Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BWRDD IECH YD ABERDAR. i

News
Cite
Share

BWRDD IECH YD ABERDAR. i Cynaliwyd cyfarfod pymthegnosol y Bwrdd ] hwn ddydd lau diweddaf, prvd yr oedd yn i bresenol R. H. Rhys, Ysw., Cadeirydd; Mri. 7 D. Davis, H. Kirkhouse, T. Burn, T. Davies, ■ J. Lewis, W. Davies, T. Pugh, a'r Parchedigion C Dr. Price ac M. Phillips. J Y weithred gyntaf oedd trosglwyddiad lease: swyddfaau y Bwrdd gan y Clerk, gan awgrymu ar yr un adeg y priodoldeb o bwrcasu cist haiarn i'r dyben o gadw y weithred hon, yn nghyda pbapyrau ereill perthynol i'r Bwrdd. Cyfeiriodd hefyd at adraa. yn y leate sydd yn dal y Bwrdd yn gyfrifol mewn achosion o golled trwy dan. Awgrymwyd y priodoldeb o ivsnrio yr adeilad am £12,000. Gorbobkgaeth.—Rhoddodd y Cadeirydd ry- bydd y byddai iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg ar fod y Bwrdd yn mabwysiadu cyfreithiau cyffelyb i'r rhai sydd mewn grym yn Mountain Ash mewn cysylltiad a gorboblogi lletydai. Y Mynedfaoedd i Gadlys-st a Morgan-st, Sc. —DarHenwyd y llythyr canlynol oddiwrth Mr. Rhys Etna Jones, a chyflwynodd Mr Pugh hefyd ddeiseb wedi ei llawcoii gan berchen- o^ion tii yn Gadlys Street, yn deisyf ar gwm- m y Gadlys i brynu y ty sydd ar y fynedfa, a'i dynu i lawr, er ffurfio mynedfa briodol i'r heol. Y llythyr:- U Aherdare, Oct. 6, 1870. cCTo the Chairman of the Aberdare Board of Health.— Sir, —I am given to understand that Air- Pugh, at the last meeting of the Board, when proposing to take down the house, No. 52. Gadlys Road, was accused by one of the members of being a special pleader for me, and that he was bringing forward my schemes. This being an error, 1. deem it my duty to contradict it. I have never spoken to Mr. Pugh about the house. I need no advocater. At present I have no interest in the said house; when I had, I appeared before the Board personally, and should I at any future time havf any claims to make, I am prepared to appear personally again Yours, &c., Rhys ETNA JoSes. Twlcod Moch.-Gwnaeth person o'r enw Mrs Emmanuel, o Little Wind Street, yr hon a orfodwyd i werthu ei moch, gais at y Bwrdd am ganiatad i gadw un mochyn. Sylwodd Mr. Pugh ei fod ef yn ei ystyried yn gryn galedi fod y Bwrdd yn gorfodi dynion tlodion i beidio cadw mochyn, y rhai a fwr- iadant eu pesgu i'r dyben o gael ychydig o gig dros y gauaf; fod y tywydd cynes bellach drosodd, ac nas gallai y perygl fod yn fawr. Gais am fwy o Lampau.- Ymwelwyd a'r Bwrdd gan gynrychiolaeth o Davies Street, Aberaman, yn gofyn am gael lamp neu ddwy yn ychwaneg yn yr heol hono, a gofynai Mr. Kirkhouse hefyd am gael un yn agos i'r gladd- fa. Wedi ychydig ymddyddan ar y pwnc, penderfynwyd fod y Clerk i ohebu a chwmni y reilffordd o barthed i gael lamp ar y croaing yn ymyl y gladdfa. Heol Aburnant.—Pwnc arall fu dan sylw y Bwrdd oedd pwnc yr heol uchod, yr hon yn awr ydyw yr heol waethaf yn y plwyf. Bernid y coatiai y ffordd nawydd ryw £ 1,500, haner pa swm y dysgwylid i Gwmni Abemant ei dalu. Apwyutiwyd ar gynrychiolaeth i ym- weled a Mr. Fothergill ar y pwnc. Gynygiad Mr Pugh.—Swm y cynygiad oedd, fod y swyddogion a fu yn cymeryd rhan yn etholiad a-elodau am 1869, i'w galw i ddy- chwelyd 36p., sef y swm a dalwyd yn fwy na thraul yr etholiad eleni. Ni chafodd ei gynygiad ei eilio gan neb, ac felly syrthiodd i'r llawr.

[No title]

EISTEDDFOD SCIWEN.

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNIBYNWYR.

[No title]

[No title]