Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

EISTEDDFOD FLYNYDDOL SOAR,…

EISTEDDFO;) CALFAHIA, CLYDACH.

Advertising

BWRDD Y GOLYGYDD.

News
Cite
Share

BWRDD Y GOLYGYDD. PWLL Y GARTH.—Nid oes enw priodol wrth yr ysgrif; gan hyny nis gallwn ei chyhoeddi. DYMUNA Tomas ar Islwyn i gyhoeddi ei feirn- iadaeth ar gyfansoddiadau Eisteddfod Blaen- llechau. P ATROBAS.-Nid ydym yncyhoeddihysbysiadau heb dal. Os ydych yn ymofyn i'r ysgrif i ymddangos fel hysbysiad, gadewch i ni gael clywed oddiwrthych eto. GILFACH GOCH.-OS ydyw llenwi hyn a hyn o ddrams yn groes i Reolau yr Undeb, gwein- yddwch gosp yr Undeb arnynt; ac os bydd i chwi wneud hyny, bydd yn dda genym ei gyhoeddi, yn nghyda'u henwau. PONTARDAWE, Awst 24ain.- Y mae yn rhaid i ni, o herwydd prinder gofod, adael allan ysgrifau mor ddinod a'r rhai hyn. Nid ydynt yn un peth na'r Hall. ENWAU PRIODOL.-Y mae rhai o'n gohebwyr cyson yn anghofio anfon i ni eu henwau priodol. Y mae yn rhaid i ni gael hyn oddi- wrth bawb yn ddieithriad. HYWEL CYNON.—Y mae Cystadleuwr am goifa i Hywel Cynon ei acldewid o barthed cy- hoeddi beirniadaeth Eisteddfod Maesyewmwr. J. J., (Treforis.)-Y mae yr enw John Jones neu David Davies yn rhy fach o sicrwydd i ni am unrhyw iohebydd dyeithr, yn enwedig os bydd ei ysgrif yn cynwys cyhuddiadau yn erbyn person neu bersonau. Y mae yn rhaid i ni gael sicrwydd fod genym rywbeth heblaw dyn gwellt mewn amgylchiad o'r fath. Car- em gael y cyfryw ysgrifau wedi eu llaw-nodi gan un o'n dosbarthwyr, neu ryw berson ad- nabyddus i ni: y mae digon i'w cael yn mhob cymydogaeth. D.-Mae y cyfarfod y cyfeiriwch ato wedi myned mor hened, fel yr ydym yn barnu mai gwell i ni ei adael allan nes y clywn oddi- wrthych eto. Pa le y saif y mudiad yn bresenol ? Wedi eu derbyn,-Good Templars America, Gwaliwr Gwyllt, Gwawdlym, Un o'r Boys, Hen Ffarmwr, S. Parry, Hen Grito, Llan- gatwg, Nid un mawr fel Horace, &c., &c. Hanes Cyfarfod Blynyddol Undeb Cerddorol Aberdar, a The Party Bethania, Aberdar, yn ein nesaf.

TALIADAU,—

[No title]

----.----.TWYLL MASNACHWYR.

BAZAAR CALFARIA HALL, ABERDAR.

Advertising

ESGORODD,—