Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
TREFOREST, GER PONTYPRIDD.
TREFOREST, GER PONTYPRIDD. Cynaliwyd cyfarfod cyffredinol genym fel Hammermen, Refiners, Ballers, Bar Boilers, Fuddlers, yn nghyd a'n hail ddwylo nos Lun, Awst 19eg, pryd y penderfynwyd yn unfrydol i roddi rybudd dydd Mawrth, yr 20ied, ae yr ydym wedi ei roddi, ac yn penderfynu sefyll am ein hiawnderau. Carem yn fawr weled ychydig linellau yn y GWLAD- GARWR nesaf gan Ab Gito, os yw y Puddlers a'r Ballers yn y cylchoedd yna yn sefyll am eu hiawndrau, fel ag y mae'r Hammermen a/r Refiners yn ei wneud. Gair ar hyna os gwelwch yn dda. ARTHUR.
UNDEB Y GLOWYR YN NGHWMAFON.
UNDEB Y GLOWYR YN NGHWMAFON. Y mae ein hundeb yma erbyn heddyw yn rbifo tua 500 mewn nifer. Er fod yma rai heb uno hyd yn hyn, gallwn yn ddibryder ddweyd mai "mwy yw y rhai sydd o'n tu nag sydd yn ein herbyn." Bu yn show cards yma ar 20fed cyfisol. Wedi chwilio pawb yn ein plith, cafwyd fod ychydig nifer heb gardiau, a'r rhai hyny gan mwyaf, nid am eu bod yn groes o ran egwyddor i'r Undeb, ond eu bod heb ystyried y pwys o beidio uno, pa rai: sydd yn addaw uno y eyfle cyntaf a gant. Ar ol y show cards yn y boreu, cynaliwyd cyfarfod gan yr adran yn y prydnawn, yn Pantdu, ac yno taflwyd achos yr anghyd- ffurfwyr i'r bwrdd, sef beth i wneud o honynt os na ymostyngent, a phenderfyniad y cyf- arfod oedd eu bod i gael mis yn ychwaneg i wneud eu meddyliau i fyny. Penderfynwyd hefyd yn y cyfarfod fod i enwau y rhai na wnant uno yn ystod y mis a nodwyd uchod i gael eu hanfon i'r GWLADGARWR, fel y gall pawb eu hadnabod. ERYR AFAN.
Y STRIKE DIWEDDAF YN NGHWM…
Y STRIKE DIWEDDAF YN NGHWM RHONDDA. AT Y GLOWYR YN NEILLDUOL, A PHA WB GWEITHWYR YN GYFFREDINOL YN NGHYMRU. Gyd-weithwyr,—Feallai nadyw yn hysbya i chwi oil ein sefyllfa. Yr oedd o gwmpas dwy fil o honom allan, a hyny am ystod pymthegnos ar gyfartaledd, a. gwnaethom m gaia aoi gynorthwy, a'r tanysgrifiadau sydd, wedi dyfod, i law hyd foreu dydd Gwener, y 23ain o wt) ydynt JE76 and y mae yn ofynol cael J61,000 cyn y cant ddeg swllt yr un,. a phe b'ai pawb o'r glowyr yn gwneud eu dyledswydd, gallesid eu cael ynrhwydd, a buasai hyny yn dangos nerth a chadernid mawr yn mhlith y glowyr, ac nid gwendid, fel yr haera rhai. Yr ydym yn barnu na fydd yn ddoeth ynom i adael y pwnc yn agored ar ol dydd Sadwrn, y 7fed o Fedi felly, pawb sydd yn teimlo ar eu calonau i'n cynorthwyo, bydded iddynt wneud hyny ar frys. Anfoner pob arian drwy Post Office Order neu fel arall i George Coles, Troedy- rhiw, Cymmer, ger Pontypridd, neu i'r try- sorydd, sef Richard Lane, New York Inn, Porth, ger Cymmer,—i'w gwneud yn dalad- wy yn Post Office Cymmer. Nid ydym yn bwriadu rhanu yr arian hyd nes y delo y cwbl i mewn. Cyhoeddir rhestr o'r tanysgrifiadau yn y GWLADGARWR. Cofiwch ddanfon enw'r person, y gwaith, a'r lie, o'r hwn y byddweh yn anfon. Bydd yr arian yn cael eu rhanu rhwng pawb ag oedd allan, pa. un bynag ai Undebwr ai peidio. Ni chawn ddim o'r Undeb. Ni a enillasom y fuddugoliaeth yn aairhydeddus, sef 4e. y dynell. UN O'R .PWYLLGOR.
DERBYNIADAU ARIANOL.
DERBYNIADAU ARIANOL. Da genym gydnabod y derbyniadau can- lynol yr wythnos hon, tuag at y gweithwyr a fu yn sefyll allan yn Nghwm Rhondda Awst yr 20fed, oddiwrth David Morris, Brithdir Colliery, £3; Charles Wayt, Dany- deri Colliery, Troedyrhiw,Merthyr,£210s6c; David Harris, Pwll Llwynypia, Cwm Rhon- dda, JE11 12s. Lewis tmorgan, Treorky, 5s. William Warlow, Pwll y Coedcae, £1110s. Awst 22, William Bennett, Broad Oak Colliery, Lougher, X2 5s. 6c. Awst 23, Wm. Mainwaring, Pwll Cwmpennar, £21; W. Morgan, Pwll Deep Duffryn, £10 a der- byniwyd £110s. oddiwrth Thomas Francis, Maendy Colliery, tuag at hen ddyled y Coedcae. Fy anwyl gydweithwyr, yr ydym yn ddiolchgar iawn i bawb ag sydd wedi cyfranu tuag atynt, gan obeithio y bydd y gweith- feydd ereill sydd heb gyfranu yn gwneud yr un modd yn fuan; oblegyd byddwn yn rhanu yr arian rhwng y gweithwyr ddydd Mawrth, Medi y lOfed. Yr eiddoch, GEO. COLES. O.Y.—Derbyniwyd oddiwrth y cyfeillion Ben] aminE vans a John Rowe, Pwll Fern- dale, y swm o JE1 14s. ge., Awst 26.—G. C. Derbyniwyd at y ddirprwyaeth a fu yn Llundain er edrych dros Fesur Rheoleiddiad Glofeydd y swm 'o Jgl 6s. oddiwrth waith y Fire Engine, ger Castellnedd. W. H. HOPKINS.
AT ANNEALERS MORGANWG, CAERFYRDDIN,…
AT ANNEALERS MORGANWG, CAER- FYRDDIN, A MYNWY. Gyfeillion,—Yn gymaint a bod yr ymborth a phethau ereill wedi codi i'r fath raddau, a fyddai ddim yn burion peth i ni, fel Anneal- ers, ymysgwyd ychydig o'r man lie yr ydym yn bresenol ? Y mae yn llawn bryd bellach. Pa beth a ddywedech am Castellnedd fel lie canolog i wyr Morganwg i gael cyfarfod a'n gilydd, er ymgynghori a threfnu y ffordd oreu i ni weithredu ? Yr ydwyf yn meddwl y dylem gael yr hen bris yn ol beth bynag. Er arbed traul a thrafferth, a gallasai gwyr Caerfyrddin ddim cyfarfod a'u gilydd yn Llanelli, a gwyr Mynwy yn Nghasnewydd, ac iddynt anfon hanes eu cyfarfodydd i'r GWLADGARWR, yr hwn bapyr sydd yn agored i ni fel gweithwyr. Hynyna yn awr, gan obeithio y caf glywed oddiwrth rai o honoch yr wythnos nesaf. M. W.
Advertising
"A VISIT TO Epps's COCOA MAN URACTORY.—Throug- the kindness of Messrs Epps, I recently had an opport unity of seeing the many complicated and varied procresses tha Cacao bean pa. ses through ere it is sold for public use, and, being both iuterested and highly pleased w th what I saw during my visit to the manufactory, I thought a brief account of the Cacao, anl the way it is manufactured by Messrs Epps, to fit it for ar wholesome and nutritious beverage, might be of interest to the readers of "Land and Water."—See Article in "Land and Water," October 14.
COFGOLOFN IFOR CWMGWYS.
COFGOLOFN IFOR CWMGWYS. Mr. Gol.,—Llawer sydd wedi ei ysgrifenu ar y pwnc uchod, ond ychydig sydd wedi cael ei wneud. Mae adgof am If or yn felus ar fy nghof heddyw, ac am yr oriau difyr a dreul- iais i a Telynog gydag ef yn Mhontypridd. O'r anwyl, son am gyfansoddiadau buddugol ai ie ? Beth ydynt yn ymyl y ddwy linell ganlynol ? "Plethai'r filamawg fellt mewn cynydd, Gwisga'r dymhestl megys merch." Gyfeillion anwyl, peidiwch a dirmygu coffad- wriaeth un o feibion mwyaf talentog gwlad y ddaear trwy adael y golofn heb dalu am dani. Rhyw ddwy bunt, debygwyf, sydd yn llaw y trysorydd-Ioan Iago; o ganlyniad, ati boys,-nid yw yn llawer rhwng cynifer. Dyro dro ar y peiriant, Samson, a galw ar Ffradach a Cadfwch i'r cylch gweithredol er dwyn yr amcan i ben yn anrhydeddus. Gallaswn ysgrifenu colofnau o adgof am Ifor ond pa les hyny yn awr,-eisiau arian sydd i dalu am y gofgolofn, a hyny ar un- waith. Rhag myned a gormod o Ie, gwas- anaethed hyn fel awgrym i'r sawl a garant gyfranu ychydig at draufey maen coffa. CYMRO GWYLLT.
Y COR CYMREIG. " 1
Y COR CYMREIG. 1 AT YR AELODAU. YN y. pwyllgor a gynaliwyd yn y Temperance Hall, Aberdar, nos Fawrth, yr 20fed o'r mis hwn, penderfynwyd amryw faterion pwysig o berthynas i ddyfodol y cor. Gosodwn ger bron y rhai hyny ydynt o bwys i'r gwahanol awdaloedd, a dymunwn arnynt ymffurfio ac ymdrefnu ar unwaith ar gyfer y, frwydr fawr y flwyddyn ddyfodol., Cefais lythyr oddiwrth Ysgrifenyddy Crystal Palaçe yr wytbnoahon yn dweyd y bydd list o'r music yn barod y mis nesaf. Dysgwylir y bydd adranau cang- henol y cor yn y gwahanol ardaloedd i gyd- fantoli mewn cyfartaledd lleisiawl. Bydd examination i fod eto, a'r cantorion i gael eu profi bob yn bedwar. Gwelir felly wrth y rhag-drefniadau hyn, fod y cor yn pender- fynu gwynebu tua Llundain unwaith eto, ond bydd yn debyg o fod yn galetach y waith hon, gan y bernir yn gryf y ceir cystadleuaeth. Y mae pwyllgor cerddorol wedi ei apwyntio, yn gyfansoddedig o'r personau canlynol,- Mri. Emlyn Evans, Eos Rhondda, Alaw Ddu, D. Rosser, G. Jones (Caradog), Dl. Griffiths, ac un arall nad ydym yn dewis cyhoeddi ei enw cyn cael ei gydsyniad. Bydd yn ddoeth felly i'r gwahanol ardaloedd gyfarfod a'u gilydd i ymdrefnu ac ymbarotoi, os yn ddichonadwy, tua yr wythnos nesaf. Bydd rhai cyfnewidiadau yn y nifer o'r gwahanol fanau erbyn y tro nesaf. Penodwyd hefyd fod 40 i ddyfod o Abertawe a'r cylchoedd. Diangodd hyn rywfodd yn ein hadroddiad yr wythnos ddiweddaf. Dymunir gwneud yn hysbys hefyd i'r ysgrifenyddion lleol, yn nghyda holl aelodau y cor, fod Mr. William Davies, Taff Vale Station, Aberdar, wedi ei apwyntio yn ysgrifenydd cynorthwyol. Ei waith ef yn benaf fydd cadw cyfrif o aelodau y cor, cael returns misol o'r attendance oddi- wrth yr ysgrifenyddion lleol, a gofalu pwy sydd yn talu ac yn peidio talu y cyfraniadau misol a nodir gan y pwyllgor. BRYTHONFRYN.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Y FFRWGWD EISTEDDFODOL.—Tebyg fod y nodiad byr a wnaethum o dan y penawd uehod wedi cyffro cynddaredd rhyw ychydig o'r would-be bishops llenyddol. Cefais ddau neu dri o lythyrau dienw yn fy nwrdio yn arw, a dau neu dri ereill yn canmol. Fel hyn y dywed un o'r brodyr,—" Y mae dy ergyd yn y GWLADWR heddyw yn ei Ie. Dar- llenais y gan fuddugol-buasai deg swllt yn ddigon am dani. Y mae y gan fuddugol arall i W. Williams, Ysw., yn waradwyddus." Gwell genyf ymddiried i farn y brawd hwn nag i farnau crach-feirniaid ein man eistedd- fodau. Bid gwych, bid gwael, nid ofnaf un amser draethu fy marn yn ddifloesgni, a phrofi i'r byd yr hyn a dybiwyf sydd yn unol a'r gwirionedd. Llabyddiwyd yr eisteddfod yn nhy ei charedigion, ac o ganlyniad, pa ryfedd fod Saeson wedi bod yn estyn bys arnom cyhyd. Mae yn bleser darllen y cyf- ansoddiadau a gynyrchwyd gan eisteddfodau y dyddiau gynt; ond, yn wir, y mae y pethau diweddaraf yn waradwyddus o wael. Mae hyn i'w briodoli yn hollol wrth ddrysau y dynion hyny a lanwant y cadeiriau beirniad- ol. Nid galluoedd y cyfeillion hyn sydd yn amheus, ond eu cywirdeb a'u gonestrwydd; o ganlyniad, waeth dweyd y gwirionedd mwy na'i feddwl un tipyn. Rhaid symud yn mlaen pan adael y mater rhwng y bobl fawr, a dweyd fel y dywedwyd o'r blaen, Who can decide when doctors disagree." AMRYWION.—Pe byddai amser a gofod yn caniatau, y mae digon o ddefnydd wrth law i lenwi tudalenau y GWLADWR yn un cryn- swth. Y mae y rhestr troseddwyr sydd ar lechres y Sessiwn yn anarferol, a phriodola y R&corder hyny i'r rheswm-fod y dosbarth gweithiol yn gwella yn eu dull o fyw ond ei bod yn ddrwg ganddo orfod cyfaddef fod pechod ac anniweirdeb yn cynyddu yn mhlith pobl fawr ein gwlad. Mae compli- ment o'r fath o enau dyn yn meddu gwyb- odaeth fel J. B. Aspinall, Ysw., yn werth edrych arno, a chadw mewn cof ei eiriau fel cynghorion un ag sydd yn dymuno lies y llu- aws. Nid pawb o bobl fawr ein gwlad a geir yn ymddwyn fel y dyn hwn at y cyfoeth- og fel y tylawd. Y BYD YN TROI.—Bu amser yn Aberdar pan oedd yr arch-adeiladydd Twrch Cynon yn cael cefnogaeth y bobl, ond erbyn hedd- yw, y mae rhyw silod ereill wedi dyfod i'r golwg. Gweithiodd y Twrch fel dyn er dwyn yr eirch i lawr, ond yn awr, y mae y cym- deithion gynt wedi ei adael i ymladd a'r byd fel y myn efe ei hun, gan droi at ereill llai teilwng. Onid allwn, medd y darllenydd, fyned lie y mynom. Digon gwir; ond fe ddylid cofio am y sylfaenydd, gan roddi iddo y gefnogaeth a deilynga. Pwy ond efe a ddygodd elorgerbyd gyntaf iafaely gweith- wyr yn Aberdar, ac iddo ef yn unig y mae y clod yn deilwng o barthed gostyngiad pris yr eirch drwy gymoedd Morganwg. Efe yw tad y drychfeddwl, ac efe yn unig ddylasai gael cefnogaeth gweithwyr y dyffryn. Troion gwael i'r eithaf ydyw myned dresodd i Fer- thyr i gyrchu elorgerbyd, tra y ceid un yn yr ymyl gan Mr. Thomas. Fe wrida rhin- wedd mewn cywilydd, ac fe guddia deyrngar- wch o'r golwg rhag syllu ar y fath droion gwael ac anmharchus. Y mae pob cais ag sydd wedi cael ei wneud er lleshad y dosbarth gweithiol yn derbyn anmharch a diystyrwch oddiar ddwylaw y gweithwyr eu hunain. Gallasai y brawd wneud yn well o'r haner pe .b'ai wedi troi ei feddwl at rywbeth arall. Ond fel hyn y mae wedi bod ac er fod y wers yn ddrud, ni obeithiwn y cymer addysg oddiwrthi yn y dyfodol er ei les ei hun. Os wyt ti, ddarllenydd, am ddyrchafu dy hun mewn cyfoeth ac enwogrwydd, paid ag ym- ddiried gormod yn dy gyfeillion a dy gymyd- ogion, y rhai a ffug-broffesant fod yn caru dy lwyddiant a dy ddyrchatiad yn y byd. Beth bynag, all neb ddweyd hyn am y cyfaill Twreh Cynon mae efe wedi gwneud mwy o ddaioni yn Aberdar na llawer un a godir yn uchel ar ysgwyddau y werin, heb feddu dim teilyngdod, ondyn ddigon llawn o hunanoldeb ac haerllugrwydd i daflu y mynydd i'r mor a throi corwynt y gauaf yn awelon hafaidd Mehefin.' Cymaint a hyna ar y byd yr troi; bydd genym air yn fuan -ar ddynion yn troi I o gwmpas. Y newyddion pwysicaf o'r dref hon ydyw, fod tua phedair mil o ddynion ar strike. Gofaint, peirianwyr, ac ereill cysylltiedig a pheiriandai ydynt oil, ac ychydig obaith sydd y cyd-olygant a'r meistri yn fuan. Anghydfod a strikes ydyw nodwedd y dydd, felly rhaid i L'erpwl fod yn rhywle ar y muriau. Mae dydd Mawrth wedi fy nhal, fel nad oeS amser i ymhelaethu. Buaswn wedi talu weliad a'r brawd Calfin oni bai fod y ffrwd ymfudol yn ormod ar fy nghefn. Boed hys- bys i'r brawd nad oes neb hyd yma wedl myned i Jupiter. GWYLLT.
EISTEDDFOD ALBAN ELFED, ABERDAR…
EISTEDDFOD ALBAN ELFED, ABERDAR MEDI 16, 1872. Derbyniwyd cyfansoddiadaa yn dwyn y ffugenwau can- lynol erbyn yr Eisteddfod hon:- "Englyn i'r Gath."—Butcher, Neb, Ymgeisydd, Hullab, D!c Aberdaron, Gelyn Llygod, Huw Ffradach, Darldis, Ab Shon. Dau Englyn i Awrlats St. Elfans. "-Watchmaker, Un sydd ar ei yrla, Nodwyd:), Tubal Cam, Adda Jones. Cywydd i'r Gydwybod."—Ef, Periander. Ymweliad y Cor Cymreig a Llundain."—Ar fy Neair. Happy Home."—A Roataer, Didaskalos, The ownef of a Happy Home, A happy one at home, Try again, Laura, Dewi Cledan. can i Lowyr Aberdar a Rhondda."—Hen LoWI, Eryr, Ceibiwr Daear. Dau Englyn i'r Gwr a'r Wraig Gytunus "—John Gwt Gwraig, Priodfab, Giraldus, Tali^sin, Dyngarwr dan of Goron, Calon wrth Galon, Dewi Cledan. Kingwufardd. Pwy sydd i'w feio am uchel bria y. cig !"—Gweithiwr, Beef-eatex, Anian; dd, Liais y Werin, Gofyna rhai &c The Two Fountains Kilia.xiey, Albert Victor Emyr, Didaskalos, Fity, Dewi Cledau. » Arwyddton yr Amserau Tremydd, Saer wyf fi o sir Fon. "Vaccination."—Heraclitus, Jennerian, E F Ymtte yr oil yn 51. 4 Nt r .id i mi ddweyd fod yn y pentwr hwn gyfansodd iadau awenber, yn arddangos awen gref a barn addfed. Y mae un cyfansoddiad yn ddiguro, it bwriadwn ei ar- graffu erbyn dydd yr Eisteddfod. Bjdd cael gafael at hwnw yn werth i ddyn ddyfod ugain milldir o ffordd i Eisteddfod Alban Elfed. Mi wnaf fl fy ugoreu glas i bob un gael ei haeddiant. Gan hydeiu eich cyfarfod yn dorf gariadus —Yr eiddoch yn ddiorphan, BR-JTHONFRYiT.
EISTEDDFOD ANNIBYNWYR STORE-,…
EISTEDDFOD ANNIBYNWYR STORE- HOUSE, MEDI 7. 1872. Yn y gystadleuaeth-Madog, Parr, Gwar b x G to Nfth Tan, Amos, Hen Deiliwr h)nod hwylus, Brodor, Hen Lowr, Lord Byron, pwyswr, Ben Of, y Nesaf at f goreu, Teimlydd, Got, Un wedi colli, Rees Williams, Llwynypia, J b, Pellanig, Meirionydd, Stanley, Victot Hugo, Robyn Esyllt, Gwylum Rh jnddn. Un Iwauc, Un yn Unig, Batdd law, leddyn Havard, Psyderus, AgOIi Puis, Weeth pwy, Sylwed/dd, Abacuc, P. C, Peleg, Brython, ali Ho, Och, Eiddil, Cymro, Hen Gymro, Tawalfardd, Hen Lowr yw o le arall, Pererin, Gwyleidd* fardd, tii aethlawn, Llygadog, Pruddglwyfus, Cwjmfanus, Tawalfardd, Hen Lowr yw o le arall, Pererin, Gwyleidd* fardd, tii aethlawn, Llygadog, Pruddglwyfus, Cwyufanus, Lsfl Gobeithiol, Y Dauc Celladig, T. H, 0, M, A, S, A'* Peiriant, Boiler, Pientis Taeliwr, Un oedd am d'reio, Vulcan A,) loan, Mara, Argraphydd, Cadi, Cyfaill, Will o'r Mynydd, X. Y. Z. Neu. He-. Dori Mawr, Lienor Bos Box. Neu Johny, Broxwell Wyllt, Meudwy o Ian Clydach, Syniol, Mara, Profiadol, Wylwr, Aberonian, Un goratf gof yU Well, Aristrdes, Anturiaethus, Hiraethus, Broiot o Brydain, Bilt'r Crydd, Jiadolig, X Y. Z H. W. HTJOHES ( Arwystl )
UNIVSESITY COLLEGE OF WAL…
UNIVSESITY COLLEGE OF WAL J?,S, THE First Session of this College will open on Thursday, the 10th of October, 1872. The educational staff will for the present consist of the Principal, a Professor of Classics, a Professor of Mathematics and Natural Philo- sophy, and a Teacher of Modern Languages. Arrangements will be made as soon as practi- cable for Lectures on Geology, Chemistry, and other cognate subjects. Applications for ad- mission to the College to be sent to the Principal, Rev. Thomas Charles Edwards, M. A,, Univer- sity College of Wales, Aberystwyth. An examination will be held at the beginning of the session, when several exhibitions of £ 20 each will be awarded. 211
Advertising
LLYFR Y MILOEDD, Ail Argraffiad, gyda Ychwanegiad, Pris 6ch., ELFENAU GRAMADEG, A T wasanaeth ieuenctyd Ysgolion Llenydd- ol a Sabbothol, gan y Parch. J. Ll. HUGHES. "Ceir ynddo ganoedd o reolau yr iaith, ac y maenfc wedi eu gosod mor ddeheuig ynddo, fel na raid i'r mwyaf hurt fethu eu deall. Gall fod o wa!anaeth nid bychan ddechreuwyr."—PARCH. W. C. WILLIAMS, (Caledfryn.) "Bydd miloedd o'n cyfeillion ieuainc yn llawen i gael hyd iddo. Gram adeg syml a rhad ydyw i rai yn dechreu, a buasai yn anhawdd gwneud ti well at y pwrpas. PARCH. T. LEVI, Treforis. "Dylai pob dyn ieuane, ac yn enwedig y rhai agarani ysgr fenu i'r wasg, fynu ei ga-1 a'i ddysgu yn gyotaf peth."—PABCH. W. REES, DI)., (Hiraethog.) Y mae yn cynwys crynodeb o'r peth*u mwyaf budd- iol i'w gwybod mewn gramadeg. Y cynyg goreu o lawer at wneud dysgu gramadeg yn bleser i'r ieuanc."—PABOB. T. PRICE, M.A., Ph. D., Aberdar. Anfonir ef yn ddidraul gydar Post on anfon 6 stamp ceiniog ac un stamp dimau i'r awdwr- Y cyfeiriad fel hyn,- REV. J. LL. HUGHES, •.r.r "g X. Rehoboth, 5 Roads IJaneUy, 57. Carmtrkh hire- "SIAEA.DWCH YN BLAEN," (CAN A CHYDGAN,) YN y ddau nodiant gan R. W. STEPHENS (Eos GWENDRAETH), ger Kidwelly. I'w. ohael gam yr Awdwr am 4c. 211
[No title]
Deallodd y peirianydd ar waith y peiriant yn codi fod rhywbeth odditan yr olwyn- ion, a llwyddodd i atal y peiriant yn hynod o gyflym. Dywedodd yn ei dystiolaeth ei bod yn eithaf amlwg mai wedi rhoddi ei hunan odditan y peiriant yr oedd y trengedig, canys yr oedd sefyllfa ei gorff o dan yr olwynion yn brawf amlwg o hyny. Dychwelwyd rheithfarn o Hunanladdiad."
'CONGL Y GWEITHIWR. ",-
CONGL Y GWEITHIWR. [HYSBYSIAD.] CYFARFOD Y TANWYR, &c. Cynelir cyfarfod y tanwyr (underground firemen) nos Sadwrn, Awst 31ain, 1872, yn y Crown Inn, Maesydref. Dechreuiryn gywir am 6 o'r gioch, pryd y dysgwylir pawb a berthyn i'r frawdoliaeth i fod yr bresenol, gan y bydd y pethau yn perthyn yn agos ae o les mawr i bob un o honom. Y mae y gyfres ag sydd wedi eu cynal eisioes wedi bod o fudd a Iles mawr yn barod. Gobeithio y gwna yr ychydig sydd ar ol tua gwaelod y cwm roddi eu presenoldeb y tro nesaf, gan y gwyddom na fydd yn edifar ganddynt ar ol bod gyda ni.—Yr eiddoch, UN O'R PWYLLGOR.
UNDEB Y GLOWYR YN NOSBARTH…
[HYSBYSIAD.] UNDEB Y GLOWYR YN NOSBARTH ABERAFON. Bydd show cards cyfiredinol trwy yr holl ddosbarth ar y 30ain o Fedi, o Fforchtwm i bwll y Morfa. Gobeithio na fydd neb heb en cardiau y diwrnod hwnw, ae os bydd, dys- gwylir iddynt roddi esgusawd cyfreithlon am hyny, oblegyd nid gwiw i neb broffesu ei fod, heb ddangos hyny trwy weithred. GLOWR.
CYFARFOD Y GLOWYR YN NGHAE-BADELL,…
CYFARFOD Y GLOWYR YN NGHAE- BADELL, ABERTAWE. Da genym hysbysu darllenwyr lluosog y GWADGARWR fod y cyfarfod hwn wedi troi allan yn llwyddiant perffaith. Daeth can- oedd lawer o bobl yn nghyd, a'r unig anffawd a ddygwyddodd mewn cysylltiad ag ef yd- oedd, fod y cyfaill a alwodd y cyfarfod yn aghyd, wedi esgeuluso nodi amser penodedig i gwrdd, a thrwy hyny, fod amryw o bobl pellenig wedi dyfod yno yn y boreu, pan nad oedd y cyfarfod yn dechreu cyn yr hwyr. Modd bynag, wedi i'r bobl ddyfod yn nghyd, etholwyd y brawd Wm. Stradlyng, Cas- llwchwr, yn gadeirydd, a'r brawd William Abraham, Waunarlwydd, i gymeryd enwau y cynrychiolwyr, ac i gofnodi penderfyniad- au y cyfarfod. Yr oedd yno 15 o lofeydd yn oael eu cynrychioli yn y wedd ganlynol :— Y chwech gwaith cyntaf o Lanelli a'i chym- ydogaeth, Pwll y Bont, Pencoed, St. George, Bryn Gwyn, Grove's End, Caergymydd, Oefngoreuddydd Pit, Cefngoreuydd Slant, Cwmbach, Forest Fach Old Pit a New Pit, Owmbwrla, Cwmfelyn. Penderfynwyd yn unfrydol mai Casllwchwr oedd y fan mwyaf canolog y dospatth ac o ganlyniad, mai yno yr oedd y fam gyfrinfa i f ad. Yr oedd y brawd Bennet, (ysgrifenydd y Gyfrinfa), wedi mesur y pellder o'r gwa- hanol fanau a gynrychiolwyd i Gasllwchwr mor fanwl a chywrain, yn nghyd a bod y central committee wedi cydnabod Casllwchwr yn ddosbarth yn barod, yn gyfryw fel na walodd neb yr angenrheidrwydd na'r priodol- deb o gynyg unrhyw gwrthwynebiad.—M.