Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD CASTELLNEDD.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD CASTELLNEDD. Y mae eich amodau yn cyfyngu y gystadl- euaethgorawl i rai na enillasant 915 o'r blaen. A ydych felly yn cau allan gor a enillodd harmonium gwerth £ 15? Os ydych yn cy- fyngu o gwbl, nid wyf yn meddwl y^bydd yn deg i gor a enillodd werth yr uchod gael cys- tadlu. Gair o eglurhad ar yr uchod a fodd- lona. ereill heblaw UN AM WYBOD.
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB DEHEUOL MORGANWG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Brynmenyn ar ddyddiau Mawrth a Mercher, Ion. 2 a'r 3. Cynaliwyd y gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, y Parch. J. Davies, Taihirion, yn y gadair. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. J. Evans, Dowlais, ac yna cydunwyd ar y penderfyniadau canlynol 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn y Groes- wen, yn ol y gylchres, yn nechreu Ebrill. 2. Ein bod yn rhoddi derbyniad cynes a chroesawus i'r Parch. W. Morris, Brynmenyn, i'r undeb. 3. Gan fod ein hanwyl a pharchus frawd, y Parch. R. S. Jones, Treoes, wedi pender- fynu ymfudo i'r America-yr hyn sydd yn achos hiraeth a cholled i'r cyfundeb yn gyff- redinol, yn gystal ag i'r eglwys oedd dan ei ofal—ein bod yn ei gymeradwyo yn y modd mwyaf gwresog i sylw parchusaf yr eglwysi a'rgweinidogion yn y wlad hono, felgweinidog ffyddlon, pregethwr cymeradwy, a Christion diargyhoedd; ein bod yn gwir ewyllysio ei lwyddiant ef yn mhob ystyr, ond yn benaf fel gweinidog da i Iesu Grist; ac yn dymuno amadifiyniad y nef6edd drosto ef a'i briod. Dyrnunir ar i'r uchod gael ei gyfodi i'r Drgch a'r Cenadwr. 4. Ein bod yn llawenhau fod y personau canlynol wedi addaw gwneud eu goreu yn y cyfundeb hwn o blaid Trysorfa y Gweddw- on" yn ystod y flwyddyn hon:- Y Parchn. J. Evans, Maendy; J. Griffiths, Glantaf W. C. Davies, Llantrisant; a J. Rees, Tre- Iierbert. 5. Ein bod yn llawenhau yn mwriad H. Richard, Ysw., A.S., i ddwyn gerbron y Senedd yn ystod yr eisteddiad nesaf, fesur er sefydlu cynllun cyffredinol a pharhaol o gyflafareddiad rhwng cenedloedd a'u gilydd, ac yn dymuno cymeradwyo yr amcan i sylw yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd fel un teilwng o'u cefnogaeth fwyaf effeithiol. 6. Fod y gynadledd hon yn ystyried y dar- pariadau sydd yn Neddf Addysg Elfenol '70, yn cefnogi ac awdurdodi talu arian y cyhoedd at gynal ysgolion enwadol, y rhai nad oes gan Fyrddau Ysgol un llywodraeth drostynt, yn wir niweidiol i gyfundrefn genedlaethol o addysg-yn drosedd pwysig ar hawliaumwyaf cysegredig cydwybod a rhyddid-yn achos parhaol o anhawsderau crefyddol a drwg- deimlad enwadol, ac am hyny yn taer gymell y Senedd i ddiddymu y fath ddarpariadau yn ystod yr eisteddiad nesaf, a chyfnewid y ddeddf fel ag i gyfarfod a gofynion addysgol y wlad. Hefyd, fod copi o'r penderfyniad hwn i gael ei anfon i Mr. Gladstone, A.S., Mr. Forster, A.S., a'r aelodau dros v sir. 7. Fod y gynadledd hon, wrth ystyried mawredd y troseddau, y tlodi, yr afiechyd, yr anfoesoldeb, a'r trueni o bob natur sydd yn ffynonelli yn y fasnach mewn diodydd meddwol, yn llwyr argyhoeddedig ei bod yn rhwymedig ar y Senedd, er amddiffyn llwydd- iant moesol, cymdeithasol, a gwleidyddol y deyrnas, i basio Mesur Trwyddedol yn ystod yr eisteddiad nesaf, yn cynwys, yn mysg ad- ranau ereill, y rhai canlynol :-Lleihad yn nifer y tafarndai ac oriau y gwerthiant, llwyr ataliad y gwerthiant ar ddydd yr Arglwydd, ynghyd a gallu i drethdalwyr pob lie i rwystro rhoddiad trwyddedau pan yn cael eu gwthio i'w mysg yn groes i'w hewyllys. Hefyd, fod copi o'r uchod i gael ei anfon i Mr. Gladstone, A.S., Mr. Bruce, A.S., ynghyd a'r aelodau dros y sir. 8. Ein bod yn llawenhau yn mwriad y Parch. W. Morris, Brynmenyn, a'r eglwys sydd dan ei ofal, i adeiladu capel newydd yn Abercynffig yn ystod y flwyddyn hon, ac yn mawr gymeradwyo yr amcan. 9. Fod y Parchn. J. M. Evans, Caerdydd, a W. Morris, Brynmenyn, i bregethu ar y pyneiau yn y cyfarfod nesaf-y blaenaf ar "Weddi," a'r olaf ar "Yr eglwys a'r byd paganaddd." Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. J.B. Joues, B.A., Penybont. Yr ail ddydd, cydnabyddwyd yn wir ddiolchgar y Parchn. T. George, Dinas, a J. Griffiths, Glantaf, am eu pregethau gwir dda ar y pyneiau rhoddedig. Pregethwyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. T. George, Dinas J. Evans, Dowlais J. Griffiths, Glantaf J. M. Evans, Caefcdydd; J. Farr, Docks; J. Evans, Maendy; T. L. Jones, Machen J. Davies, Taihirion W. I. Morris, Pontypridd a D. Richards, Caerffili. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r cyf- arfodydd yn wir ddylanwadol. Arosed yr effaith yn hir yn y gymydogaeth. Da oedd genym gael ar ddeall fod yr achos mor lle- wyrchus yn Brynmenyn o dan ofal Mr. Mor- ris. Bydded i'r llwyddiant sydd wedi dechreu barhau yn hir a chynyddu yn fawr yw ein gwir dymuniad.-W. ISAAC. MORRIS, Ysgrifenydd.
LLOFFION O'R LLAN.
LLOFFION O'R LLAN. Hawddamor i ti, y GWLADGAHWE, lion, am dy ymweliad 4 ni y flwyddyn newydd eto. Y mae yn lion genym dy weled a'th dderbyn bob amser, a hyny am y cysylltiad sydd rliyngom bellach er y dydd y'th anwyd. Bydded i ti a Llwyd fyw byth mewn undeb < a ehvdweithrediad a'ch gilydd. Y mae tri- ] golion y Llan wedi mwynhau eu gwyliau ) ] Nadolig, ac yn dechreu ar flwyddyn newydd yn hapus iawn. Un o'r pethau yn hon ydyw CYNGHERDD ALAW DDU. Cawsom hon yr ail noson o'r flwyddyn, a gallwn dy sicrhau mai nid erthyl o beth ydoedd, Cei di farnu oddiwrth y programme, ac am y perfformio nid oes eisieu i ti fod mewn petrusder o gwbl yn ei gylch. Cy- merwyd y gadair ar yr achlysur hwn gan Cadben Thomas Jones, ein harbour master. Dyma ddyn wedi ei dori allan gan ragluniaeth i fod yn wasanaethgar mewn cyfarfodydd cy- hoeddus. Y mae ei dy o glai o'r gwneuthur- iad goreu a mwyaf celfydd. Nid oedd tecach tygan Adda yn Eden. Yn canlyn wele y programnw: Hosanna i Fab Dafydd," gan y cor. "Arm, arm ye brave," gan Mr. R. C. Jenkins a'r cor. The Minstrels adieu," gan Mr. Frost ar ei delyn. 4 < Mor hawddgar yw dy bebyll," gan y cor. "Y Cardotyn," gan Mrs. Williams. Cyfansoddwyd hwn yn uniongyrchol at wasanaeth y noson gan Alaw Ddu. But the Waters,' gan y cor. "0 thou that tellest," gan Miss Morgans. Le Maggei di Figaro," gan Mr. a Mrs. Frost. Yr Arglwydd yw fy Mugail," gan y cor. Loud as the thunder's awful voice," gan Mr. D. Morris. "He smote all the first- born of Egypt," gan y cor. Dyma y rhan gyntaf. Yr ail )-" Gogoniant i Gymru," gan Mr. R. C. Jenkins efo'r delyn. "Friallen gyntaf," gan y cor. "Peace to thy spirit," gan Mrs. Williams a Miss Morgan. Harp Fantasha, "On the Welsh Airs, "—Mr. Frost. "The blind girl to her harp/'—Miss M. J. Randell. "Murmur y gragen," gan y cor. "Dyfyrwch Arglwyddes Owain," gan Miss Morgan. "The old arm chair," gan y Llew. "Should he upbraid," gan Mrs. Williams. "Weber's last Waltz,"—Mr. a Mrs. Frost. Hefyd canwyd pump o ddarnau gwychion ereill, y rhai y maeynflingenymnas gallwn eu nodi allan ar hyn o dro. Fe wel y darllen- ydd yn awr chwaeth y programme, fel na raid i "Arthur wrth ffyn baglau." Diau ei bod yn un o'r cyngherddau goreu a gafwyd y tu yma i wlad Hengist. Y mae cor Alaw yn dda, ac yn neillduol Mr. R. C. Jenkins, yr hwn a ddaw yn ddyn cyhoeddus, ac yn un o'r Baritones goreu, yn ol tystiolaeth dynion llygadgraff. HEN LOFFWR.
.CONGL Y GWEITHIWR.
CONGL Y GWEITHIWR. CYFARFOD CYFFREDINOL GLOWYR CAERPHILLY. Cyfarfyddodd holl lowyr y lie hwn yn ystafell yr Undeb, ddydd Llun, Ionawr laf, yn ol y penderfyniad blaenorol. Cyfarfydd- wyd am ddau o'r gloch, ac wedi penodi cadeir- ydd, awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod, pryd y cafwyd anerchiadau gan amryw o'r gweith- wyr ar ddaioni yr Undeb, &c. Pasiwyd yn unfrydol yn y eyfarfod hwn, ei fod yn ddyledswydd ar bawb nad oedd wedi uno a'r Undeb, i wneud felly ar unwaith. Hefyd, ei fod yn anghymeradwyo dull y meistri tuag at y gweithwyr yn y lie hwn, yn wahanol i barthau ereill o sir Fynwy. Gan fod y meistri wedi penderfynu y mis diweddaf i roddi y pump punt y cant oedd ar ol, a dwy geiniog y dynell o godiad hefyd, y mae holl weithwyr y lie hwn yn cyduno i roddi y diolchgarwch gwresocaf i'r meistri hyny a safodd at eu haddewid, tra ar yr un pryd yn anghymeradwyo y dull y gweithreda y meistri yn y lie hwn, yn gwrthod cydweith- redu ag ereill o feistri Mynwy. Nid ydynt yn rhoddi yma y pump punt y cant oedd yn ddyledus er ys tair neu bedair blynedd yn ol, a'r hyn yr oeddynt wedi addaw ar y cyntaf o Ionawr, 1872. Y mae y weithred hon o eiddo ein meistri wedi creu teimladau cynhyrfus yn holl weithwyr y lie, ac nid ydynt yn ei ystyried ond anghyfiawnder o'r mwyaf. Rhoddwyd mis o rybudd yma heddyw, a theimlad y gweithwyr ydyw, fod pedair ceiniog y dynell yn ddyledus yma yn awr, yn ol y cytundeb a wnaethpwyd rhwng y gweithwyr a'r meistri yn y flwyddyn 1845, pan y penderfynwyd gan ddau o'r meistri fod pedair ceiniog y dynell yn fwy yn ddyledus am dori gwythien Caerphilli nac oedd am dori gwythien Mynyddislwyn. Yn awr, gan fod 2s. 6c. y dynell am dori glo Mynyddislwyn, a dim ond yr un peth am dori glo Caerphilli, gwelir fod y rhai a weithiant yn y lie olaf bedair ceiniog y dyn- ell ar ol. Hefyd, penderfynwyd fod mudiad yr wyth awr i ddechreu heddyw,-o saith y boreu hyd dri y prydnawn. Gobeithir y bydd i holl ardaloedd Deheudir Cymru wneud yr un modd. Yr ydym hefyd yn protestio yn erbyn dull caled meddyg y lie hwn, yn gofyn 2s. 6c. am arwyddo nodyn claddu! ag hefyd 10s. am attendio gwragedd y gweithwyr. GOHEBTHDD. HELYNT Y GYFLAFAREDDIAD. Y mae Mr. Macnamara, barrister, wedi cael ei ethol yn ganolwr yn yr helynt cyflaf- areddol sydd ar gymeryd lie rhwng y meistri glo a'u gweithwyr, eisteddiad cyntaf pa un a gymeryd le ar y 29ain o'r mis presenol. FeI: y gwyr ein darllenwyr, Mr. Bidder sydd wedi ei ethol ar ran y meistri, a Mr. Mac Donald ar ran y gweithwyr. PWNC Y CYFLOGAU YN Y FOREST OF DEAN. Y mae annealldwriaeth cyffredinol yn bod- oli rhwng meistri a gweithwyr o barthed cyflog yn nghymydogaeth y Forest of Dean, ac oddiwrth yr hanesion diweddaraf sydd wedi ein cyrhaedd, y mae yn ymddangos fod y gweithwyr hefyd yn dechrenymranu- rhai yn gofyn pump punt y cant o godiad, a'r lleill ddeg punt y cant. Y mae yn fwy na thebyg y boddlona y meistri i roddi codiad o 5 punt y cant, ond na roddant i fyny i'r hyn a ofyna y gweithwyr mewn perthynas i'r pwyso, nac ychwaith i fudiad yr wyth'awr. AT LOWYR LLANILLTYD VARDRB. Mae yn wybyddus bellach fod gan y gweithwyr shopau eu hunain mewn gwahan- ol fanau, pa rai sydd yn talu eu ffordd yn dda. Y mae yn y lie hwn oddeutu 600 o bobl. Achaniatau fod yma 250 o benau teulu- oedd, pe byddai i bob un o honynt gyfranu £1 yr un, byddai hyny yn ddigon i gychwyn shop o'r fath oreu. Y mae yma rai yn tystio eu bod yn methu talu eu ffordd cyn iddynt ymuno ag un o'r shopau hyn. Y mae shopau y gweithwyr yn talu mewn lleoedd ereill, ac nid oes un amheuaeth na fuasai yn gwneud yr un modd yn Llanilltyd Vardre. Dywedir fod boneddwr yn bwriadu dyfod yma cyn hir er rhoddi i ni ychydig o eglurhad o berthynas i shopau o'r fath. Bydded i ni un ag oil, gymeryd y pwnc hwn i ystyriaeth, a gwneud pob ymdrech i gael shop wedi ei sefydlu. NED. GWEITHWYR HAIARN STAFFORDSHIRE. Dydd Llun diweddaf cynaliodd gweithwyr haiarn North Staffordshire gyfarfod er dadleu y priodoldeb o drosglwyddo unrhyw anneall- dwriaeth o barthed cyflog i lys cyflafareddol, yn gynwysedig o feistri a gweithwyr. Nid yw y cytundeb a wnawd rai wythnosau yn 01 mewn pwyllgor cyfansawdd o feistri a gweithwyr, yn yr hwn y cytunodd y gweith- wyr i weithio hyd ganol haf ar y telerau o 9s. 6c., y dynell am buddlo, pa un bynag a'i codi a'i gostwng a fyddai i bris yr haiarn, yn gytundeb safadwy rhwng yr holl weithwyr.
MARWOLAETH CRAWSHAY BAILEY.
MARWOLAETH CRAWSHAY BAILEY. Boreu dydd Mawrth diweddaf, yn ei anedd- dy, Llanfoist House, yn agos i Abergaveny, yn 84 mlwydd oed, bu farw Mr. Crawshay Bailey. Y mae enw y boneddwr hwn mor adnabyddus yn Neheudir Cymru a nemawr enw, a hyny yn benaf o herwydd ei gysylltiad fel perchenog am gynifer o flynyddoedd a rhai o brif weithfeydd ein cymydogaethau ac nid oes amheuaeth nad yw wedi gwneud j cymaint a neb tuag at ddwyn adnoddau mwnol Gwent a Morganwg i'r amlwg. Yr oedd Mr. Bailey yn perthyn i Mr. Crawshay, Cyfarthfa, sylfaenydd y firm enwog a ddech- reuodd wneuthur haiarn ar raddfa eang yn Neheudir Cymru. Pan y bu efe farw, gadaw- gymunrodd anrhydeddus i Mr. Crawshay Bailey a'i frawd Joseph. Wedihyny, dechreu- odd y ddau frawd ar y fasnach haiarn, ac a brynasant weithiau Nantyglo. Er yr adeg hono hyd yn ddiweddar iawn, bu y trancedig yn enwog fel dyn o fasnach, a chasglodd gyfoeth sydd bron yn annherfynol.
Advertising
Ueddyainiaeth i anwyd a Pheswch trwy Wafers Pul. LOOOCK.~U.I. Gilea, \s<olfeistr y Fyddin, aaoraoliffe, a ysgrifena Tach. 16, 1869: -'Wedi bod aw mymyddo. dd yn dyoddef oherwydd chest wan. trwy yr hyn yr oeddwii ya hynod o agored i anwyd a pheswch., dymonwyf ddwyn fy nhyatiolaeth i effeithiolrwydd Wa. fers Dr. Locock, y rhai yr ydwyf wedi en defnyddio gyda llwyddiant ma-vr, a'r rhai yn ddieithriad a'rn rhyddhan t oddiwrth y peswoh mwyaf annyoddefoL-VArwyddwyd.) B, Giles.' Rhydd y Wafers hyn ryddhad unionsjrrMOl odiivreth Asthma, Darfodsdigaeth, Peswoh, Anwyd, as anhwylderan y gwddf a'r ysgyfaint. Y mae iddynt flas. dymunol. lB. le. y,lblych»id. Ar warth gan b 10 dru)?<nt NEUADD DDIRWESTOL ABEBDAB. PRIF ORUCHW YJL.IWR,—SYLVESTER BLEEKER. Un diwrnod yn unig, sef dydd Iau, Ionawr lleg, 1872. DAU ARDDANGOSIAD. Y Prydnawn am 8 o'r gloch, a'r hwyr am 8 o'r gloch. Y drysau yn agored am Ddau a Saith. Er rhoddi cyfleusdra i bawb i weled y personau hvnod aoenwoghyn ar en hymwellad olaf cfn dychwel^drr America, ni fydd y prisoedd ond uwelya 1 r CHWE CHEINIOG YR UN. Blaen-Seddau, Is. Plant (dan 10 oed) i bob rhan o'r Neuadd 6d Y GWIR A'l UNIG GEN. TOM THUMB A'R WRAIG, (Mr. a Mrs. Chas. S. Stratton), COM. NUTT A MISS MINNIE WARREN °i fod ar ymweIlad a Japan, China y Straits. Slam, Ceylon, Awstralia. India, Yr Aifft a'r Oyfandir, a d(Uweddant eu talth olaf o'r byd trwy ymwel el bron a phob dinas a thref yn Mhrydain Faw • ^n™al .hon .yn sicr ydyw eu HYMWKLIAD OLAF bydd iddynt gael yr Anrhydedd o fyned trwy yr un Cs-NLLUN ARDDANOOSIADOL, ag a roddwyd gZidvat^ &en ei MAWRHYDU Y FRENHINES, a'r teuluwdd Brenhtool a Eoneddigion penaf Ewrop, ac hefyd yn Neuadd St. James, yn ystod yr wyth mis y buont yno vn 1866, yn cynwys 'uu OANAU, DEUAWDAF, COMIC ACTS. BURLESQUES a ECCENTRICITIES CHWERTHINGAR. Dymw4dr arfonedd4gesau a phiant i gymeryd mantai ar ur ABDDANGOSIAD PBYDNA WNOL yr hwn roddkr -yn bwrpasol fcZ nafydd iddynt gael ei gan dorf y lw& 32 NL?D Agant. TYSTEB MB. D. WILLIAMS, Agent y British and Foreign School Society dros Gymru. BYDD yn dda gan gyfeillion Mr. Williams j earT y dysteb hon wedi cyrhaedd dros £ 200. Y mae y tanysgrifiadau yn dylifo i mewn yn ddyddiol, ac y mae yn dra thebygol y cyrhaedda i £ 400 neu £ 500. Credwn £ A7* 3?i^ghffar31 F1 ^ilwng o dysteb. Ys dywed Mr. Hugh Owen, Llundam, "Few of the public men of Wales have a stronger claim than Mr. WiUiams to recognition." Ac fel y dywed Mr. Isowstead, ac ma oes gwell awdurdod ef ar addysgiaeth yn yr h<3l wlad, "I do n?t know any man who has deserved so well of the most enlightened inhabitants of the Principal- ity." Nid yw y pwyllgor wedi penderfynu eto pa bryd y cauant v drysorfa; ond byddai yn dda genym os bydd l gyfeilliony mudiad i ddan- fan eu tanysgrifiadau yn ystod mis Ionawr.. B. ELUS, "J D. MORGAN, [ Ysgrifenyddion^ D. BOWEN, ) D.S.—Danfoner pob gohebiaethau a thanvs- grifiadau naill ai i'r Ysgrifenydd Gohebol, Mr. Jeremiah Wilhams, Victoria Road, Llanelly neu irTrysorydd, John Randell, Esq., Vaughan- street, Llanelly. 33 -d R WERTH B dif GwLADGAawR, A N"BWY'DD, yn oyuwyo Oysondeb yr Efengylau, yn nghyd & Map o Wlad Canaan, 12 plyg, Is.; trwy post, Is. 4c. NATIONAL LINE. TJu Steamer* of this IAne are At largett Pattenaw SteamhipiAflo»U SUam from Emrfti to N- Tori every ani Jrem Queem- town every Thturtday. NATIONAL STEAM SHIP COMPANY (LIMITED.) The new full-powered British Iron Screw Steam-ahipg 8ilP»« Tons. Ships. Tons, Brxix, Grogan 493* SHOLAXB, W. H. Thomp- ftni 0race 4000 Eaiw, Lawson" 8310 ITALT, Webster 8700 HILTKU Griggs, S315 HotuunjjJBragg 8580 CANADA. Kemp 2872 rmixoK, Thomson, 8871 VIRGINIA, Sumner S878 f U CIOKUF, Thomas. 8517 OBXXAJUC, Andrews 2850 flU CIOKUF, Thomas. 8517 OBXXAJUC, Andrews 2850 Will be despatched from Liverpool to New York as follows ENGLAND Wednesday, 17th Jan. THE QUEEN Wednesday, 24th Jan. EGYPT Wednesday, Slst Jan. And from Queenatewn the following days. The Saloon accommodation on boari. these Steamers Is unsurpassed, the State-rooms being unusuatly large, and open off the Saloons, which are situated In the poop on deck-the poop being ISO feet long. Rat., of Passage 12 15 & 17 Guineas, snordirig to accommodation in Stateroom.-al1 having same privilege in Saloon. Return Tickets Twenty-Five Guineas. The Steerage accomodation is uneqaalled for space, ligbt, and ventilation. Abundance of Fresh Provisions aerved. up cooked by the Com- pany's Stewards. Rates of passage on Reduced Terms. Passengers boohed through to AspinwaU,—San Francisco,—iht inland towns of Canada and of the United States on favowrabk terms; alto, to Austra- lia, New Zealand, China, and Japan, at low krough rates, via New York and San Franeuco. For Freight or Pacaage, apply to The Nationol Steam Ship Co. (Limited) 21 and 28, Water-street, Liverpool, To N. & J. CUMMINS, & BROS.. Queenstown F. W. OAUNT, 4. WhiSwomba Street, Aber. dare; or to J. T. Morgan, 19, Glebeland Street. Merthyr Tydfil; GEO. A. H. POTTER, & Co., Castle Square, Swansea; JOHN WHEELER, High Street. Brecon; WILLIAM EVANS, Mansel St.. Carmarthen; CHARLES P. OWEN, London Road, Neath; John R. Nicholas, & Co., Biite.Dooks. BARGAINS! BARGAINSI^ImSlsrS! A. FREEDMAN, PiWNBROKER, OUTFITTER, <fcc,, 10, Cannon-Street, Aberdaie T> ESPECTFULLY informs the inhabitants A" of Aberdare and neighbourhood, that owing to their inereswlng patronage, be has en- arged his premfcea tow the cosivenlencu of both branches—Pledging and Sale, ard calls especial attention to his lacge and well-sellected stock of new goods In Mea's, Youth's turf Boy's Pilot and Kerseymere Salt, Moelsklss, Rihs, and Blan- keting goods of every description, Fancy Wool Shirt, &c., which cannot be surpassed in cheepnes, and quality. The utmost money apvanoed on all sort of goods, Wearing Apparel, Watchea, Plate, Bedding and Furniture. A large assortment of Silver Watches, Guards, Gold Wedding Rings, and Keepesa. A private room for fitting. Always a large stock of unredeemed pledges of every dell cription under cost price. A private entrance attached. Weekly payments taken for all goods bought GORUOHWYLWYR TRWYDDEDIG YMFUDIAETH. J. RICHARDS A W. LEWIS, (CYMBY.) (DIWBDDAB DAVID RICHARDS.) Safydledlg era tros ugain mlynedd TY Y CYMRY. 35 Union-Street, ger yr Exchange, LIVERPOOL. PUM' mynyd o lwybro Orsafyr Afon ac c Orsafiu y Rheiiffyrdd, lie y celr Accom- modatioa rha«om 1 ymdrithwyr, ao yn enwedlg ymfad- wrr. gydau bwrfid neu hebeu bwrdd, ar JT amodau mwy. hesymol. Anogir y rhei fyddont am ymfudo i unrhyw bartb di byd, 1 ymholi a'r goruAwylywr uchod cyn gadael cartref, a flhant bob hys^ysrwydd gofynedig gyda golwg ar bris j ordaith, a dyoUUaA «yohwy*lad yr ager-longau a'r hwyl onfau, a'r reUffyrU a'r agerfadan, gyda dychwellad 3 Post, ond ddynt anfon stamp ceiniog yn eu llythyrL*: dress uchod. YSTORPA RAD I'W ROLL GLUD D B.Y mae J. Rio hards wrth dalu dioleh aD: ddlrfawr ewhoMetis a gafodd yn ystod yr ugaln inlymd nohod, a el fod wedi cytuno a Mr. Lewis, j hwn Bydd wsil b*4 am lawer o fiynyddau yn America a ally yn gynawys I rhoddi pob oyfarwyddiadau aaglsr heidlol er rbotfdl yr ymfndwyr ar y ffordd nesaf a cut/ 1 draf&elu » wind boao. Parch. T. Join, Ebesester, Llanddeinioletu John Brana, Eglwys-Bajh, D. Olivw, Llanberis. M. D. Jones, Bala. H. R. ThonMM. Birkenhead. J. Thomas, Liverpool AMERICA. SWYDDFA YMFUDOL GYMREK, M. J A. DE. It 19, Union Street, LiverpooL A DDYMUNA ddatgan ei thelmhin dlolchgar amy gefhogaeth y mae wa4 gad hefyd a ddymuna wneuthur yn hysbys stotf yn parhau 1 fookio gyda'r ager a'r hwyl loi^ America, Australia, &c., am y priaiau Iselaf yn IinML Gellir cael pob hysbysrwydd am y clud-daL MK hwylio, &o., trwy ddanfon Hythyr, Cymraeg nrasMb yn cynwys un stamp, I'r cyfeirlad uchod. Bydd I'r sawl a ewvllyslo le cyfleus 1 drln ymktfra hunain, yn nghvda llettyaeth gysurus am y prisiati ttaf yn Liverpool; hefyd lie 1 gadw y luggage yn chad. Tr ydvm nl, y rhai y mae ein henwau isod, yn dyuio cymeradwyo Mrs. James yn galonog 1 sylw YmftyT, gan gwbl gredu y bydd iddi roddi pob boddlonrwy Fir cyhoedd i—Thomas Price, M.A.,Ph.D., AberdaiW. ThODlM, Liverpool: Bees Evans, eto; A. J. M Liverpool; W. Roberts, Blaenau W. Harris, BMBB. Aberdar: J. G. Owen, Rhyl; J. E. Jones. M.A..B.. Merthyr W. Morgans, D.D., Caergybi E. EvanstoW* ais; D. Price, Blaenyfifos B. James, Ponthent -7. Lloyd, Merthyr: E. Thomas, Casnewydd; J. O Mathetes), Rhymni; ac R. A. Jones, Abertawe.