Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
• SWPER FLYNYDDOL SWYDDFA…
• SWPER FLYNYDDOL SWYDDFA Y 1 "GWLADGARWR." Nos Iau diweddaf, y 4ydd cyfisol, y cymer- odd y wledd flynyddol hon le yn ein swydd- fa. Y mae yn arferiad er's blynyddoedd lawer gan deulu caredig y GWLADGARWR i roddi gwledd i staff y swyddfa a'u teuluoedjd, heb anghofio hyd yn nod d—1 y wasg. Am wyth o'r gloch eisteddodd rhyw 26 oddeutu y ford, yr hon oedd wedi cael ei harlwyd a danteithion goreu y tymor. Yn ychwanegol at staff y swyddfa, cawsom y pleser eleni o gwmni ein gohebydd o L'erpwl, yr hwn a ychwanegodd yn fawr at ddyddordeb y wledd. Wedi i bawb gael eu gwala a'u gweddill o'r gwyddau, y beef, y plum-pudding, &c., sym- udwyd y ford er cael myned yn mlaen a'r rhan arall o'r wledd. Cymerwyd y gadair gan Mr. Llwyd, y meistr, ei hun, yr hwn yn ei anerchiad a wnaeth sylwadau dyddorol ar gylch bychan y staff, gan fyned rhagddo a chymeryd golwg ar sefyllfa gymdeithasol y wlad a'r byd yn y flwyddyn a aeth heibio. Oni buasai fod arnom ofn gormesu ar ofod y GWLADGAKWB., rhoddasem i'n darllenwyr grynhodeb o'i anerchiad, ond boddlonwn ar roddi un sylw yn unig o'i eiddo, yr hwn a wnaeth yn ei gyfeiriad at sefyllfa grefyddol y byd. Pan yn sylwi ar Babyddiaeth, dywedodd fod yr hen grefydd hono wedi cael ei siglo hyd ei sylfaeni. Fod yr hen Bab yn y blyn- yddoedd a aethant heibio wedi rhoddi ei fen- dithion goreu ar benau coronog Spain, Ffrainc, a Mexico, tra yr oedd wedi cyhoeddi ei fell- dithion trymaf yn erbyn Victor Emmanuel; ond ei bod yn amlwg erbyn heddyw mai MIdldithion y Nefoedd oedd yn canlyn ben- dithion y Pab, a bendithion y Goruchaf yn di- lyn melldithion ei Santeiddrwydd o Rufain. Fod Maximilian o Mexico, yn fuan wedi der- byn y fendith o Rufain, wedi cael eilofruddio gan y gwrthryfelwyr penadures orthrymus Spain wedi gorfod dianc am ei heinioes i Ffrainc, tra y mae Amerawdwr Ffrainc, yntau druan, wedi ffoi am noddfa i'r wlad hon ond am Victor o Itali, ei fod wedi llwyddo i gyfuno ei deyrnas, ei fab wedi ei ddewis i orsedd wag Spain, a'i ferch wedi cael ei gwneud yn frenhines Portugal, tra yr oedd yr Hen Dad Anffaeledig yn garcharor yn ei dy ei hun yn Rhufain. Cafwyd anerchiad priodol i'r amgylchiad gan y Cymro Gwyllt, a chan un neu ddau o staff y swyddfa. Cawsom ein hanrhegu hefyd ag amryw ganeuon yn ystod yr hwyr, a rhai a roddasant foddlonrwydd mawr; ond yr hyn fin synodd fwyaf o ddim oedd clywed d-l gcyglyd y wasg, dan effaith saim gwyddau Penderyn, yn canu mor eosaidd Wedi talu diolchgarwch i'n meistr a'n meistres am eu caredigrwydd a'u teimladau da, ac hefyd i'n gohebydd a'n cyfaill ffyddlon, Preswylydd y Gareg, am ofalu am wyddau ieuainc a bwyt- adwy, diweddwyd y wledd hon ychydig cyn haner nos trwy ganti "Duw gadwo'r Fren- hines." Ar ddiwedd anerchiad Ossian Dyfed, yr hwn sydd yn perthyn i'r swyddfa, cafwyd y penillion canlynol :— 0 Wynfa diayyned bendithion yn Ilu I deulu Llwyd siriol a'i gydmar tra chn, Boed cysur yn eiste d ar i.rsedd eu bryd, A llwyddiant yn goron eu gwetthiau i gyd. rr lan a'r Gw ADGAKWR, a b 'dded yn ben Papyrau hen Walla-tra haul yn y nen Ymladded yn wrol dros ryddid eln gwlad, Gwrths fel f 1 Hector bob gormes a brad! Yn barchus bo teulu'r GWLADGARWK 0 hyd— Yn barchtis tra'r Cynon yn suo'n ei chr d- Yn enwog tra careg yn nghrombil y graig— Yn glodfawr tra gwendon ar fonwes yr aig! A phan y radawont y ddaear ar ol, O! dyged en Ceidwad hwy'n ddlogel i'w gol, I chwyddo y fawl-gerdd berseiniol i'r Duw A'n eadwodd tra yma'n yr aniai yn byw. Hir oes apharch a llwydd i bawb drwy'n gwledd, A dwyfol nodder Cymro"* hyd ei fedd A llawer "blwyddyn newydd" lawn o swyn A gaffom oll-nes glanió'n Nghànaanfwyn. Cymro Gwyllt.
EISTEDDFOD YR ALFFREDIAID,…
EISTEDDFOD YR ALFFREDIAID, HEOL- GERIG, MERTHYR. Cynaliwyd yr Eisteddfod uchod dydd Nadolig diweddaf yn Salem, Heolgerig, o dan lywydd- iaeth y Parch. J. Evans, gweinidog y lie. Y beirniaid oeddynt Nathan Dyfed a T. Rees, Merthyr. Enillwyd y gwahanol wobrwyon fel ycanlyn Canu, "Cwyn yr alltud," William Jones, Crox; can ar "Beryglon ygtowr," Robert Griffiths, Heolgerig, a W. Williams, Clwydyfagwyr, yn gydfuddugol; adroddiad, "Dowch adref, fy nhad," Sarah Davies, Heolgerig; canu, "Old Louse at home," dwy o Gellideg am yr eng- lynion i'r "Meddwyn," Hywel Morganwg a Dafydd Bowen, Cwmbach am ganu y deuawd "Heber," Rees Price, Cwmbach, a Richard Williams, Heolgerig, a'u cyfeillion, rhyngddynt; can ar "Undeb y gweithwyr," rhoddwyd un haner o'r wobr i Hywel Morganwg, a rhanwyd y rhan arall rhwng Gwallter Brycheiniog, Cefn- coedcymer, a Morgan Maldwyn, Cwmbach; canu tdn ar y pryd yn y tonic sol-fa, Samuel Evans, Heolgerig; canu, "Awn, awn ar frys," gan gorau o blant, cor Heolgerig a chor Gellideg rhyngddynt; canu solo bass, "Teyrnasoedd y ddaear," Rees Price, Cwmbach; beddargraff i'r diweddar John Simon, Brynteg, Dafydd Bowen, Cwmbach, a Hywel Morganwg, rhyngddynt; canu y "Gwenith gwyn," Leah Harris, Blaen- caoaid llinellau coffadwriaethol i'r diweddar Thomas Owen, Heolgerig, yr hwn a gafodd ei ddiwedd yn nhanchwa gyntaf Blaenllechau, Hywel Morganwg; canu Morgan hen," rhan- wyd y wobr rhwng Rees Price, Cwmbach, a Benjamin Griffiths, Heolgerig, a'u cyfeillion; yr euglynion i'r llywydd, Hywel Morganwg; ad- road "Y Niagara," John Evans a Morgan levies, Heolgerig; y ddn, mesur 4, James Mey- riek, Clwydyfagwyr; canu "Cwymp Llewelyn," parti o Gellideg a pharti o Clwydyfagwyr rhyng- ddynt y traethawd ar "Wagedd," J. Conwyson Roberts, Merthyr; canu tdn ar y pryd, gan forched dan 15 oed, yn y ionic sol-fa, Jane Jonas, ond rhoddodd y beiixuad yr un faint o wobr i EEzabeth Thoiaas, y ddwy o Clwydyfagwyr; canu tdn ar y pryd, gan berson o unrhyw oed, rhanwyd y wobr rhwng Rees Price, Cwmbach, a John Webber, Gelli,aeg araeth ddifyfyr, W. Edwards, Clwydyfagwyf; cadu, "Joanna," eor I Heolgerig, dan arweinlad Mr. Rees Abraham; < canu Y ffrwd," rhaaowyd y wobr rhwng cor Heolgerig a chor Gellideg. Dygodd hyn waith y dydd i derfyniad.
BRYNAMAN A DIRWEST.
BRYNAMAN A DIRWEST. Y mae yn hen bryd i'r pwnc yma ddod yn bwnc y dydd, a da genyf allu eich hysbysu ei fod wedi dod yn bwnc y dydd a'r nos yma. Y mae y teimlad fel lefain yn y blawd," wedi bod yn gweithiyyma er ys amser, ac y mae, erbyn hyn wedi tori allan yn ffaith bwysig yn y He. Y mae dynion goreu a blaenaf yr ardal ar eu hegni o blaid sobri y wlad. Nid wyf yn meddwl fod yma un dyn nad yw yn teimlo angen am ddiwygiad gyda phwnc yr yfed yma. Bu Robyn Ddu Eryri yma yn rhoi darlith ar y testyn, ac yr oedd yn un o'r darlithiau goreu a glywsom erioed ar y pwnc. Byddai yn werth i bob ardal dalu am ei gael yno i ddweyd ei bethau rhagorol a'i resymau di- droi yn ol o blaid dirwest. Y mae wedi bod yma ddwywaith o'r bron, yn traddodi tair darlith a phregeth. Y mae y gwahoddiad dyblyg yna yn llefaru yn uchel am dano fel un o'r siaradwyr goreu. Pawb sydd yn teimlo dros achos sobrwydd, mynwch Robyn i ddweyd gair o'i blaid-fe dal ei ffordd i chwi. Y mae y Band of Hope" a chlwb dir- westol wedi eu ffurfio yma, ac y mae tua 200 wedi ardystio yn barod, a chyfarfodydd hy- nod boblogaidd a llewyrchus yn cael eu cynal gan yr aelodau. Eled y diwygiad trwy y wlad o'r bron, nes cael undeb dirwestol rhwng yr ardaloedd. Feallai, ar gais plant y "Band of Hope," y gwelwch yn dda gy- hoeddi y ddau benill yma, er iddynt gael mantais i'w dysgu, i'w canu ar yr hen alaw Gymreig Merch Megan :— Mae'n gwella o hyd—mae'r dwyrain yn agor, Mae cenad y dydd ar gopa y bryn Mae ysbryd y byd yn erfyn am ragor, Yn erfyn yn brudd am ragor o'r gwyi: Mae'r wawr ar ei hedyn, a'r haul yn ym- A dylif o oleu yn llanw y byd, [ddyrchu, Mae meddwon y wlad at sobrwydd yn cyrchu I uno'n y gan—mae'n gwella o hyd. Mae'n gwella o hyd—mae'r cor yn cynyddu, A rhywbeth o'r nef yn disgyn fel tan Mae genau y mud am don yn awyddu, A lief ar olllef yn chwyddo y gan Mae benyr diwygiad yn britho'r uchelion, Fel adar y gwanwyn yn cerdded y byd— Plant dirwest a'u can yn Hanwlr awelon, Arwyddion o haf—mae'n gwella o hyd. Brynaman. W. WYN.
[No title]
DR. HUNTER'S Special Lectures to Young Men, on HEALTH, ITS RESTOR- ATION, AND HAPPY MABBIAGES.-When to marry, with advice to those who contemplate marriage, pointing ont certain impediments which render married life unhappy, and directions for thelr (tpeedy removal, f Should be read by all who value health, strength, and man- hood, and wish to attain a happt old age.—Post free on receipt of two stamps. — Address, Secretary, Institute of Anatomy, Birmingham. SARON, ABERAMAN.- Y maeyn wybyddus i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y GWLADGARWR fod yr eglwys uchod wedi myned i gryn dipyn o ddyled wrth adnewyddu nen y capel a'r esgyn- lawr. Cymerodd cyngerdd le Ion. laf, pryd y llywyddwyd gan Dr. Devonald, ynabsenoldeb IJ. Llewelyns, Ysw., yr hwn oedd yn glaf. Cymerwyd rhan gan ypersonau canlynol:—Mr. L. H. Evans, perdonegydd, a'r c6r, yn cael eu cynorthwyo gan Undebol Aberdar a Mr.W. Davies, Abertawe. Yr oedd yn noswaith an- ffodus oherwydd gerwindeb y tywydd, er hyny i gyd, cafwyd cynolleidfa fawr.—J.W. CRYNANT.-Nos Nadolig, cynaliwyd cyfar-1 fod llenyddol yn nghapel y Methodistiaid yn y lie uchod. Treuliwyd y cyfarfod mewn canu ac adrodd, ac yr oedd yn ddymunol iawn gweled cynulleidfa mor dda o blant a dynion leuainc wedi dyfod at eu gilydd. Y mae hyn yn brawf fod chwaeth at bethau da yn aros yn meddyliau yr ardalwyr. Yr oedd yr adroddwyr yn dangos eu bod wedi llwyr-ymroddi at eu gwaith. Llyw- yddwyd y cyfarfod gan Mr. Henry Jones, yr hwn sydd bregethwr tra chymeradwy yn y He. Yr oedd yn ddymunol gweled pob peth yn cael ei ddwyn yn miaen mor reolaidd. Terfynwyd trwy weddi, ac ymadawodd y dorf ag arwyddion eu bod wedi cael eu boddloni.—GWILYM BACH. BRYNSION, MOUNTAIN ASH—Nos Fer- cher, Ion. 3ydd, traddodwyd darlith ar y Ta- bernacl yn yr anialwch," gan y Parch. Isaac Jenkins, Caerdydd. Yr oedd y ddarlith yn dda, a phawb yn teimlo wrth eu bodd, ac yn dymuno cael mwy o ddarlithiau cyffelyb yn y dyfodol oddieithr rhyw ychydig fodau a fnont yn pres- wylio gerllaw y fan yr adeiladwyd y tabernacl, ac a broffesant wybod mwy o'i hanes na'r dar- lithydd. Rhoddodd cor Caegarw eu gwasanaeth yn rhad, a mwy na hyny, darfn i bob un o hon- ynt, fel dynion llawn cydymdeimlad, brynu pobo docyn, a thrwyhynyhelpn llawer ar y gweiniaid pspi ajr lawr. Bydded hir oes i'r cor a'i arweinydd i gadwy clody maent wedi ei enill. Dymunaf, dros yr eglwys, gyflwyno diolch- garwch i'r cor, yr arweinydd, ar gweinidog, am eu gwasanaeth rhad.—YANKEE. RHIGOS.—DARUTH.—Nos Lun, Ionawr laf, yn nghapel Annibynol y, Ile uchod, traddododd y Parch. D. Thomas, y gweinidog, ei ddarlith ar "John Williams y CenadwrJ' Rhoddodd hanes oyson a dyddorol o hono o'r adeg yr ysgydwyd ei gryd gan law ofalus mam dyner ac anwyl, yn Tottenham, dinas Llundain, hyd ei syrthiad i ddwylaw y brodorion anwar ar draeth- sll tywodlyd Erromanga, yn Ynysoedd M6r y De. Yr oedd yn ddarlith wir dda, a'r traddod- iad o honi yn ddealladwy a gwrandawgar, Yr oedd Mr. Thomas gyda'r ddarlith honyn rhoddi gofal eglwys Rhigos i fyny, oherwydd anghyf- leusdra, gan gyfyngu ei Mar a'i wasanaeth yn hollol o hyn allan i?n chwaer-eglwys yn Ebenezer, Tonypandy. Bu yn gweimd^g^ethu yn einplith am bum mlynedd, acmM haeadiant a theilyngdod ja ein i'w^meradWy6, ar ei ymadawiad fel gwtanidog ffyddleta, gostyngedig. Mae Mr. Thomas fix uch& yn ¡ i If.¡ irosto ef a'i deulu hyd y diwedd, yw dymuniad ) iilys ei edmygydd diRhant.—GwiLYM ALAW. SOAR, PONTLOTYN.—Cynaliwyd Eistedd. i fodyn y capel uchod dydd LLun Nadolig. Apr- weinydd, y Parch. J. P. Williams; lljhpydd, iy Parch. D. Oliver Edwards, Glyn Ebbwy. Beirn- iaid: yr adroddiadau, y Parch. D. Oliver Ed- wards y gerddoriaeth, C. D. Lewis, Ysw., (Cerddor Gwalia.) Anerchiad gan y llywydd. Anerchiadau gan y beirdd. Cystadleuaeth ar ganu unrhyw alaw; buddugol, Mr. E. Jones, Rhymni, a Mr. J. Jones, New Tredegar. Cys. tadleuaeth can a chydgan, "Morgan Hen;" buddugol, parti o Penuel, Rhymni. Cystadleu- aeth corau y plant; rhanwyd y wobr rhwng corau Moriah, Rhymni, a Soar, Pontlotyn. Ad- roddiad; buddugol, J. Perkins (Dyfnwal Dyfed), ac Edward Williams. Deuawd, "Y Gareg ,9 Ateb;" buddugol, Mri. J. Jones a Wm. Griffiths, New Tredegar. Canu "Y 'Deryn Pur," gan ferched; goreu. Mrs. Evans, Pontlotyn. Darfien cerddoriaeth ar y pryd; cydfuddugol, Mr. J. Williams, Moriah, a Mr. J. Jones, Seion, a'u cyfeillion. Canu "Y Fordaith;" buddugol, Mr. John Jones a'i gyf. Cystadleuaeth ar y prif ddarn, "Halelujah Chorus," (Handel)—gwobr, £ 15; tri chor yn cystadlu, sef Cor Undebol y Dyffryn, Cor Undebol Twyncarno, a Chor Moriah, Rhymney. Rhanwyd y wobr rhwng cor Twyncarno, dan arweiniad Mr. J. Jones, (Alaw Emlyn) a chor Moriah, dan arweiniad Mr. J. Williams, (Gwilym Cledah), un o fech- gyn cerddorol Llanwrtyd. Y Gyngherdd.— iShoddwyd cyngherdd ardderchog am saith yn yr hwyr. Canwyd "Rhyfelgyrch Gwyr Har- lech" i ddechreu gan yr holl dorf—Mr. J. Wil- liams, (Gwilym Cledau), yn arwain, a Mr. S. S. Lewis yn chwareu yr harmonium. Canwyd gwahanol ddarnau gan Mri. G. Jones, New Tre- degar; Alaw Emlyn a'i gyf., M. James, a Mrs. Evans. I ddiweddu, canwyd yr "Hallelujah Chorus" gan y tri chor, a D. D. Lewis, Ysw., (Cerddor Gwalia), yn arwain. Cafwyd cyng- herdd ardderchog, ac y mae gan y pwyllgor dros jE20 o elw arol talu y treuliau.-UTHR BENDRA- GON. HERMON, YSTRADFELLTE.-Nos Nadol- ig traddodwyd darlith yn y lie uchod gan y Parch. R. Evans, Bethel, Trecynon, Aberdar, ar "Y glust a'r tafod." Cymerwyd y gadair gan Mr. Morgan, Gwemyblithe, yr hwn ar ol anerchiad byr a phwrpasol, a alwodd ar y dar- lithydd at ei waith, yr hwn a ddaliodd y gynull- eidfa fel pe buasai yn crogi wrth ei wefnsau, trwy arllwys hyawdledd allan am oddeutu dwy awr, ac yna terfynodd ynnghanol y gymeradwy- aethuchaf. Cynygiwyd diolchgarwch y cyfar- fod i'r darlithydd gan Mr. J. Evans, Gareg Fawr, ac eiliwyd gan Mr. Morgan, Bronwydd. Hefyd cynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd fan y darlithydd. Dymunaf ddweyd am Mr. lorgan fel cadeirydd, fod y "right man in the right place." Y mae yn dweyd yr hyn sydd ganddo i'w ddweyd mewn ychydig eiriau, ac nid yw un amser yn treulio amser i siarad pan na fydd ganddo ddim o ddyddordeb i'w ddweyd. Y mae yn sirioli y gynulleidfa a'i arabedd, a thrwy hyny yn parotoi ei meddyliau i wrando. Hefyd, rhywfodd, y mae dylanwad gan ei bresenoldeb, ac awdurdod yn ei amneidiau. Am y ddarlith a'r darlithydd, rhaid i mi ddweyd eu bod yn mhell uwchlaw ein dysgwyliad; nid oedd Mr. Evans ond dyeithr i'n hardal cyn hyn. Dichon nad yw o gymaint pwys pa beth a ddy- wedaf am y ddarlith, gan nad oes gan y wlad ymddiried ynom fel beirniad; ond dywedaf, er fy mod wedi clywed y prif ddarlithwyr i fyny hyd yn nod at Hiraethog, nas clywais erioed well darlith. Mae yn tueddu i ddwyn dyn o ran ei feddwl, i ystyried ardderchawgrwydd y corff yn mha un y preswylia, a'r y dull y mae yn peryglu ei hun pan anmharcher y cyfryw. Mor rhwydd y gellir dinystrio y corff dynol trwy atal neu niweidio rhyw ranau o beirianwaith y cyfan- soddiad. Hefyd, gan fod dynion yn gwahan- iaethu cymaint ar eu gilydd mewn chwaeth, y mae y darlithydd wedi bod yn hynod ofalus i goginio ar gyfer pob dosbarth, fel yr oedd yn meistroli meddyliau yr holl gynulleidfa, a thrwy hyny yn eu cadw wrth law mewntrefn i dder- byn pob syniad o bwys. Credaf y dylai gael croesawiad "Caru, priodi, a byw" Gwesyn, sef cymelliad i'w thraddodi yn mhob man, ac nas boddlonirar ei gwrando yn unig, ondy myner hefyd ei hargraffii. Cofier nad wyf yn dweyd ei bod yn rhyw gyfangorffo gyfansoddiad gwreidd- iol, hyny yw yn feddyliau newyddion i gyd ond eto bydd y gwrandawyr yn sicr o deimlo fod y casgliad a'r cyflead o feddyliau hen a newydd, yn nghyda'r traddodiad o honynt mor wreiddiol ac mor newydd i'w clustiau a dim a glywyd erioed. Y mae yn sicr o fod yn werth i bob cynulleidfa i'w gwrando.—Preswylydd y Gareg. BWRDD YSGOL CILYBEBYLL.—Dymunaf eich hysbysu fod gwall lied bwysig rhywfodd yn hanes cyfarfod y bwrdd uchod a ymddangos- yn y GWLADGARWR am 30ain o Ragfyr, yn y frawddeg hono syddyn darllen fely canlyn :— Hefyd hysbysodd y cadeirydd fod D. Smith, Ysw., wedi llwyddo i dynu UU y Returning Officer i lawr i £ 5." Dylasai fod fel y canlyn:— "fod D. Smith Ysw., wedi llwyddo i dynu bill y Retnming Officer i lawr 95. Yr oedd y bill yn jMO 10s. 2d. ond fod bill yr Overseer £ 2 5s. yn gynwysedig ynddo; felly, rhwng y £ 5 uchod a bod y bwrdd wedi tynu bill yr Overseer i'lawr o gwbl o £ 40 10s. 2d. i ze34 5s. 2d. Mae yr Infant School wedi dechreu er dydd Mercher diweddaf, y 3ydd eyfisoL Cwyno cyffiredinol sydd fod y Bwrdd wedi gosod tal wythnosol y plant yn rhy uchel, a gobeithir y bydd iddynt ail ystyried y mater.-GLAN LLECHAU.
Advertising
BRZAXPAST-EPPITS COOOA.—GBAXETUL AND COMTOB Hue.—" By a thorough knowledge of the natural law' which govern the operations of digestion and nutrition, and by a careful application of the line properties) of well- ulected eoooa, Btr, Eppo has provided out hrtakfast tables with a ueUbcately flavoured beverage WhIch may save 'us many heavy doctors' bill* "—CHvU Servias Omette, ■ Blade simply with boiling water or mll^. Bach packet is labelled—JAJUIS -EPFB & Cdij Homoeopathic Chemists, London. Also, makers of EPIII' Caoaoine, a very thin eventny beverage, i '1,
[No title]
Yr oedd marchnai-y gWetrith jn tueddu i J^yned i fyny ddydd Llwi di#eddaf yn Llun- dain. v .v vo! Y mae Llywyddiaeth Ggylon wedi ei dderr byn gan Mr. W. HJOreg^JuS. 4J?OS Gal- away, a bydd iddo gfcSwfn o L6egr tuag yno ryw bryd yn nods MMeaoL 'i 0; Yrydjrm yn cael o Njew York fod Brighani Young wedi rhoddi ei hun i fyny fel carcharor i sefyll ei brawf, a'i fod yn garcharor yn ei dy ei hun. Boreu dydd Sul diweddaf cymerodd gwrth- darawiad Ie rhwng dwy gerbydres mwn ar Reilffordd y Great Western, yn agos I Tredegar. Lladdwyd guard un o'r cerbydresi, ac anafwyd y gyrwr yn fawr. Boreu dydd Iau diweddrf, ar yr Highland Railway, ffrwydrodd berwedydd perthynol 2 gerbydres nwyddau, yn fuan wedi gadael gorsaf Fochabers. Lladdwyd y breaksman yn y man, a chlwyfwyd y peirianwr a'r stoker yn fawr. Boreu dydd Llun diweddaf, yn Cheltenham, dienyddwyd Frederick Jones, am lofruddio un Emily Gardner, gyda'r hon yr oedd wedi bod yn ymgyfeillachu. Cyfaddefodd y tros- edd, ac mai yr achos o hono oedd eiddigedd drwgdybus. Y mae dyn, yr hwn a roddodd ei enw yn Williams, wedi cael ei gymeryd i fyny yn Limerick, ynmeddiantyr hwn y cafwydnodan arianol ffugiol ar Ariandy yr Iwerddon i'r swm o £ 40,000. Credir mai Americaniad ydyw, a bod y nodau wedi cael eu gwneud yn yr Unol Dalaethiau. Dydd Gwener diweddaf boddodd tri o ddynion oedd yn ngwasanaeth Cwmni Reil- ffordd Ross a Monmouth, wrth groesi yr afon Gwy mewn bad. Yr oedd y dynion anffodus yn myned o ochr y Welforcl i'r dyben o dder- byd eu cyflogau wythnosol o'r swyddfa, yr hon sydd yr ochr arall i'r afon. Yn ystod ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau a gymerodd le boreu dydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, tarawyd eglwys StMary, Higher Crumpsa 11, ger Manchester, a mellten, ac a daniwyd. Gwnawd pob ymdrech i roddi allan y fflamau, ond bu y cwbl yn ofer, a dinystrwyd yr oil o'r adeilad o'r tumewn. Y mae dirprwywr y New York Herald, yr hwn sydd mewn ymchwil am Dr Livingstone, yn hysbysu ei fod wedi clywed fod y Doctor wedi gadael Ujiji am Lyn Maniema. Ereill o'r brodorion a ddywedent ei fod wedi saethu ei hun ereill ei fod wedi ei glwyfo gan lew; tra y tystiai y lleill ei fod wedi marw. Cymerodd damwain dorcalonus le ya Ngweithiau tin Pontypwl, ddydd Iau di- weddaf. Fel yr oedd bachgen o'r enw Charles Rappel, oddeutu pymtheg oed, yn iro y peiriant yn agos i'r cog-wheel, cydiodd y cog yn ei wisg, a thynwyd ef i mewn, ac a wasgwyd i farwolaeth. Gorfuwyd tynu y peiriant yn rhydd cyn y gallwyd cael y corff yn rhydd. ABERDAR.— MARWOLAETH DYCHBYN- LLYD.-Boreu dydd Llun diweddai deuwyd o hyd i gorff un William Williams, gof, gynt o Hirwain, 48 mlwydd oed, o dau fur uchet yn St. John's-place, Trecynon. Gwelwyd ef yn fyw yn hwyr y nos o'r blaen, a bernir iddo syrthio dros y mur uchel hwn, yr hwn sydd yn 14 troedfedd o uchder, a disgyn as ei ben. Yn Arddangosfa Greaduriaid Manders, yr hon sydd wedi bod yn cael ei harddangos yn Bolton yn ystod Ffair y Flwyddyn Newydd, aeth y llew-ddofwr Massarti i mewn i ffau yn yr hwn yr oedd pump o lewod, a thra yn oedd efe yn arddangos am y tro olaf, ymosodd un o'r creaduriaid arno o'r tu ol. Ymladdodd y dofwr yn wrol, ond cydymosododd y llewod ereill arno, a lladdwyd Massarti ganddynt yn ngolwg rhyw pum cant o edrychwyr, y rhaf oeddynt wedi dyfod yn nghyd er ei weled yn myned trwy ei wrliydri gyda'r llewod. MAM YN LLOFRUDDIO EI PHLEKTYN.—■ Boreu dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, eyflawnwyd llofruddiaeth greulon gan fenyw o'r enw Patterson, yn byw yn Union-street, Cupar Fife, yr hon a laddodd ei merch fechan saith oed. Ymddengys fod y wraig wedi bod yn yfed am rai dyddiau, a'r dyb gyffiredin yw ei bod wedi ceisio gan y ferch fechan i ym- ofyn whisky iddi. Deuwyd o hyd i gorff y plentyn mewn llyn o waed, a'i gwddf wedi ef dori ag ellyn. Yn y cyfamser aeth y fam 2 geisio dogn o whisky, a'i dwylaw ar yr un pryd yn orchuddiedig a gwaed ei phlentyn el hun. CALLINEB ANIFEILIAID.—Yn ei lyfr dyddorol ar ddisgyniad dyn, rhydd Darwin amryw engreifffciau hynod o gallineb anifeil- iaid, ac yn eu plith yr un canlynol :_H Yu oedd gan un epaes galon mor dyner a char- iadus fel yr arferai, nid yn unig fabwysiadu pob mwnci bychan y caffai afael ynddo, ond hefyd cymerai gwn a chathod bychain, a chariai hwynt oddiamgylch fel babanod. Tra yn cario cath fefehan un diwrnod, crafodd hono hi ar ei thrwyn, ac ymddengys i hyny synu tipyn ar yr epaes. Y peth cyntaf a wnaeth oedd archwilio troed y gath, ac heb ychwaneg olol,lluagodd ymaith ei hewinedd.'
AT GLEIFION ABERDAR, MERTHYR.…
AT GLEIFION ABERDAR, MERTHYR. PONTYPRIDD, LLANELLI, A'R CYLCHOEDD. From W. BADHAM, Canton, Cardiff. I one day called with a chemist In the neigh. boorhood of Aberdare for a box of George'a Pilea and Gravel Pills and was supplied with what I supposed to be the genuine article. I was greatly surprised however, on opening the parcel, to find that instead of George's Pills, the chemist had deliberately cheated me by packing up a tpwrioua box of Pills. I had the right article however as Canton, and am much better since I took them. RHYBUDD.—Yn gymaint a bodiluaws oengrelfft* an twyllodrns o fath yr uchod yn cael eu crybwyU wrthyf, teimlaf rwymedigaeth I ddynoethl y cyt. ryw, ac hefyd i rybuddio y eyhoedd, fel na byddo iddynt drwy anwybodaeth gael en hud-ddenu I gy meryd PUU neu Powdert o wneuthuriad ereill, » dan y ffogeegus eu bod yn llawn cystal 01 nad swell dan y ffogeegus eu bod yn llawn cystal OB nad swell na 'George'* Pile and Gravel Pills." Gellir ym hawdd eu nadnabod a'u gwahaniaethu oddiwrtli swyddan yr *fdychwyr> dtweddar hyn, gsn fod enw y darganfyddwr ar Stamp y Llywodraetb, pa na • nrymir o ansgylch pob blwch Hlrwaun. jr. E GEQRGE, MJURS. ,t '{l ."(. 1,