'JoARWR fod amryw gyfarfodydd wedi eu cynal yma gan lowyr y glo careg mewn perthynas a'r Undeb, pryd yr oedd yn bresenol gynrychiolwyr y gwahanol lofeydd i lawr o Wauncaegurwen hyd Pontybercm aPhembrey, ac ar nos Sadwrn, Awst y 17eg, agorwyd cyfrinfayn y Golden, ger Cross Inn, pryd y derbyniwyd i mewn 60 o aelodau. Hyderwn nad yw hyn ond blaen- ffrwyth cynhauaf toreithiog yn y dyfodol. Yn awr, fy nghydweithwyr, deuwch allan fel un gwr i ni gael gyru yr Undeb i galonau ein gilydd, aea enill holl lowyr y gwahanol lofeydd yn un- debwyr, ac yna byddwn yn ddigon cryf i roddi dyrnod farwol i'r amrywiol bethau ag sydd yn galw am ddiwygiad.—AP IOAN. DERI.—Yn gymaint a bod cymdeithasau dyn- garol yn bwnc y dydd yn y lie hwn yn bresenol; v mae Undeb y Glowyr yn cael sefyll yn ei ran- Yr wythnos o'r blaen, anrhegwyd cyfrinfa rhif Sied. a gynelir yn y Bargoed Inn, k desk ys- grifenu hardd at wasanaeth yr Undeb, a hyny va rhad gan Mr. D. W. Davies, trysorydd y gyfrinfa, yr hwn oedd yn werth tua jEl Is. Yr ydym wedi cael ar ddeall mai nid dyma y tro oyntaf i Mr. Davies anrhegu cymdeithasau daionus, yr hyn sydd yn amlygu fod gwyneb y gwr da hwn o blaid rhinwedd a daioni. Darfu i'r brodyr Odyddol orymdeithio trwy y lle hwn ar y 19eg cyfisol, pryd y blaenorwyd hwynt gan seindofpres Coed Duon, ac ar eu dychweliad i'r Bailey's Arms, lie cynelir y gyfrinfa, cafwyd gwledd ragorol.—AB TOMOS. PONTYBEREM.—Nid yn ami y gwelir o fewn eich colofnau unrhyw hysbysiad o. barthed i'r lie hwn gan hyny, yr wyf yn gofyn eich • •aniatad i'r llinellau hyn gael ymddangos. Dydd Sadwrn diweddaf, cawsom Excursion Train oddiyma i lawr i Pembrey, sef gwaith Pentremawr, perthynol i Meistri H. T., & Williams, a gwaith Coalbrook, perthynol i Mr. D. Watney, ac yr oeddem yn cael ein blaenori gan seindyrf pres Pontyberem a Chwm Mawr. Cychwynasom o Bontyberem am naw o'r gloch y boreu, ac ar ol cyrhaedd gorsaf Pembre, aeth- m yn llu mawr trwy y lie, ac i lawr i lan y mor, yn cael ein blaenori gan T. Harries, Ysw., Pentremawr, ac yno y buom am ychydig amser yn y cwch. &0., ac aeth y ddau seindorf gyda'u gilydd, fel Regiment, gan chwareu yr un d6n aes oedd yr holl le yn diaspedain. Yna, pan cedd pawb yn gwasgaru, penderfynwyd fod pawb i gyfarfod a'u gilydd am chwech o'r gloch, er cychwyn yn ol tua thref, ac yr oedd pawb yno yn brydlon. Y mae yn glod nid bychan i vreithwyr Pontyberem am ymddwyn mor weddus trwy y dydd, a phawb wedi dyfod adref yn sobr, ac yn ddymunol, ac yr wyf yn credu fod yr Excursion hon wedi troi cynllun allan i lawer o Excursions y dyddiau hyn. Y mae parch neillduol yn ddyledus i gwmni y reilffordd hon am eu caredigrwydd yn rhoddi diwrnod yn rhad i bawb o weithwyr Pontyberem. Llwydd iddynt i fyned yn mlaen a'r reilffordd,-G. GWEN- DRAETH. PORTHCAWL.-Da genyf ddeall fod y Parch. Samuel Price, gynt o Llandaf, wedi myned i fyw i'r lie uchod, ac i fugeilio y Trefnyddion Calfinaidd yno. Caffaeliad mawr i'r gymydogaeth hono ydyw cael y fath ddyn i'w plith. Hir oes a llawer o lwyddiant iddo yno. Dydd Mercher diweddaf, croesawyd Mr. Price a'i deulu, gan gyfeillion y lie, a the parti. Daeth llawer yn nghyd. Yr oedd y Parch. J. T. Jones, ac amryw o gyfeillion eraill y Pil yn bresenol. "LLITH 0 GWM RHONDD Mewn rhifyn o'r GWLADGARWR. am Mai 25ain, gwelais ysgrif dan y penawd uchod gan ysgrifenydd yn dwyn yr enw W. B. M., ac yn niwedd ei lythyr y mae yn son am gymdeithas wedi cael ei flfurfio yn Hopkins Town a'r Gyfeillion, dan y penawd "Cymdeithas Lenyddol a Cherddorol Rhondda." Dywed mai amcan y gymdeithas hon yw dyr- chafu ein pobl ieuainc ag ydynt wedi syrthio yn ebyrth i feddwdod ac anfoesoldeb, ac ymdrechu yn mhob modd i atal y llifeiriant dinystriol yma sydd yn llygru cymaint o ieuenctyd y glo- feydd. Amcan da, onide? Nid oes dadl na wnelai cymdeithas felly ddaioni mawr yn y parthau hyn. Dymunaf rhwydd hynt i'r ys- grifenydd a'r gymdeithas i fyned rhag eu blaen. Ond atolwg, pa beth am y gymdeithas? Nid wyf wedi clywed son am dani oddiar hyny hyd yn bresenol. A ydyw wedi myned yn fethiant? Gresyn os ydyw wedi dygwydd fel hyna ar fudiad mor deilwng a gogoneddns? Carwn glywed oddiw thych mewn rhifyn dyfodol o'r GWLADGARWR ar y pen hwn os byddwch mor garedig, oblegyd yr wyf yn ymwybodol fod yma rhai a garai ymuuo a'r gymdeitha.s.-TRWIAN- YDD. CARMEL, TRECYNON.—Prydnawn dydd Iau diweddaf, Awst 22ain, anrhegwyd plant perthynol i'r Band of Hope, a'r Ysgol Sabbothol y capel uchod, a'u gwledd flynydd- ol, sef te a theisen. Yr oedd y byrddau wedi eu gosod allan yn y modd oreu yn y capel, yr hwn oedd wedi ei addurno yn hardd gan y boneddigesau. Yr oedd yn hyfrydwch mawr i weled y rhai bach yn mwynhau eu hunain mor llawen wrth y bwrdd, canys yr oedd digon i'w gael, ac wedi i bawb gael eu digoni, symudwyd y byrddau a'r llieiniau i'r dyben o wneud y lie yn rhydd i gael rhoddi mwynhad i'r meddwl. Am 7 o'r gloch, cymerwyd y gadair gan Mr. John Evans, Siopwr, Trecynon, ac wedi anerchiad byr a tharawiadol ganddo ar yr Ysgol Sabbothol, galwodd ar y Band of Hope i ganu ton. Yna awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod, ac ad- roddwyd darnau gan John Morgans, Thomas H. Edwards, Thomas Giles, George James, William Bevan, Rachel James, Margaret Davies, Mary A. Jones, Mary Griffiths, a Mary Ann Giles. Adroddasant yn rhagorol, ac hefyd, canwyd amryw ddarnau gan y Band of Hope, a chan Mary Evans, Gwladys Morgan, John Morgan, George James, Howell Jones, a William Griffiths, yn dda rhagorol. Cafwyd cryn ddifyrwch wrth glywed dau fechan o ddwy i dair mlwydd oed yn canu darnau bychain mor dlws a tharawiadol. Cafwyd cyfarfod da iawn, y plant yn eu llawn hwyliau, a'r gynulleidfa yn mwynhau eu hunain yn llawen. Wedi talu diolchgar- wch i'r boneddigesau a fu'n gweini a'r cadeir- ydd, ymadawodd pawb tuag adref yn llawen wedi cael eu llwyr boddhau.—CLUDYDD. ABERCARN. -Y mae y Ile uchod y dyddiau presenol yn llawn symudiadau. Rhai yn cynal cyfarfodydd llenyddol, eraill gyfarfod- ydd pregethu, eraill yn ymddifyru mewn tea parties, a ninau y glowyr yn myned rhagom yn gyflym i gyfeiriad undeb a chyd- weithrediad. Y mae pawb yn y lie hwn bellach wedi uno a'r Undeb, ac y mae argoel- ion ei fod wedi ei sylfaenu yn ddwfn yn ein colofnau. Yr ydym wedi anfon cais at y meistri am 20 per cent o godiad, ac yr ydym yn dysgwyl yn bryderus am atebiad. Yr ydym yn credu yn ddiysgog y cawn 10 per cent os nad ychwaneg. Y mae wedi bod yn chwyldroad dirfawr yn yr ardal hon yn gyferbyniol i'r hyn ydoedd ychydig flynydd- oedd yn ol. Undeb sydd yn teyrnasu yn awr, ac nid trais a gormes. Cynaliodd Methodistiaid Calfinaidd y lle hwn gyfarfod- ydd pregethu ddechreu yr wythnos o'r blaen, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Owen Thomas, Hugh Jones, a Dr. Jones. Yr oedd y pregethau yn rymus a gwir effeithiol, a gobeithio y bydd yma gynhauaf toreithiog mewn canlyniad. Hefyd, yr oedd yn ben chwarter yr ysgolion y Sabboth diweddaf. Cydgyfarfyddwyd, ac adroddwyd penod o "Rhodd Mam," aphenod o'r "Hyfforddwr." Bu yr arferiad hwn yn cysgu yn yr ardal hon am amser, ond yn ddiweddar, meddyl- iodd y Parch. D. Saunders, mai buddiol fuasai ei ddeffro, ac y mae yn sicr o fod yn fendith mawr i'r ysgolion eto. Da anghy- ffredin oedd genym weled Mr. Lloyd, cy- hoeddwr y GWLADGARWR, a'i gydmares hardd a boneddigaidd yn treulio y Sabboth genym, ac yn cymeryd rhan yn nghyfarfodydd yr ysgolion. Hyderwn iddynt gael boddhad yn y gweithrediadau.-lFoR GLAN TEIFI. GLYNCORWG.-Dydd Sadwrn, y 17eg o'r mis hwn, cafodd gweithwyr Glyncorwg a'u teuluoedd, pa rai a rhifent tua 400, yn nghyd a thua 100 o rai perthynol i'r cledr- ffordd, eu anrhegu ag Excursion i New Milford. Ymadawaom a. Chastellnedd yn nghanol llawenydd a nwyfiant, ac wedi cyr- haedd pen ein taith, aethom i fwynhau golygfeydd gwahanol wrthddrychau dyddorol y lie, megys pabellau y milwyr, yr amddi- ffynfa, y Dock Yard, &c., ac wedi treulio diwrnod diwyd a llawen, dychwelasom yn ddyogel. Yr oedd yn dda genym weled pawb yn ymddwyn mor weddaidd, ac yn cadw cystal oddiwrth y diodydd meddwol. Y mae treulio diwrnod mewn lie o'r fath yn iechyd i galon, ac yn llonder i ysbrydoedd pobl lleoedd o'r fath hwn. Ymddygodd ein meistriaid yn hynod garedig trwy rhoddi i ni y bleserdaith hon yn ddidraul, ac y mae clod yn ddyledus i Mr. E. Plummer, am yr hyn a wnaeth i hyrwyddo y mudiad, yn nghyd a'r dyddordeb a gymerai yn nghysur ei weithwyr.—W. H.

Advertising

[No title]

Advertising

[No title]