Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
bod yn-edrych ar fy llith yn y goleu hwnw. Dylent fy adnabocl yn well na hyny. Gan ddymuno llwyddiant mawr i Brynferch yn y dyfodol, gorphwysaf yr eiddoch yn gywir, DEHEUF ARDD. Llanelli, Ion. 8, 1872.
DATGANIAD PWYSIG YR ALWEDIGAETH…
DATGANIAD PWYSIG YR ALWEDIG- AETH FEDDYGOL AR WIRF (AL- COHOL). FoNEDDiGMN,—Mae manifesto bwysig iawn wedi cael ei dynu i fyny yn ddiweddar, a'i arwyddo gan oddeutu tri chant o brif ddys- gedigion yr alwedigaeth feddygol yn y wlad hon, mewn perthynas i ddefnyddiad gwirf mewn gwahanol ffurfiau, ond yn neillduol i ddybenion meddygol. Cynwysa y datganiad enwau George Burrows, M. D., F. R. S. (Llyw- ydd y Royal College of Physicians) George Busk, F.R.S. (Llywydd y Royal College of Surgeons); G. E. Paget, M.D., D.C.L. (Llwydd y Cynghor Cyffredmol ar Addysg Feddygol) Syr Thomas Watson, Barwnig, M. D F R. S.; Syr Henry Holland, Barwnig, M.D.' F.R.S. Syr W. Fergusou, Barwnig, F.R.S.; &c., &c. Amcan y manifesto ydyw cryfhau dwylaw y Llywodraeth mewn un- rhyw ymgais a ddichon iddynt wneuthur i gyfyngu y fasnach mewn diodydd meddwol, & byddaf ddiolchgar am ychydig o'ch gofod fw osod o flaen eich lluosog ddarllenwyr. Mae fel y canlyn "Gan y credir lod gweinyddiad anystyriol dognau helaeth o wlybion alcoholaidd gan feddygon i'w cleifiaid wedi achosi, mewn ll&wer engraifft, ffurfiad yr arferiadoanghym- edroldeb, mae y rhai sydd a'u henwau isod, tm yn analluog i adael defnyddiad gwirf yn nwyr mewn achosion neillduol o glefydau, er hyny o'r farn na ddylai yr un meddyg or- chymyn ei defnyddiad heb deimlad o gyfrif- oldeb dwys. Credant y dylai gwirf gael ei weinyddu yn mhob ffurf gyda chymaint o ofal ag unrhyw gyffyr nertnol arall, ac y dylai y cyfarwyddiadau lOW ddefnyddio gael eu fforfio fel na ddeonglid hwy i gadarnhau gormodedd, neu yn angenrheidiol i'w barhau wedi i'r achlysur am dano fyned heibio. "Maent hefyd o'r farn fod lluaws o bobl yn camsynied yn ddirfawr am werth gwirf fel ymborth, a chan nad oes yr un dosbarth o ddynion yn gweled cymaint o'i effeithiau niweidiol, ac yn meddu cymaint o allu i rwystro ei gamddefnyddiad ag aelodau o'r alwedigaeth feddygol, dywedant fod pob meddyg ymarferol yn rhwym i arfer ei ddy- lanwad helaethaf i ledaenu arferion o gym- edroldeb mawr yn nefnyddiad gwlybyroedd meddwol. Gan eu bod hefyd yn llwyr argyhoedd- edig fod yr arferiad o yfed gwlybyroedd meddwol yn mhlith dosbarthiadau gweithiol y wlad hon yn un o brif ddrygedd y dydd, yn dinystrio-yn fwy nag unrhyw beth arall —iechyd, dedwyddwch, a llwyddiant y dos- barthiadau hyn, ac yn gwrthweithio i fesur eang y llwyuuiant masnachol mawr y mae Rhagluniaeth wedi osod yn nghyrhaedd y deyrnas hon, y byddai i'r rhai sydd a'u henwau isod gefnogi unrhyw ddeddfwriaeth ddoeth a foasai yn tueddu i gyfyngu diodydd meddwol mewn cylch priodol, ac i ddwyn ymarferion sobrwydd yn raddol i arferiad." Mae yn dda genyf weled fod y faculty meddygol yn teimlo y pwysigrwydd ynghyd a'r cyfrifoldeb sydd yn syrthio arnynt wrth archjtoayn defnyddiad gwirf, ac nid oes am- mheuaeth ynwyf na ddeuant yn fuan i'w roddi i fyny bron yn llwyr fel cyflyr medd- ygol, fel y maent wedi gwnend â calomel, a'r arferiad o waedu.—Yr eiddoch yn gywir, JOHN BOWEN, Ysg. "Cymanfa Ddirwestol ac Ataliol .Merthyr. Deheudir Cymru."
UNDEB A'l EFFEITHIAU.
UNDEB A'l EFFEITHIAU. Rhywfodd neu gilydd esgeulusir rhoddi cyhoeddusrwydd i effeithiau daionus yfeddyg- iniaeth werthfawr o Undeb rhwng y dos- barth gweithiol a'u gilydd. Gallaf, yn ddiofn gael fy ngwrth-ddywedyd gan neb, ddweyd yn hyglyw ar gyhoedd byd mai yr unig feddyginiaeth i ni fel dosbarth o lafurwyr ydyw ymuno a'n gilydd yn un corff. Gallaf neb sicrhau, gydweithwyr hoff, fod yr elfenau oeddyginiaethol sydd yn hanfodol angen- heidiol arnom er gwella ein holl gwynion rn clefydau i'w cael mewn undeb a'n gilydd. lallaf eich cyfeirio i Gwmrhondda yn ystod i pythefnos diweddaf am dystiolaethau i tofi yr hyn wyf yn gyfeirio ato, pan y bu 'ndeb yn foddion effeithiol i ddal eu haelodau fyny o dan draed gormes ac annghyfiawn- k. Gwyr llawer o ddarllenwyr y GWLAD- (EWE am yr amgylchiadau heb fyned yn rr bersonol a lleol yn bresenol. ?oddefwch i mi, gydlafurwyr tanddaearol
TYSTEB CARADOG: .——-—
TYSTEB CARADOG: .——-— Barchus Olygydd,—Pa beth yn enw Cwm Aberdar sydd wedi dod o'r penawd uchod ? Gwelais yn un o'ch rhifynau diweddaraf o'r GWLADGARWR rhyw frawd yn gofynrhyw- beth yn nghylch yr uchod o'r blaen, ond nid wyf yn credu fod neb wedi rhoddi un ateb iddo. Ac wele finau eto am gael gwybod, os yn bosibl, pa beth sydd wedi ei wneud a'r dysteb hon, yr hon ddechreuodd mor flodeu- og. Y mae rhai wedi rhoddi yn ol pob tebyg symiau go dda ati, ond nid yw Caradog wedi cael un geiniog o honynt. Hefyd, yr wyi yn credu os oes un dyn wedi bod yn Aberd&r erioed yn teilyngu tysteb, y mae Caradog yn sicr o fod yn sefyll yn y dosbarth uchelaf o ran haeddiant, oherwydd gellir sierhau fod G. R. Jones, wedi gwneud mwy dros ogon- iant canu corawl Aberdar na neb arall y gwn am dano. Y mae'n ddiddadl hefyd ei fod wedi bod yn offeryn i dalu ugeiniau, os nid canoedd o bunau o ddyled capeli Aberdar a'r cylchoedd, towy roddi ei wasanaeth mewn cyngherddau> &c.; ac nid wyf yn meddwl Uai na fvdd y mwyafrif o drigolion Aberdar yn cydwaled a mi yn y fleithiau uchod. Gobeitbio y bydd i'r Cor Undebol ag eraill gymeryd yr ychydig eiriau hyn a'i ystyried. Yn y'blaen a'r dysteb eto yw dymuniad fy nghalon. Rhoddwn yn lion ar bob brya, Barch lie y dylai parch fod; Dfggwn edmygu o hyd, Ddynion rhinweddol o nod. AP CAK.
! ODDIWRTH OHEBYDD L'ERPWL.
ODDIWRTH OHEBYDD L'ERPWL. Mr. Gol.Pan ar daith yn Nghymru nis gallaf lai na lladrata mynyd neu ddwy i ysgrifenu llinell i'r GWLADGARWR. Mae dysgwyliadau mawrion yn hongian uwch ein gwlad fel y mae pawb o'r bron yn pryderu am y dyfodol. Amser terfyniad yr arbitra- tion yn ymyl, gan nad beth fydd y canlyn- iadau er ein bod yn gobeithio y goreu trwy lawer o amheuaeth sydd yn bodoli, a hwnw wedi creu diffyg ymddiried. Mae yn amlwg fod yr arafwch a'r dystawrwydd yn datgan pethau hynod o annymunol, a lied awgrymir fod baw yn y caws. Nid peth newydd fydd gweled rhai yn troi i fradychu y werin, a'r rhai hyny wedi codi du plith. Gelynion penaf dyn ydyw tylwyth ei dy ei hun, a thebyg mai fel hyn y mae gyda'r glowyr ar y pwnc hwn. Cawn weled yn mhen ychydig ddyddiau pa le y try y fantol, a dyogel hyderwn nad yw y gweithwyr i gael eu sarnu gan olwynion y Juggernant arianol. Llawer sydd wedi ei ddweyd yn y cyfeiriad hwn, a gellir dweyd llawer eto heb lwyr wyn- tvllu v mater. Myn rhai ddadleu nad oes gan neb hawl i ddweyd dim ar y pwnc, os na fydd wedi cael ei ethol gan y Cynghor Hengistiaid. Hawliwn y rhagorfraint o siarad ac ysgrifenu, a dadleu dros iawnder, a hawliau y dosbarth gweithiol gan ein bod wedi hanu o'r cyff hwnw; tybiwn nad oes gan neb hawl i'n rhwystro. Bid a fyno, coleddwn y syniad hyd nes caffom ein ar- gyhoeddi gan rhywun heblaw yr ebychwyr hyny a werthant wlad a gorwlad am saig o danteithfwyd estronol. Mae defnyddioldeb glo Cymreig wedi ei brofi tuhwnt i bob amheuaeth, fel ag y gellir dysgwyl y bydd dyfodol y fasnach yn llewyrchus iawn, a gobeithion rhagorol am godiad yn y cyflogau, a chyda hyny adfywiad cyffredinol drwy holl gylchoedd masnachaeth. Llawenydd a gor- foledd i lanw y wlad a'r trigolion un ac oil i fyw uwchlaw angen. Mae y GWLADGARWR wedi dal ei dir yn ffyddlon fel amddiffynydd y gweithiwr, a thebyg fod yr olwg bresenol arno vn dweyd ei fod yn nertholach i gyf- lawnf ei waith. Cawsom dipyn o hwyl yn y wledd flynyddol, y darpariadau yn war deilwng o Mrs. Llwyd j ond am Llwyd, rhaid iddo adael y gogoniant hwn i ddisgyn i ran cydmar ei fywyd, oblegyd i'r merched y perthyna y gogoniantau hyn. Digon yw dweyd fod pob peth yn deilwng o urddas y GWLADGARWB. Buasai yn ddymunol gweled rhagor o'r staff yn bresenol; end dichon os byddwn byw, y cawn gyfarfod yn lluosocach y tro nesaf. Peth arall ddylwn nodi yn eglur yma'n awr y gwyddau gadd eu pesgi ar ffarm y Garreg Fawr. A chofir am Shon Ifan, Gan bawb fu yn y wledd; A dywed pawb yn ddiddan Boed iddo fythol hedd. Twrf mawr y tu arall i'r Werydd, dinas Efrog N ewydd wedi ei chyflroi gan yr am- gylchiad o lofruddio James Fisk, Ysw. Mae yr enw yn hysbys trwy yr holl fyd, ac ad- nabyddid ef fel Brenin yr Aur yn y gorllewin. Cawn y manylion yn fuan gyda'r agerlongau nesaf. Bydd yr amgylchiad yn debyg o greu pa/tiic yn marchnad yr arian. Dichon y bydd yn llawenydd gan lenorion y De ddeall y bydd yr Eisteddfod nesaf yn Mountain Ash yn un Gadeiriol. Daw y testynau allan yn mhen tua mis neu ddau, yn ddigon amserol i'r Beirdd dynu am danynt. Bydd- wch wych, yr eiddoch,-CYMRO (JWYLLT.
"GWALCH" A'l GYHUDDWYR.
"GWALCH" A'l GYHUDDWYR. Mn. GoL.,—Sibrydai cyfaill o gyffiniau Merthyr wrthyf y dydd o'r blaen fod rhyw si yn mhlith y dosbarth gweithiol fy mod j, to ddiwedd y strike annymunol ddiweddar, wedi myned yn fath o arweinydd neu yaffer ar yr estroniaid digymeriad hyny fu yn bla, yn felldith, ac yn rheg yn yr ardal ond gaUaf arfer y wieddi hono yn winoneddol a dira -th-c I Gwared fi Arglwydd daionlis. Nid oos yr ammheuaeth leiaf nad rhyw bersonau neilldjuol tua chymydogaeth Dow- Jais, &c., a gyflawnasant droseddau personol yn tfbyA yr awdurdodau pan yma, øydd-o genfigen a malais am na chawwnt hwy ddychwelyd pan gychwynwyd gweithio—yn ceisio dwbio a phardduo cymeriadau eraill, am na buasid yn sefyll allan i rwrmo y meistrii'w-cymeTyd'hwy'yia ol. Onid iawn y dywedodd yr anfarwol Gor- onwy:— Fod gwiddon annhirionach, Ei phenbryd cyn y byd bach." Hi ni wna dda ddera ddall, Ni erys a wna arall. A'n llwydd yn ei hâflwydd hi." Digoned a fyno wybod, na fu llaw genyf yn nhrafodaeth y gethern grybwylledig- dychwelais yn ol i'r un ysmotyn ag a adewais, a'r unig wahaniaeth sydd fy mod yn gweithio gyda bachgenyn bychan o'r eiddof, yn lle yr hen gyfaill D. Morris. Gofaled y bodach hyn sydd yn euog o daenu chwedlau anwireddus a chelwyddog, rhag i'r cyfiyw droi yn y diwedd i wermod- eiddio gwaddodion ein cwpanau oblegyd dywed awdurdod uchel, Cenfigen a ladd ei pherchenÖg." Y r eiddoch, &c., JOHN JONES, (Gwalch.)
EISTEDDFODAETH.
EISTEDDFODAETH. Mr. Gol.-Y mae y llanw Eisteddfodol yn parhau i chwyddo i fyny; y fath high tide a fu tua'r Nadolig yma drwy bob parth o'r wlad, a gellir dysgwyl spring tide eto tua'r Groglith. Bydd yn rhai o honynt gryn lawer o amrywiaeth, mewn eraill lawer o unrhywiaeth. Un Eisteddfod yn ganu i gyd, arall yn farddoni braidd i gyd, ereill wedi gofalu am roi ychydig o le i bob cangen o lenyddiaeth. Y draethodol, farddonol, gerddorol, adroddiadol, ac araethyddol. Diamau y dylid rhoddi lie i bob dosbarth ddyfod i'r golwg, hyny yw, cyn belled ag y byddo yn ddichonadwy. Y mae yn wir fod amgylchiadau weithiau yn rhwystro i bob cangen gael ei chynrychioli yn deg; ac y mae mor wir a hyny nad bob amser y gofalir am degwch i'r gwahanol alluoedd ymddad- blygu. Rhaid i'r bardd a'r traethodwr, yr areithiwr a'r adroddwr, roi y goreu i'r cerddor y dyddiau hyn. Y mae llawer mwy o gynydd wedi cymeryd lie mewn cerddor- iaeth yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf nag sydd mewn un gangen arall o lenydd- iaeth Gymreig. Y lluaws mawr o gyfansodd- iadau cerddorol, yn neillduol canigau, wedi eu cyhoeddi yn Nghymru yn ddiweddar; ac heblaw hyny mae y cantorion wedi ymgyd- nabyddu i raddau helaeth a gweithiau yr hen feistriaid drwy gystadleuon eisteddfodol, &c. Nid oes dadl na chyrhaeddir amcan da drwy y cyfryw weithredoedd. Rhagorant lawer ar eu brodyr y beirdd yn y cyfeiriad hwn. Nid ydys yn amheu nad oes llawer o gyfan- soddiadau teilwng wedi eu cyhoeddi o eiddo beirdd yn ddiweddar, ond y mae y gangen adroddiadol yn cael eu hesgeuluso-nid yw yn cael haner y sylw dyladwy. Cynygia y cerddorion wobrau teilwng am ddadganu Unodau a. Chydganau y prif gerddorion, a thrwy hyny y maent yn eu hargraffu ar y cof, a gadewir dylanwad llesiol ar y sawl fyddant yn eu canu, yn gystal a'r rhai eraill a fyddant yn gwrandaw. Paham, yn enw pob rheswm, na chynygir gwobrau teilwng felly am adrodd darnau o eiddo ein prif- feirdd! Byddid drwy hyny yn sicr o goethi a dyrchafu chwaeth y beirdd ieuainc, a chaffai eraill ddylanwad ac adeiladaeth wrth wrando y cyfryw yn cael eu hadrodd. Medd- ylied pwyllgorau am hyn yn y dyfodol. Detholir darluniau (pictures) allan o rai o Awdlau y prif-feirdd a gwneler prawf ar y cynllun. Peidier a gadael i bob adroddydd ddewis ei ddarn, neu bydd yn anhawdd i feirniad gyflawni ei swydd gyda boddlon- rwydd. Y mae yn wir fod y Gordofigion yn L'erpwl wedi gadael i bob bardd ddewis ei destyn a'i fesur; eithr y mae yn nesaf peth i anmhosibilrwydd allu beirniadu yn ol y drefn hono. Diamau i feirniaid Eisteddfod y Gordofigion gael llawer o drafferth yn nghanol y fath dryblith a fu o'u blaenau yno. Yr oedd yn dda iawn gan yr ysgrifenydd ddeall mai un o feirdd yr "Hen Ddosbarth" a gadeiriwyd yno. Peidier byth ond hyny a dewis y ffordd yna i gystadlu. Rhodder dau destyn-un i'r Awdl, a'r llall i'r Bryddest. Yr oedd sylwadau "Hen Feirniad" yn un o bapyrau Cymru yn ddiweddar, yn synwyr- 01 a phriodol ar y pwnc, a diameu ei fod yn ysgrifenu oddiar brofiad o'r anhawsder a deimlodd wrth weinyddu y swydd feimiadol o dan yr amgylchiadau soniedig. Yr eiddoch, GWILYM ELIAN.
T. M. AC EISTEDDFOD Y BOYS'…
T. M. AC EISTEDDFOD Y BOYS' SCHOOLROOM, CWMAFON. Y mae Thomas Morgan, Cwmafon, Tre- fforest, Pontypridd, Cumberland, a Maesteg wedi hyny, ond Cwmafon yn bresenol, wedi dyweyd anwireddau noeth ar dudalenau y GWLADGABWB diweddaf mewn cysylltiad a'r englyn i'r "Meddwyn," am yr hwn y der- byniodd y wobr yn hollol groes i reolau yr Eisteddfod. Dywed ;yn y lie cyntaf-" yr oedd Enis Ddu yn bresenol yn yr Eisteddfod grybwylledig ond gorfu iddo fyned allan oyn beirniadaeth yr englyn gan anhwyldeb corfforol. Y mae dweyd fod Enis Ddu yn bresenol yn yr Eisteddfod yn anwiredd nooth o eiddo T.M., ac yn anwiredd ag y gellir ei brofi unrhyw ddydd. Dywed T. M. yn mhell- ach-" dywedodd wrthyf ei fod yn cystadlu ar yr englyn i'r 'Meddwyn,' a chan ei fod yn gorfod myned allan,. ceisiodd genyf ateb i'w ffugenw os byddai yn fuddugol." Yr oedd gan bwyllgor yr Eisteddfod ormod o barch i Enis Ddu, ac y mae eto hefyd, fel nad oedd achoa iddo roddi ei eiddo i T.M. am ei iod yn gorfod myned allan oherwydd anhwylderau corfforol, gan feddwl fod y pwyllgor am atal ei wobr. Nid ydym erioed wedi meddwl fod T.M. wedi lladratta yr englyn, ond ei fod wedi ei gael fel Christmas box gan ei awdwr; gan hyny, nid ydym yn ei ystyried yn lleidr hollol, ond ei fod wedi tynu gwarth ar yr Eisteddfod, ac wedi derbyn arian anghyfiawn, sef derbyn tal am beth oedd wedi ei gyhoeddi o'r blaen, a derbyn tal am gynyrch arall. Y mae T.M. yn niw- edd ei lythyr yn cyhoedd, "yn ngwyneb haul llygad goleuni," mai Enis Ddu yw awdwr yr englyn ary Meddwyn," ondiddo ef dderbyn y wobr anrhydeddus, sef swllt a, chwech cheiniog. Y fath swm synfawr Wrth derfynu, T.M., er nad yw y swm ond bychan, yr ydym ar gais y pwyllgor yn dysgwyl i chwi ei ddychwelyd. Y mae an- rhydedd yr Eisteddfod yn ein golwg, a bydd i ni yn ein Heisteddfod ddyfodol roddi gwobr- eto am englyn i'r Meddwyn," er mwyn i chwi gael cyiieusdra i gystadlu. Cofiwch, T.M., mai un o anhebgorion llwyddiant yw gonestrwydd, gan hyny, gyfaill, bydded i chwi wneud felly.—Yr eiddoch ar gais y pwyllgor, T. M. REES, Trysorydd. B. A. GRIFFITHS, Ysgrifenydd.
AT BWYLLGOR GWYL FAWR GERDDOROL…
AT BWYLLGOR GWYL FAWR GERDD- OROL ABERTAWE. FONEDDIGION,-A fyddai yn ormod hyfrdra ynwyf i ofyn i chwi am nowid ychydig ar wobr corau yr ail ddosbarth yn eich Eisteddfod, sef ei newid o 98 i jElO. Credwyf na fyddwch ar eich colled drwy hyny. Y mae amryw gorau yn parotoi ar gyfer y wobr hon, tra y mae y gwahaniaeth sydd rhyngddi a'r cyntaf yn ormod. Nid oes amheuaeth bellach na fydd hon yn un o'r Eisteddfodau mwyaf poblogaidd a gynaliwyd eto yn Abertawe. Yn wir y mae sefyllfa ganolog Abertawe, y neuadd ardderchog sydd yno, ac atdyniadau eraill y dref, yn sicrhau eistedd* fod dda bob amser. UN o GORAU YR AIL DDOSBABTH.
AWGRYMIADAU ER LLWYDDIANT.
AWGRYMIADAU ER LLWYDDIANT. GWAITH.-Llafur caled ydyw dirgelwch llwyddiant. Newyn a noethni sy'n dilyn diogi. Mer y penelin sydd yn gwneud aur. Dim chwys, dim melus. Yr hwn a fyno wyau brain, rhaid iddo ddringo i fyny y pren. Rhaid i bob un adeiladu ei gynysgaeth ei hun yn y dyddiau rhain. Llewys wedi eu torchisydd yn arwain i'r brethynlly dan goreu, a'r hwn nid yw cywilydd ganddo wisgo'r arffedog, yn fuan fydd alluog i wneud hebddi. PEIDIWCH A BRYSIO. — Credwch mewn teithio o gam i gam; peidiwch a dysgwyl myned yn gyfoethog ar un naid. Araf a. sicr sydd well na brys na disylwedd. Dyfal- barhad gydag enill dyddiol a gyfoethoga ddyn yn llawer gwell na ffitiau rhuthrog gyda gol- ygiad hapus. Pysgod bychain sydd felus. Y mae un edafedd bob dydd yn gwneud hano mewn blwyddyn. Careg ar gareg sydd yn adeiladu tai. Rhaid ydyw cripian cyn cerdded, cerdded cyn rhedeg, a rhedeg cyn marchogaeth. Wrth ymgyfoethogi, mwyaf i gyd y brys, gwaethaf y rhwystr. Y ffwd- anllyd a ddymchwel ei sawdl ei hun. Peid- iwch a rhoddi galwedigaeth fechan i fyny hyd nes y gwelwch y bydd i un fwy dalu yn well. Hyd yn nod y briwsion sydd fara. Gwell yw ychydig ddodrefn mewn ty na'! fod yn wag. Yn yr amser caled presenol, yr hwn all eistedd ar gareg a diwallu ei hun, gwell ydyw iddo beidio a symud. Gwelliant gwael ydyw myned o ddrwg i waeth. Caled ydyw ymborthi ar grystiau, ond caletach yw bod heb ddim. Peidiwch a neidio o'r badell ffrio i'r tan. Cofiwch fod llawer o bobl wedi gwneud yn dda mewn ystordai bychain. Masnach fechan gydag enill sydd well na gorchwyl mawr a cholled. Gwell yw'r tan bach sydd yn eich cynesu na'r tan mawr sydd yn eich llosgi. Y mae yn bosibl cael llawer o ddwfr trwy bibell fach os bydd llestr yno bob amser i'w ddal. Y mae yn bosibl i ys- gyfarnogod mawrion gael eu dal mewn coed- wig fach. Gall defaid besgi mewn dol fechan, a newynu mewn dyffryn mawr. Y neb sydd yn ymgymeryd a gormodedd a lwydda ond. ychydig. Dau ystordy sydd debyg i ddwy ystol, syrth dyn i'r llawr rhyngddynt. Gell- wch rwygo cwd wrth geisio ei lenwi yn rhy lawn, ac andwyo eich hunain wrth grafangu gormodedd. BYDDWCH SYNWYROL. —Na fyddwch uwch- law eich galwedigaeth. Yr hwn sydd yn codi ei ffroen ar ei waith ei hun sydd yn cweryla a'i fara ac ymenyn. Gof gwael yw yr hwn sydd yn ofni ei wreichion ei hun. Y mae peth anghysur yn mhob galwedigaeth ond glanhau simniau. Os rhydd y morwyr i fyny fyned i'r mor o herwydd y dymestl; os rhydd y pobyddion i fyny grasu am ei fod yn waith poeth; os yr aradrwyr a beidiant aredig o herwydd ei bod yn oer, a'r teilwriaid beidio gwneud dillad rhag pigo eu bysedd, y fath gyflwry deuem iddo. Ynfyd- rwydd, gyfeillion; nid oes dim cywilydd yn perthyn i alwedigaeth onest. Peidiwch ofni dwyno eich dwylaw, canys y mae digon o- sebon i'w gael. Y mae pob masnach yn dda i fasnachwyr da. Y mae lucifer matches ym talu yn dda os gellwch werthu digon 0- honynt. Ni ellwch gael mel os byddwch yn ofni y gwenyn, na hau fd os byddwch yn ofni gael llaid ar eich hesgidiau. Pan y bydd barau o haiarn yn toddi dan effaith y deheix wynt, pan y gellwch balu y bryniau gydag offeryn pigo danedd, chwythu llongau yn. mlaen gyda gwyntyll tan, gwrteithio'r cnwd â. dwfr peraidd (lavender water), a thyfu teisenau eurinmewn llestr blodau, dynapryd y byddamser hyfrydiddandlod (dandis) ond hyd nes gwawria y mil blynyddoedd fe gaiff pawb o horiom lawer o bethau i roi i fyn., » hwynt, a gwell goddef ein beichiau presenol na rhedeg yn bendramwnwgl i le y deuwn o hyd i bethau lawer gwaeth.